Dim ond os byddwch wedi derbyn ernes o £500 a bod y ffurflenni canlynol wedi eu llenwi erbyn diwedd y cyfnod enwebu (4pm ar y 19eg diwrnod gwaith cyn y bleidlais ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU neu 4pm ar y dyddiad a bennwyd gennych1
ar gyfer is-etholiad Senedd y DU), yr ystyrir bod ymgeisydd wedi ei enwebu'n ddilys:2
y ffurflen enwebu (fel y'i rhagnodir)
ffurflen cyfeiriad cartref
ffurflen cydsynio ag enwebiad
Ymgeiswyr pleidiau gwleidyddol
Os bydd ymgeisydd yn dymuno sefyll ar ran plaid wleidyddol gofrestredig yna, yn ogystal â'r uchod, rhaid iddo hefyd gyflwyno tystysgrif awdurdodi, sy'n rhoi awdurdod i ddefnyddio enw'r blaid ar y papur pleidleisio (fel y'i rhagnodir), a gall hefyd gynnwys cais ysgrifenedig i ddefnyddio un o arwyddluniau cofrestredig y blaid os yw'n dymuno3
.
Rhaid i enw neu ddisgrifiad y blaid a awdurdodir gan y dystysgrif gyfateb i enw neu ddisgrifiad y blaid ar y ffurflen enwebu neu bydd yr enwebiad cyfan yn annilys.4
Rhaid bod y blaid wedi'i chofrestru ar gofrestr o bleidiau gwleidyddol y Comisiwn yn http://search.electoralcommission.org.uk a bod wedi'i rhestru'n blaid y caniateir iddi gyflwyno ymgeiswyr yn y rhan o'r DU y mae'n sefyll ynddi.
Paratoi papurau enwebu
Dim ond yn Saesneg neu, yng Nghymru, yn Gymraeg a/neu Saesneg, y gellir paratoi papurau enwebu, ac nid mewn unrhyw ieithoedd na fformatau amgen.5
Fodd bynnag, mae'n ofynnol i chi yn ôl y gyfraith baratoi papurau enwebu i'w llofnodi os bydd rhywun yn gwneud cais am hynny.6
Mae hyn yn golygu darparu'r holl ddogfennau sy'n ofynnol ar gyfer enwebu a'u cwblhau gyda'r holl wybodaeth a roddir i chi fel mai dim ond y llofnodion gofynnol y mae'n rhaid eu hychwanegu.
Rydym wedi paratoi set o bapurau enwebu, sy'n cynnwys yr holl ffurflenni hyn y gallwch eu rhoi i ymgeiswyr.
Nid oes rhaid i ymgeiswyr ddefnyddio'r ffurflen enwebu a luniwyd ac a ddarparwyd gennych chi, ar yr amod bod eu ffurflenni enwebu fel y'u rhagnodir.
1. Heb fod yn gynt na thri diwrnod gwaith ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad etholiad ac mae'n rhaid iddo fod o fewn saith diwrnod gwaith i dderbyn y gwrit↩ Back to content at footnote 1
4. Rheol 8(2)(a), Rheolau Prif Ardaloedd 2006; rheol 8(2)(a), Rheolau Plwyfi a Chymunedau 2006; rheol 11(2)(a), Rheolau Maerol Awdurdodau Lleol 2007↩ Back to content at footnote 4