cadarnhau eich tybiaethau o ran adnoddau a sicrhau y bydd digon o gyllid ar gael
sicrhau bod staff cymorth o bob rhan o'r sefydliad ar gael, megis staff TG a staff rheng flaen/y ganolfan alwadau
adolygu eich strwythur staffio er mwyn nodi a yw lefelau staffio presennol yn ddigonol o hyd
datblygu amserlen hyfforddi staff, a ddylai gynnwys ystyriaethau o ran diogelu data, ar gyfer y mathau gwahanol o staff sy'n rhan o'r canfasiad
sicrhau bod unrhyw ofynion storio yn ddigonol, ar gyfer ffurflenni wedi'u hargraffu a ffurflenni wedi'u sganio, ac nad ydych yn cadw data personol am gyfnod hwy nad sydd ei angen
cadarnhau sut a phryd y byddwch yn hyrwyddo ac yn cyfleu negeseuon canfasio allweddol
briffio eich timau cyfryngau a chyfathrebu ynghylch y negeseuon a'r dyddiadau allweddol a chadarnhau sut y byddwch yn defnyddio gwefan eich awdurdod lleol, datganiadau i'r wasg a llwyfannau cyfryngau cymdeithasol i annog pobl i ymateb