Canllawiau i Ymgeiswyr ac Asiantau yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU ym Mhrydain Fawr

Dyletswydd i sicrhau cyfrinachedd

Mae dyletswydd ar unrhyw un sy'n bresennol yn ystod y broses gyfrif i gynnal cyfrinachedd y cyfrif. Yn arbennig, ni ddylai unrhyw un sy'n bresennol wneud y canlynol:1

  • canfod neu geisio canfod y rhif neu farc adnabod unigryw arall ar gefn unrhyw bapur pleidleisio
  • cyfleu unrhyw wybodaeth a geir yn ystod y cyfrif ynghylch yr ymgeisydd y rhoddir unrhyw bleidlais iddi neu iddo ar unrhyw bapur pleidleisio penodol

Ceir rhagor o wybodaeth yn ein canllawiau ar ofynion cyfrinachedd yn y prosesau dilysu a chyfrif.
 

Diweddarwyd ddiwethaf: 4 Rhagfyr 2023