Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Beth mae'r pecyn pleidleisio drwy'r post yn ei gynnwys?

Mae pecynnau pleidleisio drwy'r post gynnwys y canlynol:

  • Amlen A yw'r amlen y mae'r etholwr yn dychwelyd ei bapur pleidleisio ynddi. Fe'i nodir â'r llythyren 'A' a'r geiriau 'amlen papur pleidleisio'
  • Amlen B - hon yw'r amlen y bydd yr etholwr yn ei defnyddio i ddychwelyd amlen y papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post. Fe'i nodir â'r llythyren 'B' a chyfeiriad y Swyddog Canlyniadau Lleol
  • Mae'r datganiad pleidleisio drwy'r post yn cynnwys enw'r etholwr, rhif y papur pleidleisio a anfonwyd ato, cyfarwyddiadau ar sut i bleidleisio drwy'r post a lle i'r etholwr lofnodi a nodi ei ddyddiad geni
  • Y papur pleidleisio

Os yw’r etholiad yn cael ei gyfuno â phleidlais arall, efallai y bydd y Swyddog Canlyniadau wedi penderfynu cyfuno’r gwaith o anfon pleidleisiau post.

Os felly, bydd y pecyn pleidleisio drwy'r post hefyd yn cynnwys y papur pleidleisio ar gyfer y digwyddiad(au) etholiadol eraill.

Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Ebrill 2024