Yn unol â'r gyfraith, dim ond rhai unigolion all awdurdodi a gwneud taliadau ar ran ymgyrchwyr cofrestredig nad ydynt yn bleidiau.
Mynd i wariant
Ar gyfer pob ymgyrchydd cofrestredig nad yw'n blaid, dim ond y ‘person cyfrifol’ sydd wedi'i gofrestru â ni, a phobl a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person cyfrifol, a all fynd i gostau sy'n ymwneud â gweithgareddau ymgyrchu a reoleiddir.1
Ystyr ‘mynd i wariant’ neu ‘fynd i gostau’ yw gwneud ymrwymiad cyfreithiol i wario arian, fel cadarnhau archeb.
Gwneud taliadau am wariant
Mae cyfyngiadau ychwanegol ar wneud taliadau i ymgyrchwyr nad ydynt yn bleidiau sydd naill ai:
heb ddatgan y byddant yn gwario llai na'r trothwyon adrodd yn eu hysbysiad
wedi datgan y byddant yn gwario llai na'r trothwyon adrodd ond sydd wedi gwario mwy na'r trothwyon mewn gwirionedd. 2
Dim ond y person cyfrifol sydd wedi'i gofrestru â ni, a phobl a awdurdodwyd yn ysgrifenedig gan y person cyfrifol, a all fynd i gostau a gwneud taliadau am weithgareddau ymgyrchu a reoleiddir. 3
Er enghraifft, gall rhywun gael ei awdurdodi gan y person cyfrifol i wario arian ar eitemau penodol, neu hyd at swm penodol.
Rhaid i bob taliad dros £200 gael ei ategu gan anfoneb neu dderbynneb. 4
Pan fydd person a awdurdodwyd yn gwneud taliad dros £200, rhaid iddo ddarparu:
yr anfoneb neu'r dderbynneb ategol
hysbysiad ei fod wedi gwneud y taliad
i'r person cyfrifol cyn gynted â phosibl ar ôl gwneud y taliad. 5
Mae'r cyfreithiau hyn ar waith er mwyn sicrhau y gellir rheoli gwariant a'i gofnodi ac adrodd arno yn gywir.
Dylech sicrhau bod eich staff, eich gwirfoddolwyr a'ch ymgyrchwyr yn gwybod pwy all ac na all fynd i gostau.