Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Cyflwyno a derbyn y gwrit
Caiff writ sy'n ei gwneud yn ofynnol i etholiad Senedd y DU gael ei chynnal yn eich etholaeth ei gyhoeddi ar ôl i Senedd y DU gael ei diddymu.
Anfonir y gwrit at y Swyddog Canlyniadau oni fydd wedi eich penodi chi (y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)) neu rywun arall yn ddirprwy iddo. Anfonir y gwrit at y Swyddog Canlyniadau yn ôl ei deitl, yn hytrach na'i enw.1
Mae Clerc y Goron yn cadw rhestr o Swyddogion Canlyniadau yr anfonir y gwrit atynt. Os byddwch chi, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), wedi cael eich penodi gan y Swyddog Canlyniadau i dderbyn y gwrit, rhaid i'r Swyddog Canlyniadau hysbysu Clerc y Goron ar ffurflen benodedig.2
Caiff y gwrit ei ddosbarthu gan y Post Brenhinol fel arfer ac unwaith y caiff ei anfon, bydd eich cyswllt lleol yn y Post Brenhinol yn cysylltu â'r Swyddog Canlyniadau neu'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i drefnu ei ddosbarthu. Mae'n hanfodol bod Clerc y Goron a'r Post Brenhinol yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i gyfeiriad yr unigolyn a fydd yn derbyn y gwrit ar unwaith.
Ni waeth pwy fydd yn derbyn y gwrit, rhaid iddo gwblhau derbynneb a ddarperir gan y Post Brenhinol. Bydd yn nodi'r dyddiad y caiff ei dderbyn ac enw'r swyddog sy'n ei dderbyn. Dylid gwneud copïau o'r gwrit a chadw'r copi gwreiddiol yn ddiogel.
3 Ystyrir bod y gwrit wedi'i dderbyn y diwrnod ar ôl i'r Senedd gael ei diddymu. 4 Bydd hyn yn eich galluogi i ddechrau gwneud trefniadau y diwrnod ar ôl i writ yr etholiad gael ei gyhoeddi, hyd yn oed os caiff y broses o ddosbarthu'r writ yn gorfforol ei hoedi. Mae'r dyddiad yr ystyrir bod y gwrit wedi'i dderbyn yn effeithio ar amserlen etholiad Senedd y DU. Rhaid cyhoeddi'r hysbysiad o etholiad erbyn 4pm fan bellaf ar yr ail ddiwrnod yn dilyn dyddiad derbyn y gwrit. 5 Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn dechrau ar y diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad o etholiad.
Is-etholiadau Senedd y DU
Ystyrir bod y gwrit wedi'i dderbyn y diwrnod ar ôl cyhoeddi'r warant ar ei gyfer sy'n ysgogi amserlen yr is-etholiad, ond mae'r amserlen hon yn fwy hyblyg na'r amserlen mewn etholiad cyffredinol. Y rheswm dros hyn yw bod gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), mewn is-etholiad, fwy o ddisgresiwn o ran hyd y cyfnod enwebu, sydd hefyd yn effeithio ar y diwrnod pleidleisio.
Mae'r broses ar gyfer derbyn y gwrit yr un peth mewn is-etholiad Seneddol ag y mae mewn etholiad cyffredinol. Fodd bynnag, mae pryd y caiff y gwrit ar gyfer is-etholiad ei anfon yn dibynnu ar ba bryd y caiff cynnig ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin i anfon y gwrit. O dan rai amgylchiadau, gellir anfon gwrit yn ystod y toriad Seneddol hefyd.
Rhaid i chi bennu dyddiad y bleidlais a hyd y cyfnod enwebu. Ni all y terfyn amser ar gyfer derbyn papurau enwebu fod yn gynt na thri diwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad nac yn hwyrach na saith diwrnod gwaith ar ôl derbyn y gwrit.1
Dylech geisio dewis dyddiad sy'n rhoi cymaint o amser â phosibl i ymgeiswyr gyflwyno eu papurau enwebu o fewn terfynau'r amserlen
Ni ddylai'r diwrnod pleidleisio fod yn gynt na 17 diwrnod gwaith nac yn hwyrach na 19 diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Os bydd gennych is-etholiad, dylech gysylltu â thîm lleol y Comisiwn a fydd yn gallu eich helpu drwy fwrw golwg dros amserlen yr etholiad.
Cyflwyno a derbyn y gwrit
Rydym wedi llunio amserlen sy'n cynnwys yr holl derfynau amser perthnasol ar gyfer etholiad Senedd y DU, yn ogystal â thempled ar wahân ar gyfer amserlen is-etholiad Senedd y DU.
Gallwch ddod o hyd i'r amserlen ar gyfer etholiad Senedd y DU 4 Gorffennaf isod.
Ceir gwybodaeth am ardystio a dychwelyd y gwrit ar ôl datgan y canlyniad yn ein canllawiau ar Rhoi hysbysiad o'r canlyniad.
- 1. Adrannau 27 a 28 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 4 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheol 3 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 28 (3A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 1 Rheol 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 1. Atodlen 1 Rheol 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1