Gellir gwneud gwrthwynebiadau i ddilysrwydd unrhyw ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref, yn y rhan fwyaf o sefyllfaoedd, ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu, h.y. 19 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.1
O dan un amgylchiad eithriadol, lle bo'r gwrthwynebiad ar sail y ffaith bod ymgeisydd wedi'i anghymhwyso am ei fod yn y carchar a chanddo ddedfryd o flwyddyn neu fwy, gellir gwrthwynebu 18 diwrnod gwaith cyn yr etholiad.
Bydd y cyfnod a ganiateir i wrthwynebu yn dibynnu ar bryd y cyflwynir y papurau enwebu.
Enwebiadau a wneir hyd at 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Rhaid i wrthwynebiadau i unrhyw ffurflen enwebu neu ffurflen cyfeiriad cartref a gyflwynir hyd at ac yn cynnwys 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu gael eu cyflwyno rhwng 10am a hanner dydd ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Enwebiadau a wneir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu
Rhaid gwrthwynebu unrhyw ffurflen enwebu a gyflwynir ar ôl 4pm ar y diwrnod cyn y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu rhwng 10am a 5pm ar y diwrnod olaf ar gyfer cyflwyno papurau enwebu. Rhaid i unrhyw wrthwynebiad gael ei wneud ar adeg cyflwyno'r enwebiad neu'n syth wedi hynny.
Gwrthwynebu ar sail y ffaith bod ymgeisydd yn y carchar am flwyddyn neu fwy
Yn yr achos prin lle bo'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn ystyried y gall ymgeisydd fod wedi'i anghymhwyso am ei fod yn y carchar a chanddo ddedfryd o flwyddyn neu fwy, bydd yn cyhoeddi hysbysiad i wahodd gwrthwynebiadau ar y sail honno. Gellir gwneud unrhyw wrthwynebiad o'r fath rhwng 10am a 4pm ar y diwrnod gwaith nesaf ar ôl y terfyn amser ar gyfer cyflwyno papurau enwebu.
Bydd y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) yn ystyried unrhyw wrthwynebiadau a wneir, ond caiff benderfynu bod enwebiad yn annilys am y rhesymau canlynol yn unig:
nid yw manylion yr ymgeisydd neu'r llofnodwyr yn unol â gofynion y gyfraith
ni lofnodwyd y papur fel sy'n ofynnol
mae'r ymgeisydd wedi'i anghymhwyso am ei fod yn y carchar a chanddo ddedfryd o flwyddyn neu fwy
Bydd penderfyniad y Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) fod enwebiad yn ddilys yn derfynol ac ni ellir ei herio yn ystod yr etholiad. Dim ond drwy ddeiseb etholiadol y gellir herio'r penderfyniad ar ôl etholiad.