Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Dechrau amserlen yr etholiad

Mae'r adran hon o'r canllawiau yn egluro'r camau gweithredu statudol y mae'n rhaid eu cymryd er mwyn galluogi i amserlen yr etholiad ddechrau'n swyddogol.

Mae hyn yn cynnwys:

  • y broses ar gyfer cyflwyno a derbyn y gwrit 
  • y broses ddilynol o gyhoeddi'r hysbysiad etholiad  
  • y gofyniad i ddosbarthu cardiau pleidleisio cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad

Rydym wedi cyhoeddi amserlen nad yw'n cynnwys dyddiadau penodol ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac is-etholiadau:

Bydd amserlen sy’n cynnwys dyddiadau penodol ar gael ar ein gwefan pan fydd etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU yn cael ei gyhoeddi.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Tachwedd 2024