| Argraffu'r canllawiau llawn

Asesu'r risg o dwyll etholiadol

Rydych mewn sefyllfa unigryw i nodi achosion a phatrymau gweithgarwch a allai fod yn arwydd o dwyll etholiadol yn eich ardal. Gallai camau gweithredu cynnar effeithiol i fynd i'r afael â thwyll posibl helpu i osgoi ymchwiliadau costus gan yr heddlu neu heriau cyfreithiol i ganlyniadau'r etholiadau. 

Dylech sicrhau bod gennych brosesau ar waith i asesu'r risg o dwyll etholiadol yn eich ardal, gan gynnwys ystyried y canlynol:

  • a fu hanes o honiadau o dwyll etholiadol mewn rhannau o ardal yr heddlu, gan gynnwys mewn wardiau penodol
  • a yw'r etholiad yn debygol o fod yn arbennig o agos ac wedi'i ymladd yn galed 
  • a oes unrhyw frwydr sy'n seiliedig ar anghytundebau personol cryf yn ogystal â dadleuon gwleidyddol 
  • a oes poblogaeth symudol iawn lle mae nifer yr etholwyr yn newid yn aml lle mae mwy o etholwyr a all fod yn fwy agored i dwyll oherwydd lefelau isel o lythrennedd a/neu eu sgiliau Saesneg

Bydd angen i'ch cynlluniau ar gyfer rheoli'r risg o dwyll etholiadol drwy'r ardal heddlu gyfan adlewyrchu unrhyw risgiau penodol a nodwyd gennych chi neu Swyddogion Canlyniadau Lleol, yn ogystal ag unrhyw gynlluniau cyffredinol ar gyfer canfod twyll.  

Er enghraifft, dylech ystyried y risgiau sy'n gysylltiedig â thai amlfeddiannaeth, neuaddau preswyl myfyrwyr neu gartrefi gofal lle mae pobl eraill yn gallu gweld post personol neu lle gall y rhai sy'n rhoi gofal helpu preswylwyr mewn cartrefi gofal i gwblhau ceisiadau pleidleisio drwy'r post neu bleidleisiau post. 

Dylai eich cynlluniau hefyd nodi prosesau ar gyfer monitro arwyddion o dwyll etholiadol posibl a phennu trothwyon ar gyfer gweithredu mewn ymateb i hynny. Er nad oes unrhyw arwyddion pendant o dwyll etholiadol posibl, dylech fod yn ymwybodol o'r canlynol ac ystyried ar y cyd â Swyddogion Canlyniadau Lleol a Swyddogion Cofrestru Etholiadol: 

  • a fu unrhyw batrymau anarferol o ran cofrestru, pleidleisiau absennol, neu geisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr mewn etholiadau eraill yn ardal yr heddlu
  • a fu unrhyw batrymau anarferol o bapurau pleidleisio a wrthodwyd, gan gynnwys pecynnau pleidleisio drwy'r post a wrthodwyd, mewn etholiadau eraill yn yr ardal awdurdod cyfun
  • a fu unrhyw batrymau anarferol o ran ceisiadau i gofrestru, ceisiadau am bleidleisiau absennol neu geisiadau am Dystysgrif Awdurdod Pleidleisiwr yn y cyfnod cyn yr etholiad
Diweddarwyd ddiwethaf: 10 Tachwedd 2023