Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau (Gweithredol) ar weinyddu etholiad Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Pleidleisio drwy ddirprwy

Mae angen dilysu hunaniaeth ar gyfer ceisiadau am bleidlais drwy ddirprwy. Lle na ellir gwirio hunaniaeth yn erbyn cofnodion DWP, mae gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol hyd at a chan gynnwys y diwrnod pleidleisio i dderbyn y dystiolaeth ofynnol neu'r ardystiad angenrheidiol gan yr ymgeisydd a gwneud penderfyniad.

Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn darparu gwybodaeth am geisiadau i benodi dirprwy a wneir gan ymgeisydd ar gyfer person i bleidleisio ar ei ran a wneir erbyn 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio, unwaith y bydd y ceisiadau hynny wedi bod drwy broses ddilysu hunaniaeth ac wedi eu penderfynu. Rhaid i chi roi’r rhannau perthnasol o’r rhestr dirprwyon hon i’r Swyddogion Llywyddu.1  

Efallai y bydd angen i chi wneud newid i'r gofrestr brintiedig os yw dirprwy wedi gwneud cais i bleidleisio drwy'r post a bod y cais yn cael ei benderfynu yn agos at yr etholiad. Mae ein canllaw ar gofrestrau gorsafoedd pleidleisio a rhestrau pleidleisio absennol yn cynnwys rhagor o wybodaeth am newidiadau y gellir eu gwneud i'r gofrestr ar ôl iddi gael ei hargraffu. Rhaid i gofrestr yr orsaf bleidleisio gael ei marcio ag ‘A’ wrth ymyl enw’r etholwr, gan na all unrhyw etholwr sydd wedi penodi dirprwy bleidleisio yn yr orsaf bleidleisio mwyach os yw’r dirprwy wedi gwneud cais i bleidleisio drwy’r post. Bydd rhestr ar wahân yn cynnwys manylion dirprwyon drwy’r post.2   

 

Etholaethau trawsffiniol

Bydd y Swyddog Cofrestru Etholiadol yn darparu gwybodaeth am geisiadau i benodi dirprwy a wneir gan ymgeisydd ar gyfer person i bleidleisio ar ei ran a wneir erbyn 5pm, chwe diwrnod gwaith cyn y diwrnod pleidleisio, unwaith y bydd y ceisiadau hynny wedi bod drwy broses ddilysu hunaniaeth ac wedi eu penderfynu.

Pleidleisio drwy ddirprwy

Cyfyngiadau ar bleidleisio drwy ddirprwy

Ni all person gael mwy nag un dirprwy wedi'i benodi ar gyfer etholiadau Senedd y DU yn yr un etholaeth neu rywle arall ar unrhyw adeg.3

Nid oes gan berson hawl i bleidleisio fel dirprwy yn etholiad Senedd y DU ar ran mwy na phedwar etholwr. O fewn y pedwar etholwr, ni all mwy na dau etholwr fod yn etholwyr domestig. Etholwyr domestig yw'r etholwyr hynny nad ydynt yn bleidleiswyr gwasanaeth nac yn etholwyr tramor.4

Mae'n drosedd:  

  • i berson benodi yn fwriadol dirprwy sydd eisoes yn gweithredu fel dirprwy ar gyfer dau neu fwy o etholwyr domestig5
  • i berson sydd wedi'i gofrestru fel etholwr tramor neu'n bleidleisiwr gwasanaeth benodi dirprwy sydd eisoes yn ddirprwy ar gyfer pedwar neu fwy o etholwyr (na all mwy na dau o'r rhain fod yn etholwyr domestig)6
  • i bleidleisio fel dirprwy ar gyfer mwy na dau etholwr domestig7
  • i bleidleisio fel dirprwy ar gyfer mwy na phedwar etholwr (ni all mwy na dau o'r rhain fod yn etholwyr domestig)8
Diweddarwyd ddiwethaf: 22 Chwefror 2024