Guidance for the GLRO administering the GLA elections
Sesiynau briffio i ymgeiswyr ac asiantiaid
Dylech sicrhau y cynigir sesiwn friffio ar y broses etholiadol, gan gynnwys trefniadau lleol, i ymgeiswyr ac asiantiaid etholiad.
Dylech hefyd gynnal sesiwn friffio ychwanegol ar ôl cadarnhau'r rhestr o ymgeiswyr sy'n sefyll ar gyfer etholiad ar ôl i'r enwebiadau gau.
Dylai eich sesiwn friffio ymdrin â'r canlynol o leiaf:
Dylech hefyd hysbysu ymgeiswyr ac asiantiaid bod gofynion o ran Adnabod Pleidleiswyr ar waith ar gyfer yr etholiad hwn. Mae hyn yn arbennig o bwysig os caiff etholiadau eraill eu cynnal yn eich ardal heddlu lle nad oes angen dull adnabod ffotograffig. Er enghraifft yng Nghymru os bydd is-etholiadau lleol yn cael eu cyfuno ag etholiad Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu.
Bydd angen hefyd i chi weithio gydag unrhyw Swyddogion Canlyniadau Lleol i benderfynu sut y caiff gwybodaeth am drefniadau lleol ei darparu. Bydd hyn yn cynnwys gwybodaeth am y ffordd y byddant yn cynnal prosesau allweddol yr etholiad a'r dyddiadau, yr amseroedd a'r lleoliadau, megis:
- dosbarthu ag agor pleidleisiau post
- y diwrnod pleidleisio gan gynnwys cyfarpar a ddarperir i orsafoedd pleidleisio sy'n ei gwneud hi'n haws i bobl anabl bleidleisio
- y broses ddilysu a chyfrif
Dylai'r sesiynau briffio ddarparu ar gyfer y ffaith nad yw rhai pobl o bosibl yn gwybod llawer, os o gwbl, am reolau na gweithdrefnau etholiad neu nad ydynt wedi ymwneud ag etholiadau ers peth amser.
Dylai pob sesiwn friffio amlygu pwysigrwydd dilyn rheolau'r etholiad. Dylech bwysleisio pa mor bwysig ydyw bod ymgeiswyr yn deall y rheolau cymhwyso ac anghymhwyso sy'n gymwys, gan fod rhai yn wahanol i'r rhai sy'n gymwys fel arfer mewn etholiadau eraill (yn enwedig, bod yn anghymwys os ydych wedi cael eich euogfarnu o drosedd garcharadwy) a gallai hyn achosi dryswch hyd yn oed ymhlith y rhai sydd wedi sefyll etholiad o'r blaen. Dylech hefyd roi gwybodaeth am y safonau ymddygiad rydych yn eu disgwyl gan gefnogwyr yn ardal y man pleidleisio ar y diwrnod pleidleisio.
Gall pob ymgeisydd mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd Heddlu a Throseddu ddarparu anerchiad etholiadol i'r Swyddog Canlyniadau Ardal Heddlu i'w gyhoeddi ar wefan a ddarperir gan yr Ysgrifennydd Gwladol. Rhaid i anerchiad etholiadol ymgeisydd gael ei baratoi gan ei asiant etholiad a'i gyflwyno i chi ar ffurf a ragnodir o dan y gyfraith erbyn dyddiad cau a bennir gennych.1 Fel rhan o'ch gwaith cynllunio, bydd angen i chi ystyried sut y bwriadwch reoli'r broses hon yn ymarferol. Caiff canllawiau pellach ar y wefan eu darparu gan yr Adran Ffyniant Bro, Tai a Chymunedau
Dylai eich sesiwn neu sesiynau briffio hefyd amlygu unrhyw drefniadau diogelwch sydd wedi cael eu rhoi ar waith mewn ymgynghoriad â'r heddlu. Efallai y byddwch am wahodd eich pwynt cyswllt unigol yn yr heddlu i ddod i unrhyw sesiynau briffio, neu ddarparu deunydd ysgrifenedig y gallwch ei roi i ymgeiswyr ac asiantiaid.
Rydym hefyd wedi llunio templed o gyflwyniad ar gyfer ymgeiswyr ac asiantiaid mewn etholiad ar gyfer Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu y gallwch ei ddefnyddio ac sydd ar gael i'w lawrlwytho o'n gwefan yn Gymraeg ac yn Saesneg.
- 1. Erthygl 52 ac Atodlen 8 Gorchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 ↩ Back to content at footnote 1