Archwilio ffurflenni cyfeiriad cartref ar ôl i’r enwebiadau gau
Yn ystod y cyfnod ar gyfer archwilio ffurflenni enwebu a ffurflenni cydsynio ag enwebiad, mae gan rai pobl hawl i archwilio ffurflenni cyfeiriadau cartref.1
Y bobl hyn yw:
unrhyw berson (arall) sydd wedi'i enwebu fel ymgeisydd yn yr un etholaeth Senedd â chi
asiant etholiad neu lofnodwr unrhyw berson arall sydd wedi'i enwebu fel ymgeisydd yn yr un etholaeth Senedd â chi
lle mae ymgeisydd unigol sydd wedi'i enwebu yn yr un etholaeth Senedd yn gweithredu fel ei asiant ei hun, unrhyw berson arall a enwebir ganddo
Lle mae ffurflenni cyfeiriad cartref wedi'u cyflwyno'n electronig, byddant yn hygyrch i'r rhai sydd â chaniatâd i'w harchwilio gan y Swyddog Canlyniadau.
Ni chaniateir i unrhyw berson gymryd dyfyniad o ffurflen cyfeiriad cartref na gwneud copi ohoni. 2