Canllawiau i Swyddogion Canlyniadau sy’n gweinyddu etholiad y Senedd
Pleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng
Efallai y bydd etholwr yn gweld nad yw’n gallu mynd i’r orsaf bleidleisio ar ôl i’r dyddiad cau i drefnu dirprwy arferol fynd heibio (h.y. 5pm, 6 diwrnod gwaith cyn y bleidlais). Mewn amgylchiadau penodol, gall etholwr benodi dirprwy mewn argyfwng i bleidleisio ar ei ran:1
- yn achos anabledd (p’un a yw’n gyflwr meddygol, salwch neu fel arall) sy’n codi ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau dirprwy arferol
- os yw'n glaf iechyd meddwl sy’n cael ei gadw dan bwerau sifil (h.y. y rheiny nad ydynt yn droseddwyr sy’n cael eu cadw)
- os yw ei alwedigaeth, ei wasanaeth neu ei gyflogaeth yn golygu na all fynd i'r orsaf bleidleisio yn bersonol, a'i fod wedi dod yn ymwybodol o'r ffaith hon ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol am ddirprwy
Gall etholwyr wneud cais am ddirprwy mewn argyfwng ar ôl i’r dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol am ddirprwy fynd heibio hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio. Os nad chi yw'r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, dylech gytuno ar ddull o gyfathrebu unrhyw ychwanegiadau i'r rhestr dirprwyon sy'n deillio o ganiatáu ceisiadau am ddirprwy mewn argyfwng.
Etholaethau trawsffiniol
Pan fydd etholaeth yn cwmpasu mwy nag un awdurdod lleol, dylech hefyd gytuno â Swyddog/Swyddogion Cofrestru etholiadol mewn unrhyw awdurdod lleol arall ar ddull i gyfathrebu unrhyw ychwanegiadau i’r rhestr dirprwyon sy’n deillio o gymeradwy ceisiadau dirprwy mewn argyfwng
parhad
Pryd bynnag y bydd dirprwy mewn argyfwng wedi’i benodi, dylid gwneud pob ymdrech i gysylltu â staff priodol yr orsaf bleidleisio i roi gwybod iddynt am hyn, gan gynnwys dros y ffôn, yn enwedig gan nad oes gofyniad cyfreithiol i’r dirprwy ddarparu unrhyw ddogfennau er mwyn cael pleidleisio.
Lle bynnag y bo modd, fodd bynnag, dylai’r Swyddog Cofrestru Etholiadol roi i unrhyw bleidleisiwr y derbyniwyd ei gais am ddirprwy mewn argyfwng lythyr yn ei awdurdodi i weithredu fel dirprwy, a ddylai gynnwys manylion y person y maent yn pleidleisio ar ei ran. Dylai’r Swyddog Cofrestru Etholiadol gynghori’r dirprwy i fynd â’r llythyr awdurdodi hwnnw gydag ef pan fydd yn mynd i bleidleisio a’i roi i staff yr orsaf bleidleisio. Os darperir llythyr o'r fath yn yr orsaf bleidleisio, dylai staff yr orsaf bleidleisio ei farcio i ddangos bod y dirprwy wedi cael papurau pleidleisio a dylid cadw'r llythyr wedi'i farcio gyda'r rhestr dirprwyon.
Dylai’r Swyddog Cofrestru Etholiadol hefyd, lle bo modd, ddarparu rhestr atodol o ddirprwyon y gellir eu rhoi i’r orsaf bleidleisio berthnasol a’u hychwanegu at y rhestr a roddwyd yn wreiddiol.
Dylid rhoi sylw i’r dull y cytunwyd arno ar gyfer cyfathrebu ychwanegiadau i’r rhestr o ddirprwyon ar y diwrnod pleidleisio yn y sesiwn hyfforddi ar gyfer staff gorsafoedd pleidleisio. Am ragor o wybodaeth, gweler ein canllawiau ar staffio a hyfforddiant.
Gallech ofyn i arolygwyr gorsafoedd pleidleisio gysylltu â’r swyddfa cofrestru etholiadol ynghylch ceisiadau am ddirprwy mewn argyfwng a ganiateir ar ddiwrnod y bleidlais a dylech roi gwybod iddynt am y gweithdrefnau sydd i’w dilyn.
I gael rhagor o wybodaeth, darllenwch ein canllawiau i Swyddogion Cofrestru Etholiadol ar ddirprwyon mewn argyfwng.
- 1. Atodlen 1, paragraff 9, Gorchymyn Senedd Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2025 ↩ Back to content at footnote 1