Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr a sut i ddefnyddio'r canllawiau
Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Lluniwyd y canllawiau canlynol er mwyn cynorthwyo Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ym Mhrydain Fawr i gynllunio a chynnal etholiad Senedd y DU. Maent wedi'u hysgrifennu i gwmpasu etholiadau cyffredinol ac is-etholiadau.
Maent wedi'u datblygu mewn ymgynghoriad agos â chydweithwyr ar draws y gymuned etholiadol gan gynnwys Cymdeithas Prif Weithredwyr Awdurdodau Lleol (SOLACE), Cymdeithas y Gweinyddwyr Etholiadol (AEA), Bwrdd Cynghori a Chydlynu Etholiadol (ECAB) y DU, y Gweithgor Etholiadau, Cofrestru a Refferenda (ERRWG), Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban (EMB), a Gweithgor Ymarferwyr Etholiadol Cymru (GYEC).
Mae'n adlewyrchu rhwymedigaethau cyfreithiol Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) a'r hyn rydym ni, a chydweithwyr ar draws y gymuned etholiadol, yn credu y dylai Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ei ddisgwyl gan eu staff wrth baratoi ar gyfer etholiadau Senedd y DU a chynnal yr etholiadau hynny.
Yn etholiad Senedd y DU yng Nghymru a Lloegr, cyfrifoldeb y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), sydd fel arfer yn un o uwch swyddogion yr awdurdod lleol, yw gweinyddu'r etholiad.1
Yn yr Alban, nid oes swydd Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Yn hytrach, caiff yr etholiad ei weinyddu gan y Swyddog Canlyniadau, sef y Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol, neu, yn achos etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, y Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol a restrir mewn Gorchymyn a wnaed gan yr Ysgrifennydd Gwladol.2
Drwy ein canllawiau ar gyfer etholiadau ledled Prydain Fawr defnyddiwn y term Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i gyfeirio at y dyletswyddau sydd fel arfer yn cael eu cyflawni gan y Swyddog Canlyniadau Gweithredol yng Nghymru a Lloegr, a'r Swyddog Canlyniadau yn yr Alban.
Sut i ddefnyddio'r canllawiau hyn
Cyfeirir y canllawiau hyn at y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) a'r dyletswyddau maent yn eu cyflawni. Gan y gallai dirprwyon a/neu staff dynodedig gwblhau'r dyletswyddau hyn, defnyddir y term 'chi' yn y canllawiau hyn i olygu Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) a phwy bynnag sy'n cwblhau swyddogaethau'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar eu rhan.
Drwy'r canllawiau hyn, rydym yn defnyddio ‘rhaid’ wrth gyfeirio at ofyniad cyfreithiol penodol a ‘dylai’ ar gyfer arfer a argymhellir.
Lle bydd y canllawiau yn wahanol ar gyfer is-etholiadau neu lle bydd angen i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ystyried senarios trawsffiniol, caiff yr wybodaeth ei rhoi mewn adran sydd wedi'i ehangu. Mae hyn yn golygu bod eicon gyda + wrth ymyl y pennawd perthnasol a fydd yn ehangu i ddangos y canllawiau perthnasol.
Mae canllawiau i gefnogi Swyddogion Canlyniadau gyda mathau eraill o etholiadau ar gael hefyd.
Gallwch hefyd weld Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantiaid.
I’ch helpu i ddefnyddio'r canllawiau hyn rydym wedi'u creu dogfen Cwestiynau ac Atebion a ddylai ateb unrhyw ymholiadau cychwynnol a allai fod gennych.
Diweddariadau i'n canllawiau
- 1. Adran 28 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 25 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Swyddog Canlyniadau a Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
Mae’r adran hon o’r cyfarwyddyd yn mynd i’r afael a phenodi Swyddog Canlyniadau a Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), yn ogystal â rolau a chyfrifoldebau’r rheiny sy’n cael eu penodi i’r swyddi hyn.
Mae hefyd yn cynnwys cyfarwyddyd ar ganlyniadau torri dyletswyddau swyddogol a’r pwerau deddfwriaethol sydd ar gael i’w defnyddio gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) mewn rhai amgylchiadau.
Mae’r adran hon hefyd yn cynnwys cyfarwyddyd ar y sgiliau a’r wybodaeth y disgwylir bod eu hangen ar Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
Yn olaf, mae’n darparu rhestr o’r ddeddfwriaeth berthnasol y mae’r cyfarwyddyd wedi’i ysgrifennu i’w hadlewyrchu ac y dylai Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) fod yn gyfarwydd â nhw.
Penodi Swyddog Canlyniadau a Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
Cymru a Lloegr
Mewn etholiad cyffredinol ar gyfer Senedd y DU yng Nghymru a Lloegr, swydd seremonïol yw swydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar y cyfan. Caiff y rhan fwyaf o ddyletswyddau'r Swyddog Canlyniadau eu cyflawni gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) sydd fel arfer yn un o uwch swyddogion yr awdurdod lleol.
Penodi'r Swyddog Canlyniadau
Mewn etholaeth bwrdeistref dosbarth, maer neu gadeirydd yr awdurdod lleol yw'r Swyddog Canlyniadau. Mewn etholaeth sir, Siryf y sir yw'r Swyddog Canlyniadau. Mewn ardaloedd lle mae'r etholaeth yn gorgyffwrdd ffiniau sirol neu ddosbarth, dynodir y Swyddog Canlyniadau gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Gweler isod am esboniad o'r ddau fath o etholaeth.1
Dyletswyddau'r Swyddog Canlyniadau
Y Swyddog Canlyniadau sy'n derbyn yr writ sy'n cyfarwyddo bod etholiad Seneddol y DU i'w gynnal. Fodd bynnag, gall Swyddog Canlyniadau benodi dirprwy at ddibenion derbyn yr writ.2
Gall y Swyddog Canlyniadau hefyd gadw i'w hun ddyletswyddau ardystio a dychwelyd yr writ, yn ogystal â datgan y canlyniad a rhoi hysbysiad cyhoeddus ohono. Yn yr achos hwnnw, rhaid iddo roi hysbysiad ysgrifenedig i chi, fel y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Rhaid rhoi'r hysbysiad yn ysgrifenedig erbyn y diwrnod ar ôl derbyn yr writ ac mae angen iddo nodi pa ddyletswyddau y mae'r Swyddog Canlyniadau am eu cadw i'w hun.3 Ni phennir yr hysbysiad.
Dylech gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau ar gam cynnar yn eich gwaith cynllunio er mwyn sicrhau ei fod yn ymwybodol o'i ddyletswyddau o ran y rôl a thrafod p'un a gaiff y dyletswyddau hyn eu dirprwyo.
Penodi'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
Mewn etholaeth lle mai cadeirydd y cyngor dosbarth neu faer bwrdeistref yn Llundain yw'r Swyddog Canlyniadau, y Swyddog Cofrestru Etholiadol a benodir gan y cyngor hwnnw yw'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
Yn achos unrhyw etholaeth arall yng Nghymru a Lloegr, dynodir Swyddog Cofrestru Etholiadol un o'r awdurdodau lleol sy'n rhan o'r etholaeth yn Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) drwy orchymyn a wneir gan yr Ysgrifennydd Gwladol.4
Yr Alban
Yn yr Alban, nid oes Swyddog Canlyniadau â rôl seremonïol. Y Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol am weinyddu'r etholiad. Swyddog Canlyniadau etholiad Senedd y DU yn yr Alban yw’r un person sydd wedi’i benodi’n Swyddog Canlyniadau ar gyfer ethol cynghorwyr yn yr awdurdod lleol lle lleolir yr etholaeth. Pan fo etholaeth yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, bydd yr Ysgrifennydd Gwladol yn nodi pa Swyddog Canlyniadau awdurdod lleol yw’r Swyddog Canlyniadau ar gyfer etholiad Senedd y DU.5
Defnyddiwn y term Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i gyfeirio at ddyletswyddau'r Swyddog Canlyniadau Gweithredol yng Nghymru a Lloegr a'r Swyddog Canlyniadau yn yr Alban. Dylid ystyried unrhyw gyfeiriad at ddirprwy yn y canllawiau hyn fel 'depute' ar gyfer etholiadau yn yr Alban.
Ffiniau ac etholaethau
Mae dau fath o etholaeth: bwrdeistref a sirol (neu burgh yn yr Alban). Yn y canllawiau hyn defnyddir y term 'borough' yn Saesneg a dylid ei ddarllen fel 'burgh' ar gyfer etholaethau yn yr Alban.
Yn nodweddiadol, mae etholaethau bwrdeistref yn ardaloedd trefol yn bennaf ac mae etholaethau sir yn ardaloedd gwledig yn bennaf. Mae deddfwriaeth Lloegr,6 Cymru7 a'r Alban8 yn nodi p'un a yw etholaeth yn un sirol neu fwrdeistref.
Cynhelir etholiadau Senedd y DU ar ffiniau etholaethau Senedd y DU. Gall etholaethau gyd-fynd ag ardaloedd awdurdodau lleol ond mae llawer ond yn cynnwys rhan o'r ardal, tra bod eraill yn croesi un neu fwy o ffiniau awdurdodau lleol.
Er eich bod yn gyfrifol am gynnal yr etholiad yn eich etholaeth gyfan, yn ymarferol, os bydd unrhyw ran o'r etholaeth y tu allan i'ch awdurdod lleol, bydd angen i chi ystyried effaith hyn ar eich prosesau a ph'un a ydych am ddirprwyo rhai o'ch swyddogaethau i uwch swyddog yn yr awdurdod lleol arall. Dylech gydweithio'n agos â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol a staff etholiad yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill perthnasol er mwyn nodi unrhyw faterion posibl a sut yr ymdrinnir â hwy. Dylech geisio ei gyngor a'i gymorth, lle bo angen, oherwydd bydd yn fwy cyfarwydd â'r ardaloedd hynny..
Yswiriant
Gan eich bod yn bersonol gyfrifol am gynnal yr etholiad dylech sicrhau bod gennych yswiriant a'i fod yn gyfredol. Dylech fod yn barod i ddangos prosesau cynllunio a gwneud penderfyniadau cadarn os bydd unrhyw her i'r etholiad a hawliad yn erbyn y polisi yswiriant.
Efallai y bydd y tîm yn eich cyngor sy'n ymdrin ag yswiriant yn gallu helpu i bennu pa yswiriant sydd eisoes wedi'i drefnu ac ar gael, a rhoi cyngor ar b'un a ddylid ei ymestyn.
- 1. Adran 24 ac Atodlen 1, Rheol 3 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A. 23 a 28 28 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. A. 28(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A. 28 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. A. 25 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Gorchymyn Etholaethau Seneddol (Lloegr) 2007/1681 erthygl 2(1)(b) a'r atodlen ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Gorchymyn Etholaethau Seneddol a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006/1041 erthygl 2(c) ac atodlen 1 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Gorchymyn Etholaethau Seneddol (Yr Alban) 2005/250 erthygl 2(c) a'r atodlen ↩ Back to content at footnote 8
Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) - rôl a chyfrifoldebau
Fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), rydych yn chwarae rhan ganolog yn y broses ddemocrataidd. Eich rôl yw sicrhau y caiff yr etholiad ei weinyddu'n effeithiol ac, o ganlyniad, y bydd profiad pleidleiswyr a'r rhai sy'n sefyll etholiad yn un cadarnhaol. Ar gam cynnar, dylech amlinellu'r hyn rydych am ei gyflawni a sut beth fyddai llwyddiant i chi.
Fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), chi sy'n bersonol gyfrifol am gynnal etholiad Senedd y DU, gan gynnwys:
- derbyn yr writ (lle nad yw'r Swyddog Canlyniadau wedi cadw'r ddyletswydd hon)
- cyhoeddi'r hysbysiad etholiad
- gweinyddu'r broses enwebu
- argraffu papurau pleidleisio
- cyhoeddi'r hysbysiad pleidleisio, datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, a hysbysiad lleoliad gorsafoedd pleidleisio
- darparu gorsafoedd pleidleisio
- penodi Swyddogion Llywyddu a Chlercod Pleidleisio
- rheoli'r broses pleidleisio drwy’r post
- dilysu a chyfrif y pleidleisiau
- datgan y canlyniad (lle nad yw'r Swyddog Canlyniadau wedi cadw'r ddyletswydd hon)
Mae eich dyletswyddau fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn rhai ar wahân i'ch dyletswyddau fel swyddog llywodraeth leol. Fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) nid ydych yn gyfrifol i'r awdurdod lleol ond rydych yn uniongyrchol atebol i'r llysoedd fel deiliad swydd statudol annibynnol.
Er y gallwch benodi un unigolyn neu fwy i gyflawni unrhyw un neu bob un o'ch swyddogaethau fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), ni allwch ddirprwyo'ch cyfrifoldeb personol am gynnal yr etholiad. Rhoddir rhagor o wybodaeth am benodi dirprwyon yn ein canllawiau ar staffio a hyfforddiant.
Etholaethau trawsffiniol
Pan fo'r etholaeth yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, er mwyn cyflawni eich swyddogaethau'n effeithiol, bydd angen meithrin cydberthynas waith agos rhyngoch chi a'r priod Swyddogion Canlyniadau a'u staff. Er mai chi sy'n gyfrifol am ddarparu gorsafoedd pleidleisio a staff gorsafoedd pleidleisio ar gyfer yr etholiadau, fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), dylech geisio cyngor a chymorth, fel sydd angen, gan Swyddog Canlyniadau llywodraeth leol a'i staff ar gyfer yr ardal awdurdod lleol arall a fydd yn fwy cyfarwydd â'r ardal benodol honno.
Torri dyletswydd swyddogol a'r pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol
Fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), rydych yn ddarostyngedig i ddarpariaethau tor-dyletswydd swyddogol. Mae hyn yn golygu os byddwch chi neu'ch dirprwyon penodedig yn euog o unrhyw weithred neu anweithred sy'n torri dyletswydd swyddogol, heb achos rhesymol, rydych chi (a/neu hwy) yn agored i dalu dirwy anghyfyngedig os cewch eich collfarnu'n ddiannod yng Nghymru a Lloegr neu, yn yr Alban, ddirwy o hyd at £5,000.1
Mae gennych y pŵer i gymryd y cyfryw gamau ag sy'n briodol yn eich barn chi i unioni gweithredoedd neu anweithredoedd sy'n codi mewn cysylltiad ag unrhyw un o swyddogaethau'r etholiadau ac nad ydynt yn unol â'r rheolau.2
Mae'r pŵer hwn yn caniatáu i chi gywiro gwallau gweithdrefnol a wneir gennych chi, fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), Swyddog Cofrestru Etholiadol, Swyddog Llywyddu (neu ddirprwyon unrhyw un o'r rhain) neu unigolyn sy'n darparu nwyddau neu wasanaethau i chi/nhw.3
Mae gwall gweithdrefnol yn cyfeirio at wall y mae rhywun wedi'i wneud yn ystod y broses o gynllunio neu gynnal etholiad, a allai effeithio ar broses neu ganlyniad yr etholiad. Er enghraifft, gwybodaeth anghywir yn cael ei lunio ar gardiau pleidleisio neu bapurau pleidleisio, neu bapurau pleidleisio drwy'r post neu mewn gorsaf bleidleisio yn cael eu cyhoeddi mewn camgymeriad neu heb eu cyhoeddi pan y dylent fod wedi'u cyhoeddi. Nid yw'r enghreifftiau uchod yn gynhwysfawr a dylech gysylltu â thîm lleol y Comisiwn am gymorth a chyngor os ydych yn meddwl eich bod wedi gwneud camgymeriad y gellid ei unioni drwy ddefnyddio'r pŵer hwn.
Pan fyddwch yn datrys gweithred neu anweithred yn llawn gan ddefnyddio eich pŵer i gywiro gwall gweithdrefnol, ni fyddwch yn euog o dorri dyletswydd swyddogol.4 Dylech gofio nad yw'r pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol yn eich galluogi i ailgyfrif y pleidleisiau ar ôl i'r canlyniad gael ei gyhoeddi.5
- 1. Adran 63 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 63(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac Adran 46 Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 46 Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 63(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 46 Deddf Gweinyddu Etholiadol 2006 ↩ Back to content at footnote 5
Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) - sgiliau a gwybodaeth
Dylech feddu ar wybodaeth ymarferol am y ddeddfwriaeth berthnasol sy'n llywodraethu trefn cynnal yr etholiad. Felly, yn ogystal â dealltwriaeth glir o'ch swyddogaethau statudol, dylai fod gennych drosolwg o'r hyn y mae'r ddeddfwriaeth yn ei gynnwys a dealltwriaeth o'r ffordd mae'n effeithio ar y broses o weinyddu'r etholiad, fel eich bod yn gallu adolygu'r broses gyfan, ei chwestiynu lle bo angen a sicrhau ei hansawdd.
Mae cyfrifoldebau rheoli yn gysylltiedig â'ch rôl. Er enghraifft:
- mynnu cael y staff a'r adnoddau sydd eu hangen i gynnal etholiad trefnus
- sicrhau'r cymorth, y sgiliau a'r arbenigedd angenrheidiol o bob rhan o'ch awdurdod lleol eich hun
- goruchwylio'r broses o gynllunio, rheoli prosiect a rheoli risg yr etholiad ac ymgorffori unrhyw wersi a ddysgwyd o bleidleisiau blaenorol
- nodi a goruchwylio unrhyw gamau gweithredu sydd eu hangen er mwyn lliniaru unrhyw faterion sy'n codi
- sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant priodol i gyflawni eu priod rolau
- cefnogi'r staff sy'n gweinyddu'r etholiad a goruchwylio eu gwaith yn briodol
- cyfarwyddo staff, monitro cynnydd a chael adborth rheolaidd ar weithgareddau
- yn achos etholaethau trawsffiniol, ceisio cyngor a chymorth gan y Swyddog Canlyniadau a staff yn yr awdurdodau lleol eraill
- os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, cynnal cydberthynas waith effeithiol â nhw
- cynnal cydberthynas waith effeithiol â'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu
- sicrhau bod cyfrifon etholiadau yn cael eu cwblhau'n amserol
Deddfwriaeth berthnasol
Deddfwriaeth berthnasol
Mae'r canllawiau hyn yn seiliedig ar y gofynion a nodir yn y ddeddfwriaeth ganlynol (fel y'i diwygiwyd), a dylid eu darllen yn unol â hi:
- Deddfau Cynrychiolaeth y Bobl 1983, 1985 a 2000
- Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000
- Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001
- Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001
- Gorchymyn Etholaethau Seneddol (Yr Alban) 2005
- Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006
- Gorchymyn Etholaethau a Rhanbarthau Etholiadol y Cynulliad (Cymru) 2006
- Gorchymyn Etholaethau Seneddol (Lloegr) 2007
- Deddf Pleidiau Gwleidyddol ac Etholiadau 2009
- Deddf Seneddau Tymor Penodol 2011
- Deddf Cofrestru a Gweinyddu Etholiadau 2013
- Deddf Etholiadau 2022
- Rheoliadau Adnabod Pleidleisiwr 2022
- Rheoliadau Cynorth gyda Phleidleisio i Bobl ag Anableddau (Diwygiadau) 2022
- Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio drwy'r post a Phleidleisio drwy ddirprwy etc) (Diwygiad) 2023
Mae'r rhestr uchod ond yn cynnwys y ddeddfwriaeth sy'n darparu ar gyfer y meysydd y mae'r canllawiau hyn yn ymwneud â hwy ac sydd mewn grym ar hyn o bryd.
Mae deddfwriaeth diogelu data yn gymwys i brosesu pob math o ddata personol. Mae gan Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) gyfrifoldeb personol dros sicrhau eu bod yn cydymffurfio â gofynion deddfwriaeth diogelu data. Rydym wedi cyhoeddi canllawiau er mwyn eich helpu i gyflawni eich rhwymedigaethau o dan ddeddfwriaeth diogelu data, fel y maent yn ymwneud â'ch cyfrifoldebau gweinyddu etholiadau.
Mae'n ofynnol hefyd i chi ystyried y ddyletswydd cydraddoldeb ar y sector cyhoeddus a geir yn Adran 149 o Ddeddf Cydraddoldeb 2010 wrth gyflawni eich dyletswyddau.
Fel Swyddog Canlyniadau mae'n ofynnol i chi hefyd ystyried canllawiau'r Comisiwn ar hygyrchedd.
Mae'n rhaid i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) yng Nghymru hefyd ystyried Deddf yr Iaith Gymraeg 1993 a Mesur y Gymraeg (Cymru) 2011, sy'n ei gwneud yn ofynnol i wasanaethau yng Nghymru gael eu darparu yn gyfartal yn y Gymraeg a'r Saesneg.
Cynllunio ar gyfer yr etholiad
Mae etholiad Senedd y DU yn ddigwyddiad pwysig sy'n peri ei heriau penodol ei hun. Mae'n hanfodol sicrhau bod cynlluniau cadarn ar waith er mwyn gwneud yn siŵr y gallwch gynnal etholiad effeithiol.
Mae'r adran hon o'r canllawiau yn trafod y gwaith cynllunio y bydd angen i chi ei wneud er mwyn cynnal yr etholiad, gan gynnwys yr hyn y dylai eich cynllun prosiect ei gynnwys a sut y dylech fynd ati i'w roi ar waith.
Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar staffio a'r hyfforddiant staff gofynnol, y lleoliadau penodol sydd eu hangen ar gyfer prosesau allweddol, a chymorth ar ddefnyddio cyflenwyr a chontractwyr.
Yn ogystal, mae'r adran hon hefyd yn cynnwys canllawiau ar nodi, monitro a lliniaru risg, a datblygu cynlluniau gyda'r heddlu er mwyn sicrhau y cynhelir uniondeb yr etholiad.
Yn olaf, mae'n rhoi canllawiau ar sut y bydd angen i chi gynllunio ar gyfer eich gweithgareddau ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn annog pleidleiswyr i gofrestru ac er mwyn rhoi gwybodaeth i helpu etholwyr i bleidleisio, ac ymgysylltu ag ymgeiswyr ac asiantiaid.
Cynllunio ar gyfer etholiad Senedd y DU
Cynllunio ar gyfer etholiad Senedd y DU
Mae etholiad Senedd y DU yn ddigwyddiad pwysig sy'n peri ei heriau penodol ei hun. Bydd eich gwaith i gynnal etholiad yn drefnus yn cael cryn sylw – ymhlith pleidleiswyr, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol, a'r cyfryngau gan gynnwys drwy'r cyfryngau cymdeithasol. Mae'r adran hon yn ceisio amlygu rhai o'r agweddau penodol ar gyd-destun sy'n berthnasol i etholiadau Senedd y DU. Dylech sicrhau eu bod wrth wraidd pob agwedd ar eich gwaith cynllunio.
Natur etholiad Senedd y DU
Mae'n debygol y bydd yr etholiad yn cael ei ymladd yn frwd, gyda sawl brwydr agos mewn etholaethau ledled Prydain Fawr. Gallai'r dirwedd wleidyddol newidiol olygu, hyd yn oed mewn mannau lle y bu mwyafrif mawr yn draddodiadol, efallai na fydd hyn yn wir mwyach. Gallai'r ffocws a'r amgylchiadau fod yn wahanol i unrhyw beth a brofwyd yn eich ardal o'r blaen.
Efallai y bydd nifer sylweddol o bleidiau gwleidyddol newydd neu lai profiadol, ymgeiswyr ac asiantiaid sy'n llai cyfarwydd ag arferion a phrosesau etholiad ac y bydd angen eich cymorth arnynt i allu cymryd rhan yn effeithiol.
O ystyried yn arbennig y posibilrwydd y ceir brwydrau agos ac anodd, dylech fod yn barod i uniondeb yr etholiad hwn fod yn destun craffu. Bydd honiadau ac achosion o dwyll etholiadol nid yn unig yn cael effaith negyddol ar hyder etholwyr ac ymgyrchwyr, ond gallant hefyd gael effaith sylweddol ar eich gallu i reoli'r broses etholiadol yn effeithiol. Felly, mae'n hanfodol eich bod yn gweithredu cynlluniau manwl a chadarn ar gyfer monitro a chynnal uniondeb yr etholiad yn eich ardal. Dylech weithio'n agos gyda'r heddlu lleol, gan sicrhau bod gennych linellau cyfathrebu da ar waith ar gyfer atgyfeirio unrhyw honiadau. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ynghylch Cynnal uniondeb yr etholiad.
Maint a'r nifer sy'n pleidleisio
Bydd faint o waith paratoi y byddwch yn gallu ei wneud cyn etholiad yn amrywio yn dibynnu ar amryw o ffactorau, gan gynnwys p'un a yw'n etholiad a drefnwyd neu'n isetholiad, nifer yr etholaethau rydych yn gyfrifol amdanynt, a faint o etholiadau cyfunol fydd yn cael eu cynnal, os o gwbl.
Bydd angen i sawl agwedd ar gynllunio'r etholiad adlewyrchu tybiaethau o ran y niferoedd tebygol a wnaiff bleidleisio. Bydd llunio'r fath dybiaethau ar gam cynnar o'r gwaith cynllunio yn allweddol gan mai prin y gellir newid cynlluniau ar gam hwyrach yn y broses.
Mae'n debygol y bydd cryn dipyn o ddiddordeb yn etholiad Senedd y DU. Dylech gynllunio ar gyfer y posibilrwydd y bydd nifer uchel yn pleidleisio ac, fel gofyniad sylfaenol, dylech dybio na fydd y nifer sy'n pleidleisio yn llai na'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau cyfatebol diwethaf.
Wrth i'r bleidlais nesáu, bydd y cyd-destun yn parhau i newid wrth i'r ymgyrchoedd ddatblygu. Bydd angen i chi fod yn barod i ymateb i ddigwyddiadau yn eich etholaeth ac yn fwy cyffredinol a allai gael effaith ar gynnal y bleidlais yn effeithiol. Bydd hyn yn cynnwys cael cynlluniau wrth gefn cadarn i'w rhoi ar waith os bydd angen. Er enghraifft, os darlledir dadleuon arweinwyr ar y teledu eto, gallai'r rhain arwain at gynnydd hwyr yn nifer y ceisiadau cofrestru a phleidleisio absennol, yn ogystal â chael effaith ar y niferoedd a fydd yn pleidleisio ac maent yn debygol o newid y patrwm traddodiadol pan ddychwelir pleidleisiau post wedi'u cwblhau.
Mae'n hanfodol bod darpariaeth briodol ar gyfer gorsafoedd pleidleisio, gyda digon o orsafoedd a staff i ymdrin â nifer yr etholwyr a neilltuwyd iddynt. Er bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu i unrhyw bleidleisiwr sydd mewn ciw ar gyfer ei orsaf bleidleisio am 10pm fwrw pleidlais,1 mae dal angen sicrhau nad yw pleidleiswyr yn wynebu oedi gormodol cyn pleidleisio a'u bod yn derbyn gwasanaeth o safon.
Mae'n debygol y bydd sylw gan y cyfryngau ar y cyfrif a datgan y canlyniadau a bydd yn bwysig rheoli disgwyliadau, nid yn unig o ran y cyfryngau ond hefyd o ran pawb sydd â diddordeb yn y canlyniadau, drwy ymgynghori ar eich dull bwriadedig o weithredu ac wedyn nodi'n glir yr hyn rydych yn bwriadu ei wneud ac erbyn pryd.
- 1. Rheol 37(7) Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Dysgu o etholiadau blaenorol
Dysgu o etholiadau blaenorol
Cyn i chi ddechrau cynllunio ar gyfer yr etholiad, dylech sicrhau eich bod wedi cynnal adolygiad o'r etholiadau cyfatebol diwethaf.
Dylech fod wedi cynnal gwerthusiad trylwyr o'r holl brosesau a amlinellir yn eich cynllun prosiect ar gyfer yr etholiad blaenorol, ceisio adborth gan randdeiliaid priodol, a llunio dogfen ar y gwersi a ddysgwyd i lywio'r cynllun prosiect a'r gofrestr risg ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar Adolygu'r etholiad.
Mae'r Comisiwn wedi darparu, fel rhan o'r templed ar gyfer cynllun prosiect, rai nodau enghreifftiol ac adnoddau a awgrymir a fydd yn eich galluogi i fesur i ba raddau y bu'r broses o gynnal yr etholiad yn llwyddiannus. Mae'r Comisiwn hefyd wedi darparu cynllun gwerthuso fel rhan o dempled y cynllun prosiect er mwyn eich helpu gyda'r broses adolygu.
Templed o gynllun prosiect
Datblygu cynlluniau ar gyfer yr etholiad
Cynllun prosiect
Dylech baratoi cynllun prosiect ar gyfer rheoli'r etholiad, ei drin fel dogfen fyw, ei adolygu'n rheolaidd a'i ddefnyddio i fonitro cynnydd drwy gydol y broses.
Dylech gadw cofnod o'r holl gamau a gymerwyd i baratoi eich cynllun er mwyn gallu darparu trywydd archwilio sy'n dangos eich proses benderfynu. Dylech allu esbonio eich penderfyniadau, a dylech fod yn barod i wneud hynny mewn ymateb i ymholiadau.
Dylai eich gwaith cynllunio sicrhau'r canlynol:
- gall pobl fwrw eu pleidlais yn hawdd ac maent yn gwybod y caiff eu pleidlais ei chyfrif yn y ffordd a fwriadwyd
- ei bod hi'n hawdd i bobl sydd am sefyll etholiad gael gwybod sut i wneud hynny, beth yw'r rheolau, a beth mae'n rhaid iddynt ei wneud i gydymffurfio â'r rheolau hyn
- gall pawb fod yn hyderus yn y ffordd y caiff y broses a'r canlyniad eu rheoli.
Rydym wedi paratoi templed ar gyfer cynllun prosiect y byddwch o bosibl yn awyddus i'w ddefnyddio a'i addasu yn unol â'ch amgylchiadau lleol. Mae'r templed yn cynnwys nifer o bethau y gellir eu cyflawni a thasgau a dylech hefyd ychwanegu unrhyw rai eraill y byddwch yn nodi eu bod yn angenrheidiol, yn cynnwys rhai sy'n benodol ar gyfer eich amgylchiadau lleol.
Cyn dechrau ar eich gwaith cynllunio manwl, dylech nodi'r hyn rydych am ei gyflawni a sut beth fydd llwyddiant. Dylai eich cynllun prosiect gynnwys amcanion wedi'u diffinio'n glir a mesurau llwyddiant i'ch helpu i fesur i ba raddau y mae trefn cynnal yr etholiad wedi bod yn llwyddiannus fel rhan o dempled y cynllun prosiect.
Dylech sicrhau bod eich gwaith cynllunio yn adlewyrchu cyd-destun penodol a natur yr etholiad, gan gynnwys unrhyw newidiadau i ddeddfwriaeth neu'r tirlun gwleidyddol ers yr etholiad cyffredinol diwethaf.
Dylai eich cynllun prosiect hefyd nodi'r adnoddau sydd eu hangen. Unwaith y bydd y ffioedd a'r taliadau ar gyfer yr etholiad wedi cael eu pennu, dylech gysoni costau rhagamcanol ar gyfer gweithgareddau yn erbyn y gyllideb sydd ar gael. Dylech gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod yr awdurdodau lleol yn rhoi'r adnoddau angenrheidiol i chi er mwyn eich galluogi i gyflawni'ch swyddogaethau.
Mae angen i chi hefyd gynllunio ar gyfer gweithredu gofynion hygyrchedd yn y gorsafoedd pleidleisio. Dylai eich cynlluniau gynnwys:
- lle mae angen ystyried hygyrchedd
- pa rwystrau sy'n atal mynediad cyfartal at bleidleisio i bawb
- pan fydd angen i chi weithredu unrhyw ofynion a nodwyd; er enghraifft os oes angen i chi brynu offer ychwanegol - a fydd yn cael ei dderbyn mewn pryd?
- nodiadau ysgrifenedig o'r holl ystyriaethau a chamau a gymerir mewn perthynas ag unrhyw addasiadau rhesymol y gofynnir amdanynt
Dylech hefyd sefydlu perthynas waith ag arbenigwyr yn yr awdurdod lleol a ddylai allu cynnig cymorth a chyngor ar unrhyw addasiadau rhesymol sydd eu hangen.
Mae addasiad rhesymol yn newid a wneir i leihau neu ddileu anfantais mewn perthynas ag anabledd rhywun o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl. Er enghraifft, cael gwared ar rwystrau corfforol neu ddarparu cymorth ychwanegol i bobl anabl.
Bydd angen i chi adolygu eich cynlluniau er mwyn sicrhau eu bod yn amlinellu eich prosesau a'r mesurau diogelu data sydd ar waith gennych, oherwydd byddant yn darparu sail gadarn i chi gyflawni eich rhwymedigaethau diogelu data. Bydd swyddog diogelu data eich cyngor yn gallu eich helpu i fodloni eich gofynion a nodi arfer gorau. Yn arbennig, bydd angen i chi sicrhau eich bod wedi cofrestru â Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth fel rheolydd data.
Ceir canllawiau manwl pellach ar ddeddfwriaeth diogelu data, gan gynnwys cofrestru fel rheolydd data, yn ein canllaw ar ddiogelu data.
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol bydd goblygiadau ymarferol i hyn o ran rheoli prosesau allweddol a dylech adlewyrchu hyn yn eich gwaith cynllunio. Er enghraifft, byddwch yn gyfrifol am ddilysu llofnodion a dyddiadau geni ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r post a ddychwelir gan etholwyr o fwy nag un ardal awdurdod lleol arall yn ogystal â rhai o'ch ardal awdurdod lleol eich hun.
Byddwch hefyd yn gyfrifol am ddarparu a pharatoi cyfarpar ar gyfer gorsafoedd pleidleisio ar gyfer yr etholaeth gyfan a bydd angen i chi benderfynu sut i reoli hyn, gan gynnwys sut y byddwch yn sicrhau bod gennych wybodaeth gyfredol am y llefydd pleidleisio a neilltuwyd i'w defnyddio mewn ardaloedd awdurdod lleol eraill.
Dylech gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol a staff etholiad perthnasol eraill o'r ardal(oedd) awdurdod lleol wrth gynllunio ar gyfer yr etholiad.
Cofrestr risg
Cofrestr risg
Dylech hefyd baratoi cofrestr risg a ddylai hefyd fod yn ddogfen fyw a dylech ei hadolygu'n rheolaidd. Dylech ddefnyddio eich cofrestr risg i fonitro'r risgiau hysbys a dogfennu unrhyw newidiadau mewn risg, yn ogystal â sicrhau bod camau lliniaru yn cael eu nodi a'u cymryd, fel y bo'n briodol. Dylai eich cofrestr risg nodi'r canlynol:
- unrhyw anawsterau a phroblemau a all ddigwydd, a'r camau a gymerir i'w lliniaru.
- difrifoldeb unrhyw risg gan nodi'r tebygolrwydd y bydd y risg yn digwydd ac effaith y risg pe byddai'n digwydd.
Rydym wedi datblygu templed ar gyfer cofrestr risg y byddwch o bosibl am ei ddefnyddio. Mae'r templed yn rhoi rhai risgiau enghreifftiol ac awgrymiadau ar gyfer lliniaru'r risgiau hynny. Yn ogystal â'r risgiau a nodir yn y templed, dylech nodi unrhyw risgiau eraill, gan gynnwys y rhai sy'n benodol i'ch amgylchiadau lleol, a sut y byddech yn eu lliniaru.
Amserlen yr Etholiad
Rydym wedi cyhoeddi amserlen nad yw'n cynnwys dyddiadau penodol ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac is-etholiadau sy'n cynnwys y dyddiadau cau statudol fel y'u nodir yn y rheolau etholiadol y gellir eu defnyddio i'ch helpu gyda'ch gwaith cynllunio.
Bydd amserlen sy’n cynnwys dyddiadau penodol ar gael ar ein gwefan pan fydd etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU yn cael ei gyhoeddi.
Dylech sicrhau bod gennych drefniadau wrth gefn ar waith i'ch galluogi i ymateb ac i gynnal etholiad effeithiol os caiff etholiad cyffredinol ei alw ar fyr rybudd neu os bydd is-etholiad yn codi. Pan gaiff etholiad ei alw bydd angen i chi adolygu eich cynlluniau a datblygu trefniadau ar gyfer amserlen a chyd-destun penodol yr etholiad.
Er eu bod yn swyddogaethau Swyddog Cofrestru Etholiadol, ceir rhagor o wybodaeth yma am y dyddiadau cau ar gyfer ceisiadau am y Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr a'r Ddogfen Etholwr Dienw ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban.
Ceir hefyd rhagor o wybodaeth am y dyddiadau cau o ran pleidlais bost ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban a'r dyddiadau cau ar gyfer pleidlais drwy ddirprwy ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
Cynllunio wrth gefn
Dylai eich cynllun prosiect gynnwys cynlluniau wrth gefn a threfniadau parhad busnes er mwyn galluogi pob elfen o'r broses o gynnal yr etholiad i barhau os ceir problemau neu ymyriadau annisgwyl. Mae'n bwysig parhau i adolygu eich cynlluniau wrth gefn, eu hailystyried a'u diwygio yn rheolaidd yn ystod y cyfnod cyn yr etholiad. Wrth wneud hynny, dylech ystyried llwyddiant a phriodoldeb parhaus unrhyw fesurau sy'n bodoli eisoes, nodi unrhyw welliannau ac amlygu unrhyw fylchau.
Dylech hefyd ddatblygu a chynnal cynlluniau wrth gefn parhaus ar wahân er mwyn helpu i gynnal unrhyw etholiadau ac is-etholiadau annisgwyl a all ddigwydd.
Dylai eich cynlluniau wrth gefn gynnwys trefniadau ar gyfer y meysydd risg allweddol sy'n gysylltiedig â chynnal yr etholiad, gan gynnwys y canlynol:
Contractwyr
- Dylech sicrhau bod gan unrhyw gyflenwyr y byddwch yn eu defnyddio – fel darparwr eich System Rheoli Etholiad ac unrhyw ddarparwyr argraffu allanol – eu cynlluniau parhad busnes manwl eu hunain ar waith. Dylech hefyd fodloni'ch hun bod eu trefniadau wrth gefn yn ddigonol i'ch galluogi i gyflawni eich dyletswyddau os bydd unrhyw achosion o darfu ar y gwasanaeth wrth iddynt gyflawni eu dyletswyddau cytundebol. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar Reoli'r broses gaffael ar gyfer gwaith o dan gontractau allanol.
Lleoliadau
- Dylech baratoi rhestr o leoliadau amgen sydd ar gael ar fyr rybudd ar gyfer pob cam o'r broses etholiadau a rhoi gwybodaeth i staff am y trefniadau wrth gefn ar gyfer defnyddio'r lleoliadau hyn a allai effeithio ar eu rôl. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau Nodi ac archebu lleoliadau addas a Newidiadau munud olaf i orsafoedd pleidleisio
Staffio
- Dylech nodi atebion i'ch galluogi i ymateb i brinder staff sydyn. Dylech gydgysylltu â'ch adran Adnoddau Dynol a all ddefnyddio ei harbenigedd i'ch helpu i gynllunio. Mae'n bosibl y bydd rheolwyr adrannol eraill yn eich awdurdod lleol, neu mewn awdurdodau cyfagos y mae cytundebau dwyochrog ar waith rhyngoch chi a nhw, hefyd yn gallu cynnig cymorth ychwanegol wrth reoli unrhyw ofynion ar gyfer staff dros dro ar gyfer rhannau penodol o'r broses etholiadol. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar Neilltuo adnoddau staff digonol a darparu hyfforddiant a Staffio hyblyg
TG
- Mae TG hefyd yn rhan allweddol o lawer o'r prosesau sydd eu hangen i gynnal yr etholiad. Dylech gydgysylltu â'ch gwasanaethau TG er mwyn sicrhau bod gennych adnoddau a mesurau wrth gefn digonol ar waith i chi allu cyflawni eich swyddogaethau os bydd methiant TG. Gallai hyn gynnwys:
- gwella unrhyw fesurau sy'n caniatáu galluoedd gweithio o bell
- sicrhau bod cymorth TG penodedig ar gael yn ystod cyfnod yr etholiad
- storio rhai ffeiliau a dogfennau penodol yn lleol er mwyn gallu cael gafael arnynt yn haws
- dod o hyd i unrhyw gyfarpar sbâr neu amgen y gellid ei ddefnyddio os bydd angen e.e. argraffwyr, gliniaduron, llwybryddion
- Mae TG hefyd yn rhan allweddol o lawer o'r prosesau sydd eu hangen i gynnal yr etholiad. Dylech gydgysylltu â'ch gwasanaethau TG er mwyn sicrhau bod gennych adnoddau a mesurau wrth gefn digonol ar waith i chi allu cyflawni eich swyddogaethau os bydd methiant TG. Gallai hyn gynnwys:
Diogelwch y weinyddiaeth etholiadol
Dylid ystyried risgiau diogelwch hefyd fel rhan o'ch trefniadau wrth gefn, gan nodi sut y byddwch yn parhau i gyflawni’r etholiad os bydd lladrad, gweithgarwch twyllodrus, neu unrhyw risg diogelwch arall fel y nodir yn eich cofrestr risg. Dylech gysylltu â'r heddlu ac arbenigwyr parhad busnes o'ch cyngor i nodi risgiau a rhoi mesurau parhad priodol ar waith.
Yn ogystal, dylech weithio gyda'ch gwasanaethau TG i ddeall pa fesurau ataliol sydd ar waith i'ch cyngor amddiffyn rhag bygythiadau seiber, megis ymosodiadau meddalwedd wystlo. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol yn cynghori y gallai enghreifftiau o fesurau ataliol gynnwys:
- defnyddio Dilysu Aml-Ffactor
- buddsoddi mewn rheoli gwendidau
- cael copïau wrth gefn all-lein
- cael cynllun adfer profedig ar waith
Mae Papur Gwyn ar feddalwedd wystlo wedi'i gyhoeddi gan y Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol a'r Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol. Mae’r Ganolfan Seiberddiogelwch Genedlaethol hefyd wedi cynhyrchu’r canllawiau hyn i’ch helpu i asesu’r risgiau sy’n gysylltiedig â TG a bygythiadau seiber.
Diogelwch y rhai sy'n cymryd rhan
• Dylech ystyried eich cynlluniau i gynnal diogelwch pawb sy’n gysylltiedig â phob cam o’r etholiad, gan gynnwys eich staff, ymgeiswyr, asiantiaid a’u hymgyrchwyr. Dylech gysylltu â’r heddlu i nodi risgiau lleol a rhoi mesurau addas ar waith. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ystyriaethau diogelwch mewn digwyddiadau etholiadol a sut i reoli’r rhai sy’n bresennol yn y cyfrif.
• Mae canllawiau diogelwch ychwanegol ar gyfer etholiadau i Swyddogion Canlyniadau, ymgeiswyr ac asiantiaid ar gael yn https://www.gov.uk/government/publications/security-guidance-for-may-2021-elections.
Cynllunio ar gyfer rhoi prosesau allweddol ar waith
Dylai eich cynllun prosiect gynnwys manylion am sut y byddwch yn rhoi'r prosesau allweddol ar waith, gan gynnwys enwebiadau, achlysur agor amlenni pleidleisiau post, pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio, a dilysu a chyfrif. Dylai hefyd gynnwys sut y byddwch yn cyflawni'ch dyletswydd drwy sicrhau bod yr orsaf bleidleisio yn hygyrch i bawb. Mae ein canllawiau ar ddeall y rhwystrau i bleidleisio yn darparu rhagor o wybodaeth i gefnogi'ch cynllunio.
Gall llunio tybiaethau realistig a chadarn eich helpu i gynllunio ar gyfer rhoi'r prosesau allweddol hyn ar waith. Gall tybiaethau cadarn fod yn dystiolaeth ddefnyddiol wrth egluro eich penderfyniadau ac felly dylech eu dogfennu. Bydd rhannu'r tybiaethau â rhanddeiliaid yn gynnar yn y broses hefyd yn golygu y bydd modd i eraill brofi cadernid y tybiaethau cyn i'r gwaith cynllunio manwl gael ei gwblhau a bydd yn helpu i feithrin hyder yn eich cynlluniau.
Dylai eich gwaith cynllunio gynnwys tybiaethau sy'n ymwneud â'r disgwyliadau canlynol:
- y nifer sy'n pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio
- nifer y pleidleiswyr post
- nifer yr ymgeiswyr
- argaeledd staff
- cyflymder a gallu staff
- yr amser sydd ei angen i gwblhau pob proses
Dylid adolygu'r holl gynlluniau a thybiaethau yn rheolaidd. Bydd hyn yn helpu i lywio asesiad realistig ynghylch p'un a fyddwch yn gallu cyflawni eich cynllun cyffredinol, ac a fydd angen rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith ac os felly, pryd. Ym mhob achos dylai eich cynllun fod yn ddigon hyblyg i'ch galluogi i ymateb os bydd unrhyw rai o'ch tybiaethau yn newid, gan gynnwys pa gamau y byddwch yn eu cymryd o dan amgylchiadau o'r fath, a dylech gyfathrebu â rhanddeiliaid drwy gydol eich proses gynllunio a bod yn barod i esbonio'r rhesymau dros y penderfyniadau rydych yn eu gwneud. Ar gyfer penderfyniadau allweddol, dylech ddarparu eich rhesymau ar ffurf ysgrifenedig i randdeiliaid.
Y nifer sy'n pleidleisio
Mae'r nifer sy'n debygol o bleidleisio yn ffactor hanfodol wrth lywio eich gwaith cynllunio a deall pa adnoddau y bydd eu hangen ar gyfer y rhan fwyaf o brosesau, yn arbennig ar gyfer gorsafoedd pleidleisio a'r broses dilysu a chyfrif. Dylech benderfynu faint o bobl sy'n debygol o bleidleisio – gan ystyried y potensial y bydd diddordeb hwyr yn yr etholiadau, pan fydd y posibilrwydd o addasu cynlluniau yn gyfyngedig.
Dylai'r nifer amcangyfrifedig o bleidleiswyr fod yn seiliedig ar y dybiaeth, fel gofyniad sylfaenol, na fydd nifer y pleidleiswyr yn llai na'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiadau cyfatebol diwethaf.
Dylech ystyried effaith y newidiadau ar y broses gwneud cais am bleidlais bost ac effaith hyn ar nifer y pleidleisiau post disgwyliedig a anfonir.
Dylech hefyd ystyried patrymau cyfraddau dychwelyd mewn etholiadau blaenorol ac unrhyw beth a allai effeithio ar hyn. Er enghraifft, gallai dadleuon yr Arweinwyr a ddarlledir ar y teledu arwain at gynnydd hwyr yn nifer y ceisiadau cofrestru a phleidleisio absennol, gan newid y patrwm traddodiadol pan ddychwelir pleidleisiau post wedi'u cwblhau, yn ogystal ag effeithio ar nifer y pleidleiswyr.
Mae bob amser yn well dilyn y llwybr mwyaf diogel o ran y nifer a fydd yn pleidleisio oherwydd gall datblygiadau cenedlaethol a lleol arwain at newidiadau cyflym i'r nifer a fydd yn pleidleisio mewn gwirionedd.
Bydd yr adnoddau sydd gennych i gynnal y prosesau hyn, gan gynnwys nifer y staff a maint y lleoliad, hefyd yn ystyriaeth berthnasol yn eich gwaith cynllunio.
Nifer y pleidiau a/neu ymgeiswyr
Bydd nifer y pleidiau a/neu ymgeiswyr sy'n sefyll etholiad hefyd yn effeithio ar eich ystyriaethau cynllunio. Er enghraifft, os oes nifer mawr o bleidiau a/neu ymgeiswyr yn sefyll etholiad, gallai hyn olygu:
- y bydd papurau pleidleisio yn fawr ac y gall staff a phleidleiswyr fod yn arafach yn eu trin
- y bydd angen mwy o le ar gyfer y papurau pleidleisio mawr
- y gall y broses gyfrif ar gyfer rhannu'r pleidleisiau'n fwndeli ar gyfer pleidiau a/neu ymgeiswyr penodol fod yn arafach a chymryd mwy o le
- y gall fod angen mwy o le i ymgeiswyr ac asiantiaid yn y lleoliadau
Er mwyn canfod nifer tebygol y pleidiau a/neu ymgeiswyr, dylech wneud y canlynol:
- cysylltu â'r pleidiau gwleidyddol yn gynnar
- monitro datganiadau o ddiddordeb
- monitro ceisiadau am becynnau enwebu
Gellir ystyried y wybodaeth hon wedyn wrth wneud penderfyniadau ynghylch lleoliadau, cynllun y cyfrif, cyfarpar angenrheidiol a gofynion staffio.
Staffio ac amseriadau
Dylech edrych ar nifer y staff a'r prosesau a ddefnyddiwyd mewn etholiadau blaenorol a nifer y papurau pleidleisio a broseswyd. Yna, gellir defnyddio gwerthusiad o'r prosesau a'r cymarebau staffio, a phryd y cwblhawyd camau amrywiol proses yr etholiad, er mwyn gwneud penderfyniadau ar gyfer yr etholiadau hyn.
Dylech rannu'r manylion a'r amseriadau hyn â rhanddeiliaid ynghyd â'r tybiaethau sy'n sail iddynt.
Efallai y bydd gan rai rhanddeiliaid ddisgwyliadau afrealistig ynglŷn â pha mor gyflym y gellir cwblhau'r prosesau a gall hyn arwain at densiwn a rhwystredigaeth. Er mwyn rheoli disgwyliadau, dylech egluro'n fanwl y prosesau dan sylw a faint o amser y mae pob cam yn debygol o'i gymryd. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler ein canllawiau ar ddarparu gwybodaeth am brosesau etholiadol allweddol.
Neilltuo adnoddau staff digonol a darparu hyfforddiant
Dylai eich cynllun prosiect gynnwys nodi gofynion staffio, gan gynnwys unrhyw drefniadau recriwtio angenrheidiol. Mae'n hanfodol eich bod yn nodi'r staff y bydd eu hangen arnoch a gwneud y penodiadau angenrheidiol cyn gynted â phosibl.
Dylech ofyn i adran adnoddau dynol eich awdurdod lleol am gyngor fel y bo angen er mwyn sicrhau bod y dulliau a ddefnyddir i nodi, recriwtio a chyflogi staff yn gadarn a'u bod yn cydymffurfio â'r holl ofynion cyfreithiol.
Yn dilyn asesiad o berfformiad staff a ddefnyddiwyd mewn digwyddiadau etholiadol blaenorol, efallai y byddwch am ysgrifennu at staff a ddefnyddiwyd o'r blaen ar gam cynnar yn y broses gynllunio er mwyn sicrhau eu bod ar gael.
Bydd angen i chi sicrhau bod pob aelod o staff wedi cael hyfforddiant digonol i ymgymryd â'i rôl/rolau. Dylech ddarparu hyfforddiant ymwybyddiaeth hygyrchedd i bob aelod o staff sy'n rhyngweithio â phleidleiswyr, gan gynnwys staff sy'n cefnogi gwasanaethau etholiadol, er mwyn helpu i wella eu dealltwriaeth o anghenion pleidleiswyr anabl a phwysigrwydd cyfathrebu clir.
Mae ein canllaw ar hygyrchedd yn cynnwys rhagor o wybodaeth ar sicrhau bod y rheiny sy'n gweithio i gefnogi'r bleidlais yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd.
Sefydlu tîm prosiect
Dylech sefydlu tîm prosiect er mwyn eich helpu i gyflawni'ch swyddogaethau a chynnal etholiad a gaiff ei redeg yn dda. Yn ogystal â chi'ch hun, dylai eich tîm prosiect gynnwys unrhyw ddirprwyon a benodwyd, aelodau eraill o staff etholiadau a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol, lle nad chi yw'r swyddog hwnnw.
Dylai hefyd gynnwys unrhyw aelodau allweddol eraill o bersonél sy'n briodol yn eich barn chi, fel:
- tîm cyfathrebu eich cyngor
- cydweithwyr Adnoddau Dynol
- cydweithwyr cyllid
- TG
- staff eich canolfan gyswllt/blaen tŷ
- staff cyfleusterau
- pwynt cyswllt unigol (SPOC) eich heddlu lleol
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdod lleol, dylai eich tîm prosiect gynnwys y Swyddog Cofrestru Etholiadol ac aelodau staff gwasanaethau etholiadol perthnasol eraill o'r ardal awdurdod lleol arall/ardaloedd awdurdod lleol eraill fel y gellir sicrhau cyswllt effeithiol wrth gynllunio a chynnal yr etholiadau.
Sefydlu tîm prosiect
Dylai fod gan y tîm prosiect gylch gwaith clir a dealltwriaeth o'r tasgau i'w cynnal. Dylech baratoi amserlen o gyfarfodydd yn ystod y cam cynllunio, a chadw cofnod o bob cyfarfod fel trywydd archwilio o'r hyn a drafodwyd ac o unrhyw benderfyniadau a wnaed. Lle y bo'n bosibl, dylai'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) gadeirio unrhyw gyfarfodydd ar gyfer y tîm prosiect.
Penodi Dirprwy Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
Dylech sicrhau bod trefniadau dirprwyo ar waith rhag ofn na allwch weithredu'n bersonol fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol). Gallwch benodi dirprwyon i'ch helpu i gyflawni eich holl gyfrifoldebau neu rai ohonynt1 a gall hyn fod am gyfnod cyfyngedig neu am gyfnod amhenodol.
Dylai unrhyw ddirprwyon a gaiff eu penodi feddu ar y sgiliau a'r wybodaeth sydd eu hangen i ymgymryd â'r swyddogaethau a neilltuwyd iddynt megis helpu i dderbyn papurau enwebu, rheoli'r broses pleidleisiau post neu wneud dyfarniadau ynghylch papurau pleidleisio amheus.
Dylech gadarnhau unrhyw benodiadau'n ysgrifenedig a chynnwys manylion y swyddogaethau y mae'r dirprwy wedi'i awdurdodi i'w harfer ar eich rhan. Dylid derbyn y penodiad yn ysgrifenedig hefyd.
Mae Dirprwy Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn atebol, yn yr un ffordd â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), am dorri dyletswydd swyddogol. 2
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol dylech ystyried a ydych am ddirprwyo rhai o'ch swyddogaethau yn llawn neu'n rhannol i uwch swyddog yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a28(5) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a63 ↩ Back to content at footnote 2
Gweithio gyda'r Swyddog Cofrestru Etholiadol
Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, bydd angen i chi gysylltu'n agos â'r unigolyn hwnnw i gael y data cofrestru a phleidleisio absennol perthnasol hefyd. Dylech sicrhau bod diogelwch data yn cael ei ystyried a bod unrhyw ddata yn cael eu trosglwyddo'n ddiogel.
Os bydd angen cyfnewid data yn electronig, dylech gytuno ar yr amseru ar gyfer cyfnewid data a sicrhau bod y broses yn cael ei phrofi cyn y dyddiad trosglwyddo cyntaf.
Caiff y data eu diweddaru ar adegau gwahanol yn ystod amserlen yr etholiad, gan fod yn rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gyhoeddi dau hysbysiad newid etholiad interim yn ogystal â'r hysbysiad newid etholiad terfynol.1 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Yr Alban a Lloegr.
Mae'r Comisiwn wedi cyhoeddi amserlen sy'n cynnwys y dyddiadau sy'n berthnasol ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiadau hyn.
Amserlen nad yw'n cynnwys dyddiadau penodol ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych chi, fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdod lleol, dylech gysylltu'n agos â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol a staff etholiadau yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill i roi trefniadau ar waith i drosglwyddo a derbyn data, gan gynnwys unrhyw ddiweddariadau yn dilyn cyhoeddi'r hysbysiadau newid etholiad interim a therfynol. Fel rhan o ddatblygu'r trefniadau hyn, bydd angen i chi gadarnhau sut y byddwch yn rheoli'r data a gewch yn ymarferol, gan gynnwys a all eich system feddalwedd brosesu data a dderbynnir gan yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill, yn enwedig lle maent yn defnyddio system feddalwedd wahanol i reoli etholiad. Ceir rhagor o wybodaeth am faterion ymarferol sy'n ymwneud â phleidleisio absennol mewn etholaethau trawsffiniol yn Pleidleisio Absennol.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13AB ↩ Back to content at footnote 1
Penodi staff ar gyfer prosesau etholiadol penodol
Bydd angen i chi benodi staff i'ch helpu i gynnal y prosesau etholiadol amrywiol. Dylech nodi gofynion staffio a rhoi prosesau ar waith i recriwtio'r staff angenrheidiol. Dylech allu defnyddio cronfa ddata o'r staff a ddefnyddiwyd mewn etholiadau blaenorol i helpu yn hyn o beth, a dylech hefyd gael cyngor gan dîm Adnoddau Dynol eich cyngor ar unrhyw anghenion recriwtio allanol a allai fod gennych.
Gall staff hefyd gael eu recriwtio yn aml o blith cyflogeion cynghorau. Gall awdurdodau lleol ganiatáu i'w staff weithio ar yr etholiad, ond nid yw'n ofynnol iddynt wneud hynny.
Wrth nodi a recriwtio staff, dylech ystyried y sgiliau sy'n briodol ar gyfer pob rôl a'u defnyddio i greu disgrifiad swydd addas. Er enghraifft, gallai'r rheini sydd â phrofiad o weithio ym maes cyllid gael eu recriwtio i gofnodi'r papurau pleidleisio nas defnyddiwyd yn ystod y cam dilysu a chyfrif, neu weithio mewn sesiynau agor pleidleisiau post i gofnodi'r cyfansymiau dyddiol.
Gan nad oes unrhyw gyfyngiad o ran oedran ar gyfer staff sy'n gweithio ar brosesau etholiadol penodol, gallech gysylltu â sefydliadau addysg bellach ac addysg uwch lleol i ddod o hyd i bobl ifanc a allai gael eu recriwtio i weithio mewn gorsafoedd pleidleisio neu yn ystod y cam dilysu a chyfrif, a allai hefyd helpu i annog pobl ifanc i ymgysylltu fwy â'r broses ddemocrataidd.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am dalu ffioedd i staff yn ein hadran ar Cyfrifyddu ar gyfer yr etholiad.
Penodi staff ar gyfer anfon ac agor pleidleisiau post
Dylech nodi gofynion staffio ar gyfer sesiynau anfon ac agor pleidleisiau post. Efallai y bydd angen y staff canlynol:
- staff goruchwylio wedi'u hyfforddi'n arbennig
- staff clercaidd
- staff TG
Ni ddylech benodi unigolyn a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd yn yr etholiad neu yn ei gylch.
Dylech gofio'r gofynion amser ar aelodau o staff craidd sy'n gysylltiedig ag anfon ac agor pleidleisiau post wrth ystyried eich anghenion staffio.
Staff ar gyfer anfon pleidleisiau post
Caiff nifer o bleidleisiau post ychwanegol eu hanfon yn ystod y cyfnod yn union cyn y diwrnod pleidleisio er mwyn cynnwys y rheini sydd wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post a'u cofrestru yn ystod y cyfnod cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru.1 Bydd angen i chi ystyried sut i reoli hyn, gan sicrhau y gellir anfon pleidleisiau post at etholwyr cyn gynted â phosibl.
Bydd angen i chi hefyd gynllunio ar gyfer unrhyw drefniadau penodol y bydd eu hangen i reoli sut y caiff pecynnau pleidleisio drwy'r post ychwanegol eu hanfon yn agos at y diwrnod pleidleisio, pan benderfynir ar geisiadau yn agos at y bleidlais. Am ragor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar anfon pleidleisiau post.
Dylech hefyd ystyried cyfanswm nifer cyfredol y pleidleiswyr post a nifer y pleidleiswyr post a ragwelir wrth benderfynu ar eich trefniadau staffio, yn ogystal â'r posibilrwydd y ceir ymgysylltu a diddordeb hwyr yn yr etholiad pan na fydd llawer o gyfle i addasu cynlluniau. Dylech gynllunio ar gyfer y posibilrwydd y bydd nifer uchel yn pleidleisio ond, fel gofyniad sylfaenol, dylech dybio na fydd nifer y pleidleiswyr post yn llai na nifer y pleidleiswyr post yn yr etholiadau cyfatebol diwethaf. Hefyd, bydd eich adolygiad o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol yn rhoi arwydd i chi o ba mor gadarn oedd eich tybiaethau staffio blaenorol.
Efallai y bydd angen i chi ddiwygio'r asesiad hwn ar ôl i chi dderbyn rhestrau terfynol pleidleiswyr post gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol. Dylech gynnwys digon o hyblygrwydd a threfniadau wrth gefn yn eich trefniadau staffio i ddelio â chynnydd munud olaf yn nifer y pleidleiswyr post, cynnydd annisgwyl yn y nifer sy'n pleidleisio, neu nifer amrywiol o bleidleisiau drwy'r post yn cael eu dychwelyd ar ddiwrnodau gwahanol. Er enghraifft, os bydd dadleuon arweinwyr ar y teledu, gall hyn gael effaith ar batrwm a nifer y pleidleisiau post a ddychwelir a dylech ystyried hyn wrth benderfynu ar eich gofynion staffio. Mae angen i'ch trefniadau sicrhau y gallwch reoli'r rheini a ddosberthir i orsafoedd pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio mewn modd effeithiol hefyd.
Rheoli contractwyr
Os byddwch yn penderfynu gosod y broses o anfon pleidleisiau post yn gyfan gwbl neu'n rhannol ar gontract allanol, dylech ddynodi aelod o'r tîm prosiect i fonitro gwaith ar gontract allanol, ac yn benodol i fynychu'r rhannau hynny o'r broses ddosbarthu a roddwyd ar gontract allanol. Dylai'r unigolyn hwn hefyd fonitro gwaith y contractwr, a ddylai gynnwys ymgymryd â thasgau fel y canlynol:
- cynnal hapwiriadau er mwyn sicrhau nad yw'r papurau ar gyfer pleidleisiau post yn cynnwys unrhyw wallau
- cadarnhau bod y pecynnau pleidleisio drwy'r post yn cael eu coladu'n gywir
- sicrhau bod unrhyw bleidleisiau post y mae angen iddynt gael eu hanfon dramor yn cael blaenoriaeth
Ceir rhagor o ganllawiau ar reoli contractwyr a chyflenwyr yn ein canllawiau ar Reoli contractwyr a chyflenwyr.
Staff ar gyfer agor pleidleisiau post
Bydd y modd y dilysir manylion adnabod personol, gan gynnwys faint o'r broses hon a gaiff ei hawtomeiddio a faint ohoni fydd yn gorfod cael ei gwneud â llaw, hefyd yn cael effaith ar nifer y staff y bydd angen i chi eu penodi ar gyfer agor pleidleisiau post a ddychwelir. Rhaid i chi gael trefniadau ar waith i'ch galluogi i wirio pob un o'r manylion adnabod ar gyfer pleidleisiau post.2
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar y broses agor pleidleisiau post.
- 1. Adran 13B, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau 84 a 85A, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Penodi staff gorsafoedd pleidleisio
Rhaid i chi benodi a thalu Swyddog Llywyddu a'r cyfryw Glercod Pleidleisio ag sydd eu hangen i staffio pob gorsaf bleidleisio.1 Ni ellir penodi unrhyw unigolyn a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd yn yr etholiad neu yn ei gylch.2
Mae rhai cyfrifoldebau na all Clerc Pleidleisio ymgymryd â nhw, megis penderfynu a oes etholwr wedi dangos math derbyniol o brawf adnabod, neu orchymyn i rywun adael yr orsaf bleidleisio. Mae gennych yr hyblygrwydd i ddefnyddio'r Clercod Pleidleisio a gyflogir gennych i gyflawni swyddogaethau a chyfrifoldebau eraill sy'n angenrheidiol i gynnal proses pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio yn effeithiol, gan gynnwys:
- y broses bleidleisio – gwirio'r gofrestr, gwirio prawf adnabod ffotograffig, marcio'r gofrestr, llenwi'r rhestr rhifau cyfatebol a gwaith papur statudol eraill megis y rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd ac ati.
- hwyluso gwiriadau o brawf adnabod ffotograffig yn breifat, os gofynnir am hynny
- casglu, derbyn a gwrthod pleidleisiau post a gyflwynwyd yn yr orsaf bleidleisio a chwblhau ffurflen y bleidlais bost yn gywir
- rheoli llif yr etholwyr a sicrhau cyfrinachedd y bleidlais
- rhoi gwybodaeth ychwanegol a chymorth i etholwyr, gan gynnwys:
- ateb cwestiynau am y broses
- rhoi gwybodaeth am y cyfarwyddiadau i bleidleisio a'r gofyniad i ddangos prawf adnabod ffotograffig
- esbonio'r mathau o brawf adnabod ffotograffig y gellir eu defnyddio
- rhoi cyngor a chymorth i wneud y bleidlais yn hygyrch
Wrth benderfynu ar neilltuo etholwyr a staff i orsafoedd pleidleisio, drwy roi sylw i'n canllawiau ar y lefelau staffio gofynnol a argymhellir ar gyfer gorsafoedd pleidleisio ac ar sut y gellid defnyddio staff mewn senarios gwahanol, byddwch yn helpu i sicrhau y gall pleidleiswyr gael gwasanaeth o ansawdd uchel.
- 1. Rheol 26 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 26 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Cymarebau staff a argymhellir ar gyfer gorsafoedd pleidleisio
Eich cyfrifoldeb chi yw ystyried pob gorsaf bleidleisio yn unigol a gwneud penderfyniadau ynghylch neilltuo staff ac etholwyr yn unol â hynny.
Rydym yn argymell y cymarebau canlynol wrth neilltuo etholwyr a staff i orsafoedd pleidleisio:
Etholwyr (ac eithrio pleidleiswyr post) | Nifer argymelledig o staff gorsaf bleidleisio |
---|---|
0 - 1,250 | 3 (1 Swyddog Llywyddu a 2 Clerc Pleidleisio) |
1,250 - 2,250 | 4 (1 Swyddog Llywyddu a 3 Clerc Pleidleisio) |
Ni ddylid neilltuo mwy na 2,250 o etholwyr i orsaf bleidleisio.
Mae'r cymarebau a amlinellir yn tybio nad yw'r etholiad yn un cyfun. Os ceir etholiadau cyfun, dylech ystyried a oes angen staff ychwanegol ar gyfer rheoli mwy nag un bleidlais.
Arweiniad yn unig yw'r cymarebau hyn, nid ydynt yn orfodol.
Wrth wneud penderfyniadau ar neilltuo etholwyr a staff i orsafoedd pleidleisio, dylech ystyried yn llawn amgylchiadau penodol pob gorsaf bleidleisio ac anghenion eich etholwyr, a dogfennu'r rhesymeg y tu ôl i'r penderfyniadau a wnewch.
Dylech ystyried y canlynol o leiaf:
- unrhyw amgylchiadau lleol penodol fel cynnydd yn y boblogaeth (er enghraifft, oherwydd unrhyw ddatblygiadau tai newydd ers eich adolygiad diwethaf o'r mannau pleidleisio), tueddiadau demograffig, ac unrhyw anghenion hysbys eich etholwyr lleol (er enghraifft, unrhyw ardaloedd lle rydych yn disgwyl y gallai fod angen i chi gynnal gwiriad ID yn breifat yn amlach)
- lefelau'r pleidleiswyr post
- nifer y pleidleisiau post a gyflwynir fel arfer a'r effaith y bydd trin pleidleisiau post yn ei chael ar amser staff gorsafoedd pleidleisio - gan gynnwys cwblhau ffurflen y bleidlais bost yn gywir
- y posibilrwydd y bydd ymgysylltu hwyr, gan gynnwys unrhyw faterion lleol neu genedlaethol, a allai effeithio ar y nifer sy'n pleidleisio a diddordeb yn yr etholiad – fel gofyniad sylfaenol, dylech dybio na fydd y nifer sy'n pleidleisio yn llai na'r nifer a bleidleisiodd yn yr etholiad cyfatebol diwethaf
- gwasgariad pleidleiswyr yn ystod y dydd – er enghraifft, os yw tueddiadau diweddar yn dangos bod nifer fawr o bleidleiswyr yn mynychu'r orsaf yn y bore, sicrhewch fod eich cymarebau staffio yn caniatáu ar gyfer hyn a bydd yn atal ciwiau mawr rhag ffurfio
- cymorth ychwanegol efallai y bydd ei angen ar etholwyr i ddeall unrhyw newidiadau diweddar i'r broses etholiadol, yn enwedig lle gallai hyn effeithio'n wahanol yn dibynnu ar ba etholiadau sy'n cael eu cynnal
- sut y bydd y pleidleisiwr yn symud drwy'r broses bleidleisio o'r adeg y daw i mewn i'r orsaf bleidleisio i'r adeg y bydd yn ei gadael
- mewn etholiadau cyfunol, yr effaith a gaiff y ffaith bod etholiadau wedi'u cyfuno, megis yr amser y mae'n ei gymryd i ddosbarthu papurau pleidleisio a'r amser y mae'n ei gymryd i bleidleiswyr gwblhau mwy nag un papur pleidleisio
Nid yw'r rhestr hon yn gynhwysfawr, a dylech hefyd ystyried unrhyw ffactorau eraill sy'n briodol yn eich barn chi. Mae ein canllawiau hygyrchedd yn cynnwys ffactorau ychwanegol i'w hystyried wrth gynllunio eich lefelau staffio yn yr orsaf bleidleisio. Dylai pob penderfyniad gael ei wneud fesul achos ac nid ar gyfer yr etholaeth gyfan.
Yn ogystal ag ystyried nifer y staff y bydd eu hangen i reoli pob gorsaf bleidleisio, dylech feddwl sut y byddwch yn gallu ymateb yn gadarnhaol i geisiadau gan bleidleiswyr i gael gwiriad ID gan aelod benywaidd o'r staff. Yn ddelfrydol, bydd gennych aelod benywaidd o'r staff ym mhob gorsaf bleidleisio, ond lle nad yw hyn yn bosibl, dylech feddwl sut y gallwch ddefnyddio staff eraill yn hyblyg i fodloni'r cais, er enghraifft, drwy ddefnyddio arolygwyr gorsafoedd pleidleisio benywaidd y dirprwywyd awdurdod iddynt i gynnal y gwiriadau hyn. Mae rhagor o wybodaeth am arolygwyr gorsafoedd pleidleisio ar gael isod.
Yn ogystal â chadw cofnod o'r penderfyniadau a wnaed, dylech gadw cynllun sy'n sicrhau eich bod yn gallu ymateb i unrhyw broblemau, er enghraifft, delio â chiwiau mewn un neu fwy o orsafoedd pleidleisio yn eich ardal ar adegau sy'n arbennig o brysur, fel y rhuthr traddodiadol ar ôl gwaith, neu yn y cyfnod cyn diwedd y bleidlais am 10pm. Rhaid rhoi papur pleidleisio i bleidleiswyr sydd mewn ciw yn eu gorsaf bleidleisio am 10pm.
Arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
Yn ogystal â gwneud penderfyniadau ar y nifer o staff gorsafoedd pleidleisio y byddwch eu hangen, dylech hefyd sicrhau bod gennych ddigon o arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i gefnogi cyflawniad y bleidlais yn eich ardal. Wrth wneud eich penderfyniad, dylech ystyried ffactorau megis eich daearyddiaeth leol a phrofiad staff gorsaf bleidleisio ym mhob man pleidleisio.
Gallech ddefnyddio arolygwyr gorsafoedd pleidleisio benywaidd i gefnogi etholwyr sy’n gwneud cais i gael eu ID wedi’i wirio gan aelod benywaidd o staff pan nad oes aelod benywaidd o staff ar gael mewn gorsaf bleidleisio benodol ar yr adeg honno. I hwyluso hyn byddai angen i chi benodi arolygydd yr orsaf bleidleisio yn Ddirprwy Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar gyfer y diwrnod pleidleisio. Dylech sicrhau bod unrhyw benodiad tebyg wedi’i ddiffinio’n glir i adlewyrchu ei fod dim ond ar gyfer gwneud penderfyniadau ar ddilysrwydd ID fel rhan o unrhyw wiriadau y maent yn eu cynnal.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau Penodi arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
Enghreifftiau o ddefnyddio staff mewn gorsaf bleidleisio
Mae opsiynau gwahanol ar gael i chi wrth ddefnyddio staff mewn gorsafoedd pleidleisio. Dylai eich cynlluniau fod yn ddigon hyblyg i ganiatáu i chi ddefnyddio staff i ymateb i faterion penodol a all godi yn ystod y diwrnod pleidleisio.
Dyma rai enghreifftiau:
- os oes gennych un Swyddog Llywyddu gyda dau aelod o staff ychwanegol wedi'u neilltuo i orsaf bleidleisio, dylid hyfforddi'r tri yn y broses o anfon papurau pleidleisio, gwirio ID ffotograffig a llenwi'r gwaith papur cysylltiedig. Tra bod dau aelod o staff yn cynnal y broses anfon, gallai'r llall fel swyddog gwybodaeth roi cyngor a chymorth i bleidleiswyr yn ôl y gofyn
- os lleolir yr orsaf bleidleisio mewn man pleidleisio sy'n cynnwys sawl gorsaf bleidleisio, gellid defnyddio aelod o staff fel swyddog gwybodaeth sy'n cwmpasu'r holl orsafoedd pleidleisio i helpu i gyfeirio pleidleiswyr i'r orsaf bleidleisio gywir a rhoi cyngor a chymorth i bleidleiswyr yn ôl y gofyn
- gallai staff o un orsaf bleidleisio yn y man pleidleisio gael eu defnyddio hefyd i helpu staff mewn gorsaf bleidleisio arall yn yr un man pleidleisio os oes angen, er enghraifft, o ganlyniad i nifer fawr o bleidleiswyr yn mynd i un o'r gorsafoedd ar adeg benodol pan fydd yr orsaf arall yn dawel.
Efallai y byddwch hefyd am ystyried penodi tîm o staff gorsaf bleidleisio wrth gefn i gael eu defnyddio'n hyblyg yn ôl yr angen, megis yn ystod oriau brig neu yn y cyfnod cyn diwedd y bleidlais, neu i ymateb i faterion penodol a allai godi trwy gydol y diwrnod pleidleisio. Er enghraifft, gallech leoli staff ychwanegol yn y man pleidleisio mwyaf/prysuraf sydd gennych mewn ardal a'u defnyddio mewn gorsafoedd eraill yn yr ardal pan fo angen.
Os nad yw rhannau o'r ardal etholiadol yn hawdd eu cyrraedd, efallai y bydd hi'n ddefnyddiol i chi gael timau mewn gwahanol rannau o'r ardal.
Mae Llywodraeth y DU wedi cadarnhau bod modd defnyddio'n hybylg y cyllid sy'n cael ei ddarparu i gefnogi staff ychwanegol mewn gorsafoedd pleidleisio. Er enghraifft, nid yn unig i gyflogi clercod pleidleisio ychwanegol mewn gorsafoedd pleidleisio ond hefyd i gefnogi penodi arolygwyr gorsafoedd pleidleisio ychwanegol neu staff wrth gefn fel y bo'n briodol.
Bydd angen i chi hefyd feddwl sut i hyfforddi staff fel y gallwch eu defnyddio'n hyblyg ar y diwrnod pleidleisio. Gellir dod o hyd i ragor o ganllawiau ar hyfforddiant yn Hyfforddi swyddogion llywyddu clercod pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio.
Mae llawlyfr y Comisiwn ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio yn amlinellu'n fanylach y gweithdrefnau y dylai staff eu dilyn drwy gydol y diwrnod pleidleisio ac ar ddiwedd y bleidlais.
Penodi arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
Mae arolygwyr gorsafoedd pleidleisio yn chwarae rôl bwysig yn y gwaith o reoli'r bleidlais yn effeithiol. Maent yn gyswllt cyfathrebu hanfodol rhyngoch chi a staff eich gorsafoedd pleidleisio gan gynnwys ymdrin ag ymholiadau a phroblemau sy'n codi mewn gorsafoedd pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.
Dylech benodi arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i ymweld ac archwilio gorsafoedd pleidleisio ar eich rhan ar y diwrnod pleidleisio. Wrth benderfynu sut i neilltuo arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i fannau pleidleisio, dylech ystyried:
- daearyddiaeth yr ardal a'r pellter teithio rhwng y mannau pleidleisio
- nifer y gorsafoedd pleidleisio ym mhob man pleidleisio
- profiad staff gorsafoedd pleidleisio ym mhob gorsaf bleidleisio
- y nifer ddisgwyliedig o bleidleiswyr ac unrhyw amgylchiadau lleol penodol
- sawl gwaith y bydd disgwyl i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio ymweld â phob gorsaf bleidleisio yn ystod y dydd
Dyletswyddau arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
Dylai arolygwyr gorsafoedd pleidleisio sicrhau bod pob un o'r gorsafoedd pleidleisio y maent yn gyfrifol amdanynt:
- wedi'u gosod yn gywir er mwyn ystyried anghenion pleidleiswyr a helpu i sicrhau bod yr orsaf bleidleisio yn rhedeg yn ddidrafferth
- yn cynnwys yr adnoddau angenrheidiol ac yn hygyrch i bob pleidleisiwr
- yn bodloni eich disgwyliadau o ran darparu gwasanaeth i bleidleiswyr
Dylai arolygydd yr orsaf bleidleisio weithio gyda'r Swyddogion Llywyddu a staff eraill y gorsafoedd pleidleisio a delio ag unrhyw broblemau sy'n codi yn ystod y diwrnod pleidleisio ac ar ddiwedd y diwrnod pleidleisio a dylent uwchgyfeirio unrhyw broblemau atoch chi fel y bo'n briodol.
Dylai fod gennych broses ar waith i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gyfleu unrhyw ddiwygiadau i'r gofrestr a cheisiadau i benodi dirprwyon mewn argyfwng ar y diwrnod pleidleisio. Dylech hysbysu arolygwyr gorsafoedd pleidleisio o'u rôl yn hyn o beth, os yw'n berthnasol.
Fel cam cychwynnol, dylai arolygwyr gorsafoedd pleidleisio anelu at ymweld â phob un o'u gorsafoedd pleidleisio neilltuedig mor gyflym â phosibl er mwyn eich sicrhau bod pob gorsaf wedi agor ar amser ac yn gweithredu'n effeithiol.
Cyn yr ymweliadau cychwynnol hyn gallai Swyddogion Llywyddu anfon cyfathrebiad ar wahân at eu harolygwyr gorsafoedd pleidleisio, cyn i'r bleidlais agor. Er enghraifft, gallai arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gael eu hysbysu drwy neges destun yn cadarnhau a yw'r orsaf bleidleisio yn barod i'w hagor, ac a oes unrhyw broblemau, er mwyn helpu arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i flaenoriaethu eu hymweliadau.
Gellir defnyddio ymweliadau dilynol drwy gydol y dydd at amrywiaeth o ddibenion, gan gynnwys y canlynol:
- casglu pleidleisiau post
- ateb unrhyw gwestiynau a allai fod gan staff gorsafoedd pleidleisio
- cadarnhau bod pob hysbysiad wedi'i arddangos yn briodol o hyd
- dosbarthu unrhyw gyfarpar coll neu ychwanegol sydd ei angen
Cyfarwyddiadau i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
Dylech roi cyfarwyddiadau clir i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio ynglŷn â'u rôl a rhestr wirio o dasgau y dylent eu cyflawni a'u cwblhau yn ystod eu hymweliadau â gorsafoedd pleidleisio. Mae'r rhestr wirio hon hefyd yn cynnwys rhestr o'r hyn y dylai pob arolygydd gorsafoedd pleidleisio ei gael cyn y diwrnod pleidleisio.
Gellir defnyddio rhestrau gwirio wedi'u cwblhau hefyd i lywio gwerthusiad o addasrwydd gorsafoedd pleidleisio fel rhan o'r broses adolygu ôl-etholiadol. Mae copi o'r rhestr wirio i'w hargraffu a'i defnyddio yn ein hadran adnoddau cynllunio ar gyfer yr etholiad.
Staffio hyblyg mewn gorsafoedd pleidleisio
Dylech baratoi rhestr o'r staff y gallwch gysylltu â nhw a all gamu i mewn i rôl pan na fydd unigolyn ar gael – er enghraifft, oherwydd salwch. Dylai'r rhestr gynnwys staff a fyddai'n gallu gweithio ar gyfnod byr iawn o rybudd.
Er na fydd penodi staff 'wrth gefn' efallai yn ymarferol nac yn bosibl bob amser o fewn eich cyllideb, dylech fod yn barod i ddefnyddio staff mewn ffordd hyblyg ar y diwrnod pleidleisio i ymateb i broblemau penodol a all godi.
Gallech hefyd ystyried penodi Clercod Pleidleisio rhan amser i helpu yn ystod oriau pleidleisio brig disgwyliedig neu yn y cyfnod cyn 10pm. Hefyd, gallech benodi tîm o staff gorsafoedd pleidleisio wrth gefn i'w defnyddio yn ystod oriau brig mewn gorsafoedd pleidleisio penodol neu i ymateb i broblemau penodol a all godi yn ystod y diwrnod pleidleisio neu ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio. Os nad yw rhannau o'r etholaeth yn hygyrch iawn, gall fod yn ddefnyddiol trefnu i dimau gael eu hanfon i rannau gwahanol o ardal yr etholaeth.
Er mwyn gallu defnyddio staff yn hyblyg ar y diwrnod pleidleisio, bydd angen i chi hyfforddi staff yn briodol. Dylech hyfforddi Clercod Pleidleisio a Swyddogion Llywyddu yn y fath fodd fel eich bod yn sicrhau bod ganddynt y wybodaeth dechnegol i gyflawni rolau ei gilydd os oes angen a hyd y caniateir yn ôl y gyfraith.
Gallwch gael rhagor o ganllawiau ar hyfforddiant yn yr adran Staffio a hyfforddiant.
Dylai arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gael yr un hyfforddiant â staff gorsafoedd pleidleisio fel y gellir eu defnyddio mewn ffordd hyblyg i gyflawni dyletswyddau gorsafoedd pleidleisio os oes angen. Dylech hefyd ddarparu briff ychwanegol ar gyfer arolygwyr gorsafoedd pleidleisio, yn cwmpasu eitemau sy'n benodol i'w rôl.
Dylech roi copi o lawlyfr y Comisiwn ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio a'r canllaw cyflym ar orsafoedd pleidleisio i staff gorsafoedd pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio, a rhoi cyfarwyddyd iddynt ddarllen y ddau cyn y diwrnod pleidleisio ac i ddod â'u copïau gyda nhw ar y diwrnod pleidleisio ei hun. Dylech roi copïau sbâr o'r llawlyfr a'r canllaw cyflym i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio er mwyn iddynt allu eu rhoi i orsafoedd pleidleisio os bydd staff gorsafoedd pleidleisio yn anghofio mynd â'u copïau gyda nhw ar y diwrnod pleidleisio.
Penodi staff dilysu a chyfrif
Er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr fod yn hyderus y caiff eu pleidleisiau eu cyfrif yn y ffordd a fwriadwyd ganddynt, bydd angen i chi sicrhau bod adnoddau staff priodol ar gael er mwyn sicrhau bod y prosesau dilysu a chyfrif yn amserol.
Mae'n bwysig sicrhau bod gennych y nifer cywir o staff cymwys, medrus a gwybodus – a bod pob aelod o staff yn glir ynghylch ei rôl – fel bod y cyfrif yn digwydd yn effeithlon ac yn effeithiol ac yn cael ei gynnal yn unol â'r egwyddorion ar gyfer proses dilysu a chyfrif effeithiol. Dylech hefyd sicrhau bod nifer priodol o staff wrth gefn rhag ofn y bydd unrhyw staff yn absennol ar ddiwrnod y broses gyfrif.
Dylech ystyried penodi'r canlynol:
- uwch-aelodau o staff i gynorthwyo gyda'r gwaith cyffredinol o weithredu a chydlynu prosesau a chyfrifo'r canlyniad
- staff a goruchwylwyr i ddelio â chludo'r blychau papurau pleidleisio drwy'r post sydd wedi'u selio yn ddiogel i'r lleoliad dilysu
- staff a goruchwylwyr i ddelio â derbyn deunyddiau a phleidleisiau post o orsafoedd pleidleisio
- staff a goruchwylwyr i ddelio â'r achlysur agor amlenni pleidleisiau post olaf
- staff a goruchwylwyr i ddelio â dilysu papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd/nas defnyddiwyd, papurau pleidleisio a ddifethwyd a'r rhestr pleidleisiau a gyflwynwyd
- staff a goruchwylwyr i ddelio â didoli a chyfrif pleidleisiau
- porthorion, staff diogelwch a staff wrth y drws i ddelio â diogelwch y safle
- unigolyn/unigolion sydd â gwybodaeth am y safle i ddelio â rheoli'r cyfleusterau ar y safle ac o'i gwmpas
- swyddog(ion) cyfrifol i oruchwylio diogelwch blychau pleidleisio a deunydd ysgrifennu perthnasol a phan fydd toriad mewn gweithrediadau neu pan fydd angen pecynnu papurau pleidleisio a'u cludo i leoliad arall ar ddiwedd y broses ddilysu
- staff profiadol ym maes cysylltu â'r cyfryngau
- unrhyw aelodau eraill o staff sydd eu hangen yn eich barn chi
Er nad yw'n realistig disgwyl y bydd yr holl staff dilysu a chyfrif yn brysur ar bob cam o'r broses dilysu a chyfrif, gallai cynllun rheoli ymatebol sy'n monitro lefelau gweithgarwch ac yn eich galluogi i ad-drefnu adnoddau, leihau'r amser a gymerir i gwblhau prif rannau'r broses.
Wrth ddatblygu eich cynlluniau staffio ar gyfer y broses dilysu a chyfrif, bydd angen i chi gofio ei bod yn ofynnol, yn unol â'r ddeddfwriaeth, i gymryd camau rhesymol i ddechrau cyfrif y pleidleisiau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ac o fewn pedair awr i ddiwedd y cyfnod pleidleisio. Bydd ymgeiswyr, pleidiau a'r cyfryngau yn disgwyl i'r canlyniad gael ei ddatgan cyn gynted â phosibl a bydd angen i hyn hefyd gael ei gadw mewn cof wrth benderfynu ar y gofynion o ran staff.
Yn achos prosesau sy'n cychwyn ar unwaith ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio, ni ddylech, lle y bo'n bosibl, ddefnyddio staff sydd wedi bod ar ddyletswydd mewn gorsaf bleidleisio drwy'r dydd.
Ni ddylech benodi unigolyn a gyflogwyd gan neu ar ran ymgeisydd yn yr etholiad neu yn ei gylch.1
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 26(1) ↩ Back to content at footnote 1
Nodi staff cymorth o'ch cyngor
Dylech nodi staff cymorth a sicrhau eu bod ar gael i helpu gydag unrhyw ymholiadau cyhoeddus a gewch efallai yn y cyfnod cyn yr etholiad. Gall fod cyfleoedd i ddefnyddio staff cymorth presennol eich cyngor i gyflawni'r rôl hon.
Dylai'r staff cymorth rydych chi'n eu defnyddio gael eu hyfforddi i ddeall bod rhwystrau amrywiol y gallai etholwyr anabl eu hwynebu wrth gyrchu gwybodaeth neu bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio. Gall pleidleiswyr anabl gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i nodi maes penodol y mae arnynt angen cymorth ag ef yn yr orsaf bleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth am ddeall y rhwystrau i bleidleisio yn ein canllawiau.
Rheoli ymholiadau gan y cyhoedd
Dylech sefydlu tîm penodedig i ddelio ag amrywiaeth o ymholiadau sylfaenol, fel cwestiynau ynghylch p'un a yw rhywun wedi'i gofrestru i bleidleisio, pleidleisio drwy'r post a thrwy ddirprwy a lleoliad gorsafoedd pleidleisio. Lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, bydd angen i chi weithio gyda Swyddog Cofrestru Etholiadol eich awdurdod lleol fel y bo'n briodol er mwyn hwyluso hyn.
Dylai staff sy'n delio ag ymholiadau gan y cyhoedd gael hyfforddiant i ddelio â nhw a dylid rhoi'r canlynol iddynt hefyd:
- ymatebion y cytunwyd arnynt i gwestiynau cyffredin
- rhestr o leoliadau gorsafoedd pleidleisio
- manylion dyddiadau allweddol yn amserlen yr etholiad
- manylion y broses sydd ar waith i uwchgyfeirio ymholiadau mwy cymhleth at aelodau tîm yr etholiad
Rydym wedi datblygu templed o gwestiynau cyffredin ar gyfer staff rheng flaen y gallwch ei addasu i gyd-fynd â'ch amgylchiadau lleol.
Cwestiynau Cyffredin ar gyfer staff rheng flaen yn etholiad Senedd y DU - Rydym yn diweddaru'r adnodd hwn i adlewyrchu mesurau newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022. Bydd ar gael eto unwaith y bydd y diweddariadau wedi'u cwblhau.
Os ydych chi'n cynnal is-etholiad Senedd y DU, dylech gysylltu â'ch tîm Comisiwn lleol i gael cefnogaeth a chyngor.
Prosesu ceisiadau
Bydd angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ystyried a fydd angen unrhyw staff cymorth ychwanegol arno er mwyn helpu i brosesu ceisiadau cofrestru a phleidleisio absennol yn y cyfnod cyn yr etholiad – ac yn enwedig yn y cyfnod cyn y dyddiad cau cofrestru ar y 12fed diwrnod gwaith cyn y bleidlais. Lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gydgysylltu â'r swyddog hwnnw er mwyn deall sut y bydd yn rheoli'r cynnydd tebygol mewn ceisiadau yn agos at y terfynau amser, er mwyn sicrhau bod pob aelod o staff sy'n rhan o'r etholiad a'r broses o reoli ymholiadau yn meddu ar ddealltwriaeth glir ac y gallant hysbysu etholwyr yn briodol.
Ceir rhagor o wybodaeth am brosesu ceisiadau cofrestru a phleidleisio absennol yn y cyfnod cyn etholiad yn adrannau Cynnal y broses cofrestru etholiadol a Pleidleisio absennol canllawiau'r Comisiwn ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Derbyn pleidleisiau post yn swyddfeydd y cyngor
Dim ond pobl sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu ar eich rhan all dderbyn pleidleisiau post a ddychwelir atoch â llaw. Dylech ystyried a fyddwch yn awdurdodi staff cymorth ychwanegol i helpu i dderbyn pleidleisiau post wedi'u cwblhau a ddychwelir gan aelodau o'r cyhoedd i swyddfeydd y cyngor.
Dylech gadw cofnod o'r bobl yr ydych wedi'u hawdurdodi i weithredu ar eich rhan a derbyn pleidleisiau post a ddychwelwyd â llaw.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar y weithdrefn i'w dilyn pan fydd pleidleisiau post yn cael eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor.
Datblygu cynllun hyfforddi
Dylech lunio cynllun hyfforddi ar gam cynnar o'ch gwaith cynllunio ar gyfer yr etholiad, gan nodi anghenion hyfforddi staff parhaol a staff dros dro er mwyn ymgymryd â'u rolau.
Mae angen i bob aelod o'r tîm, boed yn aelod parhaol neu dros dro, ddeall ei rôl benodol ac unrhyw rwymedigaethau statudol sy'n gysylltiedig â'r gwaith a wna. Dylai pob aelod o staff gael hyfforddiant ar y gofynion deddfwriaethol a'r cyfrifoldebau sy'n berthnasol i'w rôl, yn ogystal â hyfforddiant ar sicrhau mynediad cyfartal a gofal cwsmeriaid da.
Dylai eich cynllun hefyd gynnwys sut y byddwch yn gwerthuso'r sesiynau a'r deunyddiau hyfforddi a ddefnyddiwyd er mwyn llywio gwaith cynllunio yn y dyfodol. Os oes gennych bersonél hyfforddi neu ddysgu a datblygu yn eich cyngor, efallai y byddant yn gallu eich helpu gyda'r broses hon.
Hyfforddiant diogelu data
Er y bydd yr hyfforddiant a gynigir gennych i bob aelod o'r tîm wedi'i deilwra at ei rôl benodol, dylai pawb sy'n ymdrin â data personol fod yn ymwybodol o'r gofynion cyfreithiol ar gyfer ymdrin â data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data a dylai fod wedi cael hyfforddiant yn y maes.
Dylech drafod eich cynlluniau ar gyfer hyfforddiant diogelu data gyda Swyddog Diogelu Data eich cyngor. Bydd hyfforddiant diogelu data yn eich helpu i ymgorffori'r egwyddorion diogelu data yn eich gwaith a dangos cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelu data.
Hyfforddi staff i dderbyn pleidleisiau post a gyflwynir yn swyddfeydd y cyngor
Dylai'r holl staff sydd wedi'u hawdurdodi i dderbyn pleidleisiau post a gyflwynir i'r Swyddog Canlyniadau dderbyn hyfforddiant i sicrhau bod y prosesau cywir yn cael eu dilyn.
Dylai’r sesiwn hyfforddi roi sylw i:
• sut i nodi a yw pleidlais bost ar gyfer etholiad yn yr ardal gywir
• y broses ar gyfer derbyn a gwrthod pleidleisiau post a gyflwynwyd â llaw
• cwblhau'r ffurflen pleidlais bost yn gywir
• llunio'r pecynnau ar wahân ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd ac a wrthodwyd a'r ffurflenni pleidleisiau post sy'n cyd-fynd â nhw
• storio pecynnau'n ddiogel nes eu bod yn cael eu dosbarthu i'r Swyddog Canlyniadau
Hyfforddi staff anfon ac agor pleidleisiau post
Dylech wneud trefniadau i hyfforddi pob aelod o staff anfon ac agor pleidleisiau post mewn perthynas â'r prosesau sy'n gysylltiedig â phob cam. Gellir darparu hyfforddiant yn union cyn dechrau'r prosesau anfon neu agor, ond dylech roi nodiadau cyfarwyddyd iddynt ymlaen llaw.
