Pa wybodaeth sydd ei hangen pan gaiff enw gwahanol ei ddarparu ar gais neu mewn tystiolaeth ddogfennol?
Os bydd datganiad ymgeisydd yn nodi bod ei enw wedi newid ers iddo fod wedi'i gofrestru'n flaenorol neu ers roedd yn arfer byw yn y cyfeiriad, gallwch ofyn iddo ddarparu:
tystiolaeth briodol sy'n cadarnhau'r newid i'r enw1
os bydd ymgeisydd wedi darparu dogfen fel tystiolaeth ei fod yn bodloni'r amod cofrestriad blaenorol neu'r amod preswylfa flaenorol2
a bod yr enw ar y dystiolaeth yn wahanol i'r enw a ddarparwyd ar ei ddatganiad, esboniad o'r newid i'r enw3
tystiolaeth briodol sy'n cadarnhau bod yr enw wedi newid4
Os oedd ymgeisydd yn rhy ifanc i fod wedi'i gofrestru cyn iddo adael y DU a'i fod wedi darparu dogfen fel tystiolaeth5
a bod enw ei riant neu ei warcheidwad ar y ddogfen yn wahanol i'r un a nodir yn y cais neu'r datganiad, gallech ofyn i'r ymgeisydd ddarparu naill ai: