Os bydd dwy blaid neu fwy a/neu ymgeiswyr unigol gyda chyfansymiau uchaf cyfartal ar unrhyw adeg pan fydd sedd yn cael ei dyrannu, rhaid dilyn y rheolau canlynol:1
os oes digon o seddi i'w dyrannu o hyd, rhaid dyrannu sedd i bob un o'r pleidiau â'r cyfansymiau cyfartal a/neu ymgeiswyr unigol.
os nad oes digon o seddi, rhaid i chi ail-wneud y cyfrifiad ar gyfer y pleidiau cyfartal a/neu ymgeiswyr ar gyfer y cam hwnnw, ond cyn gwneud hynny rhaid i chi ychwanegu un bleidlais at gyfanswm nifer y pleidleisiau sydd gan bob ymgeisydd unigol neu blaid gyfartal bryd hynny. Dylech gofnodi'r ffaith hon yn eich hysbysiad canlyniad.
Os byddai hyn dal i arwain at y ffaith bod dwy blaid neu fwy a/neu ymgeiswyr unigol yn gyfartal rhaid i chi benderfynu rhyngddynt drwy dynnu tocyn.
Chi sydd i benderfynu ar y dull o dynnu tocyn. Mae enghreifftiau o fathau o dynnu tocyn yn cynnwys:
papurau pleidleisio, pob un wedi’i farcio â phleidlais ar gyfer un o’r pleidiau neu ymgeiswyr unigol sydd â’r un nifer o bleidleisiau, wedi’u rhoi mewn cynhwysydd, fel blwch pleidleisio gwag, wedi’i gymysgu, ac yna un yn cael ei dynnu gennych chi
slipiau papur gydag enwau'r pleidiau a/neu ymgeiswyr unigol arnynt, wedi'u rhoi mewn amlenni wedi'u selio, wedi'u cymysgu ac yna’n cael eu tynnu gennych chi.
Dylech wneud cyhoeddiad eich bod yn bwriadu bwrw ymlaen â thynnu tocyn rhwng y pleidiau a/neu'r ymgeiswyr sydd â nifer cyfartal o bleidleisiau, gan egluro’n union beth sydd ar fin digwydd a’r dull i’w ddefnyddio.
Dylai ymgeiswyr, asiantiaid, cynrychiolwyr y Comisiwn ac arsylwyr achrededig fod yn bresennol yn ystod unrhyw waith paratoi a phan fydd y tocyn ei hun yn cael ei dynnu.
Er enghraifft, os byddwch yn defnyddio’r dull cyntaf a ddisgrifir uchod, dylech, yng ngolwg unrhyw ymgeiswyr ac asiantiaid, ac ym mhresenoldeb cynrychiolwyr y Comisiwn ac arsylwyr achrededig, blygu a gosod papur pleidleisio a gyfrifwyd yn flaenorol ar gyfer pob un o’r ymgeiswyr sydd â’r un nifer o bleidleisiau mewn blwch pleidleisio gwag.
Dylai cynorthwyydd godi'r blwch i uchder lle na allwch weld y papurau y tu mewn i'r blwch, ond yn dal yn gallu cyrraedd y tu mewn i ddewis un. Ar ôl cymysgu, dylech dynnu un o’r papurau pleidleisio o’r blwch, ei agor, a darllen enw’r blaid neu ymgeisydd unigol yn uchel, gyda’r bleidlais wedi’i marcio yn erbyn ei enw. Tybir wedyn bod pleidlais ychwanegol wedi'i neilltuo i'r blaid honno neu’r ymgeisydd hwnnw.
Dylid gwneud paratoadau tebyg os byddwch yn penderfynu defnyddio unrhyw ddull arall o dynnu tocyn.
Dylid ychwanegu datganiad ar y daflen ganlyniadau i'r perwyl canlynol:
Yn dilyn pleidlais gyfartal, tynnwyd tocyn ac, o ganlyniad, neilltuwyd pleidlais ychwanegol i [rhowch enw’r blaid neu ymgeisydd].