Fel y rhagnodir mewn deddfwriaeth, rhaid i'r broses o gyfrif y pleidleisiau ddechrau cyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i’r gorsafoedd pleidleisio gau
Gall y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu bennu'r amser y dylid dechrau dilysu'r papurau pleidleisio a dylech ymgysylltu â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ar gam cynnar er mwyn trafod a datblygu amseriadau ar gyfer yr holl brosesau dilysu a chyfrif.1
Dylech wneud penderfyniadau ynglŷn â phryd y byddwch yn dechrau'r cyfrif cyn i'r hysbysiad etholiad gael ei gyhoeddi a dylid rhoi gwybod i'r rhai sydd â diddordeb, gan gynnwys pleidiau gwleidyddol lleol a darlledwyr, ar gam cynnar. Bydd disgwyliad ymhlith ymgeiswyr, pleidiau a'r cyfryngau y bydd y canlyniadau'n cael eu datgan cyn gynted â phosibl ar ôl i'r gorsafoedd pleidleisio gau. Gan gydweithio'n agos â'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu, bydd angen i chi gynllunio'n ofalus felly sut i reoli disgwyliadau pleidiau, ymgeiswyr a'r cyfryngau.
Methodoleg
Bydd y ffordd y byddwch yn trefnu'r prosesau dilysu a'r cyfrif yn effeithio ar faint o amser y byddant yn eu cymryd.
Dylech ystyried defnyddio dull cyfrif bach wrth gynllunio eich prosesau dilysu a chyfrif. Cydnabyddir yn eang fod rhannu'r broses o ddilysu a chyfrif y pleidleisiau yn ardaloedd sy'n llai na'ch ardal bleidleisio yn effeithiol iawn o ran sicrhau canlyniad cywir ac amserol ac iddo drywyddion archwilio clir.
Yna, caiff canlyniadau'r ardaloedd hynny eu cydgrynhoi er mwyn cael canlyniad cyffredinol ar gyfer eich ardal bleidleisio. Bydd unrhyw broblemau cyfrif sy'n codi wedi'u cyfyngu i ardal fwy hydrin a bydd unrhyw ailgyfrif a all ddigwydd o ganlyniad wedi'i gyfyngu o bosibl.
Bydd angen i chi benderfynu a fyddwch yn achub ar y cyfle i ddechrau cyfrif y pleidleisiau cyn i'r broses ddilysu gael ei chwblhau.
Dylech neilltuo digon o amser i gynnal proses gyfrif drefnus a sicrhau canlyniad cywir y gall pleidleiswyr, ymgeiswyr ac asiantiaid ymddiried ynddo.