Mae'n ofynnol yn ôl y gyfraith i ymgeiswyr ddilyn rhai rheolau penodol mewn perthynas â'r canlynol:
faint y gallant ei wario
gan bwy y gallant dderbyn rhoddion
beth mae'n rhaid iddynt gyflwyno adroddiad arno ar ôl yr etholiad
Dylech sicrhau bod ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad yn gallu cael gafael ar wybodaeth am y terfyn gwariant1
, ffurflenni gwariant a datganiadau er mwyn eu galluogi i fodloni gofynion adrodd.
Rydym wedi paratoi canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid ar wariant a rhoddion mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu a geir yn Rhan 3 o'n canllawiau i ymgeiswyr ac asiantiaid, y gallwch eu defnyddio i roi gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid am derfynau gwariant a rheolaethau ar roddion, yn ogystal â ffurflenni a datganiadau er mwyn eu galluogi i fodloni eu gofynion adrodd.
Mae ein templed o gyflwyniad ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid hefyd yn cynnwys canllawiau ar wariant a rhoddion. Gallwch ddefnyddio'r adnoddau hyn i roi gwybodaeth i ymgeiswyr ac asiantiaid am ffurflenni gwariant a datganiadau er mwyn eu galluogi i fodloni eu gofynion adrodd.