Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Cydsynio ag enwebiad

Rhaid i chi gydsynio'n ffurfiol â'ch enwebiad yn ysgrifenedig.1

Rhagnodir cynnwys y ffurflen cydsynio ag enwebiad  o dan y gyfraith a rhaid i chi ddychwelyd y ffurflen gyfan er mwyn i'ch enwebiad fod yn ddilys. Rydym wedi darparu ffurflen cydsynio i enwebu fel rhan o'r pecyn enwebu:

 

Ar y ffurflen, gofynnir i chi nodi eich bod yn gymwys ac nad ydych wedi eich anghymhwyso rhag sefyll.

Rhaid i chi hefyd roi eich dyddiad geni.

Ni chewch lofnodi'r ffurflen ganiatâd yn gynt nag un mis calendr cyn y dyddiad cau ar gyfer cyflwyno eich papurau enwebu.2

Rhaid i rywun arall dystio eich llofnod, a rhaid i'r tyst lofnodi'r ffurflen.3

Rhaid i enw llawn a chyfeiriad llawn y tyst gael ei nodi ar y ffurflen cyfeiriad cartref.

Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all dystio'r ffurflen cydsynio ag enwebiad.4

Diweddarwyd ddiwethaf: 28 Mawrth 2024