| Argraffu'r canllawiau llawn

Pwy all fod yn asiant etholiad?

Nid oes angen cymwysterau penodol i fod yn asiant etholiad a gallwch fod yn asiant i chi eich hun os dymunwch.

Fodd bynnag, ni chaniateir i’r bobl ganlynol fod yn asiantiaid etholiad:1

  • y Swyddog Canlyniadau, neu aelod o’u staff (gan gynnwys unrhyw glercod a benodir yn benodol ar gyfer yr etholiad)
  • dirprwy neu glerc y Swyddog Canlyniadau neu aelod o’i staff
  • swyddog awdurdod lleol y mae ei wasanaethau wedi cael eu rhoi at ddefnydd y Swyddog Canlyniadau 
  • partner neu glerc i unrhyw un o’r uchod

Os ydych chi’n sefyll ar ran plaid, efallai y bydd ganddynt hefyd reolau penodol ynghylch pwy y cewch chi eu penodi’n asiant etholiad.

Diweddarwyd ddiwethaf: 18 Mawrth 2026