Fel Swyddog Cofrestru Etholiadol, mae gennych ddyletswydd i gynnal cofrestr gywir a chyflawn. Mae cyfraith y DU yn caniatáu i chi ofyn i unrhyw un ddarparu gwybodaeth sy'n ofynnol at ddibenion cyflawni eich dyletswyddau cofrestru.1
Yn benodol, mae Rheoliad 23 o Reoliadau Cynrychiolaeth y Bobl 20012
yn nodi'r canlynol: A registration officer may require any person to give information required for the purposes of that officer's duties in maintaining registers of electors.
Yn unol ag egwyddorion diogelu data, mae gan y Swyddog Cofrestru Etholiadol hawl i gasglu'r wybodaeth ofynnol gan fod sail gyfreithiol dros ei phrosesu; cyflawni tasg gyhoeddus er budd y cyhoedd, fel y'i darperir ar ei gyfer mewn cyfraith etholiadol.
Os gofynnir am unrhyw wybodaeth ddewisol ychwanegol, er enghraifft cyfeiriadau e-bost a rhifau ffôn, gellir rhannu'r wybodaeth honno os oes cytundeb rhannu data ar waith rhyngoch chi a'r person neu'r sefydliad cyfrifol, a'i fod wedi hysbysu unigolion y gallai'r cyfryw wybodaeth gael ei rhannu drwy ei hysbysiad preifatrwydd.
2. Rheoliad 23 (1), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001; Rheoliad 23 (1), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 2
3. Rheoliad 23 (3), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (Cymru a Lloegr) 2001; Rheoliad 23 (3), Rheoliadau Cynrychiolaeth y Bobl (yr Alban) 2001↩ Back to content at footnote 3