Datganiadau pleidleisio drwy'r post annilys ac wedi'u gwrthod
Papurau pleidleisio dilys yw'r papurau pleidleisio hynny y mae'r datganiad pleidleisio drwy'r post cysylltiedig wedi bodloni'r gwiriadau o ran llofnod a dyddiad geni.
Nid oes angen i nifer bach iawn o bleidleiswyr lofnodi eu datganiad pleidleisio drwy'r post. Bydd hepgoriad wedi'i roi i'r pleidleiswyr hyn am na allant lofnodi na darparu llofnod cyson oherwydd anabledd neu anallu i ddarllen neu ysgrifennu. Bydd y datganiad pleidleisio drwy'r post a anfonir at etholwyr o'r fath yn egluro hyn.
Caiff papurau pleidleisio annilys eu rhoi o’r neilltu a'u storio mewn pecynnau diogel.
Oni bai bod hepgoriad wedi’i roi, bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn gwrthod datganiad pleidleisio drwy’r post os bydd llofnod a/neu ddyddiad geni ar goll neu os nad yw llofnod a/neu ddyddiad geni yn cyfateb i’r hyn a ddarparwyd yn flaenorol gan yr etholwr ac a gedwir ar gofnod.
Atodir datganiadau 'gwrthodwyd' at y papurau pleidleisio perthnasol neu amlenni'r papurau pleidleisio. Rhoddir y gair 'gwrthodwyd' arnynt ac fe'u dangosir i unrhyw asiantiaid sy'n bresennol.
Gall asiantiaid wrthwynebu penderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) i wrthod unrhyw bleidlais bost ac, os gwnânt hynny, ychwanegir y geiriau ‘gwrthwynebwyd y penderfyniad i wrthod’ ato. Fodd bynnag, mae penderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn derfynol a bydd y bleidlais bost yn parhau i gael ei gwrthod.
Mae rhesymau eraill dros wrthod yn cynnwys pryd fydd unigolyn sy’n cyflwyno pleidlais bost i’r Swyddog Canlyniadau:
ddim yn llenwi'r ffurflen pleidlais bost yn llawn (anghyflawn)
yn cyflwyno pleidleisiau post ar ran mwy na'r nifer a ganiateir o etholwyr
yn ymgyrchydd na chaniateir iddo drin pleidleisiau post
ddim yn llenwi'r ffurflen pleidlais bost (wedi'i gadael ar ôl)
Yn yr achosion hyn bydd y bleidlais bost yn cael ei gwrthod. Efallai y gwelwch y pleidleisiau post hyn a wrthodwyd wedi'u selio gyda disgrifiad o'u cynnwys wedi'i ysgrifennu ar bob pecyn.