Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Beth sy'n digwydd ar ôl i enwebiadau gau?

Bydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn cyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd ar gyfer ardal yr heddlu  erbyn 4pm, 18 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.  1

Yna, bydd yn rhoi copi i bob Swyddog Canlyniadau Lleol yn ardal yr heddlu, a fydd yn cyhoeddi'r datganiad yn lleol. 

Bydd y datganiad yn cynnwys: 2

  • enw llawn neu enw a ddefnyddir yn gyffredin ar gyfer pob ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys
  • enwau ymgeiswyr nad ydynt wedi'u henwebu mwyach, os oes rhai (h.y. ymgeiswyr annilys sydd wedi tynnu'n ôl a'r rhai sydd wedi marw), gan nodi'r rheswm pam nad ydynt yn sefyll mwyach
  • cyfeiriad cartref pob ymgeisydd, neu os yw wedi gofyn am i'w gyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi, y geiriau Cyfeiriad yn Ardal Heddlu [rhowch enw ardal yr heddlu]
  • disgrifiad pob ymgeisydd (os o gwbl)
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Chwefror 2024