Y weithdrefn ar gyfer ailanfon pecynnau pleidleisio oherwydd gwall gweithdrefnol
Os ydych wedi anfon pecynnau pleidleisio drwy'r post anghywir neu anghyflawn mewn camgymeriad, efallai y gallwch ailanfon pecynnau pleidleisio drwy'r post gan ddefnyddio eich pwerau i gywiro gwall gweithdrefnol.1
Yn dibynnu ar yr amgylchiadau, bydd angen i chi benderfynu p'un a ddylid ailanfon rhai o'r pecynnau pleidleisio drwy'r post neu bob un. Er enghraifft, os effeithiodd gwall yn y broses gasglu ar amrywiaeth benodol o becynnau, dim ond y pecynnau hynny y byddai angen eu hailanfon.
Dylid gwneud penderfyniadau am ailanfon oherwydd gwall gweithdrefnol fesul achos. Ym mhob achos, dylid ystyried effaith bosibl y gwall ac unrhyw gamau unioni ar etholwyr. Er enghraifft, bydd angen i chi sicrhau y bydd unrhyw gamau gweithredu yn unioni'r gwall ac na fyddant yn peri dryswch ychwanegol neu wall gwahanol.
Dylid gwneud unrhyw benderfyniad i unioni gwall gweithdrefnol ar ôl derbyn cyngor cyfreithiol. Dylid dogfennu'r gwall ac unrhyw gamau unioni rhag ofn y caiff yr etholiad ei herio a bod angen gwneud hawliad yn erbyn yswiriant.
Pa gamau bynnag a gymerir, dylech sicrhau bod unrhyw ohebiaeth a roddir i'r etholwyr hynny yr effeithiwyd arnynt yn egluro'r gwall a'r camau rydych yn eu cymryd i'w unioni. Dylech hefyd hysbysu ymgeiswyr ac asiantiaid am y gwall a'ch camau unioni bwriadedig cyn gynted â phosibl. Drwy fod yn dryloyw am y broblem a'r ateb byddwch yn lleihau'r risg o golli hyder yn y broses o weinyddu'r etholiad.
Gweler ein canllawiau ar dor dyletswydd swyddogol a phŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol i gael rhagor o wybodaeth am eich pŵer i gywiro gwallau gweithdrefnol. Wrth ystyried defnyddio'r pŵer hwn, dylech gysylltu â thîm lleol y Comisiwn a all gynnig cymorth sydd wedi'i deilwra ymhellach i chi.
Cadw cofnodion o ailanfon ar ôl gwall gweithdrefnol
Pan fydd pleidlais bost wedi'i hailanfon o ganlyniad i wall gweithdrefnol, rhaid i'r papur pleidleisio gwreiddiol gael ei ganslo, ei ychwanegu at y rhestr o bapurau pleidleisio a ganslwyd ac ni ddylid ei gynnwys yn y cyfrifiad.2
1. Regulation 6 Police and Crime Commissioner Elections (Functions of Returning Officers) Regulations 2012 ↩ Back to content at footnote 1