Rhaid i chi gyhoeddi'r hysbysiad etholiad ar gyfer yr etholaeth erbyn 4pm fan bellaf ar yr ail ddiwrnod gwaith yn dilyn derbyn y gwrit. Gall yr hysbysiad etholiad gael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod ag y derbynnir y gwrit a dylai gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n ymarferol fel bod cymaint o amser â phosibl ar gyfer enwebiadau.1
ble a phryd y gellir cyflwyno'r papurau enwebu, a ble y gellir cael gafael ar bapurau enwebu
dyddiad y bleidlais os caiff yr etholiad ei ymladd
os byddwch wedi penderfynu derbyn taliadau electronig, y trefniadau ar gyfer talu ernesau yn electronig
y dyddiad y mae'n rhaid i'r ceisiadau ar gyfer pleidleisiau absennol (yn cynnwys pleidleisiau argyfwng drwy ddirprwy) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn iddynt fod yn weithredol ar gyfer yr etholiad.
Dylai'r hysbysiad etholiad hefyd nodi erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i geisiadau i gofrestru a'r Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfennau Etholwr Dienw gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn iddynt fod yn weithredol ar gyfer yr etholiad.
Dylai'r cyfeiriad a roddir ar gyfer cyflwyno papurau enwebu fod yn union gywir, a dylai gynnwys unrhyw rif ystafell. Bydd hyn yn osgoi unrhyw amheuaeth os caiff enwebiadau eu cyflwyno'n agos at y terfyn amser. Dylech hysbysu pob aelod o staff derbynfa ymhob swyddfa yn yr adeilad ac adeiladau cysylltiedig eraill na ddylent dderbyn papurau enwebu.
Rydym wedi datblygu templed o hysbysiad etholiad y gallwch ei ddefnyddio: