| Argraffu'r canllawiau llawn

Darparu cyfarpar yn yr orsaf bleidleisio sy’n galluogi neu'n gwneud pleidleisio’n haws i bleidleiswyr anabl

Mae'r adran hon yn amlinellu'r wybodaeth i bleidleiswyr y mae'n rhaid ei darparu yn yr orsaf bleidleisio yn ogystal â rhestr o gyfarpar yr ydym yn cynghori y dylid ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio i helpu i leihau neu ddileu rhwystrau hysbys a sicrhau bod pleidleisio mor hygyrch â phosibl i bleidleiswyr anabl.    

Mae hefyd yn tynnu sylw at gyfarpar ychwanegol pellach y gallai fod yn briodol i chi ei ddarparu mewn rhai gorsafoedd pleidleisio os ydych wedi nodi angen fel rhan o'ch dyletswydd ragweld, neu os cewch eich hysbysu o anghenion penodol pleidleiswyr anabl trwy gais am addasiad rhesymol.

Gwybodaeth i bleidleiswyr

Er mwyn helpu pleidleiswyr i ddeall y broses bleidleisio a sut i farcio eu papur pleidleisio, rhaid i chi ddarparu:

  • hysbysiad y tu mewn a'r tu allan i'r orsaf bleidleisio yn rhoi canllawiau ar sut i bleidleisio yn yr etholiad1 2
  • hysbysiad ym mhob bwth pleidleisio yn darparu gwybodaeth am sut i farcio papur pleidleisio yn yr etholiad2
  • arddangos o leiaf un copi sampl mawr o'r papur pleidleisio y tu mewn i'r orsaf bleidleisio3 , yn ddelfrydol mewn lleoliad sydd wedi'i oleuo'n dda lle gall pleidleiswyr ei weld yn hawdd cyn cael eu papur pleidleisio. Bydd papurau pleidleisio sampl print bras a arddangosir yn glir yn yr orsaf yn cynorthwyo pleidleiswyr sydd â golwg rhannol a hefyd pleidleiswyr a hoffai gael rhywfaint o amser i edrych ar y papur pleidleisio cyn mynd i mewn i'r bwth
  • copi llaw mwy o'r papur pleidleisio. Gellir rhoi hwn i bleidleiswyr sydd â golwg rhannol neu ar gais i unrhyw bleidleisiwr arall a fyddai'n ei chael hi'n ddefnyddiol ei gymryd i'r bwth pleidleisio i gyfeirio ato wrth farcio eu papur pleidleisio.  

Rhaid i chi ystyried a yw'n briodol gwneud hysbysiadau'n fwy hygyrch i ystod ehangach o bleidleiswyr4  drwy eu darparu mewn ieithoedd a fformatau amgen, e.e. mewn Braille, ieithoedd heblaw Cymraeg neu Saesneg, mewn fformatau darluniadol5  neu ar ffurf glywadwy6 . Mae Gwasanaeth Cyfathrebu'r Llywodraeth yn darparu canllawiau ar eu gwefan ynghylch gwneud cyfathrebiadau'n hygyrch. 

Yn ogystal â bodloni'r gofynion statudol gofynnol a nodir uchod, dylech hefyd sicrhau bod unrhyw gopïau sampl ychwanegol a chopïau mwy o adnoddau'r papurau pleidleisio ar gael yn hawdd ac yn weladwy yn yr orsaf bleidleisio - bydd eu rhoi yn y golwg ac wedi'u marcio'n glir yn helpu i sicrhau y gall pleidleiswyr eu gweld yn hawdd. 


Cyfarpar i gynorthwyo pleidleiswyr i gymryd rhan 

Mae gennych ddyletswydd i ddarparu cyfarpar rhesymol i bob gorsaf bleidleisio er mwyn galluogi, neu ei gwneud hi'n haws i, bersonau perthnasol bleidleisio'n annibynnol ac yn gyfrinachol7 . Mae gennym ddyletswydd i roi canllawiau mewn perthynas â'ch dyletswydd i ddarparu'r cyfarpar hwn8 . Rhaid i chi ystyried y canllawiau hyn wrth gyflawni eich dyletswydd i ddarparu cyfarpar priodol ond yn y pen draw, chi fel Swyddog Canlyniadau sy'n penderfynu ar y trefniadau a'r cyfarpar sy'n rhesymol i alluogi neu ei gwneud hi'n haws i bleidleiswyr anabl ar draws eich ardal fwrw eu pleidlais yn annibynnol ac yn gyfrinachol. 
 
Nod y canllawiau hyn yw eich cynorthwyo drwy dynnu sylw at y mathau o gyfarpar a allai helpu i gael gwared ar rwystrau i bleidleisio i bleidleiswyr anabl. Gall ffactorau sy'n unigryw i'ch ardal leol - sy'n ymwneud â maint a graddfa gorsafoedd pleidleisio, neu ofynion penodol eich etholwyr lleol rydych wedi eu nodi fel rhan o'ch dyletswydd ragweld, lunio'r dull y byddwch yn penderfynu ei gymryd. 

Mae yna amrywiol ffyrdd y gallwch chi adeiladu'ch gwybodaeth a'ch dealltwriaeth o gyfarpar a allai fod yn briodol i'w ddarparu a all cael yr effaith fwyaf mewn gorsafoedd pleidleisio yn eich ardal leol i gynorthwyo pleidleiswyr ag anableddau gwahanol yn rhagweithiol. Dylech ystyried:

  • ymgysylltu'n rhagweithiol â grwpiau cymunedol yn eich ardal
  • defnyddio data o fewn eich awdurdod lleol a'r Swyddfa Cofrestru Etholiadol lle mae pleidleiswyr anabl eisoes wedi'u nodi, neu wedi gwneud ceisiadau blaenorol am addasiadau rhesymol sy'n eich galluogi i gysylltu â nhw'n rhagweithiol ynglŷn â'u profiad pleidleisio
  • gweithio gydag ymddiriedolaethau GIG lleol a sefydliadau trydydd sector i gael cyngor arferion da ar gynorthwyo pleidleiswyr yn yr orsaf bleidleisio a defnyddio eu rhwydweithiau i gasglu gwybodaeth am brofiadau byw a hyrwyddo gwybodaeth am y cymorth a'r cyfarpar sydd ar gael mewn gorsafoedd pleidleisio.
  • adborth rydych wedi'i dderbyn gan bleidleiswyr neu staff gorsafoedd pleidleisio yn dilyn etholiad
  • cymryd cyngor ar iechyd a diogelwch gan arbenigwyr yn eich awdurdod lleol ynghylch defnyddio cyfarpar fel rampiau a gorchuddion llawr dros dro.

Dylech ddefnyddio'r wybodaeth hon i adolygu'r cyfarpar rydych chi'n ei ddarparu mewn gorsafoedd pleidleisio fel rhan o'ch cynllunio ar gyfer etholiadau ac yn eich adolygiadau ôl-etholiad.

Dylid ystyried penderfyniadau ynghylch cyfarpar priodol yn ofalus, yn dryloyw ac yn rheolaidd. Gellir dod o hyd i ragor o wybodaeth am hyn yn  Gwneud penderfyniadau ynghylch darparu cymorth a chyfarpar ychwanegol i bleidleiswyr 

Dylech geisio cyngor gan yr adran lywodraeth berthnasol (yn dibynnu ar y math o etholiad) ynghylch a oes unrhyw drefniadau ariannu ar gael. 

Diweddarwyd ddiwethaf: 3 Rhagfyr 2025