ni ddylai fod yn gyfeiriad busnes (oni fyddwch yn rhedeg busnes o'ch cartref)
Dewis peidio â chyhoeddi eich cyfeiriad cartref
Gallwch ddewis i'ch cyfeiriad cartref beidio â chael ei gyhoeddi ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd na'r papur pleidleisio.
Yn yr achos hwn, rhaid i'r ffurflen cyfeiriad cartref gynnwys y canlynol, yn ogystal â'ch enw llawn a'ch cyfeiriad cartref:
datganiad, wedi'i lofnodi gennych chi, sy'n nodi nad ydych yn awyddus i'ch cyfeiriad cartref gael ei gyhoeddi
(ar gyfer etholiadau a gynhelir cyn 2 Mai 20024) enw'r etholaeth y mae eich cyfeiriad cartref ynddi (os yw eich cyfeiriad cartref yn y DU)
(ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 2 Mai 2024) enw etholaeth Senedd y DU neu'r ardal berthnasol y mae eich cyfeiriad cartref ynddi (os yw eich cyfeiriad cartref yn y DU)
os ydych yn byw y tu allan i'r DU, enw'r wlad lle lleolir eich cyfeiriad cartref
Nid oes angen i'ch cyfeiriad fod yn yr etholaeth lle rydych yn bwriadu sefyll.
Os byddwch yn gweithredu fel eich asiant etholiad eich hun, oni bai eich bod yn darparu cyfeiriad swyddfa, caiff eich cyfeiriad cartref fel y'i rhoddwyd ar y ffurflen cyfeiriad cartref ei gyhoeddi o hyd ar yr hysbysiad o asiantiaid etholiad. Dyma'r achos hyd yn oed pan fyddwch wedi dewis peidio â gwneud eich cyfeiriad cartref yn gyhoeddus ar y datganiad ynghylch y personau a enwebwyd a'r papur pleidleisio.
Ar gyfer etholiadau a gynhelir ar neu ar ôl 2 Mai 2024, ystyr yr ardal berthnasol yw:
Ar gyfer cyfeiriadau yn Lloegr:
os yw'r cyfeiriad mewn dosbarth lle mae cyngor dosbarth, y dosbarth hwnnw;
os yw'r cyfeiriad mewn sir lle nad oes dosbarthau sydd â chynghorau, y sir honno;
os yw'r cyfeiriad yn un o fwrdeistrefi Llundain, y fwrdeistref honno yn Llundain;
os yw'r cyfeiriad yn Ninas Llundain (gan gynnwys y Deml Fewnol a'r Deml Ganol), Dinas Llundain; ac
os yw'r cyfeiriad ar Ynysoedd Scilly, Ynysoedd Scilly
Ar gyfer cyfeiriadau cartref yng Nghymru:
os yw'r cyfeiriad mewn sir, y sir honno;
os yw'r cyfeiriad mewn bwrdeistref sirol, y fwrdeistref sirol honno
Ar gyfer cyfeiriadau cartref yn yr Alban:
yr ardal llywodraeth leol y mae'r cyfeiriad ynddi
Ar gyfer cyfeiriadau cartref yng Ngogledd Iwerddon:
y dosbarth llywodraeth leol y mae'r cyfeiriad ynddo