Pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng

Gall etholwr benodi dirprwy mewn argyfwng ar gyfer etholiad hyd at 5pm ar y diwrnod pleidleisio o dan yr amgylchiadau canlynol:1

  • yn achos cyflwr meddygol, salwch neu anabledd sy'n digwydd ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol am bleidlais drwy ddirprwy
  • os yw'n glaf iechyd meddwl a gedwir o dan bwerau sifil
  • os yw ei alwedigaeth, ei wasanaeth neu ei gyflogaeth yn golygu na all fynd i'r orsaf bleidleisio ei hun a'i fod yn dod yn ymwybodol o hyn ar ôl y dyddiad cau ar gyfer ceisiadau arferol am bleidlais drwy ddirprwy
  • os yw'n bodloni unrhyw rai o'r amodau sy'n ymwneud â phleidlais drwy ddirprwy mewn argyfwng am resymau sy'n gysylltiedig â phrawf adnabod pleidleiswyr ar ôl y dyddiad cau ar gyfer gwneud cais am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr neu Ddogfen Etholwr Dienw yn etholiadau Senedd y DU neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.

Pleidleisiau drwy ddirprwy mewn argyfwng am resymau sy'n ymwneud â phrawf adnabod pleidleiswyr yn etholiadau Senedd y DU neu etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu2

Nodir y rhesymau y caiff etholwr benodi dirprwy mewn argyfwng mewn perthynas â phrawf adnabod pleidleiswyr yn ein canllawiau ar bleidleisio drwy ddirprwy mewn argyfwng am resymau sy'n ymwneud â phrawf adnabod pleidleiswyr.

Mae'n rhaid i unrhyw geisiadau o dan y ddarpariaeth hon nodi y gwneir hyn am resymau sy'n ymwneud â phrawf adnabod pleidleiswyr a chynnwys pa rai o'r amodau derbyniol sy'n gymwys i'r ymgeisydd.

Nid oes angen ardystiad ar gyfer cais a wneir am resymau sy'n ymwneud â phrawf adnabod pleidleiswyr. 

Mae rhesymau sy'n ymwneud â phrawf adnabod pleidleiswyr yn galluogi etholwr i newid y sawl a benodwyd yn ddirprwy hefyd.3

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Rhagfyr 2023