Paratoi ar gyfer paru data

Paratoi ar gyfer paru data

  • paratoi eich cofrestr ar gyfer paru data, sicrhau ei bod mor gyfredol â phosibl er mwyn helpu i gynyddu nifer y parau llwyddiannus a ddychwelir fel rhan o'ch canlyniadau
  • trefnu'r dyddiad ar gyfer eich ymarfer paru data cenedlaethol a chadarnhau pryd y caiff ei gynnal a phryd y caiff y canlyniadau eu cyhoeddi 
  • cadarnhau pa unigolion neu grwpiau o ddata a gaiff eu hepgor o'r ymarfer paru data (er enghraifft, etholwyr categori arbennig)
  • paratoi ar gyfer unrhyw ymarfer paru data lleol, gan gynnwys nodi pa setiau data y byddwch yn eu defnyddio a phryd y byddwch yn cynnal yr ymarfer paru ar gyfer pob un o'r setiau hyn
  • cadarnhau pryd a sut y byddwch yn dadansoddi holl ganlyniadau'r ymarfer paru data a phenderfynu i ba lwybrau canfasio y caiff aelwydydd eu neilltuo 
  • sicrhau bod eich cynlluniau yn hyblyg, pryd a sut y byddwch yn eu hadolygu os na fydd canlyniadau'r ymarfer paru data yn cyfateb i'r hyn roeddech wedi'i ddisgwyl  
  • paratoi llwybr archwilio o unrhyw gamau a gymerwyd ac unrhyw benderfyniadau a wnaed sy'n ymwneud â newid llwybr a neilltuwyd o'r naill lwybr i'r llall yn seiliedig ar ganlyniadau paru data
     
Diweddarwyd ddiwethaf: 23 Chwefror 2021