Ar wahân i fodloni'r amodau cymhwyso ar gyfer sefyll etholiad, rhaid i chi sicrhau hefyd nad ydych wedi eich anghymhwyso.
Mae'r ystod lawn o anghymwysiadau yn gymhleth ac os oes unrhyw amheuaeth gennych ynghylch p'un a ydych wedi eich anghymhwyso, rhaid i chi wneud popeth o fewn eich gallu i gadarnhau nad ydych wedi eich anghymhwyso cyn cyflwyno eich papurau enwebu.
Rhaid i chi sicrhau nad ydych wedi eich anghymhwyso oherwydd gofynnir i chi lofnodi un o'r papurau enwebu sy'n ofynnol er mwyn cadarnhau nad ydych wedi eich anghymhwyso.
Mae'n drosedd gwneud datganiad ffug ar eich papurau enwebu o'ch cymhwyster ar gyfer cael eich ethol, felly os oes unrhyw amheuaeth gennych, dylech gysylltu â'ch cyflogwr, ymgynghori â'r ddeddfwrfa neu, os oes angen, ceisio eich cyngor cyfreithiol annibynnol eich hun.
Ni fydd Swyddog Canlyniadau Ardal yr Heddlu yn gallu cadarnhau a ydych wedi eich anghymhwyso ai peidio.
Bydd y rhan fwyaf o anghymwysiadau yn gymwys ar y diwrnod y cewch eich enwebu ac ar y diwrnod pleidleisio, ond bydd rhai ond yn gymwys pan fyddwch yn ymgymryd â'r swydd.