Mae rhai unigolion a sefydliadau nad ydynt yn bleidiau gwleidyddol cofrestredig yn ymgyrchu o blaid neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu ymgeiswyr neu ar faterion yn ymwneud ag etholiadau, heb sefyll fel ymgeiswyr eu hunain.
Yn y gyfraith etholiadol, mae’r unigolion a’r sefydliadau hyn yn cael eu diffinio fel trydydd partïon. Mae’r Comisiwn yn eu galw’n ymgyrchwyr di-blaid.
Mae yna gyfreithiau y mae’n rhaid i ymgyrchwyr di-blaid eu dilyn ar wariant ymgyrchu, rhoddion, ac adroddiadau.
Mae llawer o unigolion a sefydliadau yn ymgyrchu yn y cyfnod cyn etholiadau ac yn bodloni’r diffiniad o ymgyrchydd di-blaid ond nid ydyn nhw’n dod o dan y drefn reoleiddio.
Y ddau fath o ymgyrch gan rai nad ydynt yn bleidiau
Mae dau fath o ymgyrch gan rai nad ydynt yn bleidiau, sef:
Ymgyrchoedd lleol
Ymgyrchoedd cyffredinol
Ymgyrchoedd o blaid neu yn erbyn:
un neu fwy o ymgeiswyr
mewn etholaeth, ward neu ardal etholiadol arall benodol 1
Ymgyrchoedd o blaid neu yn erbyn:
un neu fwy o bleidiau gwleidyddol
pleidiau neu ymgeiswyr sy'n cefnogi neu ddim yn cefnogi polisïau penodol
Yn etholiadau cyffredinol Senedd y DU, caiff ymgyrchoedd lleol eu cwmpasu gan Ddeddf Cynrychiolaeth y Bobl 1983. O dan y gyfraith, mae terfyn gwariant yn berthnasol i ymgyrchoedd lleol. Y terfyn hwn yw £700 ar ymgyrchu o blaid neu yn erbyn un ymgeisydd neu fwy mewn etholaeth3
. Mae terfynau gwariant gwahanol ar ymgyrchoedd lleol ym mhob math o etholiad.
Nid yw'r Comisiwn Etholiadol yn rheoleiddio ymgyrchu lleol ac nid yw'r canllawiau hyn yn ymdrin â'r rheoliadau ynglŷn ag ymgyrchu lleol yn fanwl.
Dylai cwynion am dorri'r cyfreithiau sy'n gymwys i ymgyrchoedd lleol gael eu gwneud i'r heddlu.
Ymgyrchoedd cyffredinol
Caiff y cyfreithiau ar gyfer ymgyrchoedd cyffredinol eu nodi o dan Ddeddf Pleidiau Gwleidyddol, Etholiadau a Refferenda 2000 (PPERA). Caiff yr ymgyrchoedd hyn eu rheoleiddio gan y Comisiwn Etholiadol.
Os ydych yn ymgyrchu o blaid neu yn erbyn pleidiau gwleidyddol neu gategorïau o ymgeiswyr, efallai y bydd angen i chi gofrestru â ni a dilyn y cyfreithiau ar wariant ar ymgyrchu, rhoddion ac adrodd.