Fodd bynnag, dylech ystyried hyfforddi staff goruchwylio ddiwrnod neu ddau cyn y sesiwn anfon neu agor fel eu bod yn llwyr ymwybodol o'u dyletswyddau a beth a ddisgwylir ganddynt.
Dylai'r hyfforddiant hwn gynnwys y canlynol:
- cynnal y gwiriadau sicrhau ansawdd gofynnol, p'un a ydych yn anfon pleidleisiau post yn fewnol neu'n defnyddio contractwr allanol
- sicrhau bod y gweithdrefnau agor a'r broses ddilysu yn cael eu dilyn yn gywir a bod llwybr archwilio yn cael ei gynnal
Dylech roi copi o ganllawiau'r Comisiwn a'r Gwasanaeth Gwyddor Fforensig ar wirio llofnodion i unrhyw un a fydd yn dilysu dynodwyr pleidleisiau post ac sydd wedi cael ei awdurdodi gennych i wneud penderfyniadau ar ddatganiadau pleidleisiau post, a rhoi cyfarwyddyd iddo eu dilyn.
Dylech hefyd ystyried a fyddai unrhyw hyfforddiant ychwanegol o bosibl yn briodol i unrhyw un sy'n ymgymryd â'r rôl hon. Dylech sicrhau bod staff yn cael yr hyfforddiant priodol er mwyn sicrhau yr ymdrinnir ag unrhyw ddata personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data.
Hyfforddi Swyddogion Llywyddu, Clercod Pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
Yn aml, Swyddogion Llywyddu, Clercod Pleidleisio ac aelodau eraill o staff rheng flaen yw'r unig aelodau o'ch staff y bydd pleidleiswyr yn cyfarfod â hwy yn bersonol. Mae'n hanfodol bod staff o'r fath yn cael eu hyfforddi i ddeall eu rôl a chyflawni eu dyletswyddau yn broffesiynol ac effeithiol, a'u bod yn gallu darparu safon uchel o ofal cwsmeriaid.
Mae angen i staff o'r fath allu cyfathrebu'n dda â phob pleidleisiwr, ac felly dylai materion hygyrchedd gael eu trafod fel rhan o'r hyfforddiant. Er mwyn sicrhau bod staff yn deall y rhwystrau y mae rhai pobl anabl yn eu hwynebu, dylid mynd i'r afael a materion hygyrchedd mewn hyfforddiant.
Dylech roi copi o lawlyfr y Comisiwn ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio a'r canllaw cyflym ar orsafoedd pleidleisio i staff gorsafoedd pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio, a rhoi cyfarwyddyd iddynt ddarllen y ddau cyn y diwrnod pleidleisio ac i ddod â'u copïau gyda nhw ar y diwrnod pleidleisio ei hun.
Bydd angen copïau sbâr o'r llawlyfr a'r canllaw cyflym hefyd ar arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i'w rhoi i staff gorsafoedd pleidleisio sydd wedi anghofio mynd â'u copïau gyda nhw ar y diwrnod pleidleisio.
Dylai fod yn ofynnol i bob aelod o staff gorsafoedd pleidleisio fynychu sesiwn hyfforddi. Dylai'r sesiwn hyfforddi fynd i'r afael â'r canlynol:
- y tasgau i'w cyflawni cyn y diwrnod pleidleisio
- sefydlu a rheoli'r orsaf bleidleisio
- pwy all fynd i orsaf bleidleisio a'r gweithdrefnau i'w dilyn ar y diwrnod pleidleisio ei hun
- y broses ar gyfer derbyn pleidleisiau post a gyflwynwyd yn yr orsaf bleidleisio
- yr angen i sicrhau bod staff gorsafoedd pleidleisio yn gallu delio â chwsmeriaid a chynnig cymorth i bob pleidleisiwr, gan gynnwys bod yn ymwybodol o anghenion hygyrchedd ar gyfer pleidleiswyr anabl
- diogelwch deunydd ysgrifennu etholiad, gan gynnwys pleidleisiau post a ddychwelwyd
- pwysigrwydd ymdrin â data personol yn unol â deddfwriaeth diogelu data
- y gweithdrefnau i'w dilyn pan fydd gorsafoedd pleidleisio yn cau
- materion iechyd a diogelwch
Dylech roi rhifau cyswllt i staff gorsafoedd pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i'w defnyddio os bydd unrhyw broblemau. Yn ogystal â rhifau ar gyfer y swyddfa etholiadau, dylai hyn gynnwys rhif cyswllt ar gyfer yr heddlu.
Gall hyfforddi pob aelod o staff, gan gynnwys arolygwyr gorsafoedd pleidleisio, ar y rolau a'r cyfrifoldebau sy'n gysylltiedig â gweithio yn yr orsaf bleidleisio helpu i sicrhau y gellir parhau â phrosesau os bydd aelodau o staff yn absennol. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar Staffio Hyblyg mewn gorsafoedd pleidleisio.
Rydym wedi paratoi adnoddau i gefnogi eich hyfforddiant gan gynnwys y canlynol:
- templed briffio PowerPoint ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio y gallwch ei ddiweddaru ag unrhyw wybodaeth leol ychwanegol sy'n angenrheidiol yn eich barn chi.
- cwis ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio ac ymarferion a senarios chwarae rôl y gallwch eu defnyddio fel ffordd o brofi ac ymgorffori dysgu
- ymarfer ar gwblhau cyfrifon y papurau pleidleisio, er mwyn darparu sail ar gyfer proses ddilysu gywir
- mae templed o ganllaw graffigol ar ddeunyddiau pecynnu ar gyfer diwedd y cyfnod pleidleisio, i chi ei addasu a'i roi i staff gorsafoedd pleidleisio hefyd ar gael
Hyfforddi arolygwyr gorsafoedd pleidleisio
Dylech ddarparu briff ychwanegol ar gyfer arolygwyr gorsafoedd pleidleisio, yn cwmpasu eitemau sy'n benodol i'w rôl ac yn sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r rhestr wirio ar gyfer arolygwyr gorsafoedd pleidleisio. Rydym wedi datblygu templed o restr wirio ar gyfer arolygwyr gorsafoedd pleidleisio a allai fod yn ddefnyddiol i chi.
Dylai eich hyfforddiant gyfleu'r ffaith bod arolygwyr gorsafoedd pleidleisio yn chwarae rhan bwysig wrth reoli'r bleidlais yn effeithiol a dylent allu ymdrin ag ymholiadau a phroblemau sy'n codi yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio. Rhaid i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio sicrhau bod pob un o'r gorsafoedd pleidleisio y maent yn gyfrifol amdanynt wedi'u gosod yn gywir, bod yr holl adnoddau priodol ar gael iddynt a'u bod yn hygyrch i bob pleidleisiwr ac y gallant nodi unrhyw broblemau sy'n codi a delio â nhw. Er enghraifft, os bydd unrhyw giwiau yn datblygu yn yr orsaf bleidleisio, dylai'r arolygydd gorsafoedd pleidleisio allu dod o hyd i ateb er mwyn lleihau'r ciwiau.
Mewn rhai amgylchiadau, megis os oes angen gwirio ID ffotograffig etholwr benywaidd yn breifat am resymau crefyddol, efallai y bydd hefyd gofyn i Arolygwyr Gorsafoedd Pleidleisio benywaidd fynd i orsaf bleidleisio i wirio'r ID ffotograffig os mai dim ond staff gwrywaidd sydd gan yr orsaf bleidleisio.
Dylai hyfforddiant hefyd bwysleisio bod yn rhaid ymgymryd â'r dasg o gasglu pleidleisiau post yn ôl cyfarwyddyd y Swyddog Canlyniadau yn ofalus gan sicrhau y caiff yr holl bleidleisiau hynny a gesglir eu cofnodi'n briodol ac yn gywir. Ni ddylid gadael y pleidleisiau post hyn mewn cerbyd ar unrhyw adeg tra bydd arolygwyr gorsafoedd pleidleisio yn ymweld â'r gorsafoedd pleidleisio.
Dylech sicrhau bod yr arolygydd gorsafoedd pleidleisio yn ymwybodol y gall fod yn rhan o'r broses o gysylltu â'r swyddfa etholiadau ynghylch gwallau clerigol ar y gofrestr a cheisiadau brys ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy.
Dylech sicrhau bod pob arolygydd gorsafoedd pleidleisio yn cael yr eitemau canlynol:
- ffôn symudol (os bydd ei angen)
- bathodyn adnabod yn dangos ei enw yn glir fel un o gynrychiolwyr y Swyddog Canlyniadau
- label ar gyfer ffenestr flaen y car yn nodi'r manylion adnabod priodol
- map o'r ardal yn nodi lleoliad pob un o'r mannau pleidleisio a ddyrannwyd i'r arolygydd
- enwau holl aelodau o staff y gorsafoedd pleidleisio a rhif cyswllt ar gyfer pob un o'r Swyddogion Llywyddu
- rhestr manylion cyswllt o'r holl ddeiliaid allweddol ar gyfer y mannau pleidleisio yn yr ardal a ddyrannwyd (gall hefyd fod yn ddefnyddiol nodi rhif ffôn cyswllt ar gyfer saer cloeau rhag ofn y bydd clo yn methu)
- rhif ffôn cyswllt ar gyfer yr heddlu
- blwch pleidleisio gyda seliau sbâr
- blwch manion â phapurau a ffurflenni sbâr
- llawlyfrau gorsafoedd pleidleisio a chanllawiau cyflym
- copi o'r gofrestr ar gyfer pob gorsaf bleidleisio
- papurau pleidleisio sbâr (wedi'u selio ac i'w defnyddio mewn argyfwng yn unig)
- waled/paced y gellir ei selio ar gyfer casglu pleidleisiau post a gaiff eu dychwelyd, ynghyd â chofnodlyfr i gofnodi rhifau pleidleisiau post a ddilëwyd, amser casglu a manylion yr unigolion a'u casglodd
- cyfrif papurau pleidleisio gwag sbâr
- rhestr wirio ar gyfer y man pleidleisio/gorsaf bleidleisio i'w chwblhau ar gyfer pob man pleidleisio
- copïau o'r Cod ymddygiad i rifwyr ac unrhyw gyfarwyddiadau lleol eraill
Hyfforddi a briffio staff dilysu a chyfrif
Dylech sicrhau bod staff yn cael hyfforddiant a chyfarwyddiadau priodol er mwyn eu galluogi i gyflawni eu dyletswyddau'n effeithiol ac yn unol â'r gyfraith. Dylai'r hyfforddiant gynnwys yr hyn y dylai staff edrych amdano wrth archwilio papurau pleidleisio er mwyn penderfynu beth y dylid ei gynnwys yn y cyfrif.
Dylech friffio pob aelod o'r staff dilysu a chyfrif fel eu bod yn llwyr ymwybodol o'u dyletswyddau a beth a ddisgwylir ganddynt. Dylai pob briff, o leiaf, ymdrin â'r gweithdrefnau sy'n berthnasol i'r rolau.
Gall y prosesau sy'n gysylltiedig â dilysu a chyfrif fod yn gymhleth ac mae'n bosibl y byddwch yn gweld mai'r ffordd orau o hyfforddi uwch-staff yw drwy baratoi proses dilysu a chyfrif 'ffug' ar raddfa fach gydag ychydig gannoedd o bapurau pleidleisio. Bydd hyn yn rhoi'r cyfle i staff fynd drwy'r prosesau dan sylw yn ymarferol, gan gwblhau'r gwaith papur angenrheidiol a gwneud dyfarniadau ynglŷn â'r papurau pleidleisio enghreifftiol. Bydd angen rhai adnoddau er mwyn cyflawni hyn, ond gall fod yn adnodd defnyddiol er mwyn sicrhau bod y broses dilysu a chyfrif yn mynd rhagddi'n ddidrafferth ac ar amser ar y noson.
Cyn dechrau'r prosesau dilysu a chyfrif, dylech gynnal ymarfer cerdded drwy'r gweithdrefnau yr ydych yn disgwyl i bawb eu dilyn fel bod pawb yn ymwybodol o'r hyn a ddisgwylir ganddynt ar bob cam, a sut y mae'r rolau gwahanol yn ymwneud â'i gilydd.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar egwyddorion prosesau dilysu a chyfrif effeithiol.
Nodi ac archebu lleoliadau addas a pharatoi cynllun lleoliadau
Dylech nodi lleoliadau priodol ar gyfer yr holl weithgareddau etholiadol cyn gynted â phosibl.
Dylai eich cynllun prosiect gynnwys nodi lleoliadau addas ar gyfer pob proses rydych yn gyfrifol amdani.
Dylech gysylltu â rheolwyr y safleoedd hyn ar gam cynnar i'w hysbysu am y dyddiadau, a gwneud y trefniadau archebu angenrheidiol. Bydd hyn yn tynnu sylw at unrhyw leoliadau nad ydynt ar gael a dylai ganiatáu digon o amser i weithredu ar y wybodaeth a dod o hyd i safleoedd amgen.
Sicrhau bod lleoliadau yn hygyrch
Fel rhan o'ch adolygiad o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol, dylech fod wedi cynnal gwerthusiad o addasrwydd y lleoliadau a ddefnyddiwyd. Dylai canlyniadau hyn gael eu defnyddio i lywio eich gwaith cynllunio a sicrhau y gellir goresgyn unrhyw rwystrau a nodwyd o ran mynediad.
O dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010, mae gan ddarparwyr gwasanaethau ddyletswydd i wneud addasiadau rhesymol er mwyn osgoi rhoi pobl ag anableddau o dan anfantais sylweddol o gymharu â phobl nad ydynt yn anabl.1 Dylech weithio'n agos ag arbenigwyr ar fynediad i safleoedd neu gyfleusterau i bobl anabl er mwyn cydymffurfio â'r ddyletswydd. Dylai'r swyddog cydraddoldebau yn eich awdurdod lleol roi cyngor a chymorth i chi.
- 1. Adrannau 20, 29 a 31 Deddf Cydraddoldeb 2010 ↩ Back to content at footnote 1
Lleoliadau a chynlluniau anfon ac agor pleidleisiau post
Wrth ddewis eich lleoliad(au) ar gyfer sesiynau anfon ac agor pleidleisiau post, dylech ystyried y canlynol:
- gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol
- nifer y pecynnau pleidleisio drwy'r post i'w hanfon
- nifer amcangyfrifedig y pleidleisiau post a ddychwelwyd
- llifau gwaith bwriadedig
- gofynion TG
- gofynion diogelwch a storio
- a oes mynediad i'r anabl, i'r lleoliadau ac ynddynt
Dylai eich cynlluniau gynnwys y canlynol:
- nifer y staff a ble y byddant wedi'u lleoli
- y cyfarpar sydd ei angen, gan gynnwys pwyntiau trydan a rhwydwaith
- y llifau gwaith i'w dilyn.
Wrth fapio llifau gwaith, dylech ystyried ffactorau sy'n cynnwys unrhyw wersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol a'r nifer ddisgwyliedig o bleidleiswyr. Os bwriedir cynnal eich sesiwn agor pleidleisiau post olaf yn y lleoliad dilysu a chyfrif, dylech sicrhau bod eich cynllun dilysu a chyfrif yn darparu ar gyfer hyn.
Bydd y broses o lunio cynllun gorsaf bleidleisio yn helpu i dynnu sylw at unrhyw broblemau posibl cyn paratoi'r lleoliadau a bydd yn golygu y gellir gwneud unrhyw newidiadau i lif gwaith neu leoliad staff neu gyfarpar mewn da bryd.
Mae cynlluniau hefyd yn cyfrannu at dryloywder, gan fod modd i'r cynlluniau hyn gael eu rhoi i unrhyw un sydd â hawl i fod yn bresennol er mwyn eu helpu i ddilyn yr hyn sy'n digwydd, ble a phryd.
Dylech sicrhau, pa gynllun bynnag a ddewisir, ei fod yn hygyrch i bawb sy'n gweithio ar y prosesau a'r rhai a gaiff eu harsylwi.
Ystyriaethau ar gyfer arsylwi ar brosesau anfon pleidleisiau post ar gontractau allanol
Os ydych wedi rhoi'r gwaith o anfon pleidleisiau post ar gontract allanol, bydd angen o hyd i chi fod yn fodlon bod eich contractwyr wedi gwneud trefniadau digonol i weinyddu'r mater yn effeithiol ac yn dryloyw. Fel rhan o hyn, gallech ofyn i'ch contractwr am gopïau o'i gynlluniau arfaethedig.
Byddai'r cynlluniau hyn hefyd yn helpu i sicrhau bod unrhyw arsylwyr sy'n bresennol yn deall y prosesau a ddilynir, a byddant o fudd arbennig i'ch staff a benodwyd i gynnal hapwiriadau wrth argraffu, coladu ac anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post.
Dylech ddynodi aelod o'r tîm prosiect i fonitro gwaith ar gontract allanol a gwaith y contractwr, ac yn benodol i fod yn bresennol yn y rhannau hynny o'r broses anfon a roddwyd ar gontract allanol.
Ceir rhagor o ganllawiau ar sicrhau ansawdd y broses o gynhyrchu a dosbarthu deunyddiau etholiad yn Sicrhau ansawdd a phrawfddarllen deunydd etholiad.
Archebu gorsafoedd pleidleisio addas
Fel rhan o unrhyw Adolygiad o Fan Pleidleisio, dylech werthuso addasrwydd y gorsafoedd pleidleisio sydd ar gael i'w defnyddio yn yr ardaloedd etholiadol priodol.
Mae'n hanfodol bod gorsafoedd pleidleisio yn sicrhau bod digon o le ar gael i bleidleisio.
Yn ddelfrydol, bydd gennych ddewis amrywiol o adeiladau hygyrch, mewn man cyfleus i etholwyr yn yr ardal, gyda pherchnogion yn fodlon iddynt gael eu llogi fel gorsafoedd pleidleisio am gost isel. Yn anffodus, yn ymarferol, nid felly y mae yn aml ac mewn rhai ardaloedd ni fydd llawer o ddewis ar gael.
Bydd angen i chi ystyried anghenion mynediad wrth gynllunio cynllun a threfn gorsafoedd cynllunio er mwyn sicrhau bod pob pleidleisiwr yn cael gwasanaeth o ansawdd uchel. Dylai hyn gynnwys pleidleiswyr anabl a allai fod angen offer neu seddi ychwanegol. Mae rhagor o ganllawiau ar gael ar y mathau o offer y gallai fod angen i chi eu hystyried yn ein canllawiau ar ddarparu offer yn yr orsaf bleidleisio.
Dylai maint gorsafoedd pleidleisio fod yn ddigon mawr i alluogi llif clir o bleidleiswyr i geisio lleihau'r risg o dagfeydd neu giwiau. Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod ardal wedi'i nodi ar gyfer gwirio ID ffotograffig yn breifat, os gofynnir am hynny.
Dylech fod yn gallu dangos bod asesiadau wedi'u cynnal o'r gorsafoedd pleidleisio a gaiff eu defnyddio yn yr etholiad. Lle mae problemau mynediad yn bodoli, dylech ddogfennu'r problemau, nodi gwelliannau posibl a chofnodi unrhyw gamau gweithredu a gymerir i geisio datrys y problemau hyn.
Dylech sicrhau y caiff unrhyw gyfarpar ychwanegol sy'n ofynnol er mwyn gwneud yr orsaf bleidleisio yn hygyrch ei ddosbarthu a'i osod cyn agor y bleidlais.
Mae'r llawlyfr gorsafoedd pleidleisio yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i drefnu gorsafoedd pleidleisio er mwyn sicrhau eu bod yn hygyrch i bob pleidleisiwr.
Defnyddio ysgolion fel gorsafoedd pleidleisio
Gall ysgolion a ariennir yn gyhoeddus, gan gynnwys academïau ac ysgolion rhydd, gael eu defnyddio fel gorsafoedd pleidleisio am ddim, ac mae'r ddeddfwriaeth yn caniatáu i chi gael ystafell mewn ysgolion o'r fath i'w defnyddio fel gorsaf bleidleisio.1 Mae gennych hawl hefyd i ddefnyddio unrhyw ystafell a ariennir yn gyhoeddus fel gorsaf bleidleisio am ddim.2
Fodd bynnag, bydd angen i chi dalu am unrhyw oleuo, gwresogi ac ati, costau yr eir iddynt wrth ddefnyddio ystafelloedd o'r fath fel gorsafoedd pleidleisio.3 Dylech gysylltu â'r ysgolion perthnasol a rheolwyr ystafelloedd a ariennir yn gyhoeddus cyn gynted â phosibl i gadarnhau eich bod am ddefnyddio rhai ystafelloedd ar eu safleoedd fel gorsafoedd pleidleisio.
- 1. Atodlen 3, Para 23(1), Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 3, Para 23(1)(c), PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 3, Para 23(2)(b), PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
Newidiadau munud olaf i orsafoedd pleidleisio
Gall amgylchiadau godi (e.e. llifogydd, tân, fandaliaeth) pan fydd angen newid gorsaf bleidleisio ar fyr rybudd. Fel rhan o'ch cynlluniau wrth gefn, dylech lunio rhestr o orsafoedd pleidleisio wrth gefn neu gludadwy y gellid eu defnyddio mewn amgylchiadau o'r fath. Mae awdurdodau lleol yn gyfrifol am ddynodi mannau pleidleisio a dosbarthiadau pleidleisio a rhaid i chi ddynodi gorsaf bleidleisio newydd o fewn yr un man pleidleisio.1
Fel arfer, os bydd angen newid y man pleidleisio, bydd angen cytundeb y cyngor. Os bydd gweithdrefnau dirprwyo ar waith, dylech eu dilyn a chysylltu â'r unigolyn neu'r unigolion sydd â hawl i wneud newidiadau i gynllun mannau pleidleisio.
Fodd bynnag, gallai llifogydd, tân neu fandaliaeth yn ystod y cyfnod yn union cyn y diwrnod pleidleisio fod yn 'amgylchiad arbennig', gan eich galluogi i ddynodi gorsaf bleidleisio y tu allan i'r man pleidleisio heb fod angen cael cytundeb gan y cyngor.
Dylech ddiwygio'r hysbysiad lleoliad gorsafoedd pleidleisio er mwyn adlewyrchu unrhyw newidiadau i'ch gorsafoedd pleidleisio a'i ailgyhoeddi.
Mae nifer o fesurau lliniaru y gallwch eu cymryd i sicrhau y terfir cyn lleied â phosibl ar etholwyr y mae newid hwyr i orsaf bleidleisio yn effeithio arnynt. Dylai protocol fod ar waith gennych fel eich bod yn gwybod beth i'w wneud os bydd newid munud olaf. Dylech wneud y canlynol o leiaf:
- defnyddio'r cyfryngau cymdeithasol i hysbysu etholwyr bod gorsaf bleidleisio wedi newid
- os bydd amser yn caniatáu, anfon llythyr at bob etholwr yr effeithir arno yn ei hysbysu am y newid i'w orsaf bleidleisio
- os bydd amser yn caniatáu, defnyddio'r cyfryngau lleol i ddosbarthu gwybodaeth i'r etholwyr yr effeithir arnynt - er enghraifft, drwy gyhoeddi datganiadau i'r wasg
- gosod arwyddion yn yr hen orsaf bleidleisio yn hysbysu etholwyr am y newid, gan gynnwys cyfarwyddiadau i'r un newydd
- arddangos arwyddion clir a gweladwy yn yr orsaf bleidleisio newydd
- 1. Rheol 25(3), Atodlen 1, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Lleoliadau a chynlluniau dilysu a chyfrif
Dylech sicrhau bod y prosesau dilysu a chyfrif yn cael eu llunio a'u rheoli er mwyn sicrhau canlyniad cywir, gyda llwybr archwilio clir, a'u bod yn dryloyw, a bod pawb sydd â hawl i fod yno yn gallu gweld popeth sy'n cael ei gyflawni yn glir.
Gellir cynnal y broses ddilysu a'r broses gyfrif mewn lleoliadau gwahanol ac, o dan yr amgylchiadau hyn, bydd angen i chi ystyried teithio i'r gwahanol leoliadau a'r effaith ar amseriadau, y camau sydd eu hangen i becynnu'r papurau pleidleisio yn unol â rheolau'r etholiad perthnasol, a'u cludo'n ddiogel i leoliad y cyfrif.
Dewis y lleoliad(au)
Wrth ddewis y lleoliad ar gyfer eich prosesau dilysu a chyfrif, dylech ystyried y pwyntiau canlynol:
- cyfleustra ble mae'r lleoliad wedi'i leoli
- gwersi a ddysgwyd o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol
- trefniadau mynediad i gerbydau a llefydd parcio
- mynedfeydd i'r rhai sydd â hawl i fod yn bresennol a staff, ac ar gyfer anfon y blychau pleidleisio
- mynediad i'r anabl, i'r lleoliad ac o'i fewn
- maint y lleoliad, gan ystyried y canlynol:
- faint o le sydd ei angen i gynnal y prosesau dilysu a chyfrif
- digon o le storio ar gyfer parseli, blychau pleidleisio a chyfarpar arall
- digon o le i'r rhai sydd â hawl i fod yn bresennol ac arsylwi ar weithrediadau yn ystod y broses gyfrif
- y goleuo yn y lleoliad a'r tu allan
- gwres yn y lleoliad
- llwyfan ar gyfer cyhoeddi'r canlyniadau, ac ar gyfer gwneud cyhoeddiadau cyson drwy gydol y cyfnod pleidleisio
- yr acwsteg yn y lleoliad
- systemau TG a systemau cyfathrebu mewnol ac allanol
- cyfleusterau i'r rhai sy'n mynychu'r cyfnod dilysu a chyfrif
- gofynion y cyfryngau
- gofynion o ran dodrefn
- gofynion diogelwch a storio
- trefniadau wrth gefn i fynd i'r afael â'r risg o golli lleoliad
Dylech hefyd sicrhau bod unrhyw gyfarpar wedi ei brofi cyn cynnal y prosesau dilysu a chyfrif a bod gennych gynlluniau wrth gefn rhag ofn y bydd y cyfarpar neu'r pŵer yn methu.
Cynllunio'r cynllun
Mae angen i chi sicrhau bod eich holl brosesau yn dryloyw, a bod pawb sydd â hawl i fod yno yn gallu gweld popeth sy'n cael ei gyflawni yn ystod y broses ddilysu a chyfrif yn glir gan eu galluogi i fod yn hyderus bod y broses gyfrif yn cael ei rheoli'n dda ac i fod yn hyderus yn y canlyniad.
Dylech baratoi cynlluniau o'ch lleoliad(au) dilysu a chyfrif ar gam cynnar. Bydd cynllun da yn un sydd wedi'i lywio gan y model dilysu a chyfrif y byddwch yn penderfynu ei fabwysiadu, ac sy'n ystyried y llifau gwaith rydych yn bwriadu eu dilyn a'r lle a fydd ar gael i chi.
Er mwyn osgoi unrhyw broblemau yn y broses dilysu a chyfrif, dylech roi eich hun yn esgidiau ymgeisydd neu asiant wrth gynllunio'r cynllun er mwyn profi a yw'r trefniadau yn darparu'r tryloywder angenrheidiol.
Fodd bynnag, mae angen i chi sicrhau hefyd nad yw'r rhai sy'n arsylwi ar y broses yn tarfu ar waith eich staff.
Wrth ystyried cynllun a threfn y lleoliad dilysu a chyfrif, dylech ystyried y canlynol:
- bod trefniadau diogelwch priodol ar waith i sicrhau mai dim ond y rhai sy'n gymwys i fod yn bresennol sydd yno
- bod digon o fyrddau ar gyfer nifer y staff dilysu a chyfrif rydych wedi'u penodi a bod digon o le i gynnal y prosesau'n effeithlon
- bod cynllun y byrddau yn gwneud y canlynol:
- ystyried nifer yr asiantiaid cyfrif sy'n debygol o gael eu penodi i oruchwylio'r prosesau dilysu a chyfrif, yn ogystal â'r bobl eraill sydd â hawl i fod yn bresennol
- ei gwneud hi'n bosibl i'r rhai sydd â hawl i fod yn bresennol weld popeth yn hawdd
- ystyried nifer a maint y papurau pleidleisio
- bod digon o le o amgylch y byrddau ac ardaloedd cylchdroi a bod unrhyw rwystrau wedi'u symud
- bod digon o seddi i'r rhai sydd â hawl i fod yn bresennol
- bod y system annerch y cyhoedd yn gweithio a bod modd ei glywed o ddigon o bellter
- bod gofynion y cyfryngau wedi'u hystyried e.e. drwy ddarparu ardal ar wahân i'r cyfryngau, gan ei bod yn debygol y bydd angen lle arnynt ar gyfer eu cyfarpar arbenigol (sydd weithiau'n fawr)
- bod iechyd a diogelwch pawb sy'n bresennol wedi'u hasesu. Er enghraifft:
- ni ddylai unrhyw geblau o gyfarpar neu gamerâu'r cyfryngau beri i unrhyw un faglu yn ystod y gweithrediadau
- ni ddylid rhwystro allanfeydd argyfwng mewn unrhyw ffordd
- ni ddylid gadael mwy o bobl i mewn i'r lleoliad na'r uchafswm a ganiateir
Defnyddio ardaloedd dynodedig
Dylech ystyried dynodi ardaloedd ar gyfer swyddogaethau penodol a nodi pa ddodrefn a chyfarpar y bydd eu hangen ar gyfer pob ardal.
Cyrraedd y lleoliad
Parcio ceir a mynediad i gerbydau
Fe'ch cynghorir i ddynodi ardaloedd parcio gwahanol ar gyfer ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr, ac ar gyfer staff. Gall fod yn ddefnyddiol cael mynedfa ac allanfa ddynodedig i'r maes parcio, er mwyn osgoi tagfeydd, megis pan fydd y blychau pleidleisio yn cyrraedd o'r gorsafoedd pleidleisio.
Gall fod yn ddefnyddiol cael staff yn goruchwylio'r maes parcio ar yr adeg hon. Dylai unrhyw staff sy'n gweithio yn y maes parcio gael dillad diogelwch priodol fel siacedi llachar, a dylid eu hyfforddi i ddelio â llawer o draffig gan gynnwys, er enghraifft, asiantiaid cyfrif yn cyrraedd ar gyfer y gweithrediadau a staff gorsafoedd pleidleisio yn cyrraedd gyda blychau pleidleisio.
Mynedfa
Dylid gosod staff wrth y fynedfa/mynedfeydd er mwyn gwneud yn siŵr bod gan y bobl sy'n ceisio mynd i mewn i'r lleoliad dilysu a chyfrif hawl i wneud hynny. Gall fod yn ddefnyddiol cael mynedfeydd gwahanol ar gyfer staff a phobl eraill sy'n bresennol. Hefyd, dylech sicrhau bod eich trefniadau mynediad yn osgoi creu ciwiau a allai arwain at oedi cyn dechrau'r broses dilysu a chyfrif.
Man derbyn
Dyma'r man y bydd blychau pleidleisio, cyfrifon papurau pleidleisio a deunydd ysgrifennu a chyfarpar arall gorsafoedd pleidleisio yn cyrraedd er mwyn eu derbyn a'u didoli. Yn ddelfrydol, dylai fod gan y man derbyn fynedfa ar wahân i'r un a ddefnyddir gan staff eraill, ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr, gyda mynediad uniongyrchol o'r maes parcio neu'r man llwytho.
Ardaloedd Prosesu
Byrddau dilysu, cysoni a chanlyniadau
Dyma ble y bydd staff dilysu yn dilysu cynnwys y blychau pleidleisio ac yn cysoni cyfanswm y pleidleisiau. Os defnyddir gliniaduron, dylech ystyried trefniadau o ran ceblau a'r trefniadau wrth gefn os bydd cyfarpar yn methu.
Os bydd angen i chi rannu cyfansymiau cyfrif lleol â Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol am goladu'r canlyniadau, bydd angen ardal arnoch er mwyn gwneud hyn hefyd.
Bwrdd y Swyddog Canlyniadau
Dyma lle y dylech gadw gwerslyfrau cyfreithiol, canllawiau'r Comisiwn Etholiadol, nodiadau gweithdrefnol, cyfarwyddiadau dros ben ar gyfer staff, rhestrau staff, deunydd ysgrifennu a deunyddiau canllaw eraill er mwyn cyfeirio atynt.
Byrddau cyfrif
Dylai'r rhain wahanu'r staff a'r asiantiaid cyfrif yn briodol. Os bydd digon o le, gellid darparu seddi yn agos i'r byrddau hyn ar gyfer asiantiaid cyfrif ac arsylwyr.
Mae'n bosibl y byddwch am ddefnyddio mesurau i wahanu staff sy'n gweithio wrth fyrddau cyfrif a'r rhai sy'n arsylwi. Fodd bynnag, ni ddylai'r mesurau hyn gael effaith negyddol ar allu ymgeiswyr ac asiantiaid i oruchwylio'r prosesau dilysu a chyfrif a chraffu arnynt, gan gynnwys dyfarnu papurau pleidleisio amheus.
Ardal pleidleisiau post
Os caiff pleidleisiau post eu hagor ac y caiff y dynodwyr personol eu gwirio yn y lleoliad dilysu, dylech neilltuo ardal ar wahân i brosesu pleidleisiau post heb eu hagor a ddosbarthwyd o orsafoedd pleidleisio. Bydd angen i chi neilltuo digon o le i dderbyn ac agor y pleidleisiau post hyn a dilysu'r dynodwyr arnynt, a galluogi pobl i arsylwi ar y prosesau hyn.
Bydd angen i chi ystyried trefniadau rhwydwaith a cheblau os byddwch yn defnyddio meddalwedd dilysu fel rhan o'r broses o ddilysu dynodwyr personol.
Byrddau ar gyfer papurau pleidleisio sydd wedi'u cyfrif
Ar ôl i bapurau pleidleisio gael eu didoli a'u cyfrif yn bleidleisiau ar gyfer pleidiau unigol a/neu ymgeiswyr, fel y bo'n briodol, dylid eu gosod mewn bwndeli (e.e. bwndeli o 100 o bapurau pleidleisio) a'u rhoi ar fwrdd ar wahân, er mwyn cadw'r holl bleidleisiau ar gyfer pob plaid neu ymgeisydd gyda'i gilydd.
Mae'n debygol y bydd ymgeiswyr ac asiantiaid yn disgwyl y bydd yr holl fwndeli ar gyfer yr holl bleidiau a/neu ymgeiswyr (fel y bo'n briodol) yn cael eu gosod mewn un man canolog fel y gallant weld niferoedd cymharol y pleidleisiau ar gyfer pob plaid a/neu ymgeisydd. Bydd angen ystyried hyn, yn enwedig pan fydd y broses dilysu a chyfrif wedi'i his-rannu'n ardaloedd sy'n llai na'r ardal etholiadol.
Ardaloedd eraill
Ardal i ymgeiswyr, asiantiaid, arsylwyr a gwesteion
Os yw'n bosibl, ystyriwch neilltuo ardal ar wahân ar gyfer ymgeiswyr, asiantiaid, arsylwyr a gwesteion lle gallant weld darllediadau teledu o'r etholiadau.
Ardal ar gyfer lluniaeth
Ystyriwch ddarparu ardal lle gall cynorthwywyr cyfrif ac aelodau eraill o staff gael diod a rhywbeth i'w fwyta – gellid eu cynghori i ddod â diod a bwyd gyda nhw, neu gellid darparu lluniaeth iddynt. Gall y broses dilysu a chyfrif fod yn un hirfaith ac mae'n bwysig sicrhau bod lluniaeth digonol ar gael er mwyn helpu i gynnal lefelau egni a chanolbwyntio'r staff.
Er mwyn osgoi'r posibilrwydd o arllwys diod, ni ddylech ganiatáu i gynorthwywyr fwyta nac yfed wrth y byrddau cyfrif. Fodd bynnag, gallech ystyried gadael iddynt yfed dŵr potel (â chaeadau sy'n atal arllwysiadau) wrth y byrddau cyfrif. Mae llawer o Swyddogion Canlyniadau hefyd yn darparu cyfleusterau i ymgeiswyr, asiantiaid, arsylwyr a phobl eraill sy'n bresennol brynu bwyd a diod ar y safle.
Ardal i'r cyfryngau
Bydd y gofynion ar gyfer ardal y cyfryngau yn dibynnu ar y mathau o gyfryngau a gynrychiolir a'u hanghenion. Er enghraifft, os bydd camerâu teledu yn bresennol, ni ddylai unrhyw oleuadau achosi gwres neu lewyrch diangen a allai amharu ar effeithlonrwydd y cyfrif, ac ni ddylid caniatáu i gamerâu gymryd siotiau agos o'r papurau pleidleisio. Yn ogystal, mae'n bwysig sicrhau nad oes unrhyw geblau hir i'r rhai sy'n mynychu'r cyfrif faglu drostynt, a bod unrhyw gyfarpar yn cael ei osod mewn man diogel.
Gallech ystyried sefydlu ardaloedd i gynrychiolwyr y cyfryngau sy'n rhoi cyfle iddynt oruchwylio'r gweithrediadau o bell a chyflawni eu rôl i adrodd ar gynnydd y broses a'r canlyniadau drwy gydol y digwyddiad.
Ardal datgan canlyniadau
Platfform uwch lle gellir datgan y cyfansymiau/canlyniadau lleol. Os bydd digon o le, dylech ddod â'r ymgeiswyr at ei gilydd ar gyfer y cyhoeddiadau a chaniatáu areithiau derbyn a chonsesiwn.
Os byddwch yn penderfynu na fydd y trefniadau traddodiadol hyn yn ddichonadwy yn eich lleoliad, dylech sicrhau y gallwch rannu canlyniadau'r etholiadau serch hynny yn unol â gofynion deddfwriaethol a bod yr holl randdeiliaid, gan gynnwys cynrychiolwyr y cyfryngau, yn ymwybodol o'ch trefniadau arfaethedig ymlaen llaw.
Rheoli contractwyr a chyflenwyr
Gallwch drefnu contract allanol ar gyfer gwaith penodol sy'n ofynnol er mwyn cynnal yr etholiad, ond ni ellir trefnu contract allanol o ran y cyfrifoldeb am sicrhau cydymffurfiaeth â'r ddeddfwriaeth.
Peidiwch â chymryd yn ganiataol yn awtomatig mai rhoi gwaith ar gontract allanol yw eich unig opsiwn na'ch opsiwn gorau. Dylech gynnal asesiad o'r angen i drefnu contractau allanol. Dylai eich penderfyniad gael ei wneud fel rhan o asesiad o gostau, risgiau a buddiannau rhoi gwaith ar gontract allanol, o gymharu â darpariaeth fewnol gan eich staff.
Bydd eich adolygiad o ddigwyddiadau etholiadol blaenorol ac ystyriaeth o'r gofynion penodol ar gyfer yr etholiad yn eich helpu i lywio eich penderfyniad ynghylch p'un a ddylid rhoi swyddogaeth neu dasg benodol ar gontract allanol ai peidio.
Os ystyrir bod gwaith ar gontract allanol yn briodol, dylai eich cynllun prosiect ymdrin â rheoli contractwyr a chyflenwyr a datblygu a rheoli contractau.
Dod o hyd i argraffwyr
Os byddwch yn penderfynu trefnu contract allanol ar gyfer y gwaith cynhyrchu a'ch bod yn ei chael hi'n anodd dod o hyd i argraffydd addas, gallwch gysylltu â Ffederasiwn Diwydiannau Argraffu Prydain neu Graphic Enterprise Scotland yn yr Alban am gymorth:
British Printing Industries Federation
Head Office
Unit 2
Villiers Court
Meriden Business Park
Copse Drive
Coventry
CV5 9RN
Ffôn: 0845 250 7050
www.britishprint.com
Print Scotland (gynt Graphic Enterprise Scotland)
C/O Dentons UKMEA LLP
1 George Square
Glasgow
G2 1AL
Ffôn: 07776 493 740
www.print-scotland.com
Rheoli'r broses gaffael ar gyfer gwaith ar gontract allanol
Os byddwch yn penderfynu rhoi gwaith ar gontract allanol, dylech ddechrau'r broses gaffael cyn gynted â phosibl.
Bydd eich awdurdod lleol wedi mabwysiadu gorchmynion rheolau sefydlog neu reoliadau yn ymwneud â chaffael a chontractau. Dylech ofyn i staff perthnasol yn eich awdurdod lleol am gyngor ar y gweithdrefnau i'w dilyn a'r gofynion cyfreithiol ar gyfer caffael cyflenwadau a gwasanaethau. Mae hyn yn cynnwys ystyried unrhyw gyfarpar y gall fod angen i chi ei gaffael ar gyfer yr hyfforddiant a'r prosesau rydych yn eu cynnal yn fewnol fel:
Bydd angen i chi hefyd ystyried gofynion y Gorchmynion Ffioedd a Thaliadau a chanllawiau cysylltiedig.
Dylech ddogfennu pob cam o'r broses gaffael. Dylid cydnabod y risgiau o roi gwaith ar gontract allanol yn glir yn eich dogfennaeth, gan nodi trefniadau wrth gefn a'u cynnwys yn y broses.
Mae arfer caffael cyhoeddus da yn argymell cael o leiaf dri dyfynbris ysgrifenedig gan ddarpar gyflenwyr. Mae'n bosibl y bydd gan rai awdurdodau lleol restr sefydlog o gontractwyr cymeradwy sydd eisoes wedi cwblhau proses dendro. Gall fod yn fwy effeithiol a darbodus defnyddio contractwyr a systemau o'r fath sy'n bodoli eisoes.
Mae manyleb fanwl o ofynion yn hanfodol ar gyfer proses gaffael effeithiol, a dylid ei datblygu ar gyfer yr holl waith a roddir ar gontract allanol. Dylai cyflenwyr fod yn gallu darparu gwybodaeth gadarn am sut y maent yn bwriadu cyflawni'r gwaith fel sy'n ofynnol gan y fanyleb. Rhaid i'r fanyleb o leiaf wneud y canlynol:
- cynnwys disgrifiad manwl o'r hyn rydych am iddynt ei gyflawni a phryd
- rhoi cyfarwyddiadau clir ynghylch y gofynion a'r rhwymedigaethau statudol angenrheidiol mewn perthynas â'r gwaith neu'r gwasanaethau penodol i'w cyflawni a'u darparu, fel cyfarwyddiadau argraffu ac unrhyw ofynion o ran cynnwys a chynllun a therfynau amser statudol
- cynnwys gwybodaeth berthnasol am unrhyw ddata a ddarperir, yn cynnwys prosesau ar gyfer anfon a derbyn data a'u rheoli'n ddiogel
- cael ei rhoi i bob un a wahoddwyd i gyflwyno tendr ar gyfer y gwaith, a dylai'r contractwr llwyddiannus allu bodloni holl ofynion y fanyleb
- egluro y dylai'r contractwr llwyddiannus fod yn cyflawni gwaith neu'n darparu gwasanaethau yn unol â'r fanyleb ac na ddylid gwneud unrhyw newidiadau wrth gyflawni'r contract heb awdurdodiad ymlaen llaw
Dylech gymryd camau i sicrhau bod y contractwr dethol yn deall y gofynion a bod ganddo'r profiad a'r addasrwydd i ymgymryd â'r gwaith sy'n cael ei roi ar gontract allanol. Nid y pris terfynol yng nghynigion y cyflenwyr ddylai fod yr unig ystyriaeth wrth ddewis contractwr. Dylid ystyried pob cynnig yn ofalus er mwyn asesu beth yn union y mae'n ei gynnig.
Dylid canolbwyntio ar ‘werth am arian’, a dylai'r penderfyniad terfynol fod yn seiliedig ar ymrwymiad y contractwr i ddangos y canlynol:
- y cyfuniad gorau o gost y nwyddau neu'r gwasanaeth
- y gallu i fodloni eich gofynion fel y'u nodir yn y fanyleb
- y gallu i gwblhau'r gwaith yn brydlon ac i safon uchel
- sicrwydd digonol y caiff gofynion y ddeddfwriaeth diogelu data eu bodloni
- y caiff y gwiriadau priodol eu cynnal mewn perthynas â datganiadau'r cyflenwyr ynghylch diogelwch, iechyd a diogelwch, a thrin data yn ddiogel
Gall contractwyr is-gontractio gwaith a dylech roi caniatâd ysgrifenedig ymlaen llaw cyn defnyddio unrhyw is-gontractwyr. Dylech sicrhau bod unrhyw is-gontractwyr yn ymwybodol o'r gofynion penodol fel y'u nodir yn y fanyleb a chael sicrwydd y bydd yr is-gontractwr yn gallu cyflawni'r gwaith.
Ar ôl i chi wneud eich penderfyniad terfynol, dylech ofyn am unrhyw eirdaon ffurfiol ar gyfer y contractwr a ddewiswyd. Dylech hefyd hysbysu'r contractwyr aflwyddiannus a bod yn barod i gael ôl-drafodaeth gyda nhw os byddant yn gofyn am un.
Dylai fod gennych gontract ffurfiol, ysgrifenedig ar waith gyda phob contractwr rydych wedi rhoi swyddogaeth neu dasg ar gontract allanol iddo. Mae'n hanfodol bod gofynion statudol a'u goblygiadau yn cael eu hesbonio'n llawn lle bynnag y caiff contractwyr eu defnyddio, a bod y gofynion hyn wedi'u nodi'n bendant yn y contract ar gyfer unrhyw waith.
Ystyriaethau diogelu data ar gyfer gwaith ar gontract allanol
Wrth benodi contractwr neu gyflenwr, rhaid i chi sicrhau y gall roi sicrwydd digonol y bodlonir gofynion deddfwriaeth diogelu data.
Mae'r gofynion yn nodi bod yn rhaid i'r cyflenwr ac unrhyw is-gontractwyr sicrhau'r canlynol:
- bod yr holl ddata cofrestru etholiadol a deunyddiau cysylltiedig yn cael eu dinistrio'n ddiogel ar adeg y cytunir arni
- bod yr holl bapurau pleidleisio byw yn cael eu storio'n ddiogel
- bod yr holl ddata sy'n gysylltiedig â'r papurau pleidleisio yn cael eu dinistrio'n ddiogel ar adeg y cytunir arni, cyn gynted â phosibl ar ôl y diwrnod pleidleisio
Dylech sicrhau bod gweithgarwch diogelu data yn rhan annatod o unrhyw dendr (gan ddogfennu eich proses gwneud penderfyniadau) a bod y gofynion penodol yn cael eu bodloni mewn unrhyw gontract a ddyfernir. Dylech gydgysylltu â Swyddog Diogelu Data/Swyddog Gwybodaeth eich cyngor er mwyn sicrhau cydymffurfiaeth â deddfwriaeth diogelu data.
Mae gofynion penodol o dan ddeddfwriaeth diogelu data pan fyddwch yn defnyddio contractwr (h.y. ‘prosesydd’) i brosesu data personol ar eich rhan. Byddai hyn yn cynnwys, er enghraifft, achosion pan fyddwch yn anfon data at gontractwr er mwyn argraffu deunyddiau etholiad fel pecynnau pleidleisiau post neu bapurau pleidleisio.
Fel Swyddog Canlyniadau, chi yw'r rheolydd data a chi sy'n bennaf cyfrifol am sicrhau bod data personol yn cael eu prosesu yn unol â deddfwriaeth diogelu data. Fodd bynnag, os bydd prosesydd yn methu â chyflawni unrhyw un o'i rwymedigaethau, neu'n mynd yn groes i'ch cyfarwyddiadau, gall hefyd orfod talu iawndal neu gall gael dirwy neu gosb neu fesurau unioni eraill. Mae Swyddfa'r Comisiynydd Gwybodaeth wedi darparu canllawiau ar 'Contractau a rhwymedigaethau rhwng rheolyddion a phroseswyr y dylech eu hystyried o ran eich contractau â phroseswyr data.
Gweler ein canllawiau diogelu data ar ddefnyddio contractwyr a chyflenwyr am ragor o wybodaeth.
Datblygu contractau ar gyfer gwaith ar gontract allanol
Yr allwedd i reoli contractau yn effeithiol yw llinellau cyfathrebu parhaus ac agored rhyngoch chi a'r rheolwr a enwebwyd gennych ar gyfer y contract, wedi'u hategu gan ddarpariaethau clir a chadarn yn y contract o ran ansawdd a'r amserlenni a ddisgwylir ac sy'n ofynnol.
Dylai'r contract amlinellu manylion sylfaenol am y cynhyrchion a'r gwasanaethau a ddarperir, fel manylebau, niferoedd, terfynau amser a chost.
Rhaid i'r contract eich galluogi i derfynu'r contract o ganlyniad i'r canlynol:
- gweithred neu hepgoriad esgeulus
- gweithred sy'n golygu na allwch gyflawni eich dyletswyddau statudol
- mae'r cwmni'n mynd yn ansolfent neu'n cael ei ddiddymu sy'n effeithio ar y contract
Dylai fod gan y cyflenwr hefyd yswiriant digonol ar waith i gwmpasu risgiau mewn perthynas ag atebolrwydd cyhoeddus ac esgeulustod proffesiynol.
Dylai hefyd gefnogi'r broses sicrhau ansawdd drwy gynnwys manylion penodol am y meysydd pwnc canlynol:
Cynlluniau parhad busnes
Mae'n allweddol y dylai trefniadau eich contract amlinellu sut y bydd eich cyflenwr yn parhau i weithredu os bydd rhywbeth yn tarfu ar y gwasanaeth yn annisgwyl. Gall y manylion fod wedi'u nodi yn rhywle ar wahân i'ch contract ffurfiol, ond dylech gael sicrwydd bod cynlluniau parhad busnes yn bodoli ac, yn ddelfrydol, dylech allu gweld y rhain er gwybodaeth.
Cytundebau lefel gwasanaeth
Dylai eich contract ddiffinio pa wasanaethau yn union y bydd cyflenwr yn eu darparu a'r lefel neu'r safon sy'n ofynnol ar gyfer y gwasanaethau hynny. Er enghraifft, gall hyn gynnwys manylion am ba mor gyflym y ceir ymateb i negeseuon e-bost, eich hawliau chi a hawliau cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac arsylwyr achrededig i gael mynediad i safle'r cyflenwr at ddibenion arsylwi, neu i'ch galluogi i gynnal gwiriadau sicrhau ansawdd, faint o lithro a ganiateir i'r naill ochr neu'r llall mewn perthynas ag unrhyw derfynau amser o dan y contract, a sut yr eir i'r afael ag unrhyw achosion o fethu â bodloni cytundebau lefel gwasanaeth, o ran trefniadau cyflawni ac unrhyw iawndal cysylltiedig. Bydd cytundebau lefel gwasanaeth o'r fath yn helpu i ddiffinio'r hyn y gallwch ei ddisgwyl fel cwsmer a sut y byddwch chi a'ch cyflenwr yn cydweithio â'ch gilydd.
Dylech lunio gweithdrefn i'ch galluogi i brawfddarllen proflenni sy'n barod i'w hargraffu ac i brofi dogfennau o fewn y terfynau amser y cytunwyd arnynt. Dylech hefyd gytuno ar broses i gywiro unrhyw wallau.
Gallai amrywio'r fanyleb y cytunwyd arni mewn unrhyw ffordd arwain at dorri deddfwriaeth a chyfrifoldeb personol y Swyddog Canlyniadau fydd unrhyw achos o dorri o'r fath, felly dylai unrhyw amrywiadau gael eu dogfennu'n ffurfiol a'u cymeradwyo gennych chi neu gan rywun sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar eich rhan. Dylid gallu addasu'r contract i ystyried gweithgareddau annisgwyl a newidiadau munud olaf. Dylech sicrhau bod contractwyr yn gwybod sut y gall dyddiadau cau ar gyfer cofrestru effeithio ar amserlenni. Er enghraifft mae gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol tan y dyddiad cau penderfynu (h.y. 6 diwrnod gwaith cyn yr etholiad) i dderbyn y dystiolaeth angenrheidiol gan ddarpar etholwr o dan y broses eithriadau a gwneud eu penderfyniad1 . Os gwnaeth yr etholwr hefyd gais i bleidleisio drwy'r post, bydd hyn yn effeithio ar nifer y pleidleisiau post i'w cynnwys yn y pecyn dosbarthu olaf. Os oes llithriant, er enghraifft oherwydd yr amser sydd ei angen i brosesu swmp-geisiadau pleidleisio drwy'r post munud olaf, dylech hysbysu'r contractwyr cyn gynted â phosibl.
Trefniadau diogelu data
Sicrhewch eich bod yn ymdrin â manylion penodol y data i'w prosesu, gan gynnwys y mathau o ddata, yr amser prosesu a hawliau a rhwymedigaethau'r naill barti a'r llall. Dylai hyn hefyd gynnwys cyfarwyddiadau ar ddileu data ar ôl iddynt gael eu prosesu. Mae'n ofyniad cyfreithiol o dan y ddeddfwriaeth diogelu data gyfredol i ffurfioli'r gydberthynas waith â chyflenwyr a gaiff eu contractio i brosesu data a ddelir gennych, mewn contract ysgrifenedig. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ystyriaethau diogelu data wrth ddefnyddio contractwyr a chyflenwyr.
Dylech hefyd ystyried cymalau cyfrinachedd. Er nad yw Swyddogion Canlyniadau yn ddarostyngedig i geisiadau rhyddid gwybodaeth, er budd tryloywder, dylid ystyried cytuno i ddatgelu rhywfaint o wybodaeth os ceir cais rhyddid gwybodaeth. Fodd bynnag, ni ddylech chi na'r cyflenwr ddatgelu unrhyw wybodaeth gyfrinachol am delerau'r contract.
Rhaid i chi roi copi o'r gofynion cyfrinachedd i gyflenwyr:
Gofynion cyfrinachedd
Defnyddio unrhyw is-gontractwyr
Dylai eich cyflenwr nodi unrhyw achosion lle bydd yn is-gontractio unrhyw elfen o'r broses o ddarparu ei wasanaethau. Yn achos cyflenwyr mewn etholiad, gallai hyn fod yn gysylltiedig â llunio, cyflawni neu ddosbarthu deunyddiau. Er bod defnyddio is-gontractwyr yn beth cyffredin i lawer o ddiwydiannau, ac er na ddylai ynddo'i hun beri pryder, mae'n bwysig eich bod yn gwybod p'un a yw eich cyflenwyr yn defnyddio gwasanaethau is-gontractwyr ai peidio a pha brosesau sicrhau ansawdd sydd ar waith ganddynt i sicrhau bod unrhyw waith a wneir gan drydydd partïon yn cynnal y safonau a nodir yn eich contract â nhw, gan gynnwys gofynion diogelu data a chyfrinachedd.
Trefniadau anfonebu
Dylech sicrhau y caiff yr holl wybodaeth ategol mewn perthynas â'r costau a godir ei hanfon gan y cyflenwr yn unol â'r tendr/dyfynbris. Rhaid i chi dalu'r anfoneb o fewn y cyfnod amser y cytunwyd arno.
- 1. Adran 13B, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. ↩ Back to content at footnote 1
Paratoi ar gyfer rheoli'r broses o gyflawni gwaith ar gontract allanol
Fel rhan o'ch paratoadau ar gyfer cynnal y bleidlais, dylech gysylltu â'r cyflenwyr i gadarnhau'r trefniadau terfynol ymhell cyn dechrau cyfnod yr etholiad. Mae hyn yn arbennig o bwysig os oes gennych gontractau ar waith ers tro, a dylech sicrhau bod yr holl drefniadau cytundebol yn briodol ac yn bodloni eich gofynion yn llawn o hyd, neu os bu newidiadau i bersonél ar y naill ochr neu'r llall.
Pan fyddwch yn cysylltu â'r cyflenwyr cyn y bleidlais, dylech gadarnhau'r canlynol:
- pwy yw'r unigolion cyswllt allweddol ar y naill ochr a'r llall, a phwy y gellir cysylltu â nhw pan na fydd y prif unigolion cyswllt ar gael (gan gynnwys y tu allan i oriau) er mwyn sicrhau bod y gwaith yn mynd rhagddo heb oedi diangen
- yr amserlen ar gyfer cyflawni pob cam o'r gwaith, gan gynnwys:
- pryd y byddwch yn rhoi data a gwybodaeth arall i'r contractwr
- pryd y caiff pob proflen ei rhoi i chi ar gyfer pob eitem a gaiff ei llunio, a'r terfyn amser ar gyfer cynnal eich gwiriadau ac ymateb i bob un
- y cyfnodau argraffu a chyflawni ar gyfer pob eitem, gan gynnwys pryd a sut y caiff gwiriadau sicrhau ansawdd eu cynnal ar bob cam
- y cyfnod anfon ar gyfer pob eitem, gan gynnwys y dyddiadau dosbarthu tebygol o ystyried y gwasanaeth dosbarthu a ddefnyddir a'r niferoedd a anfonir ar bob dyddiad
- y trefniadau ar gyfer rheoli ffeiliau etholwyr ychwanegol/etholwyr i'w dileu o'r data (lle y bo'n berthnasol)
- unrhyw fwriad i ddefnyddio is-gontractwyr; gan gynnwys mewn perthynas â defnyddio darparwyr mynediad ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi i ddosbarthu deunyddiau i etholwyr
- y fformatau a'r dulliau cyfathrebu a ddefnyddir i roi gwybodaeth i gyflenwyr (yn enwedig data o'ch System Rheoli Etholiad), rhannu proflenni a chadarnhau bod data neu eitemau wedi dod i law neu fod proflenni ac ati wedi cael eu cymeradwyo drwy gydol y broses, a chadarnhau bod eitemau wedi cael eu hanfon. Mae'n bwysig cytuno ar hyn ymlaen llaw er mwyn cael trywydd archwilio clir ar bob cam o'r broses
- yr union fanylebau ar gyfer pob eitem a gaiff ei llunio; yn ôl y gyfraith, rhaid i eitemau megis papurau pleidleisio gael eu hargraffu yn unol â'r cyfarwyddiadau ar gyfer argraffu yn yr atodiad i'r rheolau etholiadau perthnasol. Er enghraifft, dylech holi eich cyflenwr argraffu beth yw ei uchafswm maint ar gyfer argraffu papurau pleidleisio a pha drefniadau wrth gefn fydd ar waith os bydd angen papurau pleidleisio hwy
- sut y byddwch yn rhoi gwybod i'ch gilydd am unrhyw broblemau a fydd yn codi, a'r broses uwchgyfeirio a ddefnyddir i wneud penderfyniadau a datrys problemau os bydd angen
Pan fyddwch wedi cytuno ar yr holl drefniadau penodol a nodir uchod, dylech lunio dogfen ysgrifenedig sy'n cynnwys yr holl fanylion ac y gellir cyfeirio ati drwy gydol y broses er mwyn sicrhau y caiff pob cam ei reoli a'i gyflawni yn unol â'r manylebau y cytunwyd arnynt.
Mae'n bwysig cofio y bydd y terfynau amser y cytunwyd arnynt yn berthnasol i'r naill barti a'r llall, felly bydd angen i chi sicrhau eich bod yn cymryd yr holl gamau gofynnol ar y dyddiadau y cytunwyd arnynt er mwyn helpu i gwblhau'r gwaith yn unol â'r amserlen y cytunwyd arni.
Ceir rhagor o ganllawiau i'ch helpu wrth weithio gyda chyflenwyr yn ein hadran ar sicrhau ansawdd a phrawfddarllen deunyddiau etholiad.
Gweithio gyda phartneriaid dosbarthu post
Oni bai eich bod yn bwriadu dosbarthu eich holl ddeunydd etholiad â llaw, bydd angen i chi gynnal trafodaethau cynnar â'ch darparwr dosbarthu post er mwyn cadarnhau'r trefniadau terfynol. Dylech ganolbwyntio ar sicrhau y caiff deunydd ei ddosbarthu i etholwyr yn llwyddiannus gan roi cymaint o amser â phosibl iddynt dderbyn y wybodaeth a chymryd y camau angenrheidiol.
Mae rhai cyflenwyr argraffu yn defnyddio'r Post Brenhinol ar gyfer dosbarthu post o'r dechrau i'r diwedd, ond mae rhai yn defnyddio darparwyr mynediad ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi (DSA) ar gyfer rhan gychwynnol y broses ddosbarthu. Fel rhan o'r broses hon, caiff y post ei gasglu a'i brosesu gan gwmni heblaw'r Post Brenhinol, ond wedyn caiff ei drosglwyddo i ganolfannau post y Post Brenhinol ar gyfer y cam prosesu terfynol ac i'w ddosbarthu o swyddfeydd dosbarthu lleol.
Ni waeth sut y caiff y broses o ddosbarthu eich post ei rheoli, mae'n bwysig cadw golwg barhaus arni, gan mai chi sy'n gyfrifol hyd yn oed os byddwch wedi rhoi gwahanol brosesau ar gontractau allanol.
Dylech drafod â'ch cyflenwyr argraffu er mwyn cadarnhau a ydynt yn bwriadu defnyddio darparwyr DSA fel rhan o'r broses o ddosbarthu eich deunydd etholiad, neu a gaiff yr eitemau eu trosglwyddo'n uniongyrchol i'r Post Brenhinol. Bydd hyn yn eich helpu i ddeall y broses ddosbarthu lawn ac i ymdrin ag unrhyw broblemau os byddant yn codi.
Os ydych wedi cytuno â'ch cyflenwr y bydd darparwyr mynediad ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi yn cael eu defnyddio fel rhan o'r broses anfon a dosbarthu, dylech gael y wybodaeth ddiweddaraf gan eich cyflenwr am hynt y broses drwyddi draw.
Rheoli amserlenni dosbarthu
Dylech gydgysylltu â'ch cyflenwr argraffu er mwyn rheoli'r broses o ddosbarthu deunyddiau a sicrhau bod pleidleiswyr yn derbyn y deunydd cyn gynted â phosibl er mwyn rhoi cymaint o amser â phosibl iddynt weithredu ar yr wybodaeth.
Wrth wneud y trefniadau hyn, dylech wneud y canlynol:
- cytuno ar amserlenni dosbarthu caeth ymhell cyn yr etholiad a chael cadarnhad ffurfiol o'r amserlenni hynny. Er enghraifft, pryd y bydd y broses o ddosbarthu deunydd yr etholiad yn dechrau a'r dyddiad dosbarthu olaf
- cael docedi post er mwyn cadarnhau nifer y dogfennau a ddosbarthwyd a'r dyddiadau dosbarthu, ar gyfer pob cyfres. Bydd hyn hefyd yn helpu i nodi unrhyw broblemau posibl a allai fod wedi codi o ran dosbarthu ac yn bwydo i mewn i unrhyw werthusiad dilynol o berfformiad y contractwr, ac yn eich galluogi i ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr ar y dyddiadau y dylent ddisgwyl derbyn deunydd
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar yr opsiynau ar gyfer dosbarthu pecynnau pleidleisio.
Y Post Brenhinol
Dylech fod mewn cyswllt â'ch rheolwr cyfrif yn y Post Brenhinol, a dylech barhau i gysylltu ag ef yn rheolaidd.
Ar gam cynnar yn eich proses gynllunio, dylech sicrhau'r canlynol:
- bod unrhyw drwyddedau ymateb busnes sydd gennych yn gyfredol
- eich bod wedi cael y cyfnod dosbarthu amcangyfrifedig ar gyfer deunyddiau'r etholiad yn seiliedig ar y dyddiadau dosbarthu a'r dull dosbarthu/pecyn postio a ddewiswyd. Bydd hyn yn eich helpu i reoli'r sianelau cyfathrebu â phleidleiswyr yn eich ardal ac yn helpu i ganfod yn gynnar unrhyw broblemau sy'n codi wrth ddosbarthu deunyddiau'r etholiad
- y bydd unrhyw drefniadau pleidleisio drwy'r post yn helpu i sicrhau bod cymaint o amser â phosibl ar gael i bleidleiswyr post dderbyn, cwblhau a dychwelyd eu pleidlais bost
- y caiff y stamp cywir ei roi ar unrhyw bleidleisiau post a anfonir i gyfeiriadau y tu allan i'r DU
- bod y Post Brenhinol yn gwybod ble a phryd i ddosbarthu'r pleidleisiau post a gaiff eu dychwelyd i fan diogel, yn barod i'w prosesu; efallai yr hoffech ystyried trefnu amser penodol ar gyfer y broses ddosbarthu hon
Bydd angen i chi hefyd ystyried a ddylid trefnu unrhyw archwiliadau terfynol o bleidleisiau post a phwyso a mesur buddiannau'r archwiliad.
Cynnal uniondeb yr etholiad
Dylai pleidleiswyr ac ymgyrchwyr fod yn hyderus o'r canlynol:
- nad oes unrhyw achosion o dwyll yn gysylltiedig ag etholiadau
- y caiff y pleidleisiau a gaiff eu bwrw eu cyfrif yn y ffordd a fwriadwyd gan bleidleiswyr
- bod y canlyniadau a gaiff eu datgan gennych yn wir ac yn gywir
Mae ymddiriedaeth a hyder yn uniondeb etholiadau yn hanfodol ond gall fod yn fregus. Bydd yn anodd i chi ailennyn ymddiriedaeth neu hyder a gollwyd o ganlyniad i honiadau o dwyll neu achosion profedig o dwyll.
Dylech roi strategaethau effeithiol ar waith i atal twyll etholiadol o'r cychwyn cyntaf. Bydd angen i chi hefyd fod yn barod i weithio gyda'r heddlu ac erlynwyr er mwyn cynnal ymchwiliadau dilynol i unrhyw honiadau y gellid eu gwneud.
Dylech drafod y dull y byddwch yn ei ddefnyddio i fynd i'r afael â thwyll etholiadol â phleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid mewn sesiynau briffio ac fel rhan o unrhyw wybodaeth ysgrifenedig a roddir iddynt. Dylech hefyd wahodd yr heddlu i fynychu unrhyw sesiynau briffio o'r fath a'u gwahodd i roi unrhyw ddogfennaeth berthnasol i chi ei chynnwys yn eich pecyn gwybodaeth.
Mae'r canllawiau hyn yn ymdrin yn benodol â'r risg o dwyll etholiadol mewn perthynas â phrosesau etholiadol. Ceir gwybodaeth am ymdrin â materion uniondeb sy'n gysylltiedig â thwyll mewn perthynas â cheisiadau cofrestru neu geisiadau pleidleisiau absennol yn y canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol:
Nodi ceisiadau cofrestru amheus yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
Nodi ceisiadau pleidleisiau absennol amheus yng Nghymru, Lloegr a'r Alban
Troseddau
Mae nifer o droseddau etholiadol a nodir o fewn cyfraith etholiadol. Mae INSERT GUIDELET TITLE of our guidance for candidates and agents yn rhoi gwybodaeth am y troseddau hyn.
Delio â honiadau o droseddau ariannol
Rhaid i ymgeiswyr a'u hasiantiaid ddilyn rheolau a nodir mewn deddfwriaeth ynghylch faint y gallant ei wario mewn etholiad. Rydym yn llunio canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid, pleidiau ac ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sy'n amlinellu rheolau ar wariant.
Dylai unrhyw ymholiadau ynghylch gwariant ar etholiadau gael eu cyfeirio at dîm Cyllid Etholiadol Plaid y Comisiwn Etholiadol drwy e-bost: [email protected] neu drwy ffonio: 0333 103 1928
Asesu a rheoli'r risg o dwyll etholiadol
Er nad oes unrhyw arwyddion pendant o dwyll etholiadol posibl, bydd angen i chi sicrhau bod systemau ar waith i nodi unrhyw batrymau gweithgarwch a allai awgrymu achos posibl o dwyll etholiadol. Dylech fod yn ymwybodol o'r holl ddata sydd ar gael i chi, a dylech ystyried y data hynny, gan gynnwys:
- a fu unrhyw batrymau anarferol o ran ceisiadau cofrestru neu bleidleisiau absennol mewn etholiadau blaenorol
- a fu unrhyw batrymau anarferol o ran papurau pleidleisio a wrthodwyd, gan gynnwys pecynnau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd, mewn etholiadau blaenorol
- a oes unrhyw batrymau anarferol o ran ceisiadau cofrestru neu bleidleisiau absennol yn y cyfnod cyn yr etholiad
Rydych mewn sefyllfa unigryw i nodi achosion a phatrymau gweithgarwch a allai fod yn arwydd o dwyll etholiadol yn eich ardal. Gallai cymryd camau cynnar i fynd i'r afael ag achosion posibl o dwyll helpu i osgoi ymchwiliadau costus gan yr heddlu neu heriau cyfreithiol i ganlyniadau'r etholiadau.
Dylech sicrhau bod gennych brosesau ar waith i asesu'r risg o dwyll etholiadol yn eich ardal, gan gynnwys ystyried y canlynol:
- a fu hanes o honiadau o dwyll etholiadol yn yr ardal
- a yw'r etholiad yn debygol o fod yn arbennig o agos ac wedi'i ymladd yn galed
- ai sedd ymylol ydyw, lle mai dim ond newid cymharol fach sydd ei angen yn nifer y pleidleisiau er mwyn newid rheolaeth
- a oes unrhyw frwydr sy'n seiliedig ar anghytundebau personol cryf yn ogystal â dadleuon gwleidyddol
- risgiau lle ceir poblogaeth symudol iawn lle mae nifer yr etholwyr yn newid yn aml
- risgiau lle ceir etholwyr a all fod yn fwy agored i niwed oherwydd lefelau isel o lythrennedd a/neu allu o ran Cymraeg/Saesneg
Cynllunio eich dull o sicrhau uniondeb yr etholiad
Dylai fod gennych gynlluniau a phrosesau ar waith i sicrhau uniondeb yr etholiad.
Dylech ddatblygu eich cynlluniau drwy ymgynghori â phwynt cyswllt unigol (SPOC) yr heddlu. Dylai'r cynlluniau gynnwys y canlynol:
- sut y byddwch yn gweithio gyda'r heddlu lleol a'r SPOC, gan amlinellu sut y caiff cyfrifoldebau eu rhannu er mwyn sicrhau eglurder ynghylch rolau pawb, llinellau cyfathrebu clir a chytundeb o ran pa mor aml y byddech yn disgwyl cysylltu â'ch gilydd
- sut y byddwch yn cyfleu eich dull o sicrhau uniondeb etholiadol i randdeiliaid ac etholwyr, er mwyn cynnal hyder y cyhoedd yn yr etholiad
- systemau ar gyfer monitro dangosyddion ar gyfer twyll etholiadol posibl a phennu trothwyon ar gyfer gweithredu mewn ymateb i hynny
- camau penodol i ddelio ag unrhyw achosion posibl o dwyll etholiadol fel:
- dull y cytunir arno o sicrhau yr ymchwilir ymhellach i honiadau o dwyll lle y bo'n briodol
- sefydlu proses ar gyfer trin tystiolaeth, fel y gall yr heddlu wneud unrhyw waith dadansoddi fforensig
- unrhyw risgiau penodol a nodwyd gennych yn ychwanegol at unrhyw gynlluniau cyffredinol ar gyfer canfod twyll
Gallai risgiau penodol gynnwys y risgiau sy'n gysylltiedig â thai amlfeddiannaeth fel neuaddau preswyl myfyrwyr neu gartrefi gofal lle gall pobl eraill weld post personol neu lle gall y rhai sy'n rhoi gofal helpu preswylwyr mewn cartrefi gofal i gwblhau ceisiadau pleidleisio drwy'r post neu bleidleisiau post.
Gwneud cynlluniau ar gyfer sicrhau diogelwch papurau
Dylai eich cynllun prosiect gynnwys adolygiad o'r trefniadau diogelwch a wnaed â'r heddlu lleol i sicrhau diogelwch papurau pleidleisio drwy gydol y broses.
Dylai eich trefniadau diogelwch atal pobl rhag gweld a defnyddio'r papurau pleidleisio heb awdurdod ar bob cam o'r broses o'u llunio ac wrth eu storio rhwng yr adeg pan gânt eu hargraffu a'r etholiad.
Pa ddull storio bynnag a ddewiswch, dylech sicrhau y gallwch fod yn fodlon eich bod wedi cymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau bod y papurau pleidleisio ac eitemau eraill yn cael eu cadw'n ddiogel drwy'r amser ac na ellir ymyrryd â hwy.
Ystyriaethau diogelwch yn ystod y broses dilysu a chyfrif
Dylech ystyried risgiau diogelwch y broses dilysu a chyfrif fel rhan o'ch cynlluniau uniondeb a'u cynnwys ar eich cofrestr risgiau. Gall risgiau diogelwch amrywio o fewn yr ardal etholiadol a gall fod angen i chi ddefnyddio dull gwahanol mewn achosion penodol. Dylech ystyried cydgysylltu â'ch pwynt cyswllt unigol (SPOC) yn yr heddlu lleol wrth benderfynu ar y dull mwyaf priodol o gludo blychau pleidleisio a deunyddiau eraill a sicrhau y cânt eu storio'n ddiogel.
Rydym wedi datblygu templed o gofrestr risgiau a phroblemau y gallwch ei ddefnyddio i gofnodi unrhyw risgiau a nodir gennych. Mae'n cynnwys enghreifftiau y bydd angen i chi eu hystyried a'u lliniaru os bydd angen, yn ogystal â chofnod i gofnodi unrhyw broblemau sy'n dod i'r amlwg ac y bydd angen i chi fynd i'r afael â nhw. Fel arall, efallai y byddwch am gynnwys risgiau, gan gynnwys ein henghreifftiau, mewn unrhyw ddogfennaeth rheoli risg a ddatblygwyd gennych eisoes.
Templed o gofrestr risgiau a phroblemau
Yn lleoliad y cyfrif, dylech sicrhau bod trefniadau cadarn ar waith i gofnodi'r holl ddeunyddiau a gwaith papur a fydd yn cyrraedd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth ar goll.
Mae angen i chi benderfynu sut y caiff y papurau pleidleisio a deunyddiau eraill eu cadw'n ddiogel ar ôl iddynt gyrraedd y lleoliad(au) dilysu a chyfrif, er enghraifft, drwy sicrhau nad ydynt byth yn cael eu gadael heb neb i ofalu amdanynt.
Dylech hefyd gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau diogelwch y blychau pleidleisio a'r deunydd ysgrifennu perthnasol o'r adeg y bydd gorsafoedd pleidleisio yn cau hyd at ddatgan y canlyniad, yn enwedig lle mae toriad yn ystod y dydd.
Lle ceir saib yn y gweithrediadau am y cyfnod cyfan rhwng 7pm a 9am ar y diwrnod canlynol, neu unrhyw ran o'r cyfnod hwnnw, mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i osod y dogfennau o dan eich sêl a chymryd y camau priodol i sicrhau diogelwch y papurau a'r dogfennau. Dylech gysylltu â'ch SPOC ynglŷn â hyn.
Bydd angen i chi sicrhau bod trefniadau wrth gefn ar waith os bydd angen gwagio'r safle o gwbl ac ystyried sut y byddwch yn sicrhau diogelwch y blychau pleidleisio a deunyddiau eraill.
Dylech hefyd roi gwybod i ymgeiswyr ac asiantiaid am eich trefniadau diogelwch, er mwyn sicrhau y gallant ymddiried yn uniondeb y broses gyfrif.
Gweithio gyda'ch swyddog pwynt cyswllt unigol
Mae gan bob heddlu yn y DU swyddog pwynt cyswllt unigol (SPOC) penodol ar gyfer troseddau sy'n gysylltiedig ag etholiadau. Bydd SPOC eich heddlu lleol yn bartner allweddol i'ch helpu i sicrhau y nodir unrhyw broblemau posibl o ran uniondeb ac yr ymdrinnir â nhw'n gyflym.
Dylech gysylltu â'ch SPOC penodol ar ddechrau'r broses o gynllunio'r etholiad. Ar ôl cysylltu am y tro cyntaf, dylech barhau â'r cyswllt hwn drwy gydol cyfnod yr etholiad. Os cewch unrhyw broblemau wrth sefydlu cyswllt â'r SPOC, cysylltwch â thîm lleol y Comisiwn.
Dylai eich trafodaethau gynnwys eich cynlluniau ar gyfer sicrhau uniondeb yr etholiad a'ch systemau ar gyfer nodi problemau posibl a pha gamau y dylid eu cymryd os bydd unrhyw amheuon.
Mae rhestr wirio o bynciau y dylech eu hystyried mewn unrhyw gyfarfod cynllunio cyn etholiad rhyngoch chi a'ch SPOC ar gael i gefnogi eich trafodaethau.
Dylech gytuno â'ch SPOC ar ddull o gyfeirio honiadau o dwyll a fydd o bosibl yn dod i law er mwyn gallu ymchwilio ymhellach iddynt lle y bo'n briodol. Er enghraifft, ai chi fydd y pwynt cyswllt cychwynnol a fydd yn cyfeirio honiadau at y SPOC, neu ai'r SPOC fydd y pwynt cyswllt cychwynnol a fydd yn rhoi gwybod i chi am honiadau?
Dylech hefyd gytuno ar system ar gyfer trin tystiolaeth fel y gall yr heddlu wneud unrhyw waith dadansoddi fforensig, lle bo angen. Mae'r Coleg Plismona Arfer Proffesiynol Awdurdodedig wedi darparu canllawiau i awdurdodau lleol ar gyfer ymdrin â thystiolaeth.
Hefyd, dylech gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau y gall swyddogion yr heddlu (a all, yng Nghymru a Lloegr, gynnwys swyddogion cymorth cymunedol yr heddlu bellach) fynd i orsafoedd pleidleisio neu alw i mewn yn ystod y diwrnod pleidleisio, fel y bo'n briodol, a thrafod unrhyw faterion diogelwch sy'n ymwneud ag unrhyw agwedd arall ar y broses gan gynnwys diogelwch cymunedol y pleidleiswyr.
Mae'n bosibl y byddwch hefyd yn penderfynu cynnal gwaith cyhoeddusrwydd ar y cyd â'r heddlu i gefnogi eich gwaith wrth sicrhau uniondeb yr etholiad. Er enghraifft, gallech gydweithio i gynnal ymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd yn yr ardal etholiadol er mwyn nodi beth y gellir ei wneud i helpu i ganfod achosion o dwyll etholiadol a'u hatal.
Yng Nghymru a Lloegr, mae templed o femorandwm cyd-ddealltwriaeth rhwng y Swyddog Canlyniadau a'r heddlu ar gyd-gynllunio etholiadau a'r broses ar gyfer rhoi gwybod am achosion o gamymddwyn etholiadol ac ymchwilio iddynt ar gael ar wefan y Coleg Plismona Arfer Proffesiynol Awdurdodedig.
Mae Heddlu'r Alban wedi darparu canllawiau i Swyddogion yr Heddlu ar atal a chanfod twyll etholiadol yn yr Alban.
atal a chanfod twyll etholiadol yn yr Alban.
Delio â honiadau o dwyll etholiadol
Ar ôl i chi roi eich cynlluniau ar waith ar gyfer monitro a sicrhau uniondeb yr etholiad yn eich ardal, mae'n bwysig eich bod yn cynnig cyngor clir i ymgeiswyr, asiantiaid ac etholwyr ar sut i wneud honiadau er mwyn sicrhau dull gweithredu effeithiol a chyson mewn perthynas â'u rheoli.
Dylech sicrhau bod pob ymgeisydd ac asiant yn deall y canlynol:
- sut i godi pryderon penodol am achosion o dwyll etholiadol sy'n ymwneud â'r etholiad
- pa fath o dystiolaeth a pha lefel o dystiolaeth y bydd ei hangen er mwyn i'r heddlu allu ymchwilio i honiadau
- sut yr ymdrinnir â honiadau
- pa wybodaeth ac adborth y dylent allu disgwyl eu cael ynghylch cynnydd unrhyw ymchwiliadau
Bydd yr heddlu yn ymchwilio i unrhyw honiadau o dwyll hyd nes y bydd yn fodlon, ar ôl ymgynghori â Gwasanaeth Erlyn y Goron (CPS) neu, yn yr Alban, â Gwasanaeth Swyddfa'r Goron a'r Procuradur Ffisgal (COPFS), nad oes angen cymryd camau pellach neu nad yw'n briodol gwneud hynny, neu y bydd yn trosglwyddo'r ffeil achos i'r CPS neu COPFS er mwyn iddynt ei erlyn. Dylai'r heddlu eich hysbysu chi a, lle y bo'n briodol, y Swyddog Cofrestru Etholiadol am gynnydd yr achos.
Mae'r Comisiwn a Chyngor Cenedlaethol Penaethiaid yr Heddlu (sef Cymdeithas Prif Swyddogion yr Heddlu gynt) wedi helpu'r Coleg Plismona i lunio llawlyfr o ganllawiau ar gyfer plismona etholiadau yng Nghymru a Lloegr, (sydd hefyd ar gael i'w lawrlwytho o wefan y Comisiwn). Mae Heddlu'r Alban, mewn ymgynghoriad â'r Comisiwn Etholiadol a Bwrdd Rheoli Etholiadol yr Alban (EMB), wedi llunio dogfen ganllaw ar gyfer swyddogion yr heddlu yn yr Alban ar atal a chanfod twyll etholiadol.
dogfen i swyddogion yr heddlu yn yr Alban ar atal a chanfod twyll etholiadol
Cod ymddygiad i ymgyrchwyr
Ar ôl ymgynghori â Swyddogion Canlyniadau, heddluoedd a phleidiau gwleidyddol, mae'r Comisiwn wedi llunio Cod Ymddygiad i ymgyrchwyr yn ystod etholiadau a refferenda. Mae'r cod yn gymwys i bob ymgyrchwr, ac mae'n nodi safonau ymddygiad priodol y cytunwyd arnynt cyn ac yn ystod etholiad neu refferendwm.
Mae'r Cod hefyd yn ei gwneud yn glir, os bydd Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn ystyried ei bod yn briodol mynd i'r afael â risgiau lleol penodol eraill, a'i fod wedi ymgynghori â'r pleidiau cenedlaethol a lleol perthnasol, y byddwn yn ei helpu i gyflwyno darpariaethau lleol ychwanegol sy'n mynd y tu hwnt i delerau'r cod y cytunwyd arno'n genedlaethol.
Mae'r Cod hefyd yn cynnwys y gofyniad i ddangos ID ffotograffig mewn gorsafoedd pleidleisio. Gwnaethom ymgynghori â'r pleidiau gwleidyddol sy'n eistedd ar Banel Pleidiau Seneddol San Steffan ar y diweddariad hwn i'r cod.
Cynllunio ar gyfer gweithgarwch cyfathrebu
Fel Swyddog Canlyniadau, rydych yn gyfrifol am sicrhau y gall pawb sydd am gymryd rhan yn yr etholiad gael gafael ar wybodaeth glir i'w galluogi i wneud hynny.
Mae'r adran hon yn cynnwys canllawiau i'ch helpu i ddatblygu eich cynlluniau ar gyfer cyfathrebu ag amrywiaeth o gynulleidfaoedd cyn cyfnod yr etholiad ac yn ystod y cyfnod hwnnw.
Mae'n cynnwys canllawiau ar weithgareddau ymwybyddiaeth y cyhoedd i annog cyfranogiad ac i sicrhau bod etholwyr wedi cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt cyn y diwrnod pleidleisio i'w helpu i sicrhau eu bod yn gwybod beth sydd angen iddynt ei wneud er mwyn pleidleisio.
Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar gynllunio eich gwaith ymgysylltu ag ymgeiswyr ac asiantiaid i'w helpu i gymryd rhan yn yr etholiad. Mae ymgysylltu cynnar yn allweddol er mwyn sicrhau bod gan bawb ddealltwriaeth dda o ofynion ymgeisyddiaeth, a'r rhwymedigaethau sy'n deillio o hynny yn ystod etholiad.
Yn olaf, mae'n cynnwys canllawiau i'ch helpu i gynllunio i gyfathrebu â'r cyfryngau a rhanddeiliaid eraill.
Ceir canllawiau cyffredinol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar weithio gyda phartneriaid yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol.
Ymgysylltu â phleidleiswyr
Rhaid i chi gymryd camau priodol i annog etholwyr i gymryd rhan yn yr etholiad, ac wrth ymgymryd â'r cyfryw weithgarwch mae'n rhaid i chi ystyried unrhyw ganllawiau a roddir gan y Comisiwn Etholiadol.1 Dylai rhan o'r gweithgaredd ymgysylltu hwn gynnwys sut y byddwch yn cyfathrebu'r broses bleidleisio a'r gefnogaeth sydd ar gael i bleidleiswyr anabl. Dylai hyn fod yn uniongyrchol gyda sefydliadau anabledd lleol a chyfeirio mwy cyffredinol at gyfathrebu hygyrch, megis darparu fersiynau ar-lein o ddogfennau sy'n hawdd eu darllen, yn gydnaws â darllenwyr sgrin, neu sydd ar gael mewn print bras.
Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gysylltu â'r unigolyn hwnnw er mwyn sicrhau bod eich holl weithgareddau yn gyson ac wedi'u cynllunio i sicrhau'r effaith fwyaf cyn y dyddiad cau ar gyfer cofrestru. Am ragor o wybodaeth am ymgysylltu fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, gweler ein canllawiau ar eich strategaeth ymgysylltu â'r cyhoedd a'ch cynllun cofrestru.
Dylai eich gweithgarwch a'ch negeseuon anelu at sicrhau bod gan bawb sydd am bleidleisio y wybodaeth sydd ei hangen arnynt i allu gwneud hynny, ac y gallant bleidleisio gan ddefnyddio eu hoff ddull. Dylai'r holl ohebiaeth a anfonir gynnwys manylion cyswllt priodol fel y gall unrhyw un ymateb a chael rhagor o wybodaeth.
Wrth gynllunio eich gweithgarwch, dylech ystyried a dogfennu'r canlynol:
- nodi'ch cynulleidfa darged
- amcanion a mesurau o lwyddiant y gweithgarwch
- unrhyw risgiau – a sut i liniaru'r risgiau hynny
- adnoddau – ariannol a staffio
- cynlluniau ar gyfer cydweithio â phartneriaid lleol perthnasol, gan gynnwys arbenigwyr yn adran gyfathrebu'r awdurdod lleol
Cross-boundary constituencies
Lle mae eich etholaeth yn cwmpasu mwy nag un ardal awdurdod lleol dylech sicrhau eich bod yn cysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol a staff etholiadau o'r awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill i ddatblygu cynllun cydgysylltiedig ar gyfer gweithgarwch codi ymwybyddiaeth y cyhoedd ym mhob rhan o'r etholaeth.
Ymgysylltu â phleidleiswyr
Dylech nodi'r dulliau mwyaf effeithiol o sicrhau bod eich gweithgarwch ymwybyddiaeth y cyhoedd yn cyrraedd cynulleidfa mor eang â phosibl a'i fod yn darparu'r wybodaeth hanfodol sydd ei hangen ar etholwyr i'w galluogi i gymryd rhan yn yr etholiad. Dylech ddefnyddio eich gwefan, y cyfryngau cymdeithasol a dulliau traddodiadol fel hysbysfyrddau i gyfleu'r wybodaeth hon.
Gall gwybodaeth sydd ei hangen ar etholwyr er mwyn cymryd rhan yn llwyddiannus gynnwys y canlynol:
- manylion yr etholiad ei hun
- y dyddiad ac oriau pleidleisio
- lleoliad gorsafoedd pleidleisio
- unrhyw ddyddiadau cau allweddol (e.e. dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am bleidleisiau post neu bleidleisiau drwy ddirprwy)
- sut i gofrestru i bleidleisio
- sut i wneud cais am bleidlais bost neu bleidlais drwy ddirprwy, gan gynnwys y gofyniad am wiriadau ID
- sut i ddychwelyd eu pleidlais bost (e.e. drwy'r post neu yn bersonol)
- nifer y pleidleisiau post y gall unigolyn eu cyflwyno, a'r cyfyngiadau ar bwy all gyflwyno pleidleisiau post
- sut i bleidleisio (h.y. sut i farcio'r papur(au) pleidleisio)
- pa gymorth sydd ar gael i etholwyr (e.e. gwybodaeth i bleidleiswyr anabl)
- sut y caiff pleidleisiau eu cyfrif
- sut y caiff y canlyniad ei gyhoeddi
Yn ystod y cyfnod cyn etholiadau a drefnwyd, mae'n bosibl y bydd y Comisiwn yn cynnal ymgyrch ymwybyddiaeth y cyhoedd er mwyn annog unigolion i gofrestru. Bydd ymgyrch o'r fath fel arfer yn cynnwys hysbysebu yn y cyfryngau torfol, gan weithio gyda phartneriaid a chynnal gweithgareddau cysylltiadau cyhoeddus. Byddwn hefyd yn darparu adnoddau y gellir eu defnyddio'n lleol, fel posteri, baneri ar-lein, templedi o ddatganiadau i'r wasg a chynnwys i'w ddefnyddio yn y cyfryngau cymdeithasol.
Byddwn yn rhoi gwybodaeth i chi am ein hymgyrchoedd ymwybyddiaeth y cyhoedd drwy'r Bwletin Gweinyddu Etholiadau. Rydym hefyd yn cyhoeddi cylchlythyr cofrestru pleidleiswyr, Roll Call, sy'n anelu at sicrhau bod timau cyfathrebu mewn cynghorau lleol yn ymwybodol o'r wybodaeth ddiweddaraf am ymgyrchoedd ac adnoddau. Gallwch chi a thîm cyfathrebu eich cyngor gofrestru i dderbyn y cylchlythyr yma.
- 1. Adran 69(1) a (2) Deddf Gweinyddu Etholiadau 2006 ↩ Back to content at footnote 1
Paratoi a chyhoeddi hysbysiadau
Pan fo angen i chi gyhoeddi hysbysiadau, dylech eu gosod mewn mannau amlwg yn yr ardal bleidleisio. Dylai hyn gynnwys swyddfeydd awdurdodau lleol, hysbysfyrddau, llyfrgelloedd ac adeiladau cyhoeddus eraill. Gellir rhoi'r hysbysiad mewn unrhyw ffordd arall sy'n addas yn eich barn chi.1
Er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr gael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, mewn fformat hygyrch ac mewn pryd er mwyn iddynt bleidleisio, dylech sicrhau bod gwybodaeth am y bleidlais, gan gynnwys yr hysbysiad etholiad a'r hysbysiad pleidleisio, ar gael yn hawdd i bleidleiswyr, megis drwy wefan yr awdurdod lleol.
Os ydych yn darparu gwybodaeth ar eich gwefan, dylech sicrhau ei bod yn hygyrch i bob pleidleisiwr. Er enghraifft, os byddwch yn darparu gwybodaeth ar ffurf PDF, dylech fod yn ymwybodol os na chaiff camau penodol eu dilyn wrth greu dogfennau PDF, efallai na fyddant yn gydnaws â darllenwyr sgriniau a thechnolegau cynorthwyol eraill. Mae Llywodraeth y DU wedi llunio canllaw ar lunio dogfennau PDF hygyrch y gallwch gyfeirio ato. Gallech hefyd siarad â swyddog cydraddoldebau eich awdurdod am gyngor.
Dylai fod gennych brosesau prawfddarllen cadarn ar waith er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wallau yn yr hysbysiadau y mae'n ofynnol i chi eu cyhoeddi. Gallai sicrhau bod prosesau prawfddarllen cadarn ar waith helpu i ganfod unrhyw wallau ac osgoi achosion posibl o dorri diogelwch data cyn iddynt ddigwydd.
Cyfieithu a fformatau hysbysiadau
Mae'n ofynnol i chi, pan fyddwch yn tybio ei bod yn briodol gwneud hynny, sicrhau y caiff hysbysiadau eu cyfieithu neu eu darparu mewn fformat arall. Gallwch eu cynhyrchu:2
- mewn Braille
- mewn ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg
- drwy ddefnyddio lluniau
- mewn fformat sain3
- drwy ddefnyddio unrhyw ddull arall o sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch
Ni ellir llunio'r ffurflen enwebu na'r papurau pleidleisio mewn unrhyw iaith na fformat arall. Fodd bynnag, rhaid i'r copïau llaw wedi'u chwyddo a'r copïau arddangos o'r papurau pleidleisio i'w harddangos mewn gorsafoedd pleidleisio gynnwys y cyfarwyddiadau i bleidleiswyr wedi'u hargraffu ar frig y papur, a gellir cyfieithu'r geiriau hyn i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg.4
Ystyriaethau o ran diogelu data
Yn unol â deddfwriaeth diogelu data, bydd angen i chi ystyried a yw'n briodol neu'n angenrheidiol i'r hysbysiadau barhau i gael eu cyhoeddi, ar eich gwefan neu yn rhywle arall, ar ôl i gyfnod deiseb yr etholiad hwnnw ddod i ben. Os oes gan yr hysbysiadau ddibenion penodol, h.y. nodi pwy fydd yn ymgeisydd yn yr etholiad, pan fydd yr etholiad drosodd, a'r cyfle i gwestiynu'r etholiad hwnnw wedi darfod, ni fydd ganddynt unrhyw ddiben pellach mwyach. Felly, dylech naill ai ddileu'r hysbysiadau, neu ddileu'r data personol sydd ynddynt, pan fydd dyddiad cau deiseb yr etholiad wedi mynd heibio.
Mae deddfwriaeth diogelu data yn caniatáu cadw data personol am fwy o amser os caiff y data eu prosesu at ddibenion archifo er budd y cyhoedd yn unig, neu at ddibenion gwyddonol, hanesyddol neu ystadegol ac yn amodol ar weithredu mesurau diogelu priodol. Ar gyfer hysbysiadau canlyniadau etholiad, er enghraifft, dylech gadw'r rhain ar eich gwefan gan eu bod o ddiddordeb i'r cyhoedd ac at ddibenion hanesyddol ac ystadegol.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau diogelu data.
- 1. Mae Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012), Atodlen 3, para 4(5) yn enghraifft o ddyletswydd Swyddog Canlyniadau Lleol i roi hysbysiad cyhoeddus. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. PCCEO 2012, erth 85 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. PCCEO 2012, Atodlen 3, para 29(5) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. PCCEO 2012, erth 85(6) ↩ Back to content at footnote 4
Rhoi gwybodaeth i etholwyr am leoliadau gorsafoedd pleidleisio
Mae 'Ble mae fy ngorsaf pleidleisio?' yn gwestiwn cyffredin yn y cyfnod yn arwain i fyny at y diwrnod pleidleisio ac ar y diwrnod pleidleisio ei hun.
