Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Enwebiadau

Enwebiadau

Fel Swyddog Canlyniadau, rydych yn gyfrifol am weinyddu proses enwebu sy'n cefnogi ymgeiswyr i sefyll etholiad ac yn eu galluogi i fod yn hyderus yn y ffordd y caiff yr etholiad ei reoli.  

Nod y canllawiau canlynol yw eich cefnogi yn y penderfyniadau y bydd angen i chi eu gwneud er mwyn rheoli'r broses enwebu yn effeithlon ac yn effeithiol. Maent yn cynnwys gwybodaeth am y gofynion ar gyfer enwebu, gan gynnwys manylion ymgeiswyr, ernesau a dulliau cyflwyno, canllawiau i gefnogi'r gwaith o brosesu enwebiadau a phenderfynu arnynt, a chanllawiau ar y prosesau i'w dilyn ar ôl i'r enwebiadau gau, megis cyhoeddi hysbysiadau swyddogol. Maent hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y camau gweithredu gofynnol yn dilyn marwolaeth ymgeisydd.

Rhoi gwybodaeth am y broses enwebu i ymgeiswyr ac asiantiaid

Efallai y bydd ymgeiswyr, asiantiaid a phleidiau gwleidyddol newydd neu lai profiadol, sy'n anghyfarwydd ag arferion a phrosesau sefyll etholiad ac y bydd angen eich cymorth arnynt i allu cymryd rhan yn effeithiol. 

Fel rhan o'ch paratoadau ar gyfer yr etholiadau, byddwch wedi rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau eich bod yn cynnig sesiwn friffio i bob darpar ymgeisydd ac asiant cyn y cyfnod enwebu neu ar ddechrau'r cyfnod hwnnw, a'u bod hefyd yn cael canllawiau ysgrifenedig ar y broses etholiadol mewn da bryd er mwyn eu galluogi i weithredu arnynt. Ceir manylion am yr hyn a ddylai gael ei gynnwys mewn sesiynau briffio a gwybodaeth ysgrifenedig, a dolenni i sesiynau briffio enghreifftiol, yn ein canllawiau ar roi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Rhagfyr 2023