Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cyflwyno eich papurau enwebu

Chi sy'n gyfrifol am sicrhau bod eich papurau enwebu, gan gynnwys y ffurflen cydsynio ag enwebiad a'r ffurflen cyfeiriad cartref, a lle rydych yn sefyll ar ran plaid, y dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun os yw'n ofynnol, gael eu cyflwyno i'r man a nodwyd ar yr hysbysiad etholiad erbyn 4pm, 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad. 1

Pwy all gyflwyno'r papurau enwebu?

Dim ond nifer cyfyngedig o bobl a gaiff gyflwyno eich ffurflen enwebu a'ch ffurflen cyfeiriad cartref, sef:  
sef: 

  • chi
  • eich asiant etholiad (ar yr amod eich bod wedi rhoi hysbysiad penodi i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu neu fod yr hysbysiad yn cael ei gyflwyno gyda'r ffurflenni)
  • y cynigydd neu'r eilydd fel y mae'n ymddangos ar y ffurflen enwebu

Ni chyfyngir ar bwy all gyflwyno'ch ffurflen cydsynio ag enwebiad, eich tystysgrif awdurdodi na'ch ffurflen gwneud cais am arwyddlun, ond dylech sicrhau eich bod chi, eich asiant neu rywun rydych yn ymddiried ynddo yn gwneud hyn, fel y gallwch fod yn siŵr y cânt eu cyflwyno i Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu ar amser. 2
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 29 Tachwedd 2023