Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Prosesu enwebiadau

Penderfynu ynghylch ffurflenni enwebu a ffurflenni cyfeiriad cartref ar ôl eu cyflwyno'n ffurfiol

Tybir bod ymgeisydd sy'n cyflwyno papurau enwebu sydd wedi'u cwblhau erbyn y terfyn amser gofynnol wedi'i enwebu oni bai:

  • eich bod yn penderfynu bod y ffurflen enwebu yn annilys
  • bod yr ymgeisydd yn marw neu'n tynnu'n ôl cyn y terfyn amser1  

Rhaid i chi bennu dilysrwydd ffurflen enwebu a ffurflen cyfeiriad cartref cyn gynted â phosibl ar ôl iddynt gael eu cyflwyno'n ffurfiol. Mae hyn yn galluogi ymgeiswyr, y pennwyd bod eu henwebiadau'n annilys, i gyflwyno papurau newydd cyn i'r enwebiadau gau. 

Am ragor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar Benderfynu bod enwebiad yn annilys.

Rydym hefyd wedi llunio rhestr wirio  i'ch helpu i brosesu ffurflenni enwebu.

Derbyn enwebiadau ar eu golwg

Rhaid i chi beidio â gwneud y canlynol:

  • ymgymryd ag unrhyw ymchwiliad neu waith ymchwil i unrhyw ymgeisydd. Nid yw eich dyletswydd yn mynd y tu hwnt i weld bod ffurflen enwebu yn gywir ar ei golwg3  

Ni ddylech wneud y canlynol:

  • ymchwilio i p'un a yw enw a roddwyd ar ffurflen enwebu yn ddilys

Dylech wneud y canlynol

  • diystyru unrhyw wybodaeth bersonol a all fod gennych eisoes am yr ymgeisydd 
  • penderfynu ar enwebiadau ar sail y ffurflen ei hun
Diweddarwyd ddiwethaf: 31 Mai 2024