Ar ôl i'r cyfnod enwebu ddod i ben, rhaid i chi gyhoeddi datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a hysbysiad pleidleisio.1
Am fanylion am yr hyn a ddylai gael ei gynnwys yn yr hysbysiadau hyn a chamau y dylech eu cymryd wrth brawfddarllen, gweler ein canllawiau ar baratoi hysbysiadau.
Fel y gwyddoch pa ymgeiswyr sy'n sefyll yn eich ardal, mae'n bwysig ail edrych ar eich cynllun prosiect, cofrestr risg a chynllunio ar gyfer rheoli'r gorsafoedd pleidleisio a'r cyfrif. Dylech wirio os ydynt yn dal i fod yn addas neu os oes angen unrhyw welliannau i sicrhau bod y prosesau yn cael eu cynnal yn esmwyth.
Gallai’r ffactorau i’w hystyried gynnwys nifer yr ymgeiswyr sy’n sefyll, lefel y profiad sydd gan yr ymgeiswyr a’r pleidiau gwleidyddol a gynrychiolir o sefyll etholiad a’u gwybodaeth am brosesau etholiadol, yn ogystal ag unrhyw risgiau neu faterion lleol a allai fod angen rheolaeth benodol mewn gorsafoedd pleidleisio neu’r cyfrif.
Lle rydych wedi gwneud trefniadau i wneud hynny, dylech anfon e-bost a manylion cyswllt ffôn yr ymgeiswyr sy'n sefyll yn yr etholiad ymlaen i ymgynghorydd swyddogol etholedig yr heddlu. Dylech sicrhau bod ymgeiswyr yn ymwybodol o sut y bydd eu gwybodaeth yn cael ei defnyddio a rhoi'r cyfle iddynt optio allan os oes angen. I gael rhagor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar weithio gyda'ch heddlu lleol.
Etholiadau diwrthwynebiad
Bydd yr etholiad yn un diwrthwynebiad os bydd un o'r canlynol yn gymwys:
dim ond un enwebiad dilys a geir
caiff yr holl enwebiadau dilys eu tynnu'n ôl yn briodol erbyn y terfyn amser heblaw am un
Os bydd yr etholiad yn ddiwrthwynebiad, rhaid i chi gyhoeddi'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd cyn gynted ag y bo'n ymarferol, gan ddatgan yr un ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys a gaiff ei ethol.2
Yna dylech ddychwelyd y gwrit gyda manylion yr ymgeisydd llwyddiannus. Ni fydd angen cynnal etholiad.