Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr
Amserlen ar gyfer pleidleisio absennol
Mae'n rhaid i chi anfon pleidleisiau post at etholwyr cyn gynted ag y bo'n ymarferol1
. Yn ymarferol, mae hyn yn golygu unrhyw bryd ar ôl i'r manylion i'w hargraffu ar y papurau pleidleisio gael eu cadarnhau, h.y. ar ôl y dyddiad cau ar gyfer tynnu enw yn ôl, sef 4pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Bydd anfon pleidleisiau post yn gynnar yn cynyddu'r amser fydd ar gael i etholwyr – yn enwedig pleidleiswyr sydd dramor neu yn y lluoedd – dderbyn, cwblhau a dychwelyd eu pleidleisiau post. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau: Anfon a dosbarthu pleidleisiau post
Dim ond at rywun sydd wedi cael ei ychwanegu at y gofrestr etholiadol ac sydd wedi gwneud cais llwyddiannus am bleidlais bost y gallwch anfon pleidlais bost. Mae'n ofynnol i'r Swyddog Cofrestru Etholiadol gyhoeddi dau hysbysiad newid etholiad interim cyn cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad terfynol ar y pumed diwrnod gwaith cyn y bleidlais.2
Mae hyn yn cefnogi'r broses o ddosbarthu pleidleisiau post ar gam cynnar yn yr amserlen i'r etholwyr hynny sydd wedi gwneud cais i gofrestru a gwneud cais am bleidlais bost yn agos at y dyddiad cau ar gyfer cofrestru. Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol: hysbysiadau newid etholiad.
Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gysylltu ag ef er mwyn cael y rhestr o bleidleiswyr post a'r rhestr o bleidleiswyr sy'n pleidleisio drwy ddirprwy cyn gynted â phosibl ar ôl cyhoeddi'r hysbysiad newid etholiad interim cyntaf er mwyn cynnwys yr etholwyr hwnnw pan gaiff y pleidleisiau post cyntaf eu dosbarthu. Rhaid i'r hysbysiad hwn gael ei gyhoeddi ar yr un diwrnod â'r dyddiad cau ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.3
Bydd hefyd angen i chi gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol i gael unrhyw ddiweddariadau dilynol pan fydd yr ail hysbysiad newid etholiad interim a'r hysbysiad newid etholiad terfynol wedi'u cyhoeddi.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am hysbysiadau newid interim yn ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar gyfer Cymru, Lloegr a'r Alban .
Mae ein hamserlen etholiadol enghreifftiol ar gyfer etholiad cyffredinol Senedd y DU a'r amserlen ar gyfer is-etholiadau hefyd yn cynnwys y dyddiadau cyhoeddi perthnasol ar gyfer yr hysbysiadau hyn.
Etholaethau trawsffiniol
Os ydych, fel Swyddog Canlyniadau (Dros Dro), yn gyfrifol am etholaeth sy'n croesi ffiniau awdurdodau lleol, dylech weithio gyda'r Swyddog(ion) Cofrestru Etholiadol yn yr awdurdod arall/awdurdodau eraill er mwyn cael y data sydd eu hangen arnoch. Os bydd angen cyfnewid data yn electronig, dylech sicrhau bod y broses yn cael ei phrofi cyn y dyddiad trosglwyddo cyntaf.
Amserlen ar gyfer pleidleisio absennol
4 Dyddiadau cau ar gyfer gwneud cais am bleidlais absennol a cheisiadau am newidiadau i drefniadau presennol
Y dyddiad cau i etholwyr gyflwyno ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy'r post yw 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio. Hwn yw'r dyddiad cau ar gyfer y canlynol hefyd:
- canslo pleidleisiau post presennol
- i etholwyr wneud newidiadau (h.y. newid y cyfeiriad dosbarthu) i unrhyw drefniadau pleidleisio absennol presennol (h.y. pleidlais bost, pleidlais drwy ddirprwy a phleidlais ddirprwy drwy'r post)
Fodd bynnag, os yw etholwr yn bleidleisiwr post ar hyn o bryd sydd eisoes wedi dychwelyd ei bapur pleidleisio drwy'r post, ni all wneud unrhyw newidiadau wedi hynny, hyd yn oed os yw cyn 5pm, 11 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.4
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy (nid pleidlais ddirprwy drwy'r post), heb gynnwys ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng, yw 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio.5
Y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng yw 5pm ar y diwrnod pleidleisio6
. Gallwch gael rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau: pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng.
Mae'r tabl hwn yn crynhoi'r dyddiadau cau er mwyn gallu cyfeirio ato'n hawdd:
Cais | Dyddiad cau |
---|---|
Cyflwyno ceisiadau newydd am bleidlais bost a phleidlais ddirprwy drwy'r post | 5pm, 11 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio |
Canslo pleidleisiau post presennol | 5pm, 11 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio |
Gwneud newidiadau i drefniadau pleidleisio absennol presennol | 5pm, 11 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio |
Ceisiadau newydd am bleidlais drwy ddirprwy (nid pleidlais ddirprwy drwy’r post) | 5pm, 6 diwrnod waith cyn y diwrnod pleidleisio |
Ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng | 5pm, ar y diwrnod pleidleisio |
Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn rhoi'r rhestrau terfynol o bleidleiswyr absennol i chi, h.y. y rhestr o bleidleiswyr post, y rhestr o ddirprwyon sy'n pleidleisio drwy'r post a'r rhestr dirprwyon, ar ôl i'r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau fynd heibio.
Oedi cyn penderfynu
Ni ellir caniatáu pleidlais absennol hyd nes bod y cais i gofrestru a’r cais am bleidlais absennol wedi'u cymeradwyo.
Lle cwblheir cais i gofrestru erbyn y dyddiad cau, ond na ellir gwirio hunaniaeth yr ymgeisydd yn erbyn cofnodion yr Adran Gwaith a Phensiynau na thrwy baru data lleol, mae gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol tan y dyddiad cau ar gyfer penderfynu ar geisiadau, sef chwe diwrnod gwaith cyn yr etholiad, i dderbyn y dystiolaeth ofynnol gan yr ymgeisydd o dan y broses eithriadau a gwneud penderfyniad.
Fodd bynnag, os bydd etholwr sy’n gwneud cais am bleidlais bost yn agos at y dyddiad cau ar gyfer etholiad yn methu gwiriad yr Adran Gwaith a Phensiynau, gellir penderfynu ar ei gais gan ddefnyddio’r broses eithriadau neu’r broses ardystio hyd at, ac yn cynnwys, y diwrnod pleidleisio. Nid oes dyddiad cau yn y gyfraith ar gyfer penderfynu ar bleidleisiau post.
Er mai cyfrifoldeb y Swyddog Cofrestru Etholiadol yw prosesu ceisiadau, mae'r Swyddog Canlyniadau yn gyfrifol am ddosbarthu pecynnau pleidleisio drwy'r post a chynhyrchu cofrestrau gorsafoedd pleidleisio. Dylech gysylltu â'r Swyddog Cofrestru Etholiadol (lle nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd) i sefydlu'r pwynt ymarferol diweddaraf ar gyfer penderfynu ar geisiadau am bleidlais bost ar gyfer pob etholiad er mwyn sicrhau eich bod chi a’r Swyddog Canlyniadau yn gallu cyflawni eich dyletswyddau’n effeithiol.
Fel rhan o hyn, dylech chi a’r Swyddog Cofrestru Etholiadol ystyried y canlynol:
- pwysigrwydd cefnogi etholwyr i allu pleidleisio yn y modd y maent wedi dewis, a rhoi gwasanaeth cyson i’r etholwyr i gyd
- yr amser a gymerir i ddosbarthu pleidleisiau post mewn pryd iddynt gael eu derbyn a’u dychwelyd
- y darpariaethau a’r amserlen ar gyfer ailddosbarthu pleidleisiau post
- yr angen i gynhyrchu cofrestrau gorsafoedd pleidleisio cywir a chyflawn cyn y diwrnod pleidleisio
Er y bydd y penderfyniad ynghylch beth fydd yn ymarferol yn fater i chi a’r Swyddog Cofrestru Etholiadol perthnasol, rydym yn argymell na ddylai unrhyw derfyn amser ar gyfer penderfynu y byddwch yn ei osod fod yn gynharach na 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn yr etholiad. Canllaw yn unig yw’r argymhelliad hwn, nid yw’n ofynnol. Serch hynny, byddai’n galluogi’r Swyddog Cofrestru Etholiadol i fodloni ei rwymedigaeth i sicrhau bod y rhestrau o bleidleiswyr absennol ar gael i'w harchwilio a’u hanfon atoch (pan nad chi yw’r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd), cyn gynted ag y bo’n ymarferol.
Yna bydd angen anfon y bleidlais bost, a bydd angen i'r pleidleisiwr dderbyn, cwblhau a dychwelyd ei bleidlais bost erbyn 10pm ar y diwrnod pleidleisio.
- 1. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001 rheoliad 71, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 71 ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13AB ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 a13AB(5) ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Rheoliad 56 Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001(Rheoliadau 2001)↩ Back to content at footnote 4 a b
- 5. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001rheoliad 56, Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001 rheoliad 56 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001rheoliad 56(3A), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001rheoliad 56(3A) ↩ Back to content at footnote 6