Gall asiant etholiad benodi is-asiantau i weithredu ar ei ran mewn unrhyw ran o'r etholaeth rydych chi'n sefyll ynddi, cyn belled nad yw'r rhannau hynny'n gorgyffwrdd.1
Gall yr asiant benderfynu i ba rannau y mae am isrannu'r etholaeth.
Rhaid i asiant etholiad ar gyfer rhestr plaid o ymgeiswyr sy'n penodi is-asiant ar gyfer unrhyw ran o ardal etholaeth benodi'r un person yn is-asiant ar gyfer y rhan honno o'r etholaeth mewn perthynas â phob ymgeisydd.2
Gall yr is-asiant wneud popeth y mae gan yr asiant etholiad yr hawl i’w wneud o fewn yr ardal y caiff ei benodi.
Dylai’r asiant etholiad sicrhau bod unrhyw is-asiant yn ymwybodol o’r rheolau etholiadol a gwariant, gan y bydd unrhyw beth a wneir gan is-asiant yn cael ei drin fel pe bai wedi’i wneud gan yr asiant etholiad. I gael rhagor o wybodaeth gweler ein canllawiau ar wariant etholiadol ar gyfer ymgyrchwyr unigol a ymgeiswyr rhestr plaid.
Rhaid i is-asiant gael cyfeiriad y gellir danfon unrhyw hysbysiadau cyfreithiol ato ac felly rhaid iddo fod yn gyfeiriad ffisegol – ni ellir defnyddio blychau PO na blychau post tebyg.3
Rhaid i swyddfa’r is-asiant fod yn yr ardal y’i penodir i weithredu ynddi.4
Rhaid i’r asiant etholiad hysbysu’r Swyddog Canlyniadau yn ysgrifenedig o enw a chyfeiriad pob is-asiant a’r ardal lle cawsant eu penodi i weithredu erbyn 2 ddiwrnod gwaith cyn y bleidlais.5
Bydd y Swyddog Canlyniadau yn darparu ffurflen y gallwch ei defnyddio. Fel arall, gallwch ddefnyddio’r ffurflen sydd wedi’i chynnwys at y diben hwn yn ein pecyn enwebu.
Gall yr asiant etholiad ddirymu penodiad is-asiant ar unrhyw adeg a phenodi rhywun arall yn ei le. Os penodir is-asiant arall, rhaid i’r asiant etholiad ddatgan enw, cyfeiriad, a’r ardal benodi i’r Swyddog Canlyniadau yn ysgrifenedig.6