adolygu unrhyw drefniadau sydd gennych â chyflenwr ac ystyried beth, os o gwbl, y gall fod angen ei ddiwygio; ac, os bydd angen, cysylltu â'ch tîm caffael er mwyn sicrhau bod unrhyw ymarfer caffael yn cydymffurfio â'r ddeddfwriaeth
ymgysylltu â'r argraffydd a ddewiswyd gennych er mwyn cytuno ar gontractau ysgrifenedig a chadarnhau amserlenni
penderfynu ar unrhyw systemau ymateb awtomataidd y byddwch yn eu cynnig (er enghraifft, sianeli ymateb dros y ffôn ac ar-lein) a gwneud trefniadau ar eu cyfer
amserlennu'r gwaith o brawfddarllen deunyddiau a nodi pryd y disgwylir i unrhyw ddata gael eu hanfon neu eu derbyn
adolygu eich trefniadau o ran TG, gan gynnwys sicrhau bod eich sganwyr a chaledwedd arall yn gweithio'n iawn