Guidance for the GLRO administering the GLA elections

Rhoi gwybodaeth am brosesau yr etholiad

Dylech sicrhau bod canllawiau ysgrifenedig ar y broses etholiadol ar gael i'r holl ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad, gan gynnwys trefniadau lleol, a bod y wybodaeth yn cael ei darparu mewn da bryd er mwyn galluogi ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad i weithredu arni. Fel y nodir yn ein canllawiau ar gyfathrebu ag Ymgeiswyr ac Asiantiaid dylech gydweithio â Swyddogion Canlyniadau Lleol yn eich ardal heddlu er mwyn sicrhau bod gwybodaeth ar gael yn hawdd i ymgeiswyr yn yr etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu am unrhyw brosesau sydd i'w cynnal yn lleol, fel agor pleidleisiau post a'r cyfrif.

Diben darparu canllawiau ysgrifenedig yw sicrhau bod pleidiau, ymgeiswyr ac asiantiaid yn gallu cael gafael ar ganllawiau awdurdodol a chynhwysfawr er gwybodaeth unrhyw bryd er mwyn sicrhau bod ganddynt yr holl wybodaeth sydd ei hangen arnynt i gymryd rhan mewn etholiad. 

Lle y bo'n briodol, gallwch roi dolen i ymgeiswyr ac asiantiaid lle gallant ddod o hyd i'r wybodaeth berthnasol ar-lein, a mater i chi fydd sicrhau y gall ymgeiswyr gael gafael ar y wybodaeth sydd ei hangen arnynt yn hawdd a gwneud beth bynnag sydd ei angen i hwyluso hyn.  

Dylech hefyd gyfeirio ymgeiswyr ac asiantiaid at ganllawiau'r Comisiwn i ymgeiswyr ac asiantiaid mewn etholiad ar gyfer Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu, sydd ar gael ar ein gwefan.

Hygyrchedd

Dylech gofio bod gan ymgeiswyr ac asiantiaid o bosibl anghenion mynediad penodol, ac felly efallai y bydd angen unrhyw wybodaeth neu ganllawiau arnynt a luniwyd ar ffurf print bras neu fformat arall, megis Braille neu sain, neu mewn iaith heblaw Cymraeg yng Nghymru, neu Saesneg.

Dylech hefyd ystyried y gall fod gan ymgeiswyr ac asiantiaid ofynion arbennig i'w helpu i fynychu sesiynau briffio a dylech sicrhau bod sesiynau briffio ar gael ar-lein neu drwy ddull fideogynadledda lle bynnag y bo'n bosibl. 

Gallwch recordio eich sesiwn friffio a'i phostio ar-lein er mwyn i ymgeiswyr ac asiantiaid ei gwylio ar alw ar adeg sy'n gyfleus iddynt, gyda manylion ynghylch sut y gallant ofyn unrhyw gwestiynau dilynol.

Fodd bynnag, bydd angen i chi ystyried sut y gallwch gynnig sesiynau briffio i'r rhai na allant gael gafael ar wybodaeth o'r fath ar-lein, neu'r rhai nad ydynt yn gyfforddus yn gwneud hynny. Efallai y bydd angen i chi ddarparu rhai sesiynau briffio yn bersonol. Dylech hysbysu ymgeiswyr ac asiantiaid am eich dull gweithredu arfaethedig yn gynnar er mwyn eich helpu i gynllunio a pharatoi. Dylid gofyn i'r rhai sydd â diddordeb mewn cymryd rhan mewn sesiwn friffio gofrestru ymlaen llaw er mwyn i chi allu olrhain niferoedd yn ogystal â gofynion hygyrchedd, a fydd yn eich galluogi i deilwra eich dull gweithredu a rhoi'r trefniadau priodol ar waith.

Diweddarwyd ddiwethaf: 13 Mai 2025