Mewn partneriaeth â Democracy Club, rydym yn darparu adnodd chwilio am godau post ar ein gwefan. Pan fydd pleidleiswyr yn nodi eu cod post, dangosir iddynt ble mae eu gorsaf bleidleisio, a phwy yw eu hymgeiswyr. Gallech gynnwys yr adnodd hwn ar eich gwefan eich hun, gan ddefnyddio'r teclyn, neu ychwanegu dolen i'ch gwefan
Er mwyn hwyluso hyn, mae angen i chi anfon data ar orsafoedd pleidleisio ar gyfer eich ardal at Democracy Club. Pan fyddwch wedi cadarnhau eich gorsafoedd pleidleisio, gallwch allgludo'r data o'ch System Rheoli Etholiad a'u hanfon dros e-bost i [email protected] . Mae cyfarwyddiadau manwl ar gael ar gyfer pob cyflenwr, os bydd eu hangen arnoch.
Rydym hefyd yn darparu'ch manylion cyswllt ar yr adnodd chwilio. Os bydd eich manylion cyswllt yn newid, gofynnwn i chi roi gwybod i ni cyn gynted â phosibl fel y gallwn ddiweddaru ein cofnodion.
Rhoi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid
Sesiynau briffio
Dylech sicrhau eich bod yn cynnig sesiwn friffio i bob darpar ymgeisydd ac asiant cyn y cyfnod enwebu neu ar ddechrau'r cyfnod hwnnw. Dylech hefyd gynnal sesiwn friffio ychwanegol ar ôl cadarnhau'r rhestr o ymgeiswyr sy'n sefyll ar gyfer etholiad ar ôl i'r enwebiadau gau.
Dylai eich sesiwn friffio ymdrin â'r canlynol o leiaf:
- y broses enwebu
- y broses etholiadol
- gwariant etholiad
- defnyddio'r gofrestr etholiadol
- offer a ddarperir i orsaf bleidleisio sy'n gwneud pleidleisio'n haws i bobl anabl
- cyfyngiadau ar ymgyrchwyr yn trin dogfennau pleidleisio drwy’r post
- y Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr
Bydd angen i chi benderfynu hefyd sut y caiff gwybodaeth am drefniadau lleol ei darparu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y dyddiadau, yr amseroedd a'r lleoliadau ar gyfer y prosesau etholiadol allweddol, gan gynnwys y canlynol:
- dosbarthu ac agor pleidleisiau post
- y diwrnod pleidleisio
- y broses ddilysu a chyfrif
Dylai'r sesiynau briffio ddarparu ar gyfer y ffaith nad yw rhai pobl o bosibl yn gwybod fawr ddim am reolau na gweithdrefnau etholiad neu nad ydynt wedi ymwneud ag etholiadau ers peth amser.
Dylai pob sesiwn friffio amlygu pwysigrwydd dilyn rheolau'r etholiad. Dylech hefyd roi gwybodaeth am y safonau ymddygiad rydych yn eu disgwyl gan gefnogwyr yn ardal y man pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.
Rydym wedi llunio templed o gyflwyniad ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid, y gallech fod am ei ddefnyddio fel sail i friffio ymgeiswyr ac asiantiaid yn eich ardal.
Rhoi gwybodaeth ysgrifenedig
Dylech sicrhau y caiff ymgeiswyr ac asiantiaid etholiadol hefyd ganllawiau ysgrifenedig ar y broses etholiadol ac y caiff y wybodaeth ei darparu mewn da bryd er mwyn galluogi ymgeiswyr ac asiantiaid i weithredu arni.
Diben darparu canllawiau ysgrifenedig yw sicrhau bod pleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid yn gallu cael gafael ar ganllawiau awdurdodol a chynhwysfawr er gwybodaeth unrhyw bryd er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan mewn etholiad.
Lle y bo'n briodol, gallwch roi dolen i ymgeiswyr ac asiantiaid lle gallant ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol ar-lein, a mater i chi fydd sicrhau y gall ymgeiswyr gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hawdd a gwneud beth bynnag sydd ei angen i hwyluso hyn.
Hygyrchedd
Dylech sicrhau y gall ymgeiswyr ac asiantiaid gael gafael ar yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hawdd er mwyn iddynt allu cymryd rhan yn yr etholiad.
Dylech gofio bod gan ymgeiswyr ac asiantiaid o bosibl anghenion mynediad penodol, ac felly efallai y bydd angen unrhyw wybodaeth neu ganllawiau arnynt a luniwyd ar ffurf print bras neu fformat arall, megis Braille neu sain, neu mewn iaith heblaw Cymraeg neu Saesneg.
Dylech hefyd ystyried y gall fod gan ymgeiswyr ac asiantiaid ofynion arbennig i'w helpu i fynychu sesiynau briffio a dylech sicrhau bod sesiynau briffio ar gael ar-lein neu drwy ddull fideogynadledda lle bynnag y bo'n bosibl.
Gallwch recordio eich sesiwn friffio a'i phostio ar-lein er mwyn i ymgeiswyr ac asiantiaid ei gwylio ar alw ar adeg sy'n gyfleus iddynt, gyda manylion ynghylch sut y gallant ofyn unrhyw gwestiynau dilynol.
Fodd bynnag, bydd angen i chi ystyried sut y gallwch gynnig sesiynau briffio i'r rhai na allant gael gafael ar wybodaeth o'r fath ar-lein, neu'r rhai nad ydynt yn gyfforddus yn gwneud hynny. Efallai y bydd angen i chi ddarparu rhai sesiynau briffio yn bersonol. Dylech hysbysu ymgeiswyr ac asiantiaid am eich dull gweithredu arfaethedig yn gynnar er mwyn eich helpu i gynllunio a pharatoi. Dylid gofyn i'r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn sesiwn friffio gofrestru ymlaen llaw er mwyn i chi allu olrhain niferoedd yn ogystal â gofynion hygyrchedd, a fydd yn eich galluogi i deilwra eich dull gweithredu a rhoi'r trefniadau priodol ar waith.
Rhoi gwybodaeth am y broses enwebu
Fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), rydych yn gyfrifol am bob agwedd ar y broses enwebu mewn etholiad Senedd y DU1 . Mae'n bwysig codi ymwybyddiaeth o'r wybodaeth sydd ar gael i'r rhai sydd am sefyll mewn etholiad drwy ddarparu sesiynau briffio a chanllawiau ar-lein neu ganllawiau argraffedig, yn enwedig i'r rhai hynny nad ydynt wedi cysylltu'n uniongyrchol â chi na'ch staff.
Wrth roi gwybodaeth neu sesiynau briffio am y broses enwebu, dylech sicrhau eich bod yn cynnwys gwybodaeth am y canlynol:
- terfynau amser perthnasol
- rheolau cyflwyno
- gofynion i danysgrifwyr a defnyddio'r gofrestr etholiadol
- defnyddio enwau a ddefnyddir yn gyffredin
- llenwi papurau enwebu
- defnyddio enwau pleidiau, disgrifiadau ac arwyddluniau
- y dulliau ar gyfer talu'r ernes
- unrhyw drefniadau sydd ar waith gennych o ran prosesau gwirio anffurfiol
Dim ond ar gyfer yr ymgeisydd y mae cwestiynau ynghylch cymhwysedd neu anghymhwysedd ac ni ddylech roi cyngor ar faterion o'r fath. Dylid cyfeirio'r ymgeisydd at ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid yn y lle cyntaf. Os bydd ganddo unrhyw bryderon pellach, dylech ei gynghori i geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun.
Pecynnau enwebu
Dylech baratoi pecyn enwebu ar gyfer unrhyw un sy'n mynegi diddordeb mewn sefyll etholiad.
Dylai'r pecyn enwebu gynnwys y canlynol:
- ffurflen enwebu
- ffurflen cyfeiriad cartref
- ffurflen cydsynio ag enwebiad
- ffurflen i ymgeiswyr roi hysbysiad ynghylch penodi asiant etholiad
- ffurflenni i ymgeiswyr neu eu hasiant etholiadol roi hysbysiad ynghylch penodi asiantiaid pleidleisio, asiantiaid pleidleisiau post ac asiantiaid cyfrif
- tystysgrif awdurdodi er mwyn caniatáu i ymgeisydd sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig
- ffurflen fel y gall ymgeisydd plaid wleidyddol ofyn am ddefnyddio arwyddlun
- manylion am sut y dylai'r ernes gael ei thalu, gan gynnwys gwybodaeth am ddulliau o dalu a dderbynnir
- canllawiau ysgrifenedig i ymgeiswyr ac asiantiaid yn cwmpasu agweddau allweddol ar y broses etholiadol, gan gynnwys cymhwyso ac anghymwyso ar gyfer etholiad, y broses enwebu, beth y dylid ac na ddylid ei wneud wrth ymgyrchu, cael gafael ar drafodion etholiadol a'r hyn sy'n digwydd ar ôl i'r canlyniad gael ei ddatgan
- manylion am unrhyw drefniadau lleol, megis y trefniadau ar gyfer agor pleidleisiau post, yr etholiad a'r cyfrif
- copi o'r Cod ymddygiad i ymgyrchwyr ym Mhrydain Fawr sy'n nodi'r hyn a gaiff a'r hyn na chaiff ei ystyried yn ymddygiad derbyniol mewn gorsafoedd pleidleisio ac yn y gymuned
- manylion am sut i gael copi o'r gofrestr etholiadol a rhestrau'r pleidleiswyr absennol, a ffurflenni i wneud y fath geisiadau ynghyd â gwybodaeth am ble i anfon y ffurflenni cais hyn. Dylech danlinellu'r ffaith mai dim ond yn unol â Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 a deddfwriaeth diogelu data y gellir defnyddio'r wybodaeth a geir yn y gofrestr etholiadol a rhestrau o bleidleiswyr absennol
- y ffigurau perthnasol ar gyfer yr etholaeth er mwyn gallu cyfrifo terfynau gwariant
- unrhyw wybodaeth berthnasol arall
Mae ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid mewn etholiad cyffredinol Senedd y DU ar ein gwefan yn: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/canllawiau-i-ymgeiswyr-ac-asiantau-yn-etholiadau-cyffredinol-senedd-y-du-ym-mhrydain-fawr
Mae canllawiau'r Comisiwn ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid mewn is-etholiad Senedd y DU ar ein gwefan yn: https://www.electoralcommission.org.uk/cy/rwyf-yneg-pleidleisiwr/ymgeisydd-neu-asiant/isetholiadau-senedd-y-du-ym-mhrydain-fawr
Rydym hefyd wedi llunio set o bapurau enwebu y gallwch eu cynnwys yn eich pecynnau enwebu, sy'n cynnwys y papurau enwebu gofynnol yn ogystal â thystysgrif awdurdodi, ffurflen cais am arwyddlun a ffurflen hysbysiad o benodiad asiant etholiad.
- 1. Rheolau 5 i 17 Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Rhoi gwybodaeth am gael gafael ar y gofrestr neu'r cofrestrau etholiadol
Gall ymgeiswyr wneud cais ysgrifenedig i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i gael copi am ddim o'r gofrestr lawn ar gyfer yr ardal etholiadol y maent yn sefyll ynddi. 1
Er mai Swyddog Cofrestru Etholiadol pob ardal awdurdod lleol sydd â'r cyfrifoldeb cyfreithiol am dderbyn a darparu cofrestrau i ymgeiswyr, os mai chi yw Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylai fod gennych gynlluniau ar waith ar gyfer rheoli neu gydgysylltu ceisiadau a darparu copïau o'r cofrestrau i ymgeiswyr. Dylai'r cynlluniau hyn sicrhau y gellir rhoi cofrestrau i bob ymgeisydd er mwyn gallu eu gweld mewn modd amserol a hawdd.
Er enghraifft, gallwch ystyried darparu'r cofrestrau'n ganolog i holl ymgeiswyr Senedd y DU ar ran pob Swyddog Cofrestru Etholiadol, a chynnwys ffurflen gais yn y pecyn enwebu ar gyfer pob ardal awdurdod lleol sy'n rhan o'r etholaeth. Mantais y dull gweithredu hwn yw y gallai weithredu fel mai dim ond un ffurflen gais ar gyfer yr holl ardaloedd awdurdod lleol y bydd angen i ymgeiswyr neu asiantiaid etholiad ei chwblhau ac y byddant yn cael eu cofrestrau o un man, yn hytrach na gorfod cysylltu â phob Swyddog Cofrestru Etholiadol ar wahân gyda cheisiadau unigol.
Hefyd, byddai angen i chi ystyried y trefniadau ymarferol sy'n gysylltiedig â chyfuno'r cofrestrau ac, yn arbennig, y diweddariadau i'r gofrestr. Byddai angen i chi drafod â'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol a chytuno ar sut y gellid dwyn ynghyd y gwahanol gofrestrau a'r diweddariadau iddynt i'w darparu'n amserol, gan gynnwys sut y byddai hyn yn gweithio ar gyfer copïau argraffedig a chopïau data. Rhaid i'r cofrestrau gael eu darparu ar ffurf data oni ofynnir yn benodol am gopi argraffedig.
Rydym wedi llunio templedau o ffurflenni cais ar gyfer cofrestrau etholiadol a ffurflenni cais ar gyfer rhestrau o bleidleiswyr absennol y gall ymgeiswyr eu defnyddio.
Mae rhagor o wybodaeth am hawl ymgeiswyr i'r gofrestr a rhestrau o bleidleiswyr allanol ar gael yn (LINK TO THE NEW DMG C & A SECTION – CURRENTLY PART 4).
- 1. Rheoliadau 102 a 108, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Rhoi gwybodaeth am brosesau etholiadol allweddol
Fel rhan o'ch cynlluniau ar gyfer ymgysylltu â phleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid a'u helpu i gymryd rhan yn yr etholiad, bydd angen i chi benderfynu sut y caiff gwybodaeth am drefniadau lleol ei darparu i ymgeiswyr.
Bydd trefniadau lleol yn cynnwys gwybodaeth am y dyddiadau, yr amseroedd a'r lleoliadau ar gyfer y prosesau etholiadol allweddol, gan gynnwys y canlynol:
- anfon ac agor pleidleisiau post
- diwrnod pleidleisio
- offer a ddarperir i orsafoedd pleidleisio i wneud pleidleisio yn haws i bleidleiswyr anabl
- dilysu a chyfrif pleidleisiau
Yn ogystal â chyfathrebu eich trefniadau lleol, dylech ddarparu gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid am y gofyniad i ddangos ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio cyn anfon papur pleidleisio:
- mathau o ID ffotograffoig a dderbynnir
- sut y gall etholwyr nad oes ganddynt fath o ID ffotograffig a dderbynnir wneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleiswyr neu Ddogfen Anhysbys Etholwr
- proses yr orsaf bleidleisio mewn perthynas â'r gofyniad ID
Dylai eich sesiwn neu sesiynau briffio hefyd amlygu unrhyw drefniadau diogelwch rydych wedi'u rhoi ar waith mewn ymgynghoriad â'r heddlu. Efallai y byddwch am wahodd eich pwynt cyswllt unigol yn yr heddlu i fynychu unrhyw sesiynau briffio, neu ddarparu deunydd ysgrifenedig y gallwch ei roi i ymgeiswyr ac asiantiaid.
Mae canllawiau diogelwch ychwanegol ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ar gael yn https://www.gov.uk/government/publications/security-guidance-for-may-2021-elections.
Dylech hefyd nodi sut rydych yn disgwyl i gefnogwyr ymddwyn yn yr ardal bleidleisio ar ddiwrnod pleidleisio ac yn ystod y broses ddilysu a chyfrif, a'r rheolau o ran trin pleidleisiau post.
Mae'r Coleg Plismona Arfer Proffesiynol Awdurdodedig wedi darparu canllawiau ar Gadw trefn ac atal dylanwad gormodol y tu mewn i orsafoedd pleidleisio. Bwriedir i'r ddogfen hon helpu'r heddlu i ystyried y ffordd orau o blismona gorsafoedd pleidleisio ac mae'n cynnig rhai camau ymarferol i'w helpu i leihau'r tebygolrwydd o broblemau a delio ag unrhyw rai sy'n codi. Er ei bod wedi'i hanelu at y pwynt cyswllt unigol, gall hefyd fod o fudd i chi, yn enwedig wrth gyfleu'r safonau ymddygiad a ddisgwylir gan gefnogwyr yn ardal y man pleidleisio i ymgeiswyr ac asiantiaid. Dylai gael ei darllen ar y cyd ag adran 3 o'r Cod ymddygiad ar gyfer ymgyrchwyr: cofrestru etholiadol, pleidleisio drwy’r post, pleidleisio drwy ddirprwy a gorsafoedd pleidleisio.
Rhoi gwybodaeth am wariant etholiad
Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ymgeiswyr ddilyn rhai rheolau penodol mewn perthynas â'r canlynol:
• faint y gallant ei wario
• gan bwy y gallant dderbyn rhoddion
• beth y mae'n rhaid iddynt gyflwyno adroddiad arno ar ôl yr etholiad
Dylech sicrhau bod ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad yn gallu cael gafael ar wybodaeth am gyfrifo'r terfyn gwariant 1
(gan gynnwys y ffigur etholaeth ac ai etholaeth sirol neu etholaeth fwrdeistref yw'r etholaeth), ffurflenni gwariant a datganiadau er mwyn eu galluogi i fodloni gofynion adrodd.
Ceir rhagor o wybodaeth am y ddau fath o etholaeth yma.
Mewn etholiad cyffredinol, bydd angen i ymgeiswyr wybod cyfanswm nifer yr etholwyr ar gofrestr Senedd y DU ar gyfer yr etholaeth ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad o etholiad (h.y. ar yr ail ddiwrnod ar ôl derbyn yr writ), ac eithrio unrhyw atendriadau na fyddant yn 18 mlwydd oed ar neu cyn y diwrnod pleidleisio.
Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd neu fod eich etholaeth yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech gydweithio â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol perthnasol fel y gallwch roi ffigur etholaeth cywir i ymgeiswyr a fydd yn eu galluogi i gyfrifo eu terfynau gwariant. Mae'n bwysig bod ymgeiswyr yn cael y ffigurau etholaeth cywir fel eu bod yn gwybod faint y gallant ei wario.
Rydym wedi llunio canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ar wariant a rhoddion yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU sydd ar gael yn ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid. Mae ein templed o gyflwyniad ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid hefyd yn cynnwys canllawiau ar wariant a rhoddion. Gallwch ddefnyddio'r adnoddau hyn i roi gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid am ffurflenni gwariant a datganiadau er mwyn eu galluogi i fodloni eu gofynion adrodd.
Is-etholiadau Senedd y DU
Yn achos is-etholiadau, bydd angen i'r sleidiau ar wariant gael eu diwygio er mwyn adlewyrchu'r cyfnod a reoleiddir a'r terfynau gwariant gwahanol sy'n gymwys i is-etholiadau.
Y terfyn gwariant ar gyfer ymgeiswyr yn ystod y cyfnod a reoleiddir mewn is-etholiad Seneddol yn y DU yw £100,000.
Mae'r cyfnod a reoleiddir yn dechrau ar y diwrnod ar ôl i'r ymgeisydd ddod yn ymgeisydd yn swyddogol, ac yn dod i ben ar ddyddiad yr etholiad.
Bydd person yn dod yn ymgeisydd yn swyddogol mewn is-etholiad Senedd y DU ar yr adeg y daeth y sedd yn wag os ar neu cyn y dyddiad hwn ei fod eisoes wedi datgan ei fod yn bwriadu sefyll fel ymgeisydd yn yr etholiad (neu fod rhywun arall wedi datgan bod y person yn bwriadu bod yn ymgeisydd).2
Os, ar ôl y dyddiad hwn, ei fod ef neu eraill yn datgan y bydd yn ymgeisydd yn yr etholiad, bydd yn dod yn ymgeisydd ar y dyddiad y gwneir y cyfryw ddatganiad, neu ar y dyddiad y cyflwyna ei bapurau enwebu, p'un bynnag sydd gyntaf.
Am ragor o wybodaeth, gweler hefyd ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid yn is-etholiadau Senedd y DU.
- 1. Adran 76(2)(b) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 118A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Gweithio gyda'r cyfryngau
Mae'r cyfryngau yn chwarae rhan bwysig wrth roi gwybodaeth i bleidleiswyr am yr etholiad ac mae'n bwysig eich bod yn cynllunio ac yn rheoli eich trefniadau cyfathrebu ag allfeydd a chynrychiolwyr y cyfryngau yn effeithiol er mwyn cynnal hyder y cyhoedd bod yr etholiad yn cael ei redeg yn effeithiol.
Er mwyn cyflawni hyn yn effeithiol, dylai fod proses glir ar waith ar gyfer cyfathrebu mewn perthynas â'r etholiad ym mhob etholaeth sy'n cael ei dilyn gennych chi ac, yn achos etholaethau trawsffiniol, staff perthnasol yr awdurdod arall, a'ch tîm neu dimau cyfathrebu priodol er mwyn ymateb i unrhyw faterion sy'n codi.
Dylai eich trefniadau ar gyfer gweithio gyda'r cyfryngau gynnwys y canlynol:
- prosesau ar gyfer ymdrin ag ymholiadau cyffredinol gan y cyfryngau
- strategaethau ar gyfer ymdrin â chyfathrebu rhagweithiol a hefyd gysylltu â'r cyfryngau mewn perthynas â digwyddiadau penodol fel cyfrif pleidleisiau a datgan canlyniadau
- cynlluniau ar gyfer ymdrin yn adweithiol ag unrhyw faterion sy'n codi mewn perthynas â'r etholiad, er enghraifft honiadau o dwyll etholiadol
Presenoldeb y cyfryngau yn y cyfrif
Wrth ddatblygu eich cynllun ar gyfer sut y byddwch yn ymdrin â phresenoldeb y cyfryngau yn y cyfrif, dylech ystyried y canlynol:
- cysylltu â'r prif sefydliadau darlledu ymlaen llaw ac amlinellu'r cyfleusterau sydd ar gael i'r wasg
- rhoi cyfle i gynrychiolwyr o'r cyfryngau ymweld â'r lleoliad dilysu a chyfrif er mwyn gweld faint o le a chyfleusterau sydd ar gael, er mwyn rhoi cyfle iddynt godi unrhyw faterion neu ofynion technegol gyda chi er mwyn i chi allu cynnwys y rhain yn eich gwaith wrth gynllunio cynllun y lleoliad
- trafod trefniadau ar gyfer datgan y canlyniadau
- trefnu bod systemau sain yn cael eu defnyddio ar gyfer y cyhoeddiadau ac unrhyw ddarllediadau byw
- gwneud trefniadau i achredu newyddiadurwyr, technegwyr a ffotograffwyr sy'n bresennol a darparu pasys ar gyfer y cyfryngau
- sicrhau bod llefarydd y cyfryngau yn cael ei enwebu ar gyfer y cyfrif, a bod pawb yn gwybod pwy yw'r person hwn ac mai'r person hwn sy'n gyfrifol am ateb holl gwestiynau'r cyfryngau
- sicrhau bod y cyfryngau yn ymwybodol o unrhyw ardaloedd cyfyngedig a gweithdrefnau e.e. bod gweithwyr camera yn gwybod na ddylent ffilmio gwybodaeth sensitif (fel siotiau agos o bapurau pleidleisio) na rhwystro staff cyfrif
- sicrhau bod tîm cysylltiadau cyhoeddus y cyngor yn bresennol i ddelio ag ymholiadau gan y cyfryngau. Dylech wneud yn siŵr eu bod yn gwybod â phwy i gysylltu os gofynnir unrhyw gwestiynau etholiadol technegol iddynt
- esbonio'r prosesau i'w dilyn a'r amseroedd gorffen a datgan disgwyliedig ar gyfer pob pleidlais
- rhoi camau ar waith i'ch galluogi i roi copi ysgrifenedig o'r canlyniadau i gynrychiolwyr y cyfryngau ar yr adeg y caiff y cyhoeddiad ei wneud
Er mwyn rhoi cymorth pellach i chi a'ch tîm cyfathrebu wrth gysylltu â'r cyfryngau yn ystod y broses gyfrif, rydym wedi datblygu awgrymiadau ar gyfer rheoli'r cyfryngau yn ystod y broses gyfrif.
Arsyllwyr Achrededig a Chynrychiolwyr y Comisiwn
Mae gan arsyllwyr sydd wedi’u hachredu gan y Comisiwn yr hawl i arsylwi:
- dosbarthu a derbyn papurau pleidleisio drwy'r post
- y bleidlais
- dilysu a chyfrif y pleidleisiau1
Dylai eich cynllun prosiect gynnwys prosesau i reoli ymholiadau posibl gan arsyllwyr ac i gefnogi eu presenoldeb yn y prosesau etholiadol y mae ganddynt hawl i'w mynychu. Dylai hyn gynnwys darparu gwybodaeth i arsyllwyr am leoliad ac amseriad y prosesau uchod.
Mae gan gynrychiolwyr y Comisiwn hefyd yr hawl i arsylwi'r prosesau hyn ac, yn ogystal, mae ganddynt hawl i arsylwi ar eich arferion gwaith.2
Nid oes angen i arsyllwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn roi hysbysiad ymlaen llaw o ble y maent yn bwriadu arsylwi, ond byddant yn cario cerdyn adnabod ffotograffig a roddwyd gan y Comisiwn gyda nhw.
Canllaw cyflym i'r mathau o fathodynnau arsyllwyr
Math o fathodyn arsyllwyr | Pwy ydyn nhw? | Mynediad |
---|---|---|
Cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol | Yr un fath ag ymgeiswyr ac asiantiaid, ynghyd â mynediad at ddosbarthu pleidleisiau post, ac arferion gwaith y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol | |
Arsyllwyr wedi'u hachredu gan y Comisiwn | Yr un fath ag ymgeiswyr ac asiantiaid, ynghyd â mynediad at ddosbarthu pleidleisiau post |
Os oes gennych unrhyw amheuaeth ynghylch statws unigolyn penodol sy’n ceisio cael mynediad i brosesau etholiadol, gallwch wirio’r cofrestrau o arsyllwyr ar wefan y Comisiwn.
Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i roi sylw i God ymarfer y Comisiwn ar gyfer arsyllwyr wrth reoli presenoldeb arsyllwyr.3 Bydd arsyllwyr wedi cytuno i gydymffurfio â’r safonau ymddygiad a nodir yng Nghod Ymarfer y Comisiwn. Os credwch fod y Cod ymarfer wedi'i dorri, rhowch wybod i'ch tîm Comisiwn lleol.
I gael rhagor o wybodaeth am rôl arsylwyr, gweler ein canllawiau i arsylwyr etholiadol achrededig.
- 1. Adran 6C(1) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 6A(1) a 6B(1), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 6F(7) a 6E(4)(b), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
Adnoddau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) - Cynllunio ar gyfer yr etholiad
Deunyddiau i bleidleiswyr
Deunyddiau i bleidleiswyr
Er mwyn cyflwyno'r etholiad, mae'n hanfodol bod pleidleiswyr yn gallu cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt, heb wallau, mewn fformat hygyrch ac mewn da bryd iddynt gymryd y camau angenrheidiol mewn perthynas â'u pleidlais.
Mae'r canllawiau hyn yn rhoi trosolwg o'r gofynion cyfreithiol mewn perthynas â chardiau pleidleisio, deunydd swyddfa pleidleisiau post a phapurau pleidleisio, a'r meysydd lle mae gennych ddisgresiwn o ran dylunio, a'r wybodaeth y mae angen ei chynnwys ar y deunyddiau hyn.
Maent hefyd yn cynnwys gwybodaeth i'ch helpu i sicrhau ansawdd y broses o gynhyrchu deunyddiau i bleidleiswyr, gan gynnwys canllawiau ar brawfddarllen a gweithio gyda chyflenwyr a chontractwyr.
Cynhyrchu cardiau pleidleisio
Rhaid i'r cardiau pleidleisio ddilyn y ffurf benodedig a nodir mewn deddfwriaeth. Ar bob cerdyn pleidleisio, rhaid i chi gynnwys yr holl elfennau a nodir yn y rheolau etholiadol perthnasol ac a ddangosir ar flaen ac ar gefn y cardiau pleidleisio yn yr atodiad i Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (fel y'u diwygiwyd).1
Dylech gysylltu â'ch enw cyswllt yn y Post Brenhinol (neu bartner dosbarthu masnachol arall) ar gam cynnar er mwyn sicrhau bod gennych drwyddedau priodol ar waith a bod y cerdyn pleidleisio yn bodloni gofynion dosbarthu penodol.
Dylai cardiau pleidleisio gael eu hanfon at etholwyr a'u dirprwyon cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad. Os byddwch yn gosod y gwaith o gynhyrchu'r cardiau pleidleisio ar gontract allanol, bydd angen i chi anfon eich data cardiau pleidleisio at eich argraffwyr a dylech sicrhau bod eich meddalwedd yn gallu llunio ffeil ddata y gall eich argraffwyr ei defnyddio i baratoi'r deunyddiau yn unol â'r fanyleb sydd ei hangen.
Ar gam cynnar yn eich trafodaethau â'ch argraffwyr, dylech fod wedi nodi ym mha fformat y byddwch yn cyflenwi'r data ac ym mha fformat y byddant yn anfon unrhyw broflenni atoch, a dylai hyn gael ei nodi yn eich manyleb a'ch contract..
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ddatblygu contractau ar gyfer gwaith ar gontract allanol a qwiriadau sicrhau ansawdd.
Sypiau dilynol o gardiau pleidleisio
Rhaid i'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol gyhoeddi dau hysbysiad newid etholiad interim cyn cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad terfynol ar y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Mae'r hysbysiadau hyn yn helpu i sicrhau bod cardiau pleidleisio yn cael eu dosbarthu'n brydlon i'r etholwyr hynny sydd wedi gwneud cais i gofrestru yn agos i'r dyddiad cau ar gyfer cofrestru.2
Rhaid i'r hysbysiad interim cyntaf o newid gael ei gyhoeddi ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, sef 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais.3
Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gysylltu ag ef er mwyn sicrhau y gall amseriad cyhoeddi'r ail hysbysiad interim ategu llunio eich ail set o gardiau pleidleisio. Rhaid i'r ail hysbysiad interim gael ei gyhoeddi rhwng y diwrnod ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu a'r chweched diwrnod gwaith cyn y bleidlais.4
Dylid anfon diweddariad o'r data cofrestru sy'n deillio o bob un o'r hysbysiadau newid at eich argraffwyr cyn gynted ag y bo'n ymarferol fel y gellir llunio cardiau pleidleisio ar gyfer etholwyr newydd.
Ceir rhagor o wybodaeth am hysbysiadau interim yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru, Lloegr, neu'r Alban
Gallwch hefyd ddod o hyd i ganllawiau pellach ar ddosbarthu cardiau pleidleisio.
Cross-boundary constituencies
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, bydd angen i chi weithio gydag awdurdodau lleol eraill er mwyn sicrhau y gallwch ddarparu'r data gan yr awdurdod arall/awdurdodau eraill i'r argraffwyr. Dylech hefyd gysylltu â hwy i gael yr wybodaeth am etholwyr newydd cyn gynted â phosibl ar ôl i'r hysbysiadau interim o newid a'r hysbysiad etholiadol terfynol o newid gael eu cyhoeddi.
- 1. Atodlen 3 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001; Atodlen 3 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001. Mae’r fersiynau diweddaraf o’r cardiau pleidleisio yn etholiadau Senedd y DU i’w gweld yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio drwy’r post a Phleidleisio drwy ddirprwy etc.) (Diwygio) 2023 ac yng Nghymru, dylid eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn (Diwygio) (Ffurflenni Cymru) Deiseb Etholiadau Seneddol 2023. Ar gyfer etholiadau y cyhoeddir yr hysbysiad etholiad ar eu cyfer ar neu ar ôl 31 Ionawr 2024 gyda dyddiad pleidleisio ar neu cyn 1 Mai 2024, dylid defnyddio’r ffurf newydd ar gerdyn pleidleisio a cherdyn pleidleisio dirprwy yn Atodlen 3 gyda’r geiriad diwygiedig ym mharagraff 4(3) o Atodlen 2, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidleisio drwy’r Post a thrwy Ddirprwy etc.) (Diwygio) 2023 ac yn yr Alban, paragraff 4(3) o Atodlen 2. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13AB(5) ac a13B ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13AB(5) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13AB(6) ↩ Back to content at footnote 4
Cynhyrchu deunydd swyddfa pleidleisio drwy'r post
Fel rhan o'ch gwaith cynllunio, byddwch wedi penderfynu a gaiff y broses o gynhyrchu deunydd swyddfa ar gyfer pleidleisio drwy'r post ac anfon pleidleisiau post ei chynnal yn fewnol neu ar gontract allanol.
Ceir rhagor o ganllawiau i gefnogi eich proses benderfynu o ran gosod gwaith ar gontract allanol yn ein canllawiau ar reoli contractwyr a chyflenwyr.
Cross-boundary constituencies
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, bydd angen i chi bennu a all eich system meddalwedd ddarllen y data a roddir gan yr awdurdod arall/awdurdodau eraill yn gywir.
Bydd angen i chi hefyd sicrhau eich bod yn gallu anfon y data i argraffwyr er mwyn creu'r deunydd swyddfa ar gyfer pleidleisio drwy'r post. Bydd angen i chi gysylltu â'r awdurdod arall/awdurdodau eraill cyn gynted â phosibl.
Cynnwys pecynnau pleidleisio drwy'r post
Cynnwys pecynnau pleidleisio drwy'r post
Rhaid i chi anfon pecyn pleidleisio drwy'r post at bob pleidleisiwr post cymwys.1 Rhaid i becynnau pleidleisio drwy'r post gynnwys:2
- amlen i anfon y deunydd
- amlenni dychwelyd: amlen ‘A’ (amlen y papur pleidleisio) ac amlen ‘B’ (yr amlen ar gyfer dychwelyd amlen ‘A’ a'r datganiad pleidleisio drwy'r post)
- papur pleideisio
- datganiad pleidleisio drwy'r post
Yn ogystal, mae'n rhaid i chi anfon gwybodaeth gyfarwyddol gan sicrhau bod y rhai sydd â hawl i bleidleisio drwy'r post yn gallu cael y canlynol:3
- cyfieithiadau o unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau i bleidleiswyr a anfonir gyda'r papur pleidleisio, i ieithoedd eraill
- cyfieithiad o'r cyfarwyddiadau neu'r canllawiau i Braille
- cynrychioliad graffigol o'r cyfarwyddiadau neu'r canllawiau
- y cyfarwyddiadau neu'r canllawiau ar unrhyw ffurf arall (yn cynnwys sain)
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a24(1) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 74, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 74 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a24(2) ↩ Back to content at footnote 3
Amlenni pecynnau pleidleisio drwy'r post
Rhaid i'r amlen a ddefnyddir i anfon y deunydd gael ei chyfeirio at yr etholwr yn y cyfeiriad y mae wedi gofyn i'w bapur pleidleisio gael ei anfon iddo ac a nodir yn y rhestr pleidleiswyr post neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post.1
Er mwyn diogelu cyfrinachedd y bleidlais, rhaid i chi ddarparu dwy amlen wahanol ar gyfer dychwelyd y papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post:2
- Amlen ‘A’ – hon yw'r amlen a ddefnyddir i ddychwelyd y papur pleidleisio, gydag ‘A’, y geiriau ‘amlen papur pleidleisio’ a rhif y papur pleidleisio arni.
- Amlen ‘B’ – hon yw'r amlen a ddefnyddir i ddychwelyd amlen y papur pleidleisio (amlen ‘A’) a'r datganiad pleidleisio drwy'r post. Dylid nodi'r llythyren ‘B’ a'ch cyfeiriad arni.
Dylech argraffu enw eich etholaeth ar bob amlen ‘A’ a ‘B’. Bydd hyn yn helpu i leihau nifer yr achosion lle na ellir dosbarthu pleidleisiau post os, er enghraifft, bydd pleidleisiwr yn dychwelyd amlen ‘A’ â'r papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post ynddi, heb ei rhoi yn amlen ‘B’.
Dylech hefyd ystyried cynnwys lliw'r papur pleidleisio ar amlenni pecynnau pleidleisio drwy'r post hyd yn oed pan fyddwch yn cynnal pleidlais unigol, rhag ofn bydd unrhyw bleidlais gyfun hwyr.
Amlenni ar gyfer etholwyr dienw
Pan fyddwch yn cyfathrebu ag etholwr dienw, mae'n ofynnol i chi anfon gohebiaeth mewn amlen neu fath arall o orchudd mewn ffordd nad yw'n datgelu i unrhyw berson arall fod y pleidleisiwr yn ddienw.
Felly, dylech anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post at etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw mewn amlen blaen.3
Dylai'r amlen gynnwys eu henw a'u cyfeiriad gohebiaeth, ond ni ddylai gynnwys eu rhif etholwr na gwneud unrhyw gyfeiriad at yr etholiad na'r gofrestr etholiadol.
Costau postio
Oni fyddwch yn dosbarthu pleidleisiau post yn bersonol, mae'n ofynnol i chi ddefnyddio amlen ragdaledig a gyfeirir at y pleidleisiwr post.
Mae hefyd yn ofynnol i chi ddarparu amlenni dychwelyd rhagdaledig, oni fydd angen anfon pleidleisiau post i gyfeiriad y tu allan i'r DU.4
Fodd bynnag, dylech siarad â'r Post Brenhinol a'ch argraffydd er mwyn gweld beth y gellir ei wneud i hwyluso'r broses o ddychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post a gwblhawyd yn brydlon o'r tu allan i'r DU, gan gynnwys y posibilrwydd o gynnwys amlen ragdaledig briodol ar gyfer eitemau a ddychwelir o dramor.
Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio amlen â dyluniad gwahanol ar gyfer pleidleisiau post a anfonir i gyfeiriad y tu allan i'r DU. Er enghraifft, gallech ychwanegu fflach lliw gwahanol. Gallai hyn helpu i ddidoli, nodi a blaenoriaethu pleidleisiau post tramor yn fwy effeithlon.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) rheoliad 72(7), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 72(7) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 74, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 74 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) rheoliad 72(8), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 72(8) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 76, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 76 ↩ Back to content at footnote 4
Papur pleidleisio drwy'r post, datganiad pleidleisio drwy'r post a chyfarwyddiadau ychwanegol i bleidleiswyr
Papur pleidleisio drwy'r post
Pennir ffurf y papur pleidleisio mewn deddfwriaeth ac mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i ddilyn y cyfarwyddiadau hyn yn ofalus.1 Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar argraffu papurau pleidleisio.
Datganiad pleidleisio drwy'r post
Nodir y datganiad pleidleisio drwy'r post yn y ddeddfwriaeth a rhaid ei lunio ar y ffurf a bennir.2 Rhaid i'r datganiad pleidleisio drwy'r post gynnwys y canlynol:
- enw'r pleidleisiwr (oni bai ei fod yn etholwr dienw)
- rhif y papur pleidleisio a anfonir gyda'r datganiad
- marc adnabod unigryw, a allai fod yn god bar ond a allai hefyd fod ar ffurf arall – nid oes rhaid i'r marc hwn fod yn gysylltiedig â'r marc adnabod unigryw ar y papur pleidleisio; gall fod yr un peth ond yn yr un modd, gallai fod yn wahanol neu'n gysylltiedig
- y cyfarwyddiadau rhagnodedig i’r pleidleisiwr ar sut i bleidleisio drwy'r post
Rhaid i'r datganiad pleidleisio drwy'r post hefyd gynnwys cod bar.
Rhaid i chi lunio mathau gwahanol o ddatganiad pleidleisio drwy'r post ar gyfer etholwyr dienw a'r rhai sydd wedi cael eu hepgor. Ni ddylai datganiad pleidleisio drwy'r post etholwyr dienw ddangos enw'r etholwr.
Lle mae etholwr wedi cael ei hepgor gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol, mae deddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i chi ddileu'r blwch ar gyfer llofnod ac unrhyw gyfeiriad at lofnodi'r ffurflen yn y cyfarwyddiadau i bleidleiswyr.
Dylech hefyd ddylunio a phrofi'r datganiadau pleidleisio drwy'r post er mwyn sicrhau bod y blychau ar gyfer llofnod a dyddiad geni yn y man cywir ac yn y fformat cywir i'w prosesu gan eich system cadarnhau dynodyddion personol pan gânt eu dychwelyd.
Cyfarwyddiadau ychwanegol i bleidleiswyr
Yn ogystal â chynnwys penodedig y pecyn pleidleisio drwy'r post a nodir uchod, dylech ddarparu cyfarwyddiadau ychwanegol, mwy penodol – er enghraifft, cyfarwyddiadau graffigol i bleidleiswyr i'w helpu i gwblhau'r datganiad a'r papur pleidleisio a dychwelyd deunydd eu pleidlais bost yn yr amlenni cywir, a gwybodaeth am y broses cyflwyno pleidleisiau papur.
Dylech gynnwys yr wybodaeth y mae'n rhaid i chi ei darparu i bleidleiswyr post am sut i gael cyfarwyddiadau mewn fformat amgen e.e. ieithoedd eraill, braille, a sain.
Fel rhan o'r cyfarwyddiadau hyn, dylech hefyd gynnwys gwybodaeth yn egluro natur bersonol y bleidlais, gan nodi ei bod yn gyfrinachol ac y byddai unrhyw un sy'n ymyrryd â'r pleidleisiwr sy'n nodi ei bleidlais neu sy'n ceisio cael gwybodaeth am bwy yr oeddent yn pleidleisio drostynt, yn cyflawni trosedd, yn ogystal â gwybodaeth am sut i roi gwybod am unrhyw bryderon neu achosion o dwyll etholiadol a amheuir.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 19. Gellir dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o bapur pleidleisio Seneddol y DU yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Papur Pleidleisio) 2015 ac yng Nghymru dylent gael eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) 2015. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 66, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 rheoliad 66. Mae fersiwn diweddaraf y datganiad pleidleisio drwy'r post yn etholiadau Senedd y DU i'w weld yn Cynrychiolaeth y Bobl (Pleidlais bost Rheoliadau Ymdrin a Chyfrinachedd) (Diwygio) 2023 ac, yng Nghymru, dylid eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol a Deisebau Adalw (Ffurflenni Cymraeg) (Diwygio) (Rhif 2) 2023. ↩ Back to content at footnote 2
Cynhyrchu papurau pleidleisio
Mae dyletswydd gyfreithiol arnoch i ddilyn y manylebau dylunio ac argraffu ar gyfer papurau pleidleisio yn ofalus, fel y rhagnodir mewn deddfwriaeth.
Yn unol â'r gyfraith, rhaid i bapurau pleidleisio ar gyfer pleidleiswyr post ac at ddefnydd gorsafoedd pleidleisio fod yr un dyluniad a maint, ond gall y marc swyddogol fod yn wahanol os dymunir.1
Dylech sicrhau eich bod yn cysylltu â'ch cyflenwr argraffu ar gam cynnar i gadarnhau maint mwyaf y papur pleidleisio y gall ei argraffu, a sicrhau, os oes angen, fod ganddo drefniadau wrth gefn os bydd angen papur pleidleisio mwy o faint.2
Ni ellir cadarnhau cynnwys terfynol y papur pleidleisio nes bod y broses enwebu wedi cau, ond bydd angen i chi wneud penderfyniadau ynghylch elfennau canlynol manyleb y papur pleidleisio ar gam cynnar:
- fformat rhifau'r papurau pleidleisio
- ffurf cefn y papurau pleidleisio
- y marc adnabod unigryw
- dyluniad y ‘marc swyddogol’
- pa liw fydd y papurau pleidleisio
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 19. Gellir dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o bapur pleidleisio Senedd y DU yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Papur Pleidleisio) 2015 ac yng Nghymru dylent gael eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) 2015. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 atodiad ffurflenni. Gellir dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o bapur pleidleisio Senedd y DU yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Papur Pleidleisio) 2015 ac yng Nghymru dylent gael eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) 2015. ↩ Back to content at footnote 2
Niferoedd i'w hargraffu
Fel rhan o'ch trafodaethau cynnar â'ch cyflenwr argraffu, mae'n rhaid i chi ystyried yn ofalus nifer y papurau pleidleisio y bydd angen eu hargraffu er mwyn caniatáu i chi ddyrannu nifer digonol o bapurau pleidleisio i orsafoedd pleidleisio a dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post. Bydd hyn hefyd yn caniatáu i nifer digonol o stoc papur gael ei chaffael.
Dylech seilio nifer y papurau pleidleisio a gaiff eu hargraffu ar y nifer mwyaf o etholwyr cymwys fydd yn pleidleisio, sef 100%. Mae risgiau sylweddol ynghlwm wrth argraffu papurau pleidleisio yn seiliedig ar nifer llai o etholwyr yn pleidleisio. Er enghraifft, os bydd nifer y papurau pleidleisio yn dechrau mynd yn brin ar y diwrnod pleidleisio, bydd yn anos bryd hynny i chi argraffu rhagor o bapurau pleidleisio a'u hanfon mewn pryd i'r gorsafoedd pleidleisio hynny lle mae prinder.
Os penderfynwch, am unrhyw reswm, beidio ag argraffu, fel gofyniad sylfaenol, bapurau pleidleisio yn seiliedig ar y nifer mwyaf o etholwyr cymwys yn pleidleisio, dylech asesu'r risgiau yn ofalus.
Fel rhan o'ch asesiad risg dylech ystyried:
- y nifer amcangyfrifedig a fydd yn pleidleisio, gan ystyried y potensial ar gyfer ymgysylltu a diddordeb hwyr – dylid defnyddio'r etholiad cyfatebol diwethaf fel y nifer disgwyliedig lleiaf a fydd yn pleidleisio
- cyd-destun penodol yr etholiad hwn
- unrhyw faterion lleol neu genedlaethol a all effeithio ar y nifer sy'n pleidleisio
- p'un a yw'n well cael stoc o bapurau pleidleisio ychwanegol sy'n barod i'w dosbarthu'n gyflym i orsafoedd pleidleisio, er enghraifft argraffu o leiaf 100% o bapurau pleidleisio ond peidio â dosbarthu 100% o bapurau pleidleisio argraffedig i orsafoedd pleidleisio
Dylech gymryd camau hefyd i sicrhau y gellir argraffu papurau pleidleisio ychwanegol ar fyr rybudd os bydd angen a phenderfynu sut y byddai staff gorsafoedd pleidleisio yn cael eu briffio pe bai'r sefyllfa hon yn codi.
Ceir canllawiau ar ddyrannu papurau pleidleisio i orsafoedd pleidleisio yn ein canllawiau ar bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.
Dyluniad papur pleidleisio
Rhifau papurau pleidleisio
Dylai rhifau papurau pleidleisio redeg yn olynol, ond nid oes rhaid iddynt ddechrau ar ‘1’. Dylai rhifau papurau pleidleisio fod yn unigryw, ac ni ddylid eu hailddefnyddio, er enghraifft dylid rhifo papurau pleidleisio gorsafoedd pleidleisio, papurau pleidleisio drwy'r post a phaprau pleidleisio a gyflwynwyd yn wahanol.
Y ffurf ar gyfer cefn y papur pleidleisio
Pennir y ffurf ar gyfer cefn y papur pleidleisio a rhaid i chi sicrhau bod yr wybodaeth ofynnol yn cael ei chynnwys ar gefn y papur pleidleisio yn y fformat a nodwyd.1 Ni ddarperir ar gyfer rhoi unrhyw linellau na marciau eraill ar gefn y papur pleidleisio.
Marc adnabod unigryw
Gall y marc adnabod unigryw gynnwys llythrennau a rhifau a gall ailadrodd rhif y papur pleidleisio gyda rhagddodiad neu ôl-ddodiad. Gall marc adnabod unigryw hefyd fod yn god bar ond nid oes rhaid iddo fod. Mae'n bwysig cofio nad yw'r marc adnabod unigryw yr un peth â'r marc swyddogol.
O ran y marc adnabod:2
- dylai fod yn unigryw i bob papur pleidleisio
- gellir ei ailddefnyddio ar gyfer yr etholiad nesaf
- rhaid iddo gael ei argraffu ar gefn y papur pleidleisio
Y marc swyddogol
Marc diogelwch yw'r marc swyddogol y mae'n rhaid ei ychwanegu at eich papur pleidleisio.
O ran y marc swyddogol:3
- gall fod yr un fath ar gyfer pob papur pleidleisio mewn etholiad neu gellir defnyddio marciau swyddogol gwahanol at ddibenion gwahanol yn yr un etholiad, er enghraifft, un ar gyfer pleidleisiau post a'r llall ar gyfer papurau pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio
- ni ellir ei ailddefnyddio am saith mlynedd ar gyfer etholiad Senedd y DU yn yr un etholaeth
Dylai'r marc fod yn unigryw. Gallai fod yn arwyddlun wedi'i argraffu neu'n farc neu'n ddyfais argraffu arbennig megis dyfrnod. Gellid hefyd dyllu'r papur pleidleisio pan gaiff ei gyflwyno os caiff offerynnau stampio eu defnyddio er mwyn creu marc swyddogol wedi'i dyllu.
Dylai fod modd gweld y marc ar flaen y papur pleidleisio heb orfod troi'r papur pleidleisio drosodd.4
Lliw'r papur pleidleisio
Ni phennir lliw papurau pleidleisio a'ch cyfrifoldeb chi yw penderfynu ar hyn.
Yn unol â'r gyfraith mae'n rhaid i liw papurau pleidleisio a gyflwynwyd fod yn wahanol i liw papurau pleidleisio cyffredin.5
Wrth benderfynu ar liw'r papurau pleidleisio dylech ystyried materion hygyrchedd o ran lliw a chyferbyniad. Gweler ein canllawiau dylunio arfer dda, 'Making your mark’, i gael rhagor o wybodaeth am ddewis lliwiau ar gyfer papurau pleidleisio.
Etholaethau trawsffiniol ac etholiadau cyfunol
Dylech benderfynu ar gam cynnar yn y broses gynllunio ac mewn ymgynghoriad â'r Swyddog(ion) Canlyniadau llywodraeth leol yn eich etholaeth pa liw fydd papur pleidleisio Senedd y DU yn eich etholaeth. Dylech gydgysylltu â'r Swyddog(ion) Canlyniadau eraill yn eich etholaeth er mwyn sicrhau bod lliwiau'r papurau pleidleisio yn wahanol ar gyfer pob etholiad pe bai etholiad cyfunol.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 atodiad ffurflenni. Gellir dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o bapur pleidleisio Senedd y DU yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Papur Pleidleisio) 2015 ac yng Nghymru dylent gael eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) 2015. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 19 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 20 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 20 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 40(2) ↩ Back to content at footnote 5
Manylion ymgeiswyr
Enw'r ymgeisydd
Rhaid i ymgeiswyr ymddangos ar y papur pleidleisio fel y'u rhestrir yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd. Rhaid i'w henwau a'u manylion perthnasol ymddangos yn unol â'r cyfarwyddiadau ar gyfer argraffu.1
Rhaid i gyfenwau ymgeiswyr ymddangos mewn priflythrennau, gan gynnwys rhoi priflythrennau ar gyfer cyfenwau sy'n dechrau â MAC neu MC a dylai'r enwau ddilyn trefn yr wyddor yn llym e.e. MABBOT, MACLEAN, MATTHEWS, MCCORMICK, MORRISON.
Lle bo ymgeisydd wedi rhestru sawl enw fel ei gyfenw, boed â chysylltnod ai peidio, dylech gopïo'r enw cyfan fel y'i darparwyd. Er enghraifft, byddai Dick Van Dyke yn ymddangos fel VAN DYKE, Dick ar y papur pleidleisio ac, o ran gosod yn nhrefn yr wyddor, byddai'r cyfenw yn dechrau â V.
Yn yr un modd, byddai Ann Smith-Jones yn SMITH-JONES, Ann ar y papur pleidleisio a byddai'n dod o dan S o ran trefn yr wyddor.
Ym mhob achos, dylech ddefnyddio'r maint ffont mwyaf posibl. Er mwyn sicrhau cysondeb, dylid defnyddio'r un maint ffont ar gyfer pob ymgeisydd ar bob llinell gyfatebol..
Arwyddluniau
Os bydd yr ymgeisydd yn sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig ac wedi gwneud cais i ddefnyddio arwyddlun, efallai y byddwch yn cael copi eglurder uchel o'r arwyddlun i'w ddefnyddio wrth argraffu'r papurau pleidleisio. Fel arall, efallai y bydd angen i chi lawrlwytho'r arwyddlun o'n gwefan. Dylech sicrhau bod pa gopi bynnag a ddefnyddir ar yr un ffurf â'r arwyddlun cofrestredig.
Dau gentimetr sgwâr yw'r maint mwyaf y gellir ei gael ar gyfer arwyddlun ar y papur pleidleisio.2 Peidiwch ag addasu na chamystumio siâp yr arwyddlun er mwyn ffitio ar y papur pleidleisio. Dylech sicrhau bod yr arwyddlun ar yr un ffurf â'r arwyddlun cofrestredig – er enghraifft, peidiwch ag ymestyn arwyddluniau yn siapiau sgwâr os nad ydynt wedi'u cofrestru fel delweddau sgwâr ar ein gwefan, oherwydd byddai hyn yn newid eu hymddangosiad.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 19). Gellir dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o bapur pleidleisio Senedd y DU yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Papur Pleidleisio) 2015 ac yng Nghymru dylent gael eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) 2015. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Cyfarwyddiadau ar gyfer Argraffu'r Papur Pleidleisio. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 atodiad ffurflenni. Gellir dod o hyd i'r fersiwn ddiweddaraf o bapur pleidleisio Senedd y DU yn Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Papur Pleidleisio) 2015 ac yng Nghymru dylent gael eu darllen ochr yn ochr â Gorchymyn Etholiadau Seneddol (Ffurflenni Cymru) (Diwygio) 2015. ↩ Back to content at footnote 2
Sicrhau ansawdd a phrawfddarllen deunyddiau etholiad
Mae'n hanfodol eich bod yn gwirio pob proflen ddrafft o'ch deunyddiau etholiad yn ofalus ac yn drylwyr cyn iddynt gael eu cymeradwyo'n barod i'w hargraffu a'u hanfon. Bydd y cam hwn yn y broses yn aml yn un sy'n cymryd llawer o amser ac yn un lle y bydd amser yn y fantol gan y bydd eich cyflenwyr yn gweithio yn unol ag amserlenni tynn ac yn debygol o roi terfynau amser heriol i chi.
Dylech benderfynu pwy o'ch tîm a fydd yn rhan o'r gwaith prawfddarllen a sicrhau ansawdd y broses gynhyrchu. Mae'n bosibl y bydd angen i nifer o aelodau o'ch tîm gyfrannu, a gall fod yn ddefnyddiol cynnwys pobl eraill nad ydynt mor agos at wybodaeth grai yr ymgeiswyr neu'r proflenni sylfaenol er mwyn sicrhau nad oes dim wedi'i golli.
Lle bo modd, byddai'n ddefnyddiol sicrhau bod mwy nag un person yn gwirio pob set o broflenni cyn ei chymeradwyo er mwyn sicrhau y caiff gwallau eu canfod. Gall hyn fod yn arbennig o ddefnyddiol o ran lliniaru'r risg y caiff gwallau eu gwneud wrth weithio ar lawer o broflenni mewn cyfnod byr.
Gallwch gynnal gwiriadau wyneb yn wyneb drwy fynd i safle eich cyflenwr ac edrych ar eich deunyddiau argraffedig yn uniongyrchol, ond mae'n bosibl y bydd rhai cyflenwyr yn cynnig cynnal y gwiriadau hyn ar eich rhan fel rhan o'u gwasanaeth yn lle hynny.
Os byddwch yn defnyddio cyflenwyr i gynnal gwiriadau, rhaid i chi sicrhau eich bod yn cael dadansoddiad manwl o'r broses wirio, gan gynnwys pa wiriadau ansawdd argraffu sy'n cael eu cynnal. Dylai'r rhain gynnwys:
- sicrhau bod y deunydd argraffedig yn gywir drwy ei gymharu â chopi enghreifftiol o'r broflen derfynol a gymeradwywyd ar gyfer pob fersiwn o'r deunydd
- cadarnhau bod yr holl destun wedi'i bersonoli wedi cael ei argraffu'n gywir lle bo angen.
Fel arall, gallech drefnu bod deunyddiau'n cael eu hanfon atoch i chi eu gwirio cyn iddynt gael eu hanfon o'ch safle.
Dylech lunio nodiadau canllaw ar gyfer yr aelodau hynny o staff sy'n gwirio deunyddiau etholiad.
Gwirio testun sylfaenol
Dylech sicrhau eich bod yn gwirio testun sylfaenol pob deunydd yn ofalus; hynny yw, y testun na fydd yn newid ni waeth beth fo'r digwyddiad pleidleisio, nifer neu fanylion yr ymgeiswyr, neu'r wybodaeth i etholwyr.
At ddibenion effeithlonrwydd, mae'n bosibl y bydd rhai cyflenwyr yn llunio eich proflenni o dempledi a ddefnyddiwyd mewn digwyddiadau pleidleisio blaenorol. Peidiwch â thybio y bydd y wybodaeth a gaiff ei chynhyrchu gan eich system rheoli meddalwedd etholiadol yn gywir yn awtomatig. Er enghraifft, efallai y gwnaed newidiadau deddfwriaethol neu newidiadau i ffiniau, neu newidiadau i'ch gwybodaeth gyswllt. Eich cyfrifoldeb chi yw gwneud yn siŵr bod yr holl wybodaeth yn gywir a hefyd bod y deunyddiau etholiad yn cydymffurfio â'r holl ofynion deddfwriaethol.
Gwirio proflenni byw
Dylech sicrhau bod proses ar waith gennych ar gyfer gwirio proflenni byw o bob math o ddeunydd etholiad ar y cam argraffu er mwyn cadarnhau nad oes unrhyw wallau a'u bod yn cael eu hargraffu yn unol â'r fanyleb ofynnol.
Dylai hyn gynnwys eitemau y caiff llai ohonynt eu hargraffu hefyd, megis papurau pleidleisio a gyflwynwyd, dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post neu bapurau pleidleisio drwy'r post ychwanegol a gaiff eu hargraffu er mwyn cynnwys y rhai a wnaeth gais ar ôl i'r ffeiliau data gwreiddiol gael eu cyflwyno.
Mae angen i chi benderfynu sawl eitem a gaiff ei gwirio ar gyfer pob eitem/proses argraffu/cyfres. Ar gyfer gwiriadau argraffu, dylid gwirio'r eitem gyntaf a'r eitem olaf ar gyfer pob eitem o leiaf er mwyn sicrhau bod y broses argraffu'n dechrau ac yn gorffen yn unol â'r disgwyl ac.
Bydd cynnal gwiriadau ar y cam prawfddarllen byw yn galluogi staff i gadarnhau bod yr eitemau a gaiff eu hargraffu yn cyfateb i'r fersiwn ddiweddaraf a gymeradwywyd a fydd yn tynnu sylw at unrhyw broflenni a gymeradwywyd sydd wedi cael eu newid drwy gamgymeriad, nad oes inc wedi rhedeg a bod yr ansawdd argraffu yn dda ac yn gyson.
Mae'n debygol y bydd gennych lawer o setiau o broflenni ar gyfer yr un eitem, felly dylech fod yn gwirio bod y testun newidiol ar bob set o broflenni wedi cael ei gynnwys yn gywir. Mae'n ddefnyddiol cadw taenlen o'r holl destun newidiol ym mhob fersiwn yn barod i gymharu â hi. Gallai hyn gynnwys, er enghraifft, ddalen yn cynnwys:
- rhestr o'ch holl etholiadau a ymleddir
- nifer y seddi gwag fesul etholiad
- enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau'r ymgeiswyr
Mae'n bwysig rhoi sylw arbennig i arwyddluniau oherwydd gall llawer ohonynt edrych yn debyg ar yr olwg gyntaf. Dylech brawfddarllen unrhyw daenlenni a ddefnyddir at ddibenion sicrhau ansawdd yn ofalus yn erbyn data gwreiddiol, megis papurau enwebu
Dylech gadw cofnod o'r deunydd swyddfa a wiriwyd fel bod llwybr archwilio clir o'r prosesau a ddilynwyd ac y gallwch gyfeirio'n ôl ato os bydd unrhyw beth yn codi wedyn.
Awgrymiadau ar gyfer prawfddarllen
Wrth lunio canllawiau i helpu eich staff i brawfddarllen deunyddiau etholiad, dylid rhoi sylw arbennig i sicrhau:
- bod yr holl fanylion ar yr holl ddeunyddiau etholiad wedi'u sillafu'n gywir
- bod enwau a chyfeiriadau etholwyr yn gywir ac yn cyfateb i'r rheini ar y gofrestr etholiadol / rhestrau pleidleiswyr absennol
- bod y deunyddiau a gaiff eu hanfon at etholwyr yn gywir ar eu cyfer (e.e. yr anfonir y papur pleidleisio cywir ar gyfer eu hardal etholiadol; yr anfonir cardiau pleidlais bost drwy ddirprwy at bob unigolyn sy'n pleidleisio drwy'r post drwy ddirprwy)
- lle y bo'n berthnasol, bod y dyddiadau cau cywir yn ymddangos (er enghraifft, ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost/pleidlais drwy ddirprwy ar gardiau pleidleisio)
- lle y rhagnodir ffurflen, ei bod yn bodloni'r gofynion rhagnodedig
Mewn perthynas â'r papur pleidleisio, dylech hefyd wirio'r canlynol:
- bod y cyfarwyddiadau argraffu wedi'u dilyn yn fanwl
- bod y marc swyddogol a'r marc adnabod unigryw wedi'u hargraffu'n gywir
- bod y papur pleidleisio yn cynnwys manylion pob ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys ar gyfer yr ardal etholiadol benodol honno; fel rhan o hyn, dylech wirio'r canlynol:
- bod enw pob ymgeisydd (neu enw(au) a ddefnyddir yn gyffredin lle y bo'n berthnasol) yn gywir
- lle y bo'n berthnasol, bod enwau pleidiau, disgrifiadau ac arwyddluniau yn gywir ac fel y'u cofrestrwyd ar gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol
- bod y cyfarwyddiadau ar frig pob papur pleidleisio yn gywir ar gyfer yr ardal etholiadol honno
Mewn perthynas â'r datganiad pleidleisio drwy'r post, dylech hefyd wirio'r canlynol:
- bod y rhifau papur pleidleisio cywir wedi'u hargraffu
- bod y cyfarwyddiadau pleidleisio cywir ar gyfer yr ardal etholiadol wedi'u cynnwys
Gwiriadau sicrhau ansawdd ar ôl cynhyrchu
Unwaith bod eich deunyddiau etholiad wedi'u cynhyrchu, bydd angen i chi sicrhau bod eich holl ddeunyddiau wedi cael eu hargraffu, eu casglu ynghyd a'u paratoi ar gyfer eu hanfon at etholwyr, neu eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio, heb unrhyw wallau.
Gwirio pecynnau pleidleisio drwy'r post wedi'u llenwi cyn eu hanfon
Wrth gynnal gwiriadau sicrhau ansawdd ar becynnau pleidleisio drwy'r post wedi'u llenwi, dylai hyn gynnwys gwirio'r canlynol:
- bod rhifau'r papur pleidleisio a'r datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'w gilydd,
- bod enwau/cyfeiriadau wedi'u personoli yn ymddangos yn unol â'r disgwyl mewn ffenestri,
- bod pob pecyn yn cynnwys yr eitemau cywir – er enghraifft, bod y papurau pleidleisio cywir a'r amlen ateb gywir wedi cael eu cynnwys
Dylech gynnal hapwiriadau o'r holl becynnau er mwyn sicrhau bod trawstoriad cynrychioliadol wedi cael ei wirio, gydag o leiaf ddau becyn o bob swp o 250 o becynnau (sy'n cyfateb yn fras i ‘fasged’ Post Brenhinol lawn).
Dylech hefyd sicrhau y cynhelir gwiriadau penodol o unrhyw gyfresi sy'n cynnwys eitemau ychwanegol, er enghraifft lle y bydd is-etholiad yn golygu y caiff papur pleidleisio ychwanegol ei gynnwys.
Dylech wneud yn siŵr eich bod yn cadw llwybr archwilio clir o'r gwaith prawfddarllen a'r prosesau sicrhau ansawdd eraill a ddilynwyd naill ai gan eich staff neu gan eich cyflenwr, fel y gallwch gyfeirio'n ôl ato os bydd unrhyw beth yn codi wedyn.
Gallwch ddod o hyd i fwy o ganllawiau i'ch helpu gyda'r broses hon yn yr adran Sicrhau ansawdd a phrawfddarllen deunyddiau etholiad a cheir canllawiau pellach ar sicrhau ansawdd y broses anfon yn ein hadran ar bleidleisio absennol.
Gwirio llyfrau papurau pleidleisio cyn eu dyrannu
Pan fyddwch yn cael y llyfrau papurau pleidleisio wedi'u hargraffu, dylech gynnal gwiriad terfynol cyn i unrhyw bapurau pleidleisio gael eu dosbarthu i orsaf bleidleisio.
Wrth gynnal gwiriadau sicrhau ansawdd terfynol o'r llyfrau papurau pleidleisio, dylech wirio'r canlynol:
- bod y papur pleidleisio cyntaf a'r un olaf o leiaf ym mhob llyfr a thrwy gadarnhau bod rhifau papurau pleidleisio ym mhob llyfr neu becyn yn rhedeg yn olynol
- bod yr holl fanylion ar y papur pleidleisio wedi'u sillafu'n gywir
- bod pob arwyddlun y gofynnwyd yn ddilys amdano wedi ei gynnwys wrth ymyl enw'r ymgeisydd cywir a'i fod yn cyfateb i gofnod y blaid yng nghofrestr y Comisiwn
- bod pob disgrifiad o ymgeisydd wedi cael ei argraffu yn y llinell ar gyfer yr ymgeisydd cywir
- bod y cyfarwyddiadau pleidleisio ar frig y papur pleidleisio yn cyfateb i'r gofynion deddfwriaethol
- bod y papurau pleidleisio wedi cael eu torri i'r maint cywir
- bod y marc swyddogol wedi'i gynnwys
Gallwch ddod o hyd i ganllawiau ar ddyrannu papurau pleidleisio i orsafoedd pleidleisio yn ein hadran ar bleidleisio mewn gorsaf bleidleisio.
Diogelwch papurau pleidleisio
Mae'n rhaid i chi sicrhau diogelwch papurau pleidleisio wrth iddynt gael eu cynhyrchu, eu dosbarthu a'u storio. Ar ôl i'r marc swyddogol gael ei argraffu ar eich papurau pleidleisio, maent yn ‘fyw’ i bob diben.
Ni waeth a ydych wedi gosod y gwaith argraffu ar gontract allanol neu a ydych yn argraffu'n fewnol, er mwyn sicrhau y gall pleidleiswyr fod â hyder yn y broses, dylai eich trefniadau diogelwch atal pobl rhag cael gweld a defnyddio'r papurau pleidleisio heb awdurdod.
Dylai'r cyfyngiadau hyn fod yn gymwys ar bob cam o'r broses gynhyrchu a storio, rhwng yr adeg pan gânt eu hargraffu a'r etholiad.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gynllunio ar gyfer diogelwch papurau pleidleisio.
Dechrau amserlen yr etholiad
Mae'r adran hon o'r canllawiau yn egluro'r camau gweithredu statudol y mae'n rhaid eu cymryd er mwyn galluogi i amserlen yr etholiad ddechrau'n swyddogol.
Mae hyn yn cynnwys:
- y broses ar gyfer cyflwyno a derbyn y gwrit
- y broses ddilynol o gyhoeddi'r hysbysiad etholiad
- y gofyniad i ddosbarthu cardiau pleidleisio cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad
Rydym wedi cyhoeddi amserlen nad yw'n cynnwys dyddiadau penodol ar gyfer etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac is-etholiadau:
Bydd amserlen sy’n cynnwys dyddiadau penodol ar gael ar ein gwefan pan fydd etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU yn cael ei gyhoeddi.
Cyflwyno a derbyn y gwrit
Caiff writ sy'n ei gwneud yn ofynnol i etholiad Senedd y DU gael ei chynnal yn eich etholaeth ei gyhoeddi ar ôl i Senedd y DU gael ei diddymu.
Anfonir y gwrit at y Swyddog Canlyniadau oni fydd wedi eich penodi chi (y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)) neu rywun arall yn ddirprwy iddo. Anfonir y gwrit at y Swyddog Canlyniadau yn ôl ei deitl, yn hytrach na'i enw.1
Mae Clerc y Goron yn cadw rhestr o Swyddogion Canlyniadau yr anfonir y gwrit atynt. Os byddwch chi, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), wedi cael eich penodi gan y Swyddog Canlyniadau i dderbyn y gwrit, rhaid i'r Swyddog Canlyniadau hysbysu Clerc y Goron ar ffurflen benodedig.2
Caiff y gwrit ei ddosbarthu gan y Post Brenhinol fel arfer ac unwaith y caiff ei anfon, bydd eich cyswllt lleol yn y Post Brenhinol yn cysylltu â'r Swyddog Canlyniadau neu'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i drefnu ei ddosbarthu. Mae'n hanfodol bod Clerc y Goron a'r Post Brenhinol yn cael gwybod am unrhyw newidiadau i gyfeiriad yr unigolyn a fydd yn derbyn y gwrit ar unwaith.
Ni waeth pwy fydd yn derbyn y gwrit, rhaid iddo gwblhau derbynneb a ddarperir gan y Post Brenhinol. Bydd yn nodi'r dyddiad y caiff ei dderbyn ac enw'r swyddog sy'n ei dderbyn. Dylid gwneud copïau o'r gwrit a chadw'r copi gwreiddiol yn ddiogel.
3 Ystyrir bod y gwrit wedi'i dderbyn y diwrnod ar ôl i'r Senedd gael ei diddymu. 4 Bydd hyn yn eich galluogi i ddechrau gwneud trefniadau y diwrnod ar ôl i writ yr etholiad gael ei gyhoeddi, hyd yn oed os caiff y broses o ddosbarthu'r writ yn gorfforol ei hoedi. Mae'r dyddiad yr ystyrir bod y gwrit wedi'i dderbyn yn effeithio ar amserlen etholiad Senedd y DU. Rhaid cyhoeddi'r hysbysiad o etholiad erbyn 4pm fan bellaf ar yr ail ddiwrnod yn dilyn dyddiad derbyn y gwrit. 5 Bydd y cyfnod ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn dechrau ar y diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad o etholiad.
Is-etholiadau Senedd y DU
Ystyrir bod y gwrit wedi'i dderbyn y diwrnod ar ôl cyhoeddi'r warant ar ei gyfer sy'n ysgogi amserlen yr is-etholiad, ond mae'r amserlen hon yn fwy hyblyg na'r amserlen mewn etholiad cyffredinol. Y rheswm dros hyn yw bod gan y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), mewn is-etholiad, fwy o ddisgresiwn o ran hyd y cyfnod enwebu, sydd hefyd yn effeithio ar y diwrnod pleidleisio.
Mae'r broses ar gyfer derbyn y gwrit yr un peth mewn is-etholiad Seneddol ag y mae mewn etholiad cyffredinol. Fodd bynnag, mae pryd y caiff y gwrit ar gyfer is-etholiad ei anfon yn dibynnu ar ba bryd y caiff cynnig ei gyflwyno yn Nhŷ'r Cyffredin i anfon y gwrit. O dan rai amgylchiadau, gellir anfon gwrit yn ystod y toriad Seneddol hefyd.
Rhaid i chi bennu dyddiad y bleidlais a hyd y cyfnod enwebu. Ni all y terfyn amser ar gyfer derbyn papurau enwebu fod yn gynt na thri diwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad nac yn hwyrach na saith diwrnod gwaith ar ôl derbyn y gwrit. 6
Dylech geisio dewis dyddiad sy'n rhoi cymaint o amser â phosibl i ymgeiswyr gyflwyno eu papurau enwebu o fewn terfynau'r amserlen
Ni ddylai'r diwrnod pleidleisio fod yn gynt na 17 diwrnod gwaith nac yn hwyrach na 19 diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Os bydd gennych is-etholiad, dylech gysylltu â thîm lleol y Comisiwn a fydd yn gallu eich helpu drwy fwrw golwg dros amserlen yr etholiad.
Cyflwyno a derbyn y gwrit
Bydd amserlen sy’n cynnwys dyddiadau penodol ar gael ar ein gwefan pan fydd etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU yn cael ei gyhoeddi. Rydym wedi cynhyrchu amserlen templed ar wahân ar gyfer is-etholiad Senedd y DU.
Ceir gwybodaeth am ardystio a dychwelyd y gwrit ar ôl datgan y canlyniad yn ein canllawiau ar Rhoi hysbysiad o'r canlyniad.
- 1. Adrannau 27 a 28 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 4 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheol 3 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 28 (3A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 1 Rheol 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 1 Rheol 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
Hysbysiad etholiad
Rhaid i chi gyhoeddi'r hysbysiad etholiad ar gyfer yr etholaeth erbyn 4pm fan bellaf ar yr ail ddiwrnod gwaith yn dilyn derbyn y gwrit. Gall yr hysbysiad etholiad gael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod ag y derbynnir y gwrit a dylai gael ei gyhoeddi cyn gynted ag y bo'n ymarferol fel bod cymaint o amser â phosibl ar gyfer enwebiadau.1
Rhaid i'r hysbysiad etholiad nodi'r canlynol:2
- ble a phryd y gellir cyflwyno'r papurau enwebu, a ble y gellir cael gafael ar bapurau enwebu
- dyddiad y bleidlais os caiff yr etholiad ei ymladd
- os byddwch wedi penderfynu derbyn taliadau electronig, y trefniadau ar gyfer talu ernesau yn electronig
- y dyddiad y mae'n rhaid i'r ceisiadau ar gyfer pleidleisiau absennol (yn cynnwys pleidleisiau argyfwng drwy ddirprwy) gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn iddynt fod yn weithredol ar gyfer yr etholiad.
Dylai'r hysbysiad etholiad hefyd nodi erbyn pa ddyddiad y mae'n rhaid i geisiadau i gofrestru a'r Tystysgrifau Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfennau Etholwr Dienw gyrraedd y Swyddog Cofrestru Etholiadol er mwyn iddynt fod yn weithredol ar gyfer yr etholiad.
Dylai'r cyfeiriad a roddir ar gyfer cyflwyno papurau enwebu fod yn union gywir, a dylai gynnwys unrhyw rif ystafell. Bydd hyn yn osgoi unrhyw amheuaeth os caiff enwebiadau eu cyflwyno'n agos at y terfyn amser. Dylech hysbysu pob aelod o staff derbynfa ymhob swyddfa yn yr adeilad ac adeiladau cysylltiedig eraill na ddylent dderbyn papurau enwebu.
Rydym wedi datblygu templed o hysbysiad etholiad y gallwch ei ddefnyddio:
- 1. Atodlen 1 Rheol 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 5 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Dosbarthu cardiau pleidleisio
Rhaid i chi anfon cardiau pleidleisio cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad.1
Rhaid i gerdyn pleidleisio gael ei anfon i gyfeiriad cymwys yr etholwr neu, yn achos dirprwy, i gyfeiriad y dirprwy fel y'i dangosir yn y rhestr o ddirprwyon.2
Ar gyfer etholwyr anhysbys, rhaid i'r cerdyn pleidleisio gael ei anfon mewn prif amlen i gyfeiriad cymwys yr etholwr.3
Er mwyn sicrhau y bydd pleidleiswyr yn cael y wybodaeth sydd ei hangen arnynt ac mewn pryd iddynt fwrw eu pleidlais, dylech sicrhau y gall cardiau pleidleisio gael eu derbyn gan bleidleiswyr cyn gynted â phosibl, fel bod ganddynt gymaint o amser â phosibl i newid eu manylion cofrestru neu wneud cais am bleidlais absennol. Gallai hyn, er enghraifft, gynnwys cyhoeddi'r hysbysiad etholiad cyn gynted ag y derbynnir y gwrit. Unwaith y caiff yr hysbysiad etholiad ei gyhoeddi, gellir dosbarthu'r cardiau pleidleisio.
Bydd angen i chi bennu'r dyddiad dosbarthu gorau ar gyfer cardiau pleidleisio a dylech ganolbwyntio ar ba bryd y gall etholwyr ddisgwyl cael eu cardiau pleidleisio.
Gellir dosbarthu cardiau pleidleisio yn bersonol, drwy'r post neu drwy ddull arall a bennir gennych fel y dull mwyaf priodol.4
Dosbarthu yn bersonol
Os byddwch yn dosbarthu cardiau pleidleisio â llaw, dylech gynllunio sut y bydd hyn yn gweithio yn ymarferol. Dylech neilltuo digon o staff i sicrhau bod pleidleiswyr yn derbyn cardiau pleidleisio cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau eu bod yn cael cymaint o amser â phosibl i newid manylion cofrestru neu wneud cais am bleidlais absennol. Dylech nodi'n glir yn eich cyfarwyddiadau i staff y diwrnod olaf y byddech yn disgwyl i bob cerdyn pleidleisio gael ei ddosbarthu.
Dylech sicrhau bod staff yn ymwybodol o ystyriaethau diogelu data, a dylech ystyried ei gwneud yn ofynnol i staff gadarnhau'n ysgrifenedig ar adeg recriwtio y byddant yn dilyn eich polisi diogelu data.
Dylech fonitro'r broses ddosbarthu, er mwyn sicrhau bod cardiau pleidleisio wedi cael eu dosbarthu drwy'r etholaeth gyfan ac yn unol â'r amserlenni. Gall hyn gynnwys ei gwneud yn ofynnol i staff dosbarthu lenwi taflenni cofnodi a threfnu i oruchwylwyr gynnal hapwiriadau.
Dosbarthu drwy'r post
Gallwch ddefnyddio'r Post Brenhinol neu unrhyw gwmni dosbarthu masnachol arall i ddosbarthu'r cardiau pleidleisio. Os byddwch yn dosbarthu cardiau pleidleisio drwy'r post, dylech gydgysylltu â'ch darparwr gwasanaethau post i gytuno ar amserlen ar gyfer dosbarthu a chael unrhyw brawf postio a ddarperir gan y cwmni.
Dylech fonitro'r broses o ddosbarthu cardiau pleidleisio, er mwyn sicrhau eu bod wedi cael eu dosbarthu drwy'r etholaeth gyfan ac yn unol â'r amserlenni. Os oes modd, dylech roi trefniadau ar waith i olrhain y broses ddosbarthu er mwyn helpu i ymateb i unrhyw ymholiadau gan etholwyr.
Dylai eich gwaith cynllunio wrth gefn ymdrin â sut y byddech yn dosbarthu unrhyw gardiau pleidleisio pe na bai'r Post Brenhinol neu'r cwmni dosbarthu masnachol a gontractiwyd gennych yn gallu dosbarthu'r cardiau pleidleisio, er enghraifft, oherwydd gweithredu diwydiannol.
- 1. Atodlen 1 Rheol 28 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 28(2) a (2A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 9B (8) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1 Rheol 28(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Adnoddau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) - Dechrau amserlen yr etholiad
Enwebiadau
Enwebiadau
Fel Swyddog Canlyniadau, rydych yn gyfrifol am weinyddu proses enwebu sy'n cefnogi ymgeiswyr i sefyll etholiad ac yn eu galluogi i fod yn hyderus yn y ffordd y caiff yr etholiad ei reoli.
Nod y canllawiau canlynol yw eich cefnogi yn y penderfyniadau y bydd angen i chi eu gwneud er mwyn rheoli'r broses enwebu yn effeithlon ac yn effeithiol. Maent yn cynnwys gwybodaeth am y gofynion ar gyfer enwebu, gan gynnwys manylion ymgeiswyr, ernesau a dulliau cyflwyno, canllawiau i gefnogi'r gwaith o brosesu enwebiadau a phenderfynu arnynt, a chanllawiau ar y prosesau i'w dilyn ar ôl i'r enwebiadau gau, megis cyhoeddi hysbysiadau swyddogol. Maent hefyd yn cynnwys gwybodaeth am y camau gweithredu gofynnol yn dilyn marwolaeth ymgeisydd.
Rhoi gwybodaeth am y broses enwebu i ymgeiswyr ac asiantiaid
Efallai y bydd ymgeiswyr, asiantiaid a phleidiau gwleidyddol newydd neu lai profiadol, sy'n anghyfarwydd ag arferion a phrosesau sefyll etholiad ac y bydd angen eich cymorth arnynt i allu cymryd rhan yn effeithiol.
Fel rhan o'ch paratoadau ar gyfer yr etholiadau, byddwch wedi rhoi cynlluniau ar waith i sicrhau eich bod yn cynnig sesiwn friffio i bob darpar ymgeisydd ac asiant cyn y cyfnod enwebu neu ar ddechrau'r cyfnod hwnnw, a'u bod hefyd yn cael canllawiau ysgrifenedig ar y broses etholiadol mewn da bryd er mwyn eu galluogi i weithredu arnynt. Ceir manylion am yr hyn a ddylai gael ei gynnwys mewn sesiynau briffio a gwybodaeth ysgrifenedig, a dolenni i sesiynau briffio enghreifftiol, yn ein canllawiau ar roi gwybodaeth i bleidiau gwleidyddol, ymgeiswyr ac asiantiaid.
Ffurflenni enwebu
Dim ond os byddwch wedi derbyn ernes o £500 a bod y ffurflenni canlynol wedi eu llenwi erbyn diwedd y cyfnod enwebu (4pm ar y 19eg diwrnod gwaith cyn y bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU neu 4pm ar y dyddiad a bennwyd gennych1 ar gyfer is-etholiad Senedd y DU), yr ystyrir bod ymgeisydd wedi ei enwebu'n ddilys:2
- y ffurflen enwebu (fel y'i rhagnodir)
- ffurflen cyfeiriad cartref
- ffurflen cydsynio ag enwebiad
Ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol
Os bydd ymgeisydd yn dymuno sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig yna, yn ogystal â'r uchod, rhaid iddo hefyd gyflwyno tystysgrif awdurdodi, sy'n rhoi awdurdod i ddefnyddio enw'r blaid ar y papur pleidleisio (fel y'i rhagnodir), a gall hefyd gynnwys cais ysgrifenedig i ddefnyddio un o arwyddluniau cofrestredig y blaid os yw'n dymuno3 .
Rhaid i enw neu ddisgrifiad y blaid a awdurdodir gan y dystysgrif gyfateb i enw neu ddisgrifiad y blaid ar y ffurflen enwebu neu bydd yr enwebiad cyfan yn annilys.4
Rhaid bod y blaid wedi'i chofrestru ar gofrestr o bleidiau gwleidyddol y Comisiwn yn http://search.electoralcommission.org.uk a bod wedi'i rhestru'n blaid y caniateir iddi gyflwyno ymgeiswyr yn y rhan o'r DU y mae'n sefyll ynddi.
Paratoi papurau enwebu
Dim ond yn Saesneg neu, yng Nghymru, yn Gymraeg a/neu Saesneg, y gellir paratoi papurau enwebu, ac nid mewn unrhyw ieithoedd na fformatau amgen.5 Fodd bynnag, mae'n ofynnol i chi yn ôl y gyfraith baratoi papurau enwebu i'w llofnodi os bydd rhywun yn gwneud cais am hynny.6 Mae hyn yn golygu darparu'r holl ddogfennau sy'n ofynnol ar gyfer enwebu a'u cwblhau gyda'r holl wybodaeth a roddir i chi fel mai dim ond y llofnodion gofynnol y mae'n rhaid eu hychwanegu.
Rydym wedi paratoi set o bapurau enwebu, sy'n cynnwys yr holl ffurflenni hyn y gallwch eu rhoi i ymgeiswyr.
Nid oes rhaid i ymgeiswyr ddefnyddio'r ffurflen enwebu a luniwyd ac a ddarparwyd gennych chi, ar yr amod bod eu ffurflenni enwebu fel y'u rhagnodir.
- 1. Heb fod yn gynt na thri diwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad ac mae'n rhaid iddo fod o fewn saith diwrnod gwaith i dderbyn y gwrit ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 rheolau 1,6,8 a 9 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 rheol 6A a 19 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 8(2)(a), Rheolau Prif Ardaloedd 2006; rheol 8(2)(a), Rheolau Plwyfi a Chymunedau 2006; rheol 11(2)(a), Rheolau Maerol Awdurdodau Lleol 2007 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 199B(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 1 rheol 7 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
Ffurflen enwebu – enw'r ymgeisydd
Rhaid i enwau llawn yr ymgeisydd gael eu rhestru ar y ffurflen enwebu, cyfenw yn gyntaf, wedyn ei holl enwau eraill yn llawn.1
Rhagddodiaid ac ôl-ddodiaid
Nid yw'r ffurflen enwebu yn rhagnodi lle ar gyfer rhagddodiaid nac ôl-ddodiaid.
Dylid cynghori ymgeiswyr i beidio â defnyddio rhagddodiaid fel Mr, Mrs, Dr neu Y Cyngh, nac ôl-ddodiaid fel OBE neu MBA fel rhan o'u henw llawn. Os caiff rhagddodiad neu ôl-ddodiad ei ddefnyddio fel rhan o'r enw gwirioneddol ni fyddai'r ffurflen enwebu yn annilys o ganlyniad i hynny, ond ni ddylid trosglwyddo'r rhagddodiad na'r ôl-ddodiad i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd
Os bydd ymgeisydd wedi cyflwyno ffurflen enwebu gyda rhagddodiad neu ôl-ddodiad fel rhan o'i enw gwirioneddol, dylech ei hysbysu na fydd yn ymddangos ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, yr hysbysiad pleidleisio na'r papur pleidleisio, ond nad yw hyn wedi effeithio ar ei enwebiad fel ymgeisydd.
Yr unig eithriad i hyn yw pan fydd rhagddodiad neu ôl-ddodiad wedi cael ei gynnwys fel rhan o enw a ddefnyddir yn gyffredin a bod yr ymgeisydd yn honni mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin.
- 1. Atodlen 1 Rheol 6 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Enwau a ddefnyddir yn gyffredin
Pan fydd ymgeisydd yn defnyddio'n gyffredin enw sy'n wahanol i'w enw gwirioneddol, neu, yn defnyddio'i enw yn gyffredin mewn ffordd sy'n wahanol i'r hyn a nodwyd ar y papur enwebu, gall ofyn am gael defnyddio hwn yn lle ei enw gwirioneddol.1
Gall ymgeisydd ofyn am gael defnyddio enw cyntaf a/neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin. Caiff hefyd ddefnyddio blaenlythrennau fel rhan o'i enw cyffredin os cânt eu defnyddio'n gyffredin mewn perthynas â nhw.
Er enghraifft, efallai mai ‘Andy’ yw'r enw cryno a ddefnyddir ar ei gyfer, yn lle ei enw llawn cyntaf sef ‘Andrew’. Os felly, gall ysgrifennu ‘Andy’ yn y blwch enw cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin ar y ffurflen enwebu os byddai'n well ganddo fod yr enw hwnnw'n ymddangos ar y papur pleidleisio.
Gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin. Er enghraifft, yn achos Andrew Smith-Roberts, gallai ddefnyddio Andrew Roberts neu Andrew Smith (os mai un o'r rhain oedd yr enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer).
Fodd bynnag, os oes gan ymgeisydd deitl, gall ddefnyddio hwn fel ei enw llawn. Er enghraifft, os mai enw gwirioneddol yr ymgeisydd yw Joseph Smith, ond mai ei deitl etifeddol yw Joseph Avon, gall ddefnyddio'r enw Joseph Avon fel ei enw llawn
Mae'r tabl hwn yn nodi rhestr, nad yw'n gynhwysfawr, o amrywiadau posibl:
Enw gwirioneddol yr ymgeisydd | Enw a ddefnyddir yn gyffredin | Yn wahanol i unrhyw enw cyntaf neu gyfenw arall? | Derbyniol? |
---|---|---|---|
Andrew John Smith-Jones | Andrew Smith-Jones | Nac ydy | Ydy – os mai Andrew yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer. |
Andrew John Smith-Jones | John Smith-Jones | Nac ydy | Ydy – os mai John yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer. |
Andrew John Smith-Jones | Andy Smith-Jones | Ydy | Ydy – os mai Andy yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer. |
Andrew John Smith-Jones | Johnny Smith-Jones | Ydy | Ydy – os mai Johnny yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer. |
Andrew John Smith-Jones | Andrew John Smith | Ydy | Ydy – gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin. |
Andrew John Smith-Jones | Andy Jones | Ydy | Ydy – os mai Andy yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer a gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin. |
Andrew John Smith-Jones | AJ Smith-Jones | Ydy | Ydy – os yw AJ yn flaenlythrennau a gaiff eu defnyddio'n gyffredin ar ei gyfer |
Andrew John Smith-Jones | Andrew J Smith | Ydy | Ydy – os mai Andrew J yw'r enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei gyfer a gall ymgeisydd sydd â chysylltnod yn ei gyfenw ddewis defnyddio un rhan o'i gyfenw os mai dyma sut y caiff ei adnabod yn gyffredin. |
Penderfyniadau ar Enwau a Ddefnyddir yn Gyffredin
Nid eich cyfrifoldeb chi yw penderfynu a yw'r enw cyffredin a roddwyd yn 'enw' y mae'r ymgeisydd yn ei ddefnyddio'n gyffredin nac a yw'n bodloni'r gofyniad cyfreithiol. Mae'r gyfraith yn ei gwneud yn ofynnol i chi dderbyn beth bynnag y bydd ymgeisydd wedi'i nodi yn y blwch enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei olwg a'i dderbyn fel enw cyffredin yr ymgeisydd.
Yn ôl y gyfraith, yr unig seiliau sydd gennych dros wrthod enw a ddefnyddir yn gyffredin yw'r rhai canlynol:2
- mae'n debygol y gall ei ddefnydd gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu
- mae'n aflan neu'n sarhaus
Cyfrifoldeb yr ymgeisydd yw sicrhau ei fod wedi cwblhau ei ffurflen enwebu yn unol â'r gyfraith a bod yn fodlon bod yr enw cyffredin a roddwyd yn enw a ddefnyddir yn gyffredin ganddo mewn gwirionedd.
Wrth roi cyngor anffurfiol, efallai yr hoffech dynnu sylw'r ymgeisydd at ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid ar enwau a ddefnyddir yn gyffredin.
- 1. Schedule 1 Rule 6 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Schedule 1 Rule 14 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Atgynhyrchu enwau a ddefnyddir yn gyffredin ar ddeunydd etholiad
Mae'r tabla isod yn cynnwys nifer o enghreifftiau o gyfuniadau amrywiol o enwau a ddefnyddir yn gyffredin a sut y byddai hyn yn effeithio ar ymddangosiad enw'r ymgeisydd ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, yr hysbysiad pleidleisio a'r papur pleidleisio.
Cyfenw gwirioneddol yr ymgeisydd | Enwau eraill yr ymgeisydd yn llawn | Enwau cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin | Cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin | Enw i'w nodi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd | Enw i'w nodi ar y papurau pleidleisio |
---|---|---|---|---|---|
Etholwr | Ann | Elsie | Pleidleisiwr | Pleidleisiwr, Elsie | PLEIDLEISIWR, Elsie |
Etholwr | Ann | [Gwag] | Pleidleisiwr | Pleidleisiwr, Ann | PLEIDLEISIWR, Ann |
Etholwr | Ann | Elsie | [Gwag] | Pleidleisiwr, Elsie | PLEIDLEISIWR, Elsie |
Etholwr | Ann Jane | Ann | [Gwag] | Etholwr, Ann | ETHOLWR, Ann |
Etholwr | Ann Jane | Jane | [Gwag] | Etholwr, Jane | ETHOLWR, Jane |
Etholwr | Ann | [Gwag] | Pleidleisiwr | Pleidleisiwr, Ann | PLEIDLEISIWR, Ann |
Os caiff y blwch ar gyfer enwau cyntaf a ddefnyddir yn gyffredin neu gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin ei adael yn wag, yna bydd enwau cyntaf neu gyfenw gwirioneddol yr ymgeisydd, yn dibynnu ar ba flwch ar gyfer enwau a ddefnyddir yn gyffredin a adawyd yn wag, yn mynd ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd ac ar y papur pleidleisio.
Dylech gynghori'r ymgeisydd bod y defnydd o enwau a ddefnyddir yn gyffredin ond yn gymwys i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio. Dylai enw gwirioneddol yr ymgeisydd ymddangos ar unrhyw ddogfennau y mae'n ofynnol iddynt ddangos enw'r ymgeisydd, fel yr argraffnod a ffurflenni gwariant yr ymgeisydd.
Os byddwch yn gwrthod defnyddio enw a ddefnyddir yn gyffredin, ni fydd hyn yn effeithio ar ddilysrwydd y papur. Yn hytrach, effaith hyn fydd y bydd enw llawn yr ymgeisydd yn ymddangos ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio. Dylid egluro hyn i ymgeiswyr ac asiantiaid a rhaid i chi ysgrifennu at yr ymgeisydd yn nodi'r rhesymau dros wrthod caniatáu i'r enw a ddefnyddir yn gyffredin gael ei ddefnyddio.
Ffurflen enwebu – Gofynion llofnodwyr
Mae'n rhaid i ffurflenni enwebu gynnwys arwydd o gefnogaeth i'r ymgeisydd gan 10 o etholwyr cofrestredig ar gofrestr Senedd y DU yn yr etholaeth. Gelwir y rhain yn llofnodwyr - y ddau gyntaf yw'r cynigydd a'r eilydd, tra bod wyth etholwr arall yn cefnogi'r enwebiad.1 Nid oes dim yn atal ymgeisydd rhag llofnodi ei enwebiad ei hun ar yr amod ei fod wedi'i gofrestru yn yr etholaeth.
