Gall ymgeisydd dynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl os bydd yn gwneud hynny cyn y terfyn amser.1
Nid yw hysbysiad tynnu enw'n ôl wedi'i ragnodi ond rydym yn darparu templed o hysbysiad tynnu enw'n ôl i ymgeiswyr ei ddefnyddio.
Rhaid i hysbysiad tynnu enw'n ôl:
gael i lofnodi gan yr ymgeisydd
cael ei ardystio gan un tyst
cael ei gyflwyno'n bersonol i'r man cyflwyno papurau enwebu
cael ei gyflwyno erbyn 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais
Nid oes unrhyw gyfyngiadau o ran pwy all gyflwyno'r hysbysiad tynnu enw yn ôl.
Os nad yw'r ymgeisydd yn y DU, bydd hysbysiad o dynnu enw'n ôl yn weithredol os bydd:2
wedi'i lofnodi gan y cynigydd
yn cael ei gyflwyno ar y cyd â datganiad ysgrifenedig yn nodi bod yr ymgeisydd dramor (sydd hefyd wedi'i lofnodi gan y cynigydd)
yn cael ei gyflwyno i chi erbyn 4pm ar y pedwerydd diwrnod gwaith ar bymtheg cyn y bleidlais (h.y. erbyn y terfyn amser ar gyfer tynnu enw yn ôl).
Rhaid i fanylion unrhyw ymgeiswyr sy'n parhau i fod wedi'u henwebu erbyn diwedd y cyfnod ar gyfer tynnu enwau'n ôl gael eu hargraffu ar y papurau pleidleisio. Os nad yw ymgeisydd wedi tynnu ei enw yn ôl erbyn y dyddiad cau, bydd yn rhaid i'w fanylion gael eu cynnwys ar y papur pleidleisio.3
Rhaid i chi ddychwelyd ernes unrhyw ymgeisydd sydd wedi tynnu ei ymgeisyddiaeth yn ôl. Rhaid i'r ernes gael ei dychwelyd at y person a'i cyflwynodd a chyn gynted ag y bo'n ymarferol ar ôl i'r datganiad ynghylch y personau a enwebwyd gael ei gyhoeddi.4
I gael rhagor o wybodaeth am ddychwelyd ernesau i ymgeiswyr a enwebwyd yn ddilys ar ôl etholiad, gweler ein canllawiau i Swyddogion Canlyniadau Ardal Heddlu ar weithgarwch ar ôl yr etholiad.
1. Paragraffau 1 a 15, Atodlen 3 i Orchymyn Etholiadau Comisiynwyr yr Heddlu a Throseddu 2012 (PCCEO 2012)↩ Back to content at footnote 1