Dim ond rhai pobl a gaiff fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu ac archwilio a gwrthwynebu dilysrwydd ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref. Ar ôl i chi gyflwyno eich papurau enwebu a'ch ernes a'ch bod wedi eich enwebu'n ddilys, caiff y canlynol archwilio a gwrthwynebu ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref:1
chi
eich asiant etholiad (neu, os mai chi yw eich asiant eich hun, unrhyw berson a enwebir gennych)
eich cynigydd neu eilydd (os ydych wedi cyflwyno mwy nag un ffurflen enwebu, dim ond y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a ddewiswyd gennych a gaiff fod yn bresennol. Os na ddewiswyd un, y cynigydd a'r eilydd o'r ffurflen enwebu a gyflwynwyd gyntaf a gaiff wneud hynny)
Ni chaiff neb arall archwilio papurau enwebu ar unrhyw adeg.
Caiff cynrychiolwyr y Comisiwn Etholiadol ac un unigolyn arall a ddewisir gan ymgeisydd a enwebwyd yn ddilys fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu, ond ni chânt archwilio na gwrthwynebu papurau enwebu.
Ni chaiff unrhyw un arall, heblaw am y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) a'i staff, fod yn bresennol ar adeg cyflwyno papurau enwebu