Yn ôl y gyfraith mae'n rhaid i bob llofnodwr lofnodi'r ffurflen enwebu yn y man priodol a rhaid iddo gynnwys ei rif etholiadol yn y bylchau a ddarperir wrth ymyl ei lofnod, ynghyd â llythrennau adnabod y dosbarth etholiadol.
Nid oes rhaid i lofnodwr roi ei enw ar ffurflen enwebu Senedd y DU.
Pan fydd ffurflen enwebu wedi'i chyflwyno'n ffurfiol, hyd yn oed os caiff ei phennu'n annilys yn ddiweddarach, bydd llofnodion yn dal i gyfrif tuag at yr un ffurflen y caiff y llofnodwr ei llofnodi.
Os caiff etholwr ei dynnu oddi ar y gofrestr yn ddiweddarach neu os bydd farw cyn yr etholiad (neu yn wir cyn i'r enwebiad gael ei gyflwyno hyd yn oed), bydd ei lofnod yn ddilys o hyd ac nid effeithir ar yr enwebiad.
Gall unigolyn a ddangosir ar y gofrestr fel rhywun sydd o dan 18 oed pan wneir yr enwebiad ond llofnodi ffurflen enwebu os bydd yn 18 oed ar neu cyn y diwrnod pleidleisio.
Dim ond y 10 llofnodwr cyntaf ar unrhyw bapur enwebu y gellir eu hystyried. Os caiff mwy o lofnodwyr eu cynnwys, ni ddylid ystyried unrhyw enwau dilynol o gwbl. Os bydd un o'r 10 llofnodwr cyntaf yn annilys, waeth p'un a ychwanegwyd mwy o lofnodwyr i'r ffurflen enwebu ai peidio, mae'n rhaid ystyried bod yr enwebiad yn annilys o hyd.
Ni all llofnodwyr dynnu llofnodion ar ffurflenni enwebu yn ôl, unwaith y byddant wedi'u rhoi. Os bydd llofnodwr yn cysylltu â chi i ddweud ei fod yn dymuno tynnu ei lofnod yn ôl, dylech ei hysbysu na chaniateir hyn yn ôl y gyfraith a bod y llofnod yn ddilys o hyd.
Rhaid i chi wrthod enwebiad os na lofnodwyd y ffurflen enwebu yn ôl y gofyn.2
Cadarnhau bod llofnodwyr ar y gofrestr
Rhaid i lofnodwyr ymddangos ar y gofrestr etholiadol Seneddol sydd mewn grym ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad (h.y. ar yr ail ddiwrnod ar ôl derbyn y gwrit). Mae'n hanfodol y defnyddir y fersiwn gywir o'r gofrestr er mwyn sicrhau bod y llofnodwyr yn ddilys.
Ni ddylai etholwr lofnodi mwy nag un ffurflen enwebu yn yr etholiad Seneddol. Os bydd yn gwneud hynny, bydd ei lofnod ond yn ddilys ar y papur cyntaf a anfonir atoch, hyd yn oed os nad hwn oedd y papur cyntaf a lofnodwyd.3
Dylai fod gennych system gadarn ar waith er mwyn sicrhau na fydd unrhyw etholwr yn llofnodi mwy nag un ffurflen enwebu. Dylech ddefnyddio copi caled o'r gofrestr a'r system rheoli etholiadol er mwyn lleihau'r risg o fethu â nodi llofnodwr sydd wedi llofnodi mwy nag un ffurflen, a marcio'r copi caled o'r gofrestr â llaw pan gaiff enwebiadau eu cyflwyno'n ffurfiol.
Gan fod yn rhaid i chi dderbyn y ffurflen enwebu ar ei golwg, rhaid i chi dderbyn mai llofnod yr unigolyn a restrwyd ar y gofrestr o dan y rhif etholwr perthnasol yw'r llofnod ar y ffurflen enwebu, hyd yn oed os yw'r llofnod yn awgrymu enw arall. Gallwch dynnu sylw'r unigolyn sy'n cyflwyno'r papur at hyn os ydych yn pryderu, ond, rhaid i chi dderbyn y rhif etholwr a'r llofnod ar eu golwg. Os bydd gennych bryderon o hyd ar ôl codi'r mater, dylech hysbysu eich Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu (SPOC).
Enwau llofnodwyr wedi'u croesi allan
Yn achlysurol gwneir camgymeriad ac efallai y bydd enw un neu fwy o'r llofnodwyr wedi'i groesi allan. Os caiff y llofnod a'r rhif etholwr ar gyfer llofnodwr eu croesi allan yn glir, dylech ei anwybyddu a'i drin fel pe na bai'r rhes yn ymddangos o gwbl. Os gofynnir i chi, dylech nodi y dylai unrhyw beth sydd wedi'i groesi allan fod yn glir, ac yn ddelfrydol, wedi'i lofnodi â blaenlythrennau.
Ni ddylech groesi allan unrhyw gofnod. Os oedd y cofnod a oedd wedi'i groesi allan yn gofnod gan gynigydd neu eilydd, yna dylid nodi'r cynigydd neu'r eilydd newydd. Lle y bydd cofnod wedi'i groesi allan, mae'n rhaid i'r deg llofnodwr cyntaf ac eithrio'r cofnod hwnnw fod yn ddilys o hyd er mwyn i'r enwebiad fod yn ddilys.
- 1. Atodlen 1 Rheol 7 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 12 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheol 7 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Ffurflen cyfeiriad cartref
Mae'n ofynnol i ymgeiswyr gwblhau ffurflen cyfeiriad cartref. Rhaid i'r ffurflen hon gael ei chyflwyno yn bersonol gan y sawl a all gyflwyno'r ffurflen enwebu ac erbyn i'r enwebiadau gau. Nid yw'r ffurflen wedi'i rhagnodi ond mae'r wybodaeth y mae angen ei darparu wedi'i nodi mewn deddfwriaeth.1
Rhaid i'r ymgeisydd nodi ei enw a'i gyfeiriad cartref ar y ffurflen cyfeiriad cartref. Nid oes angen i'r cyfeiriad fod yn yr etholaeth lle mae'r ymgeisydd yn bwriadu sefyll.
Y cyfeiriad cartref:
- rhaid iddo gael ei gwblhau'n llawn
- ni ddylai gynnwys talfyriadau
- rhaid mai ei gyfeiriad cartref cyfredol ydyw
- ni ddylai fod yn gyfeiriad busnes (oni fydd yr ymgeisydd yn rhedeg busnes o'i gartref)
Os bydd unrhyw ran o fanylion y cyfeiriad cartref yn anghywir neu wedi'i hepgor, ni fydd yr enwebiad yn annilys yn awtomatig os yw'r disgrifiad o'r lle yn un a ddeellir yn gyffredin.
Mae'r Comisiwn wedi creu ffurflen cyfeiriad cartref fel rhan o'i set o bapurau enwebu y gallwch ei rhoi i ymgeiswyr ac asiantiaid.
Mae'r ffurflen cyfeiriad cartref, ynghyd â'r ffurflen enwebu, ar gael i'w harchwilio gan y bobl hynny y mae hawl ganddynt i fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu.
Ymgeiswyr nad ydynt am i gyfeiriad eu cartref gael ei gyhoeddi
Gall ymgeisydd ofyn am i'w gyfeiriad beidio â chael ei gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd na'r papur pleidleisio.
Yn yr achos hwn, bydd y ffurflen cyfeiriad cartref yn cynnwys y canlynol, yn ogystal â'r enw llawn a chyfeiriad y cartref:2
- datganiad, wedi'i lofnodi gan yr ymgeisydd, sy'n nodi nad yw am i gyfeiriad ei gartref fod ar gael i'r cyhoedd
- os yw ei gyfeiriad cartref yn y DU, yr etholaeth Senedd y DU neu'r ardal berthnasol y mae ei gyfeiriad cartref wedi'i leoli ynddi
- os yw'n byw y tu allan i’r DU, y wlad y mae ei gyfeiriad cartref wedi’i leoli ynddi
Os na fydd yr ymgeisydd am i gyfeiriad ei gartref ymddangos ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio, rhaid nodi'r etholaeth lle lleolir ei gartref neu, os yw'n byw y tu allan i'r DU, y wlad lle mae'n byw yn lle hynny.
Os, erbyn diwedd y cyfnod enwebu, bydd mwy nag un ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys wedi gofyn am i gyfeiriad ei gartref beidio â chael ei gyhoeddi, rhaid i chi ystyried a oes gan ddau neu fwy ohonynt yr un enw neu enw tebyg sy'n debygol o achosi dryswch. Os byddwch yn ystyried mai dyma yw'r achos, gallwch ychwanegu'r cyfryw fanylion o'u ffurflen cyfeiriad cartref neu ffurflen enwebu fel sy'n briodol, yn eich barn chi, i leihau'r tebygrwydd o ddryswch.3
Cyn i chi benderfynu pa fanylion y dylid eu cynnwys, rhaid i chi ymgynghori â'r ymgeisydd/ymgeiswyr dan sylw, os yw'n ymarferol i chi wneud hynny. Yna rhaid i chi eu hysbysu'n ysgrifenedig am yr wybodaeth ychwanegol a gyhoeddir.
Ystyr ardal berthnasol yw
Ar gyfer cyfeiriadau cartref yng Nghymru:
- os yw’r cyfeiriad o fewn sir, y sir honno;o
- os yw’r cyfeiriad o fewn bwrdeistref sirol, y fwrdeistref sirol honno.
Ar gyfer cyfeiriadau cartref yn Lloegr:
- os yw’r cyfeiriad o fewn dosbarth y mae cyngor dosbarth ar ei gyfer, y dosbarth hwnnw;
- os yw’r cyfeiriad o fewn sir lle nad oes unrhyw ddosbarthau â chynghorau, y sir honno;
- os yw’r cyfeiriad o fewn bwrdeistref yn Llundain, y fwrdeistref honno yn Llundain;
- os yw'r cyfeiriad o fewn Dinas Llundain (gan gynnwys y Temlau Mewnol a Chanol), Dinas Llundain;
- os yw'r cyfeiriad o fewn Ynysoedd Sili, Ynysoedd Sili.
Ar gyfer cyfeiriadau cartref yn yr Alban:
- yr ardal llywodraeth leol y mae'r cyfeiriad ynddi.
Ar gyfer cyfeiriadau cartref yng Ngogledd Iwerddon:
- y dosbarth llywodraeth leol y mae'r cyfeiriad ynddo.
- 1. Atodlen 1 Rheol 6 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 6(5) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheol 14(4A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Cydsyniad ymgeisydd i gael ei enwebu
Rhaid i ymgeiswyr gydsynio i'w henwebiad yn ffurfiol a chyflwyno eu cydsyniad erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. Nid yw'r ffurflen cydsynio ag enwebiad wedi'i rhagnodi, ond mae'r cynnwys gofynnol wedi'i nodi mewn cyfraith.1
Rhaid i'r ffurflen gynnwys:
- dyddiad geni'r ymgeisydd
- datganiad ei fod yn ymwybodol o ddarpariaethau Deddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975
- datganiad nad ydyw, hyd eithaf ei wybodaeth, wedi'i anghymhwyso rhag bod yn aelod o Dŷ'r Cyffredin
- datganiad nad yw'n ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer unrhyw etholaeth Senedd y DU arall ar yr un diwrnod pleidleisio
Mater i'r ymgeisydd yw sicrhau nad yw'n cael ei wahardd rhag sefyll. Ni allwch chi na'r Comisiwn gadarnhau a yw ymgeisydd wedi'i anghymhwyso ai peidio.
Ni chaiff ymgeiswyr lofnodi eu ffurflenni cydsynio yn gynharach nag un mis calendr cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno eu papurau enwebu.
Rhaid i rywun arall dystio'r cydsyniad, ond nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all dystio'r cydsyniad i'r enwebiad.
Mae eithriad i'r gofyniad bod yn rhaid i'r cydsyniad gael ei gyflwyno'n ysgrifenedig ac yn bersonol. Gallwch fod yn fodlon, am nad yw'r ymgeisydd yn y DU, nad yw'n rhesymol ymarferol iddo roi ei gydsyniad yn ysgrifenedig. O dan yr amgylchiadau hyn, gallwch drin cydsyniad ymgeisydd a roddir drwy e-bost neu ddogfen wedi'i sganio a anfonir yn electronig neu drwy ddull cyfathrebu tebyg arall, fel cydsyniad ysgrifenedig. Tybir bod y cydsyniad wedi'i roi ar y dyddiad y caiff ei anfon, ac nid oes angen i neb ei ardystio.2
- 1. Atodlen 1 Rheol 8 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 8(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Trosedd gwneud datganiad ffug ar bapur enwebu
Dylech atgoffa unrhyw unigolyn sy'n cyflwyno'r papurau enwebu hefyd fod gwneud datganiad ffug ar bapurau enwebu, a hynny'n fwriadol, yn drosedd. Os yw'r ffurflen enwebu yn cynnwys enw a ddefnyddir yn gyffredin, dylech gyfeirio at y ffaith bod y drosedd hefyd yn gymwys os yw ymgeisydd wedi rhoi enw a ddefnyddir yn gyffredin nad yw mewn gwirionedd yn ei ddefnyddio'n gyffredin. Cewch rybuddio ymgeiswyr mai'r gosb am ddatganiad ffug yw naill ai dirwy anghyfyngedig yng Nghymru a Lloegr, £10,000 yn yr Alban a/neu hyd at flwyddyn o garchar.1
Ni ddylech roi cyngor ar gwestiynau ynghylch cymhwysedd neu anghymhwysiad ymgeiswyr. Yn hytrach, dylech eu cyfeirio at ein canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ac is-etholiadau Senedd y DU yn y lle cyntaf. Dylech eu cynghori i geisio eu cyngor cyfreithiol eu hunain os bydd ganddynt unrhyw bryderon pellach.
- 1. Adran 65A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Defnyddio enwau pleidiau a disgrifiadau pleidiau
Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru hyd at 12 disgrifiadi
a chyfieithiadau Cymraeg y disgrifiadau hynny.
Rhaid i chi wirio bod enw'r blaid neu'r disgrifiad a roddir ar y ffurflen enwebu wedi'i gofrestru ar gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol (yn agor mewn ffenestr newydd) a'i fod yn cyfateb yn union iddo. Rhaid i'r blaid hefyd gael ei rhestru fel un sydd â'r hawl i gyflwyno ymgeiswyr yn y rhan honno o'r DU y mae'r ymgeisydd yn sefyll ynddi. Os nad ydyw, rhaid i chi wrthod yr enwebiad hwnnw.ii
Hyd yn oed os yw plaid gofrestredig yn hysbys iawn, mae'n hanfodol gwirio'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol am union fanylion y blaid fel y'i cofrestrwyd gyda'r Comisiwn.
Yng Nghymru, gall ymgeisydd ddefnyddio naill ai’r fersiwn Gymraeg, y fersiwn Saesneg, neu'r ddau fersiwn o naill ai enw neu ddisgrifiad y blaid, cyhyd â'i fod ar y gofrestr. Rhestrir cyfieithiadau o enwau pleidiau ar y wefan o dan ‘enw arall’ a rhestrir cyfieithiadau o ddisgrifiadau i'r dde o'r disgrifiad o dan gyfieithiad(au). Mewn etholiad Senedd y DU, os nad yw'r blaid wedi cofrestru cyfieithiad, ni ellir defnyddio cyfieithiad o unrhyw enw plaid neu ddisgrifiad.
Yn achos unrhyw heriau yn y dyfodol ac er mwyn cynnal trywydd archwilio clir, dylech argraffu copi o'r rhan berthnasol o'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol (yn agor mewn ffenestr newydd) yn dangos disgrifiadau ac enw'r blaid ar adeg eich penderfyniad.
Pa ddisgrifiadau y gellir eu defnyddio?
Dim ond un o'r disgrifiadau canlynol y gall ymgeisydd ei ddefnyddioiii
• y gair ‘Annibynnol’ neu ‘Independent’
• enw plaid gofrestredig plaid wleidyddol gofrestredig
• un o'r disgrifiadau y mae'r blaid wedi'u cofrestru gyda'r Comisiwn
Tystysgrif awdurdodi
Os yw ymgeisydd yn dymuno defnyddio enw plaid neu ddisgrifiad, rhaid i hyn gael ei awdurdodi gan Swyddog Enwebu’r blaid (neu berson sydd wedi’i awdurdodi i weithredu ar ei ran).iv
Rhaid i'r ymgeisydd gyflwyno tystysgrif awdurdodi, wedi'i llofnodi gan neu ar ran Swyddog Enwebu'r blaid, erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Gallwch wirio pwy yw'r Swyddog Enwebu ar gyfer plaid benodol drwy gyfeirio at ein cofrestr o bleidiau gwleidyddol (yn agor mewn ffenestr newydd). Fodd bynnag, cyn belled â bod y person sydd wedi llofnodi'r dystysgrif yn honni ei fod wedi'i awdurdodi i wneud hynny gan y Swyddog Enwebu cofrestredig, dylid cymryd y dystysgrif yn ôl ei golwg.
Mae rhai ymgeiswyr yn darparu dogfen yn dangos dirprwyo pwerau i awdurdodi defnyddio enw plaid neu ddisgrifiad i rywun arall (a elwir weithiau yn ‘dystysgrif Swyddog Enwebu Lleol’ neu ‘dystysgrif Dirprwy Swyddog Enwebu’).
Nid oes angen cyflwyno'r ddogfen hon gan nad yw'n rhan o'r papur enwebu, ac felly, nid oes ei hangen. Felly, os caiff ei chyflenwi, gall fod yn gopi.
Gall Swyddog Enwebu sefyll fel ymgeisydd. Os bydd hyn yn digwydd, gall yr ymgeisydd, fel Swyddog Enwebu, awdurdodi ei ddisgrifiad ei hun. Gall person sydd wedi'i awdurdodi gan y Swyddog Enwebu i lofnodi tystysgrif awdurdodi hefyd fod yn ymgeisydd a llofnodi tystysgrif ar gyfer ei enwebiad ei hun.
Disgrifiad ar gyfer Llefarydd Tŷ'r Cyffredin
Gall Llefarydd presennol Tŷ’r Cyffredin ddefnyddio’r disgrifiad ‘Y Llefarydd sy’n ceisio cael ei ailethol’ (neu ‘The Speaker seeking re-election’ yn Saesneg). Nid oes angen i'r defnydd o'r disgrifiad hwn o dan yr amgylchiadau hyn gael ei gefnogi gan dystysgrif awdurdodi nac unrhyw dystiolaeth ddogfennol. Ni all unrhyw ymgeisydd o'r fath ofyn am arwyddlun plaid, ac felly ni all unrhyw arwyddlun o unrhyw fath gael ei argraffu ar y papur pleidleisio wrth ymyl ei enw. Er y gall Llefarydd presennol Tŷ’r Cyffredin ddefnyddio’r disgrifiad ‘Y Llefarydd sy’n ceisio cael ei ailethol’, nid oes gofyniad iddo wneud hynny. Felly, byddai'r paragraffau blaenorol ar ddisgrifiad yr ymgeisydd a'r dystysgrif awdurdodi yn berthnasol iddo (yr un fath ag unrhyw ymgeisydd arall).
Defnyddio disgrifiadau ar y cyd
Gall ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran mwy nag un blaid wleidyddol ddefnyddio disgrifiad ar y cyd sydd wedi'i gofrestru gyda'r Comisiwn.v
Rhaid i ymgeiswyr o'r fath gyflwyno tystysgrif awdurdodi a roddwyd gan bob un o Swyddogion Enwebu'r pleidiau (neu bersonau a awdurdodwyd i weithredu ar eu rhan) erbyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.vi
Rhestrir disgrifiadau ar y cyd ar y gofrestr o bleidiau gwleidyddol (yn agor mewn ffenestr newydd). I'w gweld, ewch i'r dudalen gofrestru ar gyfer y pleidiau perthnasol ac o fewn yr adran disgrifiadau, bydd unrhyw ddisgrifiad ar y cyd yn cael ei ddilyn gan y geiriau (Disgrifiad ar y Cyd gyda'r blaid xx).
Er enghraifft, Yr Ymgeisydd Plaid Sgwâr a Chylch (Disgrifiad ar y Cyd â'r Blaid Cylch) yw sut y byddai'r disgrifiad ar y cyd yn cael ei restru ar dudalen y Blaid Sgwâr. Mae'r geiriau mewn cromfachau at ddibenion esboniadol yn unig ac nid ydynt yn rhan o'r disgrifiad, ac felly, ni ddylid eu cynnwys ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd na'r papurau pleidleisio.
- i. Adran 28A Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote i
- ii. Atodlen 1 Rheol 12(2)(a) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote ii
- iii. Atodlen 1 Rheol 6(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote iii
- iv. Atodlen 1 Rheol 6A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote iv
- v. Atodlen 1 Rheol 6A(1C) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote v
- vi. Atodlen 1 Rheol 6A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote vi
Cais am arwyddlun plaid
Gall pleidiau gwleidyddol gofrestru hyd at dri arwyddlun.1
Gall ymgeisydd plaid gofrestredig ddewis cael arwyddlun cofrestredig y blaid y mae'n ei chynrychioli ar y papur pleidleisio.
Mae'n rhaid i'r ymgeisydd, nid yr asiant etholiad na'r Swyddog Enwebu, wneud y cais yn ysgrifenedig erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno enwebiadau fan bellaf.2
Er mwyn gallu defnyddio arwyddlun, mae'n rhaid bod ymgeisydd wedi defnyddio enw plaid neu ddisgrifiad heblaw am Independent a/neu Annibynnol.3
Gall ymgeisydd hefyd ddewis defnyddio arwyddlun ei blaid heb ddewis defnyddio disgrifiad awdurdodedig. Byddai angen iddo ddarparu'r dystysgrif awdurdodi yn ogystal â'r ffurflen cais am arwyddlun ond gall ddewis peidio â chynnwys disgrifiad awdurdodedig ar y papur enwebu.
Os oes gan y blaid fwy nag un arwyddlun cofrestredig, dylai'r ymgeisydd nodi pa un y mae am ei ddefnyddio.4 Os nad yw'r ymgeisydd yn nodi arwyddlun, neu os bydd y blaid gofrestredig yn newid yr arwyddlun ar ôl i'r papurau enwebu gael eu cyflwyno ond cyn i'r enwebiadau gau, dylech geisio cysylltu â'r ymgeisydd a gofyn iddo ddewis arwyddlun. Dylech hefyd ddweud wrtho, os na fydd yn dewis arwyddlun penodol cyn i'r cyfnod enwebu ddod i ben, na fyddwch yn gallu argraffu arwyddlun wrth ymyl ei enw ar y papur pleidleisio.
Gall yr ymgeisydd ddarparu copi eglurder uchel o'r arwyddlun i'w ddefnyddio wrth argraffu papurau pleidleisio, neu gall ofyn i chi lawrlwytho'r arwyddlun o'n gwefan. Rhaid i chi sicrhau bod pa gopi bynnag a ddefnyddir yr un peth â'r arwyddlun cofrestredig.
Y cyfarwyddiadau ar gyfer argraffu sy'n pennu maint mwyaf arwyddlun ar y papur pleidleisio. Wrth ychwanegu arwyddlun plaid ar bapur pleidleisio, ni ddylid newid siâp yr arwyddlun. Er enghraifft, peidiwch ag ymestyn arwyddluniau yn siapiau sgwâr os nad ydynt wedi'u cofrestru fel delweddau sgwâr ar ein gwefan, oherwydd byddai hyn yn newid eu hymddangosiad.
Gall ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran mwy nag un blaid sy'n defnyddio disgrifiad ar y cyd ddewis defnyddio arwyddlun cofrestredig un o'r pleidiau sydd wedi awdurdodi'r defnydd o'r disgrifiad. Nid oes darpariaeth ar gyfer cofrestru arwyddluniau ar y cyd â'r Comisiwn..
Mae ffeil zip o ddelweddau arwyddluniau ar gael a gall eich cwmni argraffu ei defnyddio i baratoi papurau pleidleisio. Fodd bynnag, yr wybodaeth yn ein cofrestr o bleidiau gwleidyddol ddylai gael ei defnyddio i gadarnhau pa arwyddlun ddylai gael ei argraffu.
- 1. Adran 29 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 19(2A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Schedule 1 Rule 19 Representation of the People Act 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1 Rheol 19(2A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Newidiadau i'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol
Mae ein cofrestr o bleidiau yn cynnwys yr wybodaeth ddiweddaraf am bleidiau gwleidyddol, disgrifiadau ac arwyddluniau cofrestredig, ac mae'n dangos pa enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau sydd wedi'u cofrestru ar gyfer pob plaid ar hyn o bryd.
Newidiadau hyd at gyhoeddi'r hysbysiad o etholiad
Gall disgrifiadau unrhyw blaid gofrestredig ar gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol gael eu dileu neu eu newid hyd at ac yn cynnwys y diwrnod cyn y dyddiad gwirioneddol y caiff yr hysbysiad etholiad ei gyhoeddi.
Mae'n bwysig nodi nad dyma'r diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi’r hysbysiad etholiad ond y dyddiad y caiff yr hysbysiad ei gyhoeddi mewn gwirionedd.1
Unwaith y caiff yr hysbysiad etholiad ei gyhoeddi, ni fydd unrhyw newidiadau tebyg i unrhyw ddisgrifiadau pleidiau yn berthnasol ar gyfer yr etholiad hwnnw.2
Er enghraifft, os byddwch yn penderfynu cyhoeddi eich hysbysiad etholiad cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad yn ôl y gyfraith, mae'n bosibl y gellir cyflwyno enwebiad sy'n cynnwys disgrifiad plaid gofrestredig nad yw'n ymddangos mwyach ar y gofrestr o bleidiau.
Os cafodd y disgrifiad ei ddileu ar ôl i chi gyhoeddi eich hysbysiad etholiad ond cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi hysbysiad etholiad, nid yw'r broses o ddileu yn berthnasol i'ch etholiad ac mae'r ‘hen’ ddisgrifiad yn ddilys o hyd. O dan amgylchiadau o'r fath, gallwch holi tîm lleol y Comisiwn a yw'r disgrifiad a gyflwynwyd o'r blaid yn gymwys ar gyfer eich etholiad.3
Newidiadau hyd at ddeuddydd cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Dylech hefyd nodi y gall pleidiau newid enw ac arwyddluniau cofrestredig eu plaid, ac ychwanegu unrhyw ddisgrifiad newydd os oeddent wedi cofrestru llai na 12 yn flaenorol, unrhyw bryd tan ddeuddydd cyn y dwirnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu ar gyfer yr etholiad hwnnw.4
Mae'n rhaid i bleidiau newydd hefyd gael eu cofrestru ddeuddydd cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu ar gyfer yr etholiad hwnnw, er mwyn defnyddio enwau, disgrifiadau ac arwyddluniau yn yr etholiad hwnnw.
Mae'r tabl isod yn nodi'r terfynau amser ar gyfer gwneud newidiadau i'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol yn ystod y cyfnod cyn etholiad. Ar ôl hynny, nid yw unrhyw newidiadau i ddisgrifiadau pleidiau neu achosion o ddileu unrhyw ddisgrifiadau pleidiau yn berthnasol ar gyfer yr etholiad hwnnw.5
Beth mae'r blaid am ei wneud i'r gofrestr o bleidiau gwleidyddol? | Pryd y gellir gwneud hyn? |
---|---|
Cofrestru pleidiau newydd | Heb fod yn hwyrach na dau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn yr etholiad hwnnw |
Ychwanegu unrhyw ddisgrifiadau newydd lle cedwir llai na 12 | Heb fod yn hwyrach na dau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn yr etholiad hwnnw6 |
Addasu enwau a/neu arwyddluniau'r blaid | Heb fod yn hwyrach na dau ddiwrnod gwaith cyn y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn yr etholiad hwnnw7 |
Dileu neu newid unrhyw ddisgrifiad cofrestredig | Hyd at ac yn cynnwys y diwrnod cyn y dyddiad gwirioneddol ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad etholiad8 |
Disgrifiad plaid – nad yw wedi'i gofrestru eto
Pan fydd ymgeisydd yn ceisio cyflwyno papur enwebu sy'n cynnwys disgrifiad nad yw wedi'i gofrestru eto, dylech hysbysu'r ymgeisydd i beidio â chyflwyno'r papur yn ffurfiol, ond i'w dynnu'n ôl a'i gyflwyno unwaith y bydd y disgrifiad wedi'i gofrestru'n llwyddiannus.
Os bydd ymgeisydd yn cyflwyno ei ffurflen enwebu yn ffurfiol gyda disgrifiad nad yw wedi'i gofrestru eto, rhaid i chi nodi bod yr enwebiad yn annilys ar y sail nad oedd y disgrifiad a roddwyd, pan wnaed y penderfyniad, yn cyfateb i unrhyw ddisgrifiad a oedd wedi'i gofrestru â'r Comisiwn.9
Efallai y byddwch am gysylltu â thîm lleol y Comisiwn i gael cadarnhad nad yw disgrifiad wedi'i gofrestru eto cyn gwneud eich penderfyniad.
- 1. Adran 30(6A), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 30 (6A), Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 30 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 30 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 30 (6A) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 30 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 30 Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 30(6A) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 1 Rheol 6A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 9
Ernes i sefyll etholiad
Er mwyn cael ei enwebu'n ddilys, rhaid i ymgeisydd neu rywun sy'n gweithredu ar ran yr ymgeisydd hefyd roi ernes o £500 i chi erbyn diwedd y cyfnod enwebu.1
Mae'n rhaid i chi dderbyn ernesau a wneir gan ddefnyddio:
- arian cyfreithlon (arian parod mewn punnoedd Sterling yn unig)
- drafft banc yn y DU
Gallwch wrthod derbyn drafft banc os nad ydych yn gwybod a yw'r tynnwr yn cynnal busnes fel bancwr yn y Deyrnas Unedig.
Gallwch hefyd ddewis derbyn cyllid ar ffurf:
- siec cymdeithas adeiladu
- cerdyn debyd neu gredyd
- trosglwyddiad electronig
Dylech dderbyn sieciau cymdeithas adeiladu os yw'n cynnal busnes yn y Deyrnas Unedig. Dylech hefyd dderbyn taliadau banc, sef gorchmynion a gyhoeddir gan fanc, sy'n gwarantu taliad i'r derbynnydd. Os byddwch yn penderfynu derbyn unrhyw rai o'r dulliau hyn dylech eu rhestru ar yr hysbysiad etholiad ac egluro unrhyw ofynion sydd gennych yn y pecyn enwebu.
Os caiff yr ernes ei rhoi i chi gan rywun sy'n gweithredu ar ran yr ymgeisydd, rhaid i'r unigolyn sy'n cyflwyno'r ernes roi ei enw a'i gyfeiriad i chi, oni fydd wedi darparu'r wybodaeth hon eisoes fel rhan o'i hysbysiad o benodiad fel asiant etholiad.
Rhaid i chi ddychwelyd yr ernes at yr unigolyn a'i gwnaeth neu, os yw wedi marw, ei gynrychiolydd personol, o dan yr amgylchiadau canlynol:
- mae'r ymgeisydd yn tynnu ei enw yn ôl cyn y terfyn amser ar gyfer gwneud hynny
- rydych yn gwrthod enwebiad ymgeisydd ac ni nodir ei fod wedi'i enwebu'n ddilys ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd
- mae'r ymgeisydd yn marw a rhoddwyd prawf o hynny i chi cyn i chi orffen y broses gyfrif gyntaf2
Os oes ffi ynghlwm wrth ddull o dalu, gallwch ei throsglwyddo i'r ymgeisydd. Os felly, dylech nodi hyn yn glir ar yr hysbysiad etholiad a'r pecyn enwebu.
- 1. Atodlen 1 Rheol 9 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 53 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Cyflwyno papurau enwebu
Mae'r canllawiau hyn yn esbonio'r gofynion ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. Maent yn nodi yr hyn y dylech ei wneud i baratoi ar gyfer gwirio papurau enwebu yn anffurfiol, ac ymgymryd â hyn, cyn iddynt gael eu cyflwyno'n ffurfiol, a phwy all gyflwyno papurau enwebu i chi.
Maent hefyd yn esbonio pa bapurau y mae'n rhaid eu cyflwyno a sut y dylid eu cwblhau er mwyn i chi allu penderfynu arnynt, ynghyd â'r dull cyflwyno a phwy sydd â hawl i gyflwyno papurau enwebu a bod yn bresennol pan fydd hyn yn digwydd.
Cynnal gwiriadau anffurfiol
Diben gwiriad anffurfiol yw cadarnhau bod papur enwebu yn ymddangos yn gyflawn mewn perthynas â'r holl ofynion cyfreithiol.
Wrth gynnal gwiriad anffurfiol dylech nodi'n glir mai dim ond yn anffurfiol y mae'r papurau enwebu yn cael eu hystyried.
Mae'r broses hon yn eich galluogi i dynnu sylw at unrhyw wallau a fyddai'n annilysu'r papur neu a all roi rheswm dros herio yn dilyn yr etholiad, gan roi cyfle i'r rhain gael eu cywiro cyn i'r papurau gael eu cyflwyno'n ffurfiol.
Fel rhan o'ch gwiriadau anffurfiol, efallai y byddwch am dynnu sylw'r ymgeiswyr at y rheolau diweddaraf i ynghylch enwau a ddefnyddir yn gyffredin a chyfeiriadau cartref.
Ar ôl i wiriadau anffurfiol gael eu cwblhau, caiff y papurau eu rhoi yn ôl i'r unigolyn neu, os nad oes angen eu diwygio, gellir eu cyflwyno'n ffurfiol.
Efallai y bydd y sawl sy'n cyflwyno'r papur enwebu yn dewis peidio ag aros am wiriad anffurfiol neu efallai y bydd yn dewis peidio â gwneud unrhyw newidiadau yn dilyn cyngor ar y cam gwirio anffurfiol. Os felly, dylid ystyried bod y papur wedi cael ei gyflwyno'n ffurfiol a dylech ei dderbyn ar ei olwg.
Dylid rhoi cyfle cyfartal i bob ymgeisydd ac asiant allu cael gwiriad anffurfiol.
Dylech ystyried sut rydych yn mynd i reoli'r broses hon, er enghraifft drwy roi system apwyntiadau ar waith.
Amser cyflwyno papurau enwebu
Y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU yw 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais.
Ni ellir symud nac ymestyn y terfyn amser hwn am unrhyw reswm.
Gellir cyflwyno papurau enwebu i chi rhwng 10am a 4pm o'r diwrnod ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad.1
Is-etholiadau Senedd y DU
Yn achos is-etholiad Senedd y DU, chi sy'n pennu'r terfyn amser ar gyfer cyflwyno enwebiadau, o fewn cyfyngiadau'r amserlen statudol. Ni ddylai'r dyddiad a bennir fod yn gynt na thri diwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad ac mae'n rhaid iddo fod o fewn saith diwrnod gwaith i dderbyn y gwrit.
Dylai'r dyddiad a ddewisir gennych roi cymaint o amser â phosibl i ymgeiswyr gyflwyno eu papurau enwebu.
Unwaith y bydd wedi'i bennu, ni ellir symud nac ymestyn y terfyn amser hwn am unrhyw reswm.
Amser cyflwyno papurau enwebu
Ystyrir bod papur enwebu wedi'i gyflwyno pan gaiff ei gyflwyno yn bersonol yn y lle a nodir yn yr hysbysiad etholiad.
I ymgeiswyr plaid sy'n dymuno defnyddio disgrifiad a/neu arwyddlun, rhaid i chi hefyd gael tystysgrif awdurdodi a ffurflen gwneud cais am arwyddlun, fel y bo'n gymwys, yn ystod yr amser a bennir ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Nid oes angen gwneud apwyntiad i gyflwyno papurau enwebu, ond gallech gynnig ac annog apwyntiadau fel ffordd o reoli'r nifer bosibl o enwebiadau a ddaw i law yn ystod y cyfnod byr iawn ar gyfer enwebiadau Senedd y DU.
Yr ymgeisydd sy'n gyfrifol am sicrhau bod ei bapurau enwebu'n cael eu cyflwyno yn y ffordd gywir ac ar amser. Os na chyflwynwyd set gyflawn o bapurau enwebu a'r ernes erbyn yr amser hwnnw, ystyrir nad yw'r enwebiad wedi ei wneud sy'n golygu na allwch ddyfarnu bod yr enwebiad yn ddilys nac yn annilys.
- 1. Atodlen 1 Rheol 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Man cyflwyno papurau enwebu
Rhaid i bapurau enwebu gael eu cyflwyno i leoliad penodol o'ch dewis yn swyddfeydd y cyngor perthnasol.
Rhaid i chi gynnwys y lleoliad ar yr hysbysiad etholiad.
Yng Nghymru a Lloegr, rhaid i'r lleoliad a ddewiswch fod:1
- yn yr etholaeth, neu
- yn yr ardal gofrestru sy'n cynnwys yr etholaeth, neu
- yn achos etholaeth sir – mewn dosbarth neu sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n cyd-ffinio â'r etholaeth neu'r ardal gofrestru
Diffinnir yr ardal gofrestru fel ardal dwy etholaeth neu fwy sydd â'r un swyddog cofrestru.
Yn yr Alban, rhaid i'r lleoliad fod:3
- yn yr etholaeth, neu
- yn yr ardal llywodraeth leol (neu, os oes mwy nag un, unrhyw un o'r ardaloedd llywodraeth leol) lle lleolir yr etholaeth, neu
- mewn unrhyw ardal llywodraeth leol sy'n cyd-ffinio â'r ardal llywodraeth leol (neu ardaloedd llywodraeth leol) lle lleolir yr etholaeth
Dylai'r lleoliad a gaiff ei gynnwys ar yr hysbysiad etholiad ar gyfer cyflwyno papurau enwebu fod yn fanwl gywir, a dylai gynnwys unrhyw enw neu rif ystafell. Mae hyn yn sicrhau na fydd unrhyw amheuaeth ynghylch ble y dylid cyflwyno papur enwebu.
Dylech wneud y canlynol:
- sicrhau mai dim ond i chi neu eich staff y caiff papurau enwebu eu cyflwyno yn y lleoliad a nodwyd
- sicrhau bod y lleoliad wedi'i arwyddo'n glir o fynedfa'r adeilad
- sicrhau bod y llwybr yn gwbl hygyrch neu ddarparu opsiwn amgen sydd wedi'i arwyddo'n briodol
- rhoi manylion i staff awdurdod lleol eraill, megis staff derbynfa, am beth i'w wneud os bydd rhywun yn ceisio rhoi papur enwebu iddynt, gan nodi'n glir:
- na ddylent ddelio â phapurau enwebu
- na ddylent gynnig eu cyflwyno
- y dylent, yn hytrach, gyfeirio'r sawl sy'n cyflwyno'r ffurflenni atoch chi
Rhaid i chi neu ddirprwy penodedig fod yn bresennol drwy gydol y cyfnod ar gyfer enwebiadau er mwyn delio ag enwebiadau.4
- 1. Schedule 1 Rule 10 Representation of the People Act 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 3. Atodlen 1 Rheol 10 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1 Rheol 10 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ac Adran 28 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Pwy all gyflwyno papurau enwebu?
Dim ond y bobl ganlynol a gaiff gyflwyno'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref i chi:1
- yr ymgeisydd
- y cynigydd neu'r eilydd fel y mae'n ymddangos ar y ffurflen enwebu
- asiant etholiad yr ymgeisydd, ar yr amod eich bod wedi derbyn hysbysiad o'i benodiad
Gellir cyflwyno'r hysbysiad o benodiad yr asiant etholiad ar yr un pryd â'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref.
Nid oes unrhyw ddarpariaeth i is-asiantiaid a benodwyd yn etholaethau sirol allu cyflwyno ffurflen enwebu a ffurflen cyfeiriad cartref.
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy a all gyflwyno'r ffurflen cydsynio ag enwebiad, y dystysgrif awdurdodi a'r ffurflenni gwneud cais am arwyddlun.
- 1. Atodlen 1 Rheol 6 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Presenoldeb wrth gyflwyno papurau enwebu
Dim ond rhai pobl a gaiff fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu ac archwilio a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref. Cewch ragor o wybodaeth am ymdrin â gwrthwynebiadau yn ein canllawiau: Gwrthwynebu enwebiadau.
Ar ôl i ymgeisydd gyflwyno ei bapurau enwebu a'i ernes a bod ganddo enwebiad dilys, bydd hawl ganddo fod yn bresennol pan gaiff papurau enwebu ymgeiswyr eraill eu cyflwyno a gwrthwynebu. Yn ogystal â'r ymgeisydd, bydd yr unigolion canlynol hefyd yn gallu bod yn bresennol a gwrthwynebu:1
- ei asiant etholiad
- ei gynigydd neu eilydd, fel y'i nodir ar y ffurflen enwebu
Os mai'r asiant etholiad yw'r ymgeisydd ei hun, gall benodi rhywun arall i fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu a gwrthwynebu. Os bydd ymgeisydd wedi cyflwyno mwy nag un ffurflen enwebu, dim ond y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a ddewiswyd ganddo a gaiff fod yn bresennol. Os na ddewiswyd un, y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a gyflwynwyd gyntaf a gaiff wneud hynny.
Caiff cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac un unigolyn arall a ddewisir gan ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu, ond ni chânt archwilio na gwrthwynebu papurau enwebu.
Dylech egluro i unigolion sy'n archwilio ffurflen cyfeiriad cartref sy'n gofyn am i gyfeiriad cartref yr ymgeisydd beidio â chael ei gyhoeddi, mai dim ond yr unigolyn sy'n archwilio a ddylai ddefnyddio'r ffurflen i wneud y canlynol:
- gwrthwynebu'r enwebiad
- cyflwyno deiseb etholiadol
- gwneud cwyn i'r heddlu bod unigolyn wedi gwneud datganiad ffug
Dylech nodi'n glir i'r unigolyn sy'n archwilio y gall unrhyw ddefnydd arall o'r wybodaeth ar y ffurflen dorri deddfwriaeth diogelu data ac felly y gallai rhywun sy'n defnyddio'r wybodaeth at unrhyw ddiben arall gael ei erlyn.
Dylech storio'r papurau enwebu yn ddiogel a gadael i'r unigolion y rhoddwyd caniatâd iddynt archwilio'r ffurflenni enwebu a chyfeiriad cartref wneud hynny hyd at y terfyn amser ar gyfer gwrthwynebu'r papurau enwebu.2
Pan fydd y terfyn amser ar gyfer gwrthwynebu wedi mynd heibio, dylech storio'r papurau enwebu'n ddiogel am flwyddyn ar ôl yr etholiad oherwydd y terfyn amser ar gyfer erlyn yn achos deiseb etholiadol. Mae'n rhaid dinistrio’r ffurflen cyfeiriad cartref ar ôl 21 diwrnod.3
- 1. Atodlen 1 Rheol 11 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 11 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheol 53A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Sut mae'n rhaid cyflwyno papurau enwebu
Rhaid cyflwyno fersiwn wreiddiol pob dogfen a gwblhawyd.1
Rhaid i'r ffurflen enwebu, y ffurflen cyfeiriad cartref a'r ffurflen cydsynio ag enwebiad gael eu cyflwyno yn bersonol.2
Yr unig eithriad yw pan fo ymgeisydd dramor ac yn yr achos hwnnw, caiff anfon ei gydsyniad ag enwebiad drwy gyfrwng electronig.3
Gellir cyflwyno'r dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun yn bersonol neu drwy'r post, ond ni ellir eu ffacsio, e-bostio na defnyddio unrhyw gyfrwng electronig arall. Mae hyn am nad yw dogfen a gaiff ei hargraffu yn ddogfen wreiddiol – copi fyddai'r ddogfen hon.
Er mwyn i ddogfen fod yn dystysgrif (fel sy'n ofynnol ar gyfer Tystysgrif Awdurdodi), rhaid cael dull dilysu. Yn y rhan fwyaf o achosion, bydd y dilysiad ar ffurf llofnod er mwyn ardystio bod y ffeithiau a nodwyd yn wir. Gellid defnyddio sêl hefyd.
Pa ddull dilysu bynnag a ddefnyddir, rhaid mai'r ddogfen wreiddiol yw'r un a gyflwynir. Nid yw copi o ddogfen yn dderbyniol.
- 1. Atodlen 1 Rheol 6 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheolau 6 ac 8 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheolau 6 ac 8 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Papurau enwebu a geir drwy'r post
Mewn etholiad Senedd y DU, deddfwriaeth sy’n rhagnodi pwy sy’n gallu cyflwyno enwebiadau, felly ni ellir cyflwyno ffurflenni enwebu, ffurflenni cyfeiriad cartref na ffurflenni cydsynio ag enwebiad drwy'r post.
Dim ond y dystysgrif awdurdodi a'r ffurflen gwneud cais am arwyddlun all gael eu derbyn drwy'r post.
Dylai unrhyw dystysgrifau awdurdodi a ffurflenni gwneud cais am arwyddlun a geir drwy'r post gael eu storio'n ddiogel nes y bydd eu hangen a'u coladu â'r papurau enwebu cyfatebol a gyflwynir yn bersonol fel y bo'n briodol.
Dylai fod proses ar waith gennych i fonitro post sy'n cyrraedd er mwyn sicrhau nad yw'n cynnwys papurau enwebu y mae'n rhaid eu cyflwyno yn bersonol.
Os byddwch yn cael papur enwebu, ffurflen cyfeiriad cartref neu ffurflen cydsynio ag enwebiad drwy'r post, dylech geisio cysylltu â'r ymgeisydd ac esbonio:
- na ellir derbyn ei ffurflenni enwebu, cyfeiriad cartref na chydsynio ag enwebiad drwy'r post
- bod yn rhaid iddo ef/iddi hi (neu rywun ar ei ran/rhan) gyflwyno'r rhain â llaw yn unol â'r rheolau
- mai ei gyfrifoldeb ef/hi yw sicrhau bod hyn yn cael ei wneud erbyn y terfyn amser
- nad oes angen paratoi papurau enwebu newydd na chael llofnodwyr newydd
Dylech gadw unrhyw bapurau enwebu a gewch drwy'r post fel y gellir eu casglu ac yna eu cyflwyno i chi yn bersonol. Ni chaniateir i chi na'ch staff gyflwyno'r ffurflenni i'r ymgeisydd.
Ystyrir nad yw'r ymgeisydd wedi'i enwebu:
- os byddwch yn cael ffurflen enwebu, ffurflen cyfeiriad cartref neu ffurflen cydsynio ag enwebiad drwy'r post1
- os nad ydych wedi cael yr holl ffurflenni enwebu gofynnol erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Ni allwch bennu ffurflenni nad ydynt wedi cael eu cyflwyno na gwneud unrhyw benderfyniad o ran a yw'r papurau hyn yn ddilys.2
- 1. Atodlen 1 Rheolau 6 ac 8 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheolau 6 ac 8 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Cyflwyno sawl ffurflen enwebu
Nid oes unrhyw derfyn ar nifer y ffurflenni enwebu y gellir eu cyflwyno ar gyfer yr un ymgeisydd.
Os caiff ymgeisydd ei enwebu'n ddilys gan fwy nag un ffurflen:
- dylai'r ymgeisydd ddewis un o'r ffurflenni enwebu dilys – a gaiff ei hadnabod fel y ffurflen enwebu 'ddethol'
- dylai manylion ar y ffurflen enwebu ddethol hon gael eu hychwanegu at y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio
Os na fydd yr ymgeisydd yn dewis ffurflen, rhaid i chi ddewis pa un o'r ffurflenni a gaiff ei defnyddio.1
Caiff ymgeisydd wneud cais i fanylion ei gynigwyr, eilyddion a llofnodwyr eraill ar gyfer hyd at ddwy ffurflen enwebu ddilys arall gael eu hychwanegu at y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd.
Fel y cyfryw, dylai'r datganiad gynnwys lle ar gyfer ychwanegu hyd at 30 o lofnodwyr lle gofynnir am hynny.
Os cyflwynir mwy nag un ffurflen enwebu a bod un o'r papurau enwebu'n annilys:
- caiff y ffurflen annilys ei heithrio o'r rhai a all gael eu dewis gan yr ymgeisydd neu gennych chi fel y ffurflen ddethol
- cyhyd â bod o leiaf un ffurflen enwebu yn ddilys, gellir enwebu'r ymgeisydd yn ddilys
Bydd llofnodion gan lofnodwyr ar unrhyw ffurflen enwebu a gyflwynir yn cyfrif tuag at yr uchafswm a all lofnodi.2 Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ofynion llofnodwyr.
- 1. Atodlen 1 Rheol 14 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 7 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Cyflwyno'n ffurfiol
Bydd enwebiad wedi'i gyflwyno'n ffurfiol ar y pwynt:
- pan gaiff papur ei adael gyda chi ac ni chafodd y cynnig am wiriad anffurfiol ei dderbyn
- pan fydd y gwiriad anffurfiol wedi'i gynnal, bod unrhyw faterion wedi'u datrys a bod y sawl sy'n cyflwyno'r papur enwebu wedi nodi ei fod yn fodlon ei fod yn barod i gael ei bennu
Dylid cynnig gwiriad anffurfiol i bob ymgeisydd. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar gynnal gwiriadau anffurfiol.
Pan fydd ffurflen enwebu wedi'i chyflwyno'n ffurfiol, ni ellir gwneud unrhyw newidiadau iddi (yn dibynnu ar eich pŵer i gywiro mân wallau). Cewch ragor o wybodaeth am eich pŵer i gywiro mân wallau yn yr adran Camgymeriadau ar bapurau enwebu.
Dylech arnodi pob ffurflen â'r dyddiad a'r amser cyflwyno ffurfiol, fel bod gennych gofnod o bryd y cyflwynwyd pob papur yn ffurfiol.
Os bydd ymgeisydd yn penderfynu'n ddiweddarach ei fod am wneud newid i'w bapur enwebu ar ôl iddo gael ei gyflwyno'n ffurfiol, er enghraifft i'r disgrifiad, gellir ond gwneud hyn drwy:
- dynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl
- cyflwyno papurau enwebu newydd o fewn yr amserlen statudol
Yn yr un modd, nid oes unrhyw ddarpariaeth sy'n caniatáu i lofnodwr dynnu ei lofnod yn ôl o bapur enwebu unwaith y bydd wedi'i gyflwyno.
Prosesu enwebiadau
Penderfynu ynghylch ffurflenni enwebu a ffurflenni cyfeiriad cartref ar ôl eu cyflwyno'n ffurfiol
Tybir bod ymgeisydd sy'n cyflwyno papurau enwebu sydd wedi'u cwblhau erbyn y terfyn amser gofynnol wedi'i enwebu oni bai:
- eich bod yn penderfynu bod y ffurflen enwebu yn annilys
- bod yr ymgeisydd yn marw neu'n tynnu'n ôl cyn y terfyn amser1
Rhaid i chi bennu dilysrwydd ffurflen enwebu a ffurflen cyfeiriad cartref cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael eu cyflwyno'n ffurfiol. Mae hyn yn galluogi ymgeiswyr, y pennwyd bod eu henwebiadau'n annilys, i gyflwyno papurau newydd cyn i'r enwebiadau gau.
Am ragor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar Benderfynu bod enwebiad yn annilys.
Rydym hefyd wedi llunio rhestr wirio i'ch helpu i brosesu ffurflenni enwebu.
Derbyn enwebiadau ar eu golwg
Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:
- ymgymryd ag unrhyw ymchwiliad neu waith ymchwil i unrhyw ymgeisydd. Nid yw eich dyletswydd yn mynd y tu hwnt i weld bod ffurflen enwebu yn gywir ar ei golwg3
Ni ddylech wneud y canlynol:
- ymchwilio i p'un a yw enw a roddwyd ar ffurflen enwebu yn ddilys
Dylech wneud y canlynol
- diystyru unrhyw wybodaeth bersonol a all fod gennych eisoes am yr ymgeisydd
- penderfynu ar enwebiadau ar sail y ffurflen ei hun
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 12 ↩ Back to content at footnote 1
- 3. Greenway Stanley v Paterson [1977] 2 All ER 663; R v An Election Court ex parte Sheppard [1975] 1 WLR 1319 ↩ Back to content at footnote 3
Penderfynu bod enwebiad yn annilys
Seiliau dros benderfynu bod ffurflen enwebu yn annilys
Yn ôl y gyfraith, yr unig sail sydd gennych dros benderfynu bod ffurflen enwebu yn annilys yw:1
- nad yw manylion yr ymgeisydd neu'r rhai sy'n llofnodi'r ffurflen enwebu yn cyfateb i'r hyn sy'n ofynnol yn ôl y gyfraith
- na lofnodwyd y ffurflen fel y bo'n ofynnol
- bod y person yn cael ei anghymhwyso o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 ar y sail ei fod wedi'i garcharu ac yn bwrw dedfryd o flwyddyn neu fwy
- bod y person yn destun gorchymyn anghymhwyso o dan adran 30 o Ddeddf Etholiadau 2022
Manylion yr ymgeisydd
Mae manylion yr ymgeisydd yn cynnwys y disgrifiad a roddwyd ar y papur enwebu, felly, rhaid pennu bod yr enwebiad yn annilys:
- os nad yw'r blaid yn ymddangos ar gofrestr y Comisiwn o bleidiau gwleidyddol yn blaid sy'n ymladd etholiadau yn eich rhan chi o'r wlad
- os nad yw enw'r blaid na'r disgrifiad a ddefnyddir ar y ffurflen enwebu yn cyfateb yn union i'r enw neu'r disgrifiad sydd wedi'i gofrestru â'r Comisiwn
- os nad yw'r defnydd o enw'r blaid na'r disgrifiad wedi cael ei awdurdodi gan dystysgrif awdurdodi a lofnodwyd gan neu ar ran Swyddog Enwebu'r blaid
- mae'r dystysgrif awdurdodi yn awdurdodi enw neu ddisgrifiad penodol yn glir ac nid yw hyn yn cyd-fynd ag enw/disgrifiad y blaid ar y ffurflen enwebu2
Mae cyfraith achosion sy'n darparu y dylid ystyried bod ymgeiswyr sy'n rhoi disgrifiadau sy'n anweddus, yn hiliol neu sy'n ysgogi trosedd, wedi cyflwyno manylion “nad ydynt yn unol â'r gyfraith”. Y rheswm dros hyn yw eu bod yn mynd yn groes i'r gyfraith a/neu y byddant yn anochel yn cynnwys y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu mewn achos o dorri'r gyfraithT.
Os nad yw'r ffurflen enwebu yn cydymffurfio â'r rheolau ar gyfer disgrifiadau, rhaid i chi wneud penderfyniad i'r perwyl hwn cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r ffurflen enwebu gael ei chyflwyno a, sut bynnag, heb fod yn hwyrach na 24 awr ar ôl y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.3
Rydym wedi llunio rhestr wirio enwebiadau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu sy'n nodi'r hyn y bydd angen i chi ei ystyried a phethau penodol i gadw llygad amdanynt pan fyddwch yn penderfynu ar enwebiad.
Llofnodwyr
Mae ein hadran 'Ffurflen enwebu - gofynion llofnodwyr' yn cynnwys gwybodaeth fanwl am lofnodwyr.
Os na chaiff ffurflen enwebu ei llofnodi yn ôl y gofyn, rhaid ei phennu'n annilys.
Methiant i roi ernes
Os na fyddwch wedi cael yr ernes o £5,000 sy'n ofynnol erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, ni fydd yr ymgeisydd wedi'i enwebu'n ddilys. Yna ni fydd angen gwneud penderfyniad ffurfiol, ac ni ddylai ei enw ymddangos ar y datganiad ynghylch yr unigolion a enwebwyd.4
Dychwelyd ernes am nad yw'r enwebiad yn ddilys
Rhaid i chi ddychwelyd ernes unrhyw ymgeisydd y mae ei enwebiad wedi cael ei wrthod. Rhaid i'r ernes gael ei dychwelyd at y person a'i cyflwynodd a chyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd gael ei gyhoeddi.5 I gael rhagor o wybodaeth am ddychwelyd ernesau i ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys ar ôl etholiad, gweler Gweithgarwch ar ôl yr etholiad.
Seiliau dros benderfynu bod ffurflen cyfeiriad cartref yn annilys
Rhaid i chi benderfynu nad yw'r ffurflen cyfeiriad cartref yn cydymffurfio â'r gofynion cyfreithiol:6
- os nad yw'n nodi enw llawn yr ymgeisydd
- os nad yw'n nodi cyfeiriad cartref yr ymgeisydd yn llawn
Enwebiadau ffug
Efallai y bydd sefyllfa'n codi pan fydd enwebiad ymgeisydd yn amlwg yn ffug – er enghraifft, os bydd ymgeisydd wedi rhoi enw neu gyfeiriad sy'n amlwg yn ffug fel ‘Mickey Mouse, Disneyland’. Mewn achos o'r fath, rhaid pennu bod y papur enwebu yn annilys ar y sail nad yw manylion yr ymgeisydd wedi'u nodi yn unol â'r gyfraith.7
Wrth ystyried yr enw, dylid ystyried yn bennaf a yw'r “enw” a roddwyd ar y ffurflen enwebu yn ymddangos yn “amlwg yn ffug” ar wyneb y papur.
Os nad yw'r “enw” yn ymddangos yn ddilys a'i fod yn ymddangos fel datganiad neu slogan, er enghraifft, cewch ystyried ei fod yn “amlwg yn ffug”.
Byddai unrhyw gasgliad yn cael ei ategu o ystyried y cyd-destun ehangach. Er enghraifft, a yw'n ymddangos mai slogan gwleidyddol yw'r enw mewn ymateb i ddigwyddiadau gwleidyddol cyfoes, yn hytrach nag enw rhywun go iawn?
O dan yr amgylchiadau hynny, byddai llys yn debygol o ddod i'r casgliad bod enwau o'r fath yn “amlwg yn ffug” ac y dylai'r ffurflen enwebu gael ei gwrthod.
- 1. Schedule 1 rule 12(2) Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Schedule 1 rule 12(2) RPA1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Schedule 1 rule 12(3A) RPA1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Schedule 1 rule 12(1) RPA1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Schedule 1 rule 53(3) RPA1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Schedule 1 rule 12(1) RPA1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Sanders v Chichester (1995) 139 SJLB 15 ↩ Back to content at footnote 7
Ar ôl penderfynu'n ffurfiol ar bapur enwebu
Unwaith y byddwch wedi penderfynu bod enwebiad yn ddilys, ni ellir ei herio yn ystod yr etholiad, er y gellir ei herio ar ôl yr etholiad ar ffurf deiseb etholiadol1
.
Os byddwch wedi gwneud penderfyniad ffurfiol ond yna, o ganlyniad i wrthwynebiad, yn penderfynu wedyn y dylai'r ffurflen enwebu fod wedi'i phennu'n annilys mewn gwirionedd, cewch wneud penderfyniad pellach i'r perwyl hwn.
Os byddwch yn penderfynu bod enwebiad yn annilys, rhaid i chi wneud y canlynol:
- datgan hyn ar y ffurflen enwebu
- ysgrifennu'r rhesymau dros wrthod ar y ffurflen
- llofnodi'r ffurflen
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 12 (5) a (6) ↩ Back to content at footnote 1
Ymgeisydd yn tynnu'n ôl cyn y terfyn amser
Gall ymgeisydd a enwebwyd dynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl os bydd yn gwneud hynny cyn y terfyn amser. Nid yw hysbysiad tynnu enw'n ôl wedi'i ragnodi mewn deddfwriaeth ond rydym yn darparu templed o hysbysiad tynnu enw'n ôl i ymgeiswyr ei ddefnyddio.
Rhaid i hysbysiad tynnu enw'n ôl1
:
- gael ei lofnodi gan yr ymgeisydd
- cael ei ardystio gan un tyst
- cael ei gyflwyno'n bersonol i'r man cyflwyno papurau enwebu
- cael ei gyflwyno erbyn 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all gyflwyno hysbysiad tynnu enw yn ôl.
Os nad yw'r ymgeisydd yn y DU, bydd hysbysiad o dynnu enw'n ôl mewn grym os bydd2 :
- wedi'i lofnodi gan y cynigydd
- yn cael ei gyflwyno ar y cyd â datganiad ysgrifenedig yn nodi bod yr ymgeisydd dramor (sydd hefyd wedi'i lofnodi gan y cynigydd)
- yn cael ei gyflwyno i chi erbyn 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais
Os enwebwyd yr ymgeisydd gan fwy nag un ffurflen enwebu, rhaid i bob cynigydd lofnodi'r hysbysiad a'r datganiad3 .
Os bydd unrhyw gynigydd y tu allan i'r DU, nid oes angen iddo lofnodi'r hysbysiad, ond rhaid i'r hysbysiad, yn ôl y gyfraith, gynnwys datganiad ei fod hefyd y tu allan i'r DU4 .
Dychwelyd ernes o ganlyniad i dynnu enw'n ôl
Rhaid i chi ddychwelyd ernes unrhyw ymgeisydd sydd wedi tynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl. Rhaid i'r ernes gael ei dychwelyd at y person a'i cyflwynodd a chyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd gael ei gyhoeddi.5 I gael canllawiau ar ddychwelyd ernesau i ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys ar ôl etholiad, gweler ein hadran ar Weithgarwch ar ôl yr etholiad.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 Rheol 13 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 Rheol 13 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen Rheol 13(2) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 Rheol 13 (2)(b) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 53(3) ↩ Back to content at footnote 5
Camgymeriadau ar bapurau enwebu
Yn dibynnu ar eich pŵer i gywiro mân wallau, ni ellir gwneud unrhyw newidiadau i bapur enwebu unwaith y bydd wedi cael ei gyflwyno'n ffurfiol.
Cywiro mân wallau
Mae'r wybodaeth yn yr adran hon yn esbonio sut i ymdrin â mân wallau a rhaid i chi gadw hyn mewn cof.1
Yn ôl y gyfraith, cewch gywiro mân wallau a wneir ar ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref unrhyw bryd cyn i chi gyhoeddi'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd.2
Dylech geisio cysylltu â'r ymgeisydd neu'r asiant cyn diwygio unrhyw fân wallau.
Mae'r tabl isod yn nodi rhai o'r mân wallau y gellir eu cywiro a chanllawiau ynghylch arfer eich pŵer i gywiro mân wallau. Dylech gysylltu â ni am gyngor wrth ystyried cywiro mân wallau.
Math o wall |
Canllawiau |
---|---|
Gwallau mewn rhifau etholwyr | Pan fydd rhif etholwr wedi'i nodi'n anghywir, gallwch ei ddiwygio os ydych yn fodlon bod gwall wedi'i wneud. Fodd bynnag, pan fydd y rhif etholwr wedi'i hepgor yn llwyr, nid yw hyn yn cyfrif fel gwall, a dylid pennu bod y ffurflen enwebu yn annilys ar y sail nad yw'r rhif wedi'i ddarparu.3 . |
Gwallau sillafu amlwg ym manylion yr ymgeisydd | Dylid cymryd gofal wrth arfer y pŵer hwn – mae'n bosibl na fydd pawb yn cyd-weld o ran yr hyn a ystyrir yn wall sillafu amlwg. |
Gwallau mewn cyfeiriad cartref | Pan na fydd cyfeiriad cartref yn hollol gywir efallai na fydd angen ei gywiro. Yn ôl y gyfraith, nid yw gwallau mewn cyfeiriad cartref yn effeithio ar ddilysrwydd ffurflen enwebu, cyhyd ag y gellir deall y cyfeiriad yn gyffredin. |
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 14A ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 14A ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 8(2)(a), Rheolau Prif Ardaloedd 2006 ↩ Back to content at footnote 3
Gwrthwynebu enwebiadau
Gall rhai pobl wrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref. Ceir rhagor o wybodaeth am bwy all wrthwynebu enwebiadau yn yr adran presenoldeb wrth gyflwyno papurau enwebu.
Gellir gwrthwynebu ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu yn ystod yr oriau cyflwyno ac am un awr ar ôl hynny (h.y. hyd at 5pm).1
Yr unig eithriad yw lle bo'r gwrthwynebiad ar sail y ffaith bod ymgeisydd wedi'i anghymhwyso am ei fod yn y carchar a chanddo ddedfryd o flwyddyn neu fwy. Yn yr achos hwn, gellir gwneud gwrthwynebiadau rhwng 10am a 4pm ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Amserlen ar gyfer gwrthwynebiadau
Bydd y cyfnod a ganiateir i wneud gwrthwynebiad arferol yn dibynnu ar bryd y cyflwynir y papurau enwebu.2
Pryd y cafodd y ffurflen enwebu ei chyflwyno? | Pryd y gellir gwrthwynebu'r ffurflen enwebu? |
---|---|
Enwebiadau a gyflwynir hyd at 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu (E-20) | Rhaid gwrthwynebu rhwng 10am a chanol dydd ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu (E-19). |
Enwebiadau a gyflwynir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu (E-20) | Rhaid gwrthwynebu rhwng 10am a 5pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu (E-19) a hefyd rhaid gwneud hynny ar adeg cyflwyno'r enwebiad, neu yn syth ar ôl hynny. |
- 1. Atodlen 1 Rheolau 1 ac 11 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Gwrthwynebu ar sail y ffaith bod ymgeisydd yn y carchar am flwyddyn neu fwy
Os ymddengys i chi y gall ymgeisydd fod wedi'i anghymhwyso rhag sefyll etholiad o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 (h.y. am ei fod yn y carchar a chanddo ddedfryd o flwyddyn neu fwy), rhaid i chi gyhoeddi drafft o'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd sy'n dangos pobl sydd wedi'u henwebu cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r enwebiadau gau.
Rhaid i'r datganiad drafft gynnwys y canlynol:
- y pennawd ‘datganiad drafft ynghylch y personau a enwebwyd’
- hysbysiad sy'n nodi y caiff unrhyw un sy'n dymuno gwrthwynebu enwebiad ymgeisydd ar y sail ei fod wedi'i anghymhwyso rhag sefyll etholiad o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 wneud hynny rhwng 10am a 4pm yn y man a nodwyd yn yr hysbysiad
- ar ba ddyddiad y gellir gwneud gwrthwynebiadau o'r fath
Penderfyniadau ynglŷn â gwrthwynebiadau
Dylech ystyried unrhyw wrthwynebiad sy'n dod i law yn ystod y cyfnod a ganiateir ar gyfer gwrthwynebu.
Cewch benderfynu bod enwebiad yn annilys am y rhesymau canlynol yn unig:1
- nid yw manylion yr ymgeisydd neu'r llofnodwyr yn unol â gofynion y gyfraith
- ni lofnodwyd y ffurflen fel y bo'n ofynnol
- mae'r unigolyn wedi'i anghymhwyso o dan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1981 am ei fod yn y carchar a chanddo ddedfryd o flwyddyn neu fwy
- mae'r person yn destun gorchymyn anghymhwyso o dan adran 30 o Ddeddf Etholiadau 2022
Ni ddylech gynnal unrhyw ymchwiliad na chlywed unrhyw sylwadau sy'n cefnogi neu'n herio unrhyw ffaith neu ddatganiad a roddir ar y ffurflen enwebu neu'r ffurflen cyfeiriad cartref.
Rhaid i chi benderfynu ar unrhyw wrthwynebiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl iddo gael ei wneud ac, ym mhob achos, rhaid i chi wneud hynny o fewn 24 awr i'r enwebiadau gau.2
Dylech gyfyngu'r broses wrthwynebu i'r ffurflen enwebu a'r ffurflen cyfeiriad cartref.
Os byddwch yn penderfynu, o ganlyniad i wrthwynebiad, y dylai enwebiad rydych eisoes wedi penderfynu yn ei gylch fod wedi'i bennu'n annilys, rhaid i chi wneud y canlynol:
- dangos ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd unrhyw ymgeisydd nad yw wedi'i enwebu'n ddilys mwyach
- y rheswm pam nad yw wedi'i enwebu mwyach
Dylech roi gwybod i'r ymgeisydd fel y bo'n briodol.3
Am ragor o wybodaeth, gweler yr adran Penderfynu bod enwebiad yn annilys.
- 1. Atodlen 1 Rheol 12 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 12(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheol 12(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Ar ôl i'r cyfnod enwebu ddod i ben
Ar ôl i'r cyfnod enwebu ddod i ben, rhaid i chi gyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a hysbysiad pleidleisio.1
Am fanylion am yr hyn a ddylai gael ei gynnwys yn yr hysbysiadau hyn a chamau y dylech eu cymryd wrth brawfddarllen, gweler ein canllawiau ar baratoi hysbysiadau.
Etholiadau diwrthwynebiad
Bydd yr etholiad yn un diwrthwynebiad os bydd un o'r canlynol yn gymwys:
- dim ond un enwebiad dilys a geir
- caiff yr holl enwebiadau dilys eu tynnu'n ôl yn briodol erbyn y terfyn amser heblaw am un
Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, rhaid i chi gyhoeddi'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gan ddatgan yr un ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys a gaiff ei ethol.2
Yna dylech ddychwelyd y gwrit gyda manylion yr ymgeisydd llwyddiannus. Ni fydd angen cynnal etholiad.
- 1. Atodlen 1 Rheol 14 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 17(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Paratoi hysbysiadau etholiad
Cyfieithu a fformatau hysbysiadau
Rhaid i chi sicrhau bod hysbysiadau yn cael eu cyfieithu neu eu darparu mewn fformat arall os yw'n briodol.1 Gallech eu paratoi:
- mewn Braille
- mewn ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg
- gan ddefnyddio lluniau
- mewn fformat sain2
- gan ddefnyddio unrhyw ddull arall o sicrhau bod gwybodaeth yn hygyrch
Ni ellir llunio'r ffurflen enwebu na'r papurau pleidleisio mewn unrhyw iaith na fformat arall.3
Mae'n rhaid i'r copïau llaw wedi'u chwyddo a'r copïau arddangos o'r papur(au) pleidleisio i'w defnyddio yn yr orsaf bleidleisio gynnwys y cyfarwyddiadau i bleidleiswyr wedi'u hargraffu ar frig y papur(au). Gellir cyfieithu'r cyfarwyddiadau hyn i ieithoedd heblaw Cymraeg a Saesneg.4
Sicrhau bod gwybodaeth ar hysbysiadau yn hygyrch
Dylech sicrhau bod unrhyw wybodaeth am yr etholiadau, gan gynnwys yr hysbysiadau etholiad a'r hysbysiadau pleidleisio:
- ar gael yn hawdd i bob pleidleisiwr
- ar gael mewn fformat hygyrch
- ar gael mewn pryd i bleidleiswyr fwrw eu pleidlais
Gellir darparu gwybodaeth ar wefan yr awdurdod lleol.
Dylai'r wybodaeth a ddarperir ar eich gwefan fod yn hygyrch i bleidleiswyr. Gallech siarad â swyddog cydraddoldebau neu dîm gwe eich awdurdod am gyngor ar sut i wneud hyn.
Os byddwch yn darparu gwybodaeth ar ffurf PDF, dylech fod yn ymwybodol os na chaiff camau penodol eu dilyn wrth greu dogfennau PDF, efallai na fyddant yn gydnaws â darllenwyr sgriniau a thechnolegau cynorthwyol eraill.
Mae Llywodraeth y DU wedi llunio canllaw ar lunio dogfennau PDF hygyrch y gallwch gyfeirio ato.
- 1. Adran 199B(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 199B(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 199B(4)(b) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adrannau 199AB(5) a (6) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Cyhoeddi hysbysiadau etholiad
Pan fydd angen i chi gyhoeddi hysbysiadau, dylech eu cyhoeddi a'u harddangos mewn man yn yr ardal etholiadol lle cânt eu gweld. Dylai hyn gynnwys swyddfeydd awdurdodau lleol, hysbysfyrddau, llyfrgelloedd ac adeiladau cyhoeddus eraill. Gellir rhoi hysbysiadau mewn unrhyw ffordd arall sy'n addas yn eich barn chi hefyd.1
Dylech sicrhau bod prosesau prawfddarllen cadarn ar waith er mwyn helpu i:
- ganfod unrhyw wallau
- osgoi achosion posibl o dorri diogelwch data cyn iddynt ddigwydd
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brosesau prawfddarllen yn ein canllawiau sicrwydd ansawdd a gallwch ddod o hyd i restr wirio sicrhau ansawdd yma..
Ystyriaethau diogelu data ar gyfer hysbysiadau etholiad
Fel y rheolydd data, bydd angen i chi ystyried a yw'n briodol neu'n angenrheidiol i'r hysbysiadau barhau i gael eu cyhoeddi, ar eich gwefan neu yn rhywle arall, ar ôl i gyfnod deiseb yr etholiad ddod i ben.
Er enghraifft, lle mae gan bob hysbysiad ddiben penodol – megis nodi pwy fydd yn ymgeisydd yn yr etholiad – unwaith y bydd yr etholiad drosodd, a bod y cyfle i gwestiynu'r etholiad hwnnw wedi darfod, ni fydd gan yr hysbysiad unrhyw ddiben pellach mwyach.
Unwaith bod terfyn amser deiseb yr etholiad wedi mynd heibio, dylech naill ai ddileu'r hysbysiadau o'r wefan neu ddileu'r data personol sydd yn yr hysbysiadau.
Mae deddfwriaeth diogelu data yn caniatáu i ddata personol gael eu storio am gyfnodau hwy, yn amodol ar roi mesurau diogelu priodol ar waith os caiff y data eu prosesu:
• at ddibenion archifo er budd y cyhoedd yn unig, neu
• at ddibenion gwyddonol, hanesyddol neu ystadegol
Er enghraifft, dylai hysbysiadau canlyniadau etholiad ar eich gwefan gael eu cadw gan eu bod o ddiddordeb i'r cyhoedd ac mae ganddynt ddibenion hanesyddol ac ystadegol.
Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar ystyriaethau diogelu data.
- 1. Adran 200(1A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Cyhoeddi'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd
Os nad oes unrhyw wrthwynebiad i bapurau enwebu, rhaid i chi gyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd ar gyfer yr etholaeth am 5pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Os oes gwrthwynebiadau, rhaid cyhoeddi'r datganiad erbyn 4pm ar y diwrnod gwaith ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer enwebiadau.1
Cynnwys y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd
Rhaid i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd gynnwys yr wybodaeth ganlynol ar gyfer pob ymgeisydd sydd wedi'i enwebu'n ddilys:
- enw
- cyfeiriad cartref, neu, os ydynt wedi gwneud cais i beidio â gwneud eu cyfeiriad cartref yn gyhoeddus:
- os yw eu cyfeiriad cartref yn y DU, etholaeth Seneddol y DU, yr ardal berthnasol lle mae eu cyfeiriad cartref neu'r wlad fel y bo'n briodol
- disgrifiad (os o gwbl)
- enwau'r llofnodwyr (hyd at 30, o'r ‘ffurflen enwebu dethol’ a hyd at ddau arall os cyflwynwyd sawl ffurflen enwebu)
- yn achos y rheiny nad ydynt wedi'u henwebu mwyach, y rheswm dros hynny
Rhaid iddo hefyd gynnwys y rheini nad ydynt wedi'u henwebu mwyach, a'r rheswm pam (h.y. y rheiny sydd wedi tynnu'n ôl neu rydych wedi gwrthod eu henwebiad).2
Dylai eich hysbysiad preifatrwydd ei gwneud hi'n glir, o dan ddeddfwriaeth etholiadol, ei bod hi'n ofynnol i chi gyhoeddi enw a chyfeiriad yr ymgeiswyr yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am ystyriaethau diogelu data hysbysiad preifatrwydd yn ein canllawiau ar ddiogelu data.
Rhaid i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd gynnwys yr hysbysiad pleidleisio hefyd os ymleddir yr etholiad. Ceir rhagor o wybodaeth am yr hysbysiad pleidleisio yn ein canllaw ar gyhoeddi'r datganiad o bleidlais.
Trefn enwau ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd
Rhaid i enwau'r ymgeiswyr gael eu rhestru yn nhrefn yr wyddor o ran eu cyfenw.3 Dyma sut y byddant yn ymddangos ar y papur pleidleisio hefyd.4
Os bydd gan ddau neu fwy o ymgeiswyr yr un cyfenw, yr enwau eraill yn nhrefn yr wyddor fydd yn pennu pa ymgeisydd a gaiff ei restru gyntaf.5
Os bydd unigolyn wedi gofyn am gael defnyddio enw a ddefnyddir yn gyffredin ar ei ffurflen enwebu, rhaid i'r enw a ddefnyddir yn gyffredin gael ei ddangos ar y datganiad yn hytrach na'i enw gwirioneddol.6
Pan fydd ymgeisydd wedi gofyn am gael defnyddio cyfenw a ddefnyddir yn gyffredin, rhaid i safle'r ymgeisydd o ran trefn yr wyddor ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd ac ar y papur pleidleisio gyfeirio at ei gyfenw a ddefnyddir yn gyffredin.
Fodd bynnag, os ydych wedi gwrthod y defnydd o unrhyw enw a ddefnyddir yn gyffredin gan eich bod o'r farn ei fod yn debygol o gamarwain neu ddrysu etholwyr, neu ei fod yn anweddus neu'n sarhaus, rhaid i'r enw gwirioneddol, yn ôl y gyfraith, gael ei gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd yn lle'r enw a ddefnyddir yn gyffredin.
Ystyriaethau lle mae ymgeisydd wedi gofyn am i'w gyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi
Os bydd mwy nag un ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys wedi:
- gofyn am i'w cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi, a
- darparu'r un ardal berthnasol yn y DU (neu'r un wlad) ar eu ffurflen cyfeiriad cartref ag ymgeisydd arall/ymgeiswyr eraill
Mae'n rhaid i chi ystyried a oes gan ddau neu fwy ohonynt yr un enw neu enw tebyg sy'n debygol o achosi dryswch.7
Os byddwch yn ystyried mai dyma yw'r achos, gallwch ychwanegu'r cyfryw fanylion o'u ffurflen cyfeiriad cartref neu ffurflen enwebu fel sy'n briodol, yn eich barn chi, i leihau'r tebygrwydd o ddryswch.8
Rhaid i chi ymgynghori â'r ymgeisydd/ymgeiswyr dan sylw, os yw'n ymarferol i chi wneud hynny, cyn i chi benderfynu pa fanylion y dylid eu cynnwys ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd.
Rhaid i chi hysbysu'r ymgeisydd/ymgeiswyr dan sylw yn ysgrifenedig am yr wybodaeth ychwanegol a gyhoeddir.9
Dylai fod gennych brosesau prawfddarllen cadarn ar waith er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wallau yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brosesau prawfddarllen yn ein canllawiau sicrwydd ansawdd, ac yn y rhestr wirio sicrhau ansawdd ganlynol.
- 1. Atodlen 1 Rheol 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 14 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheol 14(3) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1 Rheol 19(3) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 1 Rheol 14(3) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Atodlen 1 Rheol 14(2A) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Atodlen 1 Rheol 14(4A)(a) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Atodlen 1 Rheol 14(4A)(b) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Atodlen 1 Rheol 14(4B) RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 9
Cyhoeddi'r hysbysiad o etholiad
Rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad pleidleisio ar gyfer yr etholaeth os oes dau neu fwy o ymgeiswyr ac y bydd digwyddiad pleidleisio, gan nodi'r diwrnod a'r oriau a bennwyd ar gyfer y bleidlais.1
Rhaid i chi gynnwys yr hysbysiad pleidleisio ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd. .
Dylech roi copi o'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd gyda'r hysbysiad pleidleisio i bob ymgeisydd ac asiant etholiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl ei gyhoeddi..
Rydym wedi cyhoeddi templed o hysbysiad pleidleisio yma.
- 1. Atodlen 1 Rheol 23 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch lleoliad gorsafoedd pleidleisio
Rhaid i chi gyhoeddi'r hysbysiad ynghylch lleoliad gorsafoedd pleidleisio. Rhaid iddo roi hysbysiad cyhoeddus o'r canlynol:1
- lleoliad pob gorsaf bleidleisio yn yr ardal
- disgrifiad o'r pleidleiswyr sydd â'r hawl i bleidleisio yno
Os na chafwyd unrhyw wrthwynebiadau i enwebiadau, rhaid i chi gyhoeddi'r hysbysiad erbyn 5pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu fan bellaf.
Os cafwyd gwrthwynebiadau, rhaid i chi gyhoeddi'r hysbysiad ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.2
Gallwch ddewis cyfuno'r hysbysiad ynghylch lleoliad gorsafoedd pleidleisio â'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r hysbysiad pleidleisio.
Etholaethau trawsffiniol
Dylech gysylltu â'r Swyddogion Canlyniadau llywodraeth leol yn eich ardal er mwyn sicrhau bod gennych yr wybodaeth berthnasol am etholiadau ac is-etholiadau mewn awdurdodau lleol eraill a lleoliad gorsafoedd pleidleisio i'ch galluogi i lunio'r hysbysiad ynghylch lleoliad gorsafoedd pleidleisio.
Cyhoeddi'r hysbysiad ynghylch lleoliad gorsafoedd pleidleisio
Dylai fod gennych brosesau prawfddarllen cadarn ar waith er mwyn sicrhau nad oes unrhyw wallau yn yr hysbysiad ynghylch lleoliad gorsafoedd pleidleisio.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brosesau prawfddarllen yn ein canllawiau sicrhau ansawdd, a gallwch ddod o hyd i restr wirio sicrhau ansawdd yma.
Rhaid i chi roi copi o'r hysbysiad perthnasol ynghylch lleoliad gorsafoedd pleidleisio a disgrifiadau o bleidleiswyr sydd â'r hawl i bleidleisio yno i bob asiant etholiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad.3
Dylech hefyd roi copi o'r hysbysiad perthnasol i bob ymgeisydd.
Dylech hefyd fod yn barod i sicrhau bod yr hysbysiadau hyn ar gael i unrhyw arsylwyr achrededig ar gais.
- 1. Atodlen 1 Rheol 23 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheolau 1 a 23(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheolau 1 a 23(2)(c) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Death of a candidate
The impact that the death of a candidate will have on the election depends on whether the deceased candidate was standing as an independent or was standing on behalf of a registered political party.
For the purposes of the management of the election, it is the time at which you receive proof of the candidate’s death that is the relevant factor, not the actual time of death.
Proof of death is not defined. You should be satisfied with any information that you have received to indicate that the death has occurred.
Death of an independent candidate
In the event that an independent candidate dies during the election period the election continues as normal.
The impact of the death of an independent candidate on the result of an election is set out in the following table.
Scenario | Action |
---|---|
Scenario one |
If the deceased candidate receives the most votes, they are not elected and the election is re-run. All of the existing candidates remain nominated for the new election although candidates may withdraw.1 New nomination forms are not required. No new nominations are allowed. The retention or return of the deposit for candidates is determined by the result of the re-run election. |
Scenario two | If the deceased candidate did not receive the most votes, the winning candidate is declared elected and the election is not affected. |
Scenario three | If the deceased candidate came joint first with the same number of votes as any other candidate, the other candidate is declared elected. |
Scenario four |
If only two persons are standing nominated and an independent candidate dies, the election is treated as an uncontested election and the other candidate is declared elected. In all circumstances, you must return the deposit of the deceased candidate to the person who made it. If the deceased candidate made the deposit, you must return the deposit to their personal representative. |
Death of a party candidate
Scenario | Action |
---|---|
Scenario one | If a candidate standing on behalf of a political party (or as a joint candidate standing on behalf of two or more parties) dies before polls open, the poll will be countermanded, meaning the poll will be cancelled. |
Scenario two | If a candidate standing on behalf of a political party (or as a joint candidate standing on behalf of two or more parties) dies after the polls have opened but before the declaration of result, the election is stopped immediately. |
Scenario three |
If a candidate standing on behalf of a political party (or as a joint candidate standing on behalf of two or more parties) dies after the poll has closed and count is being undertaken, the count process stops. In all of the scenarios concerning death of a party candidate, there will be a new election.2 All of the existing candidates remain nominated for the new election although they may withdraw.3 New nomination forms are not required. No new nominations are allowed. The only exception is that a new candidate can be nominated to stand on behalf of the same party (or parties) as the candidate who died. In this circumstance, the nomination paper for the new candidate must be submitted by the close of nominations based on the new timetable. The retention or return of the deposit is determined by the result of the re-run election. |
Death of the Speaker of the House of Commons
If a candidate who was the Speaker of the House of Commons seeking re-election has died after the polls have opened but before the declaration of the result, the election is stopped immediately.
If a candidate who was the Speaker of the House of Commons seeking re-election has died and the polls have not opened, the poll is countermanded.
If the count is being undertaken, that process stops.
In the circumstance of any of the scenarios above, there will be a new election.4
In the case of the death of the Speaker new nominations are allowed for the new election. These must be submitted in the usual way and by the deadline for nominations based on the new timetable.
Timetable for the new election due to death of a candidate
The timetable for the new election will be prepared as if the writ was received seven working days after you received proof of the death.
The new polling day must be between 21 and 27 working days after the day on which the writ is taken to have been received.5
- 1. Schedule 1 Rules 60, 61 and 62 Representation of the People Act 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Schedule 1 Rule 63 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Schedule 1 Rules 60, 61 and 62 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Schedule 1 Rule 64 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Schedule 1 Rule 61 RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 5
Adnoddau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) - Enwebiadau
Asiantiaid
Mae'r adran hon o'r canllawiau'n ymdrin â phenodi asiantiaid etholiad, y gofyniad i hysbysu'r cyhoedd am benodiad asiantiaid etholiad a sut y gellir dirymu penodiad.
Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar benodi asiantiaid i fynychu achlysuron agor pleidleisiau post, gorsafoedd pleidleisio a'r broses dilysu a chyfrif, a gwybodaeth am y gofynion o ran cyfrinachedd ac ymddygiad yn ystod y digwyddiadau etholiadol allweddol hyn.
Penodi asiant etholiad
Asiant etholiad yw'r person sy'n gyfrifol am reoli ymgyrch etholiadol yr ymgeisydd yn briodol ac, yn arbennig, am ei rheolaeth ariannol. Rhaid i bob ymgeisydd benodi asiant etholiad.
Rhaid i chi gael eich hysbysu am benodiad asiant etholiad erbyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno hysbysiadau tynnu enw yn ôl, sef 4pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Rydym wedi llunio ffurflen hysbysu ynghylch penodiad asiantiaid etholiad fel rhan o set o bapurau enwebu.1 2
Dylech gyfleu gwybodaeth am brosesau'r etholiad, y cod ymddygiad a'r pwyntiau ymddygiad safonol i'r asiant etholiadol cyn gynted â phosibl. Yn benodol, dylai unrhyw wybodaeth a ddarperir gennych ddarparu dolenni i'r rheolau newydd ynghylch trin pleidlais bost a'r rheolau newydd ynghylch dylanwadu gormodol a bygwth, a'u hamlygu.
A all ymgeisydd weithredu fel ei asiant ei hun?
Gall ymgeisydd benodi ei hun fel ei asiant etholiad.
Os na chaiff asiant ei benodi erbyn y terfyn amser ar gyfer tynnu enw yn ôl, yr ymgeisydd fydd ei asiant etholiad ei hun yn awtomatig.2 3
Bydd ymgeisydd hefyd yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun:
- os bydd yn dirymu penodiad ei asiant, neu
- os bydd ei asiant yn marw, ac na chaiff asiant newydd ei benodi ar ddiwrnod y farwolaeth neu'r diwrnod canlynol3 3 4
Cyfeiriad swyddfa'r asiant etholiad
Rhaid i'r asiant etholiad gael cyfeiriad swyddfa, y gellir anfon pob cais, hysbysiad, hysbysiad cyfreithiol a dogfen iddo. Rhaid iddo fod yn gyfeiriad ffisegol – ni ellir defnyddio blychau Swyddfa'r Post na blychau post tebyg.4 5
Rhaid i leoliad y swyddfa fod yn un o'r lleoliadau canlynol:
- o fewn yr etholaeth seneddol lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
- o fewn etholaeth sy'n cyd-ffinio â'r etholaeth lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
- yng Nghymru, o fewn sir neu fwrdeistref sirol yng Nghymru sy'n rhan o'r etholaeth, neu'n cyd-ffinio â'r etholaeth, lle mae'r ymgeisydd yn sefyll
- yn Llundain, o fewn un o fwrdeistrefi Llundain sy'n rhan o'r etholaeth, neu'n cyd-ffinio â'r etholaeth, lle mae'r ymgeisydd yn sefyll5 6
Yn aml, bydd cyfeiriad swyddfa'r asiant etholiad yr un peth â chyfeiriad ei gartref. Fel arall, efallai mai cyfeiriad swyddfa'r blaid wleidyddol leol neu swyddfa a sefydlwyd yn arbennig ar gyfer yr etholiad fydd cyfeiriad ei swyddfa.
Os bydd yr ymgeisydd yn rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi o'i benodiad fel ei asiant etholiad ei hun, rhaid iddo roi cyfeiriad swyddfa o fewn yr ardal gymhwyso a ddiffinnir yn y pwyntiau bwled uchod.
Pan fydd ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun am na wnaeth benodi unrhyw un arall, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw'r cyfeiriad ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, h.y. yr un a roddwyd ar y ffurflen cyfeiriad cartref. Os bydd y cyfeiriad hwnnw y tu allan i'r ardal gymwys berthnasol fel y'i diffinnir yn y pwyntiau bwled uchod, tybir mai'r cyfeiriad swyddfa yw cyfeiriad yr unigolyn a enwir yn y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd fel cynigydd.7 6
- 1. Adran 67(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 67(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983↩ Back to content at footnote 2 a b
- 3. Adran 67(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3 a b c
- 4. Adran 70(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4 a b
- 5. Adran 69(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5 a b
- 6. Adran 69(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6 a b
- 7. Adran 70(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
Cyhoeddi hysbysiad o benodiad asiant etholiad
Rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad sy'n nodi enw a chyfeiriad yr asiant etholiad cyn gynted â phosibl ar ôl i chi gael gwybod am ei benodiad.
Dylech hefyd gynnwys enw llawn yr ymgeisydd ar yr hysbysiad hwn, ac er cyflawnrwydd, gallech ychwanegu unrhyw enw a ddefnyddir yn gyffredin mewn cromfachau.
Fodd bynnag, nid oes gofyniad cyfreithiol i ddefnyddio’i enw llawn a’i enw a ddefnyddir yn gyffredin, a gallwch benderfynu ar y dull i’w gymryd. Pa bynnag ddull a ddilynir, dylech sicrhau eich bod yn ei ddefnyddio’n gyson ar gyfer pob ymgeisydd ar yr hysbysiad.
Rhaid i'r hysbysiad gael ei ddiweddaru os dirymir penodiad asiant, neu os bydd asiant yn marw, a rhaid nodi manylion yr asiant newydd ar y fersiwn ddiwygiedig.1
Dylai eich hysbysiad preifatrwydd nodi'n glir ei bod yn ofynnol i chi, o dan ddeddfwriaeth etholiadol, gyhoeddi enw a chyfeiriad asiant etholiad yn yr hysbysiad o asiantiaid etholiad. Mae gan yr hysbysiad ddiben penodol, h.y. nodi pwy fydd asiant etholiad ymgeisydd, felly unwaith y bydd yr etholiad drosodd, a bod y cyfle i gwestiynu'r etholiad hwnnw wedi darfod, ni fydd ganddo unrhyw ddiben pellach mwyach. Felly, dylech naill ai ddileu'r hysbysiad, neu ddileu'r data personol sydd ynddo, pan fydd dyddiad cau deiseb yr etholiad wedi mynd heibio.
Mae ein canllawiau diogelu data yn ymdrin â gofynion hysbysiad preifatrwydd ac ystyriaethau ar gyfer cadw dogfennau.
- 1. Adran 67(6) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Dirymu penodiad asiant etholiad
Pan fydd asiant etholiad wedi'i benodi gan ymgeisydd, ni all ddirymu ei rôl. Dim ond yr ymgeisydd all ddirymu'r penodiad. Yn yr achos hwn, byddai angen i'r ymgeisydd benodi asiant etholiad newydd neu byddai'n gweithredu fel ei asiant ei hun.
Os bydd ymgeisydd yn gweithredu fel ei asiant etholiad ei hun, ni waeth a yw wedi dod yn asiant am na wnaeth benodi un neu am ei fod wedi rhoi hysbysiad ysgrifenedig i chi o'i benodiad ei hun, gall hefyd ddirymu ei benodiad ei hun a phenodi asiant newydd.
Os bydd ymgeisydd yn dirymu penodiad asiant etholiad, rhaid iddo eich hysbysu yn ysgrifenedig.1 Rhaid i chi wedyn gyhoeddi fersiwn ddiwygiedig o'r hysbysiad am asiantiaid etholiad. Gall ymgeisydd ddirymu penodiad asiant etholiad unrhyw bryd yn ystod cyfnod yr etholiad.
Lle y bo'n bosibl, os caiff asiant etholiad ei ddirymu a bydd eisoes wedi awdurdodi gwariant neu ddeunydd ymgyrchu, dylai'r ymgeisydd gael datganiad gan ei asiant blaenorol ynghylch unrhyw dreuliau yr aethpwyd iddynt yn ystod ei gyfnod fel asiant, i ategu ffurflen treuliau derfynol yr ymgeisydd.
- 1. Adran 67(3) a (4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Penodi is-asiantiaid
Gall asiant etholiad mewn etholaeth sirol benodi is-asiantiaid i weithredu ar ei ran. Ni ellir penodi unrhyw is-asiantiaid mewn etholaeth fwrdeistref.1
Caiff asiantiaid etholiad mewn etholaeth sirol benodi is-asiantiaid ar gyfer rhannau penodol o'r etholaeth, ar yr amod nad yw'r rhannau hynny yn gorgyffwrdd. Gall yr asiant benderfynu ar sut i rannu'r etholaeth.2
Rhaid i swyddfa'r is-asiant fod yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi.3
Caiff is-asiant wneud unrhyw beth y caiff yr asiant etholiad ei wneud yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi.4 Hefyd, caiff fod yn bresennol yn ystod y broses o agor, dilysu a chyfrif pleidleisiau post, yn ogystal â'r broses o gyfrifo'r canlyniadau, ar yr amod bod hyn yn digwydd yn yr ardal y mae wedi'i benodi i weithredu ynddi a'i fod yn gweithredu yn lle'r asiant etholiad.
