Mae'r rhan hon o'r canllawiau yn canolbwyntio ar y paratoadau y bydd angen i chi eu gwneud cyn y diwrnod pleidleisio a rhai o'r materion y gall fod angen i chi, fel Swyddog Canlyniadau, eu hystyried ar y diwrnod.
Mae'n cwmpasu pa gyfarpar a deunyddiau y bydd angen i chi eu darparu ar gyfer gorsafoedd pleidleisio, gwybodaeth am drefnu gorsafoedd pleidleisio a rheoli diwedd y cyfnod pleidleisio.
Fel rhan o'ch gwaith cynllunio, byddwch wedi ystyried pob risg hysbys i unrhyw orsaf pleidleisio yn eich ardal ac wedi gwneud trefniadau gyda'r Swyddog Llywyddu a'r heddlu ble'n briodol. Mae canllawiau ar sut mae Swyddogion Llywydu yn ymdrin â materion penodol ar gael yn llawlyfr yr orsaf bleidleisio.
Mae ein llawlyfr i orsafoedd pleidleisio hefyd yn ymdrin â'r gweithdrefnau pleidleisio'n fanwl a'r hyn y gall staff gorsafoedd pleidleisio ei ddisgwyl ar y diwrnod pleidleisio.