| Argraffu'r canllawiau llawn

Beth fydd yn digwydd os na chyflwynir datganiad neu ffurflen wariant?

Mae methu â chyflwyno datganiad neu ffurflen wariant erbyn y terfyn amser heb esgus awdurdodedig yn drosedd.1

Mae gan y Comisiwn Etholiadol gylch gwaith cyfreithiol i sicrhau cydymffurfiaeth â’r rheolau ar wariant a rhoddion ymgeiswyr, ond dim pwerau sancsiwn o ran diffyg cydymffurfio. Dylid cyfeirio unrhyw achosion tybiedig o dorri’r rheolau at yr heddlu.

Os yw:
 

  • ymgeisydd unigol wedi’i ethol ond nad yw’r ffurflen wariant a/neu'r datganiad wedi eu cyflwyno erbyn y terfyn amser, neu 
  • mae ymgeisydd rhestr plaid wedi’i ethol ond nad yw’r datganiad o dreuliau personol wedi’i gyflwyno erbyn y terfyn amser

cânt eu gwahardd rhag sefyll neu bleidleisio a gallant fod yn destun i fforffed neu ddirwy o £100 y diwrnod os ydynt yn gwneud hynny.2

Diweddarwyd ddiwethaf: 19 Medi 2025