Canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Cymwysterau

Er mwyn gallu sefyll fel ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu yng Nghymru a Lloegr (ac eithrio ardaloedd yn Lloegr lle mae maer awdurdod [sir] cyfun yn ymgymryd â swyddogaethau heddlu a throseddu) a Chymru, rhaid i chi fod:1  

  • yn 18 oed o leiaf ar ddiwrnod eich enwebiad
  • yn ddinesydd Prydeinig, dinesydd cymwys o'r Gymanwlad, dinesydd cymwys yr UE cymwys, yn ddinesydd yr UE sydd â hawliau a gedwir3
  • wedi eich cofrestru fel etholwr llywodraeth leol mewn ardal cyngor lleol sydd o fewn ardal yr heddlu lle rydych am sefyll fel ymgeisydd, ar adeg eich enwebiad ac ar y diwrnod pleidleisio.
Ystyr dinesydd cymwys o'r Gymanwlad

Mae dinesydd cymwys o’r Gymanwlad yn ddinesydd o’r Gymanwlad sydd naill ai:

  • ddim angen caniatâd arno i ddod i mewn i'r Deyrnas Unedig neu i aros yno, neu
  • sydd â chaniatâd penagored i aros yn y Deyrnas Unedig
Ystyr dinasyddion cymwys yr UE

Mae dinesydd cymwys yr UE yn ddinesydd gwlad: 

  • sydd â chytundeb Hawliau Pleidleisio ac Ymgeisyddiaeth (VCR) gyda'r DU 
  • sydd yn preswylio yn y DU 
  • sydd ag unrhyw fath o ganiatâd i aros, neu nad oes angen caniatâd o’r fath arno.

Ar hyn o bryd mae gan y DU gytundebau dwyochrog â’r gwledydd canlynol:

Denmarc
Lwcsembwrg
Gwlad Pwyl
Portiwgal
Sbaen
Ystyr dinasyddion yr UE sydd â hawliau a gedwir

Mae gan ddinesydd yr UE hawliau a gedwir os: 

  • yw’n ddinesydd gwlad nad oes ganddi gytundeb Hawliau Pleidleisio ac Ymgeisyddiaeth (VCR) â'r DU 
  • ac mae wedi bod yn preswylio’n gyfreithiol yn y DU ers cyn i’r DU adael yr UE ar 31/12/2020 (Dyddiad Cwblhau’r Cyfnod Gweithredu – IPCD)

Aelod-wladwriaethau’r Undeb Ewropeaidd nad oes ganddynt gytundeb Hawliau Pleidleisio ac Ymgeisyddiaeth dwyochrog â’r DU ar hyn o bryd ac nad ydynt yn wledydd y Gymanwlad yw:
 

Yr Almaen Yr Iseldiroedd 
AwstriaHwngari
Gwlad Belg Latfia 
BwlgariaLithwania
Croatia   Rwmania
Yr EidalSlofacia
EstoniaSlofenia
Y Ffindir Sweden
FfraincGweriniaeth Tsiec
Gwlad Groeg 


   
  
  
   

    
 
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 7 Tachwedd 2024