Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Y ffurflen enwebu

Dylai eich enw a'ch disgrifiad (os byddwch yn dewis defnyddio un) gael eu nodi ar y ffurflen enwebu cyn i chi ofyn i lofnodwyr lofnodi'r ffurflen.
  
Rhaid i'r ffurflen enwebu gael ei chwblhau yn Gymraeg neu Saesneg.

Rydym wedi darparu ffurflen enwebu y gallwch ei defnyddio:


Rhaid i'r ffurflen gynnwys: 

Eich enw llawn1

  • Nodwch eich cyfenw ac enwau eraill yn llawn.
  • Gallai defnyddio blaenlythrennau'n unig arwain at wrthod eich papur enwebu.
  • Peidiwch â defnyddio rhagddodiaid fel Mr, Mrs, Dr neu Cyngh. fel rhan o'ch enw.
  • Mae'r un peth yn wir am ôl-ddodiaid. Fodd bynnag, os oes gennych deitl, gallwch ddefnyddio hwn fel eich enw llawn. Er enghraifft, os mai Joseph Smith yw eich enw gwirioneddol, ond mai eich teitl etifeddol yw Joseph Avon, gallwch ddefnyddio'r enw Joseph Avon fel eich enw llawn.

Llofnodion 10 o etholwyr cofrestredig2

  • Fe'u gelwir hefyd yn llofnodwyr o'r etholaeth.
  • Mae'n rhaid i'ch tanysgrifwyr fod ar y gofrestr etholwyr Seneddol sy'n weithredol ar y diwrnod olaf ar gyfer cyhoeddi'r hysbysiad o etholiad (h.y. ar yr ail ddiwrnod ar ôl i'r Swyddog Canlyniadau (Gweithredol) dderbyn yr writ.) Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar dansgrifwyr.

Disgrifiad

Gallwch hefyd ddewis defnyddio disgrifiad ar eich papur enwebu.  Mae'r math o ddisgrifiad y gallwch ei ddefnyddio yn dibynnu ar b'un a ydych yn ymgeisydd annibynnol neu'n ymgeisydd plaid.  

Ymgeiswyr annibynnolDim ond “Annibynnol” yng Nghymru a/neu “Independent” y gallwch ei ddefnyddio fel eich disgrifiad.  
Ymgeiswyr pleidiau gwleidyddolGallwch ddefnyddio enw neu ddisgrifiad y blaid. Os ydych yn ymgeisydd yng Nghymru, cewch ddefnyddio naill ai'r fersiwn Gymraeg, y fersiwn Saesneg neu'r ddwy fersiwn o enw'r blaid neu'r disgrifiad, cyhyd â'u bod wedi'u cofrestru â'r Comisiwn. Rhestrir cyfieithiadau Cymraeg o enwau pleidiau ar y wefan o dan 'enw arall' a rhestrir cyfieithiadau o ddisgrifiadau i'r dde o'r disgrifiad o dan 'cyfieithiad(au)’.

Os ydych am ddefnyddio  enw neu ddisgrifiad plaid, mae'n rhaid i chi hefyd gyflwyno, ynghyd â'ch papurau enwebu eraill, dystysgrif sy'n dangos fod gennych awdurdodiad i ddefnyddio enw neu ddisgrifiad y blaid.  Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar gyfer ymgeiswyr sy'n sefyll ar ran pleidiau gwleidyddol.

Mae rheolau arbennig yn berthnasol i Lefarydd Tŷ'r Arglwyddi. Gall y Llefarydd ddefnyddio'r disgrifiad canlynol: “The Speaker seeking re-election”, neu ddatganiad cyfatebol yn y Gymraeg”.

Nid oes rhaid i chi ddefnyddio disgrifiad. Os byddwch yn dewis peidio â defnyddio disgrifiad, gallwch adael maes disgrifiad y ffurflen enwebu yn wag. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mawrth 2024