Rhaid i'r asiant etholiad roi hysbysiad ysgrifenedig i chi o enw, cyfeiriad a chyfeiriad swyddfa pob is-asiant a benodwyd ganddo a'r ardal lle y caiff weithredu erbyn yr ail ddiwrnod gwaith cyn yr etholiad. Dylech gynnwys ffurflen hysbysu ynghylch penodi is-asiantiaid yn eich pecynnau enwebu. Rydym wedi llunio ffurflen ar gyfer hysbysu am benodiad is-asiantiaid fel rhan o'r set ganlynol o bapurau enwebu y gallech ei defnyddio at y diben hwn.5
Caiff yr asiant etholiad ddirymu penodiad is-asiant ar unrhyw adeg. Os bydd is-asiant yn marw neu os caiff ei benodiad ei ddirymu, gall yr asiant etholiad benodi is-asiant newydd drwy roi datganiad ysgrifenedig i chi sy'n nodi enw, cyfeiriad, cyfeiriad swyddfa ac ardal penodi'r is-asiant newydd. Pan fydd enw, cyfeiriad, cyfeiriad cartref ac ardal penodi is-asiant wedi'i ddatgan i chi, rhaid i chi gyhoeddi hysbysiad o'r manylion hyn.6
- 1. Adran 68(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 68(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 69(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 68(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 68(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 68(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
Asiantiaid Pleidleisio drwy'r Post, Pleidleisio a Chyfrif
Gall ymgeiswyr, neu ei asiant etholiad, benodi asiantiaid i arsylwi ar y broses o agor pleidleisiau post, cynnal y bleidlais mewn gorsafoedd pleidleisio a dilysu a chyfrif pleidleisiau. Chi sy'n gyfrifol am dderbyn yr hysbysiadau o benodiad ar gyfer yr asiantiaid hyn.1
Gallwch gael rhagor o fanylion am yr asiantiaid hyn yn y canllawiau sy'n dilyn.
Rhaid i chi sicrhau bod pob asiant penodedig yn cael copi o'r gofynion perthnasol o ran cyfrinachedd ar gyfer agor pleidleisiau post, cynnal y bleidlais a'r broses gyfrif, sydd wedi'u cyhoeddi ar ein gwefan.2
I gael canllawiau ar ddirymu penodiad asiantiaid a phenodi asiantiaid newydd, gweler Dirymu penodiad asiant etholiad.
- 1. Atodlen 1 Rheol 30 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, Rheoliad 69 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 a Rheoliad 69 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 66 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Asiantiaid pleidleisio drwy'r post
Yn ôl y gyfraith, caniateir i asiantiaid pleidleisio drwy'r post arsylwi ar y broses o agor blwch pleidleisio pleidleiswyr post, agor pleidleisiau post a ddychwelwyd a chadarnhau llofnodion a dyddiadau geni a nodwyd ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd.1
Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i chi roi o leiaf 48 awr o rybudd i ymgeiswyr o amser a lleoliad unrhyw sesiwn agor pleidleisiau drwy'r post a nifer yr asiantiaid y gall ymgeisydd eu penodi i fynychu pob sesiwn agor.2
Rhaid i chi gael hysbysiad ysgrifenedig o enw a chyfeiriad unrhyw asiantiaid pleidleisio drwy'r post cyn dechrau unrhyw sesiwn benodol y mae'r asiantiaid yn dymuno bod yn bresennol ynddi. Mae'r Comisiwn wedi datblygu'r ffurflen ganlynol ar gyfer hysbysu am benodiad asiant pleidleisio drwy'r post.3
Gofynion cyfrinachedd ac ymddygiad
Caiff papurau pleidleisio eu cadw â'u hwynebau i lawr drwy gydol sesiwn agor amlenni pleidleisiau post.
Dylech hysbysu pob asiant pleidleisio drwy'r post am y gofynion o ran cyfrinachedd wrth agor pleidleisiau post.
Dyma'r pwyntiau allweddol:
- ni ddylai neb sy'n bresennol yn ystod sesiwn agor geisio gweld sut mae papurau pleidleisio unigol wedi cael eu marcio na chadw cofnod o hynny
- ni ddylai neb sy'n bresennol yn ystod sesiwn agor pleidleisiau post geisio edrych ar farciau neu rifau adnabod ar bapurau pleidleisio, datgelu sut mae papur pleidleisio penodol wedi cael ei farcio na throsglwyddo unrhyw wybodaeth o'r fath a geir yn ystod y sesiwn.
- gall unrhyw un a ddyfernir yn euog o dorri'r gofynion hyn wynebu dirwy anghyfyngedig, neu ddedfryd o garchar am hyd at chwe mis
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 80 68(d) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) rheoliad 80 a Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) rheoliad 80 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 69, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) a Rheoliad 69, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) ↩ Back to content at footnote 3
Asiantiaid pleidleisio
Yn ôl y gyfraith, mae gan asiantiaid pleidleisio yr hawl i gael mynediad i orsafoedd pleidleisio at ddiben canfod achos o gambersonadu.1 Gallant hefyd arsylwi ar y gweithdrefnau i'w dilyn mewn gorsaf bleidleisio.
Rhaid i chi gael eich hysbysu yn ysgrifenedig am unrhyw asiantiaid pleidleisio a benodwyd o fewn pum diwrnod gwaith fan bellaf cyn yr etholiad er mwyn i'w penodiad fod yn weithredol ar gyfer yr etholiad. Mae'r Comisiwn wedi datblygu ffurflen ar gyfer rhoi hysbysiad o benodiad asiantiaid pleidleisio.2
Cyfyngu ar nifer yr asiantiaid sy'n bresennol
Nid oes cyfyngiad ar nifer yr asiantiaid pleidleisio a all gael eu penodi yn etholiad Senedd y DU.
Gall asiant pleidleisio gael ei benodi i orsaf bleidleisio neu orsafoedd pleidleisio penodol, neu bob gorsaf bleidleisio o fewn yr ardal etholiadol. Gellir penodi'r un asiantiaid pleidleisio i fod yn bresennol mewn mwy nag un orsaf bleidleisio. Fodd bynnag, yn ôl y gyfraith, dim ond un asiant pleidleisio y gellir caniatáu iddo gael mynediad i orsaf bleidleisio ar yr un pryd ar ran yr un ymgyrchydd.3
Gofynion cyfrinachedd ac ymddygiad
Mae gan unrhyw un sy'n bresennol mewn gorsaf bleidleisio ddyletswydd i gynnal cyfrinachedd y bleidlais. Dylech hysbysu pob asiant pleidleisio am y gofynion canlynol o ran cyfrinachedd ar gyfer cynnal y bleidlais.
Yn benodol, rhaid sicrhau na chaiff y wybodaeth ganlynol ei datgelu:
- enw neu rif etholiadol y rhai sydd wedi neu heb bleidleisio
- y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar y papur pleidleisio
Hefyd, rhaid i unrhyw un sy'n mynychu gorsaf bleidleisio sicrhau nad yw'n ceisio canfod sut mae pleidleisiwr wedi pleidleisio na phwy y mae ar fin pleidleisio drosto.
Gall asiant pleidleisio farcio ar ei gopi ef o'r gofrestr etholwyr y pleidleiswyr hynny sydd wedi gwneud cais am bapurau pleidleisio. Os bydd yr asiant pleidleisio yn gadael yr orsaf bleidleisio yn ystod yr oriau pleidleisio, bydd angen iddo adael y copi wedi'i farcio o'r gofrestr yn yr orsaf bleidleisio er mwyn sicrhau na thorrir gofynion cyfrinachedd. Gall unrhyw un a ddyfernir yn euog o dorri'r gofynion cyfrinachedd wynebu dirwy anghyfyngedig, neu ddedfryd o garchar am hyd at chwe mis.
Ni ellir rhoi seliau asiantiaid pleidleisio ar flychau pleidleisio ar ddechrau'r cyfnod pleidleisio nac yn ystod y cyfnod hwnnw.
Er y gall asiant pleidleisio arsylwi ar y bleidlais, nid oes rhaid iddo fod yn bresennol mewn gorsaf bleidleisio er mwyn i weithdrefnau pleidleisio a gweithdrefnau cysylltiedig gael eu cynnal.
- 1. Atodlen 1 Rheol 30 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 30 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheol 32 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
Asiantiaid cyfrif
Gellir penodi asiantiaid cyfrif i arsylwi ar y prosesau dilysu a chyfrif.1 Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i chi roi hysbysiad ysgrifenedig i asiantiaid cyfrif a benodwyd o'r amser y bydd y prosesau dilysu a chyfrif yn dechrau a'r lleoliad.2
Rhaid i chi gael eich hysbysu yn ysgrifenedig am benodiad asiantiaid cyfrif o fewn pum diwrnod gwaith fan bellaf cyn yr etholiad er mwyn i'w penodiad fod yn weithredol ar gyfer y dilysu a'r cyfrif.3 Mae'r Comisiwn wedi datblygu'r ffurflen ganlynol ar gyfer rhoi hysbysiad o benodiad asiant cyfrif.
Cyfyngu ar nifer yr asiantiaid sy'n bresennol
Yn ôl y gyfraith, caniateir i chi gyfyngu ar nifer yr asiantiaid cyfrif a benodir. Rhaid i nifer yr asiantiaid y caiff pob ymgeisydd eu penodi fod yr un peth ac, oni bai bod amgylchiadau arbennig, ni chânt fod yn llai na'r nifer a geir drwy rannu nifer y cynorthwywyr cyfrif (h.y. y staff hynny a gyflogir i gyfrif y papurau pleidleisio) â nifer yr ymgeiswyr.4
Wrth benderfynu ar uchafswm nifer yr asiantiaid cyfrif, dylai pob ymgeisydd, hyd y gellir, gael caniatâd i benodi digon o asiantiaid cyfrif fel y gellir craffu'n llawn ac yn briodol ar y prosesau dilysu a chyfrif. Fodd bynnag, dylech ystyried unrhyw oblygiadau o ran iechyd a diogelwch, gan gynnwys rheoliadau tân ar gyfer y lleoliad dilysu a chyfrif pleidleisiau, wrth benderfynu ar uchafswm yr asiantiaid cyfrif.
I gael rhagor o fanylion am bwy y caniateir iddo fod yn bresennol yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif, gweler Presenoldeb yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif
Gofynion cyfrinachedd ac ymddygiad
Mae dyletswydd ar unrhyw un sy'n bresennol yn ystod y broses gyfrif i gynnal cyfrinachedd y cyfrif. Dylech hysbysu pob Asiantiaid cyfrif am y gofynion o ran cyfrinachedd ar gyfer yr etholiad.
Yn arbennig, ni ddylai unrhyw un sy'n bresennol wneud y canlynol:
- gweld neu geisio gweld y rhif neu'r marc adnabod unigryw arall ar gefn unrhyw bapur pleidleisio
- cyfleu unrhyw wybodaeth a geir yn ystod y broses gyfrif ynghylch yr ymgeisydd y rhoddir unrhyw bleidlais iddi neu iddo ar unrhyw bapur pleidleisio penodol
- 1. Atodlen 1 Rheol 30 (1)(b) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheolau 30 a 44 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheol 30 (3)(b) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1 Rheol 30 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Adnoddau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) - Asiantiaid
Pleidleisio absennol
Mae'n hanfodol y caiff y broses pleidleisio absennol ei rheoli'n effeithiol er mwyn sicrhau bod pleidleisio absennol yn hygyrch a bod etholwyr yn gallu arfer eu hawl i bleidleisio yn unol â'u cais.
Mae'r adran hon yn cynnwys canllawiau ar yr amserlen pleidleisio absennol, y dyddiadau cau allweddol ar gyfer y broses a sut a phryd y gall etholwyr wneud newidiadau i'w trefniadau pleidleisio absennol presennol cyn etholiad. Mae hefyd yn cwmpasu trefniadau a ddylai fod ar waith ar gyfer pleidleisio drwy ddirprwy, a chanllawiau ar gyfer anfon pleidleisiau post a sut i sicrhau ansawdd y broses.
Byddwch hefyd yn gweld canllawiau ar y prosesau y mae'n rhaid eu dilyn pan dderbynnir pleidleisiau post. Maent yn cynnwys gwybodaeth am y broses agor amlenni pleidleisiau post, pwy all fod yn bresennol mewn sesiynau agor amlenni pleidleisiau post a'r cofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw fel rhan o'r broses.
Amserlen ar gyfer pleidleisio absennol
Mae'n rhaid i chi anfon pleidleisiau post at etholwyr cyn gynted ag y bo'n ymarferol1
. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu unrhyw bryd ar ôl i'r manylion i'w hargraffu ar y papurau pleidleisio gael eu cadarnhau, h.y. ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu enw yn ôl, sef 4pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Bydd anfon pleidleisiau post yn gynnar yn cynyddu'r amser fydd ar gael i etholwyr – yn enwedig pleidleiswyr sydd dramor neu yn y lluoedd – dderbyn, cwblhau a dychwelyd eu pleidleisiau post. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau: Anfon a dosbarthu pleidleisiau post
Dim ond at rywun sydd wedi cael ei ychwanegu at y gofrestr etholiadol ac sydd wedi gwneud cais llwyddiannus am bleidlais bost y gallwch anfon pleidlais bost. Mae'n ofynnol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gyhoeddi dau hysbysiad newid etholiad interim cyn cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad terfynol ar y pumed diwrnod gwaith cyn y bleidlais.2
Mae hyn yn cefnogi'r broses o ddosbarthu pleidleisiau post ar gam cynnar yn yr amserlen i'r etholwyr hynny sydd wedi gwneud cais i gofrestru a gwneud cais am bleidlais bost yn agos at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol: hysbysiadau newid etholiad.
Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gysylltu ag ef er mwyn cael y rhestr o bleidleiswyr post a'r rhestr o bleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy cyn gynted â phosibl ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad interim cyntaf er mwyn cynnwys yr etholwyr hwnnw pan gaiff y pleidleisiau post cyntaf eu dosbarthu. Rhaid i'r hysbysiad hwn gael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod â'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.3
Bydd hefyd angen i chi gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i gael unrhyw ddiweddariadau dilynol pan fydd yr ail hysbysiad newid etholiad interim a'r hysbysiad newid etholiad terfynol wedi'u cyhoeddi.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hysbysiadau newid interim yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban .
Mae ein hamserlen etholiadol enghreifftiol ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU a'r amserlen ar gyfer is-etholiadau hefyd yn cynnwys y dyddiadau cyhoeddi perthnasol ar gyfer yr hysbysiadau hyn.
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech weithio gyda'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod arall/awdurdodau eraill er mwyn cael y data sydd eu hangen arnoch. Os bydd angen cyfnewid data yn electronig, dylech sicrhau bod y broses yn cael ei phrofi cyn y dyddiad trosglwyddo cyntaf.
Amserlen ar gyfer pleidleisio absennol
4 Dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais absennol a cheisiadau am newidiadau i drefniadau presennol
Y dyddiad cau i etholwyr gyflwyno ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy'r post yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. Hwn yw'r dyddiad cau ar gyfer y canlynol hefyd:
- canslo pleidleisiau post presennol
- i etholwyr wneud newidiadau (h.y. newid y cyfeiriad dosbarthu) i unrhyw drefniadau pleidleisio absennol presennol (h.y. pleidlais bost, pleidlais drwy ddirprwy a phleidlais ddirprwy drwy'r post)
Fodd bynnag, os yw etholwr yn bleidleisiwr post ar hyn o bryd sydd eisoes wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post, ni all wneud unrhyw newidiadau wedi hynny, hyd yn oed os yw cyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.4
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy (nid pleidlais ddirprwy drwy'r post), heb gynnwys ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng, yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.5
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng yw 5pm ar y diwrnod pleidleisio6
. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau: pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng.
Mae'r tabl hwn yn crynhoi'r dyddiadau cau er mwyn gallu cyfeirio ato'n hawdd:
Cais | Dyddiad cau |
---|---|
Cyflwyno ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy'r post | 5pm, 11 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio |
Canslo pleidleisiau post presennol | 5pm, 11 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio |
Gwneud newidiadau i drefniadau pleidleisio absennol presennol | 5pm, 11 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio |
Ceisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy (nid pleidlais ddirprwy drwy’r post) | 5pm, 6 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio |
Ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng | 5pm, ar y diwrnod pleidleisio |
Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn rhoi'r rhestrau terfynol o bleidleiswyr absennol i chi, h.y. y rhestr o bleidleiswyr post, y rhestr o ddirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post a'r rhestr dirprwyon, ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fynd heibio.
Oedi cyn penderfynu
Ni ellir caniatáu pleidlais absennol hyd nes bod y cais i gofrestru a’r cais am bleidlais absennol wedi'u cymeradwyo.
Lle cwblheir cais i gofrestru erbyn y dyddiad cau, ond na ellir gwirio hunaniaeth yr ymgeisydd yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau na thrwy baru data lleol, mae gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol tan y dyddiad cau ar gyfer penderfynu ar geisiadau, sef chwe diwrnod gwaith cyn yr etholiad, i dderbyn y dystiolaeth ofynnol gan yr ymgeisydd o dan y broses eithriadau a gwneud penderfyniad.
Fodd bynnag, os bydd etholwr sy’n gwneud cais am bleidlais bost yn agos at y dyddiad cau ar gyfer etholiad yn methu gwiriad yr Adran Gwaith a Phensiynau, gellir penderfynu ar ei gais gan ddefnyddio’r broses eithriadau neu’r broses ardystio hyd at, ac yn cynnwys, y diwrnod pleidleisio. Nid oes dyddiad cau yn y gyfraith ar gyfer penderfynu ar bleidleisiau post.
Er mai cyfrifoldeb y Swyddog Cofrestru Etholiadol yw prosesu ceisiadau, mae'r Swyddog Canlyniadau yn gyfrifol am ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post a chynhyrchu cofrestrau gorsafoedd pleidleisio. Dylech gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd) i sefydlu'r pwynt ymarferol diweddaraf ar gyfer penderfynu ar geisiadau am bleidlais bost ar gyfer pob etholiad er mwyn sicrhau eich bod chi a’r Swyddog Canlyniadau yn gallu cyflawni eich dyletswyddau’n effeithiol.
Fel rhan o hyn, dylech chi a’r Swyddog Cofrestru Etholiadol ystyried y canlynol:
- pwysigrwydd cefnogi etholwyr i allu pleidleisio yn y modd y maent wedi dewis, a rhoi gwasanaeth cyson i’r etholwyr i gyd
- yr amser a gymerir i ddosbarthu pleidleisiau post mewn pryd iddynt gael eu derbyn a’u dychwelyd
- y darpariaethau a’r amserlen ar gyfer ailddosbarthu pleidleisiau post
- yr angen i gynhyrchu cofrestrau gorsafoedd pleidleisio cywir a chyflawn cyn y diwrnod pleidleisio
Er y bydd y penderfyniad ynghylch beth fydd yn ymarferol yn fater i chi a’r Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol, rydym yn argymell na ddylai unrhyw derfyn amser ar gyfer penderfynu y byddwch yn ei osod fod yn gynharach na 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Canllaw yn unig yw’r argymhelliad hwn, nid yw’n ofynnol. Serch hynny, byddai’n galluogi’r Swyddog Cofrestru Etholiadol i fodloni ei rwymedigaeth i sicrhau bod y rhestrau o bleidleiswyr absennol ar gael i'w harchwilio a’u hanfon atoch (pan nad chi yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd), cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Yna bydd angen anfon y bleidlais bost, a bydd angen i'r pleidleisiwr dderbyn, cwblhau a dychwelyd ei bleidlais bost erbyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 71, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 71 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13AB ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13AB(5) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 56 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(Rheoliadau 2001)↩ Back to content at footnote 4 a b
- 5. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001rheoliad 56, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 56 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001rheoliad 56(3A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001rheoliad 56(3A) ↩ Back to content at footnote 6
Newidiadau i'r trefniadau ar gyfer pleidleisio absennol cyn etholiad
Y dyddiad cau ar gyfer gwneud newidiadau i drefniadau pleidleisio absennol presennol, neu ganslo pleidlais bost bresennol yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Efallai y bydd unigolyn yr anfonir ei bleidlais bost ato'n gynnar yn amserlen yr etholiad yn ei chael cyn y dyddiad hwn, ond yna'n penderfynu nad yw am bleidleisio drwy'r post mwyach. Bydd dal yn gallu newid ei drefniadau pleidleisio absennol fel eu bod ar waith yn yr etholiad ar yr amod bod ei gais yn cyrraedd erbyn y dyddiad cau ac nad yw wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post eto. Bydd angen i chi gael system ar waith sy'n eich galluogi i nodi'n brydlon a oes papur pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd eto.
Ni chaniateir i etholwr sydd wedi cael ei becyn pleidleisio drwy'r post ac sydd eisoes wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post a gwblhawyd ganslo na newid ei drefniadau pleidleisio absennol ar gyfer yr etholiad hwnnw.
Gall unrhyw etholwr sydd eisoes wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post wneud cais i newid ei drefniadau pleidleisio absennol o hyd, ond ni chaiff y newidiadau hyn eu rhoi ar waith nes unrhyw ddigwyddiad pleidleisio yn y dyfodol, oni bai fod y papur pleidleisio wedi cael ei ddychwelyd fel papur a ddifethwyd neu a gollwyd cyn i'r dyddiad cau ar gyfer newidiadau fynd heibio. Mae hyn hefyd yn wir yn achos etholwr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy, lle mae gan ei ddirprwy bleidlais bost a'i fod eisoes wedi pleidleisio ar ran yr etholwr drwy ddychwelyd ei bleidlais bost wedi'i chwblhau.
Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gwneud y newidiadau i unrhyw drefniadau pleidleisio absennol, a rhaid iddo eich hysbysu pryd bynnag y bydd wedi caniatáu'r canlynol1
:
- canslo pleidlais bost
- newid o bleidlais bost i bleidlais drwy ddirprwy
- newid o bleidlais drwy ddirprwy i bleidlais bost
- cais am i bapur pleidleisio drwy'r post gael ei anfon i gyfeiriad gwahanol
- canslo cais i benodi dirprwy
mewn da bryd i hynny ddigwydd ar gyfer yr etholiad.
Dylech hysbysu'r Swyddog Cofrestru Etholiadol pan gaiff papurau pleidleisio drwy'r post eu dosbarthu oherwydd, yn ymarferol, dim ond o'r pwynt hwnnw ymlaen a chyn y dyddiad cau ar gyfer canslo a newid y byddai angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gadarnhau a yw papur pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd ac felly a ellir caniatáu newid neu ganslo mewn da bryd ar gyfer yr etholiad.
Bydd angen i chi gasglu unrhyw bapurau pleidleisio a gafwyd cyn y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio absennol ac a ganslwyd wedyn gan yr etholwr. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar anfon pleidleisiau post.
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdod lleol, dylech gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill er mwyn penderfynu sut y caiff unrhyw newidiadau i drefniadau pleidleisio absennol a gwybodaeth am bapurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd eu cyfnewid ar ôl hynny er mwyn sicrhau'r canlynol:
- bod y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gwybod a gafwyd papur pleidleisio drwy'r post, ac wedyn a ellir caniatáu cais i newid y trefniadau ar gyfer pleidleisio absennol cyn yr etholiadau
- y gallwch ganslo'r papurau pleidleisio drwy'r post perthnasol os cafodd y cais sêl bendith
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13B ↩ Back to content at footnote 1
Pleidleisio drwy ddirprwy
Mae angen dilysu hunaniaeth ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy. Lle na ellir gwirio hunaniaeth yn erbyn cofnodion DWP, mae gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol hyd at a chan gynnwys y diwrnod pleidleisio i dderbyn y dystiolaeth ofynnol neu'r ardystiad angenrheidiol gan yr ymgeisydd a gwneud penderfyniad.
Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn darparu gwybodaeth am geisiadau i benodi dirprwy a wneir gan ymgeisydd ar gyfer person i bleidleisio ar ei ran a wneir erbyn 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio, unwaith y bydd y ceisiadau hynny wedi bod drwy broses ddilysu hunaniaeth ac wedi eu penderfynu. Rhaid i chi roi’r rhannau perthnasol o’r rhestr dirprwyon hon i’r Swyddogion Llywyddu.1
Efallai y bydd angen i chi wneud newid i'r gofrestr brintiedig os yw dirprwy wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post a bod y cais yn cael ei benderfynu yn agos at yr etholiad. Mae ein canllaw ar gofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am newidiadau y gellir eu gwneud i'r gofrestr ar ôl iddi gael ei hargraffu. Rhaid i gofrestr yr orsaf bleidleisio gael ei marcio ag ‘A’ wrth ymyl enw’r etholwr, gan na all unrhyw etholwr sydd wedi penodi dirprwy bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio mwyach os yw’r dirprwy wedi gwneud cais i bleidleisio drwy’r post. Bydd rhestr ar wahân yn cynnwys manylion dirprwyon drwy’r post.2
Etholaethau trawsffiniol
Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn darparu gwybodaeth am geisiadau i benodi dirprwy a wneir gan ymgeisydd ar gyfer person i bleidleisio ar ei ran a wneir erbyn 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio, unwaith y bydd y ceisiadau hynny wedi bod drwy broses ddilysu hunaniaeth ac wedi eu penderfynu.
Pleidleisio drwy ddirprwy
Cyfyngiadau ar bleidleisio drwy ddirprwy
Ni all person gael mwy nag un dirprwy wedi'i benodi ar gyfer etholiadau Senedd y DU yn yr un etholaeth neu rywle arall ar unrhyw adeg.3
Nid oes gan berson hawl i bleidleisio fel dirprwy yn etholiad Senedd y DU ar ran mwy na phedwar etholwr. O fewn y pedwar etholwr, ni all mwy na dau etholwr fod yn etholwyr domestig. Etholwyr domestig yw'r etholwyr hynny nad ydynt yn bleidleiswyr gwasanaeth nac yn etholwyr tramor.4
Mae'n drosedd:
- i berson benodi yn fwriadol dirprwy sydd eisoes yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer dau neu fwy o etholwyr domestig5
- i berson sydd wedi'i gofrestru fel etholwr tramor neu'n bleidleisiwr gwasanaeth benodi dirprwy sydd eisoes yn ddirprwy ar gyfer pedwar neu fwy o etholwyr (na all mwy na dau o'r rhain fod yn etholwyr domestig)6
- i bleidleisio fel dirprwy ar gyfer mwy na dau etholwr domestig7
- i bleidleisio fel dirprwy ar gyfer mwy na phedwar etholwr (ni all mwy na dau o'r rhain fod yn etholwyr domestig)8
- 1. Rheoliad 56(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 56(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 6(2) o Atodlen 4 i Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 2000 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 61 (3B)(b). Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Adran 61 (1A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Adran 61 (1A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Adran 61 (3B) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 61 (3B) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
Pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng
Efallai y bydd etholwr yn sylweddoli na all fynd i'r orsaf bleidleisio ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer trefnu dirprwy arferol fynd heibio. Gall etholwr benodi dirprwy mewn argyfwng i bleidleisio ar ei ran yn yr orsaf bleidleisio o dan rai amgylchiadau:1
- yn achos anabledd (p'un a yw'n gyflwr meddygol, salwch neu rywbeth arall) sy'n digwydd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol i benodi dirprwy (h.y. ar ôl 5pm ar y chweched diwrnod gwaith cyn yr etholiad)
- os yw'n glaf iechyd meddwl a gedwir o dan bwerau sifil (h.y. y rhai nad ydynt yn droseddwyr a gadwyd hefyd)
- os yw ei alwedigaeth, ei wasanaeth neu ei gyflogaeth yn golygu na all fynd i'r orsaf bleidleisio ei hun, ar yr amod ei fod ond yn dod yn ymwybodol o hyn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol am ddirprwy (h.y. 5pm ar y chweched diwrnod gwaith cyn y bleidlais)
Gall etholwyr wneud cais am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol am ddirprwy fynd heibio (h.y. ar ôl 5pm ar y chweched diwrnod gwaith cyn yr etholiad) hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio. Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gytuno ag ef ar ddull o gyfleu unrhyw ychwanegiadau at y rhestr dirprwyon sy'n deillio o ganiatáu ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech gytuno â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill ar ddull o rannu unrhyw ychwanegiadau at y rhestr dirprwyon sy'n deillio o ganiatáu ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng.
Pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng
Nid yw'n ofynnol i rywun a benodir yn ddirprwy mewn argyfwng ddarparu unrhyw ddogfennaeth er mwyn cael caniatâd i bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio. Pryd bynnag y caiff dirprwy mewn argyfwng ei benodi, dylech hysbysu staff yr orsaf bleidleisio briodol cyn gynted â phosibl ar ôl i'r dirprwy gael ei benodi, a thrwy unrhyw ffordd bosibl.
Lle bynnag y bo modd, fodd bynnag, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol roi llythyr i ddirprwy unrhyw bleidleisiwr y derbyniwyd ei gais yn ei awdurdodi i weithredu fel dirprwy, a ddylai gynnwys manylion yr unigolyn y mae'n pleidleisio ar ei ran. Dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gynghori'r dirprwy i fynd â'r awdurdodiad hwnnw gydag ef pan fydd yn mynd i bleidleisio a'i roi i staff yn yr orsaf bleidleisio. Os darperir llythyr o'r fath yn yr orsaf bleidleisio, dylai staff yr orsaf bleidleisio ei farcio er mwyn dangos bod y dirprwy wedi cael papur pleidleisio a dylid cadw'r llythyr wedi'i farcio gyda'r rhestr dirprwyon.
Lle y bo'n bosibl, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd ddarparu rhestr atodol o ddirprwyon y gellir ei rhoi i'r orsaf bleidleisio berthnasol a'i hychwanegu at y rhestr a ddarparwyd yn wreiddiol.
Dylai pa ddull bynnag y cytunwyd arno i gyfleu ychwanegiadau at y rhestr dirprwyon ar y diwrnod pleidleisio gael ei egluro yn y sesiwn hyfforddi i staff gorsafoedd pleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth am hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio yn ein canllawiau ar staffio a hyfforddi.
Gallech ofyn i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gydweithio â'r swyddfa gofrestru etholiadol o ran ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng a ganiateir ar y diwrnod pleidleisio a'u hysbysu o'r gweithdrefnau i'w dilyn. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar bleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 a56(3A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 a56(3A) a (3B) ↩ Back to content at footnote 1
Cynllunio ar gyfer penderfynu ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy yn agos at yr etholiad
Mae'n rhaid i geisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy ddod i law erbyn y dyddiad cau ar gyfer yr etholiad perthnasol sydd ar ddod. Fodd bynnag, gellir penderfynu ar y broses o ddilysu hunaniaeth hyd at ac yn cynnwys y diwrnod pleidleisio.
Nid oes dyddiad cau deddfwriaethol wedi'i ddarparu ar gyfer penderfynu ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy. Dylech gysylltu â’r Swyddog Cofrestru Etholiadol (lle nad chi yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd) i:
- gydlynu penderfyniadau ar geisiadau a diweddariadau dilynol i gofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol
- monitro nifer y ceisiadau nad ydynt wedi'u paru â'r Adran Gwaith a Phensiynau ar y Porth Swyddog Cofrestru Etholiadol yn y cyfnod cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy
- cytuno ar negeseuon ar gyfer eich gweithgarwch cyfathrebu ag etholwyr sy'n gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn agos at y dyddiad cau ar gyfer pleidleisio
Ar gyfer yr etholwyr hynny y penderfynir ar eu ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy yn ystod yr wythnos yn arwain at y diwrnod pleidleisio, bydd angen i chi nodi sut y byddwch yn:
- rheoli'r cyfathrebiadau gyda'r etholwr a'r dirprwy a benodir
- newid ac argraffu’r rhestr o ddirprwyon ar gyfer yr orsaf bleidleisio briodol cyn gynted â phosibl ar ôl penodi’r dirprwy ac, os penderfynir ar y cais am ddirprwy ar y diwrnod pleidleisio, sut y byddwch yn cyfathrebu hyn i staff priodol yr orsaf bleidleisio mewn unrhyw fodd sydd ar gael i chi
- sicrhau bod amser i ddirprwy sy’n pleidleisio gael gwybod eu bod wedi’u penodi a mynd i’r orsaf bleidleisio a phleidleisio erbyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio
Cross-boundary constituencies
Os ydych chi fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gyfrifol am etholaeth sy’n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech gysylltu â’r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol i sicrhau eich bod yn cael y wybodaeth am unrhyw etholwyr newydd sydd hefyd wedi gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy cyn gynted â phosibl fel y gallwch drefnu i'r trefniadau angenrheidiol gael eu gwneud.
Planning for the determination of proxy vote applications close to a poll
Rheoli cyfathrebiadau ag etholwyr sy'n gwneud cais am bleidlais drwy ddirprwy yn agos at y dyddiad cau
Dylech sicrhau eich bod chi a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd) yn cytuno ar y negeseuon mewn unrhyw gyfathrebiadau ag etholwyr sy'n gwneud cais yn agos at y dyddiad cau. O ystyried y gall y gwaith o brosesu ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy gymryd mwy o amser oherwydd y gofyniad i ddilysu pwy ydynt, efallai y bydd angen negeseuon penodol ar gyfer etholwyr sy'n gwneud cais yn agos at y dyddiad cau.
Rheoli ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy na fydd yn cael eu penderfynu erbyn y diwrnod pleidleisio
Dylech sicrhau eich bod yn cysylltu ag unrhyw ymgeiswyr nad yw eu cais am bleidlais drwy ddirprwy yn mynd i gael ei benderfynu cyn y diwrnod pleidleisio.
Gallwch ddefnyddio e-bost neu ffôn i gysylltu ag ymgeiswyr os oes gennych y manylion cyswllt hynny. Dylech sicrhau eu bod yn gwybod:
- na fydd eu cais am bleidlais drwy ddirprwy yn cael ei brosesu mewn pryd ar gyfer y diwrnod pleidleisio
- beth yw eu hopsiynau ar gyfer pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio – h.y. gorsaf bleidleisio yn unig neu ddirprwy brys
- lle bo'n briodol, y bydd eu cais yn cael ei brosesu ar gyfer etholiadau yn y dyfodol
Rheoli’r gwaith o gyfathrebu unrhyw ychwanegiadau at y rhestr o ddirprwyon lle penderfynir ar geisiadau hyd at ac yn cynnwys diwrnod yr etholiad
Dylech gytuno â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd) ar ddull o gyfleu unrhyw ychwanegiadau i'r rhestr o ddirprwyon sy'n deillio o benderfynu ar geisiadau am bleidlais drwy ddirprwy hyd at ac yn cynnwys diwrnod yr etholiad.
Os yw’r rhestrau dirprwy wedi’u hargraffu eisoes, dylai’r Swyddog Cofrestru Etholiadol (os nad chi yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd), lle bo modd, ddarparu rhestr atodol o ddirprwyon y gellir ei rhoi i’r orsaf bleidleisio berthnasol a’i hychwanegu at y rhestr a ddarparwyd yn wreiddiol.
Os bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn penderfynu ar gais am ddirprwy ar y diwrnod pleidleisio, dylech hefyd roi gwybod i staff priodol yr orsaf bleidleisio cyn gynted â phosibl ar ôl i'r dirprwy gael ei benodi, drwy unrhyw ddull sydd ar gael i chi.
Er y bydd yn ofynnol i berson a benodir fel dirprwy ddangos ID ffotograffig yn yr orsaf bleidleisio i brofi pwy ydynt cyn y gellir rhoi papur pleidleisio iddynt, nid yw'n ofynnol iddynt brofi eu bod wedi'u penodi'n ddirprwy. Fodd bynnag, lle bynnag y bo modd, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol roi llythyr i ddirprwy unrhyw bleidleisiwr y mae eu cais wedi'i dderbyn yn eu hawdurdodi i weithredu fel dirprwy, a ddylai gynnwys manylion y person y mae'n pleidleisio ar eu rhan. Dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gynghori'r dirprwy i fynd â'r awdurdodiad hwnnw gyda nhw a'i roi i staff yr orsaf bleidleisio. Os darperir llythyr o'r fath yn yr orsaf bleidleisio, dylai staff yr orsaf bleidleisio ei farcio i ddangos bod y dirprwy wedi cael papur pleidleisio ac yna dylid cadw'r llythyr wedi'i farcio gyda'r rhestr dirprwyon.
Dylid ymdrin â'r dull y cytunwyd arno ar gyfer cyfathrebu ychwanegiadau i'r rhestr dirprwyon ar y diwrnod pleidleisio yn y sesiwn hyfforddiant ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth am hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio yn ein canllawiau ar staffio a hyfforddiant.
Gallech ofyn i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gysylltu â'r swyddfa cofrestru etholiadol ynghylch ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy a ganiateir ar y diwrnod pleidleisio a dylent roi gwybod iddynt am y gweithdrefnau i'w dilyn.
Anfon a dosbarthu pleidleisiau post
Fel rhan o'ch cynllunio ar gyfer cyflawni prosesau allweddol, byddwch wedi gwneud penderfyniadau ar y broses ar gyfer anfon pleidleisiau post a sut y byddwch yn dosbarthu'r rhain.
Mae’r adran hon yn rhoi rhagor o ganllawiau mewn perthynas ag anfon a dosbarthu pleidleisiau post, gan gynnwys ailanfon a chanslo pecynnau pleidleisiau post, yn ogystal â chanllawiau i sicrhau ansawdd y broses. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar sut i gynllunio ar gyfer a rheoli unrhyw geisiadau am bleidlais bost a dderbynnir cyn y dyddiad cau, sef 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn dyddiad y bleidlais, sy'n gofyn am ddilysu hunaniaeth ac y gellir eu pennu hyd at ddiwrnod y bleidlais ac ar y diwrnod ei hun.
Cynllunio ar gyfer anfon pleidleisiau post
Pwy ddylai cael pleidlais bost?
Mae’n rhaid i chi anfon pleidlais bost at:
- unrhyw etholwr sy’n ymddangos ar y rhestr o bleidleiswyr post ar gyfer yr etholiad
- unrhyw ddirprwy sy’n ymddangos ar y rhestr o bleidleiswyr post ar gyfer yr etholiad
Amseriad anfon y pleidleisiau post
Mae’n rhaid anfon pleidleisiau post cyn gynted ag y bo'n ymarferol.1
Dylech roi trefniadau ar waith i sicrhau bod yr etholwyr yn derbyn eu papurau pleidleisio drwy’r post cyn gynted â phosibl ac yn blaenoriaethu unrhyw bleidleisiau post y mae angen iddynt efallai gael eu hanfon tramor er mwyn macsimeiddio’r amser sydd gan bleidleiswyr post i dderbyn, cwblhau a dychwelyd eu pleidlais bost.
Etholwr presennol gyda threfniadau pleidleisio drwy'r post presennol
Unwaith y bydd y dyddiad cau ar gyfer tynnu ymgeiswyr yn ôl wedi mynd heibio, dylid anfon papurau pleidleisio drwy'r post at etholwyr presennol sydd eisoes wedi gwneud cais llwyddiannus am bleidlais bost.
Etholwyr presennol sy'n gwneud ceisiadau post newydd
Dylech gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol eisoes) i sicrhau eich bod yn cael yr wybodaeth am unrhyw etholwyr sy'n gwneud cais yn ddiweddarach am bleidlais bost erbyn y dyddiad cau perthnasol ar gyfer pleidlais absennol. Lle bo’r ymgeisydd wedi gwneud cais am bleidlais absennol erbyn y dyddiad cau perthnasol ar gyfer pleidlais absennol, mae’r cais am bleidlais absennol yn gofyn am ddilysu hunaniaeth a lle na ellir dilysu hunaniaeth yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau, mae gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol hyd at a chan gynnwys y diwrnod pleidleisio i dderbyn y dystiolaeth ofynnol neu’r ardystiad angenrheidiol gan yr ymgeisydd a gwneud penderfyniad. Gan na ellir caniatáu pleidlais absennol nes bod y cais am bleidlais absennol wedi’i benderfynu’n gadarnhaol, dylech felly hefyd gysylltu â’r Swyddog Cofrestru Etholiadol (lle nad chi yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol eisoes) i gynllunio sut y byddwch yn cydlynu’r penderfyniad a’r broses o gyhoeddi pecynnau post ar gyfer etholiad ar ôl hynny.
Etholwyr newydd wnaeth geisiadau am bleidlais bost ochr yn ochr â’u cais cofrestru
Rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gyhoeddi dau hysbysiad newid etholiad interim cyn cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad terfynol ar y pumed diwrnod gwaith cyn yr etholiad.2 Dylech hefyd gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol eisoes) i gynllunio sut y byddwch yn cydlynu penderfynu ar y pecynnau post ar gyfer etholiad a'u hanfon wedyn.
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), yn gyfrifol am etholaeth sy’n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech gysylltu â’r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod/awdurdodau lleol eraill cyn gynted â phosibl i sicrhau eich bod yn cael y data perthnasol ar gyfer unrhyw etholwyr newydd sydd wedi gwneud cais am bleidlais bost ar ôl i’r ceisiadau hynny fod drwy’r broses ddilysu hunaniaeth a chael eu penderfynu.
Cynllunio ar gyfer anfon pleidleisiau post
Dylech ymgysylltu’n agos â’r Swyddog Cofrestru Etholiadol (pan nad chi yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd) i:
- i gynllunio sut byddwch yn cydlynu sut y caiff ceisiadau eu pennu a phecynnau pleidleisiau post dilynol eu hanfon
- monitro nifer y ceisiadau nad ydynt yn cael eu paru â'r Adran Gwaith a Phensiynau ar y Porth Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn y cyfnod cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost
- cytuno ar negeseuon i egluro, hyd nes y ceir tystiolaeth i ddilysu hunaniaeth ymgeisydd, na ellir cynhyrchu eu pecyn pleidlais bost a allai olygu efallai na fyddant yn gallu derbyn, cwblhau a dychwelyd eu pleidlais bost erbyn y diwrnod pleidleisio
- cytuno, os cyn y dyddiad cau ar gyfer penodi dirprwy, y cysylltir â’r etholwr i egluro y gallai pleidlais drwy ddirprwy fod yn opsiwn arall ond y bydd angen dilysu hunaniaeth yr ymgeisydd o hyd.
Bydd angen i chi hefyd ystyried unrhyw drefniadau penodol y mae angen i chi eu rhoi ar waith i:
- rheoli cynhyrchu pecynnau pleidleisio drwy'r post ychwanegol yn agos at y diwrnod pleidleisio
- rheoli dosbarthu neu gasglu pleidleisiau post ychwanegol yn agos at y diwrnod pleidleisio
- cefnogi etholwyr i ddychwelyd eu pleidleisiau post wedi'u cwblhau erbyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio
Dylech gofrestru’n rheolaidd gyda’ch Swyddog Cofrestru Etholiadol i olrhain nifer y ceisiadau yn y cyfnod cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidlais bost nad ydynt yn paru â'r Adran Gwaith a Phensiynau, fel eich bod yn barod i’r niferoedd posibl o becynnau pleidleisio drwy’r post gael eu cynhyrchu ar fyr rybudd. – p'un a yw hynny'n digwydd yn fewnol neu'n allanol.
Os bydd deunydd ysgrifennu pleidleisio drwy'r post yn cael ei gynhyrchu a phleidleisiau post yn cael eu hanfon yn fewnol, sicrhewch eich bod yn archebu digon o becynnau post gwag i'ch galluogi i ddosbarthu pecynnau ar fyr rybudd yn y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio.
Os caiff deunydd ysgrifennu pleidleisio drwy'r post ei gynhyrchu ar gontract allanol, bydd angen i chi fod yn fodlon y bydd y gwaith o gynhyrchu'r deunydd ysgrifennu pleidleisio drwy'r post, gan gynnwys sicrhau ansawdd y broses yn ogystal â'r dosbarthu, yn cael ei wneud o fewn amserlen a fydd yn caniatáu i bleidleisiwr post dderbyn, cwblhau a dychwelyd eu pleidlais bost cyn diwedd y cyfnod pleidleisio. Os nad ydych yn fodlon y gellir gwneud hyn, dylech ystyried ymarferoldeb cynhyrchu pecynnau pleidleisio drwy'r post yn fewnol.
Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar Anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post dilynol.
O ystyried y gall y gwaith o brosesu ceisiadau am bleidlais bost a chyhoeddi pecynnau pleidleisio drwy'r post gymryd mwy o amser oherwydd y gofyniad i ddilysu hunaniaeth yr etholwr, efallai y bydd angen anfon negeseuon penodol at etholwyr sy'n gwneud cais yn agos at y dyddiad cau i egluro efallai na fyddant yn derbyn eu pleidlais bost mewn pryd ar gyfer yr etholiad. Os yw hyn cyn y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am ddirprwy, gallai hyn gynnwys negeseuon i helpu etholwyr i ystyried a allai pleidlais ddirprwy dros dro fod yn fwy addas ar gyfer eu hamgylchiadau lle mae risg na fyddant yn derbyn eu pleidlais bost mewn pryd i’w chwblhau, er enghraifft, os ydynt yn mynd i ffwrdd ar wyliau.
- 1. Rheoliad 71, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 13AB ac 13B Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Y broses anfon
Darperir ar gyfer y prosesau i'w dilyn wrth anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post mewn deddfwriaeth.1
Rhestr rhifau cyfatebol
Rhaid i chi gynhyrchu rhestr rhifau cyfatebol mewn sesiynau anfon pleidleisiau post.
Pennir y rhestr rhifau cyfatebol a rhaid iddi gynnwys rhif y papur pleidleisio a marc adnabod unigryw pob papur pleidleisio a anfonir at yr etholwr hwnnw.2
Pan gyhoeddir y papur pleidleisio, rhaid i'r rhif etholwr gael ei farcio ar y rhestr rhifau cyfatebol wrth ymyl rhif y papur pleidleisio a'r marc adnabod unigryw.3
Mae rhestrau newydd a phecynnau cysylltiedig yn ofynnol ar gyfer pob swp a anfonir. Gallai'r rhestr gael ei hargraffu ar un ochr a'i thorri yn y man lle y cafodd y papur pleidleisio olaf ei anfon ar gyfer unrhyw swp penodol o becynnau pleidleisio drwy'r post. Gellir wedyn ddefnyddio'r rhestr rhifau cyfatebol sy'n weddill mewn unrhyw sesiynau anfon eraill ac ar gyfer y broses o anfon papurau pleidleisio drwy'r post newydd.
Rhaid selio'r rhestr rhifau cyfatebol sy'n ymwneud â'r papurau pleidleisio a anfonwyd mewn pecyn cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post, a dim ond drwy orchymyn llys y gellir ei agor ac archwilio hwn.4
Y pecyn papur pleidleisio
Rhaid i rif y papur(au) pleidleisio drwy'r post gael ei gynnwys ar y datganiad pleidleisio drwy'r post a anfonir gyda'r papur(au) pleidleisio.5 6
Y cyfeiriad y dylid anfon y pecyn pleidleisio drwy'r post iddo yw'r cyfeiriad a nodir yn y rhestr pleidleiswyr post berthnasol. Yn achos dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post, dyma'r cyfeiriad a nodir yn y rhestr dirprwyon sy’n pleidleisio drwy’r post. Yn achos etholwr dienw, gellir dod o hyd i'r cyfeiriad yn y cofnodion o geisiadau a ganiatawyd.
Mae ein canllawiau ar gynhyrchu deunydd swyddfa pleidleisio drwy'r post yn cynnwys gwybodaeth am y cynnwys sydd ei angen ar gyfer y pecyn pleidleisio drwy'r post.
Marcio'r cofrestrau gorsafoedd pleidleisio
Er mwyn dangos bod gan etholwr yr hawl i bleidleisio drwy'r post ac na ddylai gael papur pleidleisio arferol mewn gorsaf bleidleisio, rhaid nodi ‘A’ ar gofrestr yr orsaf bleidleisio gan ddefnyddio'r wybodaeth a geir yn y rhestr pleidleiswyr post a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post. Dylech gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd) i sefydlu'r pwynt ymarferol diweddaraf ar gyfer penderfynu ar geisiadau, y broses ar gyfer diweddaru cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol a chyfleu diweddariadau i staff gorsafoedd pleidleisio.
Rhaid rhoi marc yn y rhestr pleidleiswyr post (neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post efallai) i nodi bod pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i anfon.
Dylech gadw trywydd archwilio clir ar gyfer anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post. Fel rhan o hyn, dylech sicrhau bod nifer y pleidleisiau post a anfonir yn cael ei gofnodi'n gywir ar ddiwedd pob sesiwn anfon ac wrth anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post newydd. Bydd angen y rhifau hyn er mwyn cwblhau'r datganiad ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post.
Mae'r tabl hwn yn crynhoi'r broses anfon:
Trefn | Cam i'w gymryd |
---|---|
Cam 1 | Darllen enw a chyfeiriad y pleidleisiwr post o'r rhestr pleidleiswyr post/dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post a chadarnhau bod y manylion hynny'n ymddangos ar yr amlen a anfonir at y pleidleisiwr. |
Cam 2 | Darllen rhif y papur pleidleisio a restrir.
|
Cam 3 | Rhoi elfennau gwahanol y pecyn pleidleisio drwy'r post yn yr amlen a anfonir gan gynnwys:
|
Cam 4 | Marcio'r rhestr pleidleiswyr post / pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy er mwyn dangos eich bod wedi cwblhau'r pecyn pleidleisio drwy'r post. |
Cam 5 | Cau'r amlenni fel y gofynnir gan y goruchwyliwr. Ni ddylid eu selio oni bai y ceir cyfarwyddyd i wneud hynny. |
Pwy all fod yn bresennol yn y broses anfon pleidleisiau post?
Yn ogystal â chi a'ch staff, caiff cynrychiolwyr y Comisiwn ac arsylwyr achrededig fod yn bresennol pan anfonir pleidleisiau post.7
6
Os ydych wedi gosod y broses o anfon pleidleisiau post ar gontract allanol, dylech sicrhau bod y bobl hyn yn gallu cael mynediad i safle'r cwmni sy'n gyfrifol am hyn.
Rhaid rhoi copi o'r darpariaethau cyfrinachedd perthnasol i unrhyw un sy'n bresennol mewn sesiwn anfon pleidleisiau post, gan gynnwys eich staff.8 7
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 72, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 72 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 72(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 rheoliad 72(2) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 Rheoliad 72(2), Rheoliadau cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 Rheoliad 72(2) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) rheoliad 75(1), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) rheoliad 75(1) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 72(4), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) rheoliad 72(4) ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 72(4), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 72(4)↩ Back to content at footnote 6 a b
- 7. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 67, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 67 ↩ Back to content at footnote 7 a b
- 8. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a66 ↩ Back to content at footnote 8
Sicrhau ansawdd y broses anfon
Chi sy'n gyfrifol am sicrhau y caiff y broses ei chynnal yn unol â'r ddeddfwriaeth, ni waeth a ydych wedi gosod y broses ar gontract allanol ai peidio.
Mae cynnwys y pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i bennu a dylech sicrhau bod yr holl fanylion perthnasol wedi'u cynnwys ar y deunyddiau hynny. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am yr hyn y mae'n rhaid ei gynnwys yn y pecyn pleidleisio drwy'r post a sut i sicrhau ansawdd y broses gynhyrchu yn ein canllawiau: Cynhyrchu deunyddiau pleidleisio drwy'r post.
Dylech hefyd sicrhau bod gennych drefniadau ar waith sy'n eich galluogi i sicrhau ansawdd y broses anfon pleidleisiau post o'r dechrau i'r diwedd, gan gynnwys:
- os byddwch wedi gosod y broses anfon ar gontract allanol, sicrhau bod aelod o staff, sy'n gwybod am y fanyleb y cytunwyd arni, yn bresennol pan gaiff pleidleisiau post eu hanfon
- cadarnhau bod y manylion cywir ar y deunydd a bod pecynnau'n cael eu coladu'n briodol â'r holl elfennau gofynnol
- gwirio'r pecynnau ar ddechrau a diwedd dosbarthiadau etholiadol
- cynnal hapwiriadau drwy wirio o leiaf ddau becyn fesul 250 o becynnau pleidleisio drwy'r post o fewn dosbarthiadau etholiadol fel y gellir gwirio croestoriad cynrychioliadol o'ch ardal ac o fewn pob swp
- gwirio bod pecynnau a anfonir i gyfeiriadau tramor yn cynnwys amlen ymateb y gellir ei defnyddio dramor
- cadw trywydd archwilio o'r deunydd sydd wedi cael ei wirio a'r prosesau a gyflawnwyd
Dylech roi sylw arbennig i wirio'r canlynol:
- bod rhif y papur pleidleisio ar gefn y papur pleidleisio yn cyfateb yn union i rif y papur pleidleisio ar y datganiad pleidleisio drwy'r post ategol
- bod enw'r etholwr ar y datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i enw'r etholwr ar yr amlen a anfonir ato
- bod yr holl eitemau gofynnol yn yr amlen sy'n cael ei hanfon
Os yw'r broses anfon ar gontract allanol, dylid cynnal trafodaethau i hwyluso'r gwiriadau hyn ar adeg negodi'r contract a dylai unrhyw beth y cytunir arno gael ei adlewyrchu ynddo.
Anfon pleidleisiau post i gyfeiriadau tramor
Dylai unrhyw becynnau pleidleisio drwy'r post i'w hanfon dramor gael eu blaenoriaethu er mwyn caniatáu digon o amser i'r pecyn pleidleisio gyrraedd yr etholwr a chael ei gwblhau a'i ddychwelyd. Fel rhan o'ch paratoadau ar gyfer anfon pleidleisiau post, dylech gytuno â'ch argraffwyr ar broses a fydd yn eich galluogi i wneud hyn.
Dylai pleidleisiau post sy'n mynd dramor gael eu hanfon drwy wasanaeth post awyr (neu gan Swyddfa'r Post Lluoedd Prydain ar gyfer pleidleiswyr perthnasol yn y lluoedd arfog) fel bod cymaint o amser â phosibl iddynt dderbyn, cwblhau a dychwelyd pleidleisiau post. Dylai pecynnau pleidleisio drwy'r post a anfonir dramor gael eu didoli a'u marcio ar gyfer y dosbarthwr er mwyn eu hanfon drwy'r gwasanaeth priodol.
Dylech gysylltu â'r Post Brenhinol ynghylch cost cludiant ar gyfer anfon eitemau dramor a sicrhau bod y gost gywir o ran cludiant ar bob pecyn pleidleisio drwy'r post sy'n mynd allan.
Rhaid i chi gynnwys amlen er mwyn hwyluso dychwelyd y pecyn pleidleisio drwy'r post,1
ond ar gyfer eitemau a anfonir dramor, ni ddylai'r amlen gynnwys stamp dychwelyd ar gyfer y DU oherwydd ni fydd yn ddigon i ddychwelyd y pecyn pleidleisio drwy'r post i'r DU a gallai beri oedi wrth ddychwelyd y pecyn pleidleisio drwy'r post a gwblhawyd. Yn hytrach, dylech wneud trefniadau gyda'r Post Brenhinol i ddefnyddio trwydded ymateb busnes ryngwladol ar bob amlen dychwelyd a roddir mewn pecynnau pleidleisio drwy'r post a anfonir i gyfeiriadau dramor er mwyn hwyluso'r broses o ddychwelyd pecynnau pleidleisio drwy'r post wedi'u cwblhau yn brydlon o'r tu allan i'r DU.
Os nad yw'n realistig o bosibl i becyn pleidleisio drwy'r post gael ei anfon, ei gwblhau a'i ddychwelyd cyn diwedd y cyfnod pleidleisio, dylai'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hysbysu'r etholwr am y ffaith hon a'i gynghori i benodi dirprwy yn ei le.
Wrth gwrs, dewis yr etholwr yw pa ddull o bleidleisio sydd orau ganddo, ond mae'n bwysig hysbysu etholwyr yn llawn o'r amgylchiadau sy'n ymwneud â'u dewis fel y gallant wneud penderfyniad hyddysg.
- 1. Para 40(3) Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Anfon pleidleisiau post at etholwyr dienw
Rhaid i becynnau pleidleisio drwy'r post a anfonir at etholwyr cofrestredig dienw gael eu hanfon mewn amlen neu orchudd nad yw'n datgelu bod yr etholwr wedi'i gofrestru'n ddienw.1
Dylech anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post at etholwyr sydd wedi cofrestru'n ddienw mewn amlen blaen. Ni ddylai'r datganiad pleidleisio drwy'r post gynnwys enw'r etholwr ychwaith.2
Fel rhan o'ch paratoadau ar gyfer anfon pleidleisiau post, dylech gytuno â'ch argraffwyr ar broses a fydd yn eich galluogi i wneud hyn.
Bydd cofnodion y Swyddog Cofrestru Etholiadol o geisiadau a ganiatawyd yn cynnwys y cyfeiriad a ddewiswyd gan yr etholwr dienw ar gyfer anfon ei bleidlais bost iddo.
- 1. Adran 9B o Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983, fel y'i cymhwyswyd gan Adran 2, Dehongli o Orchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 66 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 ↩ Back to content at footnote 2
Sypiau dilynol o becynnau pleidleisio drwy'r post
Ar ôl anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post ar y cam cychwynnol, bydd angen anfon sypiau dilynol o becynnau pleidleisio drwy'r post lle bydd etholwyr wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post yn agos at y terfyn amser ar gyfer pleidleisio absennol, sef 5pm, un diwrnod gwaith ar ddeg cyn y diwrnod pleidleisio.1
Mae'n debyg y bydd eisoes yn gyfnod prysur yn yr amserlen etholiad pan gaiff unrhyw sypiau dilynol o becynnau pleidleisio drwy'r post eu hanfon, felly mae'n bwysig bod y trefniadau angenrheidiol ar waith gennych er mwyn anfon a dosbarthu sypiau dilynol o becynnau pleidleisio drwy'r post mor gyflym ac effeithlon â phosibl.
Dylech sicrhau'r canlynol:
- bod digon o staff gennych i oruchwylio'r broses gyffredinol, p'un a ydych yn dosbarthu pleidleisiau post yn fewnol, neu'n defnyddio darparwr allanol
- bod eich argraffydd yn ymwybodol o amserlenni trosglwyddo data a, lle y bo'n gymwys, ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post
- bod prosesau ar waith gennych i fonitro a sicrhau ansawdd y broses o gynhyrchu a dosbarthu sypiau dilynol o becynnau pleidleisio drwy'r post yn barhaus
Trefniadau arbennig ar gyfer anfon sypiau ad-hoc o becynnau pleidleisio drwy'r post
Dylech drefnu bod system ar waith i sicrhau y gallwch anfon sypiau ychwanegol nas trefnwyd.
Er enghraifft, os dewch yn ymwybodol bod un neu fwy o etholwyr yn mynd i fod ar wyliau neu i ffwrdd ar fusnes erbyn i'r swp nesaf o bleidleisiau post a drefnwyd gael ei anfon dylech, cyn belled ag y bo'n ymarferol, anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post at yr etholwyr unigol hynny y tu allan i'ch cynllun dosbarthu a drefnwyd.
- 1. Para 16(3) Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Opsiynau ar gyfer dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post
Bydd angen i chi roi trefniadau ar waith ar gyfer dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post. Mae gennych ddewis o ddau ddull:1
- â llaw
- trwy'r post
Pa ddull bynnag a ddewiswch, dylech sicrhau bod gennych gynllun manwl sy'n cwmpasu'r holl gamau gweithredu sydd eu hangen i gyflawni'r broses o ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post yn llwyddiannus. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau: Gweithio gyda phartneriaid dosbarthu post.
Lle penderfynwyd ar geisiadau am bleidlais bost yn agos at bleidlais, dylech fod yn fodlon y bydd unrhyw ddull dosbarthu a ddewisir yn caniatáu digon o amser i'r pleidleisiwr dderbyn, cwblhau a dychwelyd ei bleidlais bost erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio.
Os ydych yn credu na fydd pleidlais bost i etholwr y penderfynwyd ar eu cais yn agos at etholiad yn cael ei ddosbarthu mewn pryd, dylech geisio cysylltu â'r etholwr a gwneud trefniadau iddynt gasglu eu pleidlais bost oddi wrthych yn lle hynny lle bo hynny'n ymarferol. Fel rhan o'ch cynllunio uniondeb ar gyfer yr etholiad, dylech roi gwybod i'ch pwynt cyswllt unigol (SPOC) gyda’r heddlu am y dyddiad y byddwch yn dechrau anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post at etholwyr. O’r dyddiad hwn bydd risg uwch o dwyll pleidleisio drwy'r post a dylent gynnwys hyn yn eu cynllunio eu hunain. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau: Cynnal uniondeb.
- 1. Para 40(1) Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Dosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post â llaw
Os byddwch yn penderfynu dosbarthu pleidleisiau post â llaw, dylech gynllunio ar gyfer sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol. Dylech benodi digon o staff i sicrhau bod pecynnau pleidleisio drwy'r post yn cael eu derbyn gan bleidleiswyr post cyn gynted â phosibl er mwyn sicrhau bod pleidleiswyr post yn cael cymaint o amser â phosibl i dderbyn, cwblhau a dychwelyd eu pleidlais bost.
Dylech sicrhau bod staff yn ymwybodol o ystyriaethau diogelu data, a dylech ystyried ei gwneud yn ofynnol i staff gadarnhau'n ysgrifenedig ar adeg recriwtio y byddant yn dilyn eich polisi diogelu data.
Dylech hefyd sicrhau bod system ar waith i fonitro'r broses o ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post, gyda'r nod o sicrhau eu bod wedi cael eu hanfon ledled yr ardal etholaethol gyfan yn unol â'r amserlen gytûn. Gall hyn gynnwys gofyn i staff dosbarthu lenwi taflenni cofnodi, cael goruchwylwyr i gynnal hapwiriadau, a monitro unrhyw achosion lle ceir cyfraddau anarferol o isel o ddychwelyd pleidleisiau post a gwblhawyd fesul dosbarth etholiadol.
Cynllunio ar gyfer dosbarthiadau ad-hoc â llaw
Efallai y bydd amgylchiadau pan fydd angen i chi ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy’r post â llaw, hyd yn oed pan fydd y rhan fwyaf o’ch pecynnau wedi’u dosbarthu drwy’r post, er enghraifft wrth amnewid pecynnau pleidleisio drwy’r post a gollwyd neu a ddifethwyd, neu wrth anfon pecynnau pleidleisio drwy’r post ar gyfer ceisiadau sydd wedi'u penderfynu yn agos at neu ar y diwrnod pleidleisio.
Dylech gynllunio sut y bydd hyn yn gweithio'n ymarferol, gan gynnwys sut y byddwch yn sicrhau y gellir argraffu'r pecynnau pleidleisio drwy'r post hyn a'u dosbarthu ar fyr rybudd. Ceir rhagor o wybodaeth am reoli’r broses o ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy’r post ychwanegol yn agos at yr etholiad yn ein canllawiau ar gynllunio ar gyfer anfon pleidleisiau post.
DDefnyddio'r gwasanaeth post i ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post
Efallai y byddwch yn dewis rhoi'r gwaith o reoli cyflenwad eich pecynnau pleidleisio drwy'r post i bartner dosbarthu neu ofyn i'ch cyflenwr argraffu reoli hyn. Gallwch ddefnyddio'r Post Brenhinol neu unrhyw gwmni dosbarthu masnachol arall i ddosbarthu pleidleisiau post. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau: Gweithio gyda phartneriaid dosbarthu post.
Opsiynau ar gyfer dosbarthu
Os ydych yn defnyddio'r Post Brenhinol i ddosbarthu eich pleidleisiau post, dylech roi trefniadau ar waith ar gyfer y trwyddedau perthnasol a rhifau Ymateb Busnes cyn gynted â phosibl a chadarnhau bod eich deunydd arfaethedig yn bodloni eu manylebau er mwyn osgoi unrhyw oedi posibl pan ddisgwylir i'ch pecynnau pleidleisio drwy'r post gael eu dosbarthu i etholwyr. Os ydych yn defnyddio cwmni dosbarthu masnachol, dylech wneud trefniadau tebyg fel y bo'n briodol.
Dylai eich cynlluniau wrth gefn nodi sut y byddech yn anfon ac yn derbyn unrhyw becynnau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd os na all y Post Brenhinol neu'r cwmni dosbarthu masnachol sydd ar gontract ddosbarthu'r pecynnau pleidleisio drwy'r post, er enghraifft, oherwydd gweithredu diwydiannol.
Os ydych yn defnyddio'r Post Brenhinol i ddosbarthu eich pleidleisiau post, dylech sicrhau bod gennych gopi cyfredol o ganllawiau arferion gorau'r Post Brenhinol ar bleidleisiau post, Managing Postal Voting.
Sicrhau ansawdd y broses ddosbarthu
Dylech wneud trefniadau ar gyfer trosglwyddo'r pecynnau pleidleisio drwy'r post o'ch cwmni argraffu i'r Post Brenhinol neu'r cwmni dosbarthu a ddewiswyd gennych yn ddiogel. Dylech sicrhau bod gweithdrefn a thrywydd archwilio clir ar waith ar gyfer trosglwyddo pecynnau pleidleisio drwy'r post.
Rhaid i chi gyfrif cyfanswm nifer yr amlenni a anfonir a threfnu iddynt gael eu dosbarthu i'ch contractwr dosbarthu ynghyd â derbynneb yn dangos cyfanswm nifer y pecynnau pleidleisio drwy'r post yn y swp hwnnw.1
Dylai'r dderbynneb hon gael ei hardystio gan y Post Brenhinol neu eich cwmni dosbarthu er mwyn cydnabod ei fod wedi derbyn y swp cyn dosbarthu'r pecynnau.
Os bydd eich cyflenwr yn anfon deunyddiau at etholwyr ar eich rhan, mae'n bwysig eich bod yn cadw mewn cysylltiad ag ef pan fydd yr holl ddeunyddiau argraffedig/wedi'u llenwi wedi cael eu cymeradwyo'n derfynol ac yn barod i'w hanfon.
Dylech sicrhau bod eich cyflenwr argraffu yn rhoi cadarnhad i chi pan fydd y broses anfon wedi dechrau, yn ogystal â chadarnhau faint o becynnau sydd wedi cael neu a fydd yn cael eu dosbarthu bob dydd a rhoi gwybod i chi faint o amser y bydd yn ei gymryd i gwblhau'r broses ddosbarthu.
Dylech ofyn i'ch cyflenwr argraffu am gopi o'r docedi post ar gyfer pob swp a gaiff ei anfon er mwyn i chi eu hychwanegu at eich trywydd archwilio ffurfiol ar gyfer y broses. Dylai'r docedi hyn nodi nifer yr eitemau a anfonwyd bob dydd, a chadarnhau pa wasanaethau post a ddefnyddiwyd. Bydd ffotograffau/lluniau wedi'u sganio o'r docedi yn ddigonol at y dibenion hyn.
Os ydych wedi cytuno â'ch cyflenwr argraffu y bydd darparwyr mynediad ymhellach i lawr y gadwyn gyflenwi yn cael eu defnyddio fel rhan o'r broses anfon a dosbarthu, dylech gael y wybodaeth ddiweddaraf gan eich contractwr dosbarthu am hynt y broses drwyddi draw.
Dylech sicrhau bod system ar waith i fonitro'r broses o ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post, gyda'r nod o sicrhau eu bod wedi cael eu hanfon ledled yr ardal etholaethol gyfan yn unol â'r amserlen gytûn.
Bydd pob un o'r mesurau uchod yn helpu i nodi problemau posibl a allai fod wedi codi o ran dosbarthu ac yn bwydo i mewn i unrhyw werthusiad dilynol o berfformiad y contractwr, ac yn eich galluogi i ddarparu gwybodaeth i bleidleiswyr am y dyddiadau y dylent ddisgwyl derbyn deunydd drwy eich sianeli cyfryngau cymdeithasol a chanolfannau galwadau fel y bo'n briodol.
Mesurau sicrhau ansawdd ar gyfer monitro'r broses ddosbarthu
Os oes modd, dylai fod gennych drefniadau ar waith i olrhain dosbarthiadau er mwyn eich helpu i ymateb i unrhyw ymholiadau gan etholwyr ynghylch dosbarthu eu pecyn pleidleisio drwy'r post. Dylech hefyd sicrhau eich bod yn monitro'r lefel o ymholiadau gan etholwyr a ddaw i law drwy bob sianel gan y bydd hyn yn eich helpu i dynnu sylw at unrhyw broblemau a wynebir wrth anfon deunyddiau yn ymarferol.
Dylech fonitro unrhyw achos lle ceir cyfraddau anarferol o isel o ddychwelyd pleidleisiau post a gwblhawyd fesul dosbarth etholiadol oherwydd gall fod yn arwydd o broblemau dosbarthu.
Dylech hefyd sicrhau bod gennych fesurau cyfathrebu clir er mwyn gallu ymdrin ag unrhyw faterion neu ymholiadau yn gyflym. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am sicrhau ansawdd yn ein canllawiau ar reoli contractwyr.
- 1. Para 40(2) 2 Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Ailanfon pecynnau pleidleisio drwy'r post
Mae modd ailanfon pecynnau pleidleisio drwy'r post:1
- yn lle papur neu bapurau pleidleisio drwy'r post a/neu ddatganiad pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd
- yn lle pecyn pleidleisio drwy'r post a gollwyd neu nas derbyniwyd
- er mwyn cywiro gwall gweithdrefnol
Cewch ganllawiau ar y broses i'w dilyn ar gyfer pob math o achos ailanfon ar y tudalennau canlynol.
- 1. Paragraffau 41, 42 a 42A Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
Y weithdrefn ar gyfer rhoi pleidleisiau post newydd yn lle rhai a ddifethwyd
Os bydd unigolyn yn difetha ei bapur pleidleisio drwy'r post a/neu ei ddatganiad pleidleisio drwy'r post, mae'n bosibl y gall gael pecyn pleidleisio drwy'r post newydd. Gellir rhoi pecyn newydd hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.1
Rhaid dychwelyd pob rhan o'r pecyn pleidleisio drwy'r post cyn y gellir anfon pecyn newydd, p'un a ddifethwyd y rhannau hyn ai peidio.2
Mae hyn yn cynnwys:
- rhaid i'r papur pleidleisio a ddifethwyd neu'r datganiad pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd gael ei ddychwelyd atoch, ynghyd â'r papur pleidleisio neu'r datganiad pleidleisio drwy'r post sy'n weddill
- yn amlen ddychwelyd ‘B’
- amlen y papur pleidleisio – ‘A’
Yna gellir rhoi pecyn pleidleisio drwy'r post newydd i'r etholwr.
O dan y ddeddfwriaeth, rhaid canslo unrhyw bapurau pleidleisio a datganiadau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd a gaiff eu dychwelyd a'u selio mewn pecyn ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd, hyd yn oed os mai dim ond un ohonynt a ddifethwyd mewn gwirionedd.3
Mewn rhai amgylchiadau gallwch ganslo pleidlais bost yr ystyrir ei bod wedi'i difetha, hyd yn oed os ydyw wedi'i dychwelyd i'r Swyddog Canlyniadau. Yn yr achos hwn, mae'n rhaid casglu a selio'r papur pleidlais bost a ddifethwyd a'r datganiad pleidleisio drwy'r post fel y disgrifir uchod.4
Os gwneir y cais am becyn pleidleisio drwy'r post newydd rhwng 5pm ar y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio a 5pm ar y diwrnod pleidleisio ei hun, gellir ond roi'r bleidlais bost newydd i'r etholwr os dychwelir y dogfennau a ddifethwyd yn bersonol.5
Mewn achosion o'r fath, dim ond yn bersonol hefyd y gellir rhoi pecyn newydd.
Rhaid i chi roi system ar waith sy'n eich galluogi i gyflwyno pecynnau newydd hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.5
Bydd angen i chi ystyried hyn yn benodol os byddwch wedi rhoi'r gwaith o anfon pleidleisiau post ar gontract allanol.
Bydd angen i chi ystyried a oes angen rhoi trefniadau penodol ar waith ar gyfer etholwyr anabl wrth wneud trefniadau ynghylch rhoi papurau pleidleisio newydd yn lle rhai a ddifethwyd, oherwydd gall fod rhai etholwyr na allant ddod i'r swyddfa etholiadau oherwydd anabledd.
Cadw cofnodion o bapurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd6
Rhaid ychwanegu enw a rhif etholiadol yr etholwr at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd er mwyn dangos bod y bleidlais bost a ddifethwyd wedi cael ei chanslo. Fodd bynnag, ni ddylid ychwanegu enw'r etholwr os yw wedi'i gofrestru'n ddienw. Rhaid hefyd ychwanegu rhif papur pleidleisio'r papur pleidleisio newydd at y rhestr. Yn achos dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post, rhaid i enw a chyfeiriad y dirprwy gael eu hychwanegu at y rhestr, ynghyd â'r manylion eraill.
Mae'r tabl hwn yn crynhoi'r weithdrefn ar gyfer anfon pleidleisiau post newydd yn lle rhai a ddifethwyd:
Cam | Cam i'w gymryd |
---|---|
Cam 1 | Cyn cymryd y camau nesaf, mae'n arfer da i wirio a yw'r pecyn pleidlais bost wedi'i farcio wedi'i ddychwelyd ar y rhestr o bleidleiswyr post neu'r rhestr o bleidleiswyr post drwy ddirprwy - yn yr achos hwn cyfeiriwch at gasglu papurau pleidlais a ganslwyd |
Cam 2 | Gofyn bod y pecyn pleidlais bost cyfan yn cael ei ddychwelyd |
Cam 3 | Anfon pecyn pleidleisio drwy'r post newydd (papur(au) pleidleisio, datganiad pleidleisio drwy'r post a'r amlenni perthnasol) at yr etholwr
|
Cam 4 |
Canslo unrhyw bapurau pleidleisio a datganiadau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd a gafodd eu dychwely
|
Cam 5 |
Selio'r dogfennau a ganslwyd mewn pecyn ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd ac ychwanegu manylion at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd. |
Cam 6 |
Ychwanegu enw* a rhif etholiadol yr etholwr a rhif y papur(au) pleidleisio newydd at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd. Ar gyfer dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, dylid hefyd ychwanegu enw a chyfeiriad y dirprwy. *Ni ddylid ychwanegu enw etholwyr a gofrestrwyd yn ddienw.
|
At ddibenion casglu data ar gyfer y datganiad papurau pleidleisio drwy'r post (Ffurflen K)7 , dylech hefyd ychwanegu manylion unrhyw bapurau pleidleisio a ddifethwyd sydd wedi'u canslo ar y rhestr o'r holl bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd (gweler ein canllawiau ar gadw cofnodion ar gyfer papurau pleidleisio a ganslwyd).
- 1. Para 41(3) Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 41(2) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 41(6) a (7) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 41(4) ac (8) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012, Atodlen 2, paragraffau 41(4) a (8) ↩ Back to content at footnote 5 a b
- 6. Para 41(9) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Para 59(1)(b) Atodlen 2 PCCEO ↩ Back to content at footnote 7
Y weithdrefn ar gyfer rhoi pleidleisiau post newydd yn lle rhai a gollwyd/nas derbyniwyd
Pan fydd pleidleisiwr yn honni ei fod naill ai wedi colli ei bapur pleidleisio drwy'r post, ei ddatganiad pleidleisio drwy'r post neu amlenni 'A' a/neu 'B', neu nad yw wedi eu cael, mae'n bosibl rhoi pecyn pleidleisio drwy'r post newydd o 4 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio.1
Rhaid i'r pleidleisiwr wneud cais yn bersonol a dim ond â llaw2
y gellir rhoi'r pecyn newydd os gwneir y cais am becyn pleidleisio drwy'r post newydd rhwng 5pm ar y diwrnod cyn y diwrnod pleidleisio a 5pm ar y diwrnod pleidleisio ei hun.
Rhaid i chi roi pecyn pleidleisio drwy'r post newydd os ydych yn fodlon ar bwy yw'r pleidleisiwr ac nad oes gennych unrhyw reswm dros amau nad yw wedi colli neu dderbyn y pecyn pleidleisio drwy'r post gwreiddiol.3
Er mwyn sefydlu pwy yw'r pleidleisiwr drwy'r post, dylid cymryd camau cymesur sy'n ceisio defnyddio rhyw fath o brawf adnabod y gellir ei gadarnhau'n hawdd gan staff, ond nad yw'n rhy feichus ar yr etholwr. Nid yw'r ddeddfwriaeth yn pennu pa fathau o ddulliau adnabod sy'n ofynnol ond rhaid i'r Swyddog Canlyniadau fodloni ei hun ynghylch pwy yw'r etholwr.4
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar argymhellion ar gyfer cadarnhau pwy yw etholwyr er mwyn ailanfon pleidleisiau post.
Dylech ystyried p'un a oes angen i drefniadau penodol gael eu gwneud ar gyfer yr etholwyr hynny na allant ddod i'r swyddfa etholiadau'n bersonol, er enghraifft oherwydd anabledd neu am eu bod dramor. Er enghraifft, gallech ystyried derbyn copïau wedi'u sganio o brawf adnabod a restrir yn yr adran nesaf drwy e-bost, neu drwy ddefnyddio technoleg fideo-alw.
Os na fydd pob rhan o'r pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i cholli neu wedi dod i law, rhaid i'r etholwr ddychwelyd y dogfennau hynny sydd ganddo. Yna, mae'n ofynnol i chi ganslo'r dogfennau hynny ar unwaith.5
Gall pleidleiswyr ffonio eich swyddfa i ofyn am becyn pleidleisio drwy'r post newydd os nad yw eu pleidlais bost wedi cyrraedd. Os felly, dylai eich staff eu hysbysu am y weithdrefn ar gyfer rhoi pecyn newydd ac egluro pa brawf adnabod y bydd ei angen cyn y caiff pecyn pleidleisio drwy'r post newydd ei roi.
Cadw cofnodion o bapurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd/nas derbyniwyd6
Pan fyddwch yn rhoi pleidlais bost newydd yn lle un a gollwyd neu nas derbyniwyd, rhaid i chi ychwanegu enw a rhif etholwr yr etholwr at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd.7
Fodd bynnag, ni ddylid ychwanegu enw'r etholwr os yw wedi'i gofrestru'n ddienw. Rhaid hefyd ychwanegu rhif papur pleidleisio'r papur pleidleisio newydd at y rhestr. Yn achos dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post, rhaid i enw a chyfeiriad y dirprwy gael eu hychwanegu at y rhestr, ynghyd â'r manylion eraill.
Mae'r tabl hwn yn crynhoi'r weithdrefn ar gyfer anfon pleidleisiau post newydd yn lle rhai a gollwyd neu nas derbyniwyd:
Cam | Cam i'w gymryd |
---|---|
Cam 1 | Nid oes darpariaethau ar gyfer casglu papur pleidleisio drwy'r post a adroddwyd ei fod wedi'i golli / heb ei dderbyn, ond cyn cymryd y camau nesaf mae'n arfer da i wirio a yw'r pecyn pleidleisio drwy'r post wedi'i farcio wedi'i ddychwelyd ar y rhestr o bleidleiswyr post neu'r rhestr o bleidleiswyr post drwy ddirprwy. |
Cam 2 |
Sicrhau eich bod yn fodlon o ran pwy yw'r pleidleisiwr post drwy ofyn am brawf adnabod |
Cam 3 |
Os mai dim ond rhan o'r pecyn pleidleisio drwy'r post y mae etholwr wedi'i cholli, rhaid dychwelyd y rhannau sy'n weddill pan ofynnir am becyn newydd. Rhaid canslo'r rhannau a gaiff eu dychwelyd, eu selio yn y pecyn ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd ac ychwanegu manylion at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd Cadarnhau a yw'r datganiad pleidleisio drwy'r post a anfonwyd yn wreiddiol wedi cael ei farcio fel un a ddychwelwyd ar y rhestr pleidleiswyr post neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post. |
Cam 4 | Anfon pecyn pleidleisio drwy'r post newydd (papur(au) pleidleisio, datganiad pleidleisio drwy'r post a'r amlenni perthnasol) at yr etholwr
|
Cam 5 | Ychwanegu enw* a rhif yr etholwr a rhif y papur(au) pleidleisio newydd at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd
|
At ddibenion casglu data ar gyfer y datganiad papurau pleidleisio drwy'r post (Ffurflen K)7 , dylech hefyd ychwanegu manylion unrhyw bapurau pleidleisio sydd wedi'u colli a ganslwyd ar y rhestr o'r holl bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar
.7
- 1. Para 42(1) a (7) Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 42(7) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 42(6) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 42(2) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Para 42(3) a (4) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Para 42(8) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012, Atodlen 2, paragraff 42(8) ↩ Back to content at footnote 7 a b c
Argymhellion ar gyfer cadarnhau pwy yw etholwyr er mwyn ailanfon pleidleisiau post
Dylech ystyried pa broses y byddwch yn ei dilyn wrth bennu sut i fodloni'ch hun ynghylch pwy yw etholwr sy'n ceisio cael pecyn pleidleisio drwy'r post newydd lle na chafwyd un neu cafodd yr un gwreiddiol ei golli.
Mae'r adran hon yn darparu cyfres o argymhellion ynghylch dulliau adnabod.
Argymhelliad 1 – Profion adnabod sylfaenol
Dylid darparu un prawf adnabod sylfaenol cyn anfon pecyn pleidleisio drwy'r post newydd. Dylai fod yn ddogfen swyddogol sy'n cynnwys llun yr etholwr, ynghyd ag enw'r etholwr. Y ddwy enghraifft fwyaf diogel yw:
- pasbort
- trwydded yrru cerdyn-llun
Gellir derbyn dogfennau eraill fel prawf sylfaenol, cyhyd â bod llun wedi'i selio arnynt. Ymhlith y rhain mae:
- tocyn bws lleol
- cerdyn myfyriwr a gyhoeddwyd gan gorff addysg bellach neu addysg uwch cydnabyddedig
- cerdyn adnabod a gyhoeddwyd gan gyflogwr cydnabyddedig
Efallai na fydd rhai etholwyr yn gallu cyflwyno prawf adnabod ar ffurf llun. O dan yr amgylchiadau hyn, argymhellir y dylid gofyn iddynt ddarparu dwy enghraifft o'r rhestr o brofion adnabod eilaidd a nodir isod.
Argymhelliad 2 – Profion adnabod eilaidd
Os byddwch yn dal i amau pwy yw etholwr sy'n gwneud cais am becyn pleidleisio drwy'r post newydd, gellid gofyn am brawf adnabod eilaidd. Hefyd, os na all etholwr gyflwyno prawf adnabod sylfaenol, gellid gofyn am ddau brawf adnabod eilaidd.
Ymhlith y rhain mae:
- trwydded yrru lawn (heb lun)
- llyfr talu'r dreth gyngor neu fil treth gyngor diweddar
- llyfr rhent y cyngor neu landlord cymdeithasol
- derbynebau rhent diweddar neu gytundeb tenantiaeth
- llyfr lwfansau/budd-daliadau/pensiwn a gyhoeddwyd gan yr Adran Gwaith a Phensiynau
- llyfr sieciau/cerdyn siec/llyfr Cynilion Cenedlaethol
- cyfriflen ddiweddar gan y banc neu gymdeithas adeiladu (nid cyfriflen cerdyn siop)
- bil cyfleustodau diweddar (mae'n well dangos dau wahanol; nid bil ffôn symudol)
- P45
- gohebiaeth gan un o adrannau'r llywodraeth
- cerdyn adnabod a gyhoeddwyd gan un o aelod-wladwriaethau'r Undeb Ewropeaidd/Ardal Economaidd Ewropeaidd, dogfen deithio a gyhoeddwyd gan y Swyddfa Gartref, neu dystysgrif dinasyddio neu gofrestru
- llythyr (datganiad a ardystiwyd) gan unigolyn cyfrifol megis cyfreithiwr, meddyg, gweinidog crefydd, ynad, athro, rheolwr hostel, gweithiwr cymdeithasol, nyrs ardal, bydwraig neu unigolyn cyfrifol arall, sy'n dweud ei fod yn adnabod yr etholwr ac y gall gadarnhau ei enw a'i gyfeiriad. Gallech gynnwys landlord neu denant yr etholwr yn y categori hwn, ac efallai nodi eu bod ar y gofrestr etholiadol
- cerdyn meddygol y Gwasanaeth Iechyd Gwladol neu gerdyn Yswiriant Gwladol
- tystysgrifau geni, mabwysiadu, priodas, partneriaeth sifil, ysgariad neu dystysgrif datganiad statudol (yn ddelfrydol, dylai'r rhain fod wedi'u cyhoeddi o fewn chwe mis i'r digwyddiad y maent yn ymwneud ag ef ac ni ddylent fod yn gopïau newydd)
Dylech hefyd ystyried y pwyntiau canlynol:
- er sicrwydd pellach, dylid dangos copïau gwreiddiol, nid llungopïau, o'r prawf adnabod
- dylai'r dystiolaeth a ddarperir gan y pleidleisiwr ddangos cysylltiad clir rhwng yr enw ar y ddogfen adnabod a'r cofnod cyfredol ar y gofrestr etholiadol
- nid yw tystysgrifau geni yn brawf adnabod diamod ac felly gellir gofyn i'r pleidleisiwr ddarparu tystiolaeth ychwanegol er mwyn gallu cadarnhau pwy ydyw
- lle y darperir biliau cyfleustodau neu gyfriflenni banc, dylent fod yn ddiweddar (h.y., wedi'u cyhoeddi yn y tri mis diwethaf)
- dylid gwirio cardiau banc neu gredyd yn erbyn llofnod y pleidleisiwr
- cyn ceisio ardystiad, dylid hysbysu'r pleidleisiwr y gall rhai llofnodwyr godi ffi am y gwasanaeth
- dylech nodi na chedwir unrhyw brofion adnabod ac y caiff y dogfennau eu trin yn gyfrinachol ac y dychwelir y copïau gwreiddiol
Nid yw deddfwriaeth diogelu data yn nodi unrhyw uchafswm penodol ar gyfer cadw data personol, ond mae'n nodi na chaiff data personol a brosesir at unrhyw ddiben eu cadw am fwy nag sydd angen at y diben hwnnw. Nid yw deddfwriaeth diogelu data yn nodi unrhyw uchafswm penodol ar gyfer cadw data personol, ond mae'n nodi na chaiff data personol a brosesir at unrhyw ddiben eu cadw am fwy nag sydd angen at y diben hwnnw.1
- 1. Erthygl 5(1)(c) Rheoliadau Cyffredinol ar Ddiogelu Data 2016 ↩ Back to content at footnote 1
Y weithdrefn ar gyfer ailanfon pecynnau pleidleisio oherwydd gwall gweithdrefnol
Os ydych wedi anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post anghywir neu anghyflawn mewn camgymeriad, efallai y gallwch ailanfon pecynnau pleidleisio drwy'r post gan ddefnyddio eich pwerau i gywiro gwall gweithdrefnol.1
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, bydd angen i chi benderfynu p'un a ddylid ailanfon rhai o'r pecynnau pleidleisio drwy'r post neu bob un. Er enghraifft, os effeithiodd gwall yn y broses gasglu ar amrywiaeth benodol o becynnau, dim ond y pecynnau hynny y byddai angen eu hailanfon.
Dylid gwneud penderfyniadau am ailanfon oherwydd gwall gweithdrefnol fesul achos. Ym mhob achos, dylid ystyried effaith bosibl y gwall ac unrhyw gamau unioni ar etholwyr. Er enghraifft, bydd angen i chi sicrhau y bydd unrhyw gamau gweithredu yn unioni'r gwall ac na fyddant yn peri dryswch ychwanegol neu wall gwahanol.
Dylid gwneud unrhyw benderfyniad i unioni gwall gweithdrefnol ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol. Dylid dogfennu'r gwall ac unrhyw gamau unioni rhag ofn y caiff yr etholiad ei herio a bod angen gwneud hawliad yn erbyn yswiriant.
Pa gamau bynnag a gymerir, dylech sicrhau bod unrhyw ohebiaeth a roddir i'r etholwyr hynny yr effeithiwyd arnynt yn egluro'r gwall a'r camau rydych yn eu cymryd i'w unioni. Dylech hefyd hysbysu ymgeiswyr ac asiantiaid am y gwall a'ch camau unioni bwriadedig cyn gynted â phosibl. Drwy fod yn dryloyw am y broblem a'r ateb byddwch yn lleihau'r risg o golli hyder yn y broses o weinyddu'r etholiad.
Gweler ein canllawiau ar dor dyletswydd swyddogol a phŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol i gael rhagor o wybodaeth am eich pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol. Wrth ystyried defnyddio'r pŵer hwn, dylech gysylltu â thîm lleol y Comisiwn a all gynnig cymorth sydd wedi'i deilwra ymhellach i chi.
Cadw cofnodion o ailanfon ar ôl gwall gweithdrefnol
Pan fydd pleidlais bost wedi'i hailanfon o ganlyniad i wall gweithdrefnol, rhaid i'r papur pleidleisio gwreiddiol gael ei ganslo, ei ychwanegu at y rhestr o bapurau pleidleisio a ganslwyd ac ni ddylid ei gynnwys yn y cyfrifiad.2
- 1. Rheoliad 6 Rheoliadau Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu (Swyddogaethau Swyddogion Canlyniadau) 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 42A Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Canslo pecynnau pleidleisio drwy'r post
Gan fod yn rhaid i becynnau pleidleisio drwy'r post gael eu hanfon at etholwyr cyn gynted â phosibl, gall fod amgylchiadau lle bydd unigolyn rydych eisoes wedi anfon papur pleidleisio drwy'r post ato yn gwneud cais dilynol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol am i'w bleidlais bost gael ei chanslo, neu'n gwneud newidiadau i'w drefniadau pleidleisio absennol, mewn da bryd i'r newidiadau gael eu rhoi ar waith cyn yr etholiad(au).
Fodd bynnag, ni ellir canslo papur pleidleisio drwy’r post sydd eisoes wedi’i ddychwelyd i’r Swyddog Canlyniadau1
Mae ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a’r Alban yn cynnwys gwybodaeth bellach am newid neu ganslo pleidleisiau post mewn etholiad.
Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, bydd angen i chi drefnu sut y byddwch yn cysylltu ag ef, fel bod modd i unrhyw newidiadau i drefniadau pleidleisio absennol gael eu rhannu'n amserol a'ch bod yn gwybod pa bapurau pleidleisio sydd angen eu canslo.
Ar ôl cael eich hysbysu, rhaid i chi ganslo unrhyw bapur pleidleisio drwy'r post a anfonwyd at y fath etholwr neu ddirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post ar unwaith, ac ychwanegu manylion y papur pleidleisio a ganslwyd at y rhestr a gedwir at y diben hwnnw (gweler ein canllawiau ar gadw cofnodion o bapurau pleidleisio a ganslwyd). 2
Dylech ystyried sut i reoli'r broses o dynnu'r pecynnau hynny o unrhyw sypiau pleidleisiau post nas dosbarthwyd gan eich argraffydd eto.
Os bydd y newid i'r trefniadau pleidleisio absennol ond yn ymwneud â'r cyfeiriad y dylid anfon y papur pleidleisio iddo, rhaid i chi, yn ogystal â chanslo'r papur pleidleisio drwy'r post gwreiddiol, anfon pecyn pleidleisio drwy'r post newydd i'r cyfeiriad newydd.3
Rhaid i chi hefyd ganslo unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd neu a ddifethwyd lle bu'n rhaid anfon rhai newydd yn eu lle gweler ein canllawiau ar ailanfon pleidleisiau post a ddifethwyd a phleidleisiau post a gollwyd/nas derbyniwyd).4
Mae angen i chi gadw trywydd archwilio o'r hyn a ganslwyd, gan gynnwys sut y gellir defnyddio eich system meddalwedd i gofnodi pob achos o ganslo er mwyn eich galluogi i lunio'r rhestr ofynnol o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd (gweler ein canllawiau ar gadw cofnodion o bapurau pleidleisio a ganslwyd ) a nodi unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd ond a ddychwelwyd ac felly y mae angen eu casglu.
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, bydd y Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill yn eich hysbysu lle mae unigolyn sydd eisoes wedi cael papur(au) pleidleisio drwy'r post wedyn yn gwneud cais i ganslo ei bleidlais bost, neu wneud unrhyw newidiadau i'w drefniadau pleidleisio absennol.
Rhaid i chi ganslo unrhyw bapur pleidleisio drwy'r post a anfonwyd at y fath etholwr neu ddirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post ar unwaith.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 (RPR(E&W)) rheoliad 56(5A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 (RPR(S)) rheoliad 56(5A) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. RPR(E&W) 2001 Rheoliad 78A, RPR(S) 2001 rheoliad 78A ↩ Back to content at footnote 2
- 3. RPR(E&W) 2001 rheoliad 78A, RPR(S) 2001 rheoliad 78A ↩ Back to content at footnote 3
- 4. RPR(E&W) 2001 rheoliad 77 a 78, RPR(S) 2001 rheoliad 77 a 78 ↩ Back to content at footnote 4
Cadw cofnodion o bapurau pleidleisio a ganslwyd
Rhaid i chi gofnodi manylion pob papur pleidleisio drwy'r post a ganslwyd ar un rhestr. Rhaid i chi hefyd greu rhestrau ar wahân ar gyfer papurau a ddifethwyd, a gollwyd neu a ganslwyd yn cynnwys y manylion a amlinellir o dan y penawdau isod.
Rhestr o bapurau pleidleisio a ddifethwyd
Rhaid i'r rhestr o bapurau pleidleisio a ddifethwyd gynnwys:1
- enw a rhif yr etholwr fel y'u nodir ar y gofrestr etholwyr (neu, yn achos etholwr â chofnod dienw, dim ond ei rif etholiadol)
- os mai dirprwy yw'r pleidleisiwr post y difethwyd ei bapur pleidleisio, enw a chyfeiriad y dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post
- rhif y papur pleidleisio drwy'r post newydd
Rhestr o bapurau pleidleisio a gollwyd
Rhaid i'r rhestr o bapurau pleidleisio a gollwyd gynnwys:2
- enw a rhif yr etholwr fel y'u nodir ar y gofrestr (neu, yn achos etholwr â chofnod dienw, dim ond ei rif etholiadol)
- os mai dirprwy yw'r pleidleisiwr post y collwyd ei bapur pleidleisio, enw a chyfeiriad y dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post
- rhif y papur pleidleisio drwy'r post newydd
Rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd o ganlyniad i unrhyw newid i drefniadau pleidleisio absennol ar ôl i bleidlais bost gael ei hanfon
Rhaid i'r rhestr hon o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd gynnwys:3
- enw a rhif yr etholwr fel y'u nodir ar y gofrestr (neu, yn achos etholwr â chofnod dienw, dim ond ei rif etholiadol)
- os mai dirprwy yw'r pleidleisiwr post y canslwyd ei bapur pleidleisio, enw a chyfeiriad y dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post
- rhif y papurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd
- rhif y papur pleidleisio drwy'r post newydd
Rhaid i gynnwys unrhyw becyn pleidleisio drwy'r post a ganslwyd, gan gynnwys unrhyw amlenni, gael eu gwneud yn becyn a'u selio. Dim ond er mwyn cynnwys dogfennau ychwanegol a ganslwyd yn y pecyn yr agorir y sêl.4
- 1. Paragraffau 16(4B) a 42A(3) Rheol 42A(3) Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 42(8) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 42A(3) PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 42A(2)(c) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4
Casglu pleidleisiau post a ganslwyd
Lle cafodd papur pleidleisio drwy'r post ei ganslo, rhaid i chi gasglu'r datganiad pleidleisio drwy'r post a'r papur pleidleisio, lle cawsant eu dychwelyd, fel nad ydynt yn cael eu cyfrif.
Nid oes darpariaethau ar gyfer casglu papur pleidleisio drwy'r post sydd wedi'i adrodd ar goll / lle na dderbyniwyd papur pleidleisio drwy'r post.
Rhaid i chi sicrhau bod y blwch pleidleisio drwy'r post yn cael ei ailselio ym mhresenoldeb unrhyw asiantiaid sy'n bresennol pan fydd y papurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd wedi cael eu casglu o'r blwch pleidleisio drwy'r post.1
Canslo pleidleisiau post a ddychwelwyd2
Dylech wneud trefniadau ar gyfer delio ag achos o ganslo ar ôl i becynnau pleidleisio drwy'r post gael eu hanfon a'u dychwelyd i chi, gan gynnwys:
- sut y byddwch yn gallu casglu a chanslo unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post a datganiadau pleidleisio drwy'r post sy'n mynd drwy'r broses agor pleidleisiau post neu sydd eisoes wedi mynd drwy'r broses honno
- sut y byddwch yn egluro'r hyn sy'n digwydd i ymgeiswyr ac asiantiaid mewn sesiwn agor lle mae angen i chi gasglu a chanslo papur pleidleisio drwy'r post
Mae'r tabl hwn yn crynhoi'r camau y dylech eu cymryd i reoli'r broses o gasglu pleidleisiau post a ganslwyd:
Camau | Camau i'w cymryd |
---|---|
Cam 1 | Yn ystod sesiwn agor, dylid casglu'r datganiad pleidleisio drwy'r post o'r pecyn neu'r blwch priodol.
|
Cam 2 | Agor y blwch pleidleisio drwy'r post perthnasol a chasglu'r papur pleidleisio
|
Cam 3 | Marcio'r dogfennau a gasglwyd drwy roi ‘canslwyd’ arnynt. Rhoi'r dogfennau a ganslwyd yn y pecyn perthnasol ac ychwanegu manylion at y rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd Rhaid i'r rhestr o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd gynnwys y canlynol:3
Yn achos papurau pleidleisio a ddifethwyd sydd wedi'u canslo, mae'n rhaid i'r rhestr o bapurau pleidleisio a ddifethwyd sydd wedi'u canslo hefyd gynnwys y canlynol:4
|
Cam 4 | Ailselio'r blwch pleidleisio drwy'r post
|
- 1. Para 42A a 54 Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 16(4B) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 42A(3) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 41(9) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4
Rheoli problemau gyda chynhyrchu neu ddosbarthau pleidleisiau post
Er y bydd rhoi mesurau sicrhau ansawdd cadarn ar waith yn eich helpu i sicrhau y bydd cyflenwyr yn darparu gwasanaethau yn gywir, mae'n bwysig bod yn barod i reoli unrhyw wallau neu broblemau a all godi. Cyn gynted ag y cewch wybod am broblem, naill ai drwy uwchgyfeirio gan eich cyflenwr neu drwy fod mewn cysylltiad ag etholwyr, mae'n bwysig siarad â'ch cyflenwr er mwyn ceisio deall maint a chwmpas y broblem ac ystyried y cynlluniau wrth gefn sydd gennych yn barod fel y bo'n briodol, gan y bydd hyn yn effeithio ar y penderfyniadau a wnewch ynghylch sut i ddatrys y broblem.
Cyn gwneud unrhyw benderfyniadau ynghylch pa gamau i'w cymryd, mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni fel y gallwn drafod y broblem â chi a rhoi cyngor a chymorth wedi'u teilwra i chi ynglŷn â sut i'w rheoli.
Pan fydd yr holl wybodaeth berthnasol gennych a phan fyddwch wedi ystyried y cyngor priodol ac wedi penderfynu pa gamau i'w cymryd, dylech gytuno ar gynlluniau â'ch cyflenwr yn unol â hynny a chadw mewn cysylltiad agos ag ef wrth i'r cynlluniau wrth gefn hyn gael eu rhoi ar waith. Gall hyn olygu y bydd angen ailwirio a chymeradwyo proflenni neu ffigurau data ar frys – ond mae'n bwysig eich bod yn dal i sicrhau y caiff gwiriadau sicrhau ansawdd eu cynnal er mwyn osgoi unrhyw wallau pellach.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth am brosesau prawfddarllen yn ein canllawiau ar sicrhau ansawdd.
Bydd hefyd angen i chi ystyried pa negeseuon ychwanegol y gall fod angen eu hanfon at etholwyr neu ymgeiswyr ac asiantiaid o ganlyniad i'r broblem; unwaith eto, mae hyn yn rhywbeth y gall unigolion cyswllt yn y Comisiwn eich helpu i'w ystyried felly mae'n bwysig eich bod yn cysylltu â ni i drafod y mater cyn gynted â phosibl.
I gael gwybod sut i gysylltu â'ch tîm Comisiwn lleol, gweler ein tudalen Cysylltu â ni.
Yn dibynnu ar y penderfyniad y byddwch yn ei wneud o ganlyniad i unrhyw broblem, mae'n bosibl y bydd angen i chi ddarllen ein canllawiau ar ailanfon o ganlyniad i wall gweithdrefnol.
Derbyn ac agor pleidleisiau post
Fel rhan o'ch gwaith cynllunio ar gyfer rhoi prosesau allweddol ar waith, byddwch wedi gwneud penderfyniadau ar y broses i'w dilyn pan fyddwch yn derbyn pleidleisiau post wedi'u cwblhau.
Mae'r adran hon yn cynnwys canllawiau pellach ynghylch y prosesau y mae'n rhaid i chi eu dilyn ar ôl derbyn pleidleisiau post wedi'u cwblhau, gan gynnwys rheoli'r broses agor amlenni a'r cofnodion y mae'n rhaid i chi eu cadw fel rhan o'r broses hon.
Dychwelyd a derbyn pleidleisiau post
Er mwyn i becyn pleidleisio drwy'r post fod wedi'i ddychwelyd yn briodol, rhaid eich bod wedi'i dderbyn erbyn diwedd y cyfnod pleidleisio naill ai drwy'r post neu'n bersonol mewn gorsaf bleidleisio neu yn un o adeiladau'r cyngor yn yr etholaeth.
Dylech gadarnhau'r trefniadau ar gyfer dychwelyd pleidleisiau post ac unrhyw wiriadau terfynol i'w cynnal ar y diwrnod pleidleisio â'r Post Brenhinol.
Os bydd unigolyn yn mynd â'i bleidlais bost i orsaf bleidleisio a'i fod mewn ciw yn yr orsaf bleidleisio am 10pm ar y diwrnod pleidleisio, rhaid caniatáu iddo ddychwelyd pecyn pleidleisio drwy'r post o hyd.
Storio papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd yn ddiogel
Dylid storio papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd yn ddiogel bob amser. Mae hyn yn cynnwys pan gânt eu cludo i unrhyw sesiwn agor amlenni pleidleisiau post ac i'r lleoliadau dilysu a chyfrif. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar sicrhau diogelwch papurau pleidleisio.
Rhaid i unrhyw bleidleisiau post a gaiff eu dychwelyd atoch, naill ai yn eich swyddfa neu yn yr orsaf bleidleisio ar y diwrnod pleidleisio, gael eu cadw mewn blychau priodol. Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i roi'r mesurau priodol ar waith ar gyfer cadw'r blychau hyn yn ddiogel.
Dylai'r dulliau storio a chludo y byddwch yn eu dewis eich bodloni bod y papurau pleidleisio a ddychwelwyd yn cael eu cadw'n ddiogel ac na ellir ymyrryd â hwy.
Pecynnau a blychau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pleidleisiau post a ddychwelwyd
Rhaid bod gennych ddau fath o flychau pleidleisio ar gyfer storio pleidleisiau post a ddychwelwyd yn ddiogel:
- y blwch/blychau i bleidleiswyr post
- y blwch/blychau pleidleisio drwy'r post1
Ym mhob sesiwn agor, rhaid i chi hefyd ddarparu blychau ar gyfer y canlynol:
- pleidleisiau a wrthodwyd
- datganiadau pleidleisio drwy'r post
- amlenni papurau pleidleisio
- amlenni papurau pleidleisio a wrthodwyd
Hefyd, mae'n ofynnol i chi gael copi o'r rhestr pleidleiswyr post a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post fel y gellir marcio cofnodion pan gaiff datganiadau pleidleisio drwy'r post eu dychwelyd.
Y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post
Defnyddir y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post i storio pleidleisiau post a ddychwelwyd wrth iddynt aros i gael eu hagor.
Dylai unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post, datganiadau pleidleisio drwy'r post neu amlenni papurau pleidleisio na chânt eu derbyn fel pecyn cyflawn hefyd gael eu rhoi yn y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post.
Rhaid rhoi'r geiriau ‘blwch pleidleisio i bleidleiswyr post’ ac enw'r etholaeth ar bob blwch pleidleisio i bleidleiswyr post.2
Rhaid i chi gymryd rhagofalon i sicrhau bod y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post yn cael ei gadw’n ddiogel.3 Dylech selio’r blwch pleidleisio i bleidleiswyr post a’i storio mewn man sy’n ddiogel, er enghraifft cwpwrdd neu ystafell dan glo, tan yr agoriad arferol nesaf o bleidleisiau post. Bydd y rhagofalon hyn yn sicrhau bod diogelwch cynnwys y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post yn cael ei gynnal bob amser.
Blychau pleidleisio drwy'r post
Defnyddir blychau pleidleisio drwy'r post i storio'r papurau pleidleisio drwy'r post sydd wedi mynd drwy'r broses agor ac a gaiff eu cyfrif.
Rhaid rhoi'r geiriau ‘blwch pleidleisio drwy'r post’ ac enw'r etholaeth ar bob blwch pleidleisio drwy'r post.4
Rhaid storio pob blwch pleidleisio drwy'r post yn ddiogel nes y cynhelir y broses gyfrif. Mae gan unrhyw asiantiaid sy'n bresennol mewn achlysur agor amlenni pleidleisiau post yr hawl i ychwanegu eu seliau at flychau pleidleisio drwy'r post os byddant yn dymuno gwneud hynny.5
Pleidleisiau post sy'n cael eu dychwelyd â llaw yn yr orsaf bleidleisio neu i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor
Mae unrhyw becynnau wedi'u selio sydd wedi'u labelu â'r disgrifiad - dogfennau pleidleisio drwy'r post - yn cynnwys pleidleisiau post a dderbyniwyd a gyflwynwyd yn yr orsaf bleidleisio neu i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor. Caiff y pecynnau hyn eu trin fel pe baent yn flwch pleidleisio i bleidleiswyr post6 ac felly dylid eu hagor yn unol â'r broses a ddarperir yn ein canllawiau ar Agor pleidleisiau post.
Rhaid i unrhyw becynnau wedi'u selio sydd wedi'u labelu â'r disgrifiad - dogfennau a ffurflenni pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd - gael eu cynnwys ar y rhestr o etholwyr y gwrthodwyd eu pleidlais bost pan gafodd ei chyflwyno (neu ei gadael ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor. Mae rhagor o wybodaeth wedi’i nodi yn ein canllawiau ar gadw cofnod o’r pleidleisiau post hynny a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 81, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 81 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 81(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 81(2) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 81(6), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Albanr) 2001, rheoliad 81(6) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 81(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 81(2) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 81(4) ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 82E, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 6
Pwy all gyflwyno pleidleisiau post?
Gall unigolyn gyflwyno ei bleidlais bost ei hun yn ogystal â phleidleisiau post i hyd at bum person arall fesul etholiad a gynhelir.
Fodd bynnag, os bydd yr unigolyn yn cadarnhau ei fod yn ymgyrchydd gwleidyddol, dim ond ei bleidlais bost ei hun a hyd at bump arall y caniateir iddo eu cyflwyno fesul etholiad. Mae’n rhaid i’r rhain fod yn perthyn i berthnasau agos iddo, neu i rywun y darperir gofal rheolaidd iddynt ganddo neu gan y sefydliad sydd naill ai’n eu cyflogi neu’n gweithio â nhw.
Priod, partner sifil, rhiant, nain/mam-gu neu daid/tad-cu,brawd, chwaer, plentyn, ŵyr neu wyres yw perthnasau agos unigolyn. Mae dau berson sy'n byw gyda'i gilydd fel pe baent yn bâr priod neu'n bartneriaid sifil yn cael eu trin felly.
Pan fydd unigolyn yn cyflwyno pleidleisiau post ar gyfer etholwyr y mae’n gweithredu fel dirprwy ar eu cyfer, mae nifer y pleidleisiau post y gallant eu cyflwyno i bobl eraill yn cael ei leihau gan nifer y pleidleisiau post dirprwy y mae’n eu cyflwyno.
Pwy na all gyflwyno pleidleisiau post?
- Ni all ymgyrchwyr gwleidyddol drin pleidleisiau post ar gyfer etholwyr eraill nad ydynt yn berthnasau agos neu’n rywun y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer.
- Ni chaniateir i unigolion dan 18 oed gyflwyno pleidleisiau post mewn gorsafoedd pleidleisio
- Ni chaniateir i unigolion sydd eisoes wedi cyflwyno’r uchafswm o bleidleisiau post a ganiateir ar gyfer yr etholiad hwnnw gyflwyno unrhyw bleidleisiau post pellach ar gyfer yr etholiad hwnnw
Ble gellir dychwelyd pleidleisiau post â llaw?
Gellir dychwelyd pleidleisiau post â llaw i orsaf bleidleisio neu at y Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor yn yr etholaeth.
Mae cyfyngiadau ar nifer y pleidleisiau post y gellir eu cyflwyno a chyfyngiadau ar bwy all yr unigolyn sy'n cyflwyno'r nifer cyfyngedig o bleidleisiau post fod ar gyfer pob pleidlais a gynhelir. Mae hyn yn berthnasol mewn gorsafoedd pleidleisio a swyddfeydd cynghorau.
Pleidleisiau post yn cael eu dychwelyd i orsafoedd pleidleisio
Dylech bwysleisio i staff gorsafoedd pleidleisio, gan gynnwys arolygwyr gorsafoedd pleidleisio, bwysigrwydd cynnal diogelwch pleidleisiau post a gyflwynir i orsafoedd pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio bob amser.
Er mwyn helpu i leihau'r tebygolrwydd o dderbyn symiau mawr o bleidleisiau post yn y cyfrif a helpu i leihau'r risg o oedi i amser dechrau'r cyfrif, dylech drefnu i gasglu pleidleisiau post o orsafoedd pleidleisio ar wahanol adegau drwy gydol y diwrnod pleidleisio.
Beth yw'r weithdrefn ar gyfer derbyn pleidleisiau post a gyflwynir yn yr orsaf bleidleisio?
Mae’r weithdrefn arferol i’w dilyn ar gyfer pleidleisiau post a gyflwynir wedi’i nodi yn llawlyfr gorsafoedd pleidleisio’r Comisiwn. Gellir hefyd dod o hyd i ganllawiau pellach ar fynd i’r afael â phleidleisiau post a ddychwelir i orsafoedd pleidleisio, ar fynd i’r afael ag ymholiadau sy'n deillio o gyflwyno pleidleisiau post, a'r sefyllfaoedd lle mae'n rhaid gwrthod pleidleisiau post a gyflwynwyd mewn gorsafoedd pleidleisio yn y llawlyfr gorsafoedd pleidleisio.
Dylech roi digon o becynnau ar gyfer pleidleisiau post a ddychwelir i'r orsaf bleidleisio i staff gorsafoedd pleidleisio. Dylai'r pecynnau hyn gael eu labelu'n glir fel rhai sy'n cynnwys pleidleisiau post, a dylent gynnwys enw'r orsaf bleidleisio a dynodwr yr orsaf bleidleisio.
Pleidleisiau post a ddychwelir â llaw i swyddfeydd y cyngor
Mae gwybodaeth am y weithdrefn i'w dilyn ar gyfer pleidleisiau post a gyflwynir yn swyddfeydd y cyngor wedi'i nodi yn ein canllawiau ar reoli derbyn pleidleisiau post a gyflwynir yn swyddfeydd y cyngor.
Beth yw'r drefn ar gyfer derbyn pleidleisiau post a gyflwynir i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor?
Dylech sicrhau bod unrhyw berson yr ydych yn ei awdurdodi i weithredu ar eich rhan i ddosbarthu unrhyw bleidleisiau post a gyflwynwyd i chi, yn cael hyfforddiant ar:
• y weithdrefn i'w dilyn ar gyfer pleidleisiau post sy'n cael eu cyflwyno a,
• sut i gynorthwyo unigolion i gwblhau'r ffurflen pleidlais bost.
Mae’r weithdrefn arferol ar gyfer person awdurdodedig i’w dilyn ar gyfer pleidleisiau post a gyflwynir fel a ganlyn:
Cam 1 – dywedwch wrth yr unigolyn y bydd angen iddo ddarparu rhai manylion i ddychwelyd y pleidleisiau post
Eglurwch fod yn rhaid llenwi'r ffurflen pleidlais bost yn gywir neu bydd y pleidleisiau post yn cael eu gwrthod.
Cam 2 – Cwblhau adran 1 o’r ffurflen pleidleisio drwy’r post:
Rhaid cofnodi’r wybodaeth ganlynol yn adran 1:
a yw'r unigolyn yn cyflwyno ei bleidlais bost ei hun (gan gwblhau'r blwch Ie neu Na fel sy'n briodol ar y ffurflen)a yw'r unigolyn yn cyflwyno pleidleisiau post ar ran unrhyw bobl eraill, ac os felly, faint
gall unigolion gyflwyno pleidleisiau post ar gyfer hyd at 5 person arall.a yw'r unigolyn yn ymgyrchydd gwleidyddol
gall ymgyrchwyr gwleidyddol gyflwyno pleidleisiau post ar gyfer hyd at 5 person arall cyn belled â'u bod yn berthnasau agos neu'n bobl y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer.
Os yw'r unigolyn:
• yn cyflwyno dim mwy na'r nifer o bleidleisiau post a ganiateir
• wedi cadarnhau nad yw'n ymgyrchydd gwleidyddol neu
• wedi cadarnhau ei fod yn ymgyrchydd gwleidyddol ond yn cyflwyno pleidleisiau post ar gyfer perthnasau agos neu bobl y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer:
o rhaid llenwi'r blychau perthnasol ar y ffurflen a chofnodi cyfanswm y pleidleisiau post sydd i'w cyflwyno ar y ffurflen.
Cam 3 – Cwblhau adran 2 y ffurflen cyflwyno pleidlais bost
Gofynnwch i’r unigolyn wirio bod yr wybodaeth a ddarparwyd yn adran 1 yn gywir a chwblhau’r meysydd canlynol yn adran 2:
• eu henw
• eu cyfeiriad
• (os yw'n berthnasol) y rheswm dros gyflwyno pleidleisiau post ar ran pobl eraill
Rhaid i’r unigolyn ddarllen a chwblhau’r datganiad, gan gadarnhau:
• nad ydynt wedi cyflwyno mwy na'r nifer o bleidleisiau post a ganiateir
• nad ydynt yn ymgyrchydd gwleidyddol, neu
• maent yn ymgyrchydd gwleidyddol a dim ond wedi cyflwyno eu pleidlais bost eu hunain a/neu bleidlais perthynas agos, neu rywun y maent yn darparu gofal rheolaidd ar ei gyfer
Rhaid i'r unigolyn wedyn lofnodi a dyddio'r ffurflen.
Cam 4 – Cwblhau adran 3 o'r ffurflen pleidleisio drwy'r post
Rhaid i'r person awdurdodedig lenwi adran 3. Gwiriwch fod adrannau 1 a 2 wedi'u llenwi'n gywir.
Os ydych yn fodlon bod
• y ffurflen pleidlais bost wedi'i chwblhau'n gywir gyda'r wybodaeth ofynnol
• yr unigolyn dim ond wedi cyflwyno’r nifer o bleidleisiau post y mae ganddo hawl iddynt, ac
• nad yw’r unigolyn yn ymgyrchydd gwleidyddol, neu’n ymgyrchydd gwleidyddol sydd ond wedi cyflwyno ei bleidlais bost ei hun a/neu bleidleisiau post perthnasau agos neu bobl y mae’n darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer.
dylech lenwi adran 3A o'r ffurflen i gadarnhau hyn a derbyn y pleidleisiau post.
Cam 5 – rhoi diolch i’r unigolyn a chadarnhau bod y pleidleisiau post wedi’u derbyn ac y byddant yn cael eu hanfon ymlaen at y Swyddog Canlyniadau.
Cam 6 – Rhoi pleidleisiau post a dderbyniwyd yn y pecyn ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd
Ar ôl eu derbyn, rhowch y bleidlais bost/pleidleisiau post heb ei/eu hagor, yn y pecyn a ddarperir.
Rhaid cadw'r pecyn yn ddiogel bob amser. Rhaid ei gyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau yn unol â'u cyfarwyddiadau.
Cam 7 – Rhowch y ffurflen pleidleisio drwy'r post wedi'i chwblhau yn y pecyn priodol.
Dylid cadw'r ffurflen pleidleisio drwy'r post wedi'i chwblhau ar wahân i'r pecyn sy'n cynnwys y pleidleisiau post a dderbyniwyd a'i danfon at y Swyddog Canlyniadau.
Pryd y mae'n rhaid gwrthod pleidlais bost a gyflwynir?
Mae pedair sefyllfa lle mae’n rhaid i’r person awdurdodedig wrthod pleidlais bost/pleidleisiau post a gyflwynir.
Y rhesymau hyn yw bod yr unigolyn:
• heb gwblhau’n llawn y ffurflen pleidlais bost (anghyflawn)1
• wedi cyflwyno pleidleisiau post ar ran mwy na'r nifer o etholwyr a ganiateir2
• yn ymgyrchydd gwleidyddol na chaniateir iddo drin y pleidleisiau post3
• heb gwblhau'r ffurflen pleidlais bost (gadawyd ar ôl)4
Os yw unrhyw un o’r rhesymau uchod yn berthnasol i’r bleidlais bost/pleidleisiau post a gyflwynwyd, yna rhaid i’r person awdurdodedig lenwi adran 3B o’r ffurflen pleidlais bost, gan dicio pa rai o’r rhesymau sy’n berthnasol a nifer y pleidleisiau post sydd i’w gwrthod.
Unwaith y caiff ei gwrthod, dylid atodi'r ffurflen pleidlais bost wedi'i chwblhau i (fwndel y) pleidleisiau post a wrthodwyd a'i rhoi yn y pecyn ar gyfer pleidleisiau post a wrthodwyd.5
Dylid selio'r pecyn hwn a'i storio'n ddiogel nes iddo gael ei ddosbarthu i chi, ynghyd â'r pecynnau o bleidleisiau post a dderbyniwyd.6
Beth os nad yw unigolyn am lenwi'r ffurflen pleidlais bost?
Dylai’r person awdurdodedig egluro i’r unigolyn bod yn rhaid llenwi'r ffurflen pleidlais bost yn ôl y gyfraith ac ni ellir cyflwyno'r pleidleisiau post hebddi. Bydd unrhyw bleidleisiau post sy'n cael eu gadael ar ôl heb i'r ffurflen gael ei chwblhau’n cael eu gwrthod.7
Os yw’r unigolyn yn mynnu gadael y bleidlais bost/pleidleisiau post ar ôl yn yr orsaf bleidleisio heb gwblhau ffurflen, cwblhewch adran 3B y ffurflen pleidlais bost, gan dicio'r opsiwn ‘heb gwblhau’n llawn y ffurflen pleidlais bost’, atodwch y ffurflen i'r bleidlais bost/pleidleisiau post a rhowch y bwndel yn y pecyn ar gyfer pleidleisiau post a wrthodwyd.
Beth os yw unigolyn am gyflwyno pleidleisiau post i fwy na 5 person arall?
Gall unigolion dim ond cyflwyno eu pleidlais bost eu hunain yn ogystal â phleidleisiau post ar gyfer hyd at 5 person arall.
Dylai'r unigolyn benderfynu pa bleidleisiau post y mae am eu cyflwyno. Gall adael swyddfa'r cyngor i wneud y penderfyniad.
Gall yr unigolyn gyflwyno'r nifer o bleidleisiau post a ganiateir a gadael swyddfa’r cyngor gyda gweddill y pleidleisiau post.
Os bydd yr unigolyn yn mynnu cyflwyno pleidleisiau post i fwy na 5 person arall rhaid gwrthod yr holl bleidleisiau post ar gyfer y bobl eraill. Dim ond pleidlais bost yr unigolyn ei hun y gellir ei dderbyn.
Yn y sefyllfa hon, rhaid llenwi'r ffurflen pleidlais bost gyda'r wybodaeth ganlynol:
• yn adrannau 1 a 2, manylion yr unigolyn a’r bleidlais bost sydd i’w chyflwyno (os yw’n dychwelyd ei bleidlais bost eu hun)
• yn adran 3, bod pleidlais bost yr unigolyn wedi’i derbyn (rhan 3A a rhan 3B), a nifer y pleidleisiau post eraill a’r rheswm dros eu gwrthod (rhan 3B)
Rhaid atodi'r ffurflen pleidlais bost wedi'i chwblhau i'r pleidleisiau post a wrthodwyd a'i chadw yn y pecyn ar gyfer pleidleisiau post a wrthodwyd.
Gellir gosod y bleidlais bost a dderbyniwyd yn y pecyn ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd.
Ni ddylid cynorthwyo'r unigolyn i benderfynu pa bleidlais bost yw ei un ef.
Beth os nad yw unigolyn yn siŵr a yw'n ymgyrchydd gwleidyddol?
Diffinnir ymgyrchydd gwleidyddol yn y ddeddfwriaeth hon fel person sydd naill ai yn:8
• ymgeisydd yn yr etholiad;
• asiant etholiadol ymgeisydd yn yr etholiad;
• is-asiant asiant etholiadol yn yr etholiad;
• cael ei gyflogi neu yr ymgysylltir ag ef gan berson sy'n ymgeisydd yn yr etholiad at ddibenion gweithgareddau'r person hwnnw fel ymgeisydd;
• aelod o blaid wleidyddol gofrestredig sy'n cyflawni gweithgaredd sydd wedi'i gynllunio i hyrwyddo canlyniad penodol yn yr etholiad;
• cael ei gyflogi neu yr ymgysylltir ag ef gan blaid wleidyddol gofrestredig mewn cysylltiad â gweithgareddau gwleidyddol y blaid;
• cael ei gyflogi neu yr ymgysylltir ag ef gan berson a restrir uchod, i gyflawni gweithgaredd sydd wedi'i gynllunio i hyrwyddo canlyniad penodol yn yr etholiad;
• cael ei gyflogi neu yr ymgysylltir ag ef gan berson o fewn y paragraff uchod i gyflawni gweithgaredd sydd wedi'i gynllunio i hyrwyddo canlyniad penodol yn yr etholiad, ac yn cynnwys ymgeiswyr, asiantiaid a gweithwyr plaid.
Ni ddylid rhoi cyngor ynghylch a yw rhywun yn bodloni'r diffiniad hwn. Gellir dangos i'r unigolyn y diffiniad o ymgyrchydd gwleidyddol, sydd wedi'i nodi ar gefn y ffurflen pleidlais bost, i'w helpu i benderfynu a all gyflwyno'r bleidlais bost/pleidleisiau post.
Os yw’n dal i fod yn ansicr ar ôl darllen y diffiniad ar y ffurflen, dylai geisio’i gyngor cyfreithiol ei hun.
Beth os yw’r ymgeisydd yn rhoi gwybod ei fod yn ymgyrchydd gwleidyddol (ac yn cyflwyno pleidleisiau post ar gyfer pobl nad ydynt yn berthnasau agos neu’n bobl y maent yn darparu gofal rheolaidd ar eu cyfer)?
Dylid rhoi gwybod i'r ymgyrchydd na chaniateir iddo gyflwyno pleidleisiau post oni bai mai ei bleidleisiau post ef ei hun ydynt, neu ei fod yn cyflwyno pleidleisiau post ar gyfer perthnasau agos neu bobl y mae’n darparu gofal ar eu cyfer.
Os yw’r unigolyn wedi nodi nad yw'r holl bleidleisiau post yn perthyn i berthnasau agos neu rywun y mae’n darparu gofal ar eu cyfer, a'i fod yn mynnu ei fod am eu cyflwyno, dylai'r person awdurdodedig roi gwybod iddo:
• ei bod hi’n drosedd i ymgyrchwyr gwleidyddol drin pleidleisiau post nad ydynt yn rhai eu hunain, rhai perthnasau agos neu rai rhywun y maent yn darparu gofal ar eu cyfer
• bydd unrhyw bleidleisiau post a gyflwynir sy'n perthyn i bobl eraill ac eithrio'r rhai a nodir uchod yn cael eu gwrthod
• bydd y Swyddog Canlyniadau yn hysbysu'r heddlu os yw’n amau bod trosedd wedi'i chyflawni
Dylid gofyn i'r ymgyrchydd gwleidyddol gyflwyno'r pleidleisiau post. Rhaid cofnodi manylion y pleidleisiau post a wrthodwyd yn adran 3 y ffurflen a’i hatodi i'r pleidleisiau post a wrthodwyd.
Os bydd yr ymgyrchydd gwleidyddol yn gwrthod cyflwyno'r pleidleisiau post ac yn gadael yr adeilad, dylai’r person awdurdodedig gofnodi'r manylion a rhoi gwybod i’r Swyddog Canlyniadau.
Beth i'w wneud os bydd unigolyn yn gadael pleidleisiau post yn swyddfeydd y cyngor heb lenwi'r ffurflen?
Os gadawyd pleidleisiau post yn swyddfeydd y cyngor, rhaid i’r person awdurdodedig wrthod y bleidlais bost/pleidleisiau post a adawyd ar ôl9 a chofnodi manylion y bleidlais bost/pleidleisiau post yn adran 3B y ffurflen pleidlais bost. Rhaid i'r person awdurdodedig ysgrifennu ei enw ar y ffurflen pleidlais bost a'i atodi i'r bleidlais bost/pleidleisiau post a adawyd ar ôl. Yn y sefyllfa hon, mae'r pleidleisiau post yn cael eu gwrthod gan nad oeddent 'wedi cwblhau ffurflen pleidlais bost' (gadawyd ar ôl).
- 1. Rheoliad 82B(1)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 82B(1)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 82B(1)(c) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 82D Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 82C Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 82C(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheoliad 82D (2)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Adran 112A(7) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Rheoliad 82D(2)(a) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 9
Rheoli derbyn pleidleisiau post a gyflwynwyd i'r Swyddog Canlyniadau
Mae cyfyngiadau ar nifer y pleidleisiau post y gellir eu cyflwyno a chyfyngiadau ar bwy all yr unigolyn sy'n cyflwyno'r nifer cyfyngedig o bleidleisiau post fod ar gyfer pob pleidlais a gynhelir. Mae'r cyfyngiadau hyn yn berthnasol i bob pleidlais bost a gyflwynir i'r Swyddog Canlyniadau neu berson sydd wedi'i awdurdodi i weithredu ar ei ran boed mewn gorsafoedd pleidleisio neu mewn lleoliadau, swyddfeydd y cyngor fel arfer, a ddynodwyd at y diben hwnnw gan y Swyddog Canlyniadau.
Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth am y weithdrefn arferol ar gyfer cyflwyno pleidleisiau post i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor. Mae hefyd yn cynnwys canllawiau ar ymholiadau a all godi o gyflwyno pleidleisiau post a sefyllfaoedd lle mae’n rhaid i berson awdurdodedig wrthod pleidleisiau post a gyflwynir.
Rhaid i unrhyw un sy'n dychwelyd pleidlais bost â llaw i'r Swyddog Canlyniadau gwblhau ffurflen pleidlais bost. Bydd pleidlais bost a ddychwelir â llaw heb ei hanfon gyda ffurflen pleidlais bost yn cael ei gwrthod.
Rhaid i berson awdurdodedig gyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau:1
- unrhyw bleidlais bost a gyflwynir cyn diwedd y cyfnod pleidleisio
- ffurflen pleidlais bost wedi'i chwblhau ar ei chyfer
Dylech:
- penderfynu ar y lleoliad(au), dyddiadau ac amseroedd lle bydd personau awdurdodedig yn gallu derbyn pleidleisiau post a ddanfonwyd â llaw
- neilltuo digon o bobl awdurdodedig i gwmpasu'r lleoliad(au), dyddiadau ac amseroedd a derbyn unrhyw bleidleisiau post a gyflwynwyd - lle bynnag y bo modd, dylech ddarparu ar gyfer pleidleisiau post i'w cyflwyno yn swyddfeydd y cyngor hyd at 10pm ar y diwrnod pleidleisio
- cyhoeddi yn eich cyfathrebiadau â phleidleiswyr post:
- y lleoliad(au), dyddiadau ac amseroedd lle bydd personau awdurdodedig yn gallu derbyn pleidleisiau post a gyflwynwyd â llaw
- bod yn rhaid llenwi ffurflen pleidlais bost pan fydd y bleidlais bost yn cael ei chyflwyno
- mai dim ond i'r Swyddog Canlyniadau neu berson awdurdodedig y gellir cyflwyno pleidleisiau post ac
- y bydd pleidleisiau post a adawyd ar ôl neu a gyflwynwyd i berson nad ydynt wedi'u hawdurdodi yn cael eu gwrthod
- sicrhewch mai dim ond chi neu berson yr ydych wedi'i awdurdodi i weithredu ar eich rhan sy'n derbyn pleidleisiau post â llaw
- arwyddbostiwch yn glir y lleoliad lle gellir cyflwyno pleidleisiau post o fynedfa'r adeilad
- sicrhewch fod y llwybr yn gwbl hygyrch neu darparwch dewis arall ag arwyddion priodol
- rhowch fanylion i staff eraill yr awdurdod lleol, megis staff derbynfa, o'r hyn i'w wneud os bydd person yn ceisio cyflwyno pleidlais bost iddynt a'i gwneud yn glir:
- na ddylent drin pleidleisiau post
- na ddylent gynnig eu danfon
- yn lle hynny, dylent gyfeirio'r person sy'n danfon y pleidleisiau post atoch chi neu'r person awdurdodedig
Bydd angen i chi benderfynu pa mor aml y bydd y pecynnau o bleidleisiau post a dderbyniwyd ac a wrthodwyd yn cael eu dosbarthu i chi gan y person awdurdodedig.
Dylech sicrhau bod personau awdurdodedig yn storio'r pleidleisiau post a dderbyniwyd a'r pleidleisiau a wrthodwyd yn ddiogel hyd nes y cânt eu dosbarthu i chi, gan gynnwys pan fyddwch yn darparu ar gyfer pleidleisiau post yn cael eu cyflwyno yn swyddfeydd y cyngor hyd at ddiwedd y cyfnod pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.
Ar y diwrnodau cyn y diwrnod pleidleisio, efallai y bydd eich penderfyniad yn seiliedig ar amseriad y sesiwn agor pleidleisiau post er enghraifft. Ar y diwrnod pleidleisio, efallai y byddwch yn penderfynu derbyn pecynnau o bleidleisiau post a dderbyniwyd ac a wrthodwyd drwy gydol y dydd i leddfu'r pwysau ar y sesiwn agor derfynol ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio.
- 1. Rheoliad 82A(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr) (Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 1
Dosbarthu pleidleisiau post o swyddfeydd y cyngor i'r Swyddog Canlyniadau Lleol
Dylech hysbysu'r person awdurdodedig o'r amser, y lleoliad a’r amlder ar gyfer dosbarthu'r pleidleisiau post a dderbyniwyd a gyflwynwyd iddo.
Rhaid i'r person awdurdodedig sicrhau bod y pecynnau sy'n cynnwys y pleidleisiau post a dderbyniwyd a'r ffurflenni pleidleisiau post yn cael eu cadw'n ddiogel nes iddynt gael eu dosbarthu i chi. Dylai'r dulliau o storio a chludo'r pleidleisiau post ganiatáu i chi fod yn fodlon bod y papurau pleidleisio drwy'r post yn cael eu cadw'n ddiogel ac na ellir ymyrryd â hwy.
Cyn eu dosbarthu i chi, yn gyntaf rhaid i'r person awdurdodedig roi mewn i becynnau ar wahân y pleidleisiau post a dderbyniwyd a'r ffurflenni pleidleisiau post, gyda disgrifiad o'r cynnwys wedi'i ysgrifennu ar bob pecyn. Rhaid selio pob pecyn.1
Dosbarthu pleidleisiau post a wrthodwyd o swyddfeydd y cyngor i'r Swyddog Canlyniadau
Rhaid i'r person awdurdodedig selio mewn pecyn ar wahân unrhyw bleidleisiau post a ffurflenni pleidleisiau post cysylltiedig2 a'u dosbarthu i chi.3
Rheoli derbyn pleidleisiau post a ddosberthir o swyddfeydd y cyngor i'r Swyddog Canlyniadau
Pan fyddwch yn derbyn y pecynnau o bleidleisiau post sydd wedi'u dosbarthu â llaw yn un o swyddfeydd y cyngor, dylech sicrhau eu bod yn cael eu rheoli mewn ffordd briodol.
Rhaid storio'r pecynnau o bleidleisiau post a dderbynnir mewn cynwysyddion priodol. Mae ein canllaw ar Ddychwelyd a derbyn pleidleisiau post yn cynnwys rhagor o wybodaeth am storio pleidleisiau post a ddychwelwyd yn ddiogel.
Mae'n ofynnol i chi gadw cofnod o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno yn un o swyddfeydd y cyngor. Mae ein canllawiau ar Baratoi cofnod o'r pleidleisiau post hynny a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno yn cynnwys rhagor o wybodaeth am gadw'r rhestr hon. Dylech sicrhau bod y pecynnau hyn yn cael eu storio'n ddiogel nes i chi agor y pecynnau i lunio'r rhestr.
Dylech sicrhau bod y pecynnau o ffurflenni pleidleisiau post ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd yn cael eu storio'n ddiogel nes iddynt gael eu hanfon ymlaen at y Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr neu eu cadw yn yr Alban. Mae rhagor o wybodaeth yn ein canllaw ar Gyfrifoldeb am selio a chadw dogfennau etholiadol.
- 1. Rheoliad 82A(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 82C(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 82C(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 3
Cynllunio ar gyfer agor pleidleisiau post
Fel rhan o'ch broses gynllunio, bydd angen i chi nodi nifer y sesiynau agor pleidleisiau post y credwch y bydd eu hangen arnoch a phryd y dylid eu cynnal, a gwneud trefniadau ar eu cyfer yn ôl yr angen.
Bydd nifer y sesiynau agor pleidleisiau post y bydd eu hangen arnoch yn dibynnu i raddau helaeth ar gyfanswm nifer y pleidleiswyr post sydd gennych a'ch amcangyfrif o nifer y pleidleiswyr post. I gael rhagor o ystyriaethau gweler ein canllawiau ar gynllunio ar gyfer cyflawni prosesau allweddol.
Dylid cynnal eich sesiwn agor gyntaf o fewn ychydig ddyddiau i'ch derbyniad cyntaf. Hyd yn oed os nad ydych wedi derbyn nifer uchel o bleidleisiau post a ddychwelwyd erbyn hynny, dylech barhau i gynnal sesiwn bryd hynny a manteisio ar y cyfle i brofi eich offer ac asesu eich llifoedd gwaith o dan amodau real.
Ar ôl y sesiwn gyntaf hon dylech fesur a yw eich amcangyfrif o nifer y sesiynau agor pleidleisiau post sydd eu hangen yn ddigonol neu a fydd angen i chi ei adolygu.
Nid oes dim yn atal agor pleidleisiau post ar ddydd Sadwrn, dydd Sul neu ŵyl banc, ac efallai yr hoffech ystyried gwneud hynny, yn enwedig os yw’n amlwg y bydd angen sesiynau agor pleidleisiau post ychwanegol arnoch.
Rhaid i chi roi o leiaf 48 awr o rybudd, yn ysgrifenedig, i bob ymgeisydd o amser a lleoliad pob sesiwn agor ac o uchafswm nifer yr asiantiaid pleidleisio drwy’r post y gellir eu penodi i fod yn bresennol pan agorir pleidleisiau post.1
Dylech hefyd gynllunio ar gyfer pryd y byddwch yn agor y pecynnau o bleidleisiau post a wrthodwyd a ddanfonwyd atoch â llaw mewn gorsaf bleidleisio neu swyddfa'r cyngor. Er nad oes gan ymgeiswyr ac asiantiaid hawl i wrthwynebu pleidlais bost a wrthodwyd i chi mewn gorsaf bleidleisio neu swyddfa'r cyngor, bydd agor cyn gynted ag y bo'n ymarferol yn sicrhau bod y cofnod o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno mor gyfredol â phosib.
Pwy all fynychu sesiwn agor pleidleisiau post?
Mae gan y bobl ganlynol hawl i fod yn bresennol pan agorir pleidleisiau post:2
- chi a'ch staff
- ymgeiswyr
- asiantiaid etholiad (neu is-asiant ar eu rhan, neu unrhyw berson a benodwyd gan ymgeisydd i fod yn bresennol yn lle'r asiant etholiadol)
- asiantiaid pleidleisio drwy'r post
- cynrychiolwyr y Comisiwn
- arsylwyr achrededig
Dylai'r broses agor pleidleisiau post fod yn dryloyw a dylai pawb sydd â hawl i fod yn bresennol allu gweld y broses gyfan yn glir. Gallech ddosbarthu copïau o'ch cynllun trefn i gynorthwyo'r rhai sy'n bresennol i ddilyn yr hyn sy'n digwydd, ble a phryd.
Dylech roi gwybodaeth i unrhyw un sy'n mynychu'r sesiwn agor pleidleisiau post am y prosesau yr ydych am eu dilyn. Gall hyn fod yn esboniad llafar neu drwy ddarparu nodiadau canllaw ysgrifenedig.
Dylech hysbysu ymgeiswyr, asiantiaid etholiad ac asiantiaid pleidleisio drwy'r post am y broses i'w dilyn os ydynt yn dymuno gwrthwynebu i ddatganiad pleidleisio drwy'r post gael ei wrthod. Ceir rhagor o wybodaeth am y broses ar gyfer rheoli hyn yn ein canllaw: gwirio dynodwyr personol.
Rhaid i bawb sy'n mynychu sesiwn agor pleidleisiau post, gan gynnwys eich staff sy'n gweithio yn y sesiwn:
- gael copi o'r gofynion cyfrinachedd, sydd ar gael yn Saesneg ac yn ddwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg3
- cynnal cyfrinachedd pleidleisio4
Rhaid i chi gymryd y rhagofalon priodol i atal unrhyw berson rhag gweld y pleidleisiau a wnaed ar y papurau pleidleisio. Drwy gydol y sesiynau agor rhaid i chi gadw'r papurau pleidleisio wyneb i lawr. Efallai y bydd adegau pan fydd blaen papur pleidleisio yn dod yn weladwy. Mae’n drosedd i unrhyw un:
- ceisio canfod yr ymgeisydd y rhoddir unrhyw bleidlais iddo ar unrhyw bapur pleidleisio penodol
- cyfleu unrhyw wybodaeth o’r fath a gafwyd yn yr achosion hynny
Offer ar gyfer pleidleisiau post
Dylech ystyried pa offer arall y bydd ei angen arnoch wrth agor pleidleisiau post, a sicrhau ei fod yn ei le ac yn cael ei brofi ymlaen llaw. Dylai hyn gynnwys:
- sganwyr
- ceblau estyn
- argraffydd
- taflunydd a sgrin
- gliniadur
- pad a stamp wedi'i wrthod
- deunydd ysgrifennu amrywiol
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 80, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 rheoliad 80 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 68, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 rheoliad 68 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 adran 66 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 adran 66 ↩ Back to content at footnote 4
Cadw cofnodion o becynnau pleidleisio drwy'r post a gaiff eu derbyn a'u hagor
Bydd y canllawiau hyn yn cael eu diweddaru gyda'r mesurau Ymdrin â Phleidleisiau Post o'r Ddeddf Etholiadau unwaith y bydd yr is-ddeddfwriaeth berthnasol wedi'i gosod a'r prosesau wedi'u cwblhau. Byddwn yn cadarnhau pryd y caiff hwn ei gyhoeddi drwy'r Bwletin GE.
Mae cadw cofnodion o bleidleisiau post a gaiff eu derbyn a'u hagor yn allweddol er mwyn cynnal trywydd archwilio clir.
Mae'n ofynnol i chi gwblhau datganiad mewn perthynas â'r papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer yr etholaeth1
a bydd y cofnodion a gedwir gennych yn hanfodol er mwyn sicrhau bod y datganiad yn gyflawn ac yn gywir.
Dylech sicrhau bod yr holl ffigurau sydd eu hangen ar gyfer y datganiad wedi'u cofnodi'n gywir wrth dderbyn, agor a chadarnhau pleidleisiau post. Dylech wneud y canlynol:
- cynnal trywydd archwilio clir ar gyfer derbyn ac agor pecynnau pleidleisio drwy'r post
- cofnodi cyfanswm nifer yr amlenni a gaiff eu derbyn
- cofnodi nifer yr amlenni a gaiff eu cyfrif
- sicrhau bod yr holl ffigurau sydd eu hangen er mwyn cwblhau'r datganiad mewn perthynas â phapurau pleidleisio drwy'r post yn cael eu cofnodi'n gywir
- cadw cofnod o gyfanswm nifer yr amlenni a dderbyniwyd yn eich swyddfa ac a roddwyd mewn blwch pleidleisio i bleidleiswyr post at ddibenion archwilio er mwyn cymharu â nifer yr amlenni a gyfrifwyd fel rhan o'r broses agor
- cwblhau cyfrif papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer pob blwch pleidleisio drwy'r post – mae templed ar gael yma
- paratoi rhestr yn cofnodi'r canlynol:
- cyfanswm nifer y pleidleisiau post a roddir ym mhob blwch
- cyfanswm nifer y blychau pleidleisio i bleidleiswyr post
- trefnu papurau pleidleisio mewn sypiau er mwyn sicrhau y gallwch gasglu a chanslo papur pleidleisio penodol os bydd angen – er enghraifft, os bu'n rhaid ailanfon yn dilyn gwall gweithdrefnol
I gael gwybodaeth am gadw cofnod o ddatganiadau pleidleisio drwy'r post sydd wedi mynd drwy'r broses agor ac a wrthodwyd, gweler ein canllawiau ar fwrw golwg dros y dynodyddion personol.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 91, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 91 ↩ Back to content at footnote 1
Marcio'r rhestr pleidleiswyr post a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post
Rhaid i chi farcio'r rhestr o bleidleiswyr post neu'r rhestr o ddirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, fel y bo'n briodol, pryd bynnag y dychwelir datganiad pleidleisio drwy'r post, waeth p'un a oes bapur pleidleisio wedi'i ddychwelyd gydag ef ai peidio.1
Cadarnhau wrth bleidleiswyr fod eu pleidlais bost wedi'i dychwelyd
Mae'n ofynnol i chi gadarnhau wrth bleidleisiwr neu ddirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post, os gofynnir am hynny, p'un a ydych wedi cael datganiad pleidleisio drwy'r post neu bleidlais drwy ddirprwy drwy’r post yn ôl. Gallwch wneud hyn drwy edrych ar y rhestrau a farciwyd.2
Mae hefyd yn ofynnol i chi gadarnhau, os gofynnir am hynny, a yw rhif y papur pleidleisio a roddwyd i'r etholwr neu'r dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post wedi'i gofnodi ar y naill restr neu'r llall o bleidleisiau a wrthodwyd dros dro y mae'n ofynnol ei chadw a'i defnyddio at ddiben paru dogfennau. I gael rhagor o wybodaeth am hyn, gweler ein canllawiau ar y broses ar gyfer agor amlenni pleidleisiau post.3
Rhaid i chi fod yn fodlon mai'r etholwr neu'r dirprwy sy'n pleidleisio drwy'r post ei hun sydd wedi gwneud y cais cyn cadarnhau statws y bleidlais.4
Er enghraifft, gallech ofyn am enw, cyfeiriad a dyddiad geni'r unigolyn cyn darparu'r wybodaeth.
- 1. Para 55(3) Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 49 Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 49 Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 49(2) Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4
Y broses ar gyfer agor amlenni pleidleisiau post
Darperir ar gyfer y prosesau ar gyfer agor pecynnau pleidleisio drwy'r post mewn deddfwriaeth:
Cam 1: agor y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post1
- cyfrif a chofnodi nifer y pecynnau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd (h.y., nifer yr amlenni ‘B’ yn y blwch pleidleisio i bleidleiswyr post)
- agor prif amlen ‘B’ a thynnu'r datganiad pleidleisio drwy'r post a'r amlen papur pleidleisio allan
- cadarnhau bod y rhif ar y datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r rhif ar yr amlen papur pleidleisio (amlen ‘A’)
- rhoi marc yn y rhestr pleidleiswyr post, neu'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post fel y bo'n briodol i ddangos bod datganiad pleidleisio drwy'r post wedi'i ddychwelyd
Cam 2: gwirio'r dynodyddion personol2
- sicrhau bod yr etholwr wedi llofnodi'r datganiad ac wedi rhoi dyddiad geni
- cadarnhau bod y llofnod a'r dyddiad geni ar y datganiad pleidleisio drwy'r post yn cyfateb i'r hyn a geir ar y cofnod dynodyddion personol
- os gwrthodwch ddatganiad pleidleisio drwy'r post, rhaid i chi nodi ‘gwrthodwyd’ ar y datganiad, ei atodi i amlen y papur pleidleisio (os nad oes amlen o'r fath rhaid i chi ei atodi i'r papur pleidleisio) a'i roi yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd. Cyn ei roi yn y blwch, rhaid i chi ei ddangos i'r asiantiaid ac, os bydd unrhyw un yn gwrthwynebu eich penderfyniad, rhaid ychwanegu'r geiriau “gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod”. Dylech hefyd gofnodi'r rheswm dros ei wrthod
Cam 3: agor amlenni papurau pleidleisio drwy’r post3
- agor yr amlen papur pleidleisio (amlen 'A') a thynnu'r papur pleidleisio, gan sicrhau bod y papur pleidleisio yn cael ei gadw wyneb i lawr drwy'r amser
- cadarnhau bod y rhif ar amlen y papur pleidleisio (amlen ‘A’) yn cyfateb i'r rhif ar gefn y papur pleidleisio
- rhoi'r papur(au) pleidleisio yn y blwch neu'r blychau pleidleisio drwy'r post)
Cam 4: selio'r blychau pleidleisio drwy'r post4
- cyfrif a chofnodi nifer y papurau pleidleisio drwy'r post i'w selio ym mhob blwch pleidleisio drwy'r post
- selio a storio'r blwch neu'r blychau pleidleisio drwy'r post yn ddiogel
Ceir crynodeb o'r broses yn y siart llif agor pleidleisiau post a ganlyn:
Dylech wirio'r rhestrau hyn yn rheolaidd i sicrhau y gellir paru unrhyw ddogfennau nad ydynt yn cyfateb, gan alluogi'r pleidleisiau post hynny i gael eu hailgyflwyno i'r broses.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 84, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 84 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 85A, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 85A ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 86, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 86 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001, rheoliad 89, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001, rheoliad 89 ↩ Back to content at footnote 4
Bwrw golwg dros y dynodyddion personol
Rhaid i chi wirio'r dynodyddion ar yr holl ddatganiadau pleidleisiau post a ddychwelwyd1 .
Etholaethau trawsffiniol
Os mai chi yw Swyddog Canlyniadau (Dros Dro) etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol bydd angen i chi ystyried effaith hyn ar eich prosesau ar gyfer gwirio dynodyddion personol ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd, a ph'un a oes angen i chi ddirprwyo rhai o'ch swyddogaethau i uwch-swyddog yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill. Bydd angen i chi benderfynu sut y cewch y data gan yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill yn ogystal ag ystyried cyfran yr etholaeth a gynhwysir yn yr ardal(oedd) awdurdod lleol arall/eraill. Dylech gydweithio'n agos â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol a staff gwasanaethau etholiadol yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill perthnasol ar gam cynnar yn y broses cynllunio etholiad er mwyn nodi unrhyw faterion posibl a sut yr ymdrinnir â'r rhain.
Bwrw golwg dros y dynodyddion personol
Os byddwch wedi dirprwyo awdurdod i berson arall wneud penderfyniadau ar ddatganiadau pleidleisio drwy'r post wrth ddilysu dynodyddion pleidleisio drwy'r post, dylech roi copi o Ganllawiau'r Comisiwn a'r Gwasanaeth Gwyddor Fforensig ar wirio llofnodion i'r unigolyn a rhoi cyfarwyddyd iddo i'w dilyn.
Yn y tabl isod ceir canllaw ar wneud penderfyniadau ynghylch a ddylid derbyn neu wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd.
When to accept a returned postal vote statement:
Wedi darparu Ilofnod? | Wedi darparu dyddiad geni? | Hepgoriad llofnod wedi'i ganiatáu? |
---|---|---|
Gwag | Do | Do |
Do | Wedi'i ddarparu ond mewn fformat gwahanol e.e. diwrnod a mis yn y drefn groes | Dd/G |
When to reject a returned postal vote statement:
Wedi darparu Ilofnod? | Wedi darparu dyddiad geni? | Hepgoriad llofnod wedi'i ganiatáu? |
---|---|---|
Gwag | Do | Naddo |
Gwag | Gwag | Naddo |
Do | Gwag | Naddo |
Do | Nid yw'n cyfateb i'r cofnod pleidleiswyr post | Naddo |
Nid yw'n cyfateb i'r cofnod pleidleiswyr post | Do | Naddo |
Do | Dyddiad y cwblhawyd y bleidlais bost wedi'i ddarparu drwy gamgymeriad | Dd/G |
Nid oes rhaid i'ch penderfyniad ynghylch datganiad pleidleisio drwy'r post fod yn seiliedig ar y wybodaeth ar y datganiad pleidleisio drwy'r post a'r cofnod dynodyddion personol yn unig.
Pan fyddwch yn penderfynu, gallwch gyfeirio at ffynonellau eraill, er enghraifft, y llofnod a ddarparwyd ar ffurflen gofrestru, neu ystyried unrhyw wybodaeth ychwanegol sydd gennych. Er enghraifft, efallai y bydd etholwr yn cysylltu â chi i ddweud ei fod wedi torri ei fraich ers rhoi ei ddynodyddion i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol ac na all lofnodi ei enw yn ôl yr arfer.
Gallech benderfynu derbyn ei ddatganiad pleidleisio drwy'r post fel un dilys os byddwch yn fodlon ar hyn, hyd yn oed os yw'r llofnod yn edrych yn wahanol i'r un ar y cofnod dynodyddion personol.
Dylai pob penderfyniad ar ddatganiad pleidleisio drwy'r post fod ar sail unigol.
Gall ymgeiswyr, asiantiaid etholiad ac asiantiaid pleidleisio drwy'r post wrthwynebu datganiad pleidleisio drwy'r post. Os byddant yn gwrthwynebu gwrthodiad, rhaid nodi ‘gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod’1
ar y datganiad pleidleisio drwy'r post cyn ei atodi i amlen y papur pleidleisio a'i roi yn y blwch ar gyfer pleidleisiau a wrthodwyd.
Nid oes gan arsylwyr na chynrychiolwyr achrededig yr hawl i wrthwynebu achos o wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 85A(2), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 85A(2) ↩ Back to content at footnote 1
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 85A(4), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 85A(4) ↩ Back to content at footnote 1
Delio â phapurau pleidleisio wedi torri neu rwygo
Weithiau, mae'n bosibl y bydd etholwyr wedi torri neu rwygo eu papurau pleidleisio drwy'r post a gwblhawyd. Bydd angen i chi benderfynu a yw'r darn a ddychwelwyd yn bapur pleidleisio dilys.
Gall fod sawl senario dan sylw:
Senario | Derbyn ar y cam dilysu pleidleisiau post? | Derbyn yn y cyfrif? |
---|---|---|
Mae'r darn yn cynnwys rhif y papur pleidleisio a'r marc swyddogol | Ie - Bydd y ‘papur pleidleisio’ yn mynd drwy'r broses dilysu pleidleisiau post (am ei fod yn cynnwys rhif y papur pleidleisio) ac yn cael ei gyfrif. | Ie - Gellid ei dderbyn yn bleidlais ddilys adeg y cyfrif, ar yr amod bod bwriad y pleidleisiwr yn glir. |
Mae'r darn ond yn cynnwys rhif y papur pleidleisio a dim marc swyddogol | Ie - Bydd y ‘papur pleidleisio’ yn mynd drwy'r broses dilysu pleidleisiau post ac yn cael ei gyfrif. | Na - Rhaid ei wrthod adeg y cyfrif am nad yw'n cynnwys y marc swyddogol. |
Mae'r darn ond yn cynnwys y marc swyddogol a dim rhif papur pleidleisio | Na - Rhaid gwrthod y ‘papur pleidleisio’ ar y cam dilysu pleidleisiau post oherwydd ni chaiff ei baru wrth agor amlen ‘A’ nac yn erbyn y datganiad pleidleisio drwy'r post. | Dd/G |
Nid yw'r darn yn cynnwys y marc swyddogol na rhif y papur pleidleisio | Na - Rhaid gwrthod y ‘papur pleidleisio’ ar y cam dilysu pleidleisiau post oherwydd, unwaith eto, ni chaiff ei baru wrth agor amlen ‘A’ nac yn erbyn y datganiad pleidleisio drwy'r post. | Dd/G |
Yr achlysur agor amlenni pleidleisiau post olaf
Er mwyn osgoi unrhyw oedi posibl i'r prosesau dilysu a chyfrif, dylech sicrhau bod angen agor cyn lleied o bleidleisiau post â phosibl ar y cam dilysu a chyfrif. Dylech sicrhau bod unrhyw becynnau o bleidleisiau post a dderbyniwyd sydd wedi'u cyflwyno mewn gorsafoedd pleidleisio neu i swyddfeydd y cyngor yn cael eu dosbarthu i chi cyn gynted ag y bo'n ymarferol.
Mae hyn yn arbennig o bwysig gan fod rhaid i chi gymryd camau rhesymol i ddechrau cyfrif y pleidleisiau cyn gynted ag sy'n ymarferol ac o fewn pedair awr o gau'r cyfnod pleidleisio.
Rhaid i chi sicrhau bod y pleidleisiau post yn cael eu hagor, boed hynny yn y lleoliad dilysu a chyfrif neu rywle arall, yng ngolwg unrhyw ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr sy'n bresennol.1
Fel gydag unrhyw sesiynau agor eraill, mae'n ofynnol i chi roi hysbysiad o amser a lleoliad y sesiwn agor pleidleisiau post olaf.2
Ar ôl cwblhau'r sesiwn agor pleidleisiau post olaf, mae'n ofynnol i chi selio a storio amryw flychau a dogfennau'n ddiogel. Gallwch gael rhagor o wybodaeth am hyn yn ein canllawiau: Sicrhau diogelwch papurau pleidleisio a deunyddiau eraill.
Cadw cofnod o becynnau pleidleisio drwy'r post anghyflawn a ddychwelwyd
Drwy gydol y broses agor, byddwch wedi cadw dwy restr o bapurau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd dros dro:3
- un i gofnodi rhif papur pleidleisio unrhyw bapur pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post
- yr ail i gofnodi rhif papur pleidleisio unrhyw ddatganiad pleidleisio drwy'r post na chafodd ei ddychwelyd gyda'r papur pleidleisio drwy'r post
Ar ôl y sesiwn agor olaf, y rhain fydd:
- y rhestr derfynol o bapurau pleidleisio heb ddatganiad pleidleisio drwy'r post dilys a dderbyniwyd
- y rhestr derfynol o ddatganiadau pleidleisio drwy'r post dilys a dderbyniwyd heb rai o'r papurau pleidleisio neu bob un ohonynt
- 1. Paragraffau 31 a 32 Atodlen 2 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 44 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 55 Atodlen 2 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
Paratoi cofnod o'r pleidleisiau post hynny sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion
Bydd y canllawiau hyn yn cael eu diweddaru gyda'r mesurau Ymdrin â Phleidleisiau Post o'r Ddeddf Etholiadau unwaith y bydd yr is-ddeddfwriaeth berthnasol wedi'i gosod a'r prosesau wedi'u cwblhau. Byddwn yn cadarnhau pryd y caiff hwn ei gyhoeddi drwy'r Bwletin GE.
Ar ôl etholiad, mae'n ofynnol i Swyddogion Cofrestru Etholiadol hysbysu pleidleiswyr drwy'r post os gwrthodwyd eu pleidlais bost am iddi fethu gwiriadau dynodyddion personol a'u hysbysu am y rheswm penodol dros ei gwrthod. Rhaid i chi gadw cofnod o'r categorïau rydych yn gwrthod datganiadau pleidleisio drwy'r post unigol oddi tanynt er mwyn gwneud hyn.
Rhaid rhoi cyfrif am bob datganiad pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd. Rhaid i chi gadw rhestr o'r pleidleisiau post hynny sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion personol.
Rhaid i'r rhestr hon gynnwys, ar gyfer pob pleidlais bost o'r fath a wrthodwyd1
:
- enw a chyfeiriad yr etholwr (ac enw a chyfeiriad y dirprwy os oes gan yr etholwr un)
- rhif yr etholwr ar y gofrestr etholwyr (a rhif y dirprwy os oes gan yr etholwr un)
- y rheswm neu'r rhesymau penodol dros wrthod y datganiad pleidleisio drwy'r post
- unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud â'r penderfyniad i wrthod sy'n briodol yn eich barn chi, ond nid rhif neu rifau'r papur pleidleisio
Mae'r rhesymau penodol dros wrthod datganiad pleidleisio drwy'r post fel a ganlyn:
- nid yw'r llofnod yn cyfateb i'r enghraifft a gedwir ar y cofnod dynodyddion personol
- nid yw'r dyddiad geni yn cyfateb i'r un a gedwir ar y cofnod dynodyddion personol
- mae'r blwch llofnod yn wag
- mae'r blwch dyddiad geni yn wag
Os bydd pleidleisiwr drwy'r post yn ymddangos ar y rhestr o bleidleisiau post sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion personol, mae'n ofynnol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hysbysu'r pleidleisiwr drwy'r post o'r penderfyniad i wrthod o fewn tri mis i ddyddiad yr etholiad.
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, rhaid i chi anfon y rhannau perthnasol o'r rhestr hon at y Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill. Rhaid gwneud hyn pan fyddwch yn anfon yr holl ddogfennau etholiadol perthnasol eraill at y Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol.
Paratoi cofnod o'r pleidleisiau post hynny sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion
Nid oes rhaid i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol anfon hysbysiad os byddwch yn amau bod trosedd wedi'i chyflawni mewn perthynas â phleidlais bost benodol1
.
Felly, dylech gadw cofnod o unrhyw achosion lle rydych yn amau bod trosedd wedi'i chyflawni a'u hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol, fel ei fod yn gwybod ym mha achosion na ddylai anfon hysbysiad gwrthod dynodyddion pleidlais bost. Dylech wneud hyn pan fyddwch yn anfon yr holl ddogfennau etholiadol eraill at y Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Lle yr amheuir twyll, dylech roi cynnwys y pecyn pleidleisio drwy'r post mewn pecyn ar wahân a hysbysu eich Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu lleol. Dylech drafod y pecyn pleidleisio drwy'r post cyn lleied â phosibl a, lle bo modd, wneud nodyn o bawb sydd wedi ei drafod.
I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein Canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ynghylch anfon hysbysiadau gwrthod dynodyddion pleidleisiau post.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 91, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 91 ↩ Back to content at footnote 1
- 1. Rheoliad 61C(2)(b) Rheoliadau 2001 ↩ Back to content at footnote 1
Paratoi cofnod o'r pleidleisiau post hynny y’u gwrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno
Rhaid i chi gadw rhestr o unrhyw etholwr y gwrthodwyd ei bleidlais bost ar yr adeg y cafodd ei chyflwyno (neu ei gadael ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu yn un o swyddfeydd y cyngor. Er mwyn llunio'r rhestr rhaid i chi agor pob prif amlen a phob amlen papur pleidleisio ar wahân.1
Os nad yw pleidlais bost a wrthodwyd gan etholwr yn cynnwys datganiad pleidleisio drwy’r post, nid yw’n ofynnol i chi gofnodi’r gwrthodiad ar y rhestr o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gânt eu cyflwyno.2
Er mwyn sicrhau bod y rhestr o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno i chi mor gyfredol â phosibl, dylech nodi unrhyw becynnau o bleidleisiau post a wrthodwyd a gasglwyd neu a ddosberthir i chi â llaw yn yr orsaf bleidleisio neu yn un o swyddfeydd y cyngor a diweddaru'r rhestr berthnasol cyn gynted ag sy'n ymarferol.
Gellir gwirio'r rhestr hon hefyd i reoli ymholiadau gan bleidleiswyr post sy'n gofyn i chi gadarnhau a yw eu pleidlais bost wedi'i derbyn lle nad yw eu pleidlais bost wedi'i dangos ar y gofrestr o bleidleisiau post a farciwyd.
Unwaith y bydd y rhestr o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno i'r Swyddog Canlyniadau wedi'i diweddaru, dylid ail-selio'r pecynnau a'u storio'n ddiogel.
Mae'n rhaid i'r rhestr gynnwys y canlynol ar gyfer pob pleidlais bost o'r fath a wrthodwyd:3
- enw a chyfeiriad yr etholwr (ac enw a chyfeiriad y dirprwy os oes gan yr etholwr ddirprwy)
- rhif yr etholwr ar y gofrestr o etholwyr (a rhif y dirprwy os oes gan yr etholwr ddirprwy)
- y rheswm/rhesymau penodedig dros wrthod y bleidlais bost a gyflwynwyd
- arwydd a oedd y dogfennau pleidleisio drwy'r post yn cynnwys papur pleidleisio drwy'r post yr oedd ei rif yn cyfateb i rif y papur pleidleisio drwy'r post a nodir ar y datganiad pleidleisio drwy'r post
- unrhyw wybodaeth arall sy'n ymwneud â'r gwrthodiad y mae'r swyddog canlyniadau yn ei ystyried yn briodol, ond nid rhif y papur pleidleisio drwy'r post
Y rhesymau penodedig dros wrthod pleidlais bost a gyflwynwyd yw:
- ni chwblhawyd y ffurflen pleidleisio drwy'r post yn llawn (anghyflawn) 4 neu gadawyd pleidlais bost ar ôl5
- bod nifer y pleidleisiau post a gyflwynwyd yn fwy na'r nifer a ganiateir neu y disgwylid iddo fynd y tu hwnt i’r nifer a ganiateir6
- cafodd y bleidlais bost ei chyflwyno gan ymgyrchydd gwleidyddol na chaniateir iddo drin y pleidleisiau post7
Mae'n ofynnol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hysbysu etholwr os yw eu pleidlais bost wedi'i chofnodi ar y rhestr o bleidleisiau post a wrthodwyd pan gafodd ei chyflwyno (neu ei gadael ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu yn un o swyddfeydd y cyngor.
Mae ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar hysbysiadau gwrthod pleidleisiau post yn cael eu diweddaru a byddant yn cynnwys mwy o wybodaeth ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban.
- 1. Rheoliad 87(8) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 87(9) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 87(6) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 87(7) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 87(7)(d) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 87(7)(b) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheoliad 87(7)(c) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 7
Adnoddau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) - Pleidleisio absennol
Pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
Mae'r rhan hon o'r canllawiau yn canolbwyntio ar y paratoadau y bydd angen i chi eu gwneud cyn y diwrnod pleidleisio a rhai o'r materion y gall fod angen i chi, fel Swyddog Canlyniadau, eu hystyried ar y diwrnod.
Mae'n cwmpasu pa gyfarpar a deunyddiau y bydd angen i chi eu darparu ar gyfer gorsafoedd pleidleisio, gwybodaeth am drefnu gorsafoedd pleidleisio a rheoli diwedd y cyfnod pleidleisio.
Mae ein llawlyfr i orsafoedd pleidleisio yn ymdrin â'r gweithdrefnau pleidleisio'n fanwl a'r hyn y gall staff gorsafoedd pleidleisio ei ddisgwyl ar y diwrnod pleidleisio.
Gallwch ddod o hyd i'n canllawiau ar nodi gorsafoedd pleidleisio addas yn ein hadran ar archebu gorsafoedd pleidleisio addas.
Cyfarpar a deunyddiau i'w darparu i orsafoedd pleidleisio
Mae'n ofynnol i chi ddarparu cyfarpar a deunyddiau penodol i orsafoedd pleidleisio, a bydd angen i chi gynllunio hyn ymlaen llaw er mwyn sicrhau bod popeth yn ei le ar gyfer pleidleisio yn y gorsafoedd pleidleisio.
Crynodeb o'r eitemau i'w darparu i orsafoedd pleidleisio
Rhaid i chi ddarparu'r canlynol i orsafoedd pleidleisio:1
- blwch/blychau pleidleisio
- papurau pleidleisio (gan gynnwys papurau pleidleisio a gyflwynwyd)
- pennau ysgrifennu neu bensiliau i bleidleiswyr farcio eu
- papurau pleidleisio
- sgriniau pleidleisio
- y rhan berthnasol o'r gofrestr etholiadol
- rhestrau o bleidleiswyr absennol – pleidleiswyr drwy'r post, pleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy a dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post
- ffurflenni i gofnodi manylion etholwyr sydd wedi cael papurau pleidleisio ar ôl i wall clercol gael ei gywiro (y gellir eu hatodi i gofrestr yr orsaf bleidleisio)
- y rhestr rhifau cyfatebol
- cyfrifon papurau pleidleisio
- fersiwn print bras o'r papur pleidleisio, i'w harddangos y tu mewn i'r orsaf bleidleisio
- copi llaw enghreifftiol wedi'i chwyddo o'r papur pleidleisio i'w roi i etholwyr i fynd gyda nhw i fwth pleidleisio er gwybodaeth
- dyfais bleidleisio at ddefnydd pobl ddall neu bobl rhannol ddall
- hysbysiadau canllawiau i bleidleiswyr (‘Sut i bleidleisio yn yr etholiadau hyn’) (i'w harddangos y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio)
- hysbysiadau cyfarwyddiadau i bleidleiswyr (i'w harddangos y tu mewn i'r bwth pleidleisio)
- ffurflenni datganiad gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau
- rhestr o bleidleisiau a gyflwynwyd
- rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu
- datganiad o nifer y pleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu
- rhestr o bleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion
- copïau o'r ffurflen dychwelyd dogfennau pleidleisio drwy'r post
- pecynnau, gyda seliau, i osod ynddynt yr eitemau a gaiff eu dychwelyd atoch, megis papurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelir i'r orsaf bleidleisio, a deunydd pecynnu ar gyfer dogfennaeth yr etholiad ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio
- unrhyw gyfarpar ychwanegol rydych wedi penderfynu bod ei angen i'w gwneud yn haws ac yn fwy hygyrch i bleidleiswyr anabl bleidleisio ee. bathodynnau ar gyfer adnabod staff gorsafoedd pleidleisio
At hynny dylech ddarparu'r canlynol:
- amlenni, gyda seliau, i osod ynddynt unrhyw bapurau pleidleisio a ddosbarthwyd ond nad yw'r etholwr wedi'u gosod yn y blwch pleidleisio
- ffurflen neu restr i gofnodi etholwyr a farciwyd yn bleidleiswyr post ond sy'n honni nad ydynt wedi gwneud cais am bleidlais bost
- papur nodiadau at ddefnydd staff yr orsaf bleidleisio
- eitemau deunydd ysgrifennu fel sy'n ofynnol, e.e. clipiau papur, pinnau bawd, tac glynu, tâp selio
- sachau plastig ar gyfer dychwelyd deunydd ysgrifennu ac offer i'r lleoliad dilysu
- amlenni ar gyfer creu pecynnau
Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i chi wneud y cyfryw drefniadau ag y gwelwch yn briodol i sicrhau bod staff, ymgeiswyr ac asiantiaid a benodir i fynychu'r orsaf yn cael y gofynion perthnasol canlynol ynglŷn â chyfrinachedd:
Rydym hefyd wedi cynhyrchu arolwg templed ar gyfer pleidleiswyr gorsafoedd pleidleisio yr oedd angen cymorth ychwanegol arnynt wrth bleidleisio, y gallech fod am ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllaw i Swyddogion Canlyniadau ar gymorth i bleidleisio i bleidleiswyr anabl ar Adolygu'r etholiad.
Dylech wirio bod holl offer yr orsaf bleidleisio yn addas at y diben a bod gennych ddigon o gyflenwad, yn enwedig os bydd nifer fawr yn pleidleisio. Dylai hyn gynnwys ystyried a ddylech gyflenwi blychau pleidleisio ychwanegol i Swyddogion Llywyddu oherwydd efallai na fydd un blwch yn ddigon os bydd nifer fawr yn pleidleisio.
Dylech baratoi offer a deunyddiau eich gorsaf bleidleisio mewn da bryd cyn y diwrnod pleidleisio, naill ai i'w dosbarthu i orsafoedd pleidleisio neu i'w casglu gan Swyddogion Llywyddu.
Dylech sicrhau bod unrhyw gyfarpar ychwanegol a nodwyd gennych i wneud yr orsaf bleidleisio yn hygyrch yn cael ei ddosbarthu a'i osod mewn da bryd ar gyfer agor y bleidlais. Mae ein canllawiau ar ddarparu offer sy’n gwneud pleidleisio’n haws i bleidleiswyr anabl yn darparu rhagor o wybodaeth i gefnogi eich proses gynllunio.
Lle mae dolen sain wedi'i gosod mewn gorsaf bleidleisio, dylid ei defnyddio lle bynnag y bo modd i gefnogi hygyrchedd y broses etholiadol i bleidleiswyr sydd wedi colli eu clyw. Dylid hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio ar sut i ddefnyddio'r rhain yn y sesiwn friffio.
- 1. Atodlen 1 Rheolau 25 a 29 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Dyrannu papurau pleidleisio
Rhaid i chi roi nifer y papurau pleidleisio y bydd eu hangen, yn eich barn chi, i bob gorsaf bleidleisio.1
Fel rhan o'ch ystyriaeth, dylech amcangyfrif nifer y bobl y mae disgwyl iddynt bleidleisio. Dylech dybio na fydd y nifer a fydd yn pleidleisio yn llai na'r nifer a bleidleisiodd yn y bleidlais gyfatebol ddiwethaf, a dylech ystyried y potensial ar gyfer ymgysylltu'n hwyr a diddordeb hwyr yn yr etholiad, ac unrhyw faterion lleol neu genedlaethol a all effeithio ar y nifer a fydd yn pleidleisio.
Os byddwch yn penderfynu, am unrhyw reswm, na fyddwch yn dyrannu papurau pleidleisio i 100% o'r etholwyr sydd â hawl i bleidleisio yn bersonol mewn gorsaf bleidleisio, dylech ystyried yn ofalus y nifer a fydd yn ofynnol ym mhob achos a sicrhau bod gennych gynlluniau ar waith i wneud yn siŵr y gellir darparu papurau pleidleisio ychwanegol i unrhyw orsaf bleidleisio y gall fod eu hangen arni mewn da bryd.
Dylech hefyd sicrhau bod Swyddogion Llywyddu yn deall sut i gwblhau'r cyfrifon papurau pleidleisio er mwyn ystyried unrhyw ddyraniad ychwanegol.
Wrth ddyrannu papurau pleidleisio i orsafoedd pleidleisio, rhaid i chi sicrhau bod y rhifau ar y papurau pleidleisio a ddyrennir i bob gorsaf bleidleisio yn rhedeg yn olynol er mwyn osgoi unrhyw broblemau wrth gwblhau'r rhestr rhifau cyfatebol neu'r cyfrif papurau pleidleisio. Ceir canllawiau ar argraffu papurau pleidleisio yn Paratoi papurau pleidleisio a Gwirio papurau pleidleisio cyn eu dyrannu.
Rhaid i chi hefyd ddarparu papurau pleidleisio a gyflwynwyd i Swyddogion Llywyddu. Er mwyn osgoi rhoi papurau pleidleisio a gyflwynwyd ar gam, mae'n arfer dda eu darparu mewn amlen wedi'i selio gyda'r canlynol:
- cyfarwyddiadau yn nodi mai dim ond o dan amgylchiadau cyfyngedig a bennir ac ar ôl ymgynghori â'r swyddfeydd etholiadau y dylid agor yr amlen a dosbarthu'r papurau pleidleisio sydd ynddi
- disgrifiad cryno o'r amgylchiadau hynny2
- cyfarwyddiadau i gyfeirio at y llawlyfr i orsafoedd pleidleisio am ragor o wybodaeth
Gellir dod o hyd i'r llawlyfr i orsafoedd pleidleisio yma:
- 1. Atodlen 1 Rheol 29(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 40 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleiswyr absennol
Mae’n rhaid i chi roi i bob Swyddog Llywyddu rhan briodol o'r gofrestr etholiadol ar gyfer eu gorsaf bleidleisio a'r rhestrau pleidleisio absennol priodol.
Dylid hyfforddi staff gorsafoedd pleidleisio ar y marcwyr etholfraint amrywiol a fydd yn ymddangos ar y gofrestr.1 Mae angen iddynt fod yn ymwybodol o bwysigrwydd diogelwch manylion personol pleidleiswyr ar y gofrestr etholiadol a rhestrau pleidleisio absennol.
Gellir argraffu cofrestrau gorsafoedd pleidleisio unwaith y bydd yr hysbysiad o newid etholiad terfynol wedi'i gyhoeddi, bum niwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. Fodd bynnag, dylech sicrhau bod pob cofrestr gorsafoedd pleidleisio argraffedig:
- yn cael eu gwirio i sicrhau eu bod yn gyflawn
- yn adlewyrchu unrhyw ychwanegiadau neu ddileadau diweddar i'r gofrestryn cynnwys y marcwyr etholfraint priodol
Nid oes dyddiad cau deddfwriaethol ar gyfer penderfynu ar geisiadau pleidleisio absennol. Fodd bynnag, os oes angen y bleidlais absennol ar gyfer etholiad sydd i ddod, dylech gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol eisoes) i sefydlu'r pwynt ymarferol diweddaraf ar gyfer penderfynu ar geisiadau am bleidlais absennol a'r broses ar gyfer diweddaru cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol a chyfathrebu diweddariadau i staff gorsafoedd pleidleisio fel y gallwch sicrhau bod cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a'r rhestrau pleidleisio absennol yn gywir.
Unwaith y bydd y cofrestrau wedi’u hargraffu dylech gyfarwyddo eich Swyddogion Llywyddu i wirio:
- eu bod wedi cael y gofrestr gywir ar gyfer eu gorsaf bleidleisio
- bod y gofrestr yn cynnwys y nifer disgwyliedig o etholwyr a ddyrennir i'w gorsaf bleidleisio
Newidiadau i’r gofrestr
Dylai fod gennych weithdrefnau ar waith i ymdrin ag unrhyw ddiwygiadau angenrheidiol a wneir cyn y diwrnod pleidleisio neu ar y diwrnod pleidleisio ei hun. Dylai'r gweithdrefnau hyn gynnwys eich dull:
- diwygio cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau dirprwyon ar ôl iddynt gael eu hargraffu, o ganlyniad i benderfynu ar geisiadau am bleidlais absennol, gwallau clerc, neu ganiatáu ceisiadau dirprwy brys
- ar gyfer cyfleu’r wybodaeth berthnasol i Swyddogion Llywyddu, y gellir gwneud hynny ar lafar neu’n ysgrifenedig
Ceir rhagor o wybodaeth am wallau clerc yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru, Lloegr a'r Alban.
Etholaethau trawsffiniol
Dylech gysylltu a chytuno â'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol eraill yn eich etholaeth ar ddull o gyfleu newidiadau i'r gofrestr i Swyddogion Llywyddu o ganlyniad i wall clercol, penderfyniadau'r llys neu gymeradwyo dirprwy mewn argyfwng.
Cofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleiswyr absennol
Os bydd rhywun yn gwneud cwyn i staff gorsaf bleidleisio sy'n awgrymu y dylai fod ar y gofrestr etholiadol, rhaid i'r Swyddog Llywyddu hysbysu'r Swyddog Cofrestru Etholiadol cyn gynted ag sy'n ymarferol. Er mwyn i hyn weithio'n effeithiol, bydd angen i chi sicrhau bod systemau cyfathrebu addas ar waith gennych rhwng Swyddogion Llywyddu a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol.
I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddi staff, gweler ein canllawiau ar hyfforddi swyddogion llywyddu, clercod pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio.
- 1. Atodlen 1 Rheol 29 (3)(c) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Rhestrau rhifau cyfatebol
Rhaid i chi baratoi a darparu rhestr rhifau cyfatebol ar gyfer pob gorsaf bleidleisio.1 Mae'r rhestr rhifau cyfatebol yn ddogfen benodedig y gellir ei gweld yn yr atodiad i'r rheolau etholiad. Nid oes unrhyw ddarpariaeth i ffurf debyg gael ei defnyddio.2
Mae dau fath o restr rhifau cyfatebol: mae un rhestr i'w defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio, ac mae'n cynnwys rhifau papurau pleidleisio a cholofn i ychwanegu rhifau etholwyr pleidleiswyr y dosbarthwyd y papurau pleidleisio hynny iddynt.3
Mae'r rhestr arall i'w defnyddio yn ystod sesiynau dosbarthu pleidleisiau post, ac mae'n cynnwys rhif a marc adnabod unigryw pob papur pleidleisio a baratoir, yn ogystal â rhifau etholwyr pleidleiswyr drwy'r post. I gael rhagor o wybodaeth am y broses agor pleidleisiau post, gweler ein canllawiau ar Dderbyn ac agor pleidleisiau post.
Cyfuno
Pan gaiff dwy bleidlais neu fwy eu cyfuno, rhaid i chi baratoi a darparu rhestr rhifau cyfatebol gyfunol ar gyfer pob gorsaf bleidleisio.4
Bydd angen i chi ystyried sut y byddwch yn llunio'r rhestrau rhifau cyfatebol cyfunol i'w defnyddio mewn etholiadau cyfunol. Un ateb posibl fyddai defnyddio darn o bapur gwahanol ar gyfer pob etholiad, ond a gaiff eu dwyn ynghyd wedyn mewn rhyw ffordd (er enghraifft, drwy stwffwl) ar ddiwedd y broses.
Os cyfunwyd y gwaith o ddosbarthu pleidleisiau post, rhaid defnyddio rhestr rhifau cyfatebol gyfunol wrth ddosbarthu pleidleisiau post.5
- 1. Atodlen 1 rheol 19A(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheoliadau 63A(3) a (4) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 19A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheol 19A(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a Rheoliadau 63A(3) a (4) o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1 Rheol 19A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 1 Rheol 19A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
Rhestr wrthod papurau pleidleisio a ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr
Rhaid i chi ddarparu dogfennau i bob gorsaf bleidleisio sy'n dal gwybodaeth yn ymwneud â'r gofynion ID pleidleisiwr.
- Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio
- Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
- Taflen nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
Defnyddir taflen nodiadau’r Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio a thaflen nodiadau'r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr drwy gydol y dydd i gasglu a chofnodi gwybodaeth mewn perthynas â’r gofyniad ID pleidleisiwr:
Dogfen | Gwybodaeth a gesglir |
---|---|
Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio | Nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd ar sail:
Byddai'r Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio yn cael ei diweddaru pe bai etholwr yn dychwelyd yn ddiweddarach gyda math o ID ffotograffig a dderbynnir |
Taflen nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr |
|
Ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio bydd y Swyddog Llywyddu yn llenwi'r ffurflen gwerthuso dogfen ID pleidleisiwr gyda'r wybodaeth o daflen nodiadau'r Rhestr Wrthod Papur Pleidleisio a thaflen nodiadau'r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr.
Mae’r llawlyfr gorsafoedd pleidleisio yn rhoi rhagor o wybodaeth am sut i lenwi'r ffurflenni hyn.
Pecynnau ar gyfer papurau pleidleisio drwy’r post a ddosberthir i orsafoedd pleidleisio
Gall pleidleiswyr post ddychwelyd eu pleidlais bost yn bersonol i unrhyw orsaf bleidleisio yn eu hardal etholiadol.1
Ar gyfer pob etholiad a gynhelir, bydd cyfyngiadau ar nifer y pleidleisiau post y gall unigolyn eu cyflwyno, a chyfyngiadau ar bwy y gall yr unigolyn sy’n trin y pleidleisiau post fod. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar y broses o gyflwyno pleidleisiau post a chyfeiriwch at y llawlyfr i orsafoedd pleidleisio.
Dylech friffio staff gorsafoedd pleidleisio er mwyn nodi pa bleidleisiau post a all gael eu dychwelyd i'w gorsaf bleidleisio. I gael rhagor o wybodaeth am hyfforddi staff, gweler ein canllawiau ar Hyfforddi Swyddogion Llywyddu, Clercod Pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pledleisio.
Dylech ddarparu pecynnau i orsafoedd pleidleisio ar gyfer:
- pleidleisiau post a dderbyniwyd
- ffurflenni dogfennau pleidleisiau post a ddychwelwyd ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd
- pleidleisiau post a dderbyniwyd a wrthodwyd
Dylai nifer ac arddull y pecynnau fod yn seiliedig ar ffurflenni i orsafoedd pleidleisio yn yr etholiadau cyfatebol diwethaf, ond dylech gadw mewn cof y posibilrwydd o ymgysylltiad a diddordeb hwyr yn yr etholiad a allai effeithio ar y nifer sy'n pleidleisio.
Dylid cadw cofnodion o'r holl becynnau o'r fath fel y gellir rhoi cyfrif am bob un. Dylai'r pecynnau gael eu labelu'n glir a dylent nodi:
- eu bod yn cynnwys pleidleisiau post
- eu bod yn cynnwys naill ai pleidleisiau post a dderbyniwyd neu a wrthodwyd neu ffurflenni dogfennau pleidleisio drwy’r post a ddychwelwyd
- enw’r orsaf bleidleisio
- y dynodydd gorsaf bleidleisio
Diogelwch pleidleisiau post a ddychwelwyd
Dylech sicrhau bod modd selio'r pecynnau'n ddiogel.
Mae gan asiantiaid pleidleisio yr hawl i atodi eu sêl i becynnau wedi'u selio cyn iddynt gael eu symud o'r orsaf bleidleisio ac, felly, rhaid caniatáu iddynt wneud hynny.2
Fel rhan o'ch hyfforddiant, dylech bwysleisio i Swyddogion Llywyddu pa mor bwysig yw sicrhau diogelwch pleidleisiau post a gaiff eu dychwelyd i orsafoedd pleidleisio. Dylid rhoi'r pleidleisiau post yn y pecynnau a ddarperir yn syth a dylech sicrhau bod y pecynnau'n cael eu storio'n ddiogel drwy gydol y dydd. Unwaith y bydd ffurflen dogfennau pleidleisio drwy'r post wedi'i chwblhau yn y modd cywir, dylid ei gosod ar unwaith yn y pecynnau perthnasol a ddarperir a dylai'r Swyddog Llywyddu sicrhau bod y pecynnau'n cael eu storio'n ddiogel drwy gydol y dydd.
Dylech drefnu i bleidleisiau post gael eu casglu o orsafoedd pleidleisio drwy gydol y dydd gan y bydd hyn yn helpu i leihau'r nifer y bydd angen ymdrin â hwy ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio. Gall arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gyflawni'r ddyletswydd hon. Dylech sicrhau bod prosesau ar waith i gynnal trywydd archwilio clir a sicrhau diogelwch pecynnau o bleidleisiau post a gasglwyd wrth iddynt gael eu cludo. Rhaid dychwelyd pleidleisiau post a wrthodwyd yn eu pecyn ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio
- 1. Atodlen1 Rheol 31A Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 43(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Cofnodlyfr gorsafoedd pleidleisio
Dylech baratoi cofnodlyfr gorsaf bleidleisio er mwyn i staff gorsafoedd pleidleisio ei ddefnyddio i gofnodi unrhyw broblemau neu anghysonderau.
Dylech gyfarwyddo staff gorsafoedd pleidleisio i gofnodi'r canlynol yng nghofnodlyfr yr orsaf bleidleisio:
- unrhyw achosion lle mae angen iddynt ofyn y cwestiynau rhagnodedig o ganlyniad i achos lle amheuir cambersonadu, gan nodi cymaint o wybodaeth â phosibl, er enghraifft, unrhyw nodweddion arbennig, a all helpu unrhyw ymchwiliad yn y dyfodol. Mae Atodiad 7 i'r llawlyfr i orsafoedd pleidleisio yn nodi'r weithdrefn ar gyfer delio â chambersonadu, sy'n cynnwys gofyn y cwestiynau rhagnodedig.
- enw a chyfeiriad unrhyw bleidleisiwr na all bleidleisio am unrhyw reswm gweinyddol
- unrhyw beth a all helpu i esbonio unrhyw broblemau gyda'r cyfrifon papurau pleidleisio ar adeg dilysu – er enghraifft, os gwelwyd pleidleisiwr yn gadael yr orsaf bleidleisio gyda phapur pleidleisio. Dylech ystyried cyfarwyddo Swyddogion Llywyddu i gadw'r cofnodlyfr a'r cyfrif papurau pleidleisio gyda'i gilydd wrth drosglwyddo'r papurau pleidleisio i'r cyfrif.
- manylion pawb sy'n bresennol yn yr orsaf bleidleisio at ddibenion arsylwi gweithrediadau, gan gynnwys ymweliadau gan yr Heddlu a staff y Swyddog Canlyniadau
- unrhyw adegau pan fyddant yn cyfyngu dros dro ar nifer yr arsyllwyr a all aros yn yr orsaf bleidleisio, er mwyn sicrhau y gall y bleidlais fynd yn ei blaen yn effeithiol
- achosion lle maent yn arsylwi rhywun yn ceisio mynd gyda phleidleisiwr i'r bwth pleidleisio nad yw'n gydymaith penodedig iddo nac yn blentyn, a'r camau a ddilynodd
- os yw ymgyrchydd gwleidyddol wedi rhoi gwybod iddynt ei fod yn cyflwyno pleidleisiau post ar ran pobl nad ydynt yn berthnasau agos neu bobl y maent yn darparu gofal ar eu cyfer ond yn gwrthod trosglwyddo'r pleidleisiau post i'w gwrthod
- unrhyw adborth ar y defnydd o unrhyw offer penodol a ddarparwyd i'r orsaf bleidleisio
- manylion defnyddiol am unrhyw sefyllfaoedd anodd a gafwyd
Os byddwch yn poeni bod cambersonadu wedi digwydd mewn gorsaf bleidleisio, dylech gysylltu â'ch pwynt cyswllt unigol a gallwch hefyd gysylltu â thîm lleol y Comisiwn am gymorth ychwanegol. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gynnal uniondeb yr etholiad.
Trefnu gorsafoedd pleidleisio
Dylai gorsafoedd pleidleisio gael eu trefnu gan gadw'r pleidleisiwr mewn cof. Yn benodol, dylech ystyried anghenion pleidleiswyr ag amrywiaeth o anableddau.
Dylech ystyried y ffordd y caiff yr holl ddodrefn a chyfarpar eu gosod, yn ogystal â ble y dylid arddangos yr hysbysiadau, a ble y dylid gosod arwyddion y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio.
Dylech ddatblygu cynlluniau ar gyfer diwyg pob un o'r gorsafoedd pleidleisio y gellir eu defnyddio i helpu'r rhai sy'n gosod y gorsafoedd pleidleisio. Dylech ystyried profiad a llif y pleidleisiwr, gan gynnwys sut y bydd y pleidleisiwr yn symud drwy'r broses bleidleisio o'r adeg y daw i mewn i'r orsaf bleidleisio i'r adeg y bydd yn ei gadael. Dylai cynllun yr orsaf bleidleisio alluogi'r pleidleisiwr i fwrw ei bleidlais yn gyfrinachol, a dylai hefyd ganiatáu i staff yr orsaf bleidleisio ganfod a yw rhywun yn ceisio dylanwadu neu gael gwybodaeth am y ffordd y mae etholwr yn pleidleisio.
Bydd angen i chi sicrhau bod pwy bynnag sy'n gyfrifol am drefnu gorsafoedd pleidleisio yn gwybod sut i wneud hynny a'r hyn y dylai'r diwyg allu ei gyflawni.
Os bydd rhywun heblaw staff yr orsaf bleidleisio yn trefnu'r orsaf bleidleisio, dylai staff yr orsaf bleidleisio sicrhau ei bod wedi cael ei gosod yn gywir. Dylent gyfeirio at unrhyw gynlluniau diwyg a baratowyd gennych a'r rhestr wirio ar gyfer trefnu gorsaf bleidleisio yn llawlyfr y Comisiwn i orsafoedd pleidleisio wrth wneud hynny.
Mae'r llawlyfr i orsafoedd pleidleisio hefyd yn ymdrin â lleoli cyfarpar ac arddangos hysbysiadau, ac yn rhoi enghreifftiau o ddiwyg ar gyfer ystafell lle mae un orsaf bleidleisio ac ystafell lle mae mwy nag un orsaf bleidleisio.
Gellir defnyddio ymweliadau arolygwyr gorsafoedd pleidleisio i gadarnhau diwyg gorsaf bleidleisio a sicrhau bod yr holl hysbysiadau yn parhau i gael eu harddangos yn gywir drwy'r diwrnod pleidleisio cyfan. Rydym wedi llunio rhestr wirio i gefnogi eu hymweliadau.
Gallwch gael rhagor o wybodaeth ac adnoddau ar gyfer hyfforddi staff i osod gorsafoedd pleidleisio yn ein canllawiau ar hyfforddi swyddogion llywyddu, clercod pleidleisio ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio.
Gwybodaeth i bleidleiswyr
Hysbysiadau gorsafoedd pleidleisio
Rhaid i chi lunio ac arddangos yr hysbysiad ‘Canllawiau i bleidleiswyr’ a'r hysbysiad ‘Cyfarwyddiadau i bleidleiswyr’. Mae cynnwys a gofynion arddangos yr hysbysiadau hyn wedi'u rhagnodi mewn deddfwriaeth.1
Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i'r hysbysiad ‘Canllawiau i bleidleiswyr’ gael ei argraffu mewn llythrennau amlwg a'i arddangos y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio.2 Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i'r hysbysiad ‘Cyfarwyddiadau i bleidleiswyr’ gael ei arddangos ym mhob bwth pleidleisio.3
Rhaid i chi hefyd arddangos hysbysiad mawr y tu mewn i bob gorsaf bleidleisio sy'n cynnwys manylion y dogfennau y mae angen i'r pleidleisiwr eu cyflwyno wrth wneud cais am bapur pleidleisio:4
- yn achos etholwr (ac eithrio person sydd wedi’i gofrestru’n ddienw) neu ddirprwy - y mathau o ID ffotograffig a dderbynnir fel y rhagnodir mewn deddfwriaeth
- yn achos etholwr sydd wedi'i gofrestru'n ddienw - cerdyn pleidleisio swyddogol yr etholwr gyda dogfen etholwr dienw yn dangos yr un rhif etholiadol ag a ddangosir ar y cerdyn pleidleisio swyddogol
Dylid darparu datganiad hefyd ar yr hysbysiad y gall fod angen prawf adnabod pellach i ddatrys unrhyw anghysondeb rhwng enw'r pleidleisiwr ar y gofrestr etholiadol a'r enw ar yr ID ffotograffig a ddarparwyd.5
Defnyddio Cymraeg neu Saesneg mewn gorsafoedd pleidleisio
Pan fyddwch yn briffio staff gorsafoedd pleidleisio, dylech nodi'n glir mai dim ond Cymraeg neu Saesneg y dylid eu defnyddio wrth gynorthwyo neu gyfarwyddo etholwyr mewn gorsafoedd pleidleisio. Mae hyn yn sicrhau tryloywder o ran y gweithrediadau, ac yn galluogi unrhyw arsylwyr neu asiantiaid pleidleisio sy'n bresennol yn yr orsaf bleidleisio i fonitro'r broses bleidleisio.
Efallai y bydd angen i rai pleidleiswyr gael cymorth mewn iaith arall oherwydd eu sgiliau iaith Cymraeg neu Saesneg cyfyngedig. Dylech ystyried pa gymorth y gallwch ei roi i'r pleidleiswyr hynny yn eich ardal, megis drwy gyfieithu'r hysbysiadau gorsafoedd pleidleisio.
Mewn rhai achosion eithriadol, efallai na fydd yr hysbysiadau wedi'u cyfieithu yn ddigonol nac yn briodol. Er enghraifft, gall fod gan bleidleisiwr lefelau isel o lythrennedd neu fod â chwestiwn sydd y tu allan i gwmpas yr hysbysiadau. O dan yr amgylchiadau hynny, gall staff gorsafoedd pleidleisio roi cymorth mewn iaith heblaw am Gymraeg neu Saesneg os gallant wneud hynny.
Lle darperir cymorth mewn iaith arall, dylai staff gorsafoedd pleidleisio egluro i staff eraill ac unrhyw asiantiaid pleidleisio neu arsylwyr sy'n bresennol pa gwestiwn a ofynnwyd a'r ateb a roddwyd.
Dylech atgoffa staff yr orsaf bleidleisio i gysylltu â'r Swyddog Canlyniadau (neu Swyddog Cofrestru Etholiadol os yw'n berthnasol) os oes ganddynt unrhyw ymholiadau gan etholwyr na allant ymdrin â hwy.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheolau 29(4) a (5). Mae cynnwys a dyluniad yr hysbysiadau ar gyfer etholiad annibynnol Senedd y DU yn wahanol i'r rhai y dylid eu defnyddio mewn etholiadau eraill. Mae hyn o ganlyniad i'r ffaith nad yw'r hysbysiadau ‘Canllawiau i bleidleiswyr’ a ‘Cyfarwyddiadau i bleidleiswyr’, sydd yn Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (fel y'i diwygiwyd gan Ddeddf Gweinyddu Etholiadau 2006), wedi cael eu diweddaru fel eu bod yn gyson â'r hysbysiadau a ddefnyddir mewn etholiadau eraill. ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 Rheol 29(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 Rheol 29(5) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 29(4A) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheol 29(4A(b)) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
Tynnu hun-luniau mewn gorsafoedd pleidleisio
Mae angen i chi benderfynu pryd i ganiatáu i ffonau symudol gael eu defnyddio mewn gorsafoedd pleidleisio a nodi hyn yn glir i staff gorsafoedd pleidleisio yn eich hyfforddiant staff.
Ein cyngor ni yw na ddylech ganiatáu i bobl dynnu lluniau y tu mewn i orsafoedd pleidleisio. Mae'r gyfraith mewn perthynas â chael gwybodaeth mewn gorsafoedd pleidleisio a datgelu gwybodaeth o'r fath yn gymhleth ac mae risg y bydd rhywun sy'n tynnu llun y tu mewn i orsaf bleidleisio yn torri'r gyfraith, boed hynny'n fwriadol ai peidio.
Gallech benderfynu arddangos hysbysiad y tu mewn i orsafoedd pleidleisio er mwyn nodi'n glir na chaniateir unrhyw fath o ffotograffiaeth (gan gynnwys tynnu lluniau ar ffonau symudol).
Er y dylech sicrhau bod holl staff gorsafoedd pleidleisio yn ymwybodol o'r canllawiau hyn, dylent hefyd ddeall y gall fod angen i rai pleidleiswyr â cholled golwg ddefnyddio apiau ar eu ffôn symudol neu ddyfeisiau eraill i'w helpu i ddarllen dogfennau, ac y dylent ganiatáu iddynt wneud hynny.
Darparu gwybodaeth am nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd
Gallai asiant etholiad neu asiant pleidleisio ofyn i staff gorsafoedd pleidleisio am wybodaeth am nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd. Chi sy'n penderfynu a ddylid rhoi'r wybodaeth hon.
Dim ond y sawl sydd â hawl i fod yn yr orsaf bleidleisio a gaiff ofyn am nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd. Os byddwch yn penderfynu rhoi'r wybodaeth hon, rhaid i chi ofalu na fyddwch yn rhoi unrhyw wybodaeth a allai dorri cyfrinachedd y bleidlais.
Rydym wedi llunio canllawiau ar sut y gall staff gorsafoedd pleidleisio gyfrifo nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd. Gellir dod o hyd i'r canllawiau hyn yn ein briff i staff gorsafoedd pleidleisio.
Diwedd y cyfnod pleidleisio
Caiff pleidleiswyr sydd yn yr orsaf bleidleisio am 10pm neu sy'n aros y tu allan i'r orsaf bleidleisio, at ddiben pleidleisio, wneud cais i gael papur pleidleisio.1
Os yw person yn yr orsaf bleidleisio neu mewn ciw y tu allan i'r orsaf bleidleisio erbyn 10pm at ddibenion dychwelyd pleidleisiau post, gallant wneud hynny ar ôl 10pm.
Dylech ystyried fel rhan o'ch gwaith cynllunio lle y gall ciwiau godi a sicrhau bod trefniadau ar waith gennych i allu ymateb yn ôl yr angen.
Dylech sicrhau bod staff gorsafoedd pleidleisio yn monitro'r nifer a bleidleisiodd drwy'r dydd ac yn cyflwyno adroddiadau cynnydd i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio, a'u bod yn rhoi gwybod i chi am unrhyw wybodaeth sy'n awgrymu risg y bydd ciw ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio mewn unrhyw orsaf bleidleisio.
Dylech hefyd ystyried cynnwys eich pwynt cyswllt unigol yn yr Heddlu mewn trefniadau cynllunio i ymdrin â chiwiau posibl ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, fel y gall eich helpu i reoli ciwiau os bydd angen.
Bydd llawlyfr y Comisiwn i orsafoedd pleidleisio yn manylu ar y prosesau sydd i'w dilyn ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, gan gynnwys sut i ymdrin â phleidleiswyr sy'n sefyll mewn ciw am 10pm.
- 1. Atodlen 1 Rheol 37(7)Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Adnoddau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) - Pleidleisio mewn gorsafoedd pleidleisio
Dilysu a Chyfrif
Bwriad yr adran hon yw eich helpu i wneud penderfyniadau ynghylch rhai o agweddau allweddol dilysu a chyfrif pleidleisiau, megis rheoli mynediad ac arsylwi, sicrhau diogelwch papurau pleidleisio, archwilio prosesau a delio gyda phapurau pleidleisio amheus.
Mae’n rhoi canllawiau i gefnogi’r penderfyniadau allweddol sydd angen i chi eu gwneud, ac yn amlygu dulliau argymelledig i’ch cynorthwyo i ddeall a chyflawni eich dyletswyddau, gan sicrhau bod tryloywder yn y broses ac yn eich galluogi i ddarparu canlyniad cywir y gall pleidleiswyr, ymgeiswyr a phleidiau gwleidyddol gael hyder ynddo.
Cynllunio ar gyfer dilysu a chyfrif
Mae sawl ffordd o drefnu prosesau dilysu a chyfrif mewn etholiad , ac nid oes un dull cyffredin sy'n addas i bob etholiad. Mae gan bob ardal etholiadol ei hamgylchiadau lleol ei hun a fydd yn dylanwadu ar y penderfyniadau y bydd yn rhaid i chi eu gwneud wrth gynllunio sut y byddwch yn cyflawni'r prosesau dilysu a chyfrif.
Wrth gynllunio ar gyfer dilysu a chyfrif, dylech adolygu eich rhagdybiaethau cynllunio yn barhaus er mwyn sicrhau eu bod yn parhau i fod yn realistig ac yn gadarn. Dylech gynnwys rhagdybiaethau ynglŷn â nifer y pleidleiswyr, nifer yr ymgeiswyr, cyflymder a gallu'r staff cyfrif a'r amserlen ddisgwyliedig ar gyfer cwblhau'r camau cyfrif amrywiol.
Bydd adolygiad o'r fath yn eich helpu i asesu'n realistig a fyddwch yn gallu cyflawni'r cynllun cyffredinol ar gyfer y broses gyfrif, ac a fydd angen rhoi cynlluniau wrth gefn ar waith, a phryd. Ym mhob achos, dylai eich cynllun fod yn ddigon hyblyg i'ch galluogi i ymateb os bydd unrhyw un o'ch rhagdybiaethau'n newid, gan gynnwys pa gamau wrth gefn y byddwch yn eu cymryd mewn amgylchiadau o'r fath.
Dylai eich cynllun hefyd nodi adegau allweddol yn ystod y broses gyfrif pan fyddwch yn adolygu cynnydd yn erbyn yr amserlen ddisgwyliedig. Dylid defnyddio'r adolygiad o gynnydd hwn i roi'r wybodaeth ddiweddaraf i ymgeiswyr, asiantiaid a'r cyfryngau am hynt y broses gyfrif.
Gwneud penderfyniadau
Dylech gadw cofnod o'r holl gamau a gymerwyd er mwyn gallu darparu trywydd archwilio sy'n dangos eich proses benderfynu. Dylech allu esbonio eich penderfyniadau, a dylech fod yn barod i wneud hynny mewn ymateb i ymholiadau.
Er mwyn helpu i ennyn hyder yn eich cynllun ar gyfer dilysu a chyfrif, dylech rannu gwybodaeth am eich cynllun â rhanddeiliaid ac ymgynghori ac ymgysylltu â nhw yn ei gylch. Dylech gyfathrebu drwy gydol eich proses gynllunio a bod yn barod i egluro'r rhesymau dros eich penderfyniadau. O ran penderfyniadau allweddol, dylech gyflwyno eich rhesymau i randdeiliaid yn ysgrifenedig.
Dylech hefyd nodi ymlaen llaw y penderfyniadau hynny ynglŷn â rheoli'r broses gyfrif y mae'n rhaid eu gwneud gwneud drwy ymgynghori ag ymgeiswyr ac asiantiaid ac mewn cytundeb â nhw, a'i gwneud yn glir iddynt ar ba sail y byddwch yn gwneud penderfyniadau. Er enghraifft, mae hyn yn cynnwys penderfyniadau ynglŷn ag ailgyfrif ac atal y cyfrif. Er y dylech geisio barn y rheini yr effeithir arnynt neu sydd â diddordeb er mwyn llywio eich penderfyniadau, eich cyfrifoldeb chi fel Swyddog Canlyniadau fydd gwneud penderfyniadau yn y pen draw. Bydd angen i chi benderfynu ar y ffordd orau o gyfleu'r penderfyniadau ar ôl i chi eu gwneud.
Dogfennaeth
Dylech lunio templedi ar gyfer yr holl ddogfennau a ddefnyddir yn ystod y prosesu dilysu a chyfrif ymlaen llaw, a sicrhau bod y staff yn gyfarwydd â nhw. Gall defnyddio codau lliw ar gyfer dogfennau fod yn ffordd effeithiol o ddod o hyd i'r dogfennau perthnasol yn gyflym.
Offer a gosod yr offer
Bydd angen i chi benderfynu pa offer y bydd eu hangen arnoch i weinyddu'r prosesau dilysu a chyfrif (fel y bo'n briodol) ac i gyfathrebu â'r ymgeiswyr a'r asiantiaid ac unrhyw un arall a fydd yn bresennol yn ystod y broses gyfrif, gan gynnwys:
- systemau annerch y cyhoedd
- llinellau ffôn
- ffonau symudol a signalau ffonau symudol
- offer TG cyffredinol a thaenlenni i gofnodi ffigurau dilysu a chyfrif
- offer i ddilysu dynodyddion personol ar bleidleisiau post a ddychwelwyd (os bydd yr achlysur agor amlenni pleidleisiau post olaf yn cael ei gynnal yn y lleoliad dilysu)
- sgriniau i ddangos unrhyw wybodaeth berthnasol drwy gydol y cyfrif
Rydym wedi paratoi rhestr wirio er mwyn helpu aelodau perthnasol o staff i sicrhau bod yr holl ddeunyddiau, gan gynnwys deunydd ysgrifennu a'r offer y bydd eu hangen yn y lleoliad dilysu a chyfrif, ar gael.
Rydym hefyd wedi datblygu canllawiau i'ch helpu os bydd angen i chi gaffael unrhyw gyfarpar newydd.
Egwyddorion ar gyfer prosesau dilysu a chyfrif effeithiol
Dylech sicrhau bod eich trefniadau dilysu a chyfrif yn bodloni'r egwyddorion allweddol canlynol ar gyfer prosesau dilysu a chyfrif effeithiol:
- Mae pob proses yn dryloyw, gyda thrywydd archwilio clir a diamwys. Er enghraifft:
- caiff popeth ei wneud yng ngolwg pawb sydd â'r hawl i fod yn bresennol
- rhoddir digon o wybodaeth i'r rhai sy'n bresennol am y prosesau i'w dilyn
- caiff gwybodaeth ei chyfleu mewn modd cywir ac agored.
- Mae'r broses ddilysu yn arwain at ganlyniad cywir. Mae hyn yn golygu bod nifer y papurau pleidleisio ym mhob blwch naill ai'n cyfateb i nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd a nodwyd ar y cyfrif papurau pleidleisio neu, fel arall:
- fod yr hyn sydd wedi achosi'r amrywiant wedi cael ei nodi a gellir ei esbonio, a/neu
- bod y blwch wedi cael ei ailgyfrif o leiaf ddwywaith, nes bod yr un nifer o bapurau pleidleisio yn cael eu cyfrif ar ddau achlysur olynol
- Mae'r broses gyfrif yn arwain at ganlyniad cywir, lle:
- mae cyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd dros bob ymgeisydd a chyfanswm nifer y pleidleisiau a wrthodwyd yn cyfateb i gyfanswm nifer y papurau pleidleisio a nodwyd ar y datganiad dilysu ar gyfer yr etholaeth
- mae'r prosesau dilysu a chyfrif yn amserol
- cedwir cyfrinachedd y bleidlais bob amser
- diogelir papurau pleidleisio a deunyddiau ysgrifennu eraill bob amser
- caiff gwybodaeth yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif ei chyfleu mewn modd clir ac amserol
Yn ogystal ag ystyried sut i sicrhau y bydd eich prosesau'n eich galluogi i fodloni'r egwyddorion allweddol, bydd angen i chi ystyried ffactorau ymarferol perthnasol eraill a fydd yn effeithio ar y ffordd y caiff y prosesau dilysu a chyfrif eu trefnu a'r amser y bydd yn ei gymryd i'w cwblhau, megis:
- maint yr etholaeth
- daearyddiaeth yr etholaeth
- maint a chapasiti'r lleoliad
- y gallu i sicrhau tryloywder i ymgeiswyr, asiantiaid a'r rhai sy'n arsylwi yn y lleoliad
- cost defnyddio'r lleoliad
Ym mhob achos, dylech gadw cofnod o'ch penderfyniadau ac adolygu eich cynlluniau dilysu a chyfrif yn rheolaidd gan y gall amgylchiadau newid.
Gallwch gael rhagor o ganllawiau ar ddewis a rheoli eich lleoliad yn Lleoliadau a chynlluniau dilysu a chyfrif.
Amseru'r dilysu a'r cyfrif
Fel y rhagnodir mewn deddfwriaeth, mae'n ofynnol i chi wneud trefniadau i ddilysu a chyfrif y pleidleisiau yn yr etholiad cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau.1
Mae'r ddeddfwriaeth hefyd yn pennu bod yn rhaid i chi gymryd camau rhesymol i ddechrau cyfrif y pleidleisiau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ac o fewn pedair awr ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau.2 Mae'r ddyletswydd hon yn ymwneud â chyfrif y pleidleisiau, ac nid â'r broses ddilysu. Ceir canllawiau ar yr hyn y bydd angen i chi ei wneud os na fyddwch yn dechrau cyfrif y pleidleisiau o fewn pedair awr ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau yn y cyfrif.
Dylech wneud penderfyniadau ynglŷn â phryd y byddwch yn dechrau'r cyfrif cyn i'r hysbysiad etholiad gael ei gyhoeddi a dylid rhoi gwybod i'r rhai sydd â diddordeb, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol lleol a darlledwyr, ar gam cynnar. Bydd disgwyliad ymhlith ymgeiswyr, pleidiau a'r cyfryngau y bydd y canlyniadau'n cael eu datgan cyn gynted â phosibl ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau. Felly, bydd angen i chi gynllunio'n ofalus sut y byddwch yn rheoli disgwyliadau ymgeiswyr, pleidiau a'r cyfryngau.
Methodoleg
Bydd y ffordd y byddwch yn trefnu'r prosesau dilysu a'r cyfrif yn effeithio ar faint o amser y byddant yn eu cymryd.
Dylech ystyried defnyddio dull cyfrif bach wrth gynllunio eich prosesau dilysu a chyfrif. Cydnabyddir yn eang fod rhannu'r broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau yn ardaloedd sy'n llai na'r ardal etholiadol berthnasol yn effeithiol iawn o ran sicrhau canlyniad cywir ac amserol ac iddo drywyddion archwilio clir.
Yna, caiff canlyniadau'r ardaloedd hynny eu cydgrynhoi er mwyn cael canlyniad cyffredinol ar gyfer yr ardal etholiadol berthnasol. Bydd unrhyw broblemau cyfrif a all godi wedi'u cyfyngu i ardal fwy hydrin a gellir cyfyngu ar unrhyw ailgyfrif a all ddigwydd o ganlyniad i hyn.
Bydd angen i chi benderfynu a fyddwch yn achub ar y cyfle i ddechrau cyfrif y pleidleisiau cyn i'r broses ddilysu gael ei chwblhau.
Dylech neilltuo digon o amser i gynnal proses gyfrif drefnus a sicrhau canlyniad cywir y gall pleidleiswyr, ymgeiswyr ac asiantiaid ymddiried ynddo.
Cyfuno
Ar gyfer etholiadau cyfun, bydd angen i chi ystyried y canlynol:
- A fydd angen i chi gydgysylltu ag unrhyw Swyddogion Canlyniadau perthnasol eraill er mwyn sicrhau bod eich cynlluniau'n cyd-fynd â'r cynlluniau cyffredinol?
Bydd hefyd angen i chi benderfynu:
- A fyddwch yn cynnal eich prosesau cyfrif ar amseroedd a diwrnodau gwahanol er mwyn rheoli nifer y bobl sy'n bresennol?
- A fydd y gofynion deddfwriaethol o ran pryd y dylai ymgeiswyr ddechrau yn y swydd yn effeithio ar eich cynlluniau?
- 1. Adran 44(1) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 45(3) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Amcangyfrif faint o amser y bydd yn ei gymryd i ddilysu a chyfrif y papurau pleidleisio
Mae sawl peth y gallwch ei ystyried ar gam cynnar er mwyn helpu i amcangyfrif faint o amser y bydd pob cam o'ch prosesau dilysu a chyfrif yn ei gymryd. Dylai hyn gynnwys:
- nifer y staff ac unrhyw fformiwlâu staffio sydd gennych ar waith, e.e. nifer y papurau pleidleisio a gyfrifir bob awr fesul cynorthwyydd cyfrif
- ai etholiad annibynnol neu etholiadau cyfun sydd dan sylw
- nifer y papurau pleidleisio a broseswyd mewn etholiad cyfatebol blaenorol
- y fethodoleg a ddefnyddiwyd mewn etholiadau blaenorol, e.e. dulliau mini gyfrif
- yr amser a gymerodd mewn etholiadau cyfatebol blaenorol i gwblhau camau gwahanol o'r prosesau dilysu a chyfrif
Dylech rannu'r amseroedd hyn â rhanddeiliaid ynghyd â'r rhagdybiaethau sy'n sail iddynt. Fodd bynnag, dylech rybuddio rhanddeiliaid hefyd mai dim ond amseroedd dangosol yw'r rhain ac y gallant newid ar y noson – er enghraifft, os bydd y nifer y pleidleiswyr yn sylweddol uwch neu is na'r disgwyl.
Efallai y bydd gan rai rhanddeiliaid ddisgwyliadau afrealistig ynglŷn â pha mor gyflym y gellir cwblhau'r prosesau a gall hyn arwain at densiwn a rhwystredigaeth yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif. Er mwyn rheoli disgwyliadau, dylech egluro'n fanwl y prosesau dan sylw, faint o amser y mae pob cam yn debygol o'i gymryd a'r adnoddau rydych wedi'u rhoi ar waith.
Cyfuno Cynnal Pleidleisiau
Ar gyfer etholiad Senedd y DU dylech sicrhau bod rhanddeiliaid yn ymwybodol nad oes rhaid i chi aros nes eich bod wedi cwblhau dilysu pob pleidlais, lle rydych yn cyflawni swyddogaeth gyfun y Swyddog Canlyniadau, cyn i chi allu dechrau cyfrif y pleidleisiau.1
- 1. Paragraff 22(1AB) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Cynnal Pleidleisiau) (Cymru a Lloegr) 2004 ↩ Back to content at footnote 1
Amcangyfrif nifer y papurau pleidleisio
Mae deall nifer y papurau pleidleisio y bydd angen ymdrin â nhw yn ffactor hanfodol wrth gynllunio, a bydd yn helpu i bennu'r adnoddau y bydd eu hangen ar gyfer y prosesau dilysu a chyfrif.
Dylech ystyried yr amcangyfrifon canlynol:
- nifer yr etholwyr
- nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd a nas defnyddiwyd
- nifer y papurau pleidleisio a ddychwelwyd drwy'r post
- nifer y papurau pleidleisio amheus y bydd angen gwneud dyfarniad yn eu cylch
Etholwyr
Byddwch yn gallu amcangyfrif nifer yr etholwyr cymwys drwy ddefnyddio'r ffigur ar ôl cyhoeddi'r gofrestr ddiwygiedig fel llinell sylfaen, ond gan gyfrif am gynnydd tebygol yn nifer y bobl a fydd yn cofrestru cyn yr etholiadau.
Gall dadansoddi'r cynnydd yn nifer yr etholwyr cyn yr etholiadau diwethaf a drefnwyd roi syniad i chi o'r cynnydd canrannol yn nifer yr etholwyr y gallwch ei ddisgwyl yn yr etholiadau.
Dylech hefyd ystyried unrhyw gynnydd posibl a all ddeillio o weithgarwch cofrestru y bydd Swyddogion Cofrestru Etholiadol yn ei wneud. Dylech hefyd allu adolygu'r amcangyfrif hwnnw'n barhaus drwy fonitro'r diweddariadau misol i'r gofrestr.
Os nad ydych yn Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol i gael y data cofrestru. Yn yr un modd, os ydych yn Swyddog Canlyniadau mewn etholaeth drawsffiniol, bydd angen i chi gysylltu â'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar draws yr etholaethau er mwyn cael y data perthnasol.
Papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd a nas defnyddiwyd
Byddwch yn gallu amcangyfrif nifer y papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd y gallai fod yn rhaid i chi eu prosesu o orsafoedd pleidleisio drwy luosi nifer amcangyfrifedig yr etholwyr â nifer disgwyliedig y pleidleiswyr. Yna, gallwch nodi nifer y papurau nas defnyddiwyd y bydd angen eu dilysu hefyd, fel y nodir yn y tabl enghreifftiol canlynol:
Nifer yr etholwyr cymwys (pleidleiswyr mewn gorsaf bleidleisio) | Nifer disgwyliedig y pleidleiswyr (e.e. 69.1%) | Nifer y papurau pleidleisio nas defnyddiwyd (e.e. 30.9%) |
---|---|---|
68,175 | 47,108 | 21,067 |
Bydd y cyfrifiad uchod yn rhoi amcangyfrif cadarn i chi o nifer y papurau pleidleisio o orsafoedd pleidleisio y bydd angen i chi eu rheoli yn ystod y dilysu a'r cyfrif, ond dylech gynnwys rhywfaint o hyblygrwydd yn eich cynlluniau er mwyn sicrhau eich bod yn barod i ddelio â mwy o bleidleiswyr a/neu etholwyr na'r disgwyl.
Er ei bod yn debygol mai nifer bach o bapurau pleidleisio a gyflwynwyd y bydd angen eu dilysu, dylech hefyd ystyried nifer y papurau pleidleisio a gyflwynwyd y bydd angen i chi eu rheoli, a chynllunio ar gyfer sut y byddwch yn gwneud hyn.
Nifer y pleidleisiau post a ddychwelir a sut i'w rheoli
Bydd y gofrestr ddiwygiedig a gyhoeddir yn rhoi llinell sylfaen ar gyfer nifer y pleidleiswyr post yn eich ardal, a dylech ystyried y cynnydd canrannol cyn etholiadau tebyg blaenorol hefyd. Dylech hefyd ystyried unrhyw weithgarwch cofrestru sy'n cael ei wneud gan Swyddogion Cofrestru Etholiadol cyn yr etholiad.
Drwy fonitro'r rhestr pleidleiswyr absennol yn rheolaidd, byddwch yn gallu adolygu eich amcangyfrif yn barhaus. Mewn etholaethau trawsffiniol bydd angen i chi gydgysylltu â Swyddogion Canlyniadau ar draws yr etholaeth er mwyn sicrhau bod eu hamcangyfrifon ar gyfer yr etholaeth gyfan yn gadarn.
Gan ddefnyddio'r dybiaeth o ran nifer y pleidleiswyr ar gyfer yr ardal etholiadol honno, gallwch wedyn gyfrifo cyfanswm nifer y papurau pleidleisio drwy'r post y gallai fod yn rhaid i chi eu prosesu. Gallwch wedyn adolygu'r ffigur hwn yn barhaus drwy fonitro nifer y pleidleisiau post a ddychwelir yn ystod y cyfnod cyn y diwrnod pleidleisio, ac ystyried dadansoddiad o batrwm y pleidleisiau post a ddychwelwyd mewn etholiadau cyfatebol blaenorol wrth gynllunio.
Cynllunio ar gyfer prosesu pleidleisiau post a gyflwynir ar y diwrnod pleidleisio
Gall yr amser a gymerir i ddilysu pleidleisiau post a gyflwynir mewn gorsafoedd pleidleisio arwain at oedi o ran dilysu a chyfrif. Bydd angen i chi gynllunio sut y byddwch yn sicrhau na fydd unrhyw oedi yn sgil aros i'r pleidleisiau post olaf gyrraedd a'u prosesu. Dylai casglu pleidleisiau post yn rheolaidd yn ystod y dydd helpu i leihau unrhyw oedi.
Bydd angen i chi benderfynu ar y trefniadau ar gyfer dilysu datganiadau pleidleisio drwy'r post a ddychwelir ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio yn effeithlon, gan gynnwys:
- a fydd y dynodyddion ar bleidleisiau post yn cael eu gwirio yn y lleoliad dilysu neu yn rhywle arall? Os cynhelir y broses yn y lleoliad dilysu, mae hyn yn debygol o fod yn fwy cyfleus o safbwynt galluogi ymgeiswyr ac asiantiaid i arsylwi a bydd yn symlach o safbwynt cludo, ond mae risgiau ynghlwm wrth symud trefniadau ac offer sefydledig i leoliad arall.
- a fydd angen symud offer neu a fydd angen rhoi offer ychwanegol ar waith i hwyluso'r broses ddilysu? Os felly, dylech sicrhau y caiff yr offer eu profi ymlaen llaw
- a oes gennych y lefelau staffio priodol i sicrhau bod cyn lleied o oedi â phosibl wrth ddilysu'r pleidleisiau post hyn?
Bydd angen i chi benderfynu sut i reoli'r broses o ddilysu dynodyddion ar bleidleisiau post a ddychwelir os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd neu os bydd gan fwy nag un Swyddog Cofrestru Etholiadol y cofnod o ddynodyddion personol sy'n cynnwys llofnodion a dyddiadau geni rhai o'r etholwyr, am fod yr ardal etholiadol berthnasol yn croesi ffiniau.
Bydd angen i chi sicrhau na fydd eich trefniadau ar gyfer gwirio'r dynodyddion personol ar ddatganiadau pleidleisio drwy’r post a ddychwelir ar y diwrnod pleidleisio yn arwain at oedi o ran dilysu a chyfrif.
Rheoli papurau pleidleisio amheus
Bydd nifer y papurau pleidleisio amheus y gall fod angen gwneud dyfarniad yn eu cylch am nad yw'r pleidleisiwr wedi marcio'r papur pleidleisio yn unol â'r cyfarwyddiadau, yn effeithio ar yr adnoddau y gallai fod eu hangen ar gyfer y prosesau dilysu a chyfrif hefyd. Drwy ddadansoddi canlyniadau etholiadau tebyg blaenorol, dylech allu amcangyfrif nifer y papurau pleidleisio amheus y gall fod angen eu prosesu yn ystod y broses gyfrif.
Bod yn bresennol yn y lleoliad dilysu a chyfrif
Fel Swyddog Canlyniadau Gweithredol, rydych yn gyfrifol am sicrhau y gall pawb sydd am arsylwi ar y prosesau dilysu a chyfrif gael gafael ar yr wybodaeth sydd ei hangen arnynt i'w galluogi i wneud hynny.
Mae'r wybodaeth hon yn cynnwys gwybodaeth am bwy all fynychu'r prosesau dilysu a chyfrif, a chanllawiau ar gyfer eich cynlluniau i gyfathrebu drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif.
Pwy all fod yn bresennol?
Yn ôl y gyfraith, mae gan y bobl ganlynol yr hawl i fod yn bresennol yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif:1
- chi a'ch staff
- ymgeiswyr
- un gwestai i bob ymgeisydd
- asiantiaid etholiad (neu is-asiantiaid ar eu rhan)
- asiantiaid cyfrif
- Cynrychiolwyr y Comisiwn
- arsylwyr achrededig
- unrhyw unigolyn arall a gaiff ganiatâd gennych chi, fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol), i fod yn bresennol
- Bydd angen i chi fod yn fodlon na fydd hynny'n amharu ar y gwaith o ddilysu neu gyfrif pleidleisiau'n effeithlon a'ch bod naill ai wedi ymgynghori â'r asiantiaid etholiadol neu wedi ystyried bod hynny'n anymarferol2 .
Dylech gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau na fydd neb sy'n bresennol yn ymyrryd â chyfrinachedd y bleidlais nac yn ei pheryglu. Mae'n ofynnol yn gyfreithiol i chi wneud y cyfryw drefniadau ag y gwelwch yn briodol i sicrhau bod pawb sy'n bresennol yn cael copi o'r gofynion perthnasol ynglŷn â chyfrinachedd3 .
Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i roi cyfleusterau rhesymol i asiantiaid cyfrif ar gyfer goruchwylio'r broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau. Dylech hefyd sicrhau y gall unrhyw un sydd â'r hawl i fod yn bresennol weld popeth sy'n digwydd yn glir, heb allu ymyrryd â gwaith eich staff4 .
Nid oes gofyniad i'r rhai sy'n bresennol gyrraedd erbyn amser penodol. Dylech gael proses ar waith i sicrhau bod y rhai sydd â hawl i fod yn bresennol ddod i mewn pryd bynnag y byddant yn cyrraedd. Dylai'r broses hon hefyd adael i unrhyw un sy'n bresennol adael a dychwelyd yn ddiweddarach os byddant am wneud hynny.
- 1. Atodlen 1 rheol 44(2) a (3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 rheol 44(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 66 ac atodlen 1 rheol 31(b) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1 rheol 44(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Asiantiaid cyfrif
Rhaid i chi ddarparu cyfleusterau rhesymol ar gyfer asiantiaid cyfrif er mwyn iddynt oruchwylio'r broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau, a rhoi gwybodaeth berthnasol iddynt.
Yn arbennig, mae'r gyfraith yn nodi, lle caiff pleidleisiau eu cyfrif drwy ddidoli'r papurau pleidleisio fesul ymgeisydd wedyn cyfrif pob set o bapurau pleidleisio, bod gan yr asiantiaid cyfrif hawl i ddisgwyl bod y papurau pleidleisio wedi'u didoli'n gywir1 .
Rhaid i chi hysbysu asiantiaid cyfrif yn ysgrifenedig o'r amser y byddwch yn dechrau dilysu a chyfrif pleidleisiau a'r lleoliad2 .
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar benodi asiantiaid cyfrif.
- 1. Atodlen 1 rheol 44(5) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 rheol 44(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Arsylwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn
Arsylwyr achrededig
Mae arsylwi etholiadol yn rhan ddilys a gwerthfawr o'r broses etholiadol a dylid gofalu na chaiff arsylwyr eu rhwystro na'u hatal rhag arsylwi.
Er y caniateir i chi ofyn i arsylwr adael am gamymddwyn, a/neu gyfyngu ar nifer yr arsylwyr a all fod yn bresennol ar unrhyw adeg yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif,1 dylech fod yn ofalus wrth wneud hynny.
Nid oes gennych hawl i rwystro pob arsylwr rhag bod yn bresennol wrth ddilysu a chyfrif, dim ond cyfyngu ar nifer yr arsylwyr sy'n bresennol ar unrhyw adeg, a dylech ddefnyddio'r disgresiwn hwn mewn modd rhesymol.
Os byddwch yn atal mynediad, neu'n gofyn i arsylwr achrededig adael y prosesau dilysu neu gyfrif, dylech sicrhau bod trywydd archwilio er mwyn cefnogi eich penderfyniad. Mae cofnod cyfyngiadau mynediad ar arsylwyr enghreifftiol ar gael at y diben hwn.
Wrth reoli presenoldeb arsylwyr rhaid i chi ddilyn Cod ymarfer y Comisiwn i arsylwyr.2 Os cewch unrhyw broblemau gydag arsylwyr sy'n bresennol yn ystod y broses gyfrif, cysylltwch â'ch tîm lleol yn y Comisiwn cyn gynted â phosibl.
Llyfryn Arsylwyr yn etholiadau'r DU - Rydym yn diweddaru'r adnodd hwn i adlewyrchu'r mesurau newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022. Bydd ar gael eto unwaith bydd y diweddariadau wedi'u cwblhau.
Cynrychiolwyr y Comisiwn
Mae gan gynrychiolwyr y Comisiwn yr hawl i fod yn bresennol yn y prosesau dilysu a chyfrif ac arsylwi ar eich arferion gwaith.3
Gallant ofyn cwestiynau i'ch staff ac asiantiaid, ond ni wnânt hynny os byddai'n amharu neu'n aflonyddu ar y gweithrediadau.
Ni chewch gyfyngu ar nifer y cynrychiolwyr o'r Comisiwn yn y prosesau dilysu a chyfrif.4
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar benodi arsylwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn.
- 1. Adran 6E(1) Deddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 ("PPERA 2000") ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A. 6F PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adrannau 6A a 6B PPERA 2000; Paragraffau 48(4)(f) a 51(4)(f) Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. A. 6E(2) PPERA 2000 ↩ Back to content at footnote 4
Y cyfryngau
Dylech gynnwys lle a chyfle i'r cyfryngau adrodd ar ganlyniadau'r etholiad. Gallwch benderfynu pa rai o gynrychiolwyr y cyfryngau a gaiff fod yn bresennol, yn ôl eich disgresiwn. Fel yn achos pawb sy'n bresennol, rhaid i chi sicrhau nad yw cynrychiolwyr y cyfryngau yn ymyrryd â'r broses nac yn peryglu cyfrinachedd y bleidlais.
Er mwyn gwneud paratoadau i gynrychiolwyr o'r cyfryngau fod yn bresennol yn ystod eich prosesau dilysu a chyfrif, dylech ystyried:
- cysylltu â phrif sefydliadau darlledu ymlaen llaw
- nodi pa gyfleusterau sydd ar gael i'r cyfryngau
- trefnu bod systemau sain yn cael eu defnyddio ar gyfer y cyhoeddiadau ac unrhyw ddarllediadau byw
- rhoi cyfle i gynrychiolwyr o'r cyfryngau ymweld â'r lleoliad dilysu a chyfrif er mwyn gweld faint o le a chyfleusterau sydd ar gael, a rhoi cyfle iddynt godi unrhyw faterion neu ofynion gyda chi, gan gynnwys unrhyw ofynion technegol er mwyn osgoi problemau ar y noson a sicrhau bod darpariaeth yn cael ei gwneud wrth gynllunio'r lleoliad
- sut y byddwch yn sicrhau bod y cyfryngau'n ymwybodol o unrhyw ardaloedd cyfyngedig a gweithdrefnau; e.e. bod gweithwyr camera yn gwybod na ddylent ffilmio gwybodaeth sensitif (fel siotiau agos o bapurau pleidleisio) na rhwystro staff cyfrif
Drwy gydol y gweithrediadau dylech sicrhau bod cynrychiolwyr y cyfryngau yn ymwybodol o'r canlynol:
- y trefniadau ar gyfer datgan canlyniadau fel rhoi gwybod iddynt ychydig cyn i'r canlyniadau gael eu datgan fel y gallant fod yn barod a rhoi copïau ysgrifenedig o'r canlyniadau iddynt.
- y trefniadau ar gyfer defnyddio systemau sain ar gyfer y cyhoeddiadau ac unrhyw ddarllediadau byw ac â phwy i gysylltu os gofynnir unrhyw gwestiynau etholiadol technegol
- yr amseroedd gorffen a datgan disgwyliedig ar gyfer pob digwyddiad pleidleisio, gan gynnwys trefniadau ar gyfer cyfrif pleidleisiau mewn mwy nag un etholiad
- bod siaradwr â'r cyfryngau yn cael ei enwebu ar gyfer y cyfrif a fydd ar gael i ddelio ag ymholiadau gan y cyfryngau
Os yw cynrychiolwyr o'r cyfryngau wedi cael eu hachredu’n arsylwyr gan y Comisiwn a'u bod yn bresennol yn rhinwedd y rôl honno, mae ganddynt yr un hawliau a rhwymedigaethau ag unrhyw arsylwr achrededig arall. Fel unrhyw arsylwyr eraill, mae'n ofynnol iddynt ystyried Cod ymarfer y Comisiwn i arsylwyr a rhaid iddynt gydymffurfio ag unrhyw benderfyniad a wnewch ynghylch defnyddio camerâu ac offer recordio arall1 .
Llyfryn Arsylwyr yn etholiadau'r DU - Rydym yn diweddaru'r adnodd hwn i adlewyrchu'r mesurau newydd a gyflwynwyd gan Ddeddf Etholiadau 2022. Bydd ar gael eto unwaith bydd y diweddariadau wedi'u cwblhau.
Er mwyn eich helpu chi a'ch tîm cysylltiadau cyhoeddus, rydym wedi cynhyrchu, ar y cyd â darlledwyr newyddion teledu cenedlaethol, rai 'awgrymiadau ar gyfer rheoli'r cyfryngau yn ystod y broses gyfrif.
Bydd y Comisiwn yn llunio llawlyfr ar gyfer y cyfryngau y gallwch ei gynnwys gydag unrhyw becyn gwybodaeth rydych yn ei lunio ar gyfer y cyfryngau a fydd yn bresennol yn ystod y dilysu a'r cyfrif.
- 1. Paragraffau 48(3)(b) a 51(3)(b) Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
Rheoli mynediad a rheoli'r sawl sy'n bresennol
Rheoli mynediad
Dylech roi rhestrau o'r bobl hynny sydd â hawl i fod yn bresennol yn y prosesau dilysu a chyfrif i'r rheini sydd ar ddyletswydd wrth y fynedfa, a chyfarwyddo staff diogelwch i wirio tocynnau neu gardiau mynediad unrhyw un sy'n ceisio cael mynediad.
Fodd bynnag, dylech hefyd hysbysu staff diogelwch nad oes angen i gynrychiolwyr y Comisiwn nac arsylwyr achrededig roi gwybod ymlaen llaw ble maent yn bwriadu arsylwi ac felly na fydd eu henwau o bosibl yn ymddangos ar y rhestr, ond, er hynny, bod ganddynt hawl i gael mynediad i'r lleoliad dilysu a chyfrif os byddant yn dangos eu bathodyn adnabod arsylwr neu gynrychiolydd y Comisiwn.
Am resymau iechyd a diogelwch, dylech gofnodi enwau pawb sy'n bresennol yn y prosesau dilysu a chyfrif.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar arsylwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn.
Dylech gydgysylltu â'r heddlu i gadarnhau y bydd eu cynlluniau ar gyfer rheoli'r mannau cyhoeddus y tu allan i'r lleoliad cyfrif yn ei gwneud yn bosibl i bobl sydd â'r hawl i fod yn bresennol yn ystod y broses gyfrif ddod i mewn a gadael y lleoliad yn ddirwystr.
Rheoli'r rhai sy'n bresennol
Mae angen i bawb sy'n bresennol wybod beth i'w ddisgwyl a deall eu rôl yn y prosesau dilysu a chyfrif. I gefnogi hyn, dylai eich cynlluniau gynnwys dulliau i gyfathrebu â'r rhai sy'n bresennol a'u rheoli. Dylai'r cynlluniau hefyd nodi sut y byddwch yn cadw cyfrinachedd y bleidlais drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif.
Dylech sicrhau bod pawb sy'n bresennol yn ystod y broses gyfrif, gan gynnwys ymgeiswyr, eu gwesteion, asiantiaid etholiadol, asiantiaid cyfrif a'r cyfryngau, yn cael eu briffio ar y ffordd y cynhelir y broses gyfrif a'r safonau ymddygiad a ddisgwylir ganddynt bob amser, a'u bod yn deall y rhain yn llawn.
Dylai eich briffiadau ysgrifenedig ac wyneb yn wyneb nodi'n glir y byddwch yn gwahardd pobl o leoliad y broses gyfrif os bydd eu hymddygiad yn tarfu ar y gwaith o gynnal y broses gyfrif yn effeithiol. Dylai hyn helpu'r staff cyfrif i ddilysu a chyfrif pleidleisiau heb ymyrraeth gan asiantiaid cyfrif nac arsylwyr eraill.
Dylech hefyd benderfynu ar bolisi ynglŷn â defnyddio ffonau symudol a ffotograffiaeth neu ffilmio yn lleoliad y prosesau dilysu a chyfrif a rhoi'r wybodaeth hon ymlaen llaw i'r rhai sydd â'r hawl i fod yn bresennol.
Dylid dosbarthu tocynnau neu gardiau mynediad i bawb sydd â'r hawl i fod yn bresennol yn y cyfrif, ac eithrio arsylwyr achrededig a chynrychiolwyr y Comisiwn a fydd yn gwisgo bathodynnau achredu arian neu binc. Dylech ystyried dosbarthu tocynnau neu gardiau mynediad mewn lliwiau gwahanol er mwyn nodi'r categorïau gwahanol o unigolion a fydd yn bresennol.
Cyfathrebu yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif
Mae cyfathrebu da, mewn briffiadau i ymgeiswyr ac asiantiaid cyn y broses gyfrif ac yn y digwyddiad ei hun, yn galluogi'r rhai sy'n bresennol i graffu'n briodol ar yr holl brosesau a bydd yn helpu i ennyn hyder yn y ffordd y caiff y prosesau dilysu a chyfrif eu gweinyddu. Gall rhoi gwybodaeth am y broses hefyd helpu i leihau nifer yr ymholiadau a geir gan ymgeiswyr ac asiantiaid – yn enwedig gan ymgeiswyr newydd neu ddibrofiad – gan helpu i leihau'r pwysau ar staff.
Dylech hefyd sicrhau bod ffordd bob amser i asiantiaid neu arsylwyr wneud sylwadau'n uniongyrchol i chi os byddant yn pryderu neu'n anfodlon mewn unrhyw ffordd â'r modd y caiff y gweithrediadau eu cynnal. Mae'n bwysig sicrhau y gellir gwneud unrhyw sylwadau o'r fath cyn gynted ag y bo modd fel y gellir ystyried unrhyw bryderon, rhoi esboniadau a sicrwydd, a chymryd unrhyw gamau unioni os bydd angen.
Cyhoeddiadau ar lafar
Dylech ddefnyddio system annerch y cyhoedd i wneud cyhoeddiadau am beth sy'n digwydd ble a phryd drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif. Dylai'r rhain fod yn amserol ac yn gydgysylltiedig er mwyn sicrhau y caiff gwybodaeth ei rhannu mewn ffordd sy'n galluogi ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr i ddeall cynnydd y cyfrif yn llawn.
Gallech wneud cyhoeddiadau:
- pan fyddwch wedi derbyn yr holl flychau pleidleisio o'r gorsafoedd pleidleisio
- pan fyddwch wedi derbyn yr holl flychau pleidleisiau post
- pan fyddwch wedi cwblhau'r broses ddilysu
- er mwyn cadarnhau'r nifer a bleidleisiodd a faint o bapurau pleidleisio sy'n mynd ymlaen i'r cam cyfrif
- pan fyddwch ar fin dechrau'r broses o ddyfarnu papurau pleidleisio amheus, gan nodi ble y bydd hyn yn digwydd
- pan fyddwch yn barod i gyhoeddi'r canlyniadau, fel y gall y sawl sy'n bresennol fynd i'r ardal datgan canlyniadau
- er mwyn hysbysu'r sawl sy'n bresennol am unrhyw oedi
Mewn etholiadau unigol, os byddwch wedi penderfynu dechrau cyfrif y pleidleisiau pan fydd y broses ddilysu'n dal i fynd rhagddi, dylech sicrhau eich bod yn hysbysu'r rhai sy'n bresennol o hyn.
Mae hefyd yn ddefnyddiol sicrhau bod aelod dynodedig o staff ar gael i friffio unrhyw un sy'n cyrraedd ar ôl i'r prosesau dilysu neu gyfrif ddechrau oherwydd y gallant fod wedi colli eich cyhoeddiadau.
Arwyddion ym mhob rhan o'r lleoliad
Dylai fod gennych ddigon o arwyddion yn y lleoliad fel y gall y rhai sy'n bresennol ddod o hyd i'r ardaloedd amrywiol. Yn benodol, os mai dim ond mewn rhai rhannau o'r lleoliad y gellir clywed y system annerch y cyhoedd, dylech roi gwybod i'r sawl sy'n bresennol ym mhle y gellir clywed cyhoeddiadau drwy arddangos arwyddion clir a thrwy gynnwys y wybodaeth hon mewn pecynnau ar gyfer y sawl sy'n bresennol.
Dylech ystyried arddangos copïau o'r cynllun mewn mannau amrywiol o'r lleoliad, gan ddangos prif fannau o ddiddordeb i asiantiaid cyfrif ac arsylwyr. Gallech hefyd ddarparu disgrifiad o rolau asiantiaid cyfrif ac eglurhad o'r hyn y mae hawl gan westeion eraill ei wneud, ynghyd â ffotograffau o'ch hun a'ch staff allweddol i helpu'r rhai sy'n bresennol i'ch adnabod yn ystod y broses gyfrif.
Pecyn gwybodaeth i'r rhai sy'n bresennol
Dylech ddarparu pecyn gwybodaeth i'r rhai sy'n bresennol a allai gynnwys gwybodaeth am:
- rolau allweddol y rhai sy'n cynnal y prosesau dilysu a chyfrif (gan gynnwys eich enwau a ffotograffau ohonoch chi a'ch tîm allweddol)
- y prosesau dilysu a chyfrif lleol
- rhifau pob blwch pleidleisio ac enwau'r gorsafoedd pleidleisio y maent yn ymwneud â hwy
- y trefniadau diogelwch ar gyfer y papurau a'r blychau pleidleisio
- lle y bo'n berthnasol, y gydberthynas rhwng y cyfrif yn eich ardal etholiadol a'r etholiad yn ei gyfanrwydd
- y papur gwaith dilysu a chyfrif enghreifftiol, gan gynnwys copi ohono, a gaiff ei ddefnyddio i gyfleu canlyniad y broses dilysu a chyfrif
- sut y gall asiantiaid arsylwi ar y broses o ddyfarnu papurau pleidleisio amheus a chymryd rhan ynddi
- rheolau cyffredinol gan gynnwys nad oes hawl smygu yn yr adeilad, ac unrhyw bolisi ynglŷn â lluniaeth, defnyddio ffonau symudol a thynnu lluniau
- unrhyw faterion iechyd a diogelwch eraill, e.e. gweithdrefnau gwacáu ac ymarferion tân
- o ble y gall y sawl sy'n bresennol gael rhagor o wybodaeth
Dylai'r pecyn gwybodaeth hefyd nodi'n glir i'r rhai sy'n bresennol yn y broses gyfrif y dylent ofyn unrhyw gwestiynau i oruchwylwyr y cyfrif yn hytrach na'r cynorthwywyr cyfrif. Bydd hyn yn helpu i sicrhau tryloywder y broses gyfathrebu rhwng staff cyfrif a phobl eraill sy'n bresennol yn y broses gyfrif (gan gynnwys asiantiaid cyfrif).
Dylech friffio uwch-aelodau o staff ar sut i ymateb i ymholiadau gan y rhai sy'n bresennol.
Cyfathrebu'r canlyniadau
Bydd angen i chi gyhoeddi datganiad y canlyniadau terfynol ar lafar.
Mae hefyd yn ofynnol i chi gyhoeddi hysbysiad o'r canlyniadau a bydd rheolau'r etholiad perthnasol yn nodi'r hyn y dylid ei gynnwys yn yr hysbysiad hwnnw.
Dylech ddarparu copïau o'r canlyniadau ar gyfer ymgeiswyr, asiantiaid a'r cyfryngau.
Yn ogystal, dylech wneud trefniadau i'r canlyniadau gael eu cyhoeddi ar wefan yr awdurdod lleol cyn gynted â phosibl. Gallwch rannu'r ddolen i'r canlyniadau drwy gyfrifon cyfryngau cymdeithasol eich cyngor hefyd.
Dilysu
Mae dau brif ddiben i'r broses ddilysu, sef:
- sicrhau a dangos bod yr holl bapurau pleidleisio a ddosbarthwyd mewn gorsafoedd pleidleisio a'r holl bapurau pleidleisio drwy'r post a ddychwelwyd wedi cael eu cludo i leoliad y cyfrif, a
- rhoi'r ffigur y dylai canlyniad y cyfrif fod yn gyson ag ef
Dylech gofio am y ddau ddiben hyn wrth gynnal y broses ddilysu.
Mae sicrhau cywirdeb ar y cam dilysu yn hollbwysig o ran sicrhau cyfrif amserol. Os bydd y ffigurau dilysu yn anghywir, bydd amrywiad o gymharu â ffigurau'r cyfrif y bydd angen ei ddatrys ac sy'n achosi'r risg y caiff y broses gyffredinol ei harafu'n sylweddol.
Derbyn blychau pleidleisio a deunyddiau eraill
Mae derbyn blychau pleidleisio a deunyddiau o orsafoedd pleidleisio mewn ffordd gywir a threfnus yn elfen allweddol o broses ddilysu gywir. Bydd angen i chi benderfynu ar y trefniadau mwyaf effeithiol ar gyfer derbyn blychau pleidleisio a deunyddiau eraill.
Bydd gwneud tybiaethau ynglŷn ag amseroedd cludo blychau pleidleisio yn eich helpu i sicrhau'r canlynol:
- y gall staff sy'n derbyn blychau pleidleisio o orsafoedd pleidleisio hysbysu Swyddogion Canlyniadau os bydd unrhyw flwch/blychau yn hwyr oherwydd gall hyn awgrymu bod problem i Swyddog Llywyddu unigol neu broblem ehangach sy'n effeithio ar nifer o Swyddogion Llywyddu
- bod eich amseriadau amcangyfrifedig ar gyfer cwblhau'r cam dilysu wedi'u llywio gan eich amseriad amcangyfrifedig o bryd y mae'r blychau pleidleisio olaf ar gyfer y bleidlais yn debygol o gyrraedd
Dylech allu amcangyfrif pryd y disgwylir i bob blwch pleidleisio gyrraedd y lleoliad dilysu, gan gydnabod hefyd y gallai oedi ddigwydd o ganlyniad i giwiau posibl yn yr orsaf bleidleisio ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio, neu ffactorau eraill megis tywydd garw ac ati. Bydd eich gwaith yn dadansoddi etholiadau blaenorol yn cynnig gwybodaeth werthfawr i helpu ac mae llawer o wefannau ac apiau hefyd a fydd yn cyfrifo'r amser a gymerir i deithio rhwng gorsaf bleidleisio a'r lleoliad dilysu.
Gallwch hefyd gyfrifo'r amser cyfartalog y bydd Swyddog Llywyddu yn ei gymryd i gwblhau'r ffurflenni perthnasol a phecynnu deunyddiau ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio drwy ystyried profiadau mewn etholiadau blaenorol neu drwy gynnal ymarfer i amseru'r broses yn ymarferol.
Bydd angen i chi sicrhau y gall Swyddogion Llywyddu gael blychau pleidleisio i'r lleoliad dilysu yn ddiogel ac yn effeithlon fel y gellir dechrau'r prosesau dilysu a chyfrif cyn gynted â phosibl. Bydd angen i chi ystyried daearyddiaeth a chysylltiadau trafnidiaeth yr ardal etholiadol a nodweddion penodol y lleoliad a ddewisir (er enghraifft, lleoedd parcio, ffyrdd mynediad ac ati).
Defnyddio mannau casglu
Un opsiwn posibl fyddai cael deunyddiau gorsafoedd pleidleisio gan Swyddogion Llywyddu mewn un lleoliad neu fwy (‘mannau casglu’) a chludo'r deunyddiau mewn swmp i'r lleoliad dilysu. Bydd angen i chi benderfynu a fydd defnyddio mannau casglu yn cyflymu'r broses gyffredinol o gludo deunyddiau gorsafoedd pleidleisio i'r lleoliad dilysu.
Os byddwch yn defnyddio'r dull hwn, bydd angen i chi roi trefniadau cadarn ar waith i sicrhau bod blychau pleidleisio a deunyddiau o orsafoedd pleidleisio yn cael eu derbyn yn y mannau casglu yn gywir ac yn drefnus. Os yw'n bosibl, dylai'r staff sy'n derbyn y blychau pleidleisio fwrw golwg yn fras dros y cyfrifon papurau pleidleisio, gan gynnwys y fathemateg sylfaenol, cyn y caniateir i'r Swyddogion Llywyddu adael. Yna byddai angen i'r blychau pleidleisio a'r deunyddiau eraill o'r gorsafoedd pleidleisio gael eu cludo'n ddiogel i'r lleoliad dilysu. Gweler sicrhau diogelwch papurau pleidleisio a deunyddiau eraill i gael canllawiau pellach ar hyn.
Os byddwch yn penderfynu defnyddio mannau casglu, byddai'n ddoeth gwneud gwiriad pellach er mwyn sicrhau bod popeth a gludwyd i'r mannau casglu gan Swyddogion Llywyddu wedi cael eu derbyn yn y lleoliad dilysu a chyfrif hefyd. Bydd angen i chi gynnwys yr amser y byddai'n ei gymryd i gwblhau'r gwiriadau hyn wrth gyfrifo effeithlonrwydd posibl defnyddio mannau casglu a phwyso a mesur y ffactorau hyn wrth wneud unrhyw benderfyniad.
Nifer y blychau pleidleisio
Bydd angen i chi gynllunio ar gyfer nifer y blychau pleidleisio y byddwch yn eu derbyn yn y lleoliad dilysu a chyfrif. Caiff hyn ei bennu gan eich cyfrifiad o nifer y papurau pleidleisio y gellir eu rhoi mewn blwch pleidleisio gan ddibynnu ar faint y papur pleidleisio neu'r papurau pleidleisio ac felly sawl blwch pleidleisio a gyflenwir i orsafoedd pleidleisio. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein hadran ar gyfarpar a deunyddiau i'w darparu i'r orsaf bleidleisio.
Cyfuno
Os bydd rheolau'r etholiad perthnasol yn caniatáu, bydd angen i chi benderfynu a ddylid defnyddio un blwch pleidleisio yn yr orsaf bleidleisio neu flychau pleidleisio ar wahân ar gyfer pob etholiad. Bydd defnyddio un blwch yn golygu y bydd angen i'r papurau pleidleisio amrywiol ar gyfer yr etholiadau gwahanol gael eu didoli yn ystod y broses ddilysu. Os defnyddir blychau ar wahân, bydd y papurau pleidleisio eisoes wedi'u gwahanu pan fyddant yn cyrraedd y lleoliad dilysu, heblaw am unrhyw bapurau a fydd wedi cael eu postio yn y blwch ‘anghywir’ mewn gorsafoedd pleidleisio drwy gamgymeriad. Nid oes unrhyw beth i awgrymu bod y naill ddull na'r llall yn arwain at broses ddilysu sy'n llawer cynt, ond efallai y byddwch am gynnal ymarfer i brofi hyn yn lleol er mwyn darparu sylfaen dystiolaeth ar gyfer unrhyw benderfyniad.
Fodd bynnag, mae rhai manteision eraill i ddefnyddio un blwch, er enghraifft:
- gall fod yn symlach i'r pleidleisiwr yn yr orsaf bleidleisio
- bydd llai o waith rheoli i'r staff yn yr orsaf bleidleisio
- gall olygu y bydd llai o flychau pleidleisio yn cael eu cludo i'r lleoliad dilysu
Cynllunio wrth gefn ar gyfer oedi
Dylech fod yn ymwybodol o unrhyw faterion byw a allai effeithio ar y broses o gludo'r blychau pleidleisio i'r lleoliad dilysu, er enghraifft tywydd gwael neu achosion o gau ffyrdd, a bydd angen i chi benderfynu pa fesurau wrth gefn sy'n briodol. Bydd angen i chi fonitro'r sefyllfa ar y diwrnod pleidleisio a gallu gwneud penderfyniadau gweithredol er mwyn delio â sefyllfaoedd wrth iddynt godi, megis cerbyd yn torri i lawr. Hefyd, bydd angen i chi benderfynu beth fydd y protocolau cyfathrebu i yrwyr roi gwybod i chi am unrhyw oedi.
Ciwiau ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio
Gallai'r ddarpariaeth i ganiatáu i'r rhai sy'n aros mewn ciwiau ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio fwrw pleidlais achosi oedi os bydd gorsafoedd pleidleisio ar agor ar ôl 10pm. Mae angen i chi benderfynu pa systemau y byddwch yn eu rhoi ar waith i leihau unrhyw oedi i'r eithaf os bydd y sefyllfa hon yn codi. Dylai fod gennych hefyd brotocolau cyfathrebu fel y gallwch gael gwybod yn syth os bydd unrhyw giwiau'n datblygu. Bydd hyn yn eich galluogi i asesu'r oedi tebygol yn gynnar ac addasu'r broses ddilysu yn ôl yr angen, er enghraifft, drwy ad-drefnu adnoddau.
Pan fydd y Swyddog Llywyddu yn trosglwyddo'r blychau pleidleisio
P'un a fydd y Swyddogion Llywyddu yn cludo'r blychau pleidleisio i'r lleoliad dilysu a chyfrif neu'n mynd â nhw i fan casglu, dylech egluro i'r staff sy'n derbyn y blychau pleidleisio na ddylid caniatáu i unrhyw Swyddogion Llywyddu adael nes bod eu blwch/blychau pleidleisio a'r holl ddogfennau a phecynnau wedi cael eu derbyn a'u gwirio gan yr aelod dynodedig o staff a, lle bynnag y bo modd, eu bod wedi bwrw golwg yn fras dros y cyfrif papurau pleidleisio. Dylech gyfarwyddo'r staff sy'n derbyn blychau pleidleisio i sicrhau eu bod yn cael y cyfrif papurau pleidleisio ar gyfer pob blwch pleidleisio.
Os bydd Swyddogion Llywyddu yn dod â llawer o flychau pleidleisio i'r lleoliad dilysu neu'r man casglu, dylech ddarparu staff i helpu'r Swyddog Llywyddu i gludo'r holl flychau pleidleisio a'r deunyddiau ategol i'r lleoliad dilysu neu'r man casglu mewn un daith.
Dylech hefyd gofnodi pryd y bydd pob blwch pleidleisio yn cyrraedd, fel y gallwch gyfeirio at y wybodaeth hon yn y dyfodol.
Dylai eich proses sicrhau y gall unrhyw beth sydd ar goll gael ei nodi'n gyflym ac y gellir cymryd camau i ddod o hyd i'r eitemau coll.
Bydd angen i chi hefyd sicrhau bod prosesau ar waith gennych i sicrhau diogelwch unrhyw ddata personol sydd ar y papurau pleidleisio a gwaith papur arall o'r orsaf bleidleisio.
Dylech goladu manylion yr holl orsafoedd pleidleisio ymlaen llaw, ynghyd ag enwau a rhifau ffôn symudol pob Swyddog Llywyddu fel y gallwch gysylltu â Swyddogion Llywyddu yn hawdd os bydd unrhyw broblemau.
Dylai Swyddogion Llywyddu gofnodi unrhyw faterion i chi eu hystyried, os bydd angen, yn y lleoliad dilysu a chyfrif.
Dylai eich tîm o staff sy'n derbyn deunyddiau gan orsafoedd pleidleisio ddefnyddio rhestr wirio er mwyn sicrhau eich bod yn rhoi cyfrif am yr holl flychau pleidleisio a chyfrifon papurau pleidleisio yn gywir, yn ogystal ag unrhyw becynnau sy'n cynnwys pleidleisiau post a roddwyd i staff gorsafoedd pleidleisio.
Rydym wedi paratoi rhestr wirio i chi ei hargraffu a'i defnyddio yn ystod y broses ddilysu:
Cyfuno
Lle bo etholiadau wedi cael eu cyfuno a blychau pleidleisio ar wahân wedi cael eu defnyddio ar gyfer pob etholiad, bydd angen i chi baratoi rhestrau gwirio pellach er mwyn olrhain y blychau a'u gwaith papur ategol ar gyfer yr etholiad arall/etholiadau eraill.
Derbyn a rheoli papurau pleidleisio a deunyddiau etholiad yn y lleoliad dilysu
Dylai fod gennych dîm o staff hyfforddedig sy'n gyfrifol am gofrestru derbyn pob blwch pleidleisio, y pleidleisiau post a'r deunyddiau eraill sydd wedi'u dosbarthu o orsafoedd pleidleisio a phleidleisiau post a ddosbarthwyd i'r Swyddog Canlyniadau yn swyddfeydd y cyngor.
Dylech drefnu'r pecynnau a'r parseli o orsafoedd pleidleisio fel y gallwch ddod o hyd i unrhyw becyn yn hawdd.
Mae angen gwahanu’r sachau sy’n cynnwys y dogfennau y mae angen eu storio, gan gynnwys rhestrau rhifau cyfatebol wedi’u selio, pecynnau o bleidleisiau post a wrthodwyd a phecynnau o ffurflenni dychwelyd pleidleisiau post sy’n cyd-fynd â nhw, oddi wrth y rhai sy’n cynnwys eitemau a gaiff eu hailddefnyddio, megis deunyddiau ysgrifennu cyffredinol.
Yna gallwch ryddhau'r deunyddiau amrywiol a dderbyniwyd yn ôl gan orsafoedd pleidleisio i'r staff derbyn yn y timau perthnasol, er mwyn gallu dechrau'r broses o ddilysu'r papurau pleidleisio heb eu defnyddio ac agor pleidleisiau post. Gellir cynnal y prosesau hyn ar yr un pryd â'r broses i ddilysu pleidleisiau wedi'u defnyddio.
Mae'r tabl canlynol yn crynhoi'r cam gweithredu y dylech ei gymryd ar gyfer pob math o becyn wedi'i selio a dderbynnir:
Pecynnau wedi'u selio a dderbynnir | Cam gweithredu i'w gymryd |
---|---|
Cyfrifon papurau pleidleisio |
|
Papurau pleidleisio a ddifethwyd a phapurau pleidleisio heb eu defnyddio |
|
Papurau pleidleisio a gyflwynwyd a rhestr pleidleisiau a gyflwynwyd | |
|
|
Pleidleisiau post a roddir i staff yr orsaf bleidleisio |
|
Yn unol â'ch polisi cadw dogfennau, dylech sicrhau'r canlynol:
- bod y deunyddiau y mae'n rhaid i chi eu cadw dan sêl wedi'u gosod mewn man penodol a diogel drwy gydol y prosesau dilysu a chyfrif
- bod unrhyw ddata personol yn cael eu dinistrio ar yr adeg briodol
- 1. Atodlen 1 rheol 45(5) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983↩ Back to content at footnote 1 a b
- 2. Atodlen 1 rheol 54(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983↩ Back to content at footnote 2 a b
Derbyn blychau papurau pleidleisio drwy'r post wedi'u selio yn y lleoliad dilysu
Dylech ddod ag unrhyw bapurau pleidleisio drwy'r post a gafodd eu derbyn, eu hagor a'u prosesu yn flaenorol i'r lleoliad dilysu a chyfrif mewn blychau pleidleisio wedi'u selio, ynghyd â chyfrif papurau pleidleisio ar gyfer pob blwch pleidleisio drwy'r post.
Bydd angen i chi benderfynu ar y trefniadau mwyaf effeithiol ar gyfer dosbarthu a derbyn blychau papurau pleidleisio drwy'r post wedi'u selio o bob un o'r sesiynau agor amlenni pleidleisiau post.
Dylai'r staff sy'n derbyn y blychau pleidleisio drwy'r post ddefnyddio rhestr wirio er mwyn sicrhau y cyfrifir am bob blwch pleidleisio drwy'r post a phob cyfrif papurau pleidleisio drwy'r post yn gywir.
Rhaid i chi ddilysu pob pecyn a phob blwch pleidleisio sy'n cynnwys papurau pleidleisio drwy'r post yn yr un modd ag unrhyw flwch pleidleisio o orsaf bleidleisio. Gan y bydd y rhain yn aml ymhlith y blychau cyntaf i'w dilysu, maent yn cynnig cyfle i ennyn hyder yn y broses ac yn y cyfrif yn gyffredinol.1
- 1. Atodlen 1 rheol 45(1) a (5) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Sicrhau diogelwch papurau pleidleisio a deunyddiau eraill
Dylech gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau diogelwch y papurau pleidleisio a'r deunyddiau perthnasol o ddiwedd y cyfnod pleidleisio hyd at ddatgan y canlyniadau, yn enwedig lle bydd angen cludo'r papurau pleidleisio o'r lleoliad dilysu i'r lleoliad cyfrif neu lle bydd toriad yn ystod y gweithrediadau yn golygu bod angen storio'r papurau pleidleisio rhwng diwedd y broses ddilysu a dechrau'r broses gyfrif.1
Os bydd angen i chi storio papurau pleidleisio, rhaid i chi eu storio mewn blychau pleidleisio wedi'u selio mewn man diogel, gan ganiatáu i asiantiaid atodi eu seliau i'r blychau pleidleisio.2 Dylech bob amser agor y blychau pleidleisio sydd wedi'u selio o flaen unrhyw ymgeiswyr ac asiantiaid sy'n bresennol, er mwyn iddynt allu bod yn fodlon nad oes neb wedi ymyrryd â'r papurau pleidleisio na'r blychau pleidleisio.
Gallwch gysylltu â'ch pwynt cyswllt unigol (SPOC) yn yr heddlu wrth benderfynu ar y dull mwyaf priodol o sicrhau prosesau storio diogel, a dylech sicrhau eich bod yn rhoi gwybod i ymgeiswyr ac asiantiaid am eich trefniadau, fel y gallant ymddiried yn uniondeb y broses gyfrif.
Bydd angen i chi sicrhau bod unrhyw ddata personol yn cael eu dinistrio ar yr adeg briodol hefyd, yn unol â'ch polisi cadw dogfennau.
Asesiadau risg
Bydd angen i chi sicrhau bod prosesau sy'n briodol i'r risg ar waith er mwyn sicrhau lefel o ddiogelwch ar gyfer data personol sydd wedi'u cynnwys ar y papurau pleidleisio ac ar waith papur arall o'r orsaf bleidleisio.
Fel rhan o'ch gwaith cynllunio wrth gefn, byddwch wedi ystyried risgiau diogelwch a'u cynnwys ar eich cofrestr risg. Gall risgiau diogelwch amrywio o fewn yr ardal etholiadol a gall fod angen i chi ddefnyddio dull gwahanol mewn achosion penodol.
Ceir rhagor o wybodaeth yn y canllawiau ar gynllunio ar gyfer y prosesau dilysu a chyfrif.
- 1. Para 52(7) Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 47(1) Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
Cludo'r blychau pleidleisio a deunyddiau eraill yn ddiogel
Ar y cyd â'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr Heddlu, dylech benderfynu sut y byddwch yn sicrhau bod blychau pleidleisio a deunyddiau eraill yn cael eu cludo'n ddiogel i'r lleoliad dilysu a chyfrif.
Fel rhan o hyn, bydd angen i chi asesu a oes gennych unrhyw ardaloedd uchel eu risg a allai olygu bod angen defnyddio gosgordd yr heddlu, fan ddiogelwch neu swyddogion ychwanegol, er enghraifft, er mwyn trosglwyddo'r blychau pleidleisio o'r orsaf bleidleisio i'r lleoliad dilysu/man casglu ar ddiwedd y cyfnod pleidleisio.
Diogelwch wrth gludo
Dylech sicrhau bod Swyddogion Llywyddu yn ymwybodol o'r rheolau a'r prosesau y dylid eu dilyn ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio, gan gynnwys mewn perthynas â selio'r blychau pleidleisio. Ceir canllawiau ar hyn yn llawlyfr y Comisiwn ar gyfer gorsafoedd pleidleisio. Dylech bwysleisio i Swyddogion Llywyddu na ddylent byth adael y blychau pleidleisio na deunyddiau eraill heb neb i ofalu amdanynt ac os mai nhw eu hunain fydd yn cludo'r blychau pleidleisio a'r deunyddiau i fan casglu neu'r lleoliad dilysu, dylent gymryd camau i sicrhau eu bod yn ddiogel drwy gydol y daith, er enghraifft, drwy gloi drysau'r car a dilyn unrhyw gyngor penodol gan yr heddlu.
Os bydd y lleoliad ar gyfer cyfrif y pleidleisiau yn wahanol i'r lleoliad dilysu, rhaid i chi roi'r papurau pleidleisio perthnasol mewn blwch pleidleisio neu gynhwysydd addas arall a'i selio, a chaniatáu i asiantiaid atodi eu seliau. Rhaid i chi gydymffurfio ag unrhyw ofynion yn rheolau'r etholiad, megis cymeradwyo disgrifiad o'r ardal y mae'r papurau pleidleisio yn ymwneud â hi ar y blychau pleidleisio a sicrhau bod yr holl ddeunyddiau a gwaith papur gofynnol yn cael eu dosbarthu i leoliad y cyfrif ynghyd â'r papurau pleidleisio.
Yn lleoliad y cyfrif, dylai fod gennych drefniadau cadarn i gofnodi'r holl ddeunyddiau a gwaith papur a fydd yn cyrraedd er mwyn sicrhau nad oes unrhyw beth ar goll.
Diogelwch yn y lleoliad dilysu
Dylech wneud trefniadau ar gyfer sut y caiff y papurau pleidleisio a deunyddiau eraill eu cadw'n ddiogel ar ôl iddynt gyrraedd y lleoliad(au) dilysu a chyfrif, er enghraifft, drwy sicrhau nad ydynt byth yn cael eu gadael heb neb i ofalu amdanynt.
Dylai'r cynlluniau hyn hefyd gynnwys diogelwch y deunyddiau hynny y mae'n rhaid i chi eu cadw dan sêl (fel y rhestr rhifau cyfatebol), naill ai drwy drefnu bod staff yn gwylio'r deunyddiau neu drwy eu cadw mewn ystafell dan glo.
Sicrhau bod papurau pleidleisio yn ddiogel yn ystod toriadau yn y gweithrediadau
Os bydd toriad yn y gweithrediadau, bydd angen i chi roi papurau pleidleisio mewn blwch pleidleisio neu gynhwysydd addas arall, ei selio a'i storio'n ddiogel yn ystod y toriad.
Ar ôl cwblhau'r broses ddilysu, dylech roi'r papurau pleidleisio ar gyfer unrhyw etholiadau nad ydynt yn cael eu cyfrif yn syth ar ôl eu dilysu mewn blychau pleidleisio ac yna eu selio. Rhaid i chi ganiatáu i unrhyw asiantiaid sy'n bresennol atodi eu seliau.
Er mwyn sicrhau diogelwch y papurau pleidleisio, gallech ystyried y canlynol:
- eu storio mewn blychau pleidleisio wedi'u selio mewn ystafell dan glo, gan sicrhau mai chi sy'n gyfrifol am yr holl allweddi i'r cyfleuster hwnnw
- trefnu bod staff diogelwch yn ‘gwarchod’ y blychau pleidleisio bob amser nes bod y cam dilysu/cyfrif yn ailddechrau
Dylech gydgysylltu â'ch Pwynt Cyswllt Unigol yn yr heddlu lleol wrth benderfynu ar y dull storio diogel mwyaf priodol.
Ar ôl i'r cam dilysu/cyfrif ailddechrau, dylech agor y blychau pleidleisio wedi'u selio o flaen unrhyw ymgeiswyr ac asiantiaid sy'n bresennol, er mwyn iddynt allu bod yn fodlon nad oes neb wedi ymyrryd â'r papurau pleidleisio na'r blychau pleidleisio.
Cyfuno
Lle caiff etholiadau eu cyfuno, mae'n debygol y bydd toriad mewn gweithrediadau ar ôl i'r broses ddilysu ddod i ben a chyn i'r cyfrif ddechrau ar gyfer un neu fwy o'r etholiadau. Yn ystod y toriad hwnnw, bydd angen i chi storio'r papurau pleidleisio yn ddiogel.
Sicrhau bod papurau pleidleisio yn ddiogel os bydd yn rhaid gwacáu'r lleoliad
Weithiau, bydd pethau'n digwydd yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif a all arwain at wacáu'r lleoliad, naill ai'n barhaol neu nes bydd y sefyllfa wedi'i datrys.
Yn amlwg, o dan yr amgylchiadau hyn, mae diogelwch y bobl sy'n bresennol yn hollbwysig ond efallai na fydd sefyllfaoedd penodol yn peri risg uniongyrchol i ddiogelwch y staff. Gall paratoi cynlluniau gwacáu ymlaen llaw helpu i gynnal uniondeb y prosesau dilysu a chyfrif a diogelwch y papurau pleidleisio.
Os bydd yn rhaid gwacáu'r lleoliad ar frys, efallai y bydd modd diogelu'r papurau pleidleisio sydd ar y byrddau o hyd drwy gloi'r lleoliad neu eu storio mewn ystafell dan glo yn y lleoliad. Yn yr achos hwn, bydd angen i chi gael yr holl allweddi i'r ystafell honno neu'r lleoliad. Os bydd gennych fwy o amser, efallai y bydd modd gosod y papurau pleidleisio mewn blychau pleidleisio cyn selio'r blychau pleidleisio (gan wahodd asiantiaid i osod eu seliau arnynt os yw hynny'n bosibl) ac yna storio'r blychau wedi'u selio mewn man diogel yn y lleoliad.
Weithiau, bydd y sefyllfa'n golygu y bydd y papurau pleidleisio yn debygol o gael eu difrodi os cânt eu gadael yn y lleoliad. Yn y sefyllfaoedd hyn, efallai y bydd modd i'r staff roi'r papurau pleidleisio mewn blychau pleidleisio a'u symud o'r lleoliad nes y gall y prosesau dilysu a chyfrif ailddechrau. O dan yr amgylchiadau hyn, bydd yn ddefnyddiol cael protocol clir ar gyfer selio'r papurau pleidleisio mewn blychau pleidleisio a labelu'r blychau hynny'n glir. Dylech hefyd ystyried sut y byddech yn sicrhau bod blychau pleidleisio'n cael eu cludo'n ddiogel a'u storio o dan yr amgylchiadau hyn.
Y broses ddilysu
Mae dilysu'r papurau pleidleisio a ddefnyddiwyd, nas defnyddiwyd ac a ddifethwyd yn ofyniad cyfreithiol, ac mae'n ganolog i'r broses o ddatgan canlyniad cywir.1
Rhaid i chi ddilysu pob cyfrif papurau pleidleisio a pharatoi datganiad am ganlyniad y broses ddilysu.2 Mae hwn yn gofnod o nifer y papurau pleidleisio a ddisgwyliwyd a nifer y papurau pleidleisio a gyfrifwyd, ynghyd ag esboniad o unrhyw amrywiadau.
Caiff unrhyw asiant wneud copi o'r datganiad, a dylech sicrhau bod copïau ar gael i'r asiantiaid sy'n bresennol ar ôl i'r broses ddilysu gael ei chwblhau.3 Mae'r datganiad dilysu yn adnodd cyfathrebu allweddol a fydd yn helpu i sicrhau bod ymgeiswyr ac asiantiaid yn hyderus bod y prosesau dilysu a chyfrif yn dryloyw ac y byddant yn arwain at ganlyniad cywir.
Fel gyda phob agwedd ar y broses ddilysu a chyfrif, mae tryloywder yn allweddol a dylai'r broses a ddilynwyd fod yn glir i bawb sy'n bresennol.
Disgrifir camau allweddol y broses ddilysu yn y tabl canlynol:
Cam | Cam gweithredu i'w gymryd |
---|---|
Agor y pecynnau o bapurau pleidleisio heb eu defnyddio |
|
Agor y blychau pleidleisio |
|
Trefnu'r papurau pleidleisio |
|
Cysoni'r papurau |
|
Prosesau croeswirio
Mae'n hawdd gwneud camgymeriadau rhifyddol neu drawsosod, yn enwedig pan fydd pobl yn flinedig. Felly, mae angen i chi roi prosesau ar waith i liniaru'r risg hon, megis sicrhau bod mwy nag un person yn gwirio'r ffigurau a gofnodir a phob cyfrifiad.
Caiff y papurau pleidleisio eu gosod mewn bwndeli ar gamau amrywiol o'r broses ddilysu ac mae'n bwysig bod gweithdrefnau ar waith i gadarnhau bod y bwndeli'n cynnwys y nifer cywir o bapurau pleidleisio ac, ar y cam cyfrif, nad ydynt yn cynnwys mwy o bleidleisiau na'r uchafswm a ganiateir. Bydd hyn yn hollbwysig i gywirdeb y prosesau dilysu a chyfrif.
Dylech hysbysu staff am hyn yn ystod sesiynau briffio/hyfforddi a dylai uwch-aelodau o staff gadw hyn mewn cof ar bob adeg ac ymyrryd ar unwaith os na fydd hyn yn digwydd.
- 1. Para 49(1)(b) a (5) Atodlen 3 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Para 49(5) Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Para 49(7) Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Para 49(5) Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Para 49(1)(a) Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Para 49(5) Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Para 49(3) Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Paragraff 49(5) Atodlen 3 PCCEO 2012 ↩ Back to content at footnote 8
Os na fydd y cyfrif papurau pleidleisio yn gyson
Os na fydd cyfrif papurau pleidleisio yn gyson, dylech ddilyn y weithdrefn a amlinellir yn y tabl canlynol a dogfennu'r canlyniad ar y datganiad dilysu priodol:
Cam | Cam gweithredu i'w gymryd |
---|---|
Gwiriadau rhagarweiniol |
|
Gwirio nifer y blychau pleidleisio a ddosbarthwyd |
|
Chwilio am wallau cywiriol |
|
Ailgyfrif y papurau pleidleisio |
|
Ailddilysu'r cyfansymiau |
|
Cadarnhau unrhyw amrywiad yn eich cofnodion |
|
Rydym wedi llunio rhestr wirio o'r camau i'w cymryd wrth ddelio ag amrywiadau mewn blychau pleidleisio.
Rhestr wirio wrth ddelio ag amrywiadau mewn blychau pleidleisio (DOC)
Cyfuno
Gwiriwch y blychau pleidleisio ar gyfer pob math o etholiad yn yr holl orsafoedd pleidleisio yn yr un man pleidleisio. Efallai y bydd y broses o ddilysu'r cyfrifon papurau pleidleisio ar gyfer y gorsafoedd pleidleisio eraill yn y lleoliad hwnnw yn dangos gwall cywiriol am fod etholwyr wedi gosod eu papur pleidleisio yn y blwch ‘anghywir’ neu mewn blwch o'r orsaf bleidleisio anghywir.
Os bydd y gwallau cywiriol yn gwrthbwyso ei gilydd, gellir tybio bod y broses ddilysu wedi bod yn llwyddiannus. Lle bynnag y bo modd, dylech ddilysu'r holl flychau o'r un lleoliad pleidleisio ar yr un pryd ar fyrddau cyfagos, neu'n syth ar ôl ei gilydd.
Cwblhau'r broses ddilysu
Dim ond ar ôl i'r holl bapurau pleidleisio drwy'r post, gan gynnwys y rhai a dderbyniwyd mewn gorsafoedd pleidleisio, gael eu hagor a'u prosesu, a'u dilysu, y gellir cwblhau'r broses ddilysu.
Datganiad dilysu
Rhaid i chi sicrhau bod y datganiad dilysu sy'n cynnwys canlyniad y broses o ddilysu pob blwch pleidleisio wedi'i gwblhau.
Ym mhob achos, rhaid i'r datganiad gynnwys cyfanswm nifer y papurau pleidleisio drwy'r post a chyfanswm nifer y papurau pleidleisio a ddilyswyd ar gyfer y bleidlais. Dylech lofnodi’r datganiad.
Caiff unrhyw asiant wneud copi o'r datganiad am ganlyniad y broses ddilysu ac, er mwyn ennyn hyder yn y canlyniad, dylech sicrhau bod copïau ar gael i'r asiantiaid sy'n bresennol ar ôl i'r broses ddilysu gael ei chwblhau.1
Ar ôl cwblhau'r broses ddilysu, os na fyddwch yn dechrau cyfrif y pleidleisiau ar unwaith, dylech roi'r papurau pleidleisio a dogfennau eraill mewn pecynnau diogel a rhoi eich sêl eich hun arnynt, yn ogystal â sêl unrhyw asiantiaid sy'n bresennol sy'n dymuno atodi eu seliau eu hunain.2
Dylech gymryd pob cam angenrheidiol i sicrhau diogelwch y papurau pleidleisio a'r deunyddiau ysgrifennu perthnasol yn ystod unrhyw doriad yn y prosesau dilysu a chyfrif.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar sicrhau diogelwch blychau pleidleisio.
- 1. Atodlen 1 rheol 45(5) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 rheol 45(7) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Y cyfrif
Dylai staff y cyfrif gyrraedd ar yr amseroedd y cytunwyd arnynt gennych chi a dylent sicrhau bod deunydd ysgrifennu ac offer y cyfrif yn bresennol, gan ddefnyddio ein rhestr wirio. Dylech sicrhau bod enwau'r staff yn cael eu cofnodi wrth gyrraedd a'ch bod yn eu briffio yn ôl yr angen er mwyn sicrhau bod y broses gyfrif yn mynd rhagddi'n ddidrafferth.
Rhaid eich bod wedi cymryd camau rhesymol i ddechrau cyfrif y pleidleisiau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ac o fewn pedair awr ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau. Nid yw'r ffaith y gall fod pleidleiswyr yn aros mewn ciw i fwrw eu pleidlais yn newid y ffaith y bydd y gorsafoedd pleidleisio yn cau am 10pm o hyd. Mae hyn yn golygu y bydd angen i chi fod wedi cymryd pob cam rhesymol i ddechrau'r broses gyfrif erbyn 2am, hyd yn oed os bydd pleidleiswyr yn aros mewn ciw am 10pm1 .
Mewn etholiadau unigol, nid oes raid i chi aros nes eich bod wedi cwblhau'r broses ddilysu cyn y gallwch ddechrau cyfrif y pleidleisiau2 .
Beth i'w wneud os na allwch ddechrau cyfrif y pleidleisiau o fewn pedair awr ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau
Os na fyddwch yn dechrau cyfrif y pleidleisiau o fewn pedair awr i ddiwedd y cyfnod pleidleisio, rhaid i chi gyhoeddi a chyflwyno datganiad i'r Comisiwn yn nodi faint o'r gloch y dechreuodd y broses gyfrif, y camau y gwnaethoch eu cymryd i gydymffurfio â'r ddyletswydd a'r rhesymau pam nad oedd y broses o gyfrif y pleidleisiau wedi dechrau erbyn 2am. Rhaid i chi gyhoeddi'r datganiad hefyd, a ddylai gynnwys ei ddarparu ar wefan yr awdurdod lleol.3
Rydym wedi llunio datganiad enghreifftiol ar gyfer y Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) hynny nad ydynt yn dechrau cyfrif o fewn pedair awr i ddiwedd y cyfnod pleidleisio a gallwch ddod o hyd i hwn ar ein tudalen adnoddau ar gyfer yr adran hon4 .
Mae'n bwysig eich bod yn cadw cofnod o'r holl gamau a gymerwyd er mwyn darparu trywydd archwilio sy'n dangos eich proses benderfynu. Os byddwch o'r farn eich bod wedi cymryd pob cam rhesymol ac nad yw cam pellach yn rhesymol, dylech gadw cofnod o'ch proses ystyried a pham eich bod wedi penderfynu na fyddai'n rhesymol. Dylech allu esbonio eich penderfyniadau, a dylech fod yn barod i wneud hynny mewn ymateb i ymholiadau. Dylai'r datganiad gynnwys y canlynol:
- enw'r etholaeth
- enw'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol)
- y dyddiad a'r amser (ar ffurf 24 awr, e.e. 03:45) y dechreuwyd cyfrif y pleidleisiau a roddwyd ar y papurau pleidleisio
- disgrifiad o'r camau a gymerwyd i sicrhau bod y pleidleisiau wedi dechrau cael eu cyfrif o fewn pedair awr i ddiwedd y cyfnod pleidleisio
- Esboniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) pam na wnaeth y broses o gyfrif y pleidleisiau ddechrau am 2am
Dylech anfon datganiadau at dîm lleol y Comisiwn, dros e-bost yn ddelfrydol, a rhaid eu hanfon o fewn 30 diwrnod calendr i ddatgan y canlyniad.
Mae'n ofynnol, yn ôl y gyfraith, i ni gyhoeddi ein hadroddiad statudol ar yr etholiad a rhestr o'r holl etholaethau lle na ddechreuodd y broses gyfrif o fewn yr amserlen a bennwyd.
- 1. Atodlen 1 rheol 45(3A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Paragraff 22 (1AB) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cyfuno Etholiadau) (Cymru a Lloegr) 2004 (“Rheolau Cyfuno Etholiadau”) ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 rheol 53ZA Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1 rheol 45(8) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Cyfrif y pleidleisiau
Dylech agor pob blwch gan sicrhau y gall unrhyw asiantiaid sy'n bresennol weld yn glir. Pan fydd asiant wedi atodi sêl i flwch, dylech gymryd gofal mawr i ddangos i unrhyw asiantiaid sy'n bresennol fod y sêl hon heb ei thorri cyn iddi gael ei thorri.
Dylai pob proses gyfrif fod yn dryloyw. Dylech hefyd gynnig cyfleoedd priodol i'r rhai sydd â'r hawl i arsylwi a gwrthwynebu dyfarniadau ar bapurau pleidleisio amheus. Dylai hyn gynnwys sicrhau eich bod yn storio bwndeli o bapurau pleidleisio wedi'u cyfrif yng ngolwg asiantiaid cyfrif er mwyn eu galluogi i fonitro cynnydd drwy gydol y broses gyfrif.
Cymysgu
Rhaid i chi gymysgu'r papurau pleidleisio er mwyn sicrhau bod papurau pleidleisio o bob blwch pleidleisio wedi'u cymysgu â phapurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall o leiaf, a chymysgu'r papurau pleidleisio post â phapurau pleidleisio o un blwch pleidleisio arall o leiaf cyn didoli a chyfrif y pleidleisiau1 .
Didoli a chyfrif
Rhaid i bapurau pleidleisio wynebu i fyny drwy gydol y broses gyfrif er mwyn atal unrhyw un rhag gweld y rhif a'r marc adnabod unigryw arall ar gefn y papur pleidleisio. Dylai'r papurau pleidleisio fod yn weladwy drwy'r amser i unrhyw ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr sy'n bresennol.2
Dylai cynorthwywyr cyfrif ddidoli'r papurau pleidleisio yn bleidleisiau ar gyfer pob ymgeisydd. Dylai unrhyw bapurau pleidleisio amheus gael eu rhoi o'r neilltu er mwyn dyfarnu yn eu cylch.
Dylid cyfrif nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd a'u rhoi mewn bwndeli o nifer rhagnodedig, e.e. bwndeli o 20, 25, 50 neu 100.
Dylent atodi slip ag enw'r ymgeisydd arno, ynghyd â nifer y papurau pleidleisio yn y bwndel, ar y blaen. Efallai y byddai lliwiau gwahanol ar gyfer y slipiau yn ddefnyddiol. Yna dylai'r bwndeli gael eu hailgyfrif gan gynorthwyydd cyfrif arall er mwyn sicrhau cywirdeb y bwndel.
Dylai goruchwylwyr fwrw golwg dros y bwndeli er mwyn sicrhau bod yr holl bleidleisiau yn y bwndel wedi'u marcio yn yr un ffordd cyn mynd ag unrhyw fwndeli oddi wrth y staff cyfrif.
Mae'n annhebygol y bydd nifer y pleidleisiau yn y bwndel olaf yn hafal i nifer rhagnodedig y bwndel, ac felly dylech wneud nodyn o nifer y pleidleisiau yn y bwndeli anghyflawn hynny a'i atodi ar flaen y bwndel.
Dylech roi unrhyw bapurau pleidleisio amheus o'r neilltu er mwyn dyfarnu yn eu cylch.
- 1. Atodlen 1 rheol 45(1A) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 rheol 45(4)Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Papurau pleidleisio amheus
Dylech ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus yn rheolaidd wrth i'r cyfrif fynd rhagddo: ni ddylid gadael hyn tan ddiwedd y broses gyfrif.
Dylech ystyried llyfryn y Comisiwn ar bapurau pleidleisio amheus , a ddarperir isod, drwy gydol y broses ddyfarnu. Mae'r llyfryn yn cynnwys enghreifftiau o bleidleisiau a ganiateir a phleidleisiau a wrthodir a'r egwyddorion allweddol i'w dilyn wrth ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus, a gellir cael mynediad iddynt o'n tudalen hadnoddau ar gyfer yr adran hon.
Gallwch hefyd ddod o hyd i enghreifftiau o bapurau pleidleisio a ganiateir a phapurau pleidleisio a wrthodir ar y mat bwrdd papurau pleidleisio amheus, y dylech ei arddangos yn y cyfrif er mwyn i ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr gyfeirio ato.
Dyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus
Wrth ddyfarnu ynglŷn â phapurau pleidleisio amheus, dylech wneud y canlynol:
- byddwch yn glir ac yn gyson bob amser
- cymerwch amser i sicrhau y gwneir penderfyniad ystyriol ym mhob achos
- penderfynwch a yw bwriad y pleidleisiwr yn ymddangos yn glir ar y papur pleidleisio
Fel rhan o hyn, bydd angen i chi:
- ystyried y papur pleidleisio cyfan
- ystyried a yw'r ffordd y cafodd papur pleidleisio ei farcio yn golygu bod pleidlais dros un ymgeisydd yn hollol amlwg.
Mae'r ddeddfwriaeth yn darparu bod yn rhaid i chi wrthod papur pleidleisio1 :
- nad yw'n cynnwys y marc swyddogol (nid y marc adnabod unigryw)
- pleidlais dros fwy nag un ymgeisydd
- os bydd unrhyw beth wedi'i ysgrifennu neu wedi'i farcio arno sy'n eich galluogi i adnabod y pleidleisiwr (ac eithrio rhif y papur pleidleisio argraffedig neu farc adnabod unigryw arall)
- nad yw wedi'i farcio neu sy'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd
Fodd bynnag, mae'r ddeddfwriaeth yn nodi, oni bai bod modd adnabod y pleidleisiwr oherwydd y ffordd y marciwyd y papur pleidleisio, na chaniateir gwrthod papur pleidleisio os yw bwriad y pleidleisiwr yn amlwg os yw'r bleidlais wedi'i marcio:2
- rywle arall yn hytrach na'r man priodol
- mewn ffordd arall ar wahân i groes
- drwy fwy nag un marc
Yn ogystal, mae'n bosibl y bydd angen ystyried papurau pleidleisio ymhellach o dan yr amgylchiadau canlynol:
- os bydd papur pleidleisio yn cynnwys unrhyw beth anarferol (er enghraifft, ymddengys ei fod wedi'i newid, naill ai â theclyn ysgrifennu cwbl wahanol neu â hylif cywiro)
- os bydd papur pleidleisio wedi'i rwygo neu ei ddifrodi
Gellir derbyn papurau pleidleisio sydd wedi'u rhwygo neu eu difrodi fel pleidlais ddilys ar yr amod bod y papur yn cynnwys y marc swyddogol o hyd a bod bwriad y pleidleisiwr yn glir ac nad yw'r un o'r rhesymau eraill dros wrthod papur pleidleisio yn gymwys.
Cewch ragor o wybodaeth yn ein canllawiau ar sut i ddelio â phapurau pleidleisio wedi'u torri wrth agor pleidleisiau post.
Rhaid i chi benderfynu ynghylch dilysrwydd pob papur pleidleisio amheus ym mhresenoldeb ymgeiswyr, asiantiaid ac arsylwyr.
Rhaid i'r rhai y datganwyd eu bod yn ddilys wedyn gael eu cyfrif a'u cynnwys yng nghyfanswm nifer y pleidleisiau a fwriwyd dros yr ymgeisydd/ymgeiswyr neu'r blaid briodol (fel y bo'n gymwys) yn yr etholiad.
Cofnodi papurau pleidleisio a wrthodwyd
Mae'ch penderfyniad ynglŷn ag unrhyw gwestiwn sy'n codi mewn perthynas â phapur pleidleisio yn derfynol a dim ond drwy ddeiseb etholiadol y gellir ei herio3 .
Rhaid i chi lunio datganiad yn dangos nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd ac am ba reswm. Felly, dylai fod gennych system ar waith drwy gydol y broses ddyfarnu ar gyfer didoli'r papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan y penawdau canlynol4 :
- dim marc swyddogol
- yn pleidleisio dros fwy nag un ymgeisydd
- ysgrifen neu farc sy'n eich galluogi i adnabod y pleidleisiwr
- heb ei farcio neu'n ddi-rym oherwydd ansicrwydd
Dylech ystyried y llyfryn ar bleidleisiau amheus a'r mat bwrdd er mwyn sicrhau y caiff y pleidleisiau a wrthodir eu categoreiddio mewn ffordd gywir a chyson er mwyn eu cofnodi ar y datganiad.
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn rhoi'r gair ‘gwrthodwyd’ ar bob papur pleidleisio a wrthodir a rhaid ychwanegu'r geiriau ‘gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod’ os bydd asiant cyfrif yn gwrthwynebu eich penderfyniad.
Er y dylai fod modd i arsylwyr arsylwi ar y broses hon, yn wahanol i asiantiaid, nid oes ganddynt hawl gyfreithiol i wrthwynebu penderfyniad i wrthod papur pleidleisio5 .
Dylech roi copi o'r datganiad gwrthod yn y pecyn ar gyfer papurau pleidleisio a wrthodwyd.
- 1. Atodlen 1 rheol 47(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 rheol 47(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 rheol 48 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1 rheol 47(4) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Atodlen 1 rheol 47(3) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 5
Cysoni cyfansymiau cyfrif
Ar ôl i'r holl bapurau pleidleisio gael eu didoli ac ar ôl i ddyfarniadau ynglŷn ag unrhyw bleidleisiau amheus gael eu gwneud, gall y dasg allweddol o gysoni ddechrau.
Rhaid i chi gyfrif yr holl fwndeli a'r bwndeli rhannol o bapurau pleidleisio sy'n dangos pleidlais ddilys ar gyfer pob ymgeisydd.
Yna rhaid i chi adio'r cyfanswm ar gyfer pob ymgeisydd at gyfanswm nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd. Dylai'r cyfanswm hwn gyfateb yn union i'r ffigur sy'n rhoi cyfanswm nifer y papurau pleidleisio a gafwyd ar ddiwedd y broses ddilysu.
Os bydd y ddau ffigur yn gyson, dylech fwrw ymlaen â'r broses o ymgynghori â'r ymgeiswyr a'r asiantiaid ynglŷn â'r canlyniad dros dro1 .
Gweithdrefn ar gyfer canlyniadau anghyson
Dylech fod yn fodlon bod y canlyniadau neu'r cyfansymiau (fel y bo'n briodol) yn adlewyrchu'r papurau pleidleisio a gafwyd. Os nad yw'r ffigurau yn gyson, dylech gymryd camau i nodi'r anghysondeb a datrys y broblem, er enghraifft drwy:
- edrych yn y man storio a sicrhewch fod yr holl flychau pleidleisio wedi cael eu hagor a'u bod yn wag
- edrych ar y lloriau a'r arwynebau rhag ofn bod papurau pleidleisio wedi cael eu gollwng yn lleoliad y cyfrif
- edrych eto ar y ffigurau dilysu a'r ymarfer cysoni rhag ofn eu bod yn cynnwys camgymeriadau cyfrifo
- sicrhau eich bod wedi cyfrif am bob papur pleidleisio a wrthodwyd
- sicrhau bod yr holl fwndeli a bwndeli rhannol wedi cael eu cyfrif
- ystyried ailgyfrif y papurau pleidleisio yn y bwndeli
Dylech hefyd wneud unrhyw wiriadau eraill sy'n angenrheidiol, yn eich barn chi.
- 1. Atodlen 1 rheol 45(5) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Canlyniad dros dro ac ailgyfrif
Dylech fod yn fodlon bod nifer y pleidleisiau dros bob ymgeisydd yn gywir cyn bwrw ymlaen â chanlyniad dros dro.
Dylai'r holl brosesau gael eu cynnal o fewn fframwaith mor agored a thryloyw â phosibl sy'n cael ei weithredu drwy amrywiol gamau'r broses gyfrif fel y gall pob ymgeisydd ac asiant ymddiried yn y prosesau a'r canlyniad dros dro a roddir gennych.
Pan fyddwch yn fodlon, dylech hysbysu'r ymgeiswyr a'r asiantiaid etholiad o'r canlyniad dros dro a gofyn am eu cydsyniad i gyhoeddi'r canlyniad1 . Dylech egluro bod gan yr ymgeiswyr a'r asiantiaid yr hawl i ofyn am ailgyfrif.
Rhaid i chi roi digon o amser i'r ymgeiswyr a'r asiantiaid ystyried y canlyniad dros dro cyn bwrw ymlaen â datgan y canlyniad. Dyma'r adeg y gall unrhyw ymgeisydd neu asiant etholiad wneud cais am i'r pleidleisiau gael eu hailgyfrif neu, ar ôl ailgyfrif, eu hailgyfrif eto2 .
Rhaid i chi ystyried unrhyw gais am ailgyfrif ond yn ôl y gyfraith cewch wrthod y cais os yw'n afresymol, yn eich barn chi.3 Fodd bynnag, cewch ystyried cynnig cyfle i'r ymgeiswyr a'r asiantiaid archwilio'r bwndeli o bapurau pleidleisio fel ffordd o gael sicrwydd bod y canlyniad yn gywir.
Gweithdrefnau ailgyfrif
Os byddwch yn cytuno i ailgyfrif y pleidleisiau, dylech roi gwybod i'r ymgeiswyr a'r asiantiaid sy'n bresennol yn y cyfrif cyn i'r broses ailgyfrif ddechrau a'u briffio ar y prosesau rydych yn bwriadu eu dilyn. Fel yn achos y broses gyfrif wreiddiol, dylech gynnal unrhyw broses ailgyfrif yng ngolwg y rhai sy'n bresennol. Mae gennych hawl i ailystyried pa bapurau pleidleisio y dylid eu gwrthod yn ystod y broses ailgyfrif (neu unrhyw broses ailgyfrif arall).
Rhaid i chi ymgynghori â'r ymgeiswyr a'r asiantiaid ynglŷn â'r canlyniad dros dro diwygiedig yn yr un modd ag yr ymgynghorwyd â hwy ynglŷn â'r canlyniad dros dro ar ôl i'r cyfrif cyntaf ddod i ben4 .
Mae modd cynnal mwy nag un broses ailgyfrif. Unwaith eto, rhaid i chi ystyried unrhyw gais am ailgyfrif a chewch wrthod y cais os yw'n afresymol, yn eich barn chi.
- 1. Atodlen 1 rheol 46 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 rheol 46(2) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Atodlen 1 rheol 46(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Atodlen 1 rheol 46 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Pleidleisiau cyfartal
Pan fydd gan ddau ymgeisydd neu fwy yr un nifer o bleidleisiau, a lle byddai ychwanegu pleidlais yn caniatáu datgan bod unrhyw un o'r ymgeiswyr hynny wedi'i ethol, rhaid i chi benderfynu rhwng yr ymgeiswyr drwy dynnu enwau ar hap.1
Ystyrir bod pa ymgeisydd bynnag a ddewisir ar hap wedi cael pleidlais ychwanegol sy'n ei gwneud yn bosibl datgan ei fod wedi'i ethol.
Os bydd ymgeisydd eisoes wedi'i ethol â mwyafrif, nid oes angen i chi dynnu enwau ar hap er mwyn cysoni pleidleisiau cyfartal rhwng ymgeiswyr eraill sy'n is i lawr y rhestr o ganlyniadau.
Chi fydd yn penderfynu ar y dull o dynnu enwau ar hap. Mae'r enghreifftiau o brosesau tynnu enwau ar hap yn cynnwys y canlynol:
- caiff papurau pleidleisio, y bydd pob un ohonynt wedi'i farcio â phleidlais ar gyfer un o'r ymgeiswyr sydd â'r un nifer o bleidleisiau, eu gosod mewn cynhwysydd, megis blwch pleidleisio gwag a'u cymysgu, yna caiff un ei dynnu gennych chi
- caiff slipiau o bapur ag enwau'r ymgeiswyr arnynt eu gosod mewn amlenni wedi'u selio a'u cymysgu, yna caiff un ei dynnu gennych chi
Dylech wneud cyhoeddiad eich bod yn bwriadu mynd ati i dynnu enwau ar hap rhwng yr ymgeiswyr sydd â nifer cyfartal o bleidleisiau, gan egluro'n union beth sydd ar fin digwydd a'r dull a ddefnyddir.
Dylai ymgeiswyr, asiantiaid, cynrychiolwyr y Comisiwn ac arsylwyr achrededig fod yn bresennol yn ystod unrhyw waith paratoi ac yn ystod y broses o dynnu enwau ar hap.
Er enghraifft, os byddwch yn defnyddio'r dull cyntaf a ddisgrifir uchod, dylech fynd ati, yng ngolwg unrhyw ymgeiswyr ac asiantiaid, ac ym mhresenoldeb cynrychiolwyr y Comisiwn ac arsylwyr achrededig, i blygu papur pleidleisio a gyfrifwyd yn flaenorol ar gyfer pob un o'r ymgeiswyr sydd â'r un nifer o bleidleisiau, a'i roi mewn blwch pleidleisio gwag.
Dylai cynorthwyydd godi'r blwch i uchder lle na allwch weld y papurau y tu mewn i'r blwch, ond lle gallwch roi eich llaw i mewn a thynnu un allan o hyd. Ar ôl cymysgu, dylech dynnu un o'r papurau pleidleisio o'r blwch, ei agor a darllen enw'r ymgeisydd sydd â'r bleidlais wedi'i marcio yn erbyn ei enw yn uchel. Dyfernir wedyn fod yr ymgeisydd hwnnw wedi cael pleidlais ychwanegol.
Dylid gwneud paratoadau tebyg os byddwch yn penderfynu defnyddio unrhyw ddull arall o dynnu enwau ar hap.
Dylid ychwanegu datganiad at daflen y canlyniad, yn nodi:
‘Yn dilyn pleidleisiau cyfartal, tynnwyd enwau ar hap ac, o ganlyniad, rhoddwyd pleidlais ychwanegol i [rhowch enw’r ymgeisydd]’
- 1. Atodlen 1 rheol 49 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
Datgan y canlyniad
Rhaid i chi baratoi datganiad yn nodi enw pob ymgeisydd, cyfanswm y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd a nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd a roddwyd o dan bob pennawd.1
Ar ôl i chi baratoi'r datganiad, rhaid i chi ddatgan canlyniad yr etholiad.
Wrth gynllunio ar gyfer datgan canlyniad, dylech wneud y canlynol:
- penderfynu ar yr union fan yn lleoliad y cyfrif lle y dylid cyhoeddi gwybodaeth a gwneud y datganiad a phwy fydd ar y llwyfan ar yr adeg hon
- sicrhau y gall y rhai y mae angen iddynt gyrraedd y llwyfan wneud hynny'n hawdd
- ystyried a allwch ddefnyddio'r byrddau arddangos i gynnig cefndir addas i gyhoeddi'r canlyniadau
- gwirio unrhyw gyfarpar y byddwch yn ei ddefnyddio ar gyfer y cyhoeddiad cyn i'r gweithrediadau ddechrau
- gwirio ddwywaith fod y canlyniad yn gywir, a'i fod wedi'i ysgrifennu ar ffurf geiriau ar gyfer rhoi'r canlyniad ar lafar er mwyn osgoi unrhyw wallau – efallai y bydd angen i chi ailadrodd y datganiad fel y gall y rhai sy'n bresennol glywed y manylion yn glir, yn enwedig os bydd y sawl sy'n bresennol yn swnllyd
- ystyried sut y byddwch yn rhoi copi ysgrifenedig o'r canlyniadau i gynrychiolwyr y cyfryngau sy'n bresennol ar yr adeg y gwneir y cyhoeddiad oherwydd bydd hyn yn eu helpu i sicrhau eu bod yn trosglwyddo'r ffigurau yn gywir
- sicrhau eich bod yn dilyn y gofyniad i hysbysu'r cyhoedd o enw'r ymgeisydd/ymgeiswyr a etholwyd, cyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd a nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd2
Pan fydd ymgeisydd wedi defnyddio’i enw a ddefnyddir yn gyson i sefyll mewn etholiad, dylech ddefnyddio’i enw llawn a’i enw a ddefnyddir yn gyffredin wrth ddatgan y canlyniad er mwyn darparu tryloywder ynghylch yr ymgeiswyr sy’n sefyll etholiad.
Fodd bynnag, nid oes gofyniad cyfreithiol i ddefnyddio’i enw llawn a’i enw a ddefnyddir yn gyffredin, a gallwch benderfynu ar y dull i’w gymryd wrth ddatgan canlyniadau. Pa bynnag ddull a ddilynir, dylech sicrhau eich bod yn ei ddefnyddio’n gyson ar gyfer pob ymgeisydd ac yn ymgymryd ag unrhyw wiriadau ychwanegol sy’n angenrheidiol ar waith papur dilysu a chyfrif er mwyn sicrhau bod enwau’r ymgeiswyr yn ymddangos yn yr un drefn â’r hyn sydd wedi’i nodi ar y papur pleidleisio.
Unwaith y byddwch wedi cyhoeddi'r canlyniad yn y broses gyfrif, bydd yn derfynol ac ni ellir ei newid. Dylech felly sicrhau mai'r canlyniad cywir rydych yn ei ddatgan.
Fodd bynnag, os byddwch yn gwneud camgymeriad wrth gyhoeddi'r canlyniad ar lafar gallwch gywiro hyn, ar yr amod y'i gwneir ar unwaith.
Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar roi hysbysiad o'r canlyniad.
- 1. Atodlen 1 rheol 50 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Atodlen 1 rheol 50 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Adnoddau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) - Dilysu a'r Cyfrif
Ar ôl yr etholiad
Bwriedir i'r canllawiau hyn eich helpu gyda'r gweithgareddau y mae angen i chi eu cwblhau ar ôl datgan y canlyniad.
Maent yn cynnwys canllawiau ar y camau uniongyrchol y mae angen i chi eu cymryd mewn perthynas â rhoi hysbysiad ffurfiol o'r canlyniad a dychwelyd y gwrit, canllawiau i'ch helpu i reoli'r gwaith o storio a chadw dogfennau etholiadol yn ogystal â gwybodaeth am fynediad a chyflenwi.
Rydym wedi cynnwys gwybodaeth gyswllt mewn perthynas â chyfrifyddu ar gyfer yr etholiad, manylion am gasglu ffurflenni gwariant etholiad ymgeiswyr, a'r camau gweithredu gofynnol mewn perthynas â'r broses honno.
Yn olaf, mae'r canllawiau yn cynnwys gwybodaeth am heriau i ganlyniad yr etholiad a'r broses ddeisebu.
Gan fod rhai gwahaniaethau yn rôl y Swyddog Canlyniadau a'r Swyddog Cofrestru Etholiadol rhwng Cymru, Lloegr a'r Alban, tynnir sylw at y rhain fel y bo'n briodol drwy gydol y rhan hon o'r canllawiau.
Rhoi hysbysiad o'r canlyniad
Rhaid i chi hysbysu'r cyhoedd o enw'r ymgeisydd a etholwyd, cyfanswm nifer y pleidleisiau a roddwyd i bob ymgeisydd a nifer y papurau pleidleisio a wrthodwyd o dan bob pennawd.1
Os yw'r ymgeisydd wedi defnyddio ei enw a ddefnyddir yn gyffredin i sefyll etholiad, dylech ddefnyddio ei enw llawn a'r enw a ddefnyddir yn gyffredin wrth ddatgan y canlyniad.
Dylech sicrhau bod yr hysbysiad o'r canlyniadau ar gael i bawb sydd â diddordeb cyn gynted â phosibl, yn cynnwys drwy ei gyhoeddi ar wefan eich awdurdod lleol.
Dychwelyd y gwrit
Ar ôl datgan y canlyniad, rhaid i chi ddychwelyd y gwrit i Glerc y Goron cyn gynted ag y bo modd. Rhaid i'r gwrit gael ei gymeradwyo gydag enw'r ymgeisydd llwyddiannus.2
Dylech sicrhau hyd eithaf eich gwybodaeth bod enw llawn yr aelod, unrhyw deitl a'i gyfeiriad yn cael eu rhoi yn yr arnodiad llawn o'r gwrit
Rhaid i chi, neu'r person rydych wedi dirprwyo hyn iddo, lofnodi'r gwrit a nodi ym mha rinwedd rydych yn gweithredu. Dylid gwneud llungopi o'r gwrit a arnodwyd rhag ofn y caiff ei golli wrth ei drosglwyddo i Glerc y Goron.
Yna dylai'r gwrit a arnodwyd ac a lofnodwyd gael ei ddychwelyd i Glerc y Goron drwy Gyfarwyddwr Gweithrediadau Rhanbarthol y Post Brenhinol y danfonwyd y gwrit drwyddo (neu drwy drefniadau eraill y cytunwyd arnynt).
For more information about the issue, delivery and receipt of the writ see our guidance on the issue and receipt of the writ.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 53 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 51 ↩ Back to content at footnote 2
Ernesau
Dychwelyd ernesau
Rhaid i chi ddychwelyd yr ernes £500 a roddwyd gan neu ar ran ymgeisydd os gwelir bod yr ymgeisydd wedi ennill mwy na 5% o gyfanswm nifer y pleidleisiau dilys a fwriwyd yn yr etholaeth.
Rhaid i chi ddychwelyd yr ernes i'r unigolyn a'i rhoddodd erbyn y diwrnod gwaith nesaf fan bellaf ar ôl i ganlyniad yr etholiad gael ei ddatgan.
Os byddwch yn dychwelyd ernes ar ffurf siec, ystyrir y caiff ei dychwelyd ar y diwrnod y caiff y siec ei phostio.
Ernesau a fforffedwyd
Rhaid i chi beidio â dychwelyd yr ernes os gwelir bod yr ymgeisydd wedi cael nifer o bleidleisiau a oedd yn hafal i 5% o gyfanswm y pleidleisiau dilys a fwriwyd neu'n llai na hynny.1
Yn yr achos hwn, caiff ei ernes ei fforffedu. Rhaid i chi anfon unrhyw ernesau a gollwyd at Ei Mawrhydi. Bydd yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn rhoi rhagor o wybodaeth am y broses hon.2
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 53 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 53(1) ↩ Back to content at footnote 2
Canllaw cryno – Cadw a gwaredu dogfennau etholiadol
Dylech gynnal polisi cadw dogfennau. Dylech sicrhau nad ydych yn cadw dogfennau am fwy o amser na'r hyn a nodir yn eich polisi cadw dogfennau a'u bod yn cael eu dinistrio'n ddiogel ar yr adeg briodol.
Dylai eich polisi cadw dogfennau nodi'r canlynol ar gyfer pob dogfen a gewch ac a gedwir gennych:
- a yw'r ddogfen yn cynnwys data personol
- y sail gyfreithlon dros gasglu unrhyw ddata personol (gweler ‘Sail gyfreithlon dros brosesu’ yn ein canllawiau ar ddiogelu data)
- eich cyfnod cadw
- eich rhesymeg dros y cyfnod cadw
Mewn rhai achosion bydd hyn yn syml gan fod deddfwriaeth etholiadol yn nodi cyfnod penodol o amser i gadw dogfennau. Gallwch ddod o hyd i restr o'r dogfennau hyn yma. Mewn achosion eraill, bydd angen i chi wneud penderfyniad lleol a'i gyfiawnhau yn eich polisi cadw dogfennau.
Mae ein canllawiau ar ddiogelu data yn cynnwys rhagor o wybodaeth am storio data personol a chadw dogfennau.
Dogfennau etholiadol yng Nghymru a Lloegr
Rhaid i chi anfon y dogfennau etholiadol gofynnol at y swyddog cofrestru perthnasol, sydd â chyfrifoldeb cyfreithiol dros eu cadw. Y swyddog cofrestru perthnasol yw Swyddog Cofrestru Etholiadol yr awdurdod lleol yn yr ardal lle mae'r etholaeth wedi'i lleoli.
Os yw’r etholaeth yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, y swyddog cofrestru perthnasol yw Swyddog Cofrestru Etholiadol yr awdurdod lleol sydd â'r nifer uchaf o etholwyr cofrestredig yn yr etholaeth.1
Os nad chi yw'r swyddog cofrestru perthnasol hefyd, rhaid i chi anfon y dogfennau ato'n ddiogel.
Mae'r cyfnod o flwyddyn y mae'n rhaid storio'r dogfennau ar ei gyfer yn dechrau o'r dyddiad y mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn eu derbyn.2
Dylech gysylltu ag ef ar gam cynnar er mwyn rhoi trefniadau ar waith i anfon y dogfennau rhagnodedig ar ôl i'r canlyniadau gael eu datgan. Dylech sicrhau bod yr holl ddogfennaeth yn cael ei chadw'n ddiogel ac y rhoddir cyfrif amdani wrth iddi gael ei hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Rhaid i'r Swyddog Canlyniadau gadw'r dogfennau etholiadol ar gyfer yr etholaeth, neu'r etholaethau, y mae'n gyfrifol amdanynt.
Hysbysiadau etholiad a gyhoeddir ar eich gwefan
Hysbysiadau etholiad a gyhoeddir ar eich gwefan
Bydd angen i chi ystyried a yw'n briodol neu'n angenrheidiol i'r hysbysiadau etholiad amrywiol barhau i gael eu cyhoeddi ar eich gwefan ar ôl i gyfnod deiseb yr etholiad ddod i ben.
Lle mae gan bob hysbysiad ddiben penodol, h.y. nodi pwy fydd yn ymgeisydd yn yr etholiad, unwaith y bydd yr etholiad drosodd, a bod y cyfle i gwestiynu'r etholiad hwnnw wedi darfod, ni fydd ganddo unrhyw ddiben pellach mwyach. Dylech naill ai ddileu hysbysiadau o'r fath a gyhoeddwyd ar eich gwefan, neu ddileu'r data personol sydd ynddynt, pan fydd dyddiad cau deiseb yr etholiad hwnnw wedi mynd heibio.
Mae deddfwriaeth diogelu data yn caniatáu cadw data personol am fwy o amser os caiff y data eu prosesu at ddibenion archifo er budd y cyhoedd yn unig, neu at ddibenion gwyddonol, hanesyddol neu ystadegol ac yn amodol ar weithredu mesurau diogelu priodol. Ar gyfer canlyniadau etholiad, er enghraifft, dylech gadw'r rhain ar eich gwefan gan eu bod o ddiddordeb i'r cyhoedd ac at ddibenion hanesyddol ac ystadegol.
Ffurflenni cyfeiriad cartref
Rhaid i ffurflenni cyfeiriad cartref gael eu storio'n ddiogel am gyfnod o 21 diwrnod calendr ar ôl i chi ddychwelyd y gwrit. Rhaid iddynt gael eu dinistrio yn ddiogel ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y cyfnod 21 diwrnod.
Os cyflwynir deiseb etholiadol yn ymwneud â'r etholiad o fewn y 21 diwrnod calendr, rhaid i'r ffurflenni cyfeiriad cartref gael eu cadw'n ddiogel nes bod gweithrediadau'r ddeiseb yn cael eu cwblhau (gan gynnwys unrhyw apêl sy'n deillio o'r gweithrediadau hynny). Yna rhaid iddynt gael eu dinistrio'n ddiogel y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i'r gweithrediadau neu'r apêl ddod i ben. 1
Dychwelyd cyfarpar
Dylech wneud trefniadau i ddychwelyd unrhyw gyfarpar, fel blychau pleidleisio gwag, i'w man storio.
Yn ystod y broses hon, dylech archwilio eich cyfarpar, gan nodi unrhyw eitemau sydd wedi'u difrodi er mwyn eu trwsio neu gael gwared arnynt. Bydd hyn yn eich galluogi i gynllunio ar gyfer unrhyw eitemau newydd y gall fod angen i chi eu prynu ar gyfer digwyddiadau pleidleisio yn y dyfodol.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 55(1A) ac a8 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 57(1), Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheol 53A ↩ Back to content at footnote 1
Cyfrifoldeb am selio a chadw dogfennau etholiadol
Mae gennych ddyletswydd gyfreithiol i selio'r dogfennau etholiadol a restrir isod ac, ar ôl gorffen cyfrif y papurau pleidleisio, rhaid i chi eu hanfon at y swyddog cofrestru perthnasol yng Nghymru a Lloegr, neu eu cadw yn yr Alban.1
Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, bydd angen i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol sicrhau bod ganddo ddull o gofnodi dyddiad derbyn y dogfennau, fel ei fod yn gwybod pryd i ddinistrio'r rhai a anfonwyd ymlaen.
Mae'r rhestrau canlynol yn cynnwys y dogfennau y mae'n rhaid i chi eu hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr, neu eu cadw fel Swyddog Canlyniadau yn yr Alban.
Dogfennau o orsafoedd pleidleisio:2
- Y pecynnau sy'n cynnwys:
- y rhestr o bleidleisiau a gyflwynwyd
- y rhestr o bleidleiswyr ag anableddau a gynorthwywyd gan gymdeithion
- y datganiadau a wnaed gan gymdeithion pleidleiswyr ag anableddau
- y rhestr o bleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu
- y datganiadau yn ymwneud â phleidleisiau a farciwyd gan y Swyddog Llywyddu
- y rhestr o bobl yr anfonir papurau pleidleisio atynt ar ôl i wall clercaidd gael ei gywiro neu o ganlyniad i benderfyniad ar apêl i'r llys sirol
- y Rhestr Wrthod Papurau Pleidleisio
- y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr a thaflen nodiadau'r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
- copïau wedi eu marcio o'r gofrestr etholwyr, y rhestr dirprwyon wedi ei marcio ac unrhyw hysbysiadau copi wedi'u marcio o ganlyniad i gywiro gwall clercaidd neu benderfyniad ar apêl i'r llys perthnasol
- y pecynnau sy'n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol y gorsafoedd pleidleisio wedi'u cwblhau
- tystysgrifau cyflogaeth y rhai ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio
Dogfennau o'r prosesau o ddosbarthu ac agor pleidleisiau post:3
- copïau wedi'u marcio o'r rhestr pleidleiswyr post a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post
- y pecynnau sy'n cynnwys rhestrau rhifau cyfatebol y pleidleisiau post wedi'u cwblhau
- y pecynnau o ddatganiadau pleidleisio drwy'r post a dderbyniwyd fel rhai dilys
- y pecynnau o bleidleisiau post a wrthodwyd
- y pecyn o bleidleisiau post a wrthodwyd a wrthodwyd ar y pwynt y cafodd ei gyflwyno (neu ei adael ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor a'r ffurflenni pleidlais bost wedi'u cwblhau sy'n cyd-fynd â nhw
- y pecynnau o amlenni papurau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd
- y rhestrau o bapurau pleidleisio drwy'r post a ganslwyd, a gollwyd ac a ddifethwyd
- y pecyn o bapurau pleidleisio drwy'r post a ddifethwyd a'r dogfennau ategol
- y pecyn o bapurau pleidleisio drwy'r post a gollwyd a oedd yn cynnwys unrhyw ran o'r pecyn pleidleisio drwy'r post nas collwyd ac a ddychwelwyd atoch cyn i chi anfon un arall yn ei le
- y pecyn o bapurau pleidleisio drwy'r post, datganiadau ac amlenni a ganslwyd
- pecyn ffurflenni trin pleidleisiau post wedi'u cwblhau ar gyfer pleidleisiau post a wrthodwyd a'r pleidleisiau post a wrthodwyd perthnasol
- pecyn ffurflenni trin pleidleisiau post wedi'u llenwi ar gyfer pleidleisiau post a dderbyniwyd
- pecynnau pleidleisio drwy'r post nas agorwyd a dderbyniwyd ar ôl diwedd y cyfnod pleidleisio neu a ddychwelwyd fel rhai nas dosbarthwyd (gellir eu hanfon ar ddyddiad arall yn nes ymlaen)
Rhaid i bob Swyddog Canlyniadau anfon
- y rhestr o bleidleisiau post a wrthodwyd oherwydd cawsant eu trin yn anghywir
- y datganiad o ran papurau pleidleisio drwy'r post
- y rhannau perthnasol o'r rhestr o bleidleisiau post sydd wedi methu'r gwiriadau dynodyddion
- y rhestr yn ymwneud â phleidleisiau post a wrthodwyd pan gawsant eu cyflwyno mewn gorsaf bleidleisio neu yn swyddfeydd y cyngor
Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn defnyddio'r wybodaeth hon i'w alluogi i anfon hysbysiadau gwrthod dynodyddion pleidlais bost at yr etholwyr hynny. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am y broses hon yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru, Lloegr a’r Alban.
Ar yr un pryd dylech hefyd anfon eich cofnod o unrhyw achosion lle rydych yn amau bod trosedd wedi'i chyflawni o bosibl, er mwyn i'r Swyddogion Cofrestru Etholiadol gael gwybod ym mha achosion na ddylent anfon hysbysiad o wrthod dynodydd pleidlais bost.4
I gael rhagor o wybodaeth am gynnwys y rhestrau amrywiol sy'n ymwneud â phleidleisio drwy'r post, gweler ein canllawiau ar Gadw cofnodion am dderbyn ac agor pleidleisiau post
Dogfennau o'r cyfrif:5
- storio papurau pleidleisio ar wahân fel:
- papurau pleidleisio a gyfrifwyd
- papurau pleidleisio a wrthodwyd
- papurau pleidleisio nas defnyddiwyd (rhai cyffredin a rhai a gyflwynwyd) a phapurau pleidleisio a ddifethwyd (a osodir gyda'i gilydd)
- papurau pleidleisio a gyflwynwyd a gafodd eu defnyddio
- cyfrifon papurau pleidleisio, canlyniad dilysu'r cyfrifon papurau pleidleisio a'r datganiad o bapurau pleidleisio a wrthodwyd
- 1. Atodlen 1, Rheol 57, Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. A.1, Rheol 55(1), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 91, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001; Rheoliad 91 a 91A, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 91(1)(a), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 87(6) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Alban) ↩ Back to content at footnote 5
Canllaw cryno – Paratoi dogfennau etholiadol er mwyn eu storio
Gellir dod o hyd i restr lawn o'r dogfennau y mae dyletswydd arnoch i'w hanfon at y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol yng Nghymru a Lloegr, neu eu cadw fel Swyddog Canlyniadau yn yr Alban, yma yn ein canllawiau ar Anfon neu gadw dogfennau etholiadol.
Dylech sicrhau bod y broses becynnu mor dryloyw â phosibl. Dylech gynnal trywydd archwilio clir wrth becynnu'r dogfennau ac (os bydd angen) wrth eu hanfon gan y bydd hyn yn helpu i hwyluso'r broses o adalw dogfennau os bydd unrhyw un yn dymuno archwilio'r dogfennau cyhoeddus.
Dylai'r system pecynnu a labelu a ddefnyddiwch ddarparu dull storio diogel a chefnogi proses adalw amserol.
Gellir sicrhau trywydd archwilio clir a phroses dryloyw drwy wneud y canlynol:
- cynhyrchu labeli clir ar gyfer pob pecyn
- rhaid i chi selio'r holl ddogfennaeth berthnasol mewn pecynnau ar wahân1 a marcio pob pecyn â disgrifiad o'i gynnwys, dyddiad yr etholiad a'r etholiad y mae'n cyfeirio ato2
- Rhaid i'r label hefyd gynnwys enw'r etholaeth a dylai nodi am ba hyd y mae'r pecyn i gael ei gadw a phryd y bydd yn cael ei ddinistrio, oni chyfarwyddir yn wahanol gan orchymyn o Dŷ'r Cyffredin, yr Uchel Lys (Llys y Sesiwn yn yr Alban), Llys y Goron neu lys ynadon)
- dylai'r labeli ar gyfer dogfennau y gall y cyhoedd eu harchwilio a'r labeli ar gyfer dogfennau na all y cyhoedd eu harchwilio fod yn wahanol. Fel gofyniad sylfaenol, dylai'r pecynnau sy'n cynnwys dogfennau na all y cyhoedd eu harchwilio nodi'r ffaith hon3
- sicrhau eich bod wedi ystyried y gwaith o becynnu'r dogfennau wrth gynllunio eich proses dilysu a chyfrif. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gynllunio ar gyfer dilysu.
- ymdrin â chyfarwyddiadau pecynnu fel rhan o'ch hyfforddiant i staff gorsafoedd pleidleisio ac wrth hyfforddi goruchwylwyr pleidleisiau post a chyfrif. Dylai darparu cyfarwyddiadau ysgrifenedig helpu hefyd i leihau'r risg y caiff dogfennau eu pecynnu'n anghywir. Mae templed o ganllaw graffigol ar ddeunyddiau pacio pan fydd gorsafoedd pleidleisio yn cau hefyd ar gael, y gallech ei addasu a'i roi i staff gorsafoedd pleidleisio. Dylai staff hefyd gyfeirio at ein llawlyfr i orsafoedd pleidleisio.
- creu rhestr o'r holl ddogfennau i'w hanfon (pan fydd hynny'n ofynnol). Dylech gadw cofnod o'r holl ddeunyddiau y mae dyletswydd arnoch i'w hanfon at y swyddog cofrestru perthnasol, a sicrhau y rhoddir cyfrif am yr holl eitemau ac y cânt eu dosbarthu'n ddiogel yn unol â gofynion diogelu data.
Templed o ganllaw graffigol ar ddeunyddiau pecynnu ar gyfer diwedd y cyfnod pleidleisio
Yng Nghymru a Lloegr pan fyddwch wedi anfon dogfennau at y Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol, dylech hefyd wneud y canlynol:
- cofnodi nifer y parseli rydych wedi eu hanfon
- cofnodi manylion y Swyddog Cofrestru Etholiadol y cawsant eu hanfon ato
- cael derbynneb gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn cadarnhau bod y parseli wedi cael eu derbyn yn ddiogel
Mae'n bwysig sicrhau y bydd pob pecyn a chynhwysydd sy'n cynnwys dogfennau etholiadol yn cael eu storio'n ddiogel cyn eu trosglwyddo i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol fel na all neb heb awdurdod ymyrryd â hwy.
- 1. Rheol 54 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 55(1) Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 atodlen 1 rheolau 43 a 54 ↩ Back to content at footnote 3
Casglu data ar ôl yr etholiad
Casglu data ac adborth mewn etholiad cyffredinol
Mewn etholiad cyffredinol, byddwn yn gofyn i chi anfon gwybodaeth a data atom mewn perthynas â'r etholiad.
Os ydych wedi dewis casglu data yn yr orsaf bleidleisio sy'n ymwneud â chyflwyno ID pleidleisiwr, mewn is-etholiad nid oes unrhyw ofyniad i rannu'r data hwn â ni.
Bydd ffurflenni ar gyfer casglu gwybodaeth a data, a nodiadau canllaw i'w llenwi, yn ogystal â ffurflen adborth y Comisiwn, yn cael eu dosbarthu ar wahân a byddant hefyd ar gael ar ein gwefan.
Datganiad o ran papurau pleidleisio drwy'r post
Rhaid i chi gwblhau datganiad ar gyfer papurau pleidleisio drwy'r post ar gyfer yr etholaeth.1
Mae'r datganiad yn hanfodol ar gyfer cyfrifo pleidleisiau post ac am sicrhau y gall pleidleiswyr fod yn hyderus y caiff eu pleidlais ei chyfrif yn y ffordd a fwriadwyd ganddynt.
Dylai'r datganiad fod yn rhan o'r trefniadau sydd ar waith gennych i gynnal trywydd archwilio clir o'r prosesau pleidleisiau post a chyfrif.
Dylech gwblhau'r datganiad yn gywir gan ddefnyddio'r ffigurau a gofnodwyd wrth anfon, derbyn, agor a dilysu pleidleisiau post.
Cewch ragor o wybodaeth am gadw cofnodion yn ystod y broses pleidleisio drwy'r post yn ein canllawiau ar Gadw cofnodion am dderbyn ac agor pleidleisiau post.
Ble i anfon y datganiad o ran papurau pleidleisio
Rhaid i chi ddarparu copi o'r datganiad i'r Ysgrifennydd Gwladol a'r Comisiwn Etholiadol. Rhaid i'r datganiad beidio â chael ei ddarparu cyn y degfed diwrnod calendr ar ôl y diwrnod pleidleisio, ond rhaid iddo gyrraedd erbyn y pumed diwrnod calendr ar hugain ar ôl y diwrnod pleidleisio fan bellaf.
Mae'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau yn gweinyddu'r dogfennau a ddychwelwyd ar ran yr Ysgrifennydd Gwladol, a dylai datganiadau gael eu hanfon i [email protected] gan ddefnyddio teitl pwnc ‘[enw'r awdurdod] – Form K1 return for the Secretary of State’.
Dylid anfon y datganiad i’r Comisiwn gan ddefnyddio [email protected] (Yn agor ffenestr newydd)
Ar wahân i’r datganiad statudol ynghylch pleidleisiau post, mae’r Comisiwn yn casglu data ar bleidleisio drwy’r post drwy ein porth ar-lein mewn un cais am ddata ochr yn ochr â data etholiadol perthnasol arall, e.e. y nifer a bleidleisiodd a phleidleisiau a wrthodwyd. Bydd manylion am sut i ddarparu'r wybodaeth hon i ni yn cael eu darparu ym Mwletin Gweinyddu Etholiadol y Comisiwn.
Rhaid i chi hefyd ddarparu copi o'r datganiad wedi'i gwblhau ar yr un pryd ac i'r un person ag y byddwch yn anfon y dogfennau etholiad eraill a restrir yn ein canllawiau: Anfon dogfennau etholiadol ymlaen neu eu cadw
Ffurflen gwerthuso ID Pleidleisiwr
Mae'n ofynnol i chi gasglu data mewn gorsafoedd pleidleisio sy'n ymwneud â gweithredu'r mesurau ID pleidleisiwr newydd yn etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU.
Efallai mai dim ond oherwydd cyfyngiadau deddfwriaethol penodol y caiff rhywfaint o’r data hwn ei rannu â Llywodraeth y DU a’r Comisiwn Etholiadol, ond efallai y caiff rhai eu rhannu’n ehangach.
Yng Nghymru a Lloegr, mae'r Swyddog Cofrestru Etholiadol yn gyfrifol am anfon y data a gasglwyd o'r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr i'r Ysgrifennydd Gwladol ac i'r Comisiwn Etholiadol, os gofynnir amdano.2
I gael rhagor o wybodaeth am goladu a chyflenwi’r data hwn, gweler ein canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr.
Yn yr Alban, mae'r Swyddog Canlyniadau yn gyfrifol am anfon y data a gasglwyd o'r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr ymlaen i'r Ysgrifennydd Gwladol ac i'r Comisiwn Etholiadol, os gofynnir amdano. I gael rhagor o wybodaeth am goladu a chyflenwi’r data hwn, gweler ein canllawiau ar Ddatgelu rhestrau gwrthod papurau pleidleisio a ffurflenni gwerthuso ID pleidleisiwr.
- 1. Rheoliad 91, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001; Rheoliad 91A, a Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheol 40B (6) a (7) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 2
Canllaw cryno – Mynediad at ddogfennau etholiadol, eu cyflenwi a'u harchwilio ar ôl etholiad
Rydym wedi llunio canllawiau ar gyflenwi a chael mynediad at gofrestrau wedi'u marcio a dogfennaeth etholiadol arall, yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr ac mewn rhestr wirio mynediad a chyflenwi, y dylid ei defnyddio ochr yn ochr â'r canllawiau hyn.
Yn yr Alban, y Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol am weinyddu'r gwaith o archwilio a chyflenwi cofrestrau wedi'u marcio a rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio, nid y Swyddog Cofrestru Etholiadol. Gellir dod o hyd i ganllawiau penodol ar gyfer yr Alban yn unig ar y tudalennau sy'n dilyn.
I gael manylion am gadw ac archwilio dogfennau ar wariant etholiadol ymgeiswyr, gweler ein canllawiau ar Beth mae angen i chi wneud gyda ffurflenni gwariant.
Ceir canllawiau manwl pellach ar ddeddfwriaeth diogelu data yn ein canllawiau ar ddiogelu data.
Rhestr wirio mynediad a chyflenwi
Canllaw cryno – Dogfennau etholiadol sydd ar gael i'w harchwilio neu eu cyflenwi
Yng Nghymru a Lloegr, y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am weinyddu'r gwaith o archwilio a chyflenwi cofrestrau wedi'u marcio a rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio, nid y Swyddog Canlyniadau. Ceir canllawiau pellach am hyn yn:
- ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru
- ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Lloegr
Yn yr Alban, mae'r Swyddog Canlyniadau yn cadw cyfrifoldeb am y canlynol:
- dogfennaeth etholiadol a gaiff ei harchwilio gan y cyhoedd
- cyflenwi copïau o'r gofrestr etholwyr wedi'i marcio a rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio
- dogfennaeth etholiadol sydd ar gael i'r heddlu a sefydliadau diogelwch
Mae'r tudalennau canlynol yn nodi:
- y mathau o ddogfennau etholiadol sydd ar gael i'w harchwilio neu eu cyflenwi
- pwy sy'n gallu gweld y dogfennau hyn
- sut i gyflwyno ceisiadau i weld y dogfennau hyn
- unrhyw ffioedd cymwys (lle bo hynny'n berthnasol)
Dylech sicrhau bod gennych brosesau ar waith i adalw data a'u dinistrio'n ddiogel ar yr adeg briodol, yn unol â chyfraith etholiadol a'ch polisi cadw dogfennau, a ddylai gynnwys yr egwyddorion diogelu data.
Os byddwch yn cael cais i archwilio unrhyw ddogfennau sy'n cynnwys data personol, er enghraifft y datganiad pleidleisio drwy'r post, rhaid i chi hefyd ystyried a yw archwilio'r datganiad wedi'i gwblhau gan yr unigolyn hwnnw yn dod o dan gylch gwaith ei sail ar gyfer prosesu cyfreithlon.
Fel mesur diogelu data, gall hefyd fod yn gymesur golygu rhywfaint o ddata personol, er enghraifft y dyddiad geni neu'r llofnod, cyn caniatáu i ddogfennau o'r fath gael eu harchwilio.
Canllaw cryno - Dogfennaeth etholiadol a gaiff ei harchwilio gan y cyhoedd yn yr Alban
Gall unrhyw un archwilio'r gofrestr wedi'i marcio ac unrhyw hysbysiadau sy'n ei newid, yn ogystal â chopïau wedi'u marcio o'r rhestr pleidleiswyr post, y rhestr dirprwyon a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, a'r cyfryw ddogfennau eraill sy'n gysylltiedig ag etholiad y mae'n ofynnol i chi eu cadw, ac eithrio papurau pleidleisio, rhestrau rhifau cyfatebol wedi'u cwblhau, tystysgrifau cyflogaeth y rhai ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio, a'r rhestrau o bapurau pleidleisio a wrthodwyd o dan y weithdrefn ddilysu.1
Rhaid i unrhyw un sydd am archwilio'r gofrestr wedi'i marcio neu'r rhestr pleidleiswyr absennol wedi'i marcio wneud cais yn ysgrifenedig, gan nodi'r canlynol:2
- pa gofrestr neu ddogfen y mae am ei harchwilio
- a yw am archwilio copi argraffedig neu gopi data (lle y bo'n briodol)
- at ba ddiben y defnyddir unrhyw wybodaeth
- pan fydd y cais yn ymwneud â'r gofrestr wedi'i marcio neu'r rhestrau wedi'u marcio, y rheswm pam na fyddai archwilio'r gofrestr lawn neu'r rhestrau heb eu marcio yn ddigon i fodloni'r diben hwnnw
- pwy fydd yn archwilio'r dogfennau
- ar ba ddyddiad yr hoffai archwilio'r dogfennau
Gallwch wrthod caniatáu i'r dogfennau hyn gael eu harchwilio os byddwch yn fodlon y gellir bodloni dibenion y sawl sy'n gwneud cais drwy archwilio'r gofrestr lawn. Mewn achos o'r fath, rhaid i chi hysbysu'r sawl sy'n gwneud cais am y penderfyniad hwn a rhoi gwybodaeth iddo am argaeledd y gofrestr lawn i'w harchwilio.3
Fel arall, rhaid sicrhau bod y dogfennau ar gael o fewn 10 diwrnod i gael y cais. Rhaid i chi drefnu iddynt gael eu harchwilio dan oruchwyliaeth. Gall yr archwiliad ddigwydd yn unrhyw le a fynnoch.4
Gall y rhai sy'n archwilio'r dogfennau wneud copïau o'r cofrestrau a'r rhestrau gan ddefnyddio nodiadau ysgrifenedig yn unig.5
Ni chaiff unrhyw un ddefnyddio gliniaduron nac offer recordio arall heblaw am yr heddlu a sefydliadau diogelwch a restrir yn ein canllawiau ar Ddogfennaeth etholiadol sydd ar gael i'r heddlu a sefydliadau diogelwch yn yr Alban.
Ni ellir gwneud copïau o unrhyw ddogfennaeth etholiadol arall sydd ar gael i'w harchwilio ar unrhyw ffurf.
Mae'r un mesurau diogelu yn gymwys i oruchwylio a diogelu'r wybodaeth ag sy'n gymwys i archwilio'r gofrestr lawn.
- unrhyw ddibenion GDPR yn erthygl 89
- dibenion etholiadol
- 1. Rheoliad 118(1) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 118(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Regulation 118(4) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Regulation 118(3) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Regulation 118(7) RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 5
Datgelu rhestrau gwrthod papurau pleidleisio a ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr yn yr Alban
Rhestrau gwrthod papurau pleidleisio
Chi sy'n gyfrifol am ymdrin â cheisiadau i ddatgelu gwybodaeth o’r rhestrau gwrthod papurau pleidleisio. Dim ond i'r etholwr, y gwrthodwyd ei bapur pleidleisio, neu yn achos dirprwy y gwrthodwyd papur pleidleisio iddo, y person sy'n gweithredu fel dirprwy neu'r etholwr yr oedd yn gweithredu fel dirprwy ar ei ran, y cewch ddatgelu gwybodaeth o’r rhestrau gwrthod papurau pleidleisio.1
Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
Chi sy'n gyfrifol am y ffurflenni gwerthuso ID pleidleisiwr a thaflenni nodiadau'r ffurflenni gwerthuso ID pleidleisiwr. Yn etholiad nesaf Senedd y DU, bydd yn ofynnol yn ôl y gyfraith i staff gorsafoedd pleidleisio gasglu data trwy gydol y diwrnod pleidleisio mewn perthynas â gwirio ID ffotograffig a chynorthwyo â'r gwaith gwerthuso o ran sut mae'r gofynion ID yn gweithio'n ymarferol.
Yn ogystal, er nad yw'n ofynnol yn gyfreithiol i wneud hynny, gall Swyddogion Canlyniadau benderfynu casglu data mewn unrhyw is-etholiad Senedd y DU neu ddeiseb adalw mewn perthynas â gwirio ID ffotograffig.
Yn y ddau achos, a chyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl derbyn ffurflenni gwerthuso ID pleidleisiwr y gorsafoedd pleidleisio, rhaid i chi wneud y data sydd arnynt yn ddienw (er enghraifft, trwy ddinistrio unrhyw daflenni nodiadau sy'n gysylltiedig â'r ffurflenni gwerthuso ID pleidleisiwr, neu drwy ddileu unrhyw fanylion etholwr a gofnodwyd ar y ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr at ddiben casglu unrhyw ddata gofynnol).2
Casglu data statudol yn etholiad cyffredinol nesaf Senedd y DU
Er mwyn casglu gwybodaeth ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr yn statudol, rhaid i’r data a gesglir gael ei goladu i ddau grŵp ar wahân:
- un grŵp yn darparu cyfanswm ffigurau ar gyfer pob gorsaf bleidleisio lle rhoddwyd esboniad i bleidleiswyr o’r gofyniad ID ffotograffig cyn iddynt wneud cais am bapur pleidleisio (e.e. lle penodwyd staff i gyfarch pleidleiswyr ac egluro’r gofynion wrth iddynt fynd i mewn i’r orsaf bleidleisio)
- un grŵp yn darparu cyfanswm ffigurau ar gyfer pob gorsaf bleidleisio lle na chafodd pleidleiswyr esboniad o'r gofyniad ID ffotograffig
I grynhoi, mae’r ddwy set hon o ddata y mae’n rhaid eu choladu ac na ddylid eu cyhoeddi na’u rhannu fel arall fel a ganlyn:
Lle defnyddir ‘cyfarchwyr’: | Lle na ddefnyddir ‘cyfarchwyr’: |
---|---|
|
|
Nid yw’r data dienw, wedi’i goladu o ffurflenni gwerthuso ID pleidleisiwr y gorsafoedd pleidleisio yn agored i’w harchwilio, a rhaid i chi beidio â datgelu’r wybodaeth hon i unrhyw un ar wahân i’r ddyletswydd statudol i rannu gwybodaeth â’r Ysgrifennydd Gwladol a’r Comisiwn Etholiadol (os gofynnir i chi wneud hynny).3
Yn dilyn etholiad Senedd y DU byddwn yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf i chi am y broses ar gyfer darparu'r wybodaeth ofynnol yn ddienw ac wedi'i choladu i'r Comisiwn Etholiadol trwy ein Bwletin.
Rhaid cadw ffurflenni gwerthuso ID pleidleisiwr yr orsaf bleidleisio am 10 mlynedd, mewn fformat dienw.4 I gyflawni hyn, rhaid i chi sicrhau bod unrhyw daflenni nodiadau sy’n gysylltiedig â ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr yn cael eu dinistrio, neu eich bod wedi dileu unrhyw fanylion etholwr a gofnodwyd ar y ffurflen gwerthuso ID pleidleisiwr at ddiben coladu unrhyw ddata gofynnol.
Yn ogystal, efallai y cewch geisiadau i ryddhau'r data am weithrediad y gofyniad ID pleidleisiwr. Er mwyn rheoli disgwyliadau, dylech ei gwneud yn glir cyn y diwrnod pleidleisio pa wybodaeth rydych yn bwriadu ei rhyddhau, pryd a sut.
Er mwyn helpu i fynd i'r afael â cheisiadau o'r fath, dylech hefyd gynllunio i sicrhau bod data pennawd ar gael ar gyfer yr etholaeth. Dylai hyn gynnwys y ddau ffigur a ganlyn:
- Nifer yr etholwyr gorsafoedd pleidleisio a ymgeisiodd am bapur pleidleisio, ond na roddwyd iddynt (a gyfrifir fel cyfanswm y data a gofnodwyd yn adran 3a ar y ffurflenni gwerthuso ID pleidleisiwr); a
- Nifer yr etholwyr gorsafoedd pleidleisio na roddwyd papur pleidleisio iddynt ac a ddychwelodd yn ddiweddarach gydag ID derbyniol ac y rhoddwyd papur pleidleisio iddynt (a gyfrifir fel cyfanswm y data a gofnodwyd yn adran 3b ar y ffurflenni gwerthuso ID pleidleisiwr)
Nid yw'r ffigurau hyn yn rhan o'r wybodaeth a gasglwyd na ddylid ei chyhoeddi na'i rhannu fel arall. Mae hyn oherwydd nad ydynt yn nodi'r categorïau unigol o wybodaeth a nodir yn y tabl uchod ac nad ydynt wedi'u rhannu'n ddau grŵp.
Dylech sicrhau bod y data hwn yn cael ei gyflwyno'n glir a chyda gwybodaeth gyd-destunol briodol. Dylai hyn gynnwys cyfanswm nifer yr etholwyr a oedd yn gymwys i bleidleisio'n bersonol mewn gorsafoedd pleidleisio, a nifer y pleidleiswyr y rhoddwyd papurau pleidleisio iddynt mewn gorsafoedd pleidleisio.
Dylai ymateb mewn da bryd i geisiadau rhesymol am wybodaeth nad yw wedi'i diogelu rhag cael ei datgelu helpu i gefnogi hyder y cyhoedd a rhanddeiliaid wrth gynnal yr etholiad ac yn eich rôl fel Swyddog Canlyniadau a/neu Swyddog Cofrestru Etholiadol.
Gallai gwrthod darparu gwybodaeth nad yw wedi’i diogelu rhag ei datgelu roi’r argraff nad yw’r broses yn dryloyw, yn enwedig os yw Swyddogion Canlyniadau neu Swyddogion Cofrestru Etholiadol eraill yn sicrhau bod yr un wybodaeth ar gael.
Gallai dull cyson o ddarparu data helpu i leihau effaith nifer fawr o geisiadau sy’n gwrthdaro a gallai hefyd leihau’r risg o bwysau ar Swyddogion Canlyniadau/Swyddogion Cofrestru Etholiadol unigol i ryddhau data anghywir neu anghynrychioliadol.
Etholiadau Eraill – Casglu a datgelu data
Mewn etholiadau eraill, megis is-etholiadau neu etholiadau llywodraeth leol, gall y Swyddog Canlyniadau ofyn i Swyddogion Llywyddu gasglu data ffurflenni gwerthuso ID pleidleisiwr.
Yn yr achos hwn, gan nad yw'n ofyniad cyfreithiol i gasglu'r wybodaeth hon yn yr etholiadau hyn, nid oes yr un cyfyngiadau ar gyhoeddi data.
Os byddwch yn derbyn ceisiadau i ddatgelu data o etholiadau o’r fath, dylech ystyried sut i ymateb i’r cais am wybodaeth:
Dylech sicrhau:
- bod y data a gesglir yn cael ei wneud yn ddienw cyn gynted ag y bo’n ymarferol (er enghraifft, trwy ddinistrio unrhyw daflenni nodiadau cysylltiedig neu drwy ddileu unrhyw fanylion etholwr a gofnodwyd at ddiben coladu unrhyw rai o’r data gofynnol) i sicrhau nad oes unrhyw ddata personol yn cael ei ryddhau
- nad ydych yn rhyddhau unrhyw wybodaeth na ellir ond ei darparu i'r Ysgrifennydd Gwladol neu'r Comisiwn Etholiadol
- nad ydych yn rhyddhau gwybodaeth a gofnodwyd ar y rhestr gwrthod papurau pleidleisio y mae'n rhaid ei selio ac y gellir ond ei datgelu trwy orchymyn llys neu mewn ymateb i gais gan etholwr neu ddirprwy y gwrthodwyd papur pleidleisio iddo bod unrhyw ddata a ddarperir gennych yn gywir ac wedi’i sicrhau’n briodol o ran ansawdd (e.e. gwirio nad yw’r data’n cynnwys unrhyw wallau amlwg, ac nad oes unrhyw wybodaeth ar goll)
- bod unrhyw ddata a ddarperir gennych yn cael ei gyflwyno’n glir a chyda gwybodaeth gyd-destunol briodol, fel ei fod yn llai tebygol o gael ei gamddehongli neu o gamliwio digwyddiadau ar y diwrnod pleidleisio yn anfwriadol.
- Dylech osgoi rhannu gwybodaeth sydd wedi'i chofnodi gan gyfarchwyr mewn gorsafoedd pleidleisio gan ei bod yn annhebygol o roi darlun cywir o brofiad pleidleiswyr a gallai fod yn gamarweiniol.
Dylech hefyd sicrhau bod yr hysbysiad preifatrwydd perthnasol yn ei gwneud yn glir y gallai data personol gael ei brosesu at y diben hwn, er na fydd unrhyw ddata adnabod personol yn cael ei gyhoeddi.
- 1. Rheoliad 32 Rheoliadau ID Pleidleisiwr 2022 (Rheoliadau ID Pleidleisiwr 2022) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 35(2) Rheoliadau ID Pleidleisiwr 2022 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheol 40B(5) a (6) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheol 40B(7) Atodlen 1 Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 ↩ Back to content at footnote 4
Canllaw cryno – Cyflenwi copïau o'r gofrestr etholwyr wedi'i marcio a rhestrau pleidleiswyr absennol wedi'u marcio yn yr Alban
Os gwneir cais amdanynt, rhaid darparu rhannau perthnasol o'r copi wedi'i farcio o'r gofrestr etholwyr ac unrhyw hysbysiadau sy'n ei newid, yn ogystal â'r copïau wedi'u marcio o'r rhestr pleidleiswyr post, y rhestr dirprwyon, a'r rhestr dirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post, i unigolion penodol, ar ôl iddynt dalu'r ffi ragnodedig.1
Rhaid i'r cais gael ei wneud yn ysgrifenedig, gan nodi'r canlynol:2
- pa rai o'r gofrestr neu'r rhestrau wedi'u marcio (neu'r rhannau perthnasol ohonynt) y gwneir cais amdanynt;
- p'un a ofynnir am gopïau argraffedig neu gopïau data; ac
- at ba ddiben y caiff y data eu defnyddio a'r rheswm pam na fyddai darparu'r data llawn yn ddigon i fodloni'r diben hwnnw
Dim ond at y dibenion canlynol y gellir defnyddio'r gofrestr etholwyr wedi'i marcio a'r rhestrau wedi'u marcio:
- dibenion GDPR yn erthygl 89
- dibenion etholiadol
- dibenion sy'n gymwys o dan y rheoliad sy'n rhoi hawl i'r unigolyn neu'r corff ddefnyddio'r gofrestr lawn o etholwyr
Caiff cost dogfen wedi'i marcio ei rhagnodi. Y ffi ar gyfer copïau data yw £10 yn ogystal â £1 fesul 1,000 o gofnodion neu ran ohonynt, ac ar gyfer copïau wedi'u hargraffu, y ffi yw £10 yn ogystal â £2 fesul 1,000 o gofnodion neu ran ohonynt.3
Rhaid i chi ddarparu’r copïau y gwneir cais amdanynt ar yr amod y caiff y ffi berthnasol ei thalu a’ch bod yn fodlon bod angen i’r sawl sy’n gwneud y cais weld y marciau ar y gofrestr neu’r rhestrau wedi’u marcio er mwyn bodloni’r diben dan sylw.4
Os na fyddwch yn fodlon bod angen i'r ceisydd weld y marciau ar y gofrestr wedi'i marcio neu'r rhestr(au) wedi'i marcio/wedi'u marcio at y diben y gofynnir amdanynt, gall drin y cais fel un am wybodaeth mewn rhestrau heb eu marcio, neu am gopi o'r gofrestr lawn, neu'r ddau.
Pan fyddwch yn darparu’r gofrestr wedi’i marcio, dylech atgoffa’r derbynnydd y dylid dinistrio’r data yn ddiogel pan fydd y diben y darparwyd y gofrestr ar ei gyfer wedi dod i ben.
- 1. Rheoliad 117(1), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Rheoliad 117(3) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Rheoliad 120(2) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 117(4) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 ↩ Back to content at footnote 4
Canllaw cryno - Dogfennaeth etholiadol sydd ar gael i'r heddlu a sefydliadau diogelwch yn yr Alban
Mae gan y Gwasanaeth Diogelwch, Pencadlys Cyfathrebu'r Llywodraeth a'r Gwasanaeth Cudd-wybodaeth yr hawl i gael copi am ddim o unrhyw ddogfen etholiadol sydd ar gael i'w harchwilio, ac unrhyw ddogfen arall sy'n ymwneud â'r etholiad ar gais. Mae gan yr heddlu (gan gynnwys yr Asiantaeth Troseddu Cenedlaethol) yr hawl i gael copïau am ddim o unrhyw un o'r rhain ar gais os byddant wedi'u harchwilio hefyd.1 Mae hyn ac eithrio:
- papurau pleidleisio
- rhestrau rhifau cyfatebol wedi'u cwblhau
- tystysgrifau cyflogaeth y rhai ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio
Rhaid cyflwyno cyfeiriad at y rheoliad perthnasol sy'n rhoi'r hawl i gyflenwi gyda chais i gael gweld y dogfennau hyn.
Ni chodir tâl am gyflenwi'r dogfennau na'u harchwilio.
Dim ond at y dibenion a nodir yn y rheoliad sy'n rhoi hawl i'r corff gael y gofrestr lawn y gellir cyflenwi gwybodaeth.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001, rheoliad 118(8) ↩ Back to content at footnote 1
Canllaw cryno - Dogfennau nad ydynt ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio
Nid yw'r ddogfennaeth ganlynol ar gael i'r cyhoedd ei harchwilio, ac eithrio drwy orchymyn llys:
- papurau pleidleisio
- rhestrau rhifau cyfatebol wedi'u cwblhau
- tystysgrifau cyflogaeth y rhai ar ddyletswydd ar y diwrnod pleidleisio
- y rhestrau o bleidleisiau post a wrthodwyd sydd wedi methu’r gwiriadau dynodydd a’r pleidleisiau post a wrthodwyd ar yr adeg y’i cyflwynwyd (neu y’i gadawyd ar ôl) mewn gorsaf bleidleisio neu i swyddfeydd y cyngor1
- ffurflenni pleidlais bost2
Ni ellir gweld y dogfennau hyn oni bai bod Uchel Lys neu lys sirol yng Nghymru a Lloegr, neu Lys y Sesiwn neu Siryf yn yr Alban, yn fodlon ar sail tystiolaeth ar lw bod angen y mynediad hwnnw am un o'r rhesymau canlynol:
- er mwyn cychwyn neu erlyn achos am drosedd yn ymwneud â phapurau pleidleisio
- at ddibenion deiseb etholiadol
Gall Tŷ'r Cyffredin neu lys etholiadol orchymyn mynediad hefyd.
Nid oes rhaid i'r ceisiadau gael eu gwneud mewn llys agored: gallant gael eu gwneud gan farnwr o'r llys perthnasol mewn llys agored neu fel arall.
Papurau enwebu
Dim ond pobl benodol a all archwilio papurau enwebu nes bod y terfyn amser ar gyfer gwrthwynebiadau wedi mynd heibio, fel y disgrifir yn ein canllawiau ar Bresenoldeb wrth gyflwyno papurau enwebu.
Ni chaiff neb arall archwilio papurau enwebu ar unrhyw adeg. Dim ond i'r rheini sydd â phŵer cyfreithiol i gael dogfennau y gellir cyflenwi papurau enwebu a dim ond y bobl hyn sydd â'r hawl i'w gweld. Gall hyn gynnwys swyddog yr heddlu sy'n defnyddio unrhyw bwerau a all fod ganddo i feddiannu dogfennau, neu orchymyn llys.
Ac eithrio'r ffurflen cyfeiriad cartref, dylech storio'r papurau enwebu'n ddiogel am flwyddyn ar ôl yr etholiad oherwydd y terfyn amser ar gyfer erlyn yn achos deiseb etholiadol. Os bydd achosion cyfreithiol o'r fath yn digwydd neu'n debygol o ddigwydd, dylech gadw'r papurau enwebu nes bod y llys wedi cwblhau ei waith.
Ffurflenni cyfeiriad cartref
Rhaid i chi storio ffurflenni cyfeiriad cartref yn ddiogel am gyfnod o 21 diwrnod calendr ar ôl i chi ddychwelyd y gwrit a rhaid iddynt gael eu dinistrio drwy ddulliau diogel y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y cyfnod 21 diwrnod hwnnw.
Os cyflwynir deiseb etholiadol yn ymwneud â'r etholiad o fewn y 21 diwrnod calendr, rhaid i'r ffurflenni cyfeiriad cartref gael eu cadw'n ddiogel nes bod gweithrediadau'r ddeiseb yn cael eu cwblhau (gan gynnwys unrhyw apêl sy'n deillio o'r gweithrediadau hynny). Yna rhaid i chi eu dinistrio'n ddiogel y diwrnod gwaith nesaf ar ôl i'r gweithrediadau neu'r apêl ddod i ben.
Rhestrau Gwrthod Papurau Pleidleisio
Yng Nghymru a Lloegr, y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am ymdrin â cheisiadau i ddatgelu gwybodaeth o’r Rhestrau Gwrthod Papurau Pleidleisio. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr.
Yn yr Alban, y Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol am ymdrin â cheisiadau i ddatgelu gwybodaeth o’r Rhestrau Gwrthod Papurau Pleidleisio. Dim ond i'r etholwr, y gwrthodwyd ei bapur pleidleisio, neu yn achos dirprwy y gwrthodwyd papur pleidleisio iddo, y person sy'n gweithredu fel dirprwy neu'r etholwr yr oedd yn gweithredu fel dirprwy ar ei ran, y cewch ddatgelu gwybodaeth o’r Rhestrau Gwrthod Papurau Pleidleisio.1
Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr
Yng Nghymru a Lloegr, y Swyddog Cofrestru Etholiadol sy'n gyfrifol am y Ffurflenni Gwerthuso ID Pleidleisiwr a thaflenni nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr. Gellir darllen gwybodaeth am y Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr a thaflen nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr yn y canllawiau ar gyfer Swyddogion Cofrestru Etholiadol yng Nghymru a Lloegr.
Yn yr Alban, y Swyddog Canlyniadau sy'n gyfrifol am y Ffurflenni Gwerthuso ID Pleidleisiwr a thaflenni nodiadau’r Ffurflen Gwerthuso ID Pleidleisiwr I gael rhagor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar yr Archwiliad cyhoeddus o ddogfennaeth etholiadol yn yr Alban.
- 1. Rheoliad 118(1)(iv) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Allban)↩ Back to content at footnote 1 a b
- 2. Rheoliad 118(1)(v) Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 2001 (Cymru a Lloegr)(Yr Allban) ↩ Back to content at footnote 2
Canllaw cryno - Ceisiadau Rhyddid Gwybodaeth
Ar ôl yr etholiad, efallai y cewch geisiadau o dan Ddeddf Rhyddid Gwybodaeth 2000. O dan y Ddeddf hon, nid awdurdod cyhoeddus yw Swyddogion Canlyniadau na Swyddogion Cofrestru Etholiadol ac, fel y cyfryw, maent wedi'u heithrio rhag y gofynion datgelu a osodir ganddi.1
Fodd bynnag, lle y bo'n bosibl, dylai Swyddogion Canlyniadau a Swyddogion Cofrestru Etholiadol ddatgelu'r wybodaeth y gofynnwyd amdani, ar yr amod bod y wybodaeth hon eisoes ar gael i'r cyhoedd, neu ar yr amod nad yw'r wybodaeth y gofynnwyd amdani yn cynnwys data personol. Enghraifft o ddata nad yw'n bersonol fyddai data ystadegol yn dangos cyfanswm nifer yr etholwyr a gofrestrwyd yn eich ardal neu nifer y pleidleiswyr post.
- 1. Deddf Rhyddid Gwybodaeth 2000 a3 ↩ Back to content at footnote 1
Cyfrifyddu ar gyfer yr etholiad
Ariennir etholiadau Senedd y DU gan Lywodraeth y DU a chaiff hawliadau am ffioedd a thaliadau eu gweinyddu drwy'r Uned Hawliadau Etholiadau, sy'n rhan o'r Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau. Darperir canllawiau a chyfarwyddiadau manwl ynglŷn â chyfrifyddu ar gyfer yr etholiad gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau.
Mae manylion cyswllt yr Uned Hawliadau Etholiadau fel a ganlyn:
Electoral Claims Unit, DLUHC
Second Floor, Rosebery Court
St Andrews Business Park
Central Avenue
Norwich
NR7 0HS
E-bostiwch [email protected] i gael rhagor o wybodaeth.
Talu credydwyr
Dylech gadw derbynebau, archebion prynu ac anfonebau a gafwyd cyn a thrwy gydol cyfnod yr etholiad ar gyfer pob gwasanaeth/gwaith a ddarparwyd, a thalu pob credydwr cyn gynted â phosibl ar ôl yr etholiad.
Talu ffioedd i staff
Treth incwm
O dan reolau treth rhaid i'r holl staff sy'n gweithio'n uniongyrchol i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) gwblhau rhestr wirio safonol i ddechreuwyr, a gyhoeddir ar yr adeg penodi. Dim ond unwaith y mae'n rhaid ei chwblhau yn hytrach na'i hadolygu bob blwyddyn. Bydd angen i chi roi ffurflen P60 i'r cyflogai ar ddiwedd y flwyddyn dreth.
Os byddwch yn terfynu contract unrhyw aelod o'ch staff achlysurol yn dilyn yr etholiad ac yn rhoi P45 iddo/iddi, yna bydd angen i unrhyw staff achlysurol sy'n dychwelyd i weithio mewn etholiadau yn y dyfodol gwblhau rhestr wirio safonol newydd i ddechreuwyr ym mhob etholiad newydd.
Gwybodaeth amser real CThEM
Bydd pob taliad etholiad a wneir yn ddarostyngedig i system taliadau treth gwybodaeth amser real CThEM. Dylech sicrhau eich bod yn cysylltu ag adrannau cyllid ac adnoddau dynol eich awdurdod lleol er mwyn sicrhau y gallwch gydymffurfio â'r rheolau treth ar gyfer pob un o'ch cyflogeion, gan gynnwys unrhyw staff dros dro a staff contract tymor byr. Ceir canllawiau pellach gan CThEM.
Cofrestru'n awtomatig mewn pensiwn yn y gweithle
Rhaid i bob cyflogwr sydd â staff sy'n gweithio yn y DU gydymffurfio â'r gofynion o ran cofrestru'n awtomatig. Ceir canllawiau pellach gan y Rheoleiddiwr Pensiynau.
Gwariant etholiadol ymgeiswyr
Yn ôl y gyfraith, mae'n ofynnol i'r Comisiwn Etholiadol fonitro cydymffurfiaeth â'r rheolau ar gyfer gwariant a rhoddion ymgeiswyr mewn etholiadau.
Mae deddfwriaeth yn gosod terfynau ar wariant ymgeiswyr ac yn pennu terfynau amser penodol ar gyfer cyflwyno gwybodaeth am wariant. Rhaid i bob asiant etholiad gyflwyno ffurflen gwariant ymgeisydd i chi, ynghyd ag anfonebau a derbynebau perthnasol, o fewn 35 diwrnod calendr i ddatgan canlyniad yr etholiad (oni fydd diwrnod olaf y cyfnod ar benwythnos neu ŵyl y banc, ac os felly bydd y diwrnod olaf yn symud i'r diwrnod gwaith nesaf).1
Mae hyn yn golygu os gwnaethoch ddatgan canlyniad ddydd Gwener 6 Mai, er enghraifft, y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno'r ffurflen gwariant fyddai dydd Gwener, 10 Mehefin.
Rhaid cyflwyno ffurflen wariant hyd yn oed os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad.2
Mae'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol hefyd i asiantiaid etholiad ac ymgeiswyr gyflwyno datganiadau ar wahân yn cadarnhau bod ffurflen gwariant etholiad yr ymgeisydd yn gyflawn ac yn gywir. Rhaid i ddatganiad yr asiant etholiad gael ei anfon ar y cyd â'r ffurflen gwariant lawn. Rhaid i ddatganiad yr ymgeisydd gael ei gyflwyno o fewn saith diwrnod gwaith ar ôl i'r asiant etholiad gyflwyno'r ffurflen gwariant lawn.
Fodd bynnag, os yw'r ymgeisydd allan o'r DU pan gyflwynir y ffurflen i chi, rhaid iddo wneud y datganiad o fewn 14 diwrnod calendr i ddychwelyd i'r DU (oni fydd diwrnod olaf y cyfnod ar benwythnos neu ŵyl y banc, ac os felly bydd y diwrnod olaf yn symud i'r diwrnod gwaith nesaf).
Er mwyn cadw trywydd archwilio clir, dylech sicrhau bod y dyddiad yn cael ei stampio ar unrhyw ddogfennaeth sy'n ymwneud â ffurflen gwariant ymgeisydd, gan gynnwys datganiad yr asiant etholiad, pan gânt eu derbyn.
Sut y gellir cyflwyno ffurflenni gwariant
Chi sydd i benderfynu sut y gall ymgeiswyr gyflwyno eu treuliau, naill ai fel copïau caled, trwy e-bost neu'r ddau. Wrth benderfynu hyn dylech sicrhau eich bod:
- Yn rhoi gwybod i bob ymgeisydd ac asiant am y broses ymlaen llaw
- Bod pob ymgeisydd ac asiant yn cael eu trin yn deg ac yn gyson
- Bod y broses ar gyfer cyflwyno ffurflenni gwariant yn glir, yn hawdd i'w dilyn ac yn hygyrch i bawb
Os byddwch yn penderfynu derbyn ffurflenni gwariant drwy e-bost dylech nodi unrhyw ofynion, megis:
- Y cyfeiriad(au) e-bost penodol i'w defnyddio
- Sut y dylid labelu e-byst
- Unrhyw ofynion o ran fformat atodiadau e-bost
Dylech hefyd ystyried y prosesau mewnol y byddwch yn eu dilyn ar gyfer ffurflenni gwariant a gyflwynir drwy e-bost, er enghraifft:
- Sut y byddwch yn cydnabod cyflwyniadau e-bost
- Sut y byddwch yn rheoli ffurflenni gwariant a anfonir i gyfeiriad e-bost gwahanol, megis cael prosesau ar waith ar gyfer monitro cyfeiriadau e-bost a allai fod yn gysylltiedig â'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) neu'r tîm gwasanaethau etholiadol
- Sut i wneud timau eraill ar draws y cyngor yn ymwybodol y dylent gysylltu â chi cyn gynted â phosibl os ydynt yn derbyn unrhyw e-byst ynghylch ffurflenni gwariant
- Sut y byddwch yn storio'r ffurflenni yn electronig
Bydd angen i chi feddwl sut y byddwch yn paratoi datganiadau i'w harchwilio, er enghraifft, a fyddwch yn caniatáu i'r arolygiad ddigwydd ar gyfrifiadur dan oruchwyliaeth, neu a fyddwch yn argraffu'r holl ddatganiadau.
Gwirio ffurflenni gwariant
Er nad oes dyletswydd arnoch i wirio cyflawnder neu ddilysrwydd ffurflenni gwariant ymgeiswyr, os ydych yn ymwybodol bod gwall gweinyddol amlwg wedi digwydd, byddai'n rhesymol i chi roi gwybod i'r ymgeisydd neu'r asiant o hyn. Er enghraifft, os byddwch yn derbyn ffurflenni gwariant drwy e-bost a bod yr e-bost eglurhaol yn cyfeirio at atodiad o dderbynebau, nad ydynt wedi'u cynnwys, byddai'n rhesymol tynnu sylw'r ymgeisydd at hyn er mwyn ei alluogi i ail-anfon yr atodiad.
Dylech sicrhau bod pob ymgeisydd yn cael ei drin yn deg ac yn gyson, a'i fod yn cael yr un lefel o gefnogaeth wrth gyflwyno ei dreuliau.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a81 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a82 ↩ Back to content at footnote 2
Beth mae angen i chi wneud gyda ffurflenni gwariant
Rhaid i chi anfon copïau o ffurflenni gwariant etholiad a datganiadau i'r Comisiwn Etholiadol cyn gynted ag y bo'n rhesymol ymarferol ar ôl i'r ffurflen neu'r datganiad ddod i law.1
Dylech hefyd ddarparu copïau o'r anfonebau a'r derbynebau perthnasol.
A allech hefyd ddarparu'r canlynol er mwyn i ni allu cyflawni ein dyletswyddau ynglŷn â chydymffurfiaeth:
- ffigurau etholwyr ar gyfer pob etholaeth (a ddefnyddiwyd i gyfrifo terfyn gwariant yr ymgeiswyr
- y terfyn gwariant a roddwyd i ymgeiswyr, os yw hynny'n gymwys
- cadarnhad o unrhyw ymgeiswyr na wnaethant gyflwyno ffurflen
- datganiad ynghylch y personau a enwebwyd, hysbysiad o asiantiaid, a datgan canlyniad ar gyfer pob etholiad
Y dull derbyn a ffefrir gennym yw trosglwyddo dogfennau'n ddiogel, a fydd yn gwneud y broses o ddosbarthu'r ffurflenni hyn yn haws i chi. Gall y Comisiwn ddarparu mynediad i system trosglwyddo dogfennau'n ddiogel ar gais. Cysylltwch â ni yn [email protected] i drefnu hyn.
Os byddai'n well gennych e-bostio'r ffurflenni am unrhyw reswm, e-bostiwch gopïau PDF wedi'u sganio i [email protected]. Bydd o gymorth mawr i ni wrth brosesu ffurflenni gwariant, ac osgoi ymholiadau gennym i chi, os byddwch yn gwneud y canlynol:
- sganio ffurflen gwariant pob ymgeisydd, gyda'r anfonebau a'r derbynebau perthnasol, ar wahân
- anfon pob ffurflen drwy e-bost ar wahân, oherwydd caiff atodiadau mawr iawn eu gwrthod gan ein gweinydd
- nodi'r etholaeth ac enw'r ymgeisydd yn llinell pwnc yr e-bost
- peidio â diogelu negeseuon e-bost drwy ddefnyddio cyfrineiriau na darparu cyfrineiriau na gwefannau diogel – mae e-bost arferol yn iawn
Os nad yw'r un o'r ddau opsiwn uchod yn bosibl, gallwch anfon copïau papur o'r ffurflenni gwariant i'r cyfeiriad canlynol:
Party and Election Finance
The Electoral Commission
3 Bunhill Row
London
EC1Y 8YZ
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a87(1) ↩ Back to content at footnote 1
Cadw, archwilio a chyflenwi ffurflenni gwariant
Rhaid i chi gadw copi o ffurflen gwariant a datganiad pob ymgeisydd, ynghyd ag unrhyw ddogfennau ategol, am gyfnod o ddwy flynedd gan ddechrau gyda'r dyddiad y derbyniwyd y ffurflen. Yn ystod y cyfnod hwnnw, rhaid i chi sicrhau bod copïau ar gael i'r cyhoedd eu harchwilio am ddim.
Os ydych wedi derbyn ffurflenni treuliau drwy e-bost, dylech ystyried sut y byddwch yn paratoi datganiadau i'w harchwilio. Er enghraifft, a fyddwch yn caniatáu i archwiliad gael ei gynnal ar gyfrifiadur dan oruchwyliaeth, neu a fyddwch yn argraffu'r holl ddatganiadau.
Dylech sicrhau bod copïau o'r ffurflenni gwariant, y datganiadau, a dogfennau ategol eraill ar gael i unrhyw un sy'n gofyn amdanynt am ffi o £0.20 fesul ochr tudalen. Rhaid i chi gyflenwi copïau o'r ffurflenni gwariant neu'r datganiad pan dderbynnir taliad.
Rhaid golygu cyfeiriadau unigolion sydd wedi gwneud rhoddion i ymgeiswyr o bob copi i'w archwilio a phob copi a ddarperir ar gais. Dylech hefyd sicrhau bod data personol yn cael ei olygu o'r copïau hyn. Dylech gysylltu â'ch Swyddog Diogelu Data am gyngor pellach.
Ar ddiwedd y cyfnod o ddwy flynedd, os bydd yr ymgeisydd neu'r asiant etholiad perthnasol yn gofyn amdanynt, rhaid iddynt gael eu dychwelyd i'r ymgeisydd. Fel arall, caiff y ffurflenni, y datganiadau a'r dogfennau ategol eu dinistrio.1
Heb fod yn hwyrach na deg diwrnod calendr ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno ffurflenni gwariant, rhaid i chi gyhoeddi, mewn o leiaf dau bapur newydd sy'n cylchredeg yn yr etholaeth, hysbysiad o'r amser a'r lleoliad lle y gellir archwilio'r ffurflenni gwariant a'r datganiadau (gan gynnwys dogfennau ategol). Rhaid i'r hysbysiad hwn hefyd gael ei anfon at bob asiant etholiad.2
Os bydd ffurflenni neu ddatganiadau yn weddill erbyn yr amser y caiff yr hysbysiad ei anfon i'w gyhoeddi, rhaid i chi nodi hyn yn yr hysbysiad. Os caiff y ffurflenni/datganiadau eu derbyn yn y cyfamser, rhaid i chi hefyd gyhoeddi hysbysiad diwygiedig yn y ddau bapur newydd.
Rydym wedi paratoi canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid ar wariant yn ystod etholiadau a'r ffurflenni angenrheidiol; at hynny, gall ymgeiswyr ac asiantiaid lawrlwytho'r ffurflen gwariant etholiad i ymgeiswyr ynghyd â nodiadau esboniadol, y datganiad gan yr asiant etholiad ynglŷn â gwariant ar yr etholiad a'r datganiad gan yr ymgeisydd ynglŷn â'i (g)wariant ar yr etholiad. Gallwch lawrlwytho'r holl ddogfennau hyn o'n gwefan: ar gyfer Etholiad cyffredinol Senedd y DU, neu Is-etholiad Senedd y DU.
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a89 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a88 ↩ Back to content at footnote 2
Ffurflenni treuliau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau
Mae gennych y pŵer i ofyn am ffurflen gwariant gan ymgyrchwyr lleol nad ydynt yn bleidiau sy'n ymgyrchu dros neu yn erbyn ymgeiswyr unigol mewn etholiad cyffredinol Senedd y DU ac nad yw'n ofynnol iddynt gyflwyno ffurflen fel arall. Mae'n bwysig nodi mai pŵer yw hwn, ac nid dyletswydd. Os hoffech gael rhagor o wybodaeth am y pŵer hwn, dylech gysylltu â'ch tîm Comisiwn lleol.
Gallwch ofyn am ffurflen gwariant yn ystod y cyfnod o 6 mis sy'n dechrau ar y diwrnod pleidleisio, a rhaid cydymffurfio â'r cais o fewn 21 diwrnod calendr sy'n dechrau ar y diwrnod y daw'r cais i law.
Herio canlyniad yr etholiad
Gellir herio canlyniadau etholiad naill ai drwy ddeiseb etholiadol neu drwy benderfyniad barnwrol i anghymhwyso ymgeisydd wedi'i (h)iawn ethol.
Rôl gyfyngedig sydd gennych fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) ar gyfer y ddwy broses hyn. Dylech gadw trywydd archwilio cadarn o'ch penderfyniadau drwy gydol cyfnod yr etholiad er mwyn gallu darparu unrhyw dystiolaeth angenrheidiol o ganlyniad i ddeiseb etholiadol.
Deisebau etholiadol
Gellir defnyddio deiseb etholiadol i herio canlyniad etholiadau. Gall deiseb ar gyfer etholiad Senedd y DU gael ei chyflwyno gan:1
- unigolyn sy'n honni ei fod yn ymgeisydd yn yr etholiad, neu
- unigolyn sy'n honni bod ganddo hawl i gael ei ethol yn yr etholiad, neu
- unigolyn a bleidleisiodd neu a oedd â hawl i bleidleisio yn yr etholiad
Ni chaiff etholwr sydd wedi'i gofrestru'n ddienw gyflwyno deiseb etholiadol.
Beth yw'r sail dros ddeiseb etholiadol?
Y seiliau a ganiateir dros ddeiseb etholiadol mewn perthynas ag etholiad Senedd y DU yw bod y canlynol wedi digwydd:
- etholiad amhriodol, neu
- ganlyniad amhriodol2
Pwy fydd yr ymatebydd?
Yr unigolyn sydd wedi'i (h)iawn ethol y ceir amheuaeth ynghylch ei (h)ethol ei wneud fydd yr ymatebydd i'r ddeiseb. Os bydd y ddeiseb yn ymwneud â threfn cynnal yr etholiad, efallai y byddwch hefyd yn ymatebydd i'r ddeiseb fel Swyddog Canlyniadau (Gweithredol).
Dyddiadau cau a lleoliadau ar gyfer cyflwyno deisebau
Yng Nghymru a Lloegr, y llys priodol ar gyfer ymdrin â deisebau yw’r Uchel Lys. Yn yr Alban, Llys y Sesiwn yw’r llys priodol.
Fel arfer rhaid i ddeiseb mewn etholiad Senedd y DU gael ei chyflwyno o fewn 21 diwrnod calendr ar ôl dyddiad dychwelyd y gwrit i Glerc y Goron (a fydd yn y rhan fwyaf o achosion y diwrnod ar ôl yr etholiad).3
Dylid cynghori unrhyw un sy'n ystyried cyflwyno deiseb etholiadol i geisio ei gyngor cyfreithiol ei hun. Ar gyfer unrhyw gwestiynau sy'n ymwneud â deisebau etholiadol a'r broses o gyflwyno deisebau yng Nghymru a Lloegr, gan gynnwys cadarnhad ynglŷn â'r dyddiadau cau, dylech gysylltu â'r Swyddfa Deisebau Etholiadol:
The Election Petitions Office
Room E105
Royal Courts of Justice
Strand
London WC2A 2LL
E-bost: [email protected]
Ffôn: 020 7947 6877
Ffacs: 0870 324 0024
Yn yr Alban, dylech gysylltu â'r Adran Ddeisebau:
The Petitions Department
Court of Session
Parliament Square
Edinburgh EH1 1RQ
E-bost: [email protected]
Ffôn: 0131 240 6747
Ffacs: 0131 240 6711
- 1. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a121 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 s120 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 s122 ↩ Back to content at footnote 3
Herio'r canlyniad ar sail anghymhwysiad
Ceir proses farnwrol ar wahân ar gyfer herio etholiad AS ar y sail ei fod wedi'i anghymwyso ar y pryd neu yn y gorffennol o dan Ddeddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 (fel u'i diwygiwyd). Yn yr achos hwnnw, gellir gwneud cais i'r Cyfrin Gyngor am ddatganiad i'r perwyl hwnnw (ar yr amod nad yw deiseb yn yr arfaeth neu wedi'i cheisio lle'r oedd neu y mae’r anghymhwysiad honedig dan sylw (a phan oedd y seiliau ar gyfer yr anghymhwysiad yn berthnasol ar adeg yr etholiad) neu nad oedd Gorchymyn Tŷ'r Cyffredin i ddiystyru anghymhwysiad wedi cael ei wneud).1
Gall unrhyw un wneud cais i'r Uchel Lys am ddatganiad bod Aelod Seneddol wedi cael ei anghymhwyso rhag bod yn Aelod Seneddol nawr, neu unrhyw bryd ers ei ethol.1
Os ydych yn ystyried gwneud cais am ddatganiad anghymhwyso barnwrol, dylech geisio eich cyngor cyfreithiol eich hun.
- 1. Deddf Anghymhwyso Tŷ'r Cyffredin 1975 a7↩ Back to content at footnote 1 a b
Adolygu'r etholiad
Ar ôl yr etholiad, dylech gynnal gwerthusiad trylwyr o'r holl brosesau a amlinellir yn eich cynllun prosiect, gan geisio adborth gan randdeiliaid priodol, a llunio dogfen ar y gwersi a ddysgwyd a gaiff ei defnyddio i lywio'r cynllun prosiect a'r gofrestr risg ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol.
Dylai cwmpas yr adolygiad drafod pob agwedd ar yr etholiad a dylai pob proses y cynlluniwyd ar ei chyfer ac a gyflawnwyd gael ei hadolygu.
Rhan allweddol o'r adolygiad fydd ystyried y nodau a'r amcanion a nodwyd yn eich cynllun prosiect a mesur eich perfformiad yn eu herbyn.
Dylech dalu sylw arbennig i adolygu'r canlynol:
- eich gwaith cynllunio prosiect
- p'un a oeddech yn gallu sicrhau digon o adnoddau
- os yw eich etholaeth yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, beth weithiodd yn dda a beth y gellid ei wella wrth weithio gyda staff etholiadol o awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill
- sut y cafodd contractwyr eu rheoli ac a wnaethant gyflawni gwaith yn unol â'r fanyleb ofynnol
- y cyfarpar a'r deunydd swyddfa a ddefnyddiwyd
- recriwtio a hyfforddi staff
- addasrwydd y lleoliadau a ddefnyddiwyd
- y gwaith o reoli enwebiadau, gorsafoedd pleidleisio, y broses pleidleisio absennol, a'r broses dilysu a chyfrif
- y gwaith o brosesu ymholiadau ac ymdrin â nhw
- eich gweithgarwch ymgysylltu â'r cyhoedd
- unrhyw faterion sy'n effeithio ar ddiogelwch/uniondeb yr etholiad
- eich rhyngweithiadau ag ymgeiswyr ac asiantiaid
Fel rhan o'r adolygiad dylech geisio adborth gan randdeiliaid allweddol, gan gynnwys:
- eich staff ac, os yw eich etholaeth yn croesi ffiniau awdurdodau lleol, staff etholiadol o'r awdurdod lleol arall/awdurdodau lleol eraill
- etholwyr
- ymgeiswyr, asiantiaid a phleidiau gwleidyddol
- sefydliadau lleol o bobl anabl, pobl hŷn a grwpiau ethnig lleiafrifol, a swyddogion mynediad y cyngor
Dylech ystyried gwahodd sawl aelod o staff, gan gynnwys staff gorsafoedd pleidleisio, i ddod i gael trafodaeth er mwyn ymdrin â phob agwedd ar y broses sy'n ymwneud â gorsafoedd pleidleisio, o'r sesiynau hyfforddi a briffio hyd at ddelio â sefyllfaoedd anodd ar y diwrnod pleidleisio. Dylech hefyd ystyried unrhyw adborth a ddarparwyd mewn adroddiadau a gyflwynwyd gan Swyddogion Llywyddu ac arolygwyr gorsafoedd pleidleisio.
Ar ôl i chi adolygu pob agwedd ar yr etholiad a cheisio adborth gan randdeiliaid priodol, dylech lunio dogfen yn nodi'r gwersi a ddysgwyd. Dylai'r ddogfen honno gynnwys dadansoddiad o ba arferion fu'n llwyddiannus a ble arall y gellid eu defnyddio, beth fyddech yn ei wneud eto neu'n wahanol, ac argymhellion allweddol. Dylai'r adroddiad ar y gwersi a ddysgwyd gael ei ddefnyddio wedyn i lywio'r cynllun prosiect a'r gofrestr risg ar gyfer digwyddiadau etholiadol yn y dyfodol.
Adnoddau ar gyfer Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) - Ar ôl yr etholiad
Adnoddau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol)
Cynllunio ar gyfer yr etholiad
Dechrau amserlen yr etholiad
Enwebiadau
Asiantiaid
Pleidleisio absennol
Pleidleisio mewn gorsaf bleidleisio
Dilysu a Chyfrif
Ar ôl yr etholiad