Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Rhoddion a roddir ar ran eraill

Os rhoddir rhodd ar ran rhywun arall, rhaid i'r person sy'n rhoi'r rhodd i chi ddweud wrthych:

  • bod y rhodd ar ran rhywun arall
  • manylion y rhoddwr gwirioneddol 1

Un enghraifft o hyn yw lle mae trefnydd digwyddiad yn trosglwyddo'r enillion o ginio a gynhaliwyd yn benodol i godi arian ar ran eich ymgyrch.

Os oes gennych reswm dros gredu y gallai rhywun fod wedi gwneud rhodd ar ran rhywun arall ond nad yw wedi dweud wrthych, rhaid i chi ganfod y ffeithiau fel y gallwch wneud y gwiriadau priodol.

Os nad ydych yn siŵr pwy yw'r rhoddwr gwirioneddol, dylech gofnodi'r rhodd a'i dychwelyd.

Ceir canllawiau ar sut i ddychwelyd rhodd yn Sut rydych yn dychwelyd rhodd?
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 8 Gorffennaf 2024