Cyflawni'r canfasio blynyddol – Cymru
Beth mae’r gofrestr ddiwygiedig yn ei gynnwys pan gaiff ei chyhoeddi?
Y gofrestr lawn
Mae’n rhaid i chi gyhoeddi cofrestr lawn o etholwyr sy’n cyfuno’r holl fathau o etholiadau cyhyd ag y bo modd, a chynnwys y marcwyr etholfraint priodol.
Nid yw fformat y gofrestr wedi’i ragnodi ond mae’n rhaid iddo gynnwys, ac eithrio rhai etholwyr categori arbennig a manylion unrhyw unigolyn dan 16 mlwydd oed, enw, cyfeiriad a rhif etholwr pob etholwr cymwys y mae ei gais i gofrestru wedi cael penderfyniad wedi’i wneud arno erbyn y dyddiad cau perthnasol, gan gynnwys cyrhaeddwyr.1
Dyma'r cofnodion ar y gofrestr.
Cyrhaeddwyr yw rhywun nad yw’n ddigon hen i bleidleisio ar hyn o bryd ond bydd yn cyrraedd yr oedran pleidleisio gofynnol ar gyfer mathau penodol o etholiadau erbyn diwedd y cyfnod o ddeuddeg mis yn dilyn 1 Rhagfyr ar ôl y dyddiad perthnasol.
Mae’r gofrestr llywodraeth leol yn cynnwys pobl ifanc 16 a 17 mlwydd oed fel etholwyr llawn.2
Yn ogystal â hyn, mae gan bobl ifanc 15 mlwydd oed a rhai 14 mlwydd oed yr hawl i gael eu cynnwys ar y gofrestr llywodraeth leol fel cyrhaeddwyr.
Bydd angen i’r gofrestr gyfunedig nodi’n glir y dyddiad y bydd y rhai sydd wedi’u chynnwys arni yn dod yn ddigon hen i bleidleisio mewn etholiadau gwahanol i ddangos yn glir pryd y byddant yn dod yn gymwys i bleidleisio.3
Gall etholwyr gael eu hychwanegu at y gofrestr naill ai:
- ar ddiwedd y cyfnod o 28 o ddiwrnodau ar ôl cyhoeddi hysbysiad cofrestru yn dilyn gweithgarwch cofrestru yn awtomatig
- mewn achos lle bo cais wedi cael ei wneud, ar yr adeg penderfynu
Mae’n rhaid i’ch cofrestr ddiwygiedig gynnwys yr holl ychwanegiadau ac addasiadau i’r gofrestr rydych wedi penderfynu arnynt erbyn unrhyw ddyddiad cau perthnasol.4
Dylech hefyd sicrhau eich bod yn rhoi unrhyw dyniadau rydych wedi penderfynu arnynt ers cyhoeddi’r hysbysiad addasu diwethaf yn y gofrestr ddiwygiedig ar waith.
Y gofrestr olygedig
Caiff cyfeiriad ac enw etholwr eu cynnwys yn y gofrestr olygedig o etholwyr seneddol oni bai ei fod yn gofyn iddynt gael eu dileu.
Mae’n rhaid i chi gyhoeddi cofrestr olygedig ddiwygiedig ar union yr un pryd ag y rydych yn cyhoeddi’r gofrestr lawn ddiwygiedig, sydd union yr un fath â’r gofrestr lawn,5 ond yn hepgor:
- y rhai sydd wedi optio allan o ddangos eu manylion
- unrhyw etholwr sydd wedi cofrestru’n ddienw
- y rhai sy’n ymddangos ar y gofrestr llywodraeth leol yn unig, sef:
- unrhyw unigolyn dan 16 mlwydd oed
dinasyddion tramor cymwys gyda marciwr M
dinasyddion aelod-wladwriaeth yr Undeb Ewropeaidd sydd â marciwr G neu B
arglwyddi sy’n aelodau o Dŷ’r Arglwyddi gyda marciwr L
etholwyr sydd wedi cofrestru drwy’r brosesu cofrestru pleidleiswyr yn awtomatig gyda marciwr J
Yn ogystal â hyn, mae’n rhaid i chi barhau i gyhoeddi’r gofrestr olygedig ar ddiwrnod gwaith cyntaf pob mis. Mae’r ddyletswydd hon yn berthnasol drwy gydol y flwyddyn, gan gynnwys yn ystod y cyfnod canfasiad, a bydd angen i unrhyw geisiadau gan etholwyr presennol i newid eu statws optio allan gael eu cyfleu.
Fodd bynnag, os ydych yn dewis peidio â chyhoeddi hysbysiadau addasu yn y 2 mis cyn cyhoeddi’r gofrestr lawn yn dilyn y canfasiad blynyddol, ni ddylai unrhyw gofrestr olygedig a adolygwyd yn fisol gynnwys na dileu manylion unrhyw etholwyr ac eithrio etholwyr sydd yn etholwyr presennol eisoes sydd wedi’u cynnwys ar y gofrestr lawn neu unrhyw hysbysiad addasu o’r blaen.6
Mae’n ofynnol i chi gyhoeddi fersiwn gyflawn a ddiweddarwyd o’r gofrestr olygedig yn hytrach na hysbysiad sy’n nodi’r newidiadau.7 Fodd bynnag, nid oes rhaid i chi argraffu cofrestr olygedig lawn bob mis, dim ond os ydych yn llunio un ar gyfer rhywun sydd wedi gwneud cais amdani.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn ein canllawiau ar brosesu newid i ddewis etholwr o ran y gofrestr olygedig.
Disgrifio’r cofrestrau llawn a golygedig
Y term cofrestr lawn a’r term cofrestr olygedig yw’r termau technegol a ddefnyddir mewn deddfwriaeth. Mae’n rhaid i’r termau cofrestr etholiadol a chofrestr agored gael eu defnyddio i ddisgrifio’r gofrestr lawn a golygedig i aelodau’r cyhoedd er mwyn ei gwneud yn haws i ddeall beth yw diben pob cofrestr a sut y caiff ei defnyddio. Mewn enghreifftiau penodol lle’r ydym yn sôn am y gofrestr olygedig yn y canllawiau yn y cyd-destun hwn, rydym yn cyfeirio at y gofrestr olygedig fel y gofrestr agored. Fel arall rydym yn defnyddio’r term cofrestr olygedig.
Rhestr o etholwyr tramor
Mae’n rhaid i chi gadw rhestr neu restrau ar wahân o etholwyr tramor.8 Mae’n rhaid i chi gyhoeddi’r rhain a’u gwneud ar gael i gael eu harchwilio a’u cyflenwi pan fyddwch yn cyhoeddi’r gofrestr ddiwygiedig.9
Mae’n rhaid i’r rhestr gael ei llunio yn nhrefn yr wyddor yn ôl cyfenw o fewn pob etholaeth neu ran o etholaeth o fewn eich ardal.10 Mae’n rhaid iddi nodi’r cyfeiriad cymhwyso a’r cyfeiriad llawn y tu allan i’r DU ar gyfer pob etholwr tramor.
Data’r rhai dan 16 mlwydd oed
Nid oes rhaid cynnwys unrhyw wybodaeth am y rhai dan 16 mlwydd oed ar unrhyw fersiwn o’r gofrestr a gyhoeddwyd neu sydd ar gael fel arall, ac eithrio amgylchiadau prin iawn.11
- 1. Adran 9(2), Deddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983 (RPA 1983) ↩ Back to content at footnote 1
- 2. Adran 2(1A) a 4, RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 2
- 3. Adran 9(5A), RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 3
- 4. Adran 13(2), RPA 1983 ↩ Back to content at footnote 4
- 5. Rheoliad 93(1), Rheoliadau Cynrychioli'r Bobl (Lloegr a Chymru) (RPR) 2001 ↩ Back to content at footnote 5
- 6. Rheoliad 93(2), RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 6
- 7. Rheoliad 93, RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 7
- 8. Rheoliad 45(1), RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 8
- 9. Rheoliad 45(3), RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 9
- 10. Rheoliad 45(2), RPR 2001 ↩ Back to content at footnote 10
- 11. Adrannau 24 a 25, Deddf Senedd ac Etholiadau (Cymru) 2020 ↩ Back to content at footnote 11