Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Lleol sy'n gweinyddu Etholiadau ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu

Egwyddorion ar gyfer prosesau dilysu a chyfrif effeithiol

Dylech sicrhau bod eich trefniadau dilysu a chyfrif yn ystyried unrhyw gyfarwyddiadau neu ganllawiau gan y Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu ac y gallwch fodloni'r egwyddorion allweddol canlynol ar gyfer prosesau dilysu a chyfrif effeithiol: 

  • Mae pob proses yn dryloyw, gyda thrywydd archwilio clir a diamwys. Er enghraifft:
    • caiff popeth ei wneud yng ngolwg pawb sydd â'r hawl i fod yn bresennol
    • rhoddir digon o wybodaeth i'r rhai sy'n bresennol am y prosesau i'w dilyn
    • caiff gwybodaeth ei chyfleu mewn modd cywir ac agored.
  • Mae'r broses ddilysu yn arwain at ganlyniad cywir. Golyga hyn fod nifer y papurau pleidleisio ym mhob blwch naill ai'n cyfateb i nifer y papurau pleidleisio a ddosbarthwyd fel y'i nodwyd ar y cyfrif papurau pleidleisio neu, os nad felly y mae:
    • yr hyn sydd wedi achosi'r amrywiant wedi cael ei nodi a gellir ei esbonio, a/neu
    • bod y blwch wedi cael ei ailgyfrif o leiaf ddwywaith, nes bod yr un nifer o bapurau pleidleisio yn cael eu cyfrif ar ddau achlysur olynol
  • Mae'r broses gyfrif yn arwain at ganlyniad cywir, lle: 
    • mae cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd i bob ymgeisydd a chyfanswm y pleidleisiau a wrthodwyd, yn cyfateb i gyfanswm y papurau pleidleisio a roddwyd ar y datganiad dilysu ar gyfer y man pleidleisio
    • mae'r prosesau dilysu a chyfrif yn amserol 
    • cedwir cyfrinachedd y bleidlais bob amser
    • diogelir papurau pleidleisio a deunyddiau ysgrifennu eraill bob amser
    • caiff gwybodaeth yn ystod y prosesau dilysu a chyfrif ei chyfleu mewn modd clir ac amserol

Yn ogystal ag ystyried sut i sicrhau y bydd eich prosesau'n eich galluogi i fodloni'r egwyddorion allweddol, bydd angen i chi ystyried ffactorau ymarferol perthnasol eraill a fydd yn effeithio ar y ffordd y caiff y prosesau dilysu a chyfrif eu trefnu a'r amser y bydd yn ei gymryd i'w cwblhau, megis: 

  • maint y man pleidleisio
  • daearyddiaeth y man pleidleisio
  • maint a chapasiti'r lleoliad 
  • y gallu i sicrhau tryloywder i ymgeiswyr, asiantiaid a'r rhai sy'n arsylwi yn y lleoliad
  • cost defnyddio'r lleoliad

Ym mhob achos, dylech gadw cofnod o'ch penderfyniadau ac adolygu eich cynlluniau dilysu a chyfrif yn rheolaidd gan y gall amgylchiadau newid. 

Gallwch gael rhagor o ganllawiau ar ddewis a rheoli eich lleoliad yn Lleoliadau a chynlluniau dilysu a chyfrif

Diweddarwyd ddiwethaf: 24 Gorffennaf 2023