Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Camau'r broses o agor amlenni pleidleisiau post

Gellir crynhoi camau'r broses o agor amlenni pleidleisiau post fel a ganlyn:

CamProses
1Caiff pleidleisiau post eu cludo i'r sesiwn agor mewn blychau pleidleisio
2Tynnir y prif amlenni (amlen B) allan a'u cyfrif
3Cofnodir cyfanswm nifer y prif amlenni
4Rhennir prif amlenni (amlen B) rhwng timau o staff agor
5Bydd staff yn agor pob prif amlen (amlen B) ac yn tynnu'r datganiad pleidleisio drwy'r post ac amlen y papur pleidleisio wedi'i selio (amlen A) allan
6Bydd y staff yn cadarnhau bod rhif y datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r rhif ar amlen A
7Os bydd y rhifau'n cyfateb, bydd y staff yn cadarnhau bod yr etholwr wedi darparu llofnod a dyddiad geni (heb gadarnhau mai rhai'r etholwr ydynt ar y cam hwn)

Bydd datganiadau pleidleisio drwy'r post heb lofnod a dyddiad geni yn peri i'r bleidlais bost gael ei gwrthod
8Os bydd y datganiad neu amlen y papur pleidleisio ar goll, neu os na fydd y rhifau ar y datganiad ac amlen y papur pleidleisio yn cyfateb, caiff y ddogfen neu ddogfennau eu rhoi o'r neilltu, eu recordio a'u storio'n ddiogel mewn pecynnau
9Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol gadarnhau'r dyddiadau geni a'r llofnodion a ddarparwyd ar y datganiadau
10Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau Lleol fod yn fodlon bod y dyddiadau geni a'r llofnodion ar y datganiadau yn cyfateb i'r rhai a ddarparwyd ac y cedwir cofnod ohonynt
11Ar ôl cadarnhau'r llofnodion a'r dyddiadau geni, caiff datganiadau pleidleisio drwy'r post eu symud o'r byrddau
12Bydd y staff yn agor amlenni'r papurau pleidleisio (amlen A) ac yn tynnu'r papurau pleidleisio allan
13Bydd y staff yn cadarnhau bod y rhif ar gefn y papur pleidleisio yn cyfateb i'r rhif ar amlen y papur pleidleisio (amlen A)
14Caiff y papurau pleidleisio dilys (nid y pleidleisiau) eu cyfrif a chaiff y cyfanswm ei gofnodi
15Rhoddir pob papur pleidleisio dilys yn y blychau pleidleisio a'u storio'n ddiogel cyn eu dosbarthu i leoliad y cyfrif er mwyn eu cyfrif ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio
  

Paru datganiadau pleidleisio drwy'r post â phapurau pleidleisio drwy'r post

Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn cadw rhestrau o unrhyw bapurau pleidleisio1  drwy'r post a wrthodwyd dros dro, sef:

•    unrhyw bapur pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post 
•    unrhyw ddatganiad pleidleisio drwy'r post na chaiff ei ddychwelyd gyda'r papur pleidleisio

Bydd y Swyddog Canlyniadau Lleol yn gwirio'r rhestrau hyn yn rheolaidd er mwyn sicrhau os bydd modd paru unrhyw ddogfennau nad ydynt yn cyfateb, bod y pleidleisiau post hynny'n cael eu hailgyflwyno i'r broses.

 

Diweddarwyd ddiwethaf: 1 Rhagfyr 2023