Egwyddorion proses ddilysu, cyfrif a phennu canlyniad effeithiol
Dylech sicrhau y gall eich trefniadau dilysu a chyfrif gyflawni’r egwyddorion allweddol ar gyfer proses ddilysu a chyfrif effeithiol:
Mae’r holl brosesau yn dryloyw a gyda llwybr archwilio clir a diamwys. Er enghraifft:
bod y rhai sydd â hawl i fod yn bresennol yn gallu gweld y broses yn glir
bod gwybodaeth ddigonol am y prosesau i'w dilyn yn cael ei darparu i’r rhai sy’n bresennol
bod y wybodaeth yn cael ei chyfathrebu'n gyson ac yn agored
Mae’r broses ddilysu yn arwain at ganlyniad cywir. Golyga hyn bod nifer y papurau pleidleisio ym mhob blwch naill ai'n cyfateb i nifer y papurau pleidleisio a roddwyd fel y nodwyd ar y cyfrif papur pleidleisio neu, os nad yw hynny'n digwydd:
bod ffynhonnell yr amrywiad wedi’i nodi a gellir ei egluro, a/neu
bod y blwch wedi’i ail-gyfrif ddwywaith o leiaf, tan mae’r un nifer o bapurau pleidleisio wedi’i gyfrif ar ddau achlysur yn olynol
Mae’r cyfrif yn arwain at ganlyniad cywir, pan:
mae cyfanswm y pleidleisiau a fwriwyd ar gyfer pob plaid neu ymgeisydd a phleidleisiau a wrthodwyd yn cyfateb i gyfanswm nifer y papurau pleidleisio a roddwyd ar y datganiad dilysu
mae’r broses ddilysu, cyfrif a phennu canlyniad yn amserol
cynhelir cyfrinachedd y bleidlais drwy gydol y broses
cynhelir diogelwch papurau pleidleisio a deunyddiau eraill drwy gydol y broses
mae cyfathrebu gwybodaeth yn y lleoliad(au) dilysu a chyfrif yn glir ac yn amserol
Wrth ddatblygu proses pennu’r canlyniad, bydd angen i chi ystyried pob cam allweddol sy’n cyfrannu at y canlyniad cyffredinol.
Os nad yw’r broses ddilysu a chyfrif yn cael ei chanoli, bydd ystyriaethau ychwanegol yn cynnwys dilysu’r papurau pleidleisio a chyfrif y pleidleisiau mewn ardaloedd awdurdod lleol eraill o fewn yr etholaeth, gan goladu cyfansymiau lleol a chyfathrebu’r canlyniadau hynny. Dylech sicrhau bod y prosesau hyn yn cael eu trefnu, eu rheoli a’u cynnal mewn ffordd sy’n sicrhau y gellir bodloni'r egwyddorion